Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

0 SOUTHAMPTON t INDIA.

News
Cite
Share

0 SOUTHAMPTON t INDIA. (Gan y Rhingyll WM. THOMAS, I Ebenezer) Yr wyf yn awr yn y Mor Cocli. Ni allaf ddirnad pam y gelwir ef yn For Ooch, gan fod ei liw fel pob mor arall. Gall mai am ei bod mor boeth yma y gel- wir ef felly, oherwydd y mae yn red hot beth bynnag am liw y dwfr. Gellir meddwl ei bod yn boeth iawn gan ein bod yn cysgu heb ddim ond un cynfas deneu drosom i gadw'r pryfaid oddiwrthym, y rhai ydynt yn ein poeni'n gynddeiriog. Cawsom fordaith ddifyr a diddorol o Port Said hyd yma drwy Gamlas y Suez. Ddoe aethom heibio Port Suez, y mae'n He hynod o bwysig. a galwasom yno am tua phedair awr. Yr wyf cyn iached a'r gneuen, ond ei bod yn boeth. Yr wyf yn myned ar y dec, gan ei bod yn rhy boeth i lawr, ni allaf ei oddef. Dyma hi'n awr yn ddydd Iau a minnau newydd gael fy inoculatio, ae yr ydym ynghanol y Mor Coch. Tua'r adeg yma y Sadwrn disgwyliwn fod yn Aden, y porthladd poethaf yn y byd. Er fy mod yn hollol iach, ni allaf gysgu yn dda yn y nos. ac ni ellir disgwyl hynny, gan fy mod yn cysgu bob prynhawn or bron am o ddwy i dair awr. Nid oes dim arall i'w wneud ond cysgu a darllen. Yr wyf yn cael cwpanaid o de yn fy ngwely bob bore am chwech o'r gloch; ac yna, yn codi ac ymolchi a shafio a glanhau fy motymau, &c. Cawn frecwast hanner awr wedi saith, a pharade am ddeg o'r gloch, a chinio am ddeuddeg. Ni wneir dim wedyn hyd amser te hanner awr wedi ped- was. Ceir cyngerdd, boxing match, ac ambell waith cymer y caplan rai ohonom a cheir trafodaeth ar bynciau crefyddol. Yna ceir swper am 8 o'r gloch; ac fel rheol af ar ol swper i'r dec am awr o awyr agored iach, oherwydd y mae'n cool yr. adeg honno. Yr wyf yn cymeryd shower bath bob nos cyn mynd i'r gwely. Rhyw- beth yn debyg y treulir bob dydd, ac y mae'n mynd yn bur undonnog. Ni bydd yn ddrwg gennyf gyrraedd Bombay, lie y disgwy]iwn gael wythnos neu ddwy ar y Ian cyn mynd ymlaen i'r Persian Gulf am Bozra. Ar ol y fordaith hon nid wyf yn meddwl y bydd arnaf eisiau un arall am rai blyn- yddau beth bynnag, er na fum yn sal o gwbl; ond y mae'n unffurfiol, nes gwneud i ddyn hiraethu air y tir. Y nosweithiau diweddaf hyn yr ydym yn cael dynion yn paradio y dec nos a dydd rhag ofn i rywun daflu en hunain dros y bwrdd, oblegid dywedir wrthyf fod poethder yr hiri yn effeithio ar rai fel ag i'w gwallgofi. Y mae'n awr yn ddyddi Gwener, ac yr wyf newydd ddod o'r 4 parade. Tra yr oeddwn ar y parade pasiodd oddeutu 20 o sharks ein Hong, oddeutu chwc llath oddi- wrthym. Maent yn bethau hyll, a gall- ant dorri coes dyn fel torri coes matsien. Yr ydym yn cael darlith bob dydd ar y pryfaid ydynt beryglus yn Mesopotamia. Y mae yna gryn lawer ohonynt, ond y mosquito yw y peryclaf yn y byd; ond dy- wedir os i ymerir digon o ofal y gallwn fod yn berffaith ddiogel. Dyma, ni wedi dod i'r Sadwrn, ac yng ngolwg y tir unwaith eto. Ar un ochr y mae Perim, a chredaf mai glan- au Affrig sydd ar yr ochr arall. Neith- iwr aethom heibio 12 o ynysoedd, a dy- I wedwyd mai Ynysoedd yr Apostolion oedd. ynt, pob un ohonynt yn dwyn enw yr apostolion. Yr oedd y cyntaf yn union fel yr Elidir. Gwyddoch lie maoe clawdd terfyn Parkia, wel, yr oedd yn union fel hwnnw, oddigerth fod y mor yn derfyn iddo vma; ac ar un ochr yr oedd pentwr, fel pentwr o rwbel o Chwarel Dinorwig, Twll-y-Mwg, &c. Aethom heibio neith- iwr Long Ysbytol, yr oedd yn olygfa ar- dderchog, a chroes goch fawr wedi ei goleuo gan drydan, a phrynais ruban gyda enw y Hong ami. Bu y Hong hon yn gartref i mi am dros bymthefnos, ac yr wyf yn oredu y bydd am bymthefnos eto. Mae wedi dod yn ddydd linn, Awst 7fed. Yr oeddwn wedi bwriadu postio Uythyr yn Aden, ond ni chefais gyfle o gwbl, a siom mawr i mi ydoedd. Yn y llythyrau cyntaf llongyfarchwn fy hun am na fum yn sal, ond yn awr dyma fi wedi cael prawf ohono, a gormod o brawf hefyd. Bore ddoe aethom i mewn i'r Indian i Ocean, a cbyn cinio yr oeddwn cyn saled a chi, a pharheais felly drwy'r dydd. Cysgais yn dda drwy'r nos, ond yn oil drwy'r dydd. Y mae'n ofnadwy yma. Dyma. fis gwaethaf y flwyddyn yn y lie hwn, ac yr ydym wedi cyfarfod a Monzoon, a byddwn ynddo ar hyd y ffordd i Bombay. Bydd y Hong ar flaen y don un munud, ac yn ei gwaelod y funud nesaf. Rhwymwyd pob dim ar y Hong, ac ni adawyd unpeth yn rhydd, neu buasent yn y mor, oher- wydd y mae'r tonau yn dod ar y dec ac ysgubo popeth gyda hwynt. Tra yr oedd y sergeants yn cael eu te ddoe trowyd y byrddau amynt a thaflwyd hwythau ar benau eu gilydd; ond, wrth lwc, yr oedd- wn i yn rby sal i feddwl am fynd i nol bwyd. Bore heddyw rhwymwyd y byrddau i gyd wi'th ochrau y cychod; ond tra'n bwyta brecwast rhoddodd y Hong ysgydwad sydyn a thaflwyd y llestri i un ochr i gyd; a bu raid gorffen y pryd ar lawr y llong. Yr wyf yn rhy sal i sgrif- ennu ychwaneg heddyw. Dydd Mawrth yr ydym o hyd yn y Monzoon. Mae y llong yn rowlio i fyny ac i lawr. Pan y mae i fyny ni allwn weld dim ond y lasnen, ac yna pan i lawr dim end tonau. Yr wyf yn well o lawer heddyw; ond nid wyf yn teimlo'n dda eto. Yr ydym i fod yn Bombay erbyn dydd Iau y prynhawn. Dydd Mercher, y mae'r mor yn dawel- ach, a'r Hong yn rowlio'n braf, a min- nau'n teimlo'n dda. Dydd Iau, yr ydym yn cael deall ein bod i lanio yn Bombay ddydd Gwener, a rhaid i mi orffen y llith yma erbyn hynny, er I mwyn ei bostio wedi cyrraedd. Yr wyf I yn cau gyda chofion cynnes at bawb. W. THOMAS. 1

MARW UN 0 LANBERIS. ;

ADGJFION AM GANTO RION._______1

CYMER YD LLONG YSWEDAIDD.

SENEDD YI PENTREF.

Advertising

IMAB MR ARTHUR HENDERSON

'FFRWYDRIAD FFATRI CAD-DDARPAR.

ETHOLIAD MANSFIELD.

Advertising

—————'*Oo———— I AWSTRUIA A…