Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

rag LLYN.-

News
Cite
Share

rag LLYN. RHUTHR AWYROL. Hysbyeir fod rhuthr awyrol, credir eu bod yn 12 o rif, wedi cael ei wneud ar y Siroedd Dwyreiniol a rhanau ailanol o Lundain J'OB Sadwrn, gyda chanlyniadau alaethus i'r ymosodwyr. Daethpwyd a dwy o'r awyrlongau i lawr yn Essex. Un ohonynt yn disgyn yn fflamau mewn gwlad agored, a dinistriwyd hi a'r criw; 1 cymerwyd y Uall ynghvda'r criw o 22 o swyddogion a dynion. Yr oedd y ddwy yn awyrlongau mawrion o'r ffurf ddi- weddaraf. Bu i'r awyrlongau ym?el?d ag amryw iannau yn Nwyrain a De-ddwy- rain Lloegr; ond yr oedd y prif golledion mewn bywydau yn y rhanau allanol o Lundain, ile y Iladdwyd 28 o bersonau ac y niweidiwyd 89. Mewn tref yn East Midland lladdwyd dau a niweidiwyd 11. Y colledion oil oeddynt 130. Y FFRYNT GORLLEWINOL, ) Yr oedd yna gryn symud awyrol yn y I ffrynt gorllewinol ddiwedd yr wythnoe. Bu i'r Ffrancwyr yn unig ddydd Gwener 1 ar ffrynt Somme ymladd mewn 56 o frwydrau awyrol, a 29 yn yehwaneg ddoe. Mae'r trefi Germanaidd Ludwig- shafen a Mannheim ar y Rhine wedi eu bombardio. Ymosododd 50 o awyrlongau Prydeinig ar yr tin dydd junction rheilffordd bwysig gan ddinistrio dwy dren yn cyn- nwys defnyddiau rhyfel. Deuwyd a llawer o beirianau awyrol y gelyn i'r llaWT. Y mae pump o beirianau Pry- deinig ar goll. Mae y Germaniaid yn eu hadroddiad ddoe yn hawlio eu bod wedi saethu i lawr 24 o aeroplanes, 20 yn sec- tor Somme yn unig. Edrydd Berlin y Sadwrn fod 11 o beiriannau y Cyngreir- wyr wedi eu saethu i lawr i'r gogledd o 1 Somme. Mae yr awyrwyr Prydeinig wedi gwneud rhuthr ar aerodromes Germani yn St. Denis Westrem, Ghistelles, a Haud- zaeme yn Belgium. AR Y SOMME. I Parhau i wella eu sefyllfa y mae'r Pry- deinwyr i'r de o Ancre. I'r dwyrain o Courcelette cymerwyd nos Wener gyfun- drefn gaerol gref o ffosydd y gelyn, a symudwyd ein llinell ymlaen ar ffrynt o hanner milltir. I'r gorllewin o Mouquet Farm gyrwyd yn ol ymosodiad German- aidd chwyrn gan ein tanio gyda cholled- ion trymion. Y mae ein gunners wedi gwneud gwaith da. Mewn un adran o'r ffrynt Germanaidd distrywiwyd 10 o gun- 1 pits, a niweidiwyd 14 yn ddifrifol, a chwythwyd i fyny bump o pits cad-ddar- par. Achoswyd tan mawr mewn pentref arferid gan y Germaniaid er trosgludiad eu cyflenwadau. Mae y Ffrancwyr wedi atal ymosodiadau y Germaniaid yn Abbe Wood Farm, ac ar lan dde y Meuse. Y mae ysbiwyr Ffrengig wedi cyrraedd i'r rhaunau ailanol o bentref Combles. Y RWSIAID. Daw hanes o'r ffynt Rwsiaidd yn hv«- j bysu am frwydro caled ar hyd y llinell o Pripet i'r terfynau Rwmanaidd. Y peth- au mwyaf i'w hadrodd ydyw eymer., 1,500 yn garcharorion, ac atal ymosodiad- au y Germaniaid oeddynt yn cael fu blaenori gan ollyngiad nwyon. Dywed Berlin fod pump o ymosodiadan ) cydgasglol Rwsia wedi methu ar y Sereth a'r Strypa, gyda cholledion i'r Cyngreirwyr, ac fod y sefyllfaoedd ar y Carpathians wedi eu hadfeddiannu. Y rFRYNT RWMANAIDD. Daw y newydd o Rwmania fod enciliad j yr Awstriaid wedi peidio yn Dobrudja, gan fod y gelyn yn awr wedi dechreu sef- ydIu ei sefyllfacedd. Daw neges an- swyddogol yn hysbysu fod y Serbiaid yn Dobrudja wedi cael llwyddiant, gan gy- meryd wyth o ynau mawr a chwech o vnnau peiriannol. Mae y gelyn yn hawlio ei fod wedi clirio y Vulcan Pass. Ed- rydd y Bwlgariaid fod 20 bataliwn o'r j Rwsiaid-R wm ana idd, gyda gwyr meirch a chyflegrau vjedi cael eu gorchfygu yn I Dobrudja, a'u hymlid nes y daeth tvwyll- wch y nag i'w hatal.

ENWADAU YN Y FYDDIN * i! ENWADAU…

.ESGOB LLUNDAIN.

CWESTIWN Y TIR.I

LLAFURWYR YSGOTLAND.I

Advertising

|0. T. A G. R.

TRALLOD Y BARDD. I

CYNILDEB A'R -DDIOD. I

TYSTEB Y PARCH G. CEIDIOG…

BYBB MAWRTH. - I II

NEWID PWLPUDAU.I

BETH WNEIR A'R CAWR?I

Family Notices

Advertising