Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
1°ENNILL Y MWNWYR.I
1° ENNILL Y MWNWYR. Y Llywodraeth yn Caniatau 15 y cant I o Godiad. 11 Mae mwnwyv De ■ Cymru wedi onnili buddugoliaeth fawr eto, a'r Llywi:<!raitn wedi canitau iddynt 15 yn y cant o god- iad, yr liyn a hawlient. Yi- oodd penderfyniad y Llyvc.Iraor h, yr hwn ddilynodd gymeria 1 drosudl y mwnfeydd mor sydyn, wedi cael dylanwad rhagorol ar y bob!. Ystyrir yn awr fod yr a:'gylwti;i yn Caerdydd di-osodd, ac y mae penderfyniad y Llywodraeth wedi newid y sefvllfa yn gyfangwbl. Fel y gwyddis hawliai v mwnwvr 15 v cant o godiad, ond yr oedd y perehenogion yn hawlio 10 yn y cant o ostyngiad. Bu trafodaeth a chynhadleddau lawer ar y mater, ond ni chafwyd unrhyw der- fyniad boddhaol. Yna cymerwyd y mwn-i feydd dros-odd gan y Llywodraeth, a gor chymvnwyd i'r perehenogion gario'n mlaen. ^S;d oedd llyn yn boddloni y dynion, y rhai a ddalient yn dynn at y 15 yn y cant o godiad.
-EBENEZER A'R CYLCH. I
EBENEZER A'R CYLCH. Marw Sydyn,Tadnvcdd 27, yn bur sydvn, heb ddim cystudd, bu farw Mr Evan Griffiths, Pen Clegir (Biyn gynt), yn 78 mlwydd oed. Yr oedd ers amryw flynyddau yn cymeryd ci gi)-ti-ef gyda'i ferch, Mrs Owen Jones, Pen Clegir, yr hon oedd yn hynod ofalus ohono. Teimla eglwys Maesydref golled ar ei ol, er nad oedd yn seren amlwg, eto yr oedd yn ffyddlon; ac fel y dywedai ef, "Yr wyf wedi magu gwell meibion na mi fy hun." Dydd Sadwrn. Rhagfvr 2il, hebryngwyd ei weddillion i fynwent Maepelah Gwas- anaethwyd wrth y ty gan y Parch Hiehard Jones, Brynrefail, a'r Parch J. A. Mor- gan Ebenezer, ac ar lan y bedd gan y Parch William Griffith, M.A., Dis- gwylfa, a'r Parch J. A. Morg.W Cyd- vindeimlir a'i ferch a'i dri mab yn eu prof- edigaeth chwerw a sydyn, Marw Hen Chwaer.—Tachwedd 30, bu farw Mrs Mary Jones, priod y diweddar Mr William Jones, gof, Ebenezer, yn 72 mhrydd oed. Yr oedd yn aelod gyda'r Bedyddivi-i- yn Libamis. Claddwyd ddydd ilawrth, Rhagfyr 4ydd, yn Clwtybont, angladd preifat. Cydymdeimlwn a'i dwy  1 ferch a'i dau fab. Huno yn yr Angau. Rhagfyr 2, bu farw Mr Evan Jones. Tynyfawnog, yn û4! mlwvdd oed Yr oedd vntau yn gnncr- iad tawel a ffyddlon yn Eglwys Dsigwylfa (M.C.). Gedy weddw, yr hon sydd yn llesg ei hieehyd ers tro, dwy ferch, a dau fab i alaru ar ei ol, a'r rhai y mae ein cydymdeimlad. Cyfarfod Dirwestol, Xos Sadwrn, Rhagfyr 2, ynghapel Ebenezer, cynhal- iwyd cyfarfod dirwestol dan lywyddiaeth Mr John Williams, Helen Villa. Caf- wyd can gan blant vr ysgol, dan ofal Miss Kate Hughes, yr athrawes adroddwyd Salm gan blant yr ysgol. Gweddiwyd gan jilr John Edwards; dadl gan Mem Jones, New Street; L. C. Griffith, Tany- ffynnon, ac Isaac Hughes. New Street: adroddiad gan Mary Jones, DryJI; dadl gan W. T. Hughes, V citoria Terrace, ac R. E. Roberts. Victoria Terrace; adrodd- iad gan R. H Jones, New Street: can! gan Ohven Prtichard, Glandwr; adrodd- iad gan Miss Alice Jones, Waen Goch; cyd-adroddiad gan blant o Cefnywaen; datganiad gan barti o Disgwylfa, dan ar- weiniad Wm Roberts, Pont Haiarn; dadl gan Jane Eleanor Jones a Nell Jones datganiad gan Gor Ebenezer, dan arweiniad Samuel Hughes; dadl gan Em- lyn Griffith, R. Ellis Rowlands, Caradog Place, ac Annie S. Morris, Cllwtybont; can gan bartj o Cefnywaen, a chafwyd gair ar ddirwest gan Robert Jarvis.
I TYDWEILIOG A'R CYLCH.
TYDWEILIOG A'R CYLCH. Marw.-Pi-ilniiawn Mercher diweddaf, bu farw Mr E. Williams, Penbrvn Bach, yn 32 oed. Cafodd gystudd caled a phoenus iawn Cwnhingwr ydoedd with ei alwedigaeth, ac yr oedd yn enwog fel gweithiwr llwyddianus. Gedy weddw a tiiri o blant i alaru eu colled drom ar ol gv. r a thad caredig. Mab ydoedd i Mr a Mrs Humphrey Williams. Pengallt. Claddwyd dydd Sadwrn ym mynwent Tyd- weiliog, pryd y gwasanaethwyd gan ei weinidog, y Parch J. W. Jones. B.A., a rhreithor Edeyrn, y Parch Bangor Jones. Yi- oc-cld y cynhebrwng yn un anarferol o fawr. Gwaeledd—Mae yma lawer o wacledd yn y cylehoetld hyn, yr hen elyn, yr in- fluenza. yn goddiweddyd hen ac ieuanc. Ac o bawb, mae ein meddyg poblogaidd, I Dr R. H. Grffiith. Kehn, dan anwyd trwm. Dymuna'r wlad iddo wellhad buan
CENEDLAETHOLI'R DDIOD.r
CENEDLAETHOLI'R DDIOD. r CYFARFOD CYHOEDDUS YNG NGHAERNARFON. LLYTHYR ODDIWRTH MR LLOYD GEORGE. Dydd Sadwrn; yn y Guild Hall, Caer- narfon, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus i hyrwyddo pwrcasiad gwladwriaethol a rheoleiddiad y Fasnach Feddwol, o dan lywyddiaeth Mr J. E. Greaves, yr Ar- glwydd Raglaw. Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi ei argvhoeddi, ar ol profiad lied helaeth ynglyn a'r mater o weinyddu trwyddedau, mai oenedlaetholi y fasnach feddwol yd- oedd yr unig foddion priodol, doeth, ac uniawn gyda phenderfvnu y broblem gyn- nyddol o ddiwvgiad dirwestol (cym.). Byddai i Bwrcasaid Gwladwriaethol, os daw hynny i fod, a hyderai'n gryf y deu- ai, wneud i ffwrdd ar un tarawiad a'r clytwaith dyrus ein deddfau tnvyddedol Rhwystr mawr i bob diwvgiad yn y cyf- eiriad hwn ydoedd y buddiannau serydlog oeddynt wedi tyfu i fyny ac yn cael eu meithrin gan rcolau henafol ceddynt ar hyn o bryd yn rheoleiddio y fasnach. Byddai i'r buddiannau sefydlog livil barhau i fod yn feistriaid ar y safle hyd nes y ffurfid cynllun fyddai yn rhoddi rheoliad deddfau gwirodydd yn rhydd yn nwvlo'r etholwvr, ac na ddylai wneud ang- hyfiawnder ag unhyw ddyn, g iiiiii-w d d l-n. Darllenwyd y llythyr canlynol oddiwrth Mr Lloyd George :— Annwyl Ellis Davies, --Deallaf fod Syr Thomas Whittaker i annerch cyfarfod yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn ar y ewes- tiwll o Bwrcasiad Gwladwrriaetholl a rheol- eiddiad irasnaell y gwirodydd yn eiii gwlad. Ma-e fv ngolvgiadau ar v cwestiwn hwn yn berffaith liysbys, a rhydd blcser mawr i mi i anfon fy llongyfarchiadau calonog a'r gobeithion goreu am hvyddiant ar eich cyfarfodydd Er dechreu yr ym- drechfa ofnadwy yr ydym ynddi, y lilile pwysigrwydd y cwestiwn hwn wcdi dod yn fwv bob dydd. Ilao ymdrech ion arbrofol eisys wedi eu gwneud i'r cyfoiriad ynia gan y Bwrdd Llywodraethol, yr hwn, fe gredaf, sydd yn barod wedi cynyrchu can- lyniadau rhagorol yn v lleoedd y maent wedi eu cario allan. Yn awr, gan fed y broblem bwyd yn dod bob dydd yn fwy pwysig, y mae problem y gwirodydd yn dod i wisgo agwedd newydd, a rhaid i'r genedl fod yn barod i weled fod cynnyrch amaethyddol yn cael eu rhoddi i'w gwas- anaeth fwyaf ymarferol. TeimJaf yn sicr y bydd i'r ystvriacth qwyrÚg hon gacl trafodaeth lawn yn eich cyfarfod. Mae araith Canghellor Germani wedi ei gwneud yn giir foil nohl Germani yn barod i ddioddef unrhyw aberth i sicrhau eu y thai, mae'n amlwg y maent yn parhau i'w hanwesu. Y mae gennyf bob ymddmed y bydd ein evdwladwyr yn barod ] wneud aberthau hyd yn oed mwy na"; rhai llyn i sicrhau buddugoliaeth o' egwydlorion mawrion hynny o ryddid a chyfiawnder sydd wedi bod bob amser yn etifeddiaeth werthfawr ein pobl.—Cvcdwch fi i fod eich cywiraf, e. LLOYD GEORGE. Pan gododd Syr Thomas Whittaker caf- odd dderbyniad gwresog. Dywedodd fod Dirprwyaeth Frenhinol wedi ei hapwyntio 20 inlynedd yn ol ar drwyddedau. Eis- teddodd am dair blynedd, a chyhoeddodd ddau adroddiad, ac arwyddwyd ad- roddiad y mwyafrif gan wyth o berson- au, a phob un ohonynt yn bersonol gyda'r fasnach. Yn adroddiad y mwyafrif dy- wedid, "Erys drwg anferth i'w wella." Yr oedd hyn 17 mlynedd yn ol, ac eto yn awr pan yr ydym mewn rliyfel gwariwyd gennym yn ystod y flwvddyn ddiweddaf 1821,000,000p ar wirodydd. Wedi y rhyfel byddai yn rhaid i'r wlad hon wynebu CYS- tadleuaeth ddiwydiannol chwyrn, ac mewn trefn i ddal i fyny ein safle ddiwydiannol yr oedd yn rhaid i ni fod mewn safle i wneud ein goreu r clyweh, dywch). Yr oedd 40 mlynedd o ddeddfwriaethu wedi cynnyddu ein hanawsterau cyllidol i ddelio gyda'r mater hwn. Pan ddech- reuant feddwl am dynu i luwr nifer y taf- arnau yr oeddynt yn cynnyddu gwerth y tai oeddynt yn aros, ac ar yr un pryd yr anhawster ariannol o ddelio gyda lnvy. Hyn, mewn gwirionedd. ydoedd yr achos o ffurfiad y ewmniau darllawol mawrion aJ; buddsoddiad ynddynt o gymaint o arian y cyfranddalwyr. a'r buddiannau ariannol eang yehwanegiad felly i anhaws- terau gwirodyddol ydoedd y canlyniad o'r ymdrech i leihau nifer y tai trwyddedol. Yn ei fa i-n ef y buddiannau ariannol o'r fasnach ydoedd y rliAvystr mawr i ddiwyg. iad Yr oedd y bobl hyn yn y fasnach i'r nn ]);vrpas ac am yr un rheswm ag vr oetT3 rhvwun arall—i wneud arian, a'r canlyniad ydoedd eu bod yn gwrthsefyll, csgoi, a gwrthwynebu pob ymdrech i gyf. yngu ar eu masnacil. Yel mater o ffaith yr oed'' yr holl wrthwynebiad r waith y Bwrdd Rheoleiddiol Canolog wedi dod yn I hollol oddiwrth fasnach y gwirodydd a 1 chlvbiau y gweithwyr. Ni fu gwrth- vvynebiad arall. Cyn Deddf 1904 safle gyfreithiol y tnvyddedau ydoeoo eu bod it i'w caniatau am flwyddyn ac y gellid atal adnewyddiad gan yr ynadon. Y safle yn awr vdvw na ellir cael torri trwydded oddjeI:th dnvy gamymddygiad; ;mibai I fod yna ddigon o arian i dalu awnd?ll. Golyga hyn fod yna fudd cyfreithiol yn cael ei roddi i drwydded-ddahvyr, ac yr II oedd y safle wedi cael ei newid yn llwyr o'f safle gyfreithiol i edrych arno. Mae poffidiau wcdi eu gwneud, ac eiddo wedi eu pJ-ynu a'u gwerthu, ac y mae safle I v trwydded-ddalwyr wedi ei gad arnhau gan y gyfraith fel y saif yn awr fel ag yr oedd safle y diwygwyr dirwestol lawer yn waeth nag ydoedd yn 1908. Ond yr oedd yn rhaid iddynt wynebu y scfyllfa. Beth oeddynt yn mynd i'w wneud. Dywedai rhai cyfeillion mai gwahardd y fasnach. Ond iii allant. wneud hynny nes cael I deddf drwy'r Senedd. Daliai na ellid gwneud hynny yngwyneb y safle gyfreith- iol, yr hon oedd yn hollol wahanol fr hyn fodolai yn Sgotland, heb rybudd, yr hwn na ddeuai j ben yn ystod eu bywyd, ac iawndal oedd yn rhaid dod allan o gron- feydd y cyhoedd. Cytunai y dylid anelu at y ddelfryd, ond eu dyledswydd ydoedd j I cymeryd mantais ar y c-yfleustra a gwneud yr hyn oedd bosibl (cym.). Ar bob cyf- rif gadawcr i ni gael Gwaharddiad Lleol, ond lie na ellit- ei gael eu dyledswydd yd- oedd rheoli a chyfyngu y fasnach fel na byddo y canlyniadau ond yn gwneud y niwed Ueiaf yn bosibl. Ynglvn a'r syniad o bwrcasiad, dywed- odd y dylid mynu fel alllod pwrcasiad fod y gallu yn cael ei roddi i bob ardal i ddweyd drwy waharddiad cyhoeddus prun a oedd arnynt angen y fasnach ai peidio, a hawliai i'r cynllun fel cyfangorff v byddai yn symudiad ymlaen i ddiwvgiad cvmdeithasol, yn enwedig ymysg y dos- bartli diwvdi. annol (cym ). Creda] Mr Ellis Davies, A.S., fod Syr Thomas Whittaker wedi rhoi achos an- wrthwynebadwy dros genedlaetholiad. Yr oedd yn broblem gymdeithasol anferth, a chysylltiad lawei- o'r drwg a'r trueni ddeuai dnvy ymyfed i ystad alaethus tai mewn amryw fanau o'r wlad. Credai cs oeddym am fyned o ddifrif am ddiwvg- iad y dylid cael tai priodol i fyw ynddynt, a' chredai fod y bobl yn fodloa talu am danynt onden cael. Yn bersonol, yr oedd yn barod i bleidielsio, dros wahardd- iad uniongyrchol, ond a oedd yna unrhyw un yn bresennol gredai fod gwaharddiad yn ymarfercl yn Nhy'r Cyffrediii? Yr oedd yn ffafrio Cenedlaetholiad am y 1 credai mewn givahaiddiad, ac na ellid I gwhardd heb gydsyniad y bobl. Cynnygiodd y Parch T. Hughes, Felin- hel), y pendorfyniad canlynot: "Fod y I c-farfod hwn, yngwyneb y drwg eviii(leitl;_ a-?il mawr godai aHan o'r fasnach fed(hV-1 01, a'r angen am gymwyster cenedlaethol, I yn galw ar y Llywodraeth i gymeryd camrau i wneud i ffwdd a phob budd preifat yn y fasnach a chaniatau i ethol- wyr benderfynu ei gwaharddiad yn eu cylchoedd eu hunain." Eiliwvd gan y Parch E. B. Jones, Caer- b i. Gofynodd y ParCh Lewis Williams, Ban- gor, am ganiatad i roi gwelliant; ond gwrthodwyd ef ar y tir fod amryw, wedi mynd o'r ff. farfod., Pasiwyd y penderfyuiad gydag ychydig o wrthwynebiad
ICYFARFODYDD HEDDWCH. I
I CYFARFODYDD HEDDWCH. I Mae C yngrair ilwnwyr Do Cymru vn adrodd yn swvddogol nad oes a fynont. a Chyfarfod Hedrhvch Alcrtliyr f.ydd i'w gynnal y-dydd Sadwrn nesaf.
DYFFRYN NANTLLE. I
DYFFRYN NANTLLE. Newid Pwlpudau.—Bu liewio pwlpudau yn Soar (A.) a Bethel OLe.) gyda'r Parehn J M. Williams a W. Elias Vil- liam's. Arwydd dda ydyw, a gobeithio y ceir yn amlach ac yn fwy cyffredinol. Liawfeddygaeth. — Yr wythnos ddi- wedtiaf aeth Mrs David Roberts, Snow- don Street, Penygroes, i Lerinvl dan weithred lawfeddygol. Dymunwn i'r chwaer adferiad buan Gwasanaeth. Nos lau diweddaf yn Libanus, Rhostryfan, bu Miss Mailt Wil- iiams, Pcnygroes, a Mr O. W. Francis, Laladeulyn, yn gwasanaethu- mewn cyng- I prdd, a chawsant hwyl ardderchog yno. Damwain Angeuot.- Tachwedd y 27ain, tra yn (lilyn ei alwedigaeth yn Cliwarel Dorothea, cyfarfyddodd Mr Hugli Ro- berts. Clogwyn Lodge, a damwain angeu- ol. Yr oedd yn 51 mlwvdd oed, Dydd lau cynhaliwyd y cwpst dan ai-olygiaeth Mr 0. Robyns Owen (Crwner). Dych- Avelwyd rheithfarn iddo gwrdd t'i ddiwedd drwy ddamwain. Rhoddwyd ei weddill- ion i envedd ym mynwent Machpelah, P< iiygroes Gwasanaethwyd gan y Parch 1. )1. Williams. Soar. Cydymdeimlir yn fawr a r tenJn yn eu profedigaeth chwerw. Angladd.—Dydd ^lawrth hebryngwyd y diweddar Mr Edward Griffith, LJwyndii Road, Peuvgroes, i fynwent Machpelah. Gwasanaethwyd gan y Parch J. M. Wil- liams (A.) ac R. J Parry (W.).-Hefyd, Mrs Mary Griffith, Llwyndu Road, yr hon a fu farw yn < 8 mlwvdd oed. Gwasan- aethwyd gan y Parch J. M AVilliams, yn ¡ -N, f Wil l iiiiis, 3-n absenoldeb, v Parch W. Elias Williams oh envy dd gwaeledd. Y Ddrama.—Mae Cwmni Dramayddoi Penygroes wrthi hi H'U hol egni yn paro- toi ar gyfer rboi pefformiad o'i- 'Fei-ch o Gefii *vflfa." Ceir dau berffomiad, un ym Mhenygroes. Rhagfyr 14, a'r llall yn Nhalysarn, Rhagyfr 15. Yn Symud.—Chwith gennym feddwl am Talvsarn heb Mr David Thomas. Deall- wn ei fod yn symud am Wrecsam ddydd Gwener i weithio ar ffei-iii. Cellit- dwreyd ci fod wedi bod yn ddyn ieuanc hynod o wasanaetltgar yn y cvlch, ac yn frawd sy'n anodd ei hebgor. Nid oedd unrhvw abarth yn ormod ganddo i'w wneud er mwyn dyrchafu ci gyd-ddyn; anghofiai ei liunaa mewn gwasanaeth i eraill, a cherddodd hvybr y groes yn hollol ddi- rwgnach ac ewyllvsgar. Bydd y golled ar ei ol yn fawr, yn fwy nag v mae fawr neb yn ei feddwl, Yr oedd y safle a gy- merai yn amhoblogaidd, mae'n wir, ond odditani yr oedd cydwybod, argyhoeddiad, ac ogwyddor. Gellir dweyd am dano heb ofni gwrthwynebiad ei fod yn un o ddYll- ion puraf y dyffryn o ran meddwl, amcan a gweithred. Dymunwn iddo hit- oes a lhvvddiant, a gobeithio y cawn ei weled yn dod yn ol atom yn fuan.
LLANBERIS.
LLANBERIS. Apwyntiad.—Mae Pwyllgor Sefvdliad yr Eglwysi Rhyddion ym Mharc Kiniiiel, c agorwyd yn ddiweddar gan Nli, Lloyd George, wcdj apwyntio Mr W. H. Jow", Lfaubeis, yn rheolwr trigiannol iddo
PONTRHYTHALLT.
PONTRHYTHALLT. Adref, Da oedd gennym gwrdd a'r Preifats Griffith Caradog Williams. Der- Iwyn Griffith a W. H. Roberts, Llvs Meirion, adref dros ychydig seibiant, ac yn edrych yn dda. Gobeithlu nos Fawrth, Tach. 28, dan lywyddiaetli y Parch W. J. Roberts, Deehreuwyd trwy ganu ton gan y plant ar v geiriaa "Per Hosanna, jlr Grifntii Pritchard yn ar ¡va.in. Yn ddilynoJ cafwyd adroddiad "Y Llwvbr Uiiig"' gan Ohven Roberts. Wedi i Annie Williams ganu "Hosanna," mewn canu ton ar yr olwg gyntaf, dyfarn- odd y beirniaid, Mi*i Griffith Pritchard a David Hughes, Richie .Tones a Mary Ellen Jones yn gydradd gvntaf, a Megan Lloyd yn ail, Hhoddwyd eanmoliaeth iddynt am ganu mor ragorol ddarn oedd dipyn yn anhawdd. Yna, rhoddodd Jaiio Williams aroddiad ar y testun "Balchder." Dy- mnnol oedd gwi ando y plant yn canu gyda brwdfrydedd rai o donau y Gymanfa. Wedi adroddiad ar y testun "Y Saboth Sanctaidd" gan Emlvn Davies, cafwyd can gan Mary Ellen Jones Diddorol ac adeiladol i'r plant a phawb olionojn oedd y wers ar y Modulator gan Mr David Hughes. Diwcddwyd trwy i bawb ym- grymu a chunu "Y Weddi Apostolaidd." Uniad.—Prynhawn Sadwrn, yn Eghvys Llanbeblig, Caernarfon, gan y Parch J. W. ^'ynne Jones, J.A., nccr. unwyd Preifat T. T. Morris, 11 Canadian Mounted Rifles, ac Arthur Terr., Penis- a'nvaen, a Miss Mary Jones, Llaingro, Llanrug, S.O. Gwasanaethwyd ar y priodfab a'r briodasferch gan Sappers Mackentry a Chesterfield, R.E., Caernar- fon, a Misses Williams, Harp Inn, Caer- narfon, a Jemima Morris, Arthur Ten-, 0 galon dymunwn eu llwvdd. O'r America. Cyrhaeddodtl ein hen gyfaill Mr Hugh Jones, Cae Corniog, o'r America. Deallwn fod fTawd wedi gwenu arno, a'i fod yn edrych yn gampus. Angladd.-A.gladd preifat oedd eiddo y diweddar Mr Benjamin Jones, cigydd, Peni,,a'i,wiieit Yr oedd wedi gadael ei 71 mlwydd oed,. ei briod wedi ei rag- flaenu tua titil- blynedd yn ol. O'i ol y mae un ferch ac wyr ac wyresau, a llu o deulu arall, yn teimlo chwithdod. Ar Ymweliad.—I)a oedd gennym weled Mr Wm. H, Williams, Arfryn, adref o'r Iwerddon, lie y mae yn gofalu am yr hecldwch gyda'r milwyr; hefyd ei frawd, Edwin Williams, yntau yn yriedydd ar linell y L. and N. W. tua Birkenhead. Y ddau yn edrych yn rhagorol. Darr.wain.-Anff awd i'w droed gadd ein hen gyfaill Mi1 0. E. Williams, Arfryn, tra'11 dilvn ci orchwyl yn y chwarel. Deallwn ei fod yn gwella yn dda. Gwaeledd. Drwg gennym ddeall fod Mrs Ann Williams, Cae Bach gynt, wedi ei goddiwes gan waeledd blin yn ei char- trcf clyd yn Min y Pare, Bryngwyn. IJan- rug. Gwella fo ei rhan.
CWMYGLO.
CWMYGLO. Adloniadcl.—Cynhaliwyd cyfarfod ad- loniadol yn Tabernacl nos Fawrth, yr 28ain o Dachwedd, pryd y cafwyd cynull- iad lluosog dan arweiniad Nli, Owen Henry Jones, New Street, pryd y Uanwyd y gad- air gan Mr Robert Angel, The Stores, Cwmvglo. Dat-ganwyr: -Aliss Annie Grif- fiths, Cwmyglo; Miss Myfanwy Williams, Miss Lena Thomas, Miss Winne Pritchard, Miss Winne P. Davies, Miss Katie Grif- fiths, Clwtybont; Mr Robert Pritchard, Mr Hughie Hughes. Master Willie D. Williams, Mr Robert Price Jones, Mr Richie Hughes. Hefyd cafwyd solo ar y coruet gan Mr Robert Pritchard. Caw- som wledd gan v canwr penillion poblog- aidd Mr Joseph Jones, Brynrefail. Ad- roddwyr: Mrs Thomas, Cwmvglo; Miss Olwcn Parry Jones, Mr Samuel Griffiths, Clwtybont. Parti dan arweiniad Mr Owen Henry Jones, Cwmvglo. Cyfeil- iwyd yn fedrus gan Miss Owens, B.A., Brynrefail. Diolehwyd yn gynneis bawb bawb am eu gwasanaeth gan Mr John Pritchard a Mr Robert Morris Robei ts, Ar Ymweliad.—Da oedd genny:,i weled y milwyr canlynol adrer ar ymwe^aii, ac yn edrych mor dda:—Preifat Mo ris Ho- bertswGelynen House; Preifat Robert Thomas, Bron Gadair; Preifat John Roes Owens, New Street, o Oswe^oty ac hefyd i Signaller Tommy Hughes, Tanvgraig, o Kinmel Park, yntau wedi bod yn ymiadd yn y ffcsydd yn Ffrainc am drcs wyth mis. i wwenydd mawr weled Preifat John R. Hughes, Terrace. adref o ysbyty Manceinion, wedi gwella o'i I glwyfau ar ol brwydro yn nllir Ffrainc.
1 - -GROESLON.,
GROESLON. oywiro.—jurwg gennym i ni wneud cam ag adroddiad Cwrdd Coffa Gosen drwy adael enw Preifat Owen John Eames, mab Mr a Mrs John Eames, Shop Isaf, Groes- Ion Mae dau fab arall gyda'r fyddin, un yn Ffrainc a'r llall yn ymbaratoi. Ein hamryfusedd ni yn y swyddfa sy'n I gyfrifol am y camgymeriad. Cafwyd cyf- arfod rhagorol yn Gosen, a'r He yn llawn. Methai pawb a deall natur y cyfarfod; ond cafwyd boddlonrwydd arbennig, a siaradwyd yn gampus ac i bwrpas gan yr oil a gymerodd ran. Gofynodd y llvw- ydd i bawb godi at- eu traed i ddangos eu cydymdeimlad a'r teuluoedd trallodedig, a gwnaed hynny yn ddioed. inti, Rowland J. Tli0111 as, G. and L,, arweiniai y canu, a chyfeiliwyd gan Mr J. W. Roberts, Tyddyn Dafvdd.
I PENISA'RWAEN.
I PENISA'RWAEN. I Adref 0 Ffrainc. Da oedd gennym weled y Second Lieutenant Hugh R. Jones, B.A., Welsh Regiment, mab Mrs Jones, Pantafon, Penisa'rwaen, adref o ffosydd Ffrainc. Mae yn edrych yn dda. Cyn ymuno yr oedd yn athro mewn ysgoL yn Camo. Dringodd i'r safle y maj yn- ddo ar ei gymwysterau ei hunan yn hollol, a dymunwn rwyddineb iddo fyned yn uwch eto.
Family Notices
> GENI, PRIODI. MARW. PRIODI, Howells-Williams-Tach. 29, ynghapel Brynmenai, Felinheli, Mr INr. E. Howells, 32, Now Street, Cacrnarfon, a Miss Lena Williams, Brynhwylfa, Peny- groes. MARW. Williams-Tadl. 29, Mr Evan Williams, Penbrvn Bach, Tydweiliog, yn 32 mlwydd oed. Griffiths-Tach. 27. Ili, Evan Griffiths, Pen Clegir, Ebenezer, yu 78 mlwydd oed. Jones—Tach. 30, Mrs Mary Jones, priod y diweddar Mi Wm. Jones, gof, Eben- ezer, vn 72 mlwydd oed. Jones-Rhagfyr 2, Mr Evan Jones, Tyn- yfawnog, Ebenezer, yn 64 mlwydd oed. ER COF SERCHOG Am Mi s Margaret Richardson, 32, Orme Road, Bangor, yr hon a. fu farw Tach. 28, 1915. yn 77 mlwydd oed. lma, rym mewn hiraeth calon Gweld y gadair wag o hyd, Byth er pan yr acth drwy angau, Xid yr un yn awr yw'r byd; Colli wnaethom ei gwên siriol, Colli calon dyncr, dda; Ond mae'r tywel i'n mewn hyder Fod ei lle'11 dragwyddol Ha! —Ei Phriod a'i Plilant. ER SERCHOG GOFFADWRIAETH Am Preifat Thomas MaeJor Davies (Tommy), anmvyl fab Mr a Mrs Davies, 6, Victoria Street, Caernarfon, yr hun a fu farw Tachwedd 30, 1915, tra yn gwasauaethu ei wlad yn Gallfpoli Royal Welsh Fusiliers. "Cariad nuvy 11a hwn nid oes gan neb, sef bod i un roi ei einioes dros ei gyfettlioij. — Ei j dad, Isaac Davies.
Advertising
J. FLETCHER, LTD., I MEMORIAL WORKS, I CARNARVON 3 BANGOl S n — wi urn itnmjf Argralivvjd a diyhoeddwyd gan Owmui y Dinesydd Cymreig, Cyf., yn 16, Palace Street, Caernarfon.