Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
Advertising
AT GENEDL Y CYMRY. Ymgyrch dros Wahardd y Fasnach Feddwol dros Dymor y Rhyfei ac am chwe mis wedi hyny. I wneud hyd yn oed 10,000,000 ltaril o Gwrw a ganiateir yn awr, gwastreffir 2,300,000 pwys o Siwgr) BOB 16,000,000 pwys o Fara ( WYTHNOS _ji Golyga hyn YSBEILIO EIN PLANT o 50 i 75 y Cant o'u Bwyd Mwyaf Hanfodol. 1. Eisoes mae pump Cyngor Sir a nifer fawr o Awdurdqdau LIe-ol yng Nghymru wedi pasio penderfyniad yn ffafr Gwaharddiad dros y Khyfel. 2.-Ar yr 8fed o Ragfyr, 1916, yng Nghaerdydd apeliodd Swyddo gion Undeb Cenedlaethol y Morwyr (Cangen Bristol Channel) at y Prif Weinidog i Wahsttdd y Ddiod dros dymor y Rhyfel. 3.—Yng nghyfarfod y "Western Miners" yn Abertawe, Mawrth lOfed, 1917, ategwyd gyda mwyafrif mawr bleidlais dros Wahaddiad. 4.-Saboth, Ebrill laf, 1917, pasiodd t ua. 2,000 o Eglwysi Rhyddion Cymru bleidlais yn ffafr Gwaharddiad dros y Rhyfel. GWNEWCH EICH GOREU I GYNORTHWYO'R MUDIAD HWN. DROS GYNGOR CENEDLAETHOL HGLWYSI RHYDDION CYMRU W. BEDDOE REES, ( adeirydd. JOHN ROBERTS, M.A., Ysgrifennydd Mygedol. GWILYM DAVIES, MA." I Trefnwyr yr Ymgyrch D. MIALL EDWARDS, M.A., I (Mygedoi).
CYNLLUN NEWYDD. __I
CYNLLUN NEWYDD. CAEL DYNION I DDIWYDIANAU ANGENRHEIDIOL. Y Wasanaeth Genedlaethol. ) Cyhoedd-a'r "Press Bureau'' fod y Cab- inet Rhyfel wedi cymeradwyo cynllun new- ydd gyflwynwyd gau y Cyfarwyddwr Cyff- redinol i'r Wasanaeth Genedlaethol wedi ymgynghoriad gyda'r Pwyllgor Cynghorol Llafur, er adychwanegu ei apel am wir- foddohvyr i'r Wasanaeth Genedlaethol. Amcan arbennig y cynllun newydd ydyw eicrhau dynion cyfaddas oddiar ddiwyd- iannau llni angenrheidiol i gymeryd lie dynion mewn diwydiannau angenrheidiol y rhaid eu rhyddhau i ddibenion milwrol o'r diwydianal1 hynny. Ffurifr pwyllgor. au o gyflogwyr a chyflogedig y diwydian- nau yr effeithir arnynt i'r pwrpas o drefnu pa ddynion gaiff eu rhyddhau o'r gwa- hanol leoedd mewn tr&fn i ddarparu y nifer angenrheidiol o ddynion cyfaddas, ac i drefnu eu trosglwyddo i'r lleoedd y mae eu hangen drwy y swyddogion cyflenwad o'r Adran Gwasanaeth Genedlaethol. Mae trefniadau wedi eu gwneud er sicrTiau fod y swyddogion hyn i'w cadw mewn cyff- yrddiad agos a'r adranau craill ynglyn a ohyfnewidiaàau cyflenwol. Prif nodwedd y cynllun yw ei fod yn rhoddi'r cyfrifoldeb o gael y dynion ang- enrheidiol gyda'r niwed lleiaf yn bosibl i'r fasnach a'r dioddef lleiaf i'r dyn ar y rhai fo ynglyn a'r fasnach ei hunan. Ni bydd yn rhaid i'r dynion a dros- glwyddir ymrestru fel Gwirfoddolwyr y wasanaeth Genedlaethol. Bydd iddynt gael eu gwahodd i lenwi lleoedd gwcigion neilltuol mewn gwaith o bwvsigrwydd cenedlaethol, ond bydd iddynt dderbyn yr un tal cynhaliol a'r buddianau eraill ag a roddir mewn amgylchiadau cyffelyb i Wir- foddohvyr y Wasanaeth Genedlaethol. Fel canlyniad i'r ymchwiliad diweddar wnaed gan aelodau o'r Cabinet Rhyfel, y mae wedi ei benderfynu fod y trefniadau newyddion am ymestriant a lleoliad Gwir- foddolwyr v AYasanaeth Genedlaethol i ddod i weithrediad ar ddiwedd y mis hvvn, 0 dan y trefniadau presennol ymrestrir y Gwirfoddolwyr gan Adran y W asnnaet h Genedlaethol, a lleolir hwy i'w gwaith gan Adran Cyfnewidfeydd Gwaith y Gweinidog Lla-f-tir, a rliati cu bod wedi can- fod nad yw yr adran yma o avvdurdod a pheirianwaith wedi bod yn effeithiol, pen. derfynwyd, gyda chaniatad a chymerad- wyaeth y ddau Weinidog, fod y lleoliad yn ogvptal a'r ymrestriant am Wirfoddolwyr i'r Wasanaeth Genedlaethol ar ac wedi y laf o Fai yn gorffwys gyda Adran y Was- anaeth Genedlaethol, yr hwn a ddarpara, lie bynnag y mae'n bosibi, ddynion cyf- • tiddag i lenwi y lleoedd gweigion mewn gwaitlx o bwysigrwydd cenedlaethol na ellir eu llenwi gan filwyr ryddheir neu o ffynonellau eraill o lafur cofrestredig yn y Cyfnewidfeydd Llafur.
CORNEL Y CHWAR-IElWYR,
CORNEL Y CHWAR- ElWYR, Y WASANAETH GENEDLAETHOL Deallwn fod cyfarfod o gynrychiolwvr y Cyflogwyr ac Undeb y Chwarelwyr wedi ei gynnal ar Ebrill 11, 1917, i ystyried y aafle yn eu perthynas a'r Wasanaeth Genedlaethol, ac yn cllwedig y fil itl, fod yr ahvedigaeth yn cael ei gosod ar y ''Restricted Lust." Wedi trafod y mater daethpwyd i'r penderfyniad ar gais y Dirprwywr dros Gymru o dan y Wasan- aeth Genedlaethol, i apelio ar i'r gweith_ wyr oeddynt yn foddlon gadael eu ear- trefi er ymgymeryd a gwaith o Fudd Cen- edlacthol Arbennig i roddi eu henwau, eu cyfeiriad, eu hoedran, y chwarel, a'r gwaith garent ei gael, i'r Gornclnvvliwr, neu i Gynryehiolydd yr Undeb yn y Hone. Yr oedd y Dirprwywr yn ymnvymo os y cawsai nifer neilltuol i i weithfe- ydd eraill y cawsai ein Galwedigaeth ei thynnu oddiar y "Restricted List." Gosodai hynny obaith i allu cario ymlaen y clnvarelau dros yr argyfwng presennol, hynny yw, os ceir yr hyn ofynir, a byddai y leelien yn eael ei gosod ar yr un safle o ran manteision a nwyddau toi eraill. Pwynt pwvsif a rail i'w gofio ydyw fod y Dirprwywr wedi datgan na bydd yr hyn enniilir yn y gwaith y caiff y dyn ei anion iddo yn llai na thair punt, yn yr wythnos ac hefyd fod y cyflogwyr wedi ymrwymo pan derfyno yr helynt presennol, y bydd iddynt wrtli gyineryd g\veithwyr yn ol i'r chwarel roddi y lfaenoriaeth i'r hen weithwyr pan ddeuant gartref. Deallwn fod papuran i'r cyfeiriad uehod wedi eu hanfon i'r gwahanol chwarelai,! modd y gall y gweithwyr oil en hystyried yn briodol. ———— ————
GWRTHOD ARDDANGOSFA. I
GWRTHOD ARDDANGOSFA. Gwrthoclodd Gwcinidog y Cad-ddarpar- iaethau ganiatad i gynnal y flwyddyn hon yj- arddangosfa fawr flynvddol ynglyn ag aruaethyddiaeth yn Fceleston, yr hon "Hid w'?di ei chynnal yn ddido' er 64  mlvnedd.
ESIAMPL Y BRENIN.I
ESIAMPL Y BRENIN. Hvsbysir fod y Brenin a'r Frenhines, ynghvda'r holl dy a'r morwynion yn arfer graddfa y dognau cenedlaethol er yn gynnar yn Cbwefror. Gwnant hynny gyda phob bwyd, ac yn enwedig bara.
- - - - - - -2- . - -0 GADAIR…
-2- 0 GADAIR MODRYB SIAN. LLUNIO'R WADN. Pa sawl Llan sydd yn Sir Fon? Faint o ddarllenwyr y "Dinesydd" fedr ateb y gofyniad yna. Wel, i ni yn Sir Fon toes yna ond un Llan, a phan y byddwn ni yn siarad am hogyn o'r Llan, neu liogaa c'r LInn, bydd pawb yn gwubod mai 1.1an- erchymedd ydi y Llan. Mae'r hen Lan wedi bod yn enwog am gynyrelui gethwrs, Indian Rock No. 8, a sgidia; ac y mae pawb braidd o hen drigolion Cymru yn gwubod yn lied dda am y tri peth sydd wedi codi enw Llanerchymedd i fynv. Bai mwya yr hen drigolion oedd nad oeddynt yn gallu eymud hefo'r amseroedd buasai yn ffitiaeh eu bod wedi ymuno hefo'u gii- ydd yn Limited Company i neud Indian Rock, neu chwilio am lot o, machinery i ncud sigidia, yn lie sticio i neud petha hefo'u dwylaw. Ond beth bynnag am llynny, rydw i yn gofio yn lie dda pan yn byw yn y Llan weled lot o'r cryddion yn gneud y sgidia. Pin y byddech eisio par newydd, byddech yn myned at y crydd, a byddai yn cymeryd mesur o'ch troed, yn cymryd shap eich troed, yn edrach fydda gynoch chi gyrn neu rhyw flemish arall ar eich troed, a'r canlyniad oedd, cawsach bar o. sgidia y gallasech eu gwisgo heb boen na thrafferth i dnvi na neb arall. Llunio'r wadn fel bo y troed, dyna fyddai cryddion y Llan yn neud. Rhyn a wnaeth i mi feddwrl am y peth oedd syhvadau a wnaeth Lloyd George i'r dirwestwyr y diwrnod o'r blaen. Fel y gwyr darllen- wyr y "Dinesydd," aeth yna lot o ddir- westwyr y diwrnod o'r blaen at Lloyd George i ddadleu dros ac yn erbyn cau y tafn mdai. Uoedd rhai isio eu cau yn gyfangwbl, a'r lleill isio i'r Wladwriaeth eu prynu. Tydw i ddim wedi meddwl prun fuasai y goreu i'r wlad; yr unig gwestiwn fuaswn i yn leicio ei ofyn ydi, a ydyw y ddiod yn ddrwg. Gall y darllen- wyr ateb y cwestiwn yn y ffordd a fyno. Isio tynu sylw y wlad at atebiad Lloyd George sydd arnaf. Mae arnaf isio gwneud cyfiawnder a Lloyd George. Mae'n ddrwg gennyf ddweyd neis i roed feddwi ar Lloyd George, neis i rioed neud Duw ohono, welis i ddim inwy ynddo fo na neb arall, ac ni welis i mo honno fo wedi gwneud mwy i'r gweithiwrs na rlivw ddyn arall. M ae JJloyd George wedi bod yn glyfar i'w amcanion ei hunan, mae wedi bod yn dda i'r gweithiwrs pan yr oedd hynny yn step- ping stone iddo fo ei hunun, ac yn fv marn i, hen wreigan syml o Sir Fon, dyna ydi'r cwbl mae wedi neyd. Ond i ddwad yn ol at atebiad Lloyd George, beth ydi ei esgus dros beidio cau y tafarndai. Bu- asai hynny, rnedda fo, yn codi y fath gyn- hwrf ymysg Undebwyr Llafur y wlad, fel y byddai yn amhosibl i'r rhyfel gael ei chario ymlaen yn Ilwyddiannus. Ft, I ly'il wir, Mr George, yr ydych felly yn dweud fod cael glasiad o gwrw yn fwy pwysig vngohvg gweilhiwis y. wlad nag ydyw enni!] y rhyfel. CWJVV ac ennill y rhyfel, dim cwrw a cholli y rliylV]. Ydach chwi yn siivr Mr George;' Dyna. mae'n bur debyg, meddwch chwi, ydi barn arweinwyr y gweithiwrs, dynion fel Mr Ben Turner, Mr R. Smillie, ac eraill. Efailai hynny, ond a ydych chwi yn siwr fod y rhai yna I yn cvnrychioli barn y gweithiwrs. Yn y papurau newyddion yn amal fe gewch hanas y gweithiwrs yn dod allan ar streic yn groes hollol i gyngor yr arweinwyr. Cawsoch chwi, Lllr George, broliad o hynu yn Glasgow a lleoedd eraill, pan yn Min- ister of Munitions, a ehawsoch yr un profiad yn Barrow ers pan ydych yn Prime Minister. id ydi'r arweinwyr bob am- ser yn deall y rhai a gy me rant arnynt fod yn arwain, ac mac yna ddowt mawr yn fy meddwl a ydi barn yr arwfimvyr yn iawn ar y eivest IN, I Yr 3rdych yn son 11awar y dyddiau yma am i ni wneud abc..I), am fwyta llai o fara a phethau eraill, ac a ydych chwi yn meddwl am foment, os yw y bobol yn barod i fwyta llai, nag ydynt yn barod i beidio yfed o gwbl hefyd er mwyn ennill y rhyfel. Fel y gwyddoch, Mr George, mae Undebwyr Llafur ein gwlad wedi aberthu llawar o'u breintiau a'u hawliau eu mwyn gwneud popeth yn rhwydcl i ennill y rhyiel. Breintiau a hawliau oedd y rhai hyn gymerasant flynyddau o amser i'w hennill, brwydrasant yn galed am danynt am oesau, ond er mwyn bod yn- wladgarol aberthasant yr oil er mwyn ennill y rhyfel, ar eich cais chwi yn fwyaf. A ydych yn meddwl am foment, syr, fod glasiad o gwrw neu ddiferyn o whisci yn Iwy pwysig yn eu gohvg na'r holl freintiau a'u hawliau. Rhad arnoch, Mr George. os ydycw yn meddwl hynny am weithwyr ein gwlad. Ond, mae yna gwestiwn firall yn codi. Gan eich bod chwi mor barod i gymeryd barn Undebwyr Llafur ar gwcstiwn v ddiod, paham na wnewch yr un fath Mr George hefo cwestiynau eraill. Toes yna ddim Ilawar iawn o amsar wedi pasio er pan oeddwn i yn darllan hanas Senedd Llafur yn Manchester. Cawsoch fara Undebwyr Llafur ar lawar o bethau yr adag hOIfo. A ydych chwi wedi cymeryd sylw oholiynt ac actio fel y dymunent I chwi wneud. Beth am farn y gweithiwis ar y cwestiwn o elwa ar y rhyfel yma. Fel y gwyddoch, mae costiau angenrheid- iau bywyd wedi codi yn aruthrol, fel y mae braidd yn amhosibl i'r tlawd fyw, ac y mae pob Undeb Llafur ys gwn i am dano wedi cudi ei let yn crbyn y peth, yn erbyn y dynion hynny sydd yn elwa ar fwyd y bobol. Beth ydych chwi wedi wneud yn y mater. A gymerasoch chwi sylw o farn Undebau Llafur.. Ond i ddod yn lies adref atocli chwi, Mr George, gan eich bod mor ftond o gymeryd sylw o farn Undebwyr Llafur, credaf eich bod chwi, trwy eich cynrychiolydd, y Director of National Service, wedi enwi gweithio y l chwarelau yn ddiangenrhaid i ennill y rhyfel. Nid ydwyf yn gwybod a ydyw ai peidio. Yr hyn a ddymunwn ofyn i chwi. Mr George, ydyw, a ddarfu i chwi gy- meryd barn aelodau Undeb y Chwarelwvr ar y mater. Yn ol y cri sydd yn cael ei godi yn erbyn y peth, nid wyf yn meddwl eich bod wedi gwneud hynny. Pam na ddarfu i chwi? A ydyw cau v chwareli yn fwy pwysig i'r wlad na cliau y tafarn- dai. Efailai, os y byddwch yn darllen y "Dinesydd," v gwnewch chwi egluro i'r chwarelwvr y tro nesaf y deuwch i lawr i'r Pa-filiwn i Gaernarfon pahil111 y mae. Pe buasai amser yn caniatau, buaswn yn leicio eglurhad ar a war o gwestiynau eraill, ond rhaid tewi. Ar ol sgwenu hwn, a meddwl tipyn, rhywsut ni fedrai beidio a meddwl fod yna fwy o wirionedd yn un o'm llithoedd, "Bara a Citwr. rng ymddangosai ar y gwyneb. Gwers honno oedd. votes y werin sydd yn llywodraethu gweithrediadau ein gwladweinwyr, a rhywsut credaf mai dyna sydd with wraidd gwrthwynebiad Lloyd George i gan y tafamdai yn gyfan- gwbl, neu mewn geiriau eraill, mae yn llunio'r wadn fel y bo y troed. Gadawaf i'r darllenvdd benderfynu prun ai y gweithiwrs* yntc y brewers mae Lloyd George yn gwneud sgidia iddynt. Gwylied Cymru iliag ofn mai traed pridd sydd i'w Duw wedi'r cwbL —
DYDD LLUN.
DYDD LLUN. ATAL ADYMOSODIADAU. Mae y milwyr Prydeinig yn Ffrainc wodi atal adymosodiadau cryfion o eiddo y geiyn ar ffrynt o chwe milltir. Gwnaed hwynt ar ein safleoedd newydd Hcuniies a Noreuil. ar ffordd iBaupaume-'Cambrai. BuojJt YIl aflwyddiannus ymhobman ond yn Lugwieourt, lIe y cawsant eu troed i lawr wedi ymlodd caled ond gyrwyd hwy yn 01 rhagblaen. 300 0 GARCHARORION. Yn yr ymdrechfa hon cymerwy d 300 o garcharorion. a gadawodd y gelvn 1/300 o ? feii-i-ort tt- ?- iiiaes. LENS A ST. QUENTIN. Mae ein milwyr yn prysur gau am Lens a, St. Qucntiu. Cymerwyd dan ranbarth o Lens, sef Liovin a C'ite St. Pierre, ynghyda llawer o ddeunydd rhyfel; a dy- wcdir fod blaenfilwyr Prydeinig yn Lens ei hunan. Wedi brwydro caled bidog, gwthiodd ein milwyr ymlaen o fe^vn ychydig gannoedd o latheni i St. Quentin. BRWYDR AWYROL. j Cymerodd br«ydro fFyrnig le yn yr a wyr. Tynwyd wytIt o awyi4ongau y gelyn i lawr, a niweidiwyd 17 eraill. Y mae 22 o'n hawyr-longau ni lit-b ddvch- welyd. PARATOADAU EANG. Ar y ffryrit. Ffrengig cymerodd amryw frwydrau awyrol le, ac y mae ymdrechfa gyflogrol yn parhau ar ffrynt mawr, yr hyn sydd yn i-liagflaeuti brwydr ar raddfa eang. Gwnaeth y Germaniaid ddwy ym- drech, ofer i'r dnyrain o'r Meuse. ADRODDIAD BERLIN. Hawlia Berlin eu bod er dydd Itit wedi dinistrio 52 o awyi longau y Cyngrturwyr a phedair baloon, yn ychwanegol at gymeryd OOO o garcharorion. Gwthiwyd yn ol ymosodiadau cryfion gan y Prydeirnv; ■ gyda cholledion. I GORCHFYGU Y TWRCIAID. Dywed adroddiad swyddogol fod pin inil- WJT ym Mesojiotamia wedi bod yn vmladd ar yr afon Daila ar yr lleg, 12fed, a'r 13eg o Ebrill, ac fod y Tivrc-iiid wedi eu gyrru yn ol o'r safleoedd ger Ghalivch, ac yn ddiweddarach bu raid iddynt encilio ? gyfeiriad Deli Abbas. C'ollodd y Twreiaid 700 o ghvyfedigion a 200 o feirwon ar yr lleg. Collasom ninnau oddeutu 200 rhwng clwvfedigion a meirwon yr un dydd.
MARCHNADOEDD.
MARCHNADOEDD. Caernarfon, Ebrill 14-—Ymenyn, 2s Ie y pwys; wyau, 7 i 8 am Is; ff owl, os 6e i 7s y cwpl. Pwllheli, Ebrill 11.—Ymenyn, Is He i 2s y,pwys; wyau, 13s yr 120i biff, lie i Is oc; myton, 10c i Is 4c y pwys; pore, 10c i Is 5c y pwys; perchyll, 28s i 38s yr un nioch tewion, 10!c y pwys. Llangefni, Ebrill 12.Ymenyn, 2s y pwys; wyu, 9 i 10 am Is; perchyll, :2:)8 i 34s yr un.
RHYDDHAU GWEITHWYR CAD-DDARPAR.
RHYDDHAU GWEITHWYR CAD- DDARPAR. Datgana Syr William Roberteon fod nifer mawr o weithwyr y cad-ddarpar i gael 011 rhyddhau at wasanaeth milwrol cyffiedinol mewn trefn i gyfarfod ag angen mawr y Fyddin am hanner miliwn o ddyn- ion cydrhwng yn awr a. Gorffennaf.
APEL Y PRIF WEINIDOG.
APEL Y PRIF WEINIDOG. Cyhoeddodd y Prif Weinidog apel ar- henllig i lioll it-eltltwN-t, N- tit- i wneud eu goreu er cynnyddu cynnyrch cartrefol o gyflenwad bwydydd. ———— .040- —————
PERYGL PRINDER BARA.
PERYGL PRINDER BARA. Dywedodd Mr Kennedy Jones, A.S., Cyfarwyddwr Cyfi'redinol Cynildeb Bwyd, mewn arait-h ddydd Sadwrn, ein bod gyda'r mater o ddeunydd ein bara yn cael ein gwynebu heddyw gyda 6afle ydoedd yn ddios yn un ddifrifol, ac oddieithr ein bod yn ei wynebu yn eofn a synnwyrlon fel pobl yn y wlad hon gall ein dwyn yn agos iawn i yinvlon trychineb. —————
PROFFIT CWMNI LLONGAU.
PROFFIT CWMNI LLONGAU. Dengys adroddiad Cwmlli y Cunard brofht, yn cynnwys 162,068p gariwyd dros- odd, o 2,500,840p. Hhoddir rhandal o 10 y cant, a 10 y cant o bonus o Stoc Ben- thyciad Rhyfel pump y cant dalwyd yn llawn. 4. ————
I BETHESDA.
BETHESDA. Marw.—Dydd Sadwrn, Ebrill 14eg, bu farw Mrs Catherine Parry, Water Street, Carneddi, yn 82 mlwydd oed. Yr oedd yn wraig hoffus a charedig, ao yn barohus drwy yr holl fro. Aelod ydoedd ynghapel Br ,vnteI(,, (AI.C.). Mae iddi bump o feibion, dau ohonynt yn yr America, a thair o ferched. Claddwyd ei phriod oddeutu naw niynedd yn ol. Cydymdeim. 11wn a'r teulu oil yn eu trallod. Cleddir yn Glanogwen dydd Gwener. ————-
Family Notices
GENI, PRIODI. MARW. PRIODI. Jones—Jones—Ebrill 5, yn Llanelidan, y Parch Hugh Jones, Bontuc'iel, gyda Miss Winitrcd Jones, Rhuttyn. Roberts—Williams—Ebril 12, ynghapel y Glasgoed, Mr 0. 0, Roberts (Glanifo!), (L)anrug). Ú Miss Annie K. Williams, Brynpistyll. MARW. Williams Mrs Abram Williams, Fron Geria, Glasgoed, yn 26 mlwydd oed. Parry Ehrill 14, Mrs Catherine Parry, Water Street, Ca rneddi, Bethesda, yn 82 mlwydd oed. Jones—Mrs William Jones, Commercial Street, Penisa'rwaen. Jones—Ebrill 10, Mr William Jones, 79 Pool Street, Caernarfon, yn 65 mlwydd oed. Jones—Ebrill 15, Mrs Jones, 10, Marcus Street, Caernarfon, yn 65 mlwydd oed. Jones—Ebrill 15, Mrs Jones, 89, Bangor Street, Felinheli, yn 50 mlwydd oed. IN MEMORIAM. Davies-In loving memory of my dear daughter Blodwen, who died suddenly April 19th, 1905. aged 18 years, and was interred at St. Ann's Churchyard, Beth- esda, April the 21st. She sings among the angels now, Beside the crystal river. The light of God is on her brow For ever and for ever. Some day, some time, our eyes shall, sec Her loving face in memory. —Mother and Sisters, 24, Marcus Street, Carnarvon.
Advertising
iii mi inniii «iiTtA-.atto' I r I=R T I J. FLETCHER, LTD., t. MEMORIAL WORKS, [ iCAERNARFON a BAfNGOR. -:U'¡ -r, Argraffwyd o chyhoeddwyd gan Cwmni y "Di.usydd Cymreig," Cyf., yn 16, Palace Street, Caernarfon.