Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

. Y DDIOD.

News
Cite
Share

Y DDIOD. DYLANWAD NIWEIDIOL Y FASNACH. Penderiyniad Pwysig. Yn y Neuadd Sirol, ddydd Iau, yng nghyfarfod y Cyngor Sir, gofynodd y' Cynghorydd W. H. Rhodes, Penmaen- mawr, am ganiatad i roddi o'r neilltu y Rheolau Sefydlog, er mwyn cael dod a chynnygiad pwysig ar y Fasnach Feddwol a'i dylanwad niweidiol ar y wlad. Caniatawyd y cais iddo. Dywedodd y Cynghorydd W. H. Rhodes j ei fod yn ystyried y safle yn un ddifrifol a phwysig, ac y dylid rhoddi ystyriaeh bwyllog ac ymarferol i'r mater hwn. Yr ydym mewn argyfwng ofnadwy, ac eto, er ein holl beryglon, a'n hangenion i gyf- arfod a'n sefyllfa, yr ydym yn gwario ar ddiodydd meddwol y swm enfawr o 500,000p bob dydd. Mae'n ddifrifol meddwl y fath beth dan yr amgylchiadau yr ydym ynddynt. Yr ydym yn canfod fod meddwdod yn cael ei gospi yn llym yn y Fvddin. Yr oedd wedi cael ar (Idea 11 fod saith ar hugain o filwyr Prydain wedi cael eu saethu am feddwdod oedd yn eu gwneud yn analluog i gyflawni eu dyled- ewyddau. Pam y dylid cospi y rhai hyn It gadael i'r fasnach yn ei rhwysg ddifetha ein pobl a'n plant yn eu cartrefi. Dylem gyfyngu cyfle'r fasnach i ddinistrio, a symud y demtasiwn o gyrraedd ein plant, er mwyn dyfodol y genedl. Y peth lleiaf a fedrwn ei wneud fel Cyngor ydyw datgan ein barn a chodi ein lief yn ei erbyn. Yr oedd yn cynnyg y penderfyn- iad canlynol :Fod parhad gwneuthur a gwerthu gwirodydd meddwol yn rhwystro Prydain Fawr rhag defnyddio ei Gallu Dynol i'r fantais oreu, ac yn estyn y; Rhyfel drwy leihau cvnnyrch ein hierd- ydd adeiladu Iloncyau. mwnfeydd glo, gweithfeydd peiriannol, fiatrioedd cad- ddarpariaethol, a divvydiannku gweitbfaol eraill. Gwastraffa hefyd fwyd y mae'r bobl mewn angen am dano er eu cadw, ac y mae'n gwanychu adnoddau corfforol a moesol y genedl. Fod y Cyngor hwn yn apelio ar i'r Llywodraeth roi heibio yr oil or traffic mewn gwirodydd meddwol yn ystod y rhyfel a'r dadfyddino, ac i'r diben o sicrhau hynny i wneud y trefniadau a welont yn briodol i osgoi unrhyw anghyf- iawnder. Fod copi o'r penderfyniad hwn i'w anfon i'r Prif Weinidog, Gweinidog Rhyfel, a chynrychiolwyr Seneddol y sir." Eiliwyd gan y Cynghorydd Henry Parry, Glanrafon, ac ategwyd gan Mr R. 0. Jones, Waenfawr, gyda phwysleisio y pwysigrwydd o gael unfrydedd ar fater mor bwysig. Cariwvd y penderfyniad yn unfiydol, gyda chymeradwyaeth.

SENEDD Y PENTREF.

Advertising

I ADDYSG EIN PLANT.

MEDDYGINIAETH NATUR.