Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
Y WEINYDDIAETH. I
Y WEINYDDIAETH. I Y Cyfnewidiadau Diweddaraf. I Hysbysir fod Marquis Crewe wedi ei I benodi yn Llywydd Bwrdd Addysg fel oi- ynydd Mr Arthur Henderson, ac fod Mr Henderson wedi ei apwyntio yn Paymaster General, ac yn rhinwedd y swydd honno mae ilywyjdiaeth Dirprwywyr Chelsea yn ei ddwylaw. Efe hefyd fydd cynghorydd llafurol i'r Cyfrin Gyngor. Y tebygol- rwydd ydyw mai Mr George H. Roberts, A.S., yr aelod llafur dros Norwich, fydd ei ysgrifennydd cyfrinachol.
CYNGHORWYR DEWR.. I
CYNGHORWYR DEWR.. I Prynhawn Sul diweddaf torodd tan allan ymysg yr eithin sydd ar Bryn Dinas, Criccieth. Diffoddwyd ef gan aelodau y Cyngor Trefol, o dan arweiniad Mr 0 T. Williams, y cadeirydd.
[No title]
FFRWYDRIAD FFATRI ARFAU- Awdurdodir y Press Bureau i ddatgan fod ffrwydriad wedi cymeryd lie prynhawn Llun mewn ffatri arfau yn Yorkshire. Nid yw y manylion llawn eto mewn Haw, ond ymddengys fod colli ar fywydau yn ddif_ rifol. Mae cynortliwy wedi ei anfon o'r trefi cymydogaethol. Cyhoeddir datgan- iad pellach mor fuan ag y bo modd. MESUR BANCIAU CYNILO BWR- DEISIOL. Nos Lun, yn Nhy'r Arglwyddi gwnaed amryw gwynion yn erbyn Mesur Banciau Cynilo Bwrdeisiol, ond er y cwbl caniata- wyd iddo gael ei ddarllen am yr ail waith. I MESUR ETHOLIADAU SENEDDOL A LLEOL. Wedi eisteddiad maith yn Nhy'r Ar- glwyddi, nos Lun, oaniatawyd i ddarUen am yr ail waith Fesur Etholiadau Sen- eddol a Lleol, cynnwys yr hwn sy'n cadw y Senedd presennol fel y mae am saith mis o Medi 30ain. Mae ymgais ar droed i gael ei gwtogi, ac i wneud tymor pob Sen- edd yn ddwy flynedd. I DIRPRWYWYR CHELSEA. Sibrydir y bydd i'r peirianwaith pre- sennol yn Chelsea, gael ei ehwalu, ac y bydd i'r Bwrdd Dirprwvol, yr hwn gyn- IlWYS 24, gael ei aiLffurfio. Dywedir gan rai mai Bwrdd Rheoli Pen- siwnau yn cael ei roddi dan yr un to fel adrannau eraill a wneir, ac yn cael ei reoli gan Weinidog o'r Cabinet. Mewn cyfarfod o'r War Pensions Group gynhaliwyd yn Nhy'r Cyffedin nos Lun, pasiwyd i wasgu ar fod Mr A. Hen- derson, A.S., y Paymaster Cyffredinol newydd, i ateb cwestivnau yn y Senedd ar ran Dirprwywyr Chelsea. I SYLW PWYSIG. I Pan ofynwvd am dri mis o ryddhad gan ddyn gerbron Tribunal Manceinion, dydd UUli, civ wed odd y Cadeirydd y byddai'r rhyfel drosodd cyn hynny. r CROESAU HAEARN I FANCWYR. Hysbysir fod Llywodraeth Germani wedi penderfynu rhoddi Croesau Haearn i or- uchwylwyr pob ariandy. I DIGWYDDIAD RHYFEDD MEWN PRIODAS. 0 flaen Llys Heddlu Tower Bridge, Llundain, dydd Llun, hysbyswyd am ddi- gwvddiad rhyfedd gymerodd le yn Eglwys Bermondsey. Cyhuddwyd Joseph Dennis Coleman, 36 oed, o aml-wreiciaeth. Ym- diengys fod y cyhuddedig wedi priodi goneth ieuanc yr wythnos ddiweddaf, a phan oedd y aeremoni yn cymeryd lie daeth dynes i fewn i'r eglwys a dywedodd ei bod yn wraig i Coleman. Yn ddiwedd- arach cymerwyd y carcharor i'r ddalfa. Gohiriwyd yr achos. I PENSIWN YR HEN. Yn Nhy'r Cyffredin, dydd Llun, mewn atebiad i Mr Wing, dywedodd Mr Asquith nad of nid y rhai dderhyniai flwydd-dal yr hen yn dioddef llawer o galedi, ond fod y Llywodraeth yn ystvried y priodoldeb o I roddi cynorthwy pellacii iddynt a'r modd y gellir ei roddi oreu. I DIWEDD TRIST USTUS. I Nos Sul, tra'n cerdded ar hyd Deans- gate Street l. Manceinion, tarawyd Mr William CunlifFe i lawr gan gerbyd, a bu farw bore LInn. Yr oedd yn 63 mlwydd oed, ac yn ustus heddweh yn Bolton a [ chvn-gynhorydd trefol. YR OEDRAN MILWROL. Uwnaed ffwrdd a'r sibrydion eu bod yn myned i godi'r oedran milwrol gan y Prif Wein,.dog yn Nhy'r Cyffredin dydd Llun. Mewn atebiad i Mi- Philip Snowden dyw edodd nad oedd y Llywodraeth yn bwriadu ystyried y gwelliant i'r Mesur Gwasanaeth Milwrol ynglyn a chodi'r oed i 45. HHEGI'R BRENIN. "Os ydyw'r dystiolaeth yn wir, dylai'r dyn gael ei saethu." Llefarwyd y geir- iau hyn gan ustus yn Dublin, dydd Llun, wrth Thomas Walsh, yr hwn a gyhuddid o aflonyddu ar dd-au heddwas milwrol dydd Sadwvn. Dywedwyd iddo regi'r Brenin, ac y dylai'r Saeson gael eu cicio allan o Dublin. SYNDOD GADEIRYDD TRIBUNAL. Dywedodd apelydd o flaen Tribunal Sirol Lancashire dydd Lhm, fod ei dderbyniad- au oddiwrth ei fasnachdv tua 120p vr wythnos, ond nad oedd yn talu treth yr inewm. Y Cadeirydd: Buasai rhywun yn credu eich bod yn gwneud digon o hynyna i dalu treth inewm. Yr Apelydd: Rhwng 3p a 4p yr wythnos, dyna'r cwbl. Y Cadeii-ydd: Yr ydych wedi fy synnu.
! CYFARFOD GWEBOI Y MILWYR.…
CYFARFOD GWEBOI Y MILWYR. I (Gan J. T. W., Pistyll.) Ddoe cefais lythyr tarawiadol oddiwrth fy machgen sydd filwr, ac a fu trwy beth- au ofnadwy, sydd heddyw gyda'r milwyr yn Oswestry. Edrydd hanes cwrdd gweddi nos Fawrth diweddaf, dan arwein- iad y Parch D. Hoskins, M.A., a gweini- dog Annibynol arall yn yr Hut. Cyff- yrddodd yr hanes fi yn fawr Mawr yw ein dyled ofalu bod y bechgyn yn cael ystafelloedd cyfleus i addoli-dyma ddyled ein dyledion. Daw rywbeth fel hyu trwy fy enaid w rth feddwl a dychmygu am y cwrdd Ust,—Taw,—pa beth yw'r swn a glywai'n awrP Dieithrol swn o gwrr o'r gwexsyll mawr Taw--taw-Beth yw—ai canu, ai wylo prudd, Tyrd—Tyrd yn nes—O'r babell draw y daw- Ust—ddwndwr byd-am enyd fechan taw. Awn at y fan-at deneu bared coed Yr "Hut" diaddurn-diosg am dy droed; Rho'th glust ar hollt o'i fregus bared ef, Trwy'r hollt daw llif nawseiddiol wlith y Met, Tiraethus enaid milwr o'r "Hen Wlad" A ddeil gymundeb gyda'i Nefol Da-1; Cyfarfod Gweddi sy yma'n mynd ymlaen, Calonau briw yn datod haen 'rol haen Adgofion cartre' ddeffry esgyll n)¿. Y cal-tre' tlawd ar fron Eryri (Ilos- Hiraethus enaid-gymer aden cbwim Ar hynt fe aiff o bangfa hirael Hym I fynwes Duw—mae'n gafael yn Ei Dad- Mae'n dweyd ei gwyn—try'r gwyn yn nef fwynhad. Pan sieryd enaid ei gyfrinion prudd j Yngwydd Ei Dad-v chwerw'n felus drydd I'r clwyfus filwr ymhob pang ac ofn Try Gweldi 'n ffynnon cysur ddwyfol ddofn; 'E ffeilldia'l' milwl'-er ymhell o'i wlad- Dragwyddol led yr aelwyd fedd Ei Dad. A dyma hwy—0 gwrando'u can a'u cwyn, A'r Ysbryd Glan fel gwynt ar hafaidd Iwyn, Gyniwair rhwng blaguron enaid gwiw; A egyr glwy—er rhoddi balm i'w briw t Mor rhyfedd ydyw "Goruchwyliaeth Gras" Rhydd glwy-er sugno i ffwrdd y gwenwyn Vstafell weddio y milwyr, 0, ryfedd ystafell yw hi I Lie cymysg gofifliati y ddaear A nwvfiant y nefoedd fel IIi! Ymilwyr-hwynthwy yn gweddio, A allant adnabod "Y Gwr" P 0! galliiit-eawn un yn ei nabod Pan ydoedd dati watwar, yn siwr. Pa beth ddaw o'r byd pan gweddia Pob milwr yn ymgyrch y gad? Gweddio tros gartref a gelyn; Gweddio tros Ellmyn a Thad, Oddiyma daw gwawr "Y Diwygiad." O'r Gwersyll daw'r jiwbil cyn hir, 0 stafell weddio y milwyr Daw ciluw diwygiad i'r tir. Awst 18, 1916.
t I GWERSYLL PARC KINMEL.
t I GWERSYLL PARC KINMEL. Agor Neuadd Ymneilltuol i'r Milwyr. Dydd Sul talodd Mr Lloyd George ym- weliad a Gwersyll Paro Kinmel, ac yr oedd yn bresennol ynghyfarfod agoriadol neuadd Ymneilltuol i'r milwyr. Cost yr adeilad ydoedd tua 2,500p. Gwasanaeth fTotyddol ydoedd y rhan ddechreuol, y Parch John Williams, Brynsiencyn, yn pregethu yn Gymraeg. Anerchodd Mr Lloyd George y eyfarfod yn Gymraeg a Saesneg. Dywedodd ei fod yn falch o gael bod yno ar amgylchiad mor bwysig. Er ein bod yn perthyn i wahanol enwadau, ) yr ydym i gyd yn ceisio myned i'r un lie, sef y nefoedd. Rhaid i ni ofalu fod byddin Pi-ydain heddyw yn un grefyddol, ac yr wyf yn falcli o ddweyd fod darpar- iadau helaeth wedi eu gwneud ar gyfer pin milwyr i gael addoli. Yr ydym yn I ymladd heddyw dros egwyddorion Ciist- ionogol. Yr ydym yn ymladd i amddiffyn y gwan yn erbyn y crvf. Yr wyf yn gwy_ bod y byddwch yn sicr o wneud hyn gyda'r gwroldeb mwyaf.
j RHYDDHAU PENWAIG. I
RHYDDHAU PENWAIG. I Ar ol cael ei ryddhau am gyfnod gan Dribunal Caint, cwynodd pysgotwr o Dymchuch na fuasai'r cyfnod ond digon i orffen tymor y mecrill. "Ar 01 y meorill, daw tymor y penwaig," moddai, "a pharha hyd ddiwedd mis Rhagfyr." Dy- wedodd y Cadeirydd eu bod yn rhyddhau y penwa-ig am g- y penwaig am gyfnod y rhyfel, ond na allant ryddhau y dyn.
CORNEL Y CHWAR-1 ElWYH. -!
CORNEL Y CHWAR-1 ElWYH. I MAER KENDAL. I COD I AD GYMRO 0 RHOSTRYFAN. Mewn cyfarfod o Gyngor Trefol Kendal, Westmorland, gynhaliwyd nos FawTth, gwalioddwyd Mr J. J. Thomas, Hawthorn Villa, i fod yn Faer i ddilyn y Cynghorydd T. Gordon-Thompson, a derbyniodd yntau y gwahoddiad. Brodor o Rhostryfan ydyw y Maer dewisedig Mae yn wr ad- nabyddus ynglyn a masnach yn Kendal, ac wedi cymeryd rhan bwysig ynglyn a gwleidyddiaeth a chwestiynau lleol. Y mae wedi bod yn aelod ar Gyngor Sir Westmorland am ugain mlynedd. Ar y 12fed o Ebrill, 1907, cymhwysodd ei hun yn ynad dros Westniorland,. ac yn Nhach- wedd, 1907, dewiswyd ef i gynrychioli y Ward Ddwyreiniol ar y Cyngor Trefol, yr hon ddelir ganddo hyd heddyw. Yn yr etholiadau cyffredinol diweddaraf y mae Mr Thomas wedi cymeryd rhan flaenllaw gyda'r aclios Rhyddfrydol, fel areithydd a threfnydd. Am 29 mlynedd y mae yn Reolwr Arolygol i'r chwarelau sy'n awr yn cael eu petchenogi gan y Tilberthwaite Green Slate Company, Ltd. Yn ych- wanegol at fod yn atolygjdd y chwarelau, y mae wedi cael amser i dra- feilio yn helaeth mewn cysylItiad ag an- turiaethau mwnfaol a chwarelyddol. Nid gyda chynnydd a datblygiad eiddo llech- yddol y Deyrnas Gyfunol yn unig y mae ei gysvlltiad, ond eiddo Ffrainc, Germani, a Belgium hefyd. Ychydig flynyddoedd yn ol gwnaed ef yn ddirpnvywT i fynd allan i Mexico i archwilio ac adrodd ar y mwn- feydd aur a chopr yn y wlad honno. Y mae yn aelod o'r Institute of Mining and Metallurgy, ac yn aelod o'r Institute of Mining and Mechanical Engineering Y I mae yn awdur traethawd ar "Llechau W estmorland, eu Daeareg, Fferylliaeth, a'u Gwerth Archadeiladol," ac y mae wedi darllen papui au gerbron llawer o gym deithasau urddasol ar wahanol bynciau mwnfaol. ——— ———
IANRHYDEDDU MILWYRI CYMREIG.
I ANRHYDEDDU MILWYR CYMREIG. I Gwroldeb yn y Ffrynt. I Yn rhestr y swyddogion a'r dynion an- l'hydeddwyd am wroldeb yn y ffrynt vm- ddengys amryw 0 filwyr Cymreig. An- rhydeddwyd a ganlyn gyda Chroesau Mil- wrol Sergt.-Major J. Rees Jones, R.W.F.— Am wroldeb neillduol ar amryw agylch- iadau, yn enwedig pan o dan danbeleniad trwm. Symudodd o gwinpas ymysg y dyn- ion, a rhoddodd esiampl deilwng iddynt. ]
-D.C.M.I
D.C.M. I Cafodd a ganlyn y D.C.M. Preifat W Buckley, R.W.F.—Am wrol deb yn ystod ymosodiad ar ffosydd y gelyn. Meddianodd wn peirianol heb gy. i northwy a dygodd fi i'n llinollau, Corporal J. Davies, R.W.F.—Er wedi ei glwyfo dair- gwaith, glynodd wrth ei eafle, a pharhaodd i danbelenu ar ffosydd y gelyn hyd nes y dinistriwyd hwy. Ithingyll T. A. Griffith, R.W.F.—Ymos- ododd ar barti o'r gelyn a chymerodd 20 ohonynt yn gacharorion. Rhingyll D. Roberts Morgan, R.W.F.— Am wroldeb tra'n arwain parti i ymosod ar "dug-out" y gelyn. RhingyU F. Smith, R.W.F.—Am wrol- deb yn ystod ymosodiad yn. y nos. Daeth ar draws parti oedd wedi colli eu ffordd, ac arweiniodd hwy ymlaen o dan danbelen- iad trwm, a Hwyddodd i feddiannu rhan o ffos y gelyn.
IIDUW DIGLLAWN.
II DUW DIGLLAWN. (Gan y Parch D. R. GRIFFITHS, Penmaenmawr) 4 (Parhad.) Ar 01 rhagymadroddi yn ein hyggrif Haenorol i'r "Dinesydd" crybwyll am Dduw fel tan ysol, a cheisio goleuo, pe gaU- em, y C'ymro ystyriol i'r wedd yma. roddir ar yr Anfeidrol Fad-nid yn unig yn yr Hen, ond hefyd yn y Testament Newydd,— amcanwn yn awr, yn ostyngedig, gyflwyno ein sylwadau paratoedig ar y pwnc anfeid- rol bwysig uehod, sef y Iehofa Digll^wn. Fe bregethodd y gwr galluog a nef- antonedig .Jonathan Edwards, a'r Amerig, yn neclireu y 18fed ganrif, am flwyddyn o amser i'w eglwys a'r gynulleidfa yn North- ampton County, Gogledd America, gyfres o bregethau ofnadwy, sydd, ni gredwn, ar gadw yn ei weithiau safonol (2 gyfrol) fe ddewisodd yr Ysbryd Glan destynau gyda.'r mwyaf brawychus o'r Beibl i'r Di-' wygiwr anferthol yma Iefaru arnynt am y flwyddyn honno, cyn i ddiwygiad crefyddol gyda'r mwyaf dylanwadol fu ar ein daear ar ol y Pentecost ddigwydd drwy offerynol- iaetli Edwards i ddechreu Cydnabyddir fod Jonathan Edwards- Cyrnro o un ochr, ond heb fedru Cymraeg — yn sefyll yn rheng flaenaf diwinyddion ae athronwyr y byd. Y mae yn amheus a fu neb yn byw yn yr Amerig o alluoedd j cyfuwch a'r gwr gwir alluog, a gwir dduw- iol, a gwir ostyngedig, yma; ac eto, tra yn dalentog y tu hwnt, ac yn athronyddiol o ran type (cynllun) ei feddwl fel y'i derbyniodd gan ei Greawdwr, yr oedd yn ddigon parod i bregethu yr ochr dywell yn gystal u'r oohr oleu; yn nhynghed pob pechadur diedifeiriol fe deimlai y diddor- deb dyfnaf—yn hyn yr oedd yn dra gwa- hanol i luaws o bregethwyr Ymneilltuol yr Hen Wlad heddyw yn y Gogledd a'r De. Pa beth rydd gyfrif fod can lleied y blyn- yddau diweddaf yma yng Nghymrij, oleu- wyd drwy weinidogaeth Hywel Hams, Peter Williams, ac Owen Thomas, Llun. dain, er esiampl, yn ceisio dilyn ol traed y pregethwyr, gyda'r mwyaf welodd y byd Cristionogol er ys adeg y Pentecost, atolwgp A ydyw ansawdd eneidiol Cymry Bangor, Aberystwyth, neu Ferthyr Tydfil, er c-ngraifft, yn hanfodol wahanol i ansawdd eneidiol Cymry oedd yn byw yn Llanymddvfri, Aberteifi, neu Gaergybi yn amsar yr anfarwol Ficer Pritchad, awdur "Canwvll y Cymry," rhyw ychydig cyn genedigaeth neu ymddangosiad Hywel Harris a Daniel Rowland ar lwyfan amser ? A ydyw pechod fel y cyfryw, per se, yn wahanol heddyw, yn nhrefydd ath- rofaol y De a'r Gogledd, i'r hyn ydoedd mewn tref neu wlad yn y 18fed ganrif, atolwg? Y mae yn wir fod ffasiynau gwisgoedd yn newid, a hynny er gwaeth yn ol ein syniad ni, gan mai o Paris annuwiol y derbyila y Gymraee dduwiol ei p-hatrymau, gan mwyaf, atolwg, a ydyw (I'w barhau.)
Family Notices
GENI. PRSODI. MARW. GENI. Williams-Awst 21, i Mr a Mrs David Wil- liams, 3, Rowland Street, Caei-narfon,- mab. PRIODI. Jones—Roberts—Awst 14eg, yn eglwys Llanystumdwy, Mr D. Jones, Penrhyn- deiulraeth, gyda Miss S. A. Roberts, Ysgol y Cyngor, Pentreuchaf. MARW. Pritchard-A wst 13eg, Mrs Pritchard, 63, Chapel Street, Caernarfon.
ARAITH MR LLOYD GEORGE.I
ARAITH MR LLOYD GEORGE. I CYFIAWNHAU CYNNAL EISTEDD- FOD AMSER RHYFEL. Dydd lau talodd Mr Lloyd George ym- weliad a'r Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth, a phan gododd i fyny i an- nerch y dorf cafodd dderbyniad croesawus. A ganlyn ydoedd ei anerchiad:- Yr ydwyf wedi dod yma o dan gryn anhwylusdod, ac os yn angenrheidiol, i am- ddiffyn yr Eisteddfod hon. Dadleuais yn gryf o blaid iddi gael ei chynnal, ac yr oeddwn yn awyddus am i'r rhyfel beidio effeithio dim arni. Mae'n sefydliad rhy werthfawr, a gwnaeth wasanaeth rhy werthfawr i'r wlad i beryglu ei bywyd trwy gael ei gohirio am gyfnod amhen- odol. Mae'r Gymdeithas Seisnig wedi cynnal ei chyfarfodydd bob blwyddyn er dechreu y rhyfel. Gwnaed gwaith rhag- orol gan y Gymdeithas lion, ond gwnaeth yr Eisteddfod waith mwy (clywch, clywch). Ceir rhai pobl na wyddent ddim o gwbl am yr Eisteddfod, a tybiant mai rhyw gyfarfod blynyddol i gael hwyl ydyw. Gwelais lythyr gan berson yn dal y syniad hwn yn y "Times" yr wythnos hon. Geilw ei hun yn "Gymro." Dywed nad yw yn erbyn i'r werin Gymreig fyned i'r Eisteddfod, ond hyderai na buasai yr Aelodau Seneddol Cymreig yn ei mynychu (chwerthin). Yr wyf yn faleh o'u gweled yma (cymJ. Gadawer i unrhyw ddyn edrych drwy y rliaglcn hon, a gweled drosto ei hunan beth olvgir wrth Eistedd. fod (clywch, clywch). Ceir gwobrwyon yma am gyfansoddi, eyfieithu, canu, &c. Dywed rhai y dylid gwneud i ffwrdd a hyn oherwydd y rhyfel. Dywedant fod calonogi personaii i farddoni yn ystod y rhyfel yn anheyrngarol, a dywedant mai gwastraff ar arian ydyw ceisio cael gan y bobl i gymeryd diddordeb mewn llenydd- iaeth. Dywedant hefyd mai peth gwrthun ydyw canu yn ystod y rhyfel, yn enwedig caneuon cenedlaethol. Paham na ddylem ganu yn ystod y rhyfel hon? '( clywch, clywch). Yn enwedig pan mae'r rhyfel yn myned ymlaen mor ffafriol i ni, paham na chawn ganu ? Nid ydyw lleni Prydain Fawr i lawr eto (eym.). ac nid ydynt yn debyg o fod ychwaith. Nid ydyw Anrhydedd Prydain yn Farw. Nid ydyw ei gallu wedi ei dorri (clywch, clywch). lae'n fwy na byw, ac yn fwy nag y bu erioed. Paham na ddylai ei phlant ganu? (cym). Gwn fod rhyfel yn golygu diodelefaint a thristwch. Mae'n dywyll ar ami deulu, ond gwyr pawb fod y deryn goreu ymysg adar Prydain yn canu yn y nos. Ni cheir unrhyw eosiaid yr ochr hon i'r Hafren, am nad oes arnom ei angen yng Nghymru. Mae yna aderyn yn ein pentrefydd sy'n well na'r oil ohon- ynt. Gelwir ef "Cymro" (clywch, clywch) Fe gan ef mewn llawenydd a galar. Can wrth chwareu, gyda'i waith. yn yr haf, yn yr ystorm, ac mown hedd- wPJ. Paham na ddylai ganu mewn rhy- f< l- Mae amryw o ryfeloedd wedi cael fi Iiymladd ym mryniau Cymru, ond ni ddistawyd telyn Cymru gan yr un ohon- vnt (cym.). Mae'n mHwyr yn v ffosydd vn canu caneuon Cymru. Maemt yn cyn- nal eisteddfodau bychan tu ol i'r llinellau. Cefais bellebr oddiwi-thynt i ysgrifennydd yr Eisteddfod. Darllenaf ef i chwi. "Dymuniadau goreu am lwyddiant yr Eisteddfod a'r Gymanfa Ganu oddiwrth Gymry yn y ffrynt. Byddwn gyda chwi yr Eisteddfod nesaf" (cym. uchel). Gobeithio y gwel Duw yn dda iddynt fod. Aeth ymlaen i ddweyd fod y storm yn parhau yn ei ffyrnigrwydd, ond fod yna rhyw ychydig o haul wedi dod i'r golwg ar y tonnau. Mae'r gelyn yn cael ei yrru'n ol, a banner rhyddid yn myned ymlaen (cym.). Paham na ddy- lem ganu? Mae'n wil" fod cannoedd o'n dynion yn syrthio ar faes y frwydr, ond gadawer i ni ganu am eu gwroldeb. Gad- awer i ni ganu i'r wlad a fagodd y fath wroniaid. Yr wyf yn falch o gael y fraint o gyd-ganu gyda chwi y caneuon genir gan ein cydwladwyr ar faes y gad, fel her i elynion rhyddid dynoliaeth (cym. uchel). I
IYN LLWYDDIANT HOLLOL.
I YN LLWYDDIANT HOLLOL. Gellir dweyd am yr Eisteddfod eleni c; bod yn 1 lwyddiant hollol. Yehwanegodd ymweliad Ali- Lloyd George wrth gwrs swm anferth at y derbyniadau. Derbyniu y | I prynhawn lau 600p, o'u cymharu a 145p dderbyniwyd dydd Mercher. Pan agor, wyd hi, yr oedd y cyfrifoldeb yn 1,200p Canfyddodd y pwyllgor eu hunam nos Fawrth gyda 800p wrth gefii, sef derbyn- iadau Ilt-wy danysg^'ifiadau, gwerthiant season tickets, &c. Gadawodd hyn Jiwy gyda dyled o tua 320p, ond yr oedd gnu- ddynt dri diwrnod i'w glirio. ¡¡'el y fly" wedwyd, cymerwyd 600p ddydd lau, 145p dydd Mercher, a lllp yn y cyn^ei It, nos Fercher Derbyniwyd tua 200p yn v cyngerdd nos lau. Dengys hyn elw. o 836p ar ddau ddiwrnod o Eisced.ifod. Mae'r derbyniadau o'r Gymanfa Ganu i Genedlaethol i'w hychwajiegu at y SWIn I hwn eto. Gwelir felly fed. yr Eisteddfod yn 1 lwyddiant hollol yngwir vstir y gnir.
I I yGYMANFA FAWR.I
I I y GYMANFA FAWR. I ¡ Dydd Gwener, eynhaliwyd y Gymanfa Ganu Genedlaethol Fawr ynglyn a'r Eis- teddfod, o dan lywyddiaeth Mr David Evans, Mns. Bac. Cynhaliwyd cyfarfod y bore o dan lywyddiaeth Deon Bangor. ) Llywydd cyfarfod y prynhawn ydoedd y Parch John Williams, Brynsiencyn. Yn ystod y cyfarfod hwn cafwyd anerchiad gan Mr Lloyd George, a thalodd deyrnged uchel i'r arweinydd a'r canu.
Advertising
J. FLETCHER, LTD.. I MEMORIAL WORKS, CARNARVON a BANGOR. A rgraffwycl a chyhoeddwyd gan Gwmni y Dinesydd Cymreig, Cyf.; yn 16, Palace Street, Caernarfon. i ■ •• J