Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

Y CABINET NEWYDD.

News
Cite
Share

Y CABINET NEWYDD. O'r diwedd dyma'r I1311 nad oeddym yn ei ddisgwyl na'i ddymuno wedi cymeryd lie, sef symud Mr Asquith o'i le fel llyw ein Llywodraeth. Yr oeddym ac yr ydym eto'n credu mai efe ydyw y dyn eryfaf feddwn fel teyrnas i arwain y wlad yn yr helynt yr ydym ynddo. Gallwn, hwyrach, fod yn y lleiafrif; a diameu gennym y dywedir ein bod yn cyfeiliorni; ond boed a. fynno, am hynny, dyna ein barn a'n hargyhoeddiad onest a digel. Credwn fod y llong wedi colli y Pilot mwyaf pronadol a diogel, a chymeryd yn ei le Gapten galluog, hyfedr, anturiaeth- us, a beiddgar. Hhaid "aros i weled" beth fydd canlvniad y cvfnewidiad. Modd bynnag ni allwn beidio vmfalchio yn y ffaith fod baohgen o werinwr Cym- reig am y tro cyntaf erioed mewn hanes wedi dringo i eistedd ymhrif gadair yr Ymerodraeth. Dyma'r Cymro cvntaf i fod yn Brif Weinidog Prydain Fawr. Beth bynnag all barn unrhyw Gymro fod am dano ef a'i bolisi, os yw'n Gymro o gwbl ni all beidio lloni drwyddo wrth weled un o'i genedl wedi gweithio ei hun- an dnvy ei allu, ei hyfedrwydd, a'i lwydd- iant angliymarol. i'r safle uchaf o anrhvd- edd fedrai ei wlad osod arno Rhaid rhoddi pob syniad, teimlad, a phlaid o'r neilltu, a chydnabod fod y Cymro gwerinol hwn drwy ei ymroad a'i athrylith her- feiddiol wedi agor y drws bellach i Gymry fyned i mewn i safleoedd uchauf y Deyrnas Mae oerddediad cyflym Mr Lloyd George er pan y mac yn y Scnedd wedi gwedd- newid pafle'r Cymro yngolwg y byd. Nid gyda dirmyg a gwawd yr edrychir arno heddyw: ond f("i perchir gan bawb ymhob oylch, ac y mae hynny, i raddau helaeth i'w briodoli i feiddgarwch a llwyddiant ein cydwladwr hyglod Mr Lloyd George Pwy bynnag a wado hyn rhaid fod rhag- farn wedi ei ddallu a'i weinvyno. Fel Prif Weinidog ef bia'r hawl o ffurfio Llywodraeth, ae yn ol gorchymyn y Brenin fe gymerodd Mr Lloyd George y dasg hon wedi i Mr Bonar Law ei gwrthod. t Llawer ydoedd y dyfalu pa liw a llun fyddai ar ei Gabinet, gan fod y mwyafrif o Rvddfrydwyr pwysicaf yr Hen Gabinet yn bwriadu encilio ac 3-11 gomedd aros dan ei arweiniad Fodd bynnag, fel y gwelir ar dudalen arall, fe lwvddodd i ffurfio Llyw- odraeth iddo ei hun eynnwysedig o bob plaid. Y nodwcdd fwyaf arbennig ynddo ydyw y pum gwr wna i fvnv y Cyngor Mil- wrcjl, ar v rhai y bydd yr holl bwysau a'r 4 cyfrifoldeb i gario allan weithrediadau y rhyfel. Mewn gwirionedd, y rhai hyn yn ymarierol ydyw y Cabinet. Mr Lloyd George, fel Prif Weinidog, fydd y IJyw- ydd, ac er mwyn bod yn gyson ag ef ei hun, gosododd Mr Bonar Law yn arwein- ydd i Dy'r Cyffredin Canlyniad hyn ydyw na fvdd y Prif Weinidog yn Nhy'r Cyffredin, ac ni ddisgwylir i Mr Bonar Law fod yn y Cyngor yn rlieolaidd. jNIor bell ag y gallwn weled y mae'r Cabinet yn un lied gryf, ac amryw o el- fennau newyddion ynddo. Caiff y Blaid Lafur gynrychiolaeth o dri ymhersonau Mr Henderson, Mr Hodge, a Mr Barnes, ac amryw o wyr masnac-hol o'r tu allan i'r Senedd Ymysg yr etholedigion ceir Cymro ai-aii., sef Arglwydd Rhondda (Mr D. A. Thomas), yr hwn fydd yn LIywydd ar Fwrdd Llywodraeth Lleol. Mae'n debyg fod Mr Lloyd George yn deall beth i'w wneud g.vda rhai dynion, a sut i'w cael i'r fantais oreu iddo Nid ces ddadl nad yw Arglwydd Rhondda yn wr galluog a dylanwadol, ac mewn argyfwng or fatli ei fod yn bwysig i'w gael yn gyfaill, oher- wvcTd y mae ynddo adnoddau gelyn ofn- adwy os mai felly y bydd. Wrth daflu llygaid dros y Cabinet yn ci grvnswth fe welir fod ei gyfansoddiad cyffredinol wedi newid ei liw. Ceir fod y Toriaid yn y mwyafrif yn awr, yn enwedig yn y Cyngor Milwrftl. I ddibenion rhy- fel, hwyrach mai hwy yw'r goreu; os mai ayna fydd oreu i'r wlad. Yr ydym yn foddlon i'r Cabinet yma gael cyfle i ddangos eu medr, ac "aros i weled" can- lyniad eu gwaith. Ond y mae gennym o galon wrthwynebiad j ddau berson sydd ynddo, sef Arglwydd Milner a Syr Edward Carson. Ni allwn yn ein byw angliofio brawddegau anystyriol y ddau hyn, yn enwedig pan ystyriwn ddifrifwch yr am- gylcluadau a'r cyfrifoldeb sydd arnynt Pwy all angliofio Arglwydd Milner a'i "damn the consequences" with feddwl am y safle a gaiff heddyw yn y Weinyddiaeth ? Tybed ai yr un egwyddor sydd yn ei lyw- odraethu'n awr? A dyna Syr Edward Carson drachefn gyda'i frawddeg, "Gad- awer i ni gael dinistrio'r Llywodraeth." Dyma'r rebelwr oedd a'i holl enaid yn gwrtliwynebu Llywodraeth ei wlad yn Brif I Arglwydd y Moriys heddyw. Nid pcth hawdd ydyw bod yn dawel a hyderus dan arweiniad dvnion o'r natur yma. Yn ol pob golwg y mae'r wiad yn bavod i roddi pob chwareu teg i'r Cabinet new- ydd wneud ei waith; nid oes na phlaid na theimlad i ddod ar draws ei lwybr At hyn y mae gan y Prif Weinidog y xanta's o Foci wedi gweled drwy ffacleddau a gwen- didau y gorffennol, a dylai hynny gyda'r unoTiaeth a'r parodrwydd i gydweithio gyclag ef ei arwain yn 1 lwyddianus i sicr- hau yr hyn sydd ganddo mewn golwg. Mae ganddo dasg galed o'i flaen, ac os na lwydda fe fydd ei gwymp yn fawr, a'r perygl ydyw y bydd ein gwlad heb obaith arall i gyrraedd ei dibenion. sef cael gfoV- uchafiaeth ar y gelyn. Cydnabyddir yn gyffredinol mai Mr Lloyd George ydyw yr unig un posibl sydd gennym yn y Deyrnas i'n harwam Felly y easgliad natuiioi ydyw y rhaid i ni ennill neu golli gyda'r Llywodraeth hon. Mae un peth o'i blaid nid yw wedi methu gyda'r un ym- gymeriad gymerodd mewn llaw, ac y mae hynny yn creu hyder TO y genedl y bydd i'r Cymro arwain y Deyrnas i fuddugol- iaeth mor belled ag y mae curro'r Ger- maniaid yn y cwestiwn. Os daw a'r rtiyfel i ben, rhwvdd hynt iddo.

Advertising

LLANFAGLAN.

: CAERNARFON.I