Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
27 articles on this Page
BETHEL.
BETHEL. Ymadael. Mae Miss Gwennie Wil- liams, Shop, Bethel, wedi myned i ys- byty ym Mangor er cesio gwellhad i'w hiechyd. Adref.-)-i- wythnos dcliweddaf gwelsom Preifat Wm. Davies, Seion, a Preifat John Griffith adref am yehydig seibiant. I'r Eurog Fyd. Ynghapel Bethel, dydd Iau diweddaf priodwyd Preifat H. Cyrus Hughes, Lhvyn Celyn, a Miss Mary Jane Davies, Llanrug. Gwasanaethwyd gan y Parch John Richards, y gweinidog Rhwydd hynt iddynt yn eu bywyd new- ydd.
Advertising
At ein Darllenwyr a'n Dosbartbwyr Oherwydd fod taer ddymuniad arnom gan lawcr i newid y dydd- iad er mwyn cael y newyddion diweddaraf cyflawnaf, bydded hysbys o hyn allan mai DYDD MERCHER yr argreffir y "Dinesydd," a Dydd Iau iydd ei ddyddiad.
•DYDD LLUN.
DYDD LLUN. Y RWMANIAID I Dengys yr adroddiadau diweddaraf i'r gorllewin a'r de-orllewin o Bucharest fod y gweithrediadau wedi troi yn ffafriol i'r Rwmaniaid. Yng nghymydogaeth Drage- nesti y maent wedi trechu adran o Dyrc- iaid a'r milwyr Germanaidd-Bwlgaraidd yn rhanbarth Ghimpati. Gorfodwyd y gelynion i encilio, a chymerwyd nifer o garcharorion deunydd rhyfel. I'r gogledd-ddwyrain o'r brifddinas y mae'r Germaniaid yn Tiawlio lhvyddiant mawr, ac y mae'r Rwmaniaid eu hunain yn addef eneiliad yn y rhanbarth.
BRWYDRO YN ATHENS. I
BRWYDRO YN ATHENS. I Ymosodwyd ar y Ffrancwyr laniodd ddydd Gwener gyda'r Llynghesydd du Fournet ddydd Sadwrn gan filwyr Groeg yn Athen. Bu cryn frwydro, ond ni achoswyd colledion lawer. Dechreuodd y Llynges ar ei bombardio, a disgynodd dwy o'r pelennau yn agos i ganol y ddinas. ..Mae'r Llywodraetli wedi cynnyg rlioddi i fyuy chwech o'i bateries mynydd ond x mae Gweinidogion y Cyngreirwyr yn dweyd fod y mater yn fwv difrifol yn awr na'r cwestiwn o doi drosodd ddeu- nydd rhyfel, a rhaid i Lywodraeth Groeg wneud iawn am yr hyn wnaed yn erbyn y Cyngreriwyr.
YN Y GORLLEWIN. 1
YN Y GORLLEWIN. Mae'r cyflegrau gelynol wedi bod wrthi yn brysur yn y gorllewin, yn enwedig ar y ffrynt Prydeinig ger Les Boojifs, i'r de o Ancre, ar y ffrynt Ffrengig yn Belloy, i'r de o' Somme, a'r sectors Vaux-Douau- mont i'r gogledd o Verdun. Mae y trench mortars wedi bod yn brysur ar bob ochr yn nhiriogaeth Ypres a'r Armentieres. Cymerodd parti rhuthr- gyrchol garcharorion i'r dwyrain o Ypres, ac achoswyd llawer o golledion i'r gelyn. Yn Argonne cafwyd brwydrau mwnol heb weithrediadau y gwyr traed. Bu saethu pelennau o bell ffordd yn cael ei arfer yn Nancy. 1ft.-
MARCHNADOEDD.I
MARCHNADOEDD. Caernarfon, Rhagfyr 2. Ymenyn, Is 9c y pwys; wyau, 3 a 4 am swllt; ffowls, 5s i 7s y cwpl; pytatws, 8s 6c y cant; perchyll, 258 i 28s vr un. Pwllheli, Tachwedd 29.—Ymenyn, Is 8c i y pwys; wyau, 3c yr un; perchyll, 20s i r 25s yr un; moch tewion, He y pwys; biff, 110 i Is 4c; pore, 10c i Is 6c; myton, 11e i Is 5e; veal, lIe i Is 4c. Llangefni Tachwedd 30. Ymenyn, Is 7o; wyau, 4 am Is; perchyll, 15s, 18s j 24s yr un.
[No title]
HELYNT Y CABINET.. DATGANIAD Y PRIF WEINIDOG. I Gohirio'r Ty. Yn Xh:r ( yff redin, ddydd Llun. dat- ganodd Mr Asquith fod y Brenin, yn gweithredu'n ol ei gyngor ef, wedi cymer- adwyo aildrefniad y Llywodraetli. I Yngvyn0b y datganiad yina bu i'r Ty ar ol gorffen gwaith y dydd ohirio'r Senedd hyd ddydd Ian. Llawer yw'1' dyfaiu beth sydd i fod. Dvwed rhai fod Mr Asquith weTli vmddi- swyddo; ond y siarad amlycaf ydyw y ceir cyfaddawd, ac mai y ffurf gymer hwnnw fydd gwneud Cyngor Rhyfel gydag ych- waneg o hawliau a gallu iddo. Tri enwir fel yn cyfansoddi'r Cyngor pwysig hwn, sef y Prif Weinidog, Mr Lloyd George, a Mr Bonar Iaw, a sib- rydir y bydd yr olaf yn cymeryd lie Mr Balfour fcl Prif Arglwvdd y Morlys, Datgenir yn awr yn lied gyffredinol na fydd i Syr Edward Carson gymeryd lie yn y Cabinet. Gwelir yn amlwg fod cnewvllyn yr holl helynt cydrhwng y Prif Weinidog a Mr Lloyd George, ac mai pwyntiau'r ddadl ydyw Cyfansoddiad v Cyngor Rhyfel, a'r Cabinet fel cyfangorff. Ceisir dweyd fod Mr Lloyd George yn benderfynol o gael Cyngor o dri, yn cvnnwvs ei hunan, ac hwyrach, Syr Edwad Carson a Mr Bonar Law, gyda Chynghorydd Llafur ar brob- lemau neilltuol Ond mae'n anodd credu y buasai e.f yn gadael Mr Asquith allan, ac yn sicr ddigon ni fuasaj y Prif Weini- dog yn gomedd y sefyllfa honno. Rhaid aro-, wrth amser i gael y gAvir. PERYGL RWMANIA. Yn ol Petrograd cael (,ii ol v, llU1f"r amcldiffynwyr i'r gogledd-orllewin o Bucharest, ac yn y lleoedd yr adroddid llwyddiant y Sadwrn cafodd y Germaniaid adgyfnerthiad, a llwyddasant i symud ymlaen, a bu raid i'r llwmaniaid encilio. Y RWSIAID. Ychydig o gynnydd y mae'r Rwsiaid I wedi ei wneud yn y Carpathians. YN FFRAINC. Mae y Prydeinwyr a'r Ffrancwyr yn Monchy a'r Somme yn gweithio ymlaen gyda llwyddiant. Y SERBIAID. 1 I'r gogledd o Grunishte, i'r dwyrain o Monastir, llwyddodd y Sreroiaid i ennill cyfres o safteoedd pwysig oddiar y Bwl- gariaid, Cymerodd ein Cyngreirwyr chwech o yuan maes, llawer o ddeunydd l'hyfel, a nifer mawr o garcharorion. CODI PRIS LLETYA MILWYR. Datganodd Mr Forster yn rs'iTy'r Cyff- redin nos Lun, fod prisiau lletyau milwyr i gael en oodi am y dyn cyntaf i 2s 9c, ac am bob un ychwanegol 2s 6c. Y t-al ad- newyddol i ddecheu Rhagfyr laf. D.S.O. I WEINIDOG METHODIST. Hysbysir fod y Parch D. Cynddelw Wil- liams, B.A yr hwn sydd Gaplan yn Ffiainc, wedi ei gymeradwyo am D.S.O., am ei wrhydi yn helpu'r clwyfedig I ynghanol pelenau'r gelyn. ATAL SHOW FRENHINOL. Adroddir yn swyddogol fod Gweinidog y Cad-ddarpar wedi atal cynnal y Show Amaethdydol Frenhinol yng Nghaerdydd am y flwyddyn nesaf. CYFARFOD HEDDWCH MERTHYR. Allfonodd yr Ysgfifennvdd Cartrefol lythyr at Mr C. B. Stanton yn dweyd wrtho nad oedd yn credu mewn atal dyn- ion i ddweyd eu barn er nad yn cyd- weled a hwy, ac anogai yntau i geisio cadw I yr heddwch drwy atal y cvnhyrfwyrt Mae Mr Stanton wedi anfon yn addaw cymeryd ] y cyngor. PWY FYDD Y RHEOLWR BWYD? Mewn atebiad i Mr Dillon, dywedodd Mr Asquith nad oedd yn hoffi'r enw Cyf- arwyddwr, ac na fyddai y berson, ond y cawsid Rheolwr Bwyd i'r wlad. Ond ni roddwyd enw'r person. —
[No title]
Arwisgwyd 80 o swyddogion llyngesol a mihvrol yn Buckingham Palace ddydd Sadwrn gan y Brenin. Bore ddvdd Sadwrn dinistriwyd trwy d=m chwareudy Princess, Crayford. Gorff- ennaf drweddaf yr agorwyd y lie gan Princess Christian Amcangyfrifir y goll- ed yn 20,000p. Yng Nghyngor Dinag Sheffield, gofynir am 10 yn y cant o godiad i swyddogion sy'n derbyn eyflogau o 150p i 300p yn y flwyddyn, ar y tir mai y dosbath canol sydd wedi eu tarro, drymaf gan y rhyfel.
Advertising
 0  ???L ?L???? jBL?JI? CAERNARFON. I AMSEROEDD ANGHYFFREDlN YN 000 A MANTEISION | i ANGHYFFREDIN I'GH CVRAEOD. I lllu SALE y gwir a dim ond g gwir. TRWY MIS RHAGFYR Cynygir BARGEINION Anghyffredin. I GWERTHIR Y GWEDDILL 0 Furs. Millineru, Hats. Jackets. Raincoats. Black Mackintoshes I Enethod a Merched Am 'Reduced ??'vces i'w evitploo Hefyd y Pethau canlynol 200 Par o Gynfasau am 3/9| y par gwerth heddyw 4/9 300 Par o Gynfasau am 3/11 gwerth heddyw 4/11 100 Par o Blancedi am 5/- y Bunt llai na'u gwerth heddyw 1000 o latheni o Chintz Coch a lliwiau 4Jc., 6Jd., gwerth heddyw 6ic a 8ic y llath 500 llath o Ddefnyddiau Crysau am 8c y llath gwerth 10c 20,000 o latheni o Flanelettes o 4Jc i fyny i 10c y llath Nis gallwn brynu FLANNELETTS cyffelyb i'r rhai hyn i'w gwerthu am y prisiau hyn heddyw. Peidiwch ymdroi, ond deuwch ar unwaith I SICRHAU Y BARGEINION HYN. PIERCE AND WILLIAMS. II o '———————
DINISTR10 EGLWYS. j
DINISTR10 EGLWYS. j Dydd Sadwrn achoswvd niwed twy dan i Eglwys y Plwyf St. Helens. Amcan- gyfrifir y golled yn 10,000p. I 0- 0
RHWYSTRO TRAFFIC. I
RHWYSTRO TRAFFIC. I Aeth tren nwyddau oddiar y rheiiliau ddydd Sadwrn yn Pandy, De Cymru, yr hyn a barodd rwystr i draffic rheilffordd o'r De i'r Gogledd drwy'r dydd. "1
GWAELEDD IARLL.I
GWAELEDD IARLL. I Hysbysir fod larll Haddington yn bur I wael ar livn o bryd.
DIM GOLFF AR Y SUL. I
DIM GOLFF AR Y SUL. Ym Mhwyllgor Clwb Golff Maesdu, Llandudno, penderfynwyd nad oedd chwareu golff ar y Sul i fod yn ystod y rhyfel. -0001.
BENTHYG YSNODEN. I
BENTHYG YSNODEN. Yn Birkenhead, ddydd Sadwrn, dirwy- wyd Wm. Morgan i ddwy bunt am roi benthyg ei ysnoden rhyfel i ddyn nad oedd ganddo hawl i'w gwisgo. i -——————— .4 i
HELPU DARBODAETH. I -I
HELPU DARBODAETH. I Yn Nhribunal Ashford, dywedodd per- chenog ty bwyta fod un o'r cwsmeriaid wedi gofyn am chwech o sausages i'w frecwast, ond gwthodwyd eu rhoddi iddo. .———— C>
ABERTH Y MERCHED.
ABERTH Y MERCHED. Ymrwymodd aelodau Cymdeithas Llyw- odraeth Leoi y Meched, Hendon, i beidio prynu na bwyta teisenau na melusion drudfavvr yn ystod y rhyfel.
TRANC AWDUR ENWOG.
TRANC AWDUR ENWOG. Daw y newydd o Rhufain. fod Syr Francesco Paolo Tosti, yr awdur caneuon poblogaidd, wedi marw. Yr oedd yn 69 mlwydd oed. Ei ganeuon mwyaf adna- byddus oeddynt "For Ever and Ever" a "Good Bye"
ANHAP HYNOn.
ANHAP HYNOn. Yn Acton aeth y tram drydanol oddiar y rheiliau, yr hyn a achosodd i'r ffordd fynd ai- dan.
PROFFID Y P. AND O.
PROFFID Y P. AND O. Yn cynnwys y 78,000p ddygwyd drosodd y mae proffid CVmni Llongau y P and 0. am y ihvyddyn yn 669,645p. -siso
TAN MEWN MELIN FLAWD.
TAN MEWN MELIN FLAWD. Achoswyd niweidiau yn cyrraedd i fil- oedd o bunnau trwy dan yn felin flawd Wingent a Kimmins, Chatham.
IDIRWYO BONEDDWR,
DIRWYO BONEDDWR, Yn Dorking dirwywyd Syr Edgar Boehm i 10s am drosedd fodurol.
-Y CLWYF DU.
Y CLWYF DU. Adroddir am doriad allan y Clwyf Du (Anthrax) mewn fferm fawr yn Alderlev, Sir Gaer.
I — j ARWRES RHYFEL Y DEGWM.
— j ARWRES RHYFEL Y DEGWM. Dvdd Sadwrn yn Llangwm, ger Corwen, priddwyd gweddillion Mrs Janet Pugh, Bwlch Carneddog. Yr oedd yn 76 mlwydd oed, a chwaiter canrif yn ol yr oedd yn un o arweinwyr Rhyfel y Degwm,
I DIRWYO AMAETHWYR.
I DIRWYO AMAETHWYR. Yn Heddlys Abergele, ddydd Sadwrn, dirwywyd John Parry, Saracen's Head, Bettws, a John Jones- Penybryn, Bettws, dau amaethwr adnabyddus, i 25s yr un am beidio cadw cofrestr o'u gwasanaeth- vddion.
-040-I PROBLEM LLAFUR GOGLEDD…
0 4 0 I PROBLEM LLAFUR GOGLEDD CYMRU. Cafwyd trafodaeth ar y prinder llafur, yn enwedig ar ffermydd, yng nghyfarfod Cyngor Gwledig Llanelwy, a phasiwyd i geisio cael cydgyfarfod o'r gwahanol Gynghorau i edrych pa fodd y gellid cyf- arfod yr angen.
I YMHOLIAD O'R FYNWENT. I
I YMHOLIAD O'R FYNWENT. (At Olygydd y "Dinesydd.") Syr,—Teimlaf gryn dipyn am nad 008 lythyren ym mynwent Machpelah, Eben- eer, i ddangos man beddrod y diweddar Barch William Rowlands, Cefnywaen. Ceir cofadail ar ei fedd, sef colofn a god* wyd i'w fab, Dr Rowlands, gan ei gyf* eillion, ond nid yw'r teulu yn teimlo'n rhydd i dorri arni gan mai rhodd cyfeill- ion er coffa am y Dr. ydyw. Pa Ie y mae egIwys CefnvwaenP Bu y Parch Wm. I Rowlands yn ei gwasanaethu am flynydd- I all yn rhad ymhob aclios fel bugail. i Mae, gennyf un mater arall y carwn gael goleuni amo. "Mae gan y cloddiau glustiau," ac fe. allant lefaru ond i ni wrando. Ar garreg- yng ngtval y ffordd yn Pantdwroer ceir y llythyrettnau can- lynol: 0. a H. P. wedi eu torn. A oce rhywun yn gwybod enwau pwy ydynt, a'r amser y torwyd hwy? Rwy'n sicr y byddai yn dda. gan Olvgydd y "Dinesydd" roddi i mewn yr esboniad arnynt. Yr eiddoch, MAESFAB. eiddoch, MAE8FAB. O.N ,Can croeso i bwy bynnag fedr eu deongli anfon i'r "Dinesydd, --Gol.
GROESLON,
fyddin gwasanaethai Joe fel clerc gyda Platts and Brothers, Oldham. Hyderwn ei gael adref yn fuan, oblegid dywed un o ganueon ein gwlad "Fod gobaith gwr o ryfel, 'does gobaith neb o'r bedd" Yr oedd y llythyr gafwyd wedi oi ysgrifennu gan Joe ei hunan.