Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

BANGOR.

News
Cite
Share

BANGOR. Anrhegu Gweinidog.—Xos Fereher di weddaf, ynghapol Ebenezer, cymerodd achlysur diddorol le, sef cyflwyno anrheg- ion i'r gweinidog, y Parch Ellis Jones, ar ddiwedd ei chwart-er c-anrif fel gweinidog yr eglwys. Cymerwyd y gadair gan y Parch Owen Jones, Nant y Jienglog (gynt o Mountain Ash). Ar 01 < aun ton gyn- ulleidfaol, darllenodd y Parch John Evans (Beulah) ran o'r Ysgrythyr, a gweddiodd. Yna cafwyd araitli gan y II ywydd. yr hwn a ddywedodd fod yn dda ganddo fod yn bresennol ar amgylcliiad mor (iiii- ddorol. Yr oedd yn hen ffrind i'r Parch Ellis Jones, ac wedi bod gydag ef ar lawer achlysur. Yr oedd ef yn weim'dog yn Penlan, Pwllheli, pan ddechreuodd y Parch Ellis Jones bregeth, ac oddiyno yr aeth ef i Goleg Che-shunt; ac o hynny hyd yn awr yr oedd ef wedi bod yn cyinorv;■ rhan ymhob digwyddiad o ddiddordeb yr hanes y gwr oedd yn cael ei anrhegu > noswaith honno. Yna galwodd v Cadeir- ydd ar y Cyn<vhorydd J. P. Griffiths. Con wy, ar ran eglwys Annibynool Conwy, o ba eglwys y daeth y Parch Ellis Jones i Bangor. Mrs J Arthur Williams (fel un wedi ei magu yn eglwys Ebenezer) a gyflwynodd ar ran yr cglwys lestri arian hardd i'r gweinidog a'i briod a Miss Mor- fudd Huws, M.A.. a gyflwynodd ar ran yr eglwys wrist watch i Mr Glyn Ellis Jonc-s (mab), yr hwn a lwyddodd i ddod o Ffraine mewn pryd i dderbyn yr anrheg, a Miss Myianwy Morgan ar ran yr cglwys a gyflwynodd locket ai-ir i Miss Buddug Ellis Jones (merch) a Mrs L. D. Jones, ai- ran ei phlant, a gyflwynodd "case" o communion service i weinyddu cymun i'r claf; hefyd anrhegodd Miss Eardley (Pen- cerddes Arfon) ef a chyfrolau hardd o lyfrau diwinyddol, y rhai dderbyniodd Mr Jones cyn y cyfarfod Diolchodd i bob un yn bersonol am eu rhoddion, a hawdd sanfod fod y rhieni a'r plant dan deimlad Darllenwyd ilyfchyrau i longyfarch yr églwys a"r gweinidog, ac yn gofidio olier- wydd bod yn absenol o'r cyfarfod, oddi- wrth y Parchn D. Stanley Jones a J. Camwy Evans, Caernarfon; H. Harries Hughes, B.A., Tabernacl, Bangor; J. R. Jones, Twrgwyn; Syr Herbert Roberts, Barwnig, Mr S. T. Evans, Victoria Park; Syr Henry Lewis, Belmont; Mr Gwilym Parri Huws, aelod o Ebenezer ac efrydydd o Goleg y Brifysgol, ond sydd yn awr yn gwasanaethu ei wlad ar ysbyty-long ar for y Canoldir. Yna galwodd y Cadeirydd ar y Parch R 11'. Hughes, Lonbopty, i an- nerch y cyfarfod ar ran Pwyllgor yr Eg- lwysi Rhyddion (cadeirydd yr hwn ydyw y larch Ellis Jones), y Parch Lewis Wil- liams, Berea, ar ran Cymdeithas Ddir- westol Arfon y Cynghorydd J. P. Grif- fiths, Conwy, ar ran eglwys Conwy, He bu Mr Jones yn gwasanaethu cyn dod i I Bangor; y Proff. Thomas Rhys, ar ran Coleg Bala-Bangor; y Prifathraw Silas Morris, ar ran y Bedyddwyr; a Dr R. W Phillips, M.A., ar ran Eglwys Annibynwyr | Seisnig Upper Bangor; a'r Parch 0. Madoc Roberts ar ran y Wesleaid; a'r Parch J. Ellis Williams ar ran eglwys Pendref. Hefyd siaradodd y Prifathraw T. Rees, M.A yn galonnogol iawn i'r eglwys a'r gweinidog. Ar gynnygiad Mr Morgan (Deiniol Fychan), yn cael ei eilio gan Mr L D. Jones (Llew Tegid), pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i'r cad- eirydd, yr holl siaradwyr, a'r boneddiges- au gyflwynodd yr anrhegion, ac hefyd i chwiorydd yr eglwys, y rhai oedd wed] gweithio nior ff yddlon ace-gniol tuagat gael yr am hegi on trwy fynd oddiamgyieh i dderbyn cyfraniadau yr aelodau. Ptvr caswyd yr anrhegion (gydag eithriad lle-stri cymun y claf) trwy Mr Lloyd, watchmaker, Williams Street, un o aelod- au Ebene7er Cafwyd cyfarfod hynod ddiddorol a chynulleidfa luosog.

.-BALADEULYN. I

BONTNEWYDD. I

EBENEZER A'R CYLCH. I - .-…

I LLANBERIS.

! ___PORTHMADOG,

CRICCIETH. I

-..-DINORWIG. I

NODION 0 FFESTINIOG.i

Advertising

.....PWLLHELI. !

t————— ! MARCHNAD GWARTHEG-iCONWY.…

MEIRIONYDD A'R DDIOD.

...--FFRWYDRIAD MEWN GWAITH…