Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

CONTRACTORS SEION.'

News
Cite
Share

CONTRACTORS SEION. (Gan J. T. W., Pistyll.) Mae son yn ryw Salm am "adeiladu Seion," a phan el yr Arglwydd ati "y gAvelir Ef yn ei ogoniant." Ac yr wyf wedi bod yn pondro uwehben y syniad sydd yn y brawddegau rhyngof a mi fy hun, tra yn codi tatw y dyddiau diwedd- af hyn. Ac O! mor ryfedd- yw yr "Hen Air" bendigedig pan bo adnod, megis yr "Ysbiyd yn y dechreuad" gynt yn "ym- symud ar wyneb y dyfnder" sydd yng nghalon dyn. Teimla dyn yn nistaw- rwydd y meusydd, megis swn geiriau yn galw "Bydded," a daw myrdd ar fyrdd o bethau newydd i iocl ym myd y meddwl, Teimla dyn rywfodd er hynny mai cy- mysglyd iawn yw y "Goleuni"—"Nid dydd, nid nos." "-liegis y wawr wedi ymwasgaru ar y mynyddoedd" y mae goleuni. Ond nid ydyw wedi oi wahanu oddiwrth y tywyllwcli. Ond teimla dyn er hynny fod ryw greadigaetli yn mynd ymlaen yn yr ymwybyddiaetli—anweledig, uwch ei deall, anelwig i'r amgyffredion. Y mae Ysbryd yr Hen Air yn creu pan ddel i "ymsymud ar wyneb y dyfroedd" anolrheiniadwv sydd ym myd yr enaid. Y rlian am bachodd fwyaf o'r hen ad- nod "Pan adeilado yr Arglwydd Seion y gwelir Ef yn ei ogoniant" yw y rhan "Adeilado yr Arglwydd." Beth a olyga —twn i ddim. Ai dweyd mae yr hen ad- nod mai yn adciladiad Se: 'n y gwelir gogoniant Duw ? Ai ynt a yw hi yn meddwl mai pan adeilado yr Arglwydd mewn cyferbyniad i ddyn ? Daw cwestiwn arall diddorol iawn. a dyma yw hwnnw—Pa fodd, neu paham, y mae adeiladiad Seion yn dangos gogoniant Duw ? A dybia brawddegiant yr adnod mai yn hyn o waith y gwelir arbennigrwydd Ei ogoniant Hoffwn pe deuai rhai o garedigion yr "Hen Lyfv" i'm goleuo dipyn. Os y gallaf gymeryd yn ganiataol fod adeiladiad Seion yn ym-J ddisgleiriad gogoneddusaf Duw i'r byd, rhaid i mi edrveh am y paham y mae liynny. Onid yw mawredd a gogoniant a chadernid y cread a welaf yn gyfrwng mwy ardderehog i'w ymddisgleiriad? Nos i nos yn dangos gwybodaeth; dydd i ddydd yn traethu; dyfnder yn galw ar ddyfnder. Anfesurol eangder, eto i gyd yr holl adeiladwaith diderfyn yn cyd- sefvll, cyd-symud, cyd-weithio! Onid yw Ei ogoniant yn anrhaethadwy yn y gread- igaetli ? Ydyw. Ond wele yn yr adnod hen hon ryw awgrym o ogoniant uwch. Wely beth sydd yn ei wneud yn uwch a gogoneddusaeh ? Wn i ddim, os nad yw hon yn deyrnas yn y byd moesol, a'r cread mawr yn y byd allanol, gweledig, a materol. Mae Duw yn Ei fedr a'i allu yn y cread. Ond yn Ei natur a'i garictor yn Seion. Ac fe wyddom oil nad yw prif ogoniant unrhyw gelfwr yn ei masterpiece. Na, os yw ei garictor yn wael, na ddoder 1 enw y celtwr wrth ei waith. Y mae ei werth yn pallu os oedd cymeriad ei gyn- yrchydd yn salw. Gadawer ei enw yn an- hysbys, caiff y gwaith fel arddangosiad o fedr a gallu ei le teilwng. Ond cyplyser enw cymeriad amhur a'r gorchestwaith mwvaf. Dyna glywir, wedi gorften yr edmygedd oil, "Wel, wel, piti, piti, fod hwn-a-hwn, gwr mor aliuog, fel ar fel." Tra ar y Haw arall maddeuir pob bwngler- waith pan y dywedir. "Ond cymeriad ar- dderehog oedd o, wedi'r ewbwl." Ac mil dybia i fod Duw am roi i'r arddang-' oaiad penaf o'i garictor, a thrwv hynny Ei ogoniant gwirioneddol yn adeiladiad Ei' Seion. Y cwestiwn ddaw wedyn yw--Pa fodd y mae. hyn yrr gyfrwng arbennig tuagf at hynny? Erbyn i ddyn ystyried, nid oes sianel mwy cymwys yii. bosibl; oher- wydd "hen Rebels" bob un yw y defnydd Ac os ydyw Dnw yn fawr yn unman, maf yn fwyaf yn Ei gariad maddeuol. ati K gariad hunan-aberthol. A gogoniant car iad yw ei hunan-aborili a'i faddeuganvch. A thrwy godi "Hen Rebels fel ni" o fvd y cashau i fyd y cyfryw ddwyrol gariad, a mae gweithrediad deddf cariad yn ym. ddisgleirio: ac ni fedd Duw frorod fwy effeithiol i arddangos gogoniant Ei gariad yn f.i ausoddau. a'i waith, na thrwy yr arddangosiad 'o'i ddwyfol rym, yn troi gelyn ystyfnig yn garwr ufudd. Ni fedd- wn ddeffiniad gwell o Dduw na'r adnod fach "Duw, cariad yw." Ac os yw adna byddiaeth trwy gymdeithas Duw yn troi y cashawr yn garwr, pa beth a brofa y gosodiad yn yr hen adnod yn fwy nnion- gyrchol. Ac yn y sant y gwelir elfennau hanfodol y cariad hwn mewn bywyd ym- arferol yn ymddisgleirio, ac yn ennill cyd- ddynion trwy ei ddylanwad i deimlo' ei effeithiau, a'i troi o gashau i gyd-garu. 0 dalu drwg am ddi-wg i faddeu a chymodi. I wasanaethu ac i godi v-naill y Hall o drueni teyrnas casineb a cliytlymgais i deyrnas y caru a'r cyd-ddioddef. Cofier mai Myfyrion y cae tatw yw yr ymofvnion hyn, dyn yn berwi, a'i ben i lawr yn siarad hefo fo'i hun. Da, iawn fydd gennyf i unrhyw ddyn eu cywiro, os nad ydym ar Iwybr y gwir, Ond beth pe mai ar y gair Arglwydd y mae y prif bwyslais i fod ? "Pan adeilado yr Ar- glwydd Seion," mewn cyferbyniad i ddyn- ion neu bobl r Nis gwrn a oddef yr adnod gyfrvw ddarlleniad. Ond gwyddom h;Y11, beth bynnag am yr adnod, yr ymgais dyn- ion ymhob oes a'r gwaith o adeiladu eu Seion, a'i galw, neu dybio fod honno yn cynnwys Seion Duw. Ond y gwir yw, nad ydyw hi ddim, ac nid oes lewyrch o ogoniant Duw yn ganfyddadwy yn yr holl adeilad. Ond teilwng yw rhoi y credyd i ddynion ain roi eu goreu gogoniant dyiiiil yn eu Scion, (ii-ed y byd a'i bobl fod UI i Seion yn hawlio eu goreu ymhob modd, a i rhont an bur ehelaeth o'u goreu. Goreu adfiladau, goreu aur, goreu dawn, goreu dysg, goreu athrylith, a goreu cymeriad. Y mae crefydd Crist yn cael cymaint a hynny o gredyd gan yr hyn n, elwir gwar- eiddiad; mai Cristionogaeth sydd gyiriio] am bopeth goreu gwareiddiad. Ond er bod Seion dynion yn hawlio iddi, ac yn rhoi ei gogoniant penaf, nid ydyw yn ar- ddangos Gogoniant yr Arglwydd wedi'r C'wbl, ond gogoniant dynol, a hwnnw yn cynnwys cymaint ag a gynnwys dynol- iaeth ddiflanedig o'r dyn goreu. Ond y mao y dyn goreu trwy lygredd pechod y dyn goreu ar ei oreu, yn adlewyrchiad salw iawn o Ogoniant yr Arglwydd. Am I hynny, nis gall fod Seion o adeiladwaith I dynol wedi'r cyfan yn arddangos y gogon- iant dwyfol. Ac er pob ymdrech i ad- eiladu y gogoneadusaf Seion ddynol ni "welir Ef" yn Ei ogoniant trwyddi. Ef- clychiad ddynol yw, ac yn nydd ei phrawf y mae yn syrthio yn anfeidiol ry fyr o fod hyd yn nod yn adlewyrchiad da o ogoniant y dyn. XntnyD. nid yw ond gogoniant y bwysfil a dadleniad o'i hacraf f wystfi leiddi wc h. Yn nygiad y deml ddynol hon ymlaen Cawn Lu o Contractors. I Dynion wedi ymgymeryd a'r gwaith er mwyn y buddiannau bydol. Dynion a roddant y pwys mwyaf ar y "dividends" blynyddol a ddaw iddynt o'u contract. A I phan y mae amgylehiadau y byd yn gyf- ryw ag yw yn awr, a demand a In oleulli Crist yr Arglwydd, daw y contractors hyn ymlaen, a cheir ganddynt eu "dynol or- dinhadau" mewn disgleirdeb tanbeidiol hyawdledd; ac y mae yn anhebgor- ol iddynt sierliau y byd penffol fod ei Seion ar graig safadwy, "A phyrth Ellmyn nis gorchfyga hi." Y mac buddiannau y contractors hyn yn y cwestiwn, o ganlyn- iad rhaid iddynt scfyll wrth gefn eu speci- fications (liwytliwy yw yj- architects, clerk of works, a'r time keepers). Ni chant fawr drafferth i berswadio eu gweithw\r a'u deiliaid, canys y maent oil o'r un gred. Gobaith elw sydd yn nod ac amcan yr whole gang. Ac os yw hyn yn cael ei ber- yglu, rhaid hwylio holl offer diafleiddia dyfais i orffen lladd y lleidr. Ac o hyn ceir arddangosiad o'r bwystiil— ddiafl- ddynol. Pryd, o dan amodau tawel ar gymdeithas iach mai cwbl groes i hyn oedd nod ac amcan y bvw a'r bod, ar Seion gywrain ddynol. Onid yw Seion ddynol o'i hadeiladu yn waeth na phe baid heb adeiladu o gwbl ? Onid yw y Seion wlad- wriaethol, yr hon sydd a'i sail ar genedl a gwlad, yn anfri ar enw Crist? "Ei enw Ef o'ch plegill. cliwi a geblir." Beth pe baj bagau dysgedig, hyddysg yn yr ieith- oedd y llefarwyd y Beibl, yn tarro ar Feibi yn ei wlad dywell ei hun, yn ei astudio, ac yn dod i Loegr neu Gymru i gael gweled trosto ei hun ystvr ymarferol Cristionogaeth. Pa beth fuasai ei esbon- iad? Yn awr, chwi ddvsgawdwyr prif Sasiynau, &c.. pa beth sydd gennycli i'ch cvfiawnhau wrth gyfryw un ? Yr cedd Dafydd f renin a'i fryd ar ad- eiladu Ty i Dduw. Ic, Dafydd, "wr wrth fodd calon Duw." Ond ni clianiatawyd iddo. Paham. tvbed? Am fod ei ddwy- law ry lawn o waed. Both am rai o brif offeiriaid Cymru ? 0)- oedd Dafydd felly, ai cymwys y gwyr livil ? Cyn y byddweh. meutraf ddweyd iod "ilhaid eich troi chwi. Ac o bosibl nad yw maddcuant yr Efeiigyl yn hclaethach na'r hwn oedd yng ngafael Dafydd. ac y t gellir golchi eich dwylaw a'ch calon, fel y both gymwys "pan adeilado yr Arglwydd Seion," yr hyn a fydd ar fyrder. Ond bvdd raid i chwi trwy wylofain ffieiddio eich hunain a'ch dwylaw am gymysgu ohonoch waed Crist ti gwaed milwriaeth. Ymddihatrwcli.

I MENYG -GWYNION. I

EIN BEIRDD.

CWYN COLL AM ALUN BACH, I

ERFYNIAD.I

...I CAU MASNACHDAI.I

j CYFLOGAU ATHRAWON.

ANHEGWCH DEWISIAD.I

| LLYTHYR O'R AIFFT. !