Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

PWY FYDD PiA R WLAD ? I

I CRICCIETH.I

i EBENEZER A'R CYLCH.-I

BANGOR. - - -1

LLANRWST.

NODION 0 FFESTINIOG.

News
Cite
Share

NODION 0 FFESTINIOG. Llys Trwyddedau.—Dydd lau, cynhal- iwyd y Llys Trwyddedau. Adroddai In- spector Owen nad oedd ond deg o achosion o feddwdod yn ystod y flwyddyn, ac yn cynnwys y rhai hyn, nid oedd ond (lati- ar-hugain o wysion am feddwdod dnvy Sir Feirionydd yn ystod y flwyddyn 191(5. yr hyn oedd yn leihad mawr ar y flwyddyn | flaenorol Y cyfartaledd yn ystod y pum mlynecld blaenorol ydoedd 83 yn flynyddol. Yr oedd tafarndv ar gyfer pob 671 o'r trigolion yn Ff^feniog. -Mewn rliannau eraill o'r sir yr ocddynt yn amrywio o un am bob 431 i un am bob 301 o'r trigolion. Yn Nyrs. Dymunwn lwydd i Miss Ethel B. Edwards, Park Square, ar ei < gwaith newydd fel nyrs yn Ysbyty Prest- wich Y Cwlwm Euraidd.—Rhwymwyd drwy briodas Mr Edward Samuel, organydd capel Bethel (A.), Llan Ffestiniog, a Miss Rosie Roberts, Bronallt, Llan. Mr Mor- ris Evans, Bryn Olew, weinyddai ar y priodfab, a Miss Laura Pritchard ar y briodasfercli. Yr oedd y Parchn D. Wil- liams ac E. Powell yn gweinvddu yn y seremoni, a cliwareuwyd yr "Ymdeithgan Briodasol" gan Miss Laura Pritchard. Tatws. Da gennym ddcall fod Mr Edward Jones, y Clerc Trefol, wedi derbyn nifer o geisiadau am ddarnau o dir a hadyd pytatws. Mae ychivaneg i'w cael o'u ceisio. Angladd. Dydd lau, hebryngwyd gweddillion Mr T. H. Hughes, vr Arolyg- ydd Cynorthwyol i Yswiriant y Prudential, i dir ei hir gartref. Bu farw wedi bod j yn wael am dros ddeng mis, yn 24 mlwydd oed. Cafodd gladdedigaeth barchus 1 iawn, a chydymdeimlir yn fawr a'i briod a'i ddau bientyn yn eu trallod bJin. Gwas- anaethwyd yn yr angladd gan y Parch It H. Morris. Apwyntiad.—Llong.vfajcInvn Mr Robert Griffith, Tegfan, athraw cynorthwyol yn yr Ysgol Sir, ar ei apwyntiad yn athraw i Ysgol Merthyr. Milwrol.-Deallwn fod y Preifat W. Jones, mab Mr David Jones, ceidwad y N euadd, yr hwn sy'n wael ddifrifol yn Kinme.l, yn dangos arwyddion gwella yn awr.—Mae R. Humphrey Jones, Church Street, adref am seibiant i wella o'i glivyf- au. Cafodd ei enivi a'i ganmol am wrol- deb.Dywedir fod Corporal T. W. Owen, Maenofferen, yr hwn fu mewn ysbyty am chwe i-iiis wedi ei glwyfo, yn barod i fynd i'r ffrynt eto.—Cyrhaeddodd y Preifat Rowland Williams, Cefn Bychan, Tany- grisiau, wedi bod mewn ysbyty am amser. —Mae y Preifat Bob Owen, mab Mr Robert Owen, wedi ei glwyfo eta. Cynilion Rhyfel.—Cafwyd cyfarfod ar gynilion rhyfel ym Maentwrog o dan lyw- yddiaetli y Parch T. A. Williams. Siar- adwyd gaR Mr Edward Rowlands, Pen- nal; Parch T. Gwilym Hoherts) Towyn; a I Mr Haydn Jones, A.S.

I PONTRHYTHALLT.

PWLLHELI.

PENRHYNDEUDRAETH.

ThEM AR HEDDYW.

ITEUUU'P GARREG WEN.

I --BALADEULYN. I

Advertising