Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
Advertising
WE HAVE THE FINEST COLLECTION OF EXCLUSIVE NEW MILLINERY NOW ON VIEW, SUITABLE FOR THE I SPRING i AND I SUMMER j I SEASON. I '??? I I  I OS YDYCH AM COSTUME ELENI. NEWYDI) COFIWCH ALW YMA, CYN PRYNU YN UNMAN ARALL. DIGON 0 DDEWIS MEWN BLOUSES A COSTUMES AM Y PRISIAU VlWYAF RHESYMOL. I CHILDREN'S MILLINERY A SPECIALITE. I
0 GADAIR MODRYB SIAN. !
0 GADAIR MODRYB SIAN. CHWANAG 0 LLOYD GEORGE. Chwerthin i ydw i wedi bod yn i wneud y dyddiau dweutha yma, ac mi ddeyda i wrthach chi pam. Chwerthin rydw i wedi neyd am ben Mr George yn colli ei edmpar yn y Senadd y noson o'r blaen. Bydda i yn arfar meddwl bob amser fod hyny yn dangos bychander yndddo. Fel y gwyddoch, bu Mistar Lloyd George y noson o'r blaen yn trio amddiffyn ei hunan hefo mater y "Nation." Roedd o yn trio dangos i'r byd fod gennym ni ryddid barn yn y wlad yma, ond pan gath yr ochor arall ddweud ei hochor, diar mi, roedd Mistar George yn edrach yn fychan iawn, a mwy na hyna roedd o yn gwubod hyny, a dyna fo yn dechra. colli ei dempar. Druan o Mistar George. Uhaid i mi beidio chwerthin gormod neu efallai y bydd yn rhaid i mi beidio sgwenu i'r "Dines- ydd. We], pi in roeddwn i wedi stopio chwerthin am y peth yna, pan ivelais i araith Mistar George yn Llundain dydd Gwenar. Ar ol ei darllan, wel chwerthin yn fwy lawar neis i. Mi wneis i chwerth- in cymaint, fel y gwylltiodd Sionyn wrtha i yn ofnadwy. Rhen ffwl iti, medda fo, yn chwerthin cymaint am ben dy well. Wrth gwrs, chwerthin chwanag nes i wrth glywad Sionyn. Pam roeddwn i yn chwerthin. Yn y lie cyntaf am fod yna gymaint o'r Fi Fawr yn yr araith. Wel- weh chi, medilai Mistar George, beth yr ydw I wedi nend. Pan gymrais I afael yn y Munitions, mi newidiais I bob peth. Welwch chi, meddai Mistar George, pan eis I yn ben ar bopeth fel y newidiodd popeth. Ie' Mistar George, yr ydych chwi wedi gneud llawar iawn o bethan, ond nid ydw i yn hollol gydwelad fod popeth yr I ydach chwi wedi i neud yn hollol er lies y wlad! Yn y lie cyntaf, yn eich araith yr ydych I yn trio rhoddi y bai ar y Weinyddiaeth o'r blaen am brinder bwyd, am fod yna lai o dir o dan driniaeth yn y wlad yma. A oeddych chwi, Mistar George, yn aelod o'r Weinyddiaeth yna? Credaf eich bod. ae felly y mae eich cvfrifoldeb yr im faint a chyfrifoldeb yr aelodau eraili o'i- hen Gang. Credaf i mi ddrrllan eich araith yn Conwy ar ol i chwi gaol eich cyhuddo gan A. G. G. yn y "Daily News" o drio disodli eich penaeth, ac un o'r pethau a ddwedsooh y pryd hyny oedd nad oeddych yn aelod distaw o'r Weinyddiaeth. Y peth a ddymunaf ofyn i chwi ydi hyn, a ddarfu i chwi pan oeddych yn Minister of Munitions, neu yn War Secretary, godi eich lief yn erbyn cymeryd cymaint o ddynion oddiar y tir? Os na ddarfu i chwi wneud, lol i gyd ydyw eich cyhuddiad cuddiedig yn erbyn yr "Hen Gang"! Broliwch yn fawr fod yna tua dwy til- iwn o aceri wedi eu trin er tyfu bwyd i'r wlad y flwyddyn yma. Da iawn gennyf glywad hynny, canys yr ydych chwi yn dechra gwelad fod yna brindcr bwyd yn y wlad. Byddaf ar rai adegau yn gorfod gadael Sit- Fon yma, a mynd i rai o dref- ydd niawr Lloegr, a byddaf yn myned i fysg y tlawd, a phe buasech chwi yn anghofio am ddiwrnod neu ddau eich bod yn Brit Weinidog, ac yn rhoddi dillad gweithiwr urn danoch a dytod gyda mi i rai o slums, Liverpool neu Manchester, buasech chwi- thau yn canfod fel y canfyddais innau fod yna brinder bwyd yn barod yn y wlad ymfl. Ond nid wyf am fynd y ffordd yna heddyw, son roeddwn i am y nifer o aceri sydd wedi eu trin er tyfu bwyd i'r bobol. Mi gefais i lythyr ddoe oddiwrth bert-hynas i mi yn dweud ei fod wedt redig tua 10 acerodir glas i dyfu tatws ynddynt, ond ei fod yn methu yn lan a chael hadyd tatws i reddi i lawr yn y tir. Fedrweh chwi ddweud wrtlium ni oes yna lawer 0 dir i'w gael fel yna. Ai dyna y ff ot-dd mae eich War Agricultural Committees yn gwneud eu gwaith r 40,000 o filwyr, meddwch, wedi eu rhoddi yn fenthyg i'r ffermwyr i lafurio y tir. Da iawn yn wir. Ond, Mistar George, fedrwch chwi ddweud wrthym. pam eu benthyg i'r ffermwyr r Ai ar edig yn unig sydd yn eisiau i dyfu crop- iau? Sut yr aeth y 40,000 yna i'r fyddin. Ai trwy fod yn y fyddin ynte tra yn gweithio ar y tir y gall y miloedd yna fod o fwyaf o wasanaeth i'r wlad? Bu- aswn yn leicio gofyn hcfyd a oedd gwrag- edd a dibyniaid y 40,000 yna yn cael eu "war allowances" tra yr oedd y dynion yn gweithio ar y tir ? Os oeddynt, a chredaf eu bod, oni fuasai hi yn 1 lawer llai o gost i'r wlad pe buasai y dynion yna heb fod yn y fyddin o gwbl? Onid eich dylanwad chwi a'ch gweision bach a'u gor- fododd hwy i fynd i'r fyddin? Peidiwch a brolio cymaint, Mistar George, nid ydym i gyd yn ffyliaid cofiwch. Wyddoch chi beth, Mistar George, rydach chi yn ddyn clyfar, ond roeddacli chi dipyn yn rhy glyfar yu eich araith. Welwch chi, fel rydw i wedi stopio pethau diangenrhaid i ddyfod yma o wledvdcl tramor, meddech, er mwyn j ni gael y llongau i gario pethau eraill. Dim afalau, dim bananas. &-c. Rywsut mae hyny wedi effeithio yn ddrwg arna i a'r plant yma. (Hunan eto, onite). Byddwn i yn arfar rhoddi afal neu banana i'r plant yma hefo'u breewast, ond rwan maent yn rhy ddrud, a'r can- lyniad ydi, ryda'n ni yn bwyta llawar mwy o fara hefo'n brecwast. Toes dim rhyfadd fod y bara yn mynd yn brin. Na, Mistar George, mae ynn ddwy ochr i'r ewestiwn yna hefyd. ac ni fuaswn i yn eich cynghori i frolio gormod ar fater iel yna, rhag ofn y bydd i rywun bointio allan i chwi eich camgymeriad, ac i chwithau golli eich tempar eto. Beth hefyd, Mr George, am y llongau sydd yn cael en suddo. Yr ydych yn dad- lenu i'r cyhoedd y cwbl, meddech. A ydi hyna yn wir, Mistar George ? Yr ydym yn gwybod eu nifer, ond nid oes yr un ohonom yn gwybod faint o dunelli mae y nifer yna yn ei gynrvcliioli. Tipyn mwy o onestrwydd politicaidd, Mistar George, os gwehvch yn dda. 1 Un peth arall, Mistar George, byddaf yn edrych ymlaen yn bur ofalus i weled sut yr ydych am roddi Preference i'n Colonies heb i hyny godi pris y bwyd. Rydw i yn chwerthin wrth fy modd wrth welad yr hwyl ga i ym Mwrdeisdrefi Arfon yn am- sar v lecsiwn nesaf, yn trio cael gennych e.sbonio i'r trethdalwyr yno sut yr oedd yn amhosibl rhoddi Preference i'r Colonies yn y blynyddoedd o'r blaen, cyn i chwi gael cwymp heb godi pris y bwyd. ond yn bosibl gwneud hyny yn awr. Bydda i yn brysur ehwilio i fvny eich hen a-reithiau er mwyn cael eglurhad gennych. Fe gawn (ljp-n o hwyl yr adeg yna, Mistar George. Gobeithio na wneweh golli eich tempar pan y cewch eich croes-holi, Mistar George. Peth gwirion iawn ydi hyn, syr. Wrth gwrs, rydw i yn cymeryd yn gania- taol, Mistar George, y cewch eich gwrth- wynebu yn yr etholiad nesaf gan werinwyr Arfon, ae yn wir, os rhowch chwi fotcs i ni fel merchaid, ac y bydd gennym hawl i gael ein hethol i'r Senedd, os na ddaw yna rywun arall i'ch herbyn, mi ddo i fy hunan pe buasai er mwyn dim ond er rhoddi chance i ni gael testun chwerthin. ————
IRASUS CEFFYLAU.
RASUS CEFFYLAU. Anfonodd Swyddfa Ryfel at y Jockey Club yn eu hysbysu nad oedd yn ddymunol i ychwaneg o redegfeydd ceffylau gymeryd lie ar ol cvfarfyddiad cyntaf y gwanwyn. Cymer y cyfarfyddiad cyntaf le heddyw (ddydd Mawrth) a phery hyd ddydd Grrmtr.
I I Y BWYD.I
I I Y BWYD. I GWYR CYFARWYDD YN YM. DRIN A'R MATER. Araith v Prif Weinidog I Dydd Gwener cyflwymvyd rhyddfreiniad Dinas Llundain i Mr Lloyd George, a gwnaed araith ganddo ar yr achlysur. Dywedai fod dynion galluocaf y wlad hon, America, a Ffrainc yn ceisio dod o hyd i'r ffordd i ddadrys problem y submarines. Credai fod modd dod o hyd i gynllun i'w orchfygu. Ond yr oedd yn rhaid i ni gario ymlaen o dan y dybiaeth nad oedd modd gwneud hynny. Rhaid i bawb gy- nilo gyda'u bwyd. Dyma rai o brif bwyntiau yr araith Yr oedd y lli wedi troi. Daw buddugol- iaeth yn fwy sier. Bwriada y German- iaid gau tra-mwyfa y inoroedd. Mae yn hanfodol i fuddugoliaeth i ni i'w hatal. Nid wyf yn gwybod a bery y rhyfel trwy y flwyddyn 1918, ond nid ydym am ochel gwneud y parotoadau angenrheidiol. Os cerir v planiau allan bydd tair miliwn o aceri ffres yn cael eu trin erbyn cynhaeaf 1918, ac er i ni fethu cael tunnell o'r tu- allan ni ellir ein lIwgu. Rhaid cyfyngu mewnforion afreidiol trwy en tynu i lawr 10 neu 11 miJiwn tunnell y flwyddyn. Mae y trefniadau sydd mewn givelthrediad ar hyn o bryd yn arbed chwe miliwn. Ccir 85 miliwn bwsiel o wenith yn Canda yn disgAvyl ei drosglwyddo. Bydd gennym dair (os nad pedair) gwaitli gy- maint o longau ag oedd y llynedd. A chymeryd yn ganiataol tod y colledion yn ol y cvfartaledd presennol, fe allwn yng Ngorffennaf ddod a mwy o duunelliad i'n marchnadoedd nag a allem ym mis Mawrth. Achosa y ffigyrau gyhoeddir fraw i ni, ond yr ydym yn eu cyhoeddi er mwyn i'r cyhoedd gael y wybodaeth. Nid ydym yn celu dim. Rhaid i'r wlad ad- olygu ei syniadau gyda golwg ar y T'ref- edigaethau. Gellir sefydlu cynllun o ffafriaeth heb i hynny ychwanegu at gost ein byw. Un o anhebgoi ion buddugol- iaeth gvflym ydyw 8etlo y cwestiwn Gwyddclig, ac apeliai am gydweithrediad i benderfynu yr anlu.wster hwn. ———— —
MARWOLAETH A CHLADDED-IGAETH…
MARWOLAETH A CHLADDED- IGAETH Y PARCH W. DAVIES, TREFOR, SIR GAERNARFON. Bu farw y givas ffyddlon William Davies, Frongoch, Trefor, prynhawn Sad- wrn Ebrill 21, yn 79 mlwydd oed. Gen- edigol o ardal Llannor ydoedd. Brawd ¡ iddo oedd y diweddar Barch David Evan Davies, gweinidog galluog a gweithgar I gyda'r enwad parchus y Methodistiaid. Ar ol bod yn aelod ffyddlon a gweithgar am rai blynvddau gyda'r un enwad, daeth y brawd William Davies at enwad y Bed- vddwyr. Ymunodd a'r eglwys yn Saron, Llanaelhaiarn, lie y dechreuodd bregethu ar gais yr eglwys yno. Gelwid am ei was- anaeth yn ami gan eglwvsi Arfon. Mon, a Me irionydd, ac yr oedd (i wasapaeth yn gymeradwy. Bu yn pregethu yr efejigyl am dros hanner can mlynedd. Cyhoedd- odd ddwy Holwyddoreg, y naill ar "Ddir- west" a'r Hall ar "Hanes Iesu Grist," ynghyda dau, os arI tri, o lyfrau. Bu yn gadeirydd Cymanfa Bedyddwyr Arfon am y flwyddyn 1913-14. Mae ei ddau fab yn y weinidoeth, set y Parehn E. W. Da- vies, Hebron, Ton Ystrad, a D. R. Davies, B.A., Ayrshire, Iowa. Wyr iddo yw y brawd ieuanc addawol Mr Griffith Sorton Da vies, yr hwn sydd yn fyfvriwr Ihvydd- iannus yijg Ngholeg Caerdydd. Mae ei bedair merch, sef Miss Davies, Trefor; Mrs Dicus Jones, Nefyn; Mrs Wm. Thomas, Ton. a Mrs E. A. Hopkins, Pont- rhydygroes, Sir Aberteifi, yn rhai -ffydd- Ion a selog gvdag achos y Gwarodwr. Claddwyd ei weddillion marwol ynghanol arwyddic ;i o barcit mawr pry- nhawn dydd Mercher ym mynwent Eglwys I y Plwyf, o dan y ddeddf newydd. Gwas- anaetlnvyd gan y Parchn T. P. Williams, Groeslon; T. M. Reed, Garn; Idris Thomas, NefSn R. Edwards, Penygroes; J. Phillips, Llanaelhaiarn; J. Griffiths. Llanfairfeehan; R. G. Roberts ac Owen Davies, D. D., Caernarfon. Gwelsom yn bresennol Parch W. T. Jones (M.C.), Cwmoorvn a'r Babell, Capten Francis Davies, Criccieth Capten Davies, Angor- fa Mrs Capten Griffiths, Pencaenewydd lieut. Cradog Davie,s. Bangor; Mri W. T. Davies, Midland Bank, Criccietli Evan R. Davies, Y sgrifenydcl Pwyllgor Addysg Sir Caernarfon; John Rees, Pen fro, trv- sorydd Cyirianfa Beddyddwvr Arfon: R. J. George, draper, Caernarfon; Owen Jones, Xefyn; D. Jones, Tynycoed; Ro- bert Jones, Pontllyfni a John Evans, Caernarfon, cadeirydd y Gymanfa am eleni., Derbyniwyd Huaws o Jvthyrau oddiwrth rai yn methu bod yn bresenno] yn yr ang- ladd :—Parchn Hugh Hughes, Llanrwst; H. Bryn Davies, Llandudno; Robert Jones, Llainpupur; Samuel Davies, Pen- rhyndeudraeth D. Davies, Harleeh; ll. H. Williams, Pwllheli; Mrs D. E. Davies, Glyn, Pwllheli; Miss Phcebe Owen, B.A., Caernarfon -Air Griffith Roberts, Rhos- hirwaena Mi G. S. Davies, o Goleg Caerdydd. Heddwch i'w lweh. Y i- Ai- glwydd iyddo yn nerth ac yn gysur i'r chweoli plentyn a'r perthynasau oil yn eu galar,-Tydvil.
YR ACHOS YMRESTROL 0I LERPWL.
YR ACHOS YMRESTROL 0 LERPWL. Dedfrydu Gwyr Blaenllaw. I Ym Mrawdlys Lerpwl, dydd Gwener, gorffenwyd yr achos ymrestrol, yn yr hwn y cyhuddid amyw o wyr blaenllaw o gyn- Uwyn i sicrhau rhyddhad o wasanaeth mil- wrol, ac o roddi a derbyn llwgrwobrwyon. Dedfrydwyd hwy fel y canlyn C'aptcn Wilson, swyddog ymrestrol yn Lerpwl, 21 mis o garchariad*. John Hughes, un o fasnaehwyr mwyaf Lerpwl, 12 mis ac i dalu 200p tuagat y costau. Francis S. Barnett,. masnaehwr, 9 mis. Ernest E. B;.rnett, masnaehwr, 12 mis. Meudel Fishel, dilledvdd, 9 mis. Gofidiai y Barnwr weled dyn o alluoedd Wilson yn y safle yr oedd. Yr oedd ei drosedd yn un difrifol, a rhaid oedd ei gosbi yn chwyrn. Ystyriai Ernest Bar- nett fel un o'r prif symudwyr vii y Hwgr- wobrwyo. Gyda golwg ar Hughes, dy- wedodd fod ei achos ef rai cyfrifon yn waeth na'r un olionynt. Yr oedd yn ddyn o gyfoeth mawr, ac mewn oedran na ddylai temtasivnau o'r fath bwyso arne.
GWEINIDOGION YN ATHRAW-I ON.
GWEINIDOGION YN ATHRAW- I ON. Rhyddhau Dynion i'r Fyddin. Ym Mhwyllgor Addysg Sir Ddinbych, galwodd Mr Edward Roberts sylw at gylchlvtlivr dderbyniwyd oddiwrth Fwrdd Addysg gyda goIwg ar gael gweinidogion yn athrawon yn yr ysgolion elfennol. Der- byniwyd llythyrau hefyd oddiwrth Cyn go r Eglwysi Rhyddion Cymru yn amgau en- wau gweinidogion oeddynt yn barod i was- anaeth u yn ysgolion y sir. Penderfynodd Pwyllgor y Staff i beidio cymeryd sylw o gais unrliyw weinidog oedd o fewn yr oed- ran milwrol, ac i hysbysu y gweddill y cy- merid syhv o'u cais pan ddigwyddo gwagle pwrpasol. Dywedodd y Cadeirydd fod datganiad wedi ei dderbvn ar y pwnc oddiwrth Ys- grifennydd Cyngor Llafur Wrecsam a'r Cylch yn protestio yn gryf yn erbyn i ddynion o fewn yr oedran milwrol ac yn gyfaddas. wedi eu rhyddhau oherwydd eu galwedigaeth, i gymeryd gwasanaeth yu yr ysgolion er mwyn rhyddhau athrawon profiadol i'r Fyddin. Pasiwyd penderfyniad y pwyllgor. ———— ———
RHIWLAS. I
RHIWLAS. Marvxoiaeth a UhladQedigaeth. — Yr I wytimos ddtweddat, bu farw Mr John Davies, High Street. Bu Sll nychu yn hir, ond dioduletodd y cwbl yn hynod ddi- rwgnach. Claddwyd ciweddillioll ym lnynwont Pentir dydd Sadwrn, Ebrill 21ain. Gwasanaethwyd wrth y ty gan y Parchn R. Mon Hughes ac R. Einion Jones, ac ar lan y bedd gan y Parch Her- bert Jones. Gedy bcdwar o blant i ala-ru ar ei ol, dau fab yn y fyddin. Ni chaw- sant ddod gartref ddydd yr angladd, ond mae y mab hynaf wedi cyrraedd erbyn hyn. Mae cydymdeimlad yr ardal a'r teulu sydd wedi eu gadael mewn profedig- aeth. Gartref.-N' d.Nid o' r blaen daeth Mr Hugh 0. Hughes, Chapel Street, gartref wedi ei ryddhau 0' l' fyddin. Da oedd gennym ei weld, ond yn gofidio nad yw ei iechyd yn berffaith. Dymunwn iddo well- had buan. DeaUwn ei fod erbyn hyn mewn sanatorium yn y Deheudir. Terfynu Gobeithlu. Dydd Sadwrn, Ebrill 14, yng nghapel Pisgah (W.), cyn- haliwyd cyfarfod terfynol y GobeithJu. Llywyddwyd gan y Parch Eeinion Jones. Cyfeiliwyd gan Mr R. H. Jervis. Cymer- wyd rhan mewn adrodd, dadleu, a chanu gan blant yr eglwys. Cafwyd unawd gan Miss M. Pretoria Hughes. Per- fformiwyd drama fechan, "Dylanwad Rliieni," gan nifer o ieuenctyd yr eglwys. A ganlyn oedd y cyliiei-iadait:Cyfreit-li- iwr, Mr Richie Jones; Ei Wraig, Miss J. Frances Jones; Eu Merch, Miss Naomi Jones; Eu Mah, Mr Robert Owen: C'yf- eilles y Ferch. Miss Edith Jones; Mcdd vvyn, Mr John Owen Ei Wraig, Miss M. Pretoria Hughes; Eu Merch, Miss Mair Jones; Meddyg, Mr Emrys Thomas. J op-e.?;; I (- d <I v,() Trefnwyd y rhaglen gan Misses 1.. Hughe«s ac Annie Williams. I'r Eurog Fyd.—Dydd lau, Ebrill 26ain, ynghapel St. Pauls, Bangor, nnwyd trwy briodas Mr Hugh R. Thomas, Carreg Lwyd, a Miss Annie Wiliams, 2, Wesley Terraec, dau o aelodau selog yn Pisgah (W.). Gweinyddwyd y seremoni gan y Dr Hugh Jomes, Bangor, yml»reg«no]del» y tystion canlynol :—Mrs Gwladys Hall# Miss Jennie Ceridwen Jones, Mr Robert Thomas Jones. Rhoddwyd y briodasferch ymftithgan ei brawd. Mr Tom Williams, organydd Pisgah (W.). Yr ydym o galon yn dynuino iddynt bob llwyddiant yn eu byd newydd. Bu Huw yn hir yn hudo Ann I gylch yr eurog fyd; Ond gwvliodd serch ei funud gwan, A chaed yr awr a'r pryd. Ac er •vael sicrwydd pendant, clir, 0 sel na syfla byth, Nid oedd ond Doctor yn y tir, Ga'i hwylio'r ddau i'w nyth. Bydd Huw a'i Annie hawddgar, Ion, Yn byw yng Ngharreg Lwyd, Ac ni cheir dau dros ddaear gron Yn byw ar burach bwyd; Mae dclfryd uchel gan y ddau, A chalon, pen, a llaw, Yn troi eu pwyntil eyson clau At Wynder Byd a Ddaw.
LLANDWROG.
LLANDWROG. Marw. Prynhawn Sul, bu farw Mrs Sarah Jones, priod Mr John Jones, Tylon, Llandwrog, yn 72 mlwydd oed. Er mai yn sydyn y cymerwyd Mrs Jones ymaith, yr oedd ei hiechyd gynt yn bur wanaidd. Yr oedd iddi air da gan ei chymydogion a phawb a'i hadw aenai fel gwraig dduwiol; y Beibl oedd ei phrif lyfr, a thrysorodd lawer ohonno i'w chof. Rhoddwyd iddi air uehel gan ei gweinidog, y Parch Caleb Williams, B.A.. Rwlan, a diddadl fod iddi "dy nid o waith llaw tragwyddol yn v nef- oedd." Brynhawn dydd lau, daeth torf barchus i dalu y gymwynas olaf iddi, drwv ei hebrwng i gladdfa St. Rhedyw, Llanllfyni. Gwasanaethwyd with v ty gan y Parch Caleb Willliams, B.A. Erys mewn hiraeth, ei phriod ac wyth o blant. Mae saith ohonynt yn yr America, ac yno yn hynod Iwyddiannus. Mae ein cydym- deimlad a'r hen wr yn ei unigrwydd, ao a'r ferch, ac a'r rhai sydd drosodd pan gant y newydd o farw eu mam.
DAMEG YR EITHIN.
DAMEG YR EITHIN. (Wil o'r Rhiw). Dan oerni gerwinol y gaeaf Mae Auian yug ngliadwyn y rhew; Cloedig oedd ddrvsau pob preswyi, Ac Eisiau dan wadnau y "Llew." Wrth wi-egys Dwvreinwynt yn hongian Alae rhydlyd allweddau ein tir; Hir nychu mewn Ofnau mae Natur, A'i ddolef am ryddid v Gwi", Mae Eithin y moelydd yn t rino, A'u tyngenl ar erchwyn y bedd; A chleisiau dolennau y gadwyn Yn ddyfnion addurnant eu gwedd. Hwy wywant yn addas i'w llosgi Yn oddaith eiriasboeth di-weth, Y ng nghwlwm y Rhew yr edwinodd En liynni i feithrin eu nherth. Bu Ewrop grefyddol yng ngharchar Rhew moesol o ysol ystid, Nes gwywodd cain flodau y Cariad Yn gras chwyn crinedig, ddihad: Enynodd gwreichionen Cenfigen, Cynheuodd y Uosgfa ar led; Ac heddyw mae'r gwriddyn yn goelcerth A'i goddaith trwy'r holl wledydd Cred -———— -0440 ————
Family Notices
GENt. PRIODI. MARW. PRIODI. Thomas-Williams Ebrill 26t ynghapel St. Paul's, Bangor, gan y Parch Hugh Jones, D.D.. Mr Hugh R. Thomas, Car- reg Lwyd, a Miss Annie Williams, 2, AVesley Terrace,—y ddau o Rhiwlas. Williams-Williams-Ebrill 25, yngliapel Caersalem, Caernarfon, gan y Parch R. G. Roberts, Preifat D. T Williams, 17, Newborough Street, Caernarfon, a Nyra Annie Williams, Sanatorium Llangwy- fan, Sir Ddinbych (gynt o Sanatorium Caernarfon) MARW. J ones-Ebrill 22, yn 72 mlwydd oed, Mrs Sarah Jones, priod Mr John Jones, Tyn- Ion Llandwrog J ones-Ebrill 20, vn 63 mlwydd oed, Mrs Ellen Jones, Ty Glas, Clynnog. Davies Ebrill 21, yn 79 mlwydd oed, Parch William Davies, Frongoch. Tre- for. Roberts—Ebrill 29, yn 56 mlwydd oed, 31io Hugh Roberts, Tynycoed, Llanrug. Thoinas-Ebt-ill 29, yn 65 mlwydd oed, Mr David Thomas, 10, Garnon Street, Caer- narfon, gynt o Rhostryfan. Davies-Ebrill 22, yn 62 mlwydd oed, Mr John Jones, Ty Capel, Ceunant.
Advertising
I J. FLETCHER, LTD., I MEMORIAL WORKS, CAERNARFON a BANGOR. Argraffwyd o chyhoeddwyd gan Cwmni y "DLifsydd Cymroig," Cyf., yn 16, Palace Street, Caerasa-fon.