Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

18 articles on this Page

.PORTHMADOG.

Advertising

I MARCHNADOEBD. f

BALADEULYN.

BEDDGELERT.

CLYNNOG.

CRICCIETH.

..-PENISA'RWAEN...

IFELINHELI.

_- NODION O FFESTINIOG.

IPENRHYNDEUDRAETH.

I LLANRUG.

[PWLLHELI.-

I RHOSGADFAN.

I YNYSBOETH, ABERCYNON.

[No title]

——————0 GWAHARDDIAO. ( I

News
Cite
Share

—————— 0 GWAHARDDIAO. ( I I FFEITHIAU CRYFION GAN MR RUNCIMAN Nos Wener, Ebrill 27, cafwyd cyfarfod mawr yn y Cory Hall, Caerdydd, yn galw am w ahaddid y fasnach wirodydd yn ystod y rhyfel a chwe mis wedi ei therfyniad, o dan nawdd Cyngor Eglwysi Rhyddion Cvilii-ti Mi- W. Beddoe Rees oedd yn llywyddu. Dywedodd Air Runciman uad oeddynt yno i ddadleu dros hawliau yr unigolyn, nac i benderfynu a oedd y tafarnwr a hawl i iawndal. ond a oedd cyflenwad bwyd an- hebgor ddeuai i'r wlad hon i gael ei ddef- nyddio fel bwyd ynte fel diod feddwol. Lie gaUwn ni gynilo? Gwenith ydoedd y grawn goreu i ddyn ei fwyta ond yr oedd cciroh hefyd yn fwyd rhagorol, a rhoddid ef yn awr i geffylau rasus, a gofynai pob un ohonynt am gymaint ag 20 o ddynion. Yr oedd gennym haidd hefyd. Gellid def- nyddio haidd brag yn fwyd i ddyn, ac yr oedd yn un o'r bwydydd goreu. Eto yr oedd miliwn o chwaretri ohono yn cael ei ddefnyddio bob wythnos, yr hyn sy'n gyf- ystyr ag wyth miliwn o bwysi o flawd haidd, yn v fasnach wirodydd. Yn ych- wanegol defnyddid dwy filiwn o bwysi o siwgwr. nid y siwgwr ddefnyddir yn gyff- redin yn y tai, ond siwgwr oedd ag ad- noddau melysu vnddo, nes yn sydyn y rhoddwyd gorchymyn na ellid defnyddio siwgwr o'r math yma neu waddod, at fwyd dyn, ond y dylid ei gadw i'r darllaw. dai (cywilydd). Ymhellach, yr oedd 900,000 pwys o reis yn mynd i'r darllaw- dai. Yr oedd rhai darllawdai yn awr yn gwneud alcohol i ffatrioedd cad-ddarpar, ac yn defnyddio grawn i'r pwrpas hwnnw. Ac eto yr oedd swm anferth o chwisci mewn bond at ddibenion addfedu y ] gellid ei ddefnyddio mewn ffatrioedd ead- ddarpar, a thrwy hynny arbed distrywio grawn newydd. Gwneid "gin" o rawn er "iwyn ei drosglwyddo i genhedloedd tra- mor (Gwarth). At filiwn o alwyni prawf gwirodydd gynyrchid yn freintiol rhaid wrth 38,000 o chwarteri o rawn, a 50,000 pan gynyrchir gan "pot stills." Yn y dis- tylldai yn awr y mae tua 21 miliwn o bwysi o rawn yn cael ei ddefnyddio bob wythnos. a thua un miliwn a thri chwar- t ter o siwgwr a "molasses. Pan gyfrifir gh d ynghyd y swm o rawn ddistrywir gan y fasnach wirodydd y mae yn hanner pwys i bob person yn y Deyrnas Gyfunol bob wythnos, a phan y dywedir na ddylent ) fwyta mwy na 3! pwys o fara bob wyth- £ nos y mae y distrywio hwn o hanner pwys y pen yn anesgusodol. Xi allai gredu y i buasai y dosbarth gweithiol yn cefnogi yr hyn wneir pan ddeuant i wybod y ffeith- iau (cym.). [ Dywedodd Mr Donald Afaclean, A.S., fod Pwrcasiad Gwladwriaethol yn anym- arferol fel meddyginiaeth i'r angen pre- ( sennol. Byddai yn golygu pasio Deddf Seneddol, ac hyd yn nod pe darperid Alesur yn ddioed byddai yn Tachwedd cyn y gallai ddod i rym. Dyna oedd y dyddiad cyntaf yn bosibl. Cynygiodd Mr G. F. Forsdible bender- fyniad yn hawlio gwaharddiad dioed y fas- nach wirodydd. Eiliwyd gan y Parch H. AI. Hughee, a phüiwyd gyda dim ond dan yn erbyn. *5

DYFFRYN NANTLLE.