Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

DAN Y GROES

I RH IGWM CLEC I "TRYFANWY."…

1, MARW SWYDDOG UNDEBOL.1

Advertising

IAREITHIAU MR ASQUITH A MR…

I - MR ASQUITH.

Y PRIF WEINIDOG.I

News
Cite
Share

Y PRIF WEINIDOG. I Cafodd Mr Lloyd George dderbyniad cynnes, a dywedodd ei fod yn cydolygu a'r hyn ddy??dodd Mr Asquith am la fur y Llefarydd. Byddai yn golled genedl- aethol i'r gwaith hwn fynd yn ofer. Cyd- olygai gyda Mr Salter y dylid arbed trin cwest-iynau gwleidyddol cwerylgar yn ystod y rhyfel. Ni byddai gan y Llyw- odracth tan na chyfran yng nghefnogiad unrhyw fesur i ranu y Ty yn ddwy ad- ran. Ond yr oedd rhestr yr etholwyr yn hen, a rhaid oedd dod o hyd i ryw gyn- llun i ddod a hi i fyny a'r amgylchiadau. Y pwynt ydoedd, pa fatli oedd y gofrestr i fod? Yngwyneb yr amgylchiadau pre- sennol rhaid oedd dod o hyd i gynllun newydd o gofrestriant i ethol Senedd oedd yn myned i benderfynu tynged y wlad am amser i ddod. Galwodd Mr As- quith sylw at ad-drefniant y pleidiau politicaidd. Beth olyga ad-drefniad? Ni raid ond meddwl am y broblem y bydd yn rhaid ei phenderfynu ar ol y rhvfol- masnach a diwydiant y wlad, y berthynas rhwng cyfalaf a llafur. perthynas y naill ddosbarth o lafur at y llall, telerau bywyd, iechyd, tai ac addysg y bobl, pertliviias y wlad hon a'r hoil Ymherodr- aeth, a pherthynas yr Ymerodraeth a'r gweddill o'r byd-problemau enfawr y bydd yn rhaid eu sotlo ar y gofrestr hon. Bydd i'r hen gofrestr gau allan y dyn- ion a'r merched oeddynt wedi gwneud y Brydain newydd yu bosibl. Cymerer dwy engraifft. Yr oedd un dyn wedi myned i'r rhyfel, gan bervglu ei fywyd, a phe deuai yn ol wedi colli aelod teimlai ei hun yn ffodns. Yr oedd yn rhy ieuanc i feddu pleidlais oyn mynd allan-T oedd miloedd felly ymhob dosbarth. j-n swydd- ogion a dvnion. Beth ddigwydd iddynt? Byddai i'r Lloegr, Cymru, Ysgotland. Wcrddono a'r- Ymerodraeth y buont yn ymladd drostynt idweyd wi-thynt: "Nid oes arnom eisiau eich opiniwn nid ydym yn gofyn am eich golygiadau." Pa fodd y gallwch ddweyd hynyna ? Yr oedd yr anaddas yn meddn yr amodau. Yr oedd y dynion oeddynt wedi Jlwyddo i osgoi y fyddin yn meddu yr amodau. Dylai y dynion oedd yn gwthio y gelyn yn ol fill- tir ar ol milltir gael yr un rhagorfreint. iau a"r hwn oedd wedi osgoi yr alwad. Yr oeddynt yn cytuno fod yn rhaid rhoddi pleidlais i'r milwr i setlo yr amgylchiad- au newyddion. Yr oedd yr un peth yn wir am y morwyr, mivnwyr, a gweithwyr cad-ddarpai'. Gwynebid Iiwy gan an- hawsterau mawr gyda'r etholfraint. Os gallant hebgor di-idi. bydded iddynt wneud ymgais at hynny. Gyda golwg ar bleidlais i ferched. yr oedd dylanwad y rhyfel wedi newid barn llawer, gan fod gwaith y merched wedi bod yn rhan bwysig o'n llwyddiant. Buasai yn am- hosibl cael y deunydd ar gyfer bnvydr y Somme onibai am y merched. Rhaid fydd estyn y bleidlais iddynt, er mwyn iddynt gael llais yn yr ad-drefniant a wneir. Byddai yn warthnod arnom os e.sgeuluswn hyn. Credaf na byddai pobl y wlad yn foddlon i'w roddi or nailldu. Nid oedd Pwyllgor y Llefarydd yn unfryd, yn neilltuol ar gwestiwn yr oed. Bydd i'r Llywodraeth adael hwn at ddoethineb y Ty. Yr oedd y rhyfel wedi eu gorfodi i setlo cwestiwn y buasai o dan amgylch- iadau arferol yn cymervd cenedlaethau i'w setlo. Bydd yn rhaid i'r Senedd ddewisir ar ol sefydlu heddweh bender- fynu problemau mawr, a hynny yn fuan; a bydd y problemau hynny yn penderfynu cwrs pethau ym Mhrydain a'r Ymerodr- aeth am genedlaethau. Hyderai y byddai i Dy'r Cvffredin sefyll yn ystyriol uwch- ben y cwestiwn, a cheisio setlo y mater mewn ffurf na ddaw y teimladau politic. oidd chwerw j ymwneud ag of. Dvwedodd Mr Bonar Law fod y Llyw- odraeth yn bwriadu cyflAvyno Mesur i sylw y Ty i roddi effaith i awgrymiadau Pwyllgor y Llefarydd.

AI GWLADGARWCH YW? ...

TEULU MR M'KENNA A'U DOGN.

CODI'R TRETHI.

MILWYR AWSTRALIA A GORFODAETH.

HEN IEUANC.

Advertising