Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
17 articles on this Page
NOB NEB ESBONIAD.
NOB NEB ESBONIAD. (Gan MYFYRFAB). BERTRAM RUSSELL. Hwyrach na fynai y gwr dewr sy a'i enw uchod ei adnabod fel merthyr, er cymaint ddioddefodd o blaid gwirionedd a chyfiawnder. Ond diameu ei fod yn dyst o blaid egwyddorion sydd yn cael eu han, wybyddu gan fyd ac eglwys. Dywed Mr Massingham nad oes lie i ddau Brwsia yn y byd. Ond os yw ymddygiad ciaidd y Llywodraeth at y gwr uchod yn profi rhywbeth dengys fod ofnau du Mr Mas- gingham wedi eu cyilawni. Darfu i ml ddarllen y bamffled a atafaelwyd gyda theimlad rbwng tristwch a digofaint. Ymddengys i mi fod y sawl all ddarllen hanes prawf Mr Russel heb ameu eyfiawn- der ein hachos yn anobeithiol. Gyda llaw, os oes ar y Llywodraeth awv* dd hyn- odi ei hun gan ruthr eto èaiff ddigon o gyfle, gan fod nifer fawr o'r pamphled gwrthodedig ar hyd a, lied y wlad. Car- Wn roi ar ddeall i ymofynwyr cydwybodol lie i ddod o hyd iddo. Ond a wnaiff ryw- un gysoni peth fel hyn:—Ysbeiliad di- rybudd o eiddo Mr Russell. Gwrthodiad o ryddid iddo fyned i fannau neilltuol, a'r broffes fod ein rhan yn y rhyfel yn un ysbrydol I-zQ o blaid cyfiawnder? I,
Y MOR LADRON. I
Y MOR LADRON. Neb llai na chwmniau y llongau. A oes amheuaeth ar y mater? Cymerwn air y "Daily Mail" (fel gwraig Cesar, Uwchlaw a m heuaeth). "Y mae enillion masnac'i llongau wedi codi o 20 miliwn i 250 miliwn yn y cyf- nod o* 1913-16. Y mae yr enillion yn enillion clir (net). Y mae yr elw gy- maint fel y darfu i un llong dalu am dani ei hun mewn dwy fordaith." Yr hyn a'n hatgoffa o eiriau yr American, Irr:— HWe don't believe in principle, But, oh, we do in interest." Nid eithriad yw y peth a nodir. Allan o restr o 27 o gwmniau llongau, y mae pob Un wedi ychwanegu ei derbvniadau yn y tymor yma. Ac y mae srhai, megis y Cunard, wedi dyblu. Tra y mae eiddo y London and Northern yn agos gymaint bedair gwaith a'r tymo rblaenorol. Wrth sylwi ar hyn mewn cyfarfod cy. boeddus, slaradodd Aelod Seneddol fel y canlyn:— "Mewn blynyddoedd i ddod bydd plentyn yn gofyn i'w dad, "Beth wnaethoch chwi yn y rhyfel fawr?' Os bydd tad y plentyn yn berchenog Ilong- au bydd ei ateb yn syml a chyflawn, 'Fe wnes i bawb." Beth tybed oedd y siaradwr yn ei feddwl P |
TREITZCHE A'R LLEILL. -0I…
TREITZCHE A'R LLEILL. -0 Pwy sydd rw gael yn barod i amddi- ffyn cynlluniau a gweithredoedd militar- aidd Cenniuii ? Pwy nad yw yn ffieiddio ttddysg dyaion fel Treitzche a Bernhardi? Os ydym yn unol pa achos llabyddio ci inaxw ? Ysgt-ifenodcl Mr W. Archer lith faith i'r "Daily News" yn cynnwys pigion a rhanau lilwyaf gwrthodedig athrawiaeth Treitzche. Y casgliad wrth gwrs yw fod Germani ar ei phen ei hun yn y gwerth- iant o'r nwydd yna. Ond y mae gwerthti yn meddwl prynwyr. I'wy oedd gyfran- og a phwy sydd? Rhyfedd yw meddwl mai at Sais y mae tnyned am ddatganiad cyntaf yr athraw- iaeth ddipdduw bon. Cyn bod son am Treitzche eyhoeddwyd llyfr tan yr enw "AtJironiaoth Rhyfel" gan wr o'r enw I James Ram. Dyma un o'i ddatganiad- BU: — "Llenwn y lie uchaf yn y byd. Rhaid i ni ryfela neu gael pin gwthio allan gan rai is na ni." Y sgrifenodd ef 30 mlynedd cyn i Bern- hardi gyhoeddi "Germani a'r rhyfel nesaf. Yr oedd y diweddar Broff. Cramb yn edmygydd cuyf o addysg Ti-eitzsclie-ac fe'i dilynodd:- Yn 1900 "llawenychodd wrth weled cyfnod newydd o oruchahaeth milwrol yn y wlad hon. ac apeliai am orfod- aeth." Yn Mr Harold Fisher cawn efelychydd o I ddywediadau bombastaidd a chabltddus y ¡ Kaiser. "Paratoad i ryfel yw prawi TJuw ar enaid dyn. Y mae goruciiaftaeth yn ganlyniad paratoad, ac y mae y para- toad yn elfen ysbydol fpa/atoad, er engraifft, i wthio picell t rwy ddyn). "Y mae Arglwydd1 y l,luo.,?dd wekl) gwneud cyfiawnder trwy. crn'jhafiaeth. Trwy ryfel yr ordeiniwyd i'r uwchaf orchfygu yr isaf."
! CREFYDD DDELFRYDOL. i ■
CREFYDD DDELFRYDOL. ■ "Y grefytld sydd eisiau," ebe Esgob Stepney, "ydyw crefydd ddiadduin, cref- ydd gref—crefydd na wna. wawd ohonom, ac hefyd na allwn ninnau wneud gwawd ohoni hithau-crefydd sydd yn galw Uawer oddiar ddyn, a. chrefydd a'n ceidw gyda'n gilydd. Yr wyf yn hyderu y gall yr Eglwys adfeddianu y gållu-yr hwn, mae arnaf ofn, y mae bron wedi ei golli—o gadw dynion gyda'u gilydd.
.UNDEBAU LLAFUR. I
UNDEBAU LLAFUR. Y stFJ.wdl Yn 'lyddiau cyntaf y rhyfel rhanwyd i'r milwyr ddefnydd dillad oedd yn mynd yn garpiau mewn bythefnos. Cafwyd rhai vii gwynebu y gelyn mewn esgidiau oedd yn mynd yn dipiau mewn wythnos. Darfu i un ffyrm anfon ymenyn cedd wedi ei gymysgu, ac un arall gig oedd ag "arogl fel dwr o hen ddraen." Pa sicrwydd sydd na wneir pethau eyff-elyb eto. Y mae y profiteer allan wedi gadael ei gydwybod ar ol. Dyna ddengys hanea i yr adyn Asseling gafodd bum mlynedd o benyd wasanaeth yr wythnos hon. Dywed Esgob Chelmsford fod "Duw yn eistedd ar y clawdd." Os ydyw mae yn bryd iddo ddod i lawr. Mater o farn hwyrach yw pa un ai yr Esgob ai mi sydd yn cablu. Dyma. eich cyfle, Undebau Llafur. Mae yr Eglwysi wedi methu.
YR ALMAEN YN BYGWTH Y BYD!…
YR ALMAEN YN BYGWTH Y BYD! Dyna fel y ceisir ein llenwi a braw. ¡ Ond onid y gwir yw mai arswyd rhag i'r Almaen ddioivseddu Piydain o lyw- odraeth y byd amlygir ? Dyma Cecil Rhodes:— "Os oes Duw, yr hyn ddymunai i mi ei wneud fuasai lli^vio Affrica yn goch— lliw Prydain." A dyma i chwi uclielgais ceilwng o Nietzche "Problem yr Ymherodraeth Brydein. ig yw-Sut y mae Prydain i ovchfygu y byd." A dyma i chwi agoriad ;lygad n 'Odydd- I lyfr Milwr" :— "Fel cenedl dygwyd ni i t.\ny i'w deimlo yn warth i hvyddo trwv gel- wydd. Yr ydym yn parhau i ddysgu fod gonestrwydd y peth goreu i lwyddo, ac mai gwirionedd a, "wydda yn y pen draw. Y mae y brawddcgau tlws hyn yn eithaf i werslyfr plentyn, ond y mae y dyn a weithreda. arnynt mopn rhyfel ar y ffordd i l'oddi ei gleddyf yn y wain tros byth." Ffarwel y BeibI, ond ychydig bo.nodau o lyfr Joshua a"r Barnwyr.
TAFARNWR A'R CRYDD. I
TAFARNWR A'R CRYDD. Pa un eydd fwyaf o werth i'w wlad? "Y crydd," meddai Ruskin. "Y tafarn- N," meddai'r tribunlysoedd. A'i Uais hwy a orfu-yiiihell ac agos. Os yw dyn am ddinnc rhyfel, rheded Hotel. "Oni wna Barnydd yr holl ddaear farn?" -040, I
HYD YMA, A DIM YMHELLACII,…
HYD YMA, A DIM YMHELLACII, II Profiad Boneddiges. I Ysgrifena. Mary Phillips-Tredegar feel hyn i'r "Daily News" :— Daethum i fyny i gyffiniau Uundain i gynorthwyo yn un o "canteens" y Y.M.C.A. Y, dydd o'r blaen aethum i addoldy Ymneilituol. Y r oeddwn yno yn gynnar, a bu raid disgwyl am ewyddog nel-iltuol cyn y gallwn gael lie i eistedd. Ar ol iddo gyrraedd cyfarohodd fi fel hyn: "Eisiau sedd sydd arnoch, madam. A 1 wnewch chwi fyned i'r fan hon-gan belled a'r cwshin!" Yr oedd y set hon a I chwsin yn cyrraedd i'w hanner. Nid oeddwn i ymyryd a'r cwshin. Onid yw yn adeg i'r eisteddleoedd fod yn rhyddion yn ein Jioll eglwysi, ac hefyd un ai eu bod i gyd i gael cwshin neu ynte heb yr un. Digwyddodd rhyfeddodau yn 1916. Pa- ham na ychwanegir un a rall-eistood le- oedd rhyddion mewn eglwysi rhyddion. Yr wyf yn cashau y syniad am yr amser y claw y bechgyn adref, a, phan y teimlant awydd i ddiolch am gael dod adref yn ddiogel, y bydd i'r geiriau oerion a di- deimlad gad eu Hefaru wrthynt—"Hyd at y cwshin, os gwelwch yn dda!"
I '-YFLE NEWYDD. I| I
'-YFLE NEWYDD. | m Lhmdam addefodd Michael Thunder ei cuogrwydd o gael arian trwy dwyll. Bu yn swyddog yn y fyddin, ond oherwvdd amgylchiadau neilltuol gudawodd y iyddin. Y r oedd o deulu parchus, ac yn werth o 600n i 700n v flwyddyn. Talodd yr arian a gafodd trwy dwylJ yn llawn. Rhwymwyd ef drosodd, ar y tir ei fpd yn ymuno a'r fyddin. Dywedodd y Cadeir- yfhl ei fod yn cae] cyfle i adfeddianu ei gymeriad, ei safle, ac hefyd wneud gwas- anaeth i'w wlad yr un adeg.
Advertising
Mister you're smoking too much Take Ednnondson's Ideal Toffee and ease off. J Edmondson's Ideal Toffee wont melt in your pocket. It wont get time You can't stop a bad tooth with sugar, but if your toffee is Edmond- son's "Ideal" you wont have bad teeth. That dark brown taste. Take it away with Edmondson's Ideal Tolee. CYNGOR LLAFUR GOGLEDD CYMRU. ADRODDIAD BLYNYDDOL, 1916. Cynhwysa,: Adroddiad o Ail Gynhadledd Lafur Gogledd Cymiu. Eglurhad ar Amcanion y Cyngor Llafur. Rhestr o Gymdeithasau Llafur Gogledd Cymru. Rhestr o GvnrychiohvjT Llafur Gogledd Cymru. Rheolau a Chyfansoddiad y Cyngor Llafur. (Y cwbl yn Gymraeg a Saesneg.) Pris Ceiniog; drwy'r Post, l ic. l'iv gad oddiwrth yr Ygrifennyùd: DAVID THOMAS, 4, Bryn Derwen, Talysarn, Nr. Caernarfon.
DAN GROESI
DAN GROESI NELYNTIBN TEULU ABWY'" I CLAWBB. PENNOD LVII. I Dorothy mewn Dyrysni. j i Nid oedd Dorothy yn gwybod lie y 11 safai cydrhwng ymddygiad Cecil a llythyr gafodd oddiwrth Sadi. Yr oedd mewn penbleth niawr pan ddaeth ati ei hun. Rhyw glefyd ofnadwy ydyw clwy serch. Does neb yn gall iawn tano, nac yn rhyw gyfrifol am ymddygiadau, yn enwedig y rhyw fenywaidd. Y cwestiwn mawr ydyw setlo pryd y mae serch yn gariad, oblegid nid cariad pob serch, er nad oes fodd cael cariad heb serch. Nid oedd ddadl ym meddwl Dorothy prun garai oreu; ond eto 3 r oedd rhyw sereh a swyn mewn presenoldeb gwr a aerchai yn fwy nag absenoldeb. Ni allai unrhyw betrus- der godi pe byddai Sadi yno. Dywedir a fynno y mae uierch yn hoffi cwmpeini dyn. Un felly oedd Dorothy yn anad pob merch. Ar ol i Cecil ei gadael yn yr ardd y daeth i syweddoli y sefyllfa, a gwelodd mor bell o'r llwybr yr oedd wedi gadael ei hun i gerdded. Cofiodd am ei haddun- edau i Sadi, a daeth atgofion am y troion brwnt wnaed gan Cecil, a'i fywyd afrad- Ion cyn troi cefn ar dy ei dad. Ah, mediai, yr wyf wedi gwneud cam a'm cariad! Do, do, fe wnes gam a mi fy hun. Yn toeddwn i'n ffol. Be ddaeth dros fy mhen yn. dangos fy hun mor wir- ion i Cecil? Dyma fo, wedi troi yn fachgen da; ond pa reswm sydd gennyf dros gredu nad all fynd yn hogun drwg I eto yn ei ol. Fu Sadi yn ddim ond da crioe-d, naddo s iwr. Yn wir, mi fum yn ¡ ffol. Be wna 1 deudwch r Mi af i'r ty, ac fo sgwenaf at Sadi i ddeud yr hanas i gyd, ae fe gailf fy ngwrthod neu fadda i mi. Aeth i'r ty, ao i ystafell ar ei phen ei hunan. Tynodd lythyr oedd wedi ei dderbyn y diwrnod hwnnw oddiwrth Sadi, a dechreuodd ei ail-ddarllen. Diar mi, ebai, tydi hwn ddim yr un Uythyr ag a ddarllenais prynhawn heddyw. Gwarchod ni, nag ydi. Welis i mo'r petha yma o'r blaen, naddo wir. "Dorothy anwyl, mi rown y byd yn grwn am gael bod gyda, chwi rwan. Toes yna 1 heb ar y ddaear yma fel chwi i mi, fy angyles. Sadi, Sadi, ebai Dorothy, twyt ti ddim yn fy nabod, rwyf Wedi dy fradychu a'tb wadu'n bai-od. "Fy anwylyd, rwyf yn credu fod ein cariad yn rhy bur i ddim fynd rhyngom. Tydi cariad iawn ddim yn oeri nac yn rhagrithio. Mae o'n beth jelws a hunan- ol l'wy'n gwybod, mae o am gael yr oil a rhoi yr oil—byw i'w gilydd y mae dau gariad. la, ia, fedra i feddwl am neb ond Dorothy ddydd na nos." 0, Sadi bach, ebai Dorothy, rwyt ti'n well na mi o lawar, wyt yn wir. Dyma (1 wedi dy daflu di dros v bwrdd am ddyddiau, a rhoi dy le i Cecil. Be na i vwanP Rhaid i mi ddeud yr hanas, cei ditha fy Ehaflu ina dros y bwrdd wedyn os myni. "Byddaf yn dwad adraf yn fuan, gan fod y crydcymalau yn fy nhrin yn ofn. adwu, ac y mae'r doctor yn dweyd nad ydw i ddim flit i fod yn filwr mwyach. Nid yw o bwys gennyi pe bawn hanar marw i gael cdl gwelad chi, anwylyd, a byw yn eieh cwrnni. Oh, fel rwy'n hir- aetliu am gael bod gyda'r puraf a'r lanaf o holl ferohed y byd." Yn tvdi'r dynion druan yma yn cael eu twyllo, ebai Dorothy. Fi yn bur, yn wir, dim o'r fath beth. Mae heddyw wedi profi nad wn i ddim be ydi cariad, ydi, ydi. Taflu Sadi dros y bwrdd a chymer, yd Cecil n ei le. Oh, 'ranwyl mi rown yn hogan ffol. Be wna i rwan? "Yr wyf yn cau y llythyr hrwn, anwyl. yd, gan ddweyd wrt-hych o galon onest a didwyll—Tragwyddol yw'm serch atoch chwi. Y dw-yf yr eiddoch fyth yn bur, SADI." Sadi, Sadi, ebai Dorotry. Rwyt bron: am gyruu'n wallgof. Beth a wnaf P A oeddwn yn dy garu o gwbwl, ynte, Cecil oedd bia'm calon? Fedra i ateb hwnyna, tybad medra i ? Rwan am dani, os 1 medar i; ac os na fed1-a i, yr afon am dani i'm claddu o olwg y ddau am byth. Aeth yn fud yngrym y cwestiwn, a bu distawrwydd ofnadwy yn y He iddi hi. 1 Ynghanol y distawi-wydd dyma awn megis llais clochaidd yn dod ati hi, a chlywai y geiriau yn eglur—"Dorothy, Prun ai Sadi a'i gariad, ynte Cecil a'i ystad pia dy galon mewn gwirionedd?" Syfrdanwyd hi gan y cwestiwn, a daeth i sylweddoli ei llithriad oddiar y llwybr. Ah, dyna'r broblem i mi ei setlo ai e, meddai. Rwy'n gweld yn awr mai l'hwng cariad ac ystad y mae'r frwydt: wedi bod—dyn ynte aur. Mi fedra i ateb hwnyna rwan, faswn i ddim yn medru rhyw ddwy awr yn ol. Fi ydw i rwan, ao nid neb arall. Dyma ti lais, dyma ti gwestiwn, dos yn dy ol a dywed wrth y ddau—Sadi, cariad, a dyn i mi. Dyna ddigon a phaid a'm blino mwy. Cafodd ryddhad yn ei hatebiad, a magodd wroldeb, ac aeth o'r ystafell unig at y cwmni heb fod Cecil na'i swyn yn dweyd dim wrthi bi. (I'w barbau.) ————
RHIWMATIC-ANHWYLDEB Y I KIDNEY.…
RHIWMATIC-ANHWYLDEB Y I KIDNEY. it Y mae Rhiwmatic yn ganlyniad uric acid crystals yn y llywethau a'r cymalau,1 effaith gormod o uric acid yn y cyfansodd- iad y methodd yr elwlod (kidneys) ei symud fel y bwriadodd natur; gyda hyn y cytuna pob meddyg graddedig. A'r acid hwn yw'r achos o boem yn y oefn, lumbago, sciatica, gout, anhwyldeb y dwr, carreg, grafel, a dropsy. Mae llwyddiant Tabledi Estom at drin Rhiwmatio a ffurfiau eraill o anhwyldeb yr elwlod i'w briodoli i'r ffaith eu bod ya adferu'r dwlod i weithredu'n naturiol, a thrwy hynny symudir achos yr anhwyldeb, yr hyn o angenrheidrwydd a symuda'r effeithiau drwg a ddeillia ohono; ac nae wedi iachau achosion dirifedi gwedi i ietli- iant meddyginiaethau eraill, yr hvn sv'n cyfrif am danynt yn prysur gymeryd He'r meddyginiaethau hen ffasiwn a werthir am brisiau sydd allan o gyrraedd pawb ond y cyfoethog, ac sydd yn fynych yn syrthb mor fyrr o'r honiadau rhyfeddol a wneir. fel y'mae ffydd ynddynt wedi mynd ar goll. I brofi fod Tabledi Estora yn llawn deil- yngu y desgrifiad ohonynt--iiieddyginiaeth onest am bris go-nest—anfonir un blychaid llav/n o 40 Tabled i Ddarllenwvr "Y Dines- ydd Cymreig" fel sampl rhad, ar dderbyn-. iad y rhybudd hwn a 3c mewn llythyrnodaU i dalu'r cludiad, y pacio, &c. Ar werth gan Fferyllwyr am 1/3 y blwoli o 40 Tabled, neu 6 blwch am 6/9. Am Sampl-flwch llawn, cyfeirier Estora Co., 132, Charing Cross Road, London, W. C.
MERCHED. J
MERCHED. J Dioddefa Merched yn fynych oddiwrth saldra, cur a phoen, o dan yr argraff eu bod yn ebyrth i afiechydon sy'n gyffredin i'r ystlen deg, ond yn Amlach nag i'r gwrthwyneb y mae i'w briodoli i'r elwlod l (kidneys), ao mewn achosion o'r fath fe fydd i flychaid neu ddau o Estora Tablets* eu Uwyr adferu! 0 leiaf, mae'r prawf yn werth ei wneud. gan fod dedwyddwch a Ilwyddiant merch ar hyd ei hoes yn di- i bynnu yn hollol ar ei hiechyd. Agents, (I Boots Cash Chemiete.. L
PRIS PENWAIG.I
PRIS PENWAIG. I Dydd Mercher diweddaf cyrhaeddodd pris penwa.ig i'r rhicin uchaf hyd yn hyn. Cafwy d ym Marchnad West Hartlepool 8p am cra-n (tua 750 o benwaig)), y pris uchaf gafwyd erioed. ———— ————-
BRISIAU BWYD.I
BRISIAU BWYD. I Ym Merthyr ddydd Lluu codwyd torth bedwar pwys i 9!c y goreu a 9c am yr ail radd. Tra yn Romford yr oedd pris y gwesnith wedi gostwng swllt y chwarter. 1
CELL Y LLYTHYRAU.
CELL Y LLYTHYRAU. I GWYLIAU GWAS FFARM. Syr,-Bua.swn yn leicio cael dweyd tipin o hanes fy holidays yn y papur newydd, er nad ydw i fawr o sgwenwr chwaith, fol y gwelwch. Pan fyddwn ni, hogia Lleyn, yn cyflogi yn Pwllheli Glamai, byddant yn gaddo i ni ga,el mynd i'r Mounti ar ol cyneua ud; ac mi rodd hono wsnos dweutha, vn Forcrosses. Ces fynd yno eleni, er fy mod yn flin ofnadwy-wedi bod yn cario ud tan ddeg noson cynt. A chwara. teg i mistar, dywedan nhw a fynon nhw am y ffarmws amsar rhyfal yma, mi geuson ni bob un swilt o bres 1 pocad, neu ddigon i fynd i'r cau, ond bod eisio dwy geiniog i gael ticad bach i roi ar gefn y ticad swllt-ticad bach y rhyfal medda'r dyn oedd yn i gwerthu. Mi rodd yno ganodd o bobl a chyffyla & gwarthaig shoirt ora; mangola a manows yn pwyso camodd, ddalia i-beth bynnag rhai mwya welis i erioed. Wrth i mi fynd round y sing i gael sgwrs a'r boys, a view ar Nel, mi feulodd rhyw shopwr yn fy ngholar, ac mi ddangosodd rhyw bin- trach oedd ganddo, ao fod eisio i mi fynd i fyny at rhyw bobl ddiarth; ac i fyny a ft. Ond cyn pen dwylath dyma un arall yn dweyd yr un peth—stewart bach tua pymtheng ar hugain oed oedd hwn, medd- ai'r liogia.a ffwrdd a mi yn bur wyllt, yn meddwl yn siwr fod rhwbath wedi di- gwydd i Nel wrth ddwad hefo'i beic new- ydd. Ond cyn fy mod wedi mynd fawr Iatheni, dyma'r plisman i fy ngholer ac yn deyd yr un peth. Wel, am ddychryn ddaru mi, achos doeddwn i ddim wedi bod yn siarad a phlismon o'r blaen erioed. Bu raid i mi fvnd hefo fo at rhyw ddau ddvn mewn dillad neis fel rhyw soldiers. Mi rodd y PHsman yn ei galw yn Liftenant Chapman a Car-a-dog Davies, ac mi welis nhw ar unwath, eisio gweld rhyw dicat I oedd arnynt, ond mi yr o'n wedi i gadw yn fy nglioffor yn llofft stabal, achos doedd o ddim mor agos at fy nghalon i i'w gadw ym mhocat fy nghesait. A faswn i yn rhoi cyngor i'r boys yn y "Dinesydd," gan fod cymint o hogia llofft stabal yn i gael o, i gario ticad bach y rhyfal hefo nhw i bob man,-tasa nhw yn gorfod talu swllt a dwy am fynd yno. Mi eis i am panad o de wedyn, achos don i fawr lai na sal. A dyma'r hogyn ifanc sydd acw yn weinidog, a. dyn arall neis iawn i fy nghyfarfod; a'r peth cynta ofynodd oeddwn i yn sal. Ac wrth g-w-rs l mi ddeudis ina helynt y plisman; a dyma y ddau yn chwerthin brafia erioed, ac yn dweyd rhywbeth yn Saesneg, "mod i yn bur coward." Mi ddeudis i wrth mistar beth oedd y gweinidog yn ddeud oedd fy salwch. A dyna ddeudodd o, "Hitia befo, nid yw dy salwch i farwolaetli, neu mi fasa'r gweinidog wedi manv ers talwm." Ond mi ddyliais i wir i fod o i farivolaeth—cymaint chrynais i pan bas- iodd y ddau ddyn ifanc swanc oedd yn deud fy enw a fy oed wrth y dynion oedd ar y fainc diwrnod oeddwn i o flaen y Tribunal. Ond mi rodd. Nel yn bender- fynol na chawn i fynd oddi yno, ac nid oedd raid i mi ofni dim &r y dynion ifane 8wane, mae wedi dod yno i gynig i help i ffarmwrs oedd heb gael yr ud oeddan nhw. Mi foddlonis i beth bynnag o'r diwedd i aros, a, welis i mo honynt wedyn, yr oedd gormod o fwg—"mwg economi" oedd Nel yn i alw. Mi eis i edrach am taid a nain wrth fynd adra, a dyna holi oedd yr hen daid druan pwy oedd yn mynd a hi. A fina druan yn gwbod dim, ond mi ddeudis i stori'r plisman wrtho, L ond chweilia fos ddim, doedd waeth heb a deud dim. Wyt ti yn meddwl y gwirion, meddai. y buasai Llywodraeth ac mae Lloyd George yn un ohoni yn caniatau hambygio hanar diwrnod gwyl hogia, bach gwirion dwad. Mae Lloyd Bach wyldi wedi rhoi coron ar i ben na ddaw i byth oddivno gwnaed a fyno.-Dafydd-Da fydd gwnaed a fyno. Mae, o< wedi rhoi coron i dy nain a, fina, a dos adra i gyboli. Ac adra yr eis yn bur ddigalon, i beidio mynd i'r mounti mwy.—Yr eiddoch. f NAI AP FFARMWR. i -000
[ CHOCOLATE WEDI CODI. I-
CHOCOLATE WEDI CODI. Aeth bachgen bychan i neges yn ddi- f weddar, a rlioddwyd ceiniog iddo. "Os gwelwch yn dda, syr," meddai, "mae y bariau chocolate vn geiniog a dimai yn awr." i