Hide Articles List

12 articles on this Page

0 FETHESDA I DDE AFFRICA.…

News
Cite
Share

0 FETHESDA I DDE AFFRICA. I HANES Y DRYDEDD DAITH. I i (Gan Mr J. MOSES JONES, Coed y Parc.) Cychwynais o Goed y Pave, a hod yn fanwl, ar ddydd Mawrtli, y 27ain o IV- hefin, 1916, "yda'l' dealltwriaeth y bvddai j fy "mhassport" wedi cyrraedd; ond ni ddaeth, a bu raid troi yn ol a gweithio llawer ar y gwifrau fel ag i aUu cyfarfod y llong yn Plymouth. Llwvddwyd, a chychwynais yr ail waith ar y 29ain, fel ac i fod yn y llong am 9 o'r gloch fore y 30ain Cefais ddau gyeliwyniad tywysogaidd. Daeth nifer dda o gyfeillion a chyfeillesau i fy ngweled i ffwrdd, ac yr oedd eraill ar y ffordd yn ehwifio on cadachau fel arwydd eu bod yn dymuno yn dda i mi: dyna wnaeth Tenorydd y Bryniau a Mrs Tho mas. Ond teg ydyw dweyd fod y Tenor ydd wedi bod yn gynt nac arfer y diwr- nod eyntaf a nodwyd i ddod i'r station. Daeth rhai o'r cyfeillion gyda mi mor bell a Bangor, sef fy hen gyfaill Mr H. Edwards a'r Parch T. Jones Hughes, a gwaith anhawdd oedd dweyd ffarwcl. (fefais gwmni diddan iawn o Fangor i Euston, sef Mr R. T. Jones, ysgrifennydd gweithgar a llwyddianus Undeb y Chwar- elwyr. Yr oeddwn wedi clywed llawer am Mr Jones a'i allu fel arweinvcld, ac ni chefais fy siomi ynddo. Argraff ei fod yn arweinydd doeth a phwyllog sydd wedi ei adael ar fy mettdwl ar ol cael ei gwmni am ychydig oriau yn y tren. Cyrhaeddais ddinas Llundain am ddeg o'r gloch y nos, wedi bod agos i awr ar ol yr amser; ond yn ddigon buan i ddal tren hanner nos o Paddington am Plymouth. Gan nad oeddwn yn gyfarwydd a'r ffordd o Euston i Paddington, a'i bod yn gwlawio gyda hynny, cymerais y "Taxi," ac un ofnadwy am lyncu pres ydyw "Taxi" TJlundain. Mae yna fath o gloc yn cael ti weithio oddiar yr olwynion, yr fiwn sv'n dweyd faint raid i chwi dalu wedi "cyrraedd pen y daith. Ceir y pris am y fiTidir gyntaf arno cyn cychwyn, ac yna y mae'n codi bob chwarter milldir ychwanegol, ac fe synech mor fuan y mae'r pris yn codi; fel pe buaseeh yn teithio am hanner diwrnod gydag ef, buasai wedi myned a gryn lawer yn rliag- or na phe buasai "Taxi" Joseph Roberts, Bethesda, yn myned a chwi "round y pass." Ond pa un bynnag am hynny, yr oedd yn jhaid cael i Paddington. "Wedi i'r amser apwyntiedig ddod, sef hanner nos, cychwynais am Plymouth. Ac os oedd tren Bangor wedi bod yn gy- medrol yn ei cherddediad, yr oedd lion yn fwy felly, canys bum agos i saith awr yn trafaslio dryw 270 o ftlldiroedd. Nid bychan oedd fy mhryder yn cyrraedd yno gan ofn fod Syr Edward Grey wedi ang- noíÏo anfon trwyuued i mi fyned allan o'r wlaa, ac i'm hamddiffyn fel deilydd o derm as Prydain Fawr. Ond chwareu teg iddo yr oedd wedi fy nghofio, ac wedi an- fod i'm cyfarfod, a rhoddi ei enw a'i sel wrtho" ac at hynny wedi rhoi fy llun wrtho rhag ofn i rhyw John Moses arall gael gafael arno. Mae hyn yn brawf ein bod yn dipyn o gyfeillion. Ar ol cael y pethau angenrheidiol yma, cefais bob rhwyddineb i fyned i'r llong, yr I hon oedd ym Mau Plymouth er y diwrnod blnenorol. Yr oeddwm yn gorfod myned i'r Hong am 9 o'r gloch yn y bore, a dyna'r unig gyfleustra er iddi aros yn y Bau hyd 5 o'r gloch yn y pi-ynliavi-ii. Mae golwg dipyn wahanol ar long yn cychwyn allan i'w thaith heddyw nag a welais yr un tro o'r blaen. Ceir y cycliod i gyd yn hongian wrth raffau yn barod i'w gollwng i'r dwfr ar y rhybudd lleiaf, a phopeth ynddynt ar gyfer bod ynddynt am amser lled faith. Peth arall, rhoddir gorch- ymyn i bawb roddi lifebelt am dano, o'r lleiaf i'r mwyaf, a'r swyddogion yr un toodd, o'r capten i lawr. Wedi i bawb roddi y rhai hyn am danvnt, daw y capten heibio, a phawb yn sefyll fel y bydd mil- wyr mewn "attention. Yna rhydd or- chymyn i bawb sydd ganddynt wragedd a phlant i fyned i un oclir, a phawb sydd yn myned wrthynt eu hunain i'r ochr arall. Wedi hynny y mae yn dweyd beth fydd yr anvyddion a roddir i adael y llong, sef y byddai clychau y JIong yn canu, a'r "steam whistle" yn cael ei chwythu. Teimlwn wrth fyned trwy y pethau hyn fel pe buasent wedi dod yn ffeithiau oy1 weddol, ac yn bur anffoddlon i gychwyn y daith gan mor bwysig yr oedd y peth yn ymddangos ar y pryd. Ond gobeithio y bydd fel un amgylchiad arall yn fy hanes y cofiaf fod ynddo. Ychydig flynvddau i yn ol yr oeddwn ym MJaenau Ffestiniog I mewn Cynhadledd, a rhoddwyd fi i gysgt4 gyda chyfaill. ni ddywedaf o ba le. Ond pan ar fin myned i'n gwely dyma fe'n dweyd wrthyf fod ei wraig wedi rhoi gorchymyn iddo ddweYd wrth bwy bynnag I y byddai yn cysgu gydag ef y byddai yn arfer a gwaeddi yn ei gwsg, rhag i'r per- son hwnnw, pwy bynnag fyddai, gael braw Fel canlyniad ni chysgais drwy y noson honno, gan fy mod yn disgwyl am y waedd; ond ni ddaeth drwy drugaredd. Gobeithio mai felly y bydd yn yr amgylch- ia tiv.n er wedi cael rhybudd, hyderaf na fydd anpon am gario allan y cyfarwvdd- iada ii. Mae Ylila nikv t'awr o deithwyr, a llawer o a plilarit, rhai ohonynt yn -Tell anc iawn. Ceir fod mwy o "nerye" gan fneh nag y mae llawer yn ei dybio. Er nad oes ond rhyw ddwy awr er pan ydym wedi cychwyn, yr ydym allan o olwg tir yn ljarod, a'r mor braidd yn uchel, a'r llong fel meddwyn ai- ei wyneb. Gobeithio nad aiff yn waeth nea fc fydd y pwcedi ar waith yh fuan Y r wyf wedi gweled amryw "destroy- es" yn bii-od,v maent yn dyfal wyJjo na ddaw y pelyn i aflonyddu arnom. Dyna fel yr nyf wedi treulio i fyny i saith o'l' gloch y S lain o Fehefin. (I'w barhau.)

CYMRO YN LERPWL.

) PEARS' ANNUAL AM 1916.

I 0 MESOPOTAMIA.

I CRICCIETH.

I NODION 0 FFESTINIOG.

.-..-PWLLHELI. I

PORTHMADOG.

I PENRHYNDEUDRAETH.

I PENMAENMAWR.

WEDI YMGROGI. I

Advertising