Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

DAN Y -GROES

News
Cite
Share

DAN Y GROES NELYNTION TEULU ADWY'R CLAWBD. PENNOD LII. I Amgylchiadau yn Newid Barn ac I Ymddygiad. Yr oedd Mr Halifax cyn y rhyfel yn I synio'n wahanol i'r hyn wnai wedi i'w fab ef ei huu fynd i ganol y peryglon. A bu i'r llythyrau gafodd oddiwrtho draws- newid ei ymddygiadau yn lhvyr. Rhyw Jingo anarferol o fawr ydoedd cynt, yn meddwl y byd o'r Union Jack a chanu Rule Brittania gydag afiaeth; ond nid felly yn awr. Bu yn ceadded o bentref i I bentref gyda Dr Gravel ac Yswain y Fedol yn ceisio perswadio'r bechgyn i ym- uno a'r fyddin, a dywedai bethau chwyrn yn erbyn y bechgyn wrthodai wneud eu rhan. Ond pan ddaeth tro ei fab i fyned i'r ffrynt cafwyd tro ar ei feddyliau a'i ymddygiadau yntau, ac aeth yn fwy eithafol yn erbyn y rhyfel nag ydoedd o'i phlaid pan glywodd fod ei fab, oherwydd y clwvf gafodd, yn debyg o golli gwasan- aeth ei fraich dde. Y dydd ar ol i'r Person dalu ymweliad ag ef, aeth yn un swydd i dalu ymweliad a Tomos Williams i'r Llidi-rt, a chafodd Margiad Williams fraw pan welodd ef yn sefyll wrth v drws. Pa sut ryda chi, Margiad, ebai wrthi. Rydw i'n go lew, syr, ebai hithau. Dowcli i mewn, syr, os medrwch beidio meuddu eich hunan miawn lie mor fudur. Rydw i newudd dynu y lie yma yn fy nihen i dreio llnau tipin erbun daw'r hogan yma adra ddydd Sadwrn, ac mae'r lIe fel ffair fcl gwelwch chi. Peidiwch a malio dim am liynu, Mar- giad, mae'n eitha i riw greadur felfi gael dwad i le T'a raid i mi ddim ofni twtshiad mewn dim. PIe mae Tomos, deudweh, ydi o riwla o fewn cyradd? Ydi, syr, mae o rn y cwt acw yn treio fcrwsio yr injian falu gwair. Mi a i nol o, os leiciwch chi, syr. Wei ia, mi fasan dda gen i gael sgwrs bach befog o, os medar o fforddio amsar i eiarad. 0 medar. yn eno'r diar Mi a, i nol o nvan., Ac aeth ar garlam i'r cwt ato. Tomos, tvrd ona, mae Mr Halifax isio dy welad. Be su ar mei lord rwan, os gwn i? Dwad wrtho am aros nes bydda i wedi injian yma. Paid a hel dy lol, tyd yn dy flaen, mae'r gwrbonheddig isio cael sgwrs hefo ti. Sgwrs yn wir, mae o yma yn rhy fora i fod ar ddim diban da. Mae yna rwbath Fn y gwunt yn reit siwr i ti, Margiad. Paid ag ama pobol, da ti. Tyd yn dy flaen fel dyn, y mae'r Sgweiar yn disgwul am danat. Gad lonndd iddo ddisgwul, mae ganddo fwu o amsar i sbario na fi. Wei tyd yn dy flaen ddyn; rwut ti'n ddigon i yru dynas o'i cho. Aros i mi gael rhoi yr ohvun yma yn i le, neu mi fydda i mewn dryswch. Olwun o gebust, tyd yn dy flaen y creadur ffol. Waeth i mi ddwad, rwy'n gwelad na, cha i ddim Ilonudd. Twn i ar y ddeuar i be gwnaed mcrchaid, .os nad i boeni creadur o ddyn. Dyn a dy helpio, mi fasan go dlawd arna ti pe tasa ti'n gorfod gneud heb yr tin. Na feindia, Margiad. Gad i mi gael gwelad be su gan Mr Halifax i ddeud wrtho ni. Ac aeth y ddau am y ty. Wei. Tomos Williams, pa sut ryda chi lieiddiw ? Go lew, Tomos Williams, I ia fo(l yn iar-n Go lew, yn wir. Mi ddylia fod yn iawn arnoch faswn i'n tybio. Pam, deudweh, Tomos. Wei, mae geno chi ddigon o bob dim o'ch cwmpas, fel nad oes arno chi isio dim byd a dim lliiw lawar o bwysa a phrydera fel su arna i a fy ffasiwn. Fealla wir, Tomos. Ond nid yr un peth su yn blino pawb, welwch chi. Tydi arian ac eiddo ddim yn bob peth wedi'r cwbwl. Nag ydun, nag ydun; ond mae nhw' yn betha gwerth i'w cael tasa pawb yn i cael nhw yn lie ryw rai fel mae hi rwan. Ydi chi yi) meddwl Tomos y basa pawb yn hapus tasa gennu nhw ddigon o arian ? Wei, mi fasan haws iddunt fod, dw i'n meddwi. Hwyrach y basa, Tomos Ond tydi hi ddim felly hefo mi. Mi fasan well gen i na miloedd o buna pe tasa'r hogun acw adra gen i yn iach a diana, nac fel y mae hi arno fa: a fina heddiw. Diar mi, ebai Margiad. Ydi o wedi cael i ladd, Mr Halifax? Nag ydi, diolch am hynny. Mae o'n fyw, ond riao arna i ofn i fod o wedi colli ei fraich dde hefud. Diar mi, piti garw, y ngwesun tlws i. Dyna dro garw ynte. Ie wir, tro ofnatsan ydi o, Margiad Williams. Mae hi'll well arno fo a chitha nag ydi hi ar lawar, syr, ebai Tomos. Ydi, ydi, ond tydw i ddim gwell er hyny. Nag ydach siwr Ond meddyliwch am gimint o dadau a mamau sy wedi colli eu hogia, na wela nhw byth mohonynt. Meddyliwch am hogia su wedi colli eu coesa a'u breichia, a llawar yn ddeillion ac wedi mund o'u co. Dyna i chi loes ofn- adwy i dada a mama. Ia wir, Tomos. Yn tydi y rhyfal yma wedi dwad a ni i drybini ofnadwy ? Wei ydi siwr iawn. Be oedda chi yn i ddisgwul arall, deudweh. Mi fuo chi yn gweiddi digon am d'ani, ac yn hel gimin fig a fc-dra chi o blant i ladd y gelynion; ond ddaru chi ddim meddwl am funud y basa hyny yn golygu difetha eich hogun eich hunan. Dyna ddrwg pobol yr Union Jack bob amser, maent yn gweiddi hwi blant pobol erill, ond war out pan ddaw yn dym i'w plant- nhw. Ryda chi yn deud y gwi r, Tomos, ydach, ydach. Mae'n ddrwg iawn gen i heddiw fy mod i ricyd wedi bod yn siarad o blaid y rhyfal Ddaru mi ddim meddwl am deimladau tadau a mamau erill nes y ces i fy nharo fy hunan, naddo siwr. Mae'n rhaid fod yna lawer o gartrefi trist yn ein gwlad heddiw. Oes siwr, ac mewn gwledvdd erill hefyd; oblegid y mae pob hogun leddir yn fab i rywun. a tydi tad a mam y Germans ddim heb eu teimladau mwy na nina. Eitha gwir, Tomos ond i fod o'n wir anodd i'w gymeryd i mewn a'i relisio. Deudweh i mi, be su'n dwad o Gilbert, mab Mr Daiis, Ad'.vy'r Clawdd? Yn y carehar y mae o, medda. nhw. I be rydn, ehi yn gofun, deudwch; yn toedda chi ar y llys yn dadla yn erbun ei ryddhau. Wel oeddwn, siwr, dyna pam rydw i wecli dwad yma lieiddiw. Mi faswn yn rhoi rlnvbath am fedru tynu ddoe yn ol, a chael Gilbert yn rhydd. Y fo su yn iawn, welwch chi, a pe tasa pob dyn ymhob gwlad wedi gneud 'run fath ag o mi fasa gen ina fab a dwy fraich ganddo fo Debig iawn, syr. Dyna'r gwir. Mi fydda i yn synu at y bechgyn yma mor barod am ryfela, bydda wir. Ond mi rydw i'n disgwyl y bydd y rhyfal yma wedi dysgu gwoithiwrs pob gwlad i fagu digon o asgwrn cefn i ddeud wrth bob Llywod- rath na wna nhw ddim cwffio i ladd eu gilvdd am unrhyw bris. Dyna fasa yn i setlo nhw am byth. Wel ia wir, hwnyna fasa yn rhoi terfyn ar y peth mewn munud. Piti na fasa nhw wedi gwelad hyny cin i fy mab i gael ei frifo. Tipin yn selfish ydi peth felna ynte. Ond tae waeth, fedrwn ni mo'i newid rwan. Gadewch i ri dreio gneud y gora i ddysgu'r bobol i Avelad tfoladd lihvfal i setIa cwerylon a pheth go hawdd ydi gneud hyny rwan, achos y mae pob teulu o'r bron wedi cael eu taro rhywsut neu gilydd Chi su'n iawn, Tomos, yn reit siwr. Mi nawn ni cin dau y gora at neud hyny, yn te? Mi na i fe ellwch fentro, achos yn y cwch yna rydw i yn rhwyfo o hyd. Pe basa pawb 'run fath a fi ni buasa eich mab wedi brifo o gwbwl, eyr. Rwy'n gwelad hyny yn awr, Tomos, ac y mae dynion o'ch stamp chi yn brin yn y wlad. Mi ddois i yma y bora ma i roi newudd da chi, ac mi cewch o rwan, os yda chi yn barod iddo. Mae o'n siwr o fod yn barod i rwbath da, svr, ebai Margiad. Wei, rydw i wedi bwriadu i-,hoi y Llidiart i chi o hyn allan am rent 01 swllt yn y flwuddun, hyny ydi, rhiwbath i'w gadw yn eiddo i'r si ad, ac mi cewch hi fellu tra byddoch byw, pwy bynnag fydd yn medd- iahu'r stad. Yda chi yn fodlonp Yn wir, svr, ryda chi yn garedig iawn, ydach wir. Twn i ddim sut i ddiolch i chi, na wn wir. Ar ol v taliad leni ryda chi yn i fed lwl, mae'n debig cen i P Nage, nage, Tomos. Dim ond swllt eleni, ac mi ro i hwnnw yn ol yn bresant i Margiad. Wei, wel, Mr Halifax, ryda chi yn wr bonheddig c'ch corun i'ch sowdwl, ydach wir. lieii'lith fo ar eich pen, ia wir. Ia wir, syr. Diolch yn fawr I chi, ebai Margiad. Hhaid i chi ddim, yn siwr i chi, ebai Mr Halifax, tra yr ocdd a'i droed ar step y dnvs. H'-vyrach y byddai yn well i chi fynd i ddeud wrth y Person am hyn, rhag y bydd arno eisiau gneud rhyw drefniada. Tydi o a Tomos ddim ar delera da ers dyddia, ebai Margiad. Na feindiweh hyny. fe ddylai gael gwu- bod. Cofiv.-ch chi fund ato rwan. Bore da. Bore da, brysiwch yma eto, meddai Tomos. Ia wir, cofiwch ddwad. Wedi iddo fynd, aeth Tomos i ista ar y "setvl, a dechreuodd gyfri yr arian oedd wedi eu ca.sglu at y rhent, a chyfrodd hwy lawer gwaith drosodd. (l'w barhau)'.

Y FORD RYDD.

Advertising

EIN BEIPTDD. ! i - i

LLAFUR MILWYR AR FFERM-I YDD.…

COLLEDION AWSTRIAIDD.