Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
Advertising
YR AFR AUR, Caernarfon.  o   ??%? a ?B '??€??B GOG^EDF ????t*N*! N ?W t ?at GOGLEDD CY1WRU Wed) Dechreu. BARGE)N!ON MAWR. Pethau nas gallwn eu cael eto am y prisiau. Mae yn werth i chwi wneyd brys i'w Sicrhau PIERCE & WILLIAMS' — V
CRICCIETH.
CRICCIETH. Llawfer. -Llongyfarchwn Gwilys Jones, Bee Hive, ar ei waith yn myned yn llwydd- ianus trwy arholiad elfenol llawfer Pit- man. Y Bywydfad.—Dydd Mercher, aeth y bywydfad allan am ymarferiad. Gwnaed I casgliad, a sylweddolwyd 14p 16s 9c.
NODION O -FFESTINIOG.-
NODION O FFESTINIOG. Wedi ei Glwyfo.—Dydd Sul, daeth hys- bysiad! swyddogol i law fod Preifat Owen Jones, Penvgelli, Blaenau, wedi ei laud. Gedy wraig a phump o blant i alaru ar ei ol. Nid oedd ond ychydig wythnosau er pan aetli diosodd i Ffraine. Hysbysir hefyd fod Preifat Sam Davies, mab Mrs Davies, 14, Manod Road, Blaenau, wedi ei ladd yn Ffrainc ar Gorff. lOfed Nid oedd ond 32 mlwydd oed. Marw c i Glwyfau.—Mae Preifat David D. Jones, Crimea, Talywaenydd, wedi marw o'i glwyfau yn Ffraine. Cyn viii. uno gweithiai yn Chwarelau Oakeley. Arwydd Dda. Dydd Sul wythnos i'r diweddaf, newidiodd y Parch J. Jenkins (M.C.) fcwlpud gyda'r Parch Georgo Davies (A.). Dyma arwydd dda yn ddiau.
LLANBERIS.
LLANBERIS. Dyrchafiad.—Llongyfarehwn y Preifat E 0. North-Evans ar ei ddvrchafiad yn Rhingyll yn yr R.A.M.C., Welsh Company, Sheffield. Gedy yr wythnos hon am Mesopotamia. Dengys ei godiad yn syth yn rhingyll ei fod o allu arbennig. Mab ydyw i'r diweddar Mr Robert Evans, Castle View,li lanberis; ond gwnai ei gar- tref yn awr gyda'i fam a'i chwaer, Mrs Huxley, 39, Chapel Street, Caernarfon. Rhwydd hynt iddo i lwyddiant mwy.
-I PORTHMADOG. I
PORTHMADOG. I Personol.-Ma,e Major Lloyd Pritstley adref am Beibianfc. Priodas Euraidd.-Dathlodd Mr a Mrs J. Lloyd, Tremadog, eu priodas euraidd dydd Sul diweddaf. Priodwyd hwy yn Lerpwl yn 1866. Dyrchafiad. Mae Lance-Corporal L. Jones, mab Mr John Jones, Penmorfa, wedi ei ddyrchafu yn rhingyll. Bu drwy ymgyrch y Dardanelles. 0 Ffraine. Yr wythnos ddiweddaf daeth Lance-Corporal Arthur Griffith, 15, Chapel Street, a Preifat Johnny Jones, Velog, adref o Ffraine, wedi eu clwyfo ym Mametz Wood.—Ar ol bod yn Ffraine am ddeng mis fel nyrs y Groes Goch, daeth Miss Lena Jenkins, Medical Hall, adref hefyd. Mae'n edrych yn rhagorol.
PF.NRHYNDFTTDR AFTH. I
PF.NRHYNDFTTDR AFTH. I Priodas.—Dydd Llun, Yn Llan- ystumdwy, priodwyd Mr D. Jones, o'r lie I hwn, gyda Miss S. A. Roberts, Ysgol y <Cyngor, Pentreuchaf. Rhoddwyd y bri- odferch ymaith gan ei thad, Mr T. Ro- berts, Criocieth, a gwasanaethwyd arni gan Miss k. Jones, Llanystumdwy. Mr O. T. Jones, brawd y priodfab, ydoedd y gwas. Treulir y milS mel yn Sir Fon. Wedi ei Glwyfo.—Mae Preifat Robert Owen, mab Mr Matthew Owen, Tanyfron, wedi ei glwyfo yn ei ben, ac ar hyn o bryd mae mewn ysbyty.
I RHOSTRYFAN A'R CYLCH. I
I RHOSTRYFAN A'R CYLCH. I Ar Ymweliad.—Yr wythnos ddiweddaf I gwelsom y cyfaill ieuanc Hugh Job, mab Mr Daniel Job, Bryn Eithin, gartref am seibiant o Kinmel Park cyn mynd drosodd i Ff i-aiiie. Yehydig o wythnosau sydd er pan aeth Eavid ei frawd drosodd yno. Tipyn o loes i rieni ydyw gweled eu plant yn mynd; ond liyderwn y caiff y ddau ddod adref yn ol yn dianaf. Mae nifer fawr o fecilgyn Rhostryfan drosodd yn Ffraine a mannau eraill ar y Cyfandir. Drwg gennym ddeall am y cyfaill ieuano Robert Griffiths, Llwyndyrus, ei fod mewn ysbyty yn Ffraine yn wael. Dymunwn I' wellhad buan iddo.
FELINHELI.I
FELINHELI. I Gwasanaeth Cref yddol.-Yng nghapel Elim (W.) bore Saboth bu gwasanaeth Seisnig, pryd y traddodwyd pregeth gan un o'r ymwelwyr a'r ardal, sef y Parch E. Eccleston Potts, Clapham Common. Daeth cynullia-d da o'r ymwelwyr ynghyd, a gwerthfawrogwyd y bregeth yn yr iaith Seisnig yn fawr ganddynt, a nos Saboth nesaf, yng nghapel y Bedyddwyr, tra- ddodir pregeth Seisnig gan un arall o iveinidogion dieithr, sydd ar ymweliad a'r I ardal. Plas y Faenol.-Mae Lady Juliet Duff a'r plant, sef Syr Michael a, Miss Veronica I Duff, wedi dyfod i aros am gyfnod i Bias y Faenol. Apel Meddyg.—Yn Nhribunlys Sir Gaer- tiarfon, apeliai y cynrychiolydd milwrol yn C'rbyn y ddau fis rhyddhad roddwyd i Wm Robinson, 2, Snowdon Street, Felinheli, R.nwI' modhr Dr Edwards. Ýmddangosai Mr Horatio Jones dros Dr Edwards. Dy- wododd T Isgapten Caradoc Davies fod rhy :Mhad -tyd Modi yr 20fed wei ei gan- < i Robinson. Nid oedd ond 28 mlwydd ued a gofynai am i'r rhyddhad roddwyd fod yn derfynolt Dywedodd Dr Edwards ei fod yn ddiweddar wedi bod dan driniaeth law feddygol galed, a'i fod yn analluog i c'rin ei gerbyd modur ei hunan. Xi allai gario ei fusnes ymlaen heb y cerbyd, oherwydd fod y cylch yn wasgarog. Yr oedd banner ei gleifion yswiriedig yn byw yn y pai tliau gwledig a'r banner arall yn Felinheli. Yr oedd ganddo tua 500 ar ei banel. Yr oedd Robinson gydag ef ens pedair illynedd, ao efe a/i dysgodd fel ftyrvvr. Gofynodd Mr J, W. Hughes oni allai gael selfstarter i'w gerbyd? ac ateb- wyd y byddai hynny yn newid yr achos, ond ni allai ef wneud gwaith fel trwsio punctures. Dywedodd Mr Horatio Jones na fuasai fcelfstarter ddim yn dod dros yr anhawster c. drafaelio hyd ffyrdd fel eiddo Rhiwlas. Dywedodd Dr Edwards fod gan Robinson ddau frawd yn y Fvddin. Dy- wedodd y o nryehiolvdd milwrol mai y Dr dreiniodd Rcbinson fel gyrwr modur, a gofynodd a oedd rhwystr iddo drenio bach- gen arall ? Atebodd y Dr na wyddai pa le y cawsai fachgen. Yna dywcdodd y cynrychiolydd ei fod am ddal ei afael yn y dyn am mai efe a'i treniodd. Ond dy- wedodd y Dr ei fod yn dal ato am ei fod n ei ystyried yn un gellir dibynu arno. Mae gennyf brofiad ohono ef, ac ,nid gyda neb arall. Caniatawyd rhyddhad hyd Medi yr 20fed.
122 MLWYDD OED.
122 MLWYDD OED. Cymro Hynaf yn y Byd. Hawlia'r "Drych" ei fod wedi canfod y Cymro hynaf yn y byd. Mae'n 122 mlwydd oed, ac yn frodor o Berriew Sir Drefaldwyn, lie y ganwyd ef Ionawr 15, 1794. Ei enw ydyw Thomas Morris, ac y mae'n byw ar hyn o bryd yn Westerville, Custer, Nebraska, Unol Daleithiau. Mae yn ddall ac yn fyddar, ond ar wahan i hyn mae'n edrych yn rhagorol. Dywedir ei fod yn ysmociwr trwm. Bu'n trigo yn yr un ty am 50 mlynedd. Er yn Gymro, mae bron wedi anghofio ei Gymraeg.
GWEDDIO AM HEDDWCH.
GWEDDIO AM HEDDWCH. Sieryd boneddiges o Southampton sydd newydd ddychwelyd o Germani am y prin. der bwyd yno. Mae'r bara yn ddu, ac yn amhosibl i'w fwyta, bron, a gwelodd ar un adeg lympiau o datws a gwellt ynddynt. Dywed mod miloedd o'r bob] wedi eu di- fetha, a'u bod yn gweddio am heddwch yno. Dywedir na ellir cael cwningen yn y wlad heb dalu lp am dani.
-I--PWLLHELI.
I PWLLHELI. Damwain. — Mae Preifat W. Robyns Owen, Erw Wen, wedi cyfarfod a dm-I wain. DeaUwn ei fod yn gwella yn fodd- liaol.-Hyn hefyd sydd wedi syrthio i ran Master Gwilym Ellis, mab Mr Llewelyn Ellis, llyfrwerthydd. Syrthiodd ac anaf- odd ei fraich dde Apwyntiad.—Mae Mr R. Jones Griffith, mab Mr E. Jones Griffith, ysgolfeitsr, wedi ei apwyntio yn glerc i Ariandy y London City a Midland, Aberystwyth. Cwympo yn y Rhfyfel^ —Dydd Sadwrn, daeth y newydd trist i law fod Preifat I Richard Williams, R.W.F., mab Mr a Mrs A\ illiams, Efail Newydd, wedi ei ladd yn y ffrynt. Ychydig wythnosau yn ol caf- odd y D.C.M. am wroldeb yn y ffrynt.— Hysbysir hefyd fod yr un ffawd wedi ciiis- I gyn i ran Preifat Robert Owen Thomas, Eisteddfa. Lladdwyd ef tra'n myned a chyfaill i ysbyty Clwyfwyd brawd iddo I ychydig wythnosau yn ol. Mae mewn I ysbyty yn Lerpwl, wedi colli un llygad.
DYDD LLUN.
DYDD LLUN. LLYNGES GERMANI ALLAN. Hysbysa,'r Morlys fod Llynges Germani wedi dod allan dydd Sadwrn, ond dych- welodd i'w phorthladd pan hysbyswyd hi gan ei hysgowtiaid fod Llynges Prydain allan. Trwy hyn osgowyd brwydr, ond suddwyd dwy "light cruiser" Brydeinig gan fadau tanforawl tra yn chwilio am y gelyn. Y Nottingham a'r Falmouth oedd- rnt. Achubwyd holl swyddogion y llestri, I a'r holl ddynion oddigerth 38 o ddwylaw'r Nottingham ac un o ddwylaw'r Falmouth. Dinistriwyd dau fad tanforawl German- Ridd. I BUDDUGOLIAETHAU PWYSIG. I Mae'r Prydeinwyr a'r Ffrancod trwy I gydweithrediad, wedi ennill buddugoliaeth, au pwysig ynghymydogaethau y Somme a'r j Verdun. Symudodd y Prydeinwyr ymlaen hefyd ar y ffrynt o Thiepval i ddeheu- barth Guillemont, gan gymeryd 796 o garcharorion. Maent wedi meddiannu liefyd yr ucheldir yngogledd Pozieres. I Ar walian i hyn cymerrodd ein milwyr am- I ryw 0 tfosydd yngorllewinbarth High Wood. Yngogledd-ddwyrain Pozieres sy- tnudasom ymlaen ar ddwy ochr Pozieres- Bapaume Road. Erbyn hyn mae'r Ffranc- od wedi meddiannu bron yr oil o bentref JJaurepas, a llinellau o ffosydd rhwng Maurepas a Clerv, ac amddiffynfa rhwng Guillemont a Maurepas. Cymerasant holl bentref Fleury hefyd, a dwy redoubt ynghymydogaeth Thiaumont. Cyfaddefa'r adroddiad Germanaidd eu bod wedi byr- han eu llinellau rhwng Guillemont a Mau- repas, yn unol a chynlluniau. I GWEITH REDIADAU ITALAIDD. A ganlyn ydyw'r adroddiad swyddogol [talaidd ddoe: Atebodd ein magnelwyr yn effeithiol i fagnelfeydd y gelyn yn Nyffryn Astico, ac ar yr Asiago Plateau darfu i ni atal holl ymosodiadau y gelyn. NTos Sadwrn, ar y Carso, ar ol tanbeleniad ffyrnig, de-chreuodd y gelyn ymosodiad ar ein safleoedd, ond aflwydiannus fu eu holl ymdrechion. Darfu i ni gymeryd ych- ydig o garcharorion.
DYDD MAWRTH.
DYDD MAWRTH. I ADRODDIAD GERMANI. I Daw y newydd yn swyddogol o Ger- mani o'r Balkans yn dweyd eu bod wedi elluill i' r de a'r de-ddwyrain o Fiorina y Vic Hill a'r Malareka Ridge. Stormiwyd safleoedd y Serbiaid i'r dwy- rain o Banica ar y Malka Nidge Planina (i'r gogledd o Ostrovo). Aflwyddiannus fu holl geisiadau'r gelyn i adfeddiannu Dzemaet Jeri. Gyrwyd yn ol ymosodiad gwan o eiddo'r gelyn yn agos i Gumnitar i'r gor- llewin o Varda. I'r de-orllewin o Dovian Lake y mae brwydro cyflegrol yn parhau. I SYMUDIAD GWLEIDYDDOL. I Y mae'r symudiad Bwlgaraidd a Ger- manaidd ar yr ymosodol yn ymeangu. Yn p dwyrain y mae'r Bwlgariaid yn symud ymlaen i Maceronia, a'r milwyr Groeg- aidd o'r Fourth Corps, y rhai yr oedd ganddynt adrannau yn Seres, Kavalla, a Draina, yn rhoi i fyny y tir yn llwyr. Mae'r Bwlgariaid yn awr yn meddiannu Hermanli ar y mynyddoedd ger Seres, ao y mae'r gelyn heb danio yr un ergyd wedi meddiannu yr holl gaerfeydd mor bell, ac yn cynwys Lissa. Mae'r Bwlgariaid wedi mynd ymhellaech i'r gorllewin o'r afon Nestos, ac wedi gwthio rhai o'n milwyr mor beU a Kavala. Nid oes dim pwysig- rwydd yn hyn ond fel symudiad gwleid- yddol i gael ymrwymiad ean Groea- ODDIWRT'H SYR DOUGLAS -HAIG. I Wedi tanbelenu trwm gwnaed ymosod- j iadau gan y gelyn drwy daflu bombs fore LIlln ar yr High Wood. Ond gwrthsaf. wyd yn rhwydd. I'r gogledd-orllewin o'r High WTood bu raid i rai o'n mihvyr am- ddiffynol dynu'n ol o flaen adrajanau cryf- ion i'r gelyn, ond methai y rhai hyn tvneud unrhyw gynnydd pan ddaethant dan y tan o'n safleoedd i'r gorllewin o'r coedydd. Yn ystod y nos pelenwyd yn effeithio1 adrannau o safle'r gelyn, tra y bombardiodd y gelyn ein ffosydd ynghym- rdogaeth Pozieres ac i'r gogledd-ddwyrain o Contalmaison, gan arfer nwy yn rhwydd. I'r gogledd-orllewin o Hulluch a'r dwyrain o Le Plantin ceisiodd y gelyn wneud rhuthr ar ein ffosydd; ond gyrwyd hwy yn ol gyda cholledion. Ger Givenchy ffrwydroddl y gelyn fwnfa, ond heb effaith. I 0 RWSIA. I Ar yr afon Stokkhod ynghymydogaeth Toboly a Radka Chervishe (20 milldir i'r gogledd o Reilffordd Kovel-Sarny), par- hn'r bnvydro. Mae ein milwyr wedi symud ymlaen mewn amryw bwyntiau. Yn y cylch hwn yn ystod dydd Gwener, ey merwYd yn garcharorion 16 o swyddogion, a thros 1,350 o filwvr, yn oynnwys un gwn tnawr, 18 o ynau peiriannol, pedwar o bomb mortars, pedwar searchlight a llawer o fanion craill.
I -LLYS APEL SIROL ARFON.
I LLYS APEL SIROL ARFON. Bu eisteddiad o'r uchod yng Nghaernar- fon dydd Iau diweddaf, Mr J. E. Greavee yn v gadair. A ganlyn ydoedd y dyfarn- iadau:— Owen Jones, Mount Street, Bangor: Rhyddhad llwyr. W. Robinson, chauffer Dr Edwardte, Felinheli, rhyddhad hyd y 30ain o Fedi (terfynol). Robert Jones, Llwynybrain Lodge, Llan- rug: Rhyddhad hyd Awst 20fed (terfynol) H. Owen, Penarth Clynnog: Rhyddhad hyd Medi 30ain. Owen P. Rowlands, Caradog Place, Ebenezer: I fyned o dan arohwiliad medd- ygoJ. J Morris, Melyn Fiyn, Brynrefail: Gohiriwyd yr achos am 14 diwrnod er mwyn iddo wneud trefniadau gyda'r Swyddfa Arfau oedd wedi gofyn am ei wasanaeth fel ffeiyllydd. Michael Griffith, Mur Mawr, Nant Peris Rhyddhad hyd Medi 30. Robert D. Jones, Bryn Derwen, Rhos- tryfan Dim rhyddhad. J. Jones, Pant Cloddfa'r Lon, Nantlle: Rhyddhad hyd Medi 16eg. R. Jones, Pantycelvn, Llwyndu Road, Penygroes: Dim rhyddhad, ond nid yw i gael ei alw i fyny hyd Awst 31. W. J Hughes, Ci-oss Keys, Clwtybont: Rhyddhad hyd Tachwedd 18. R. H. Roberts, 4, Tanrallt Cottages, Nantlle: RhyJdhad hyd Awst 31. H. G. Williams, 1, Lhvyndu Road, Pen. ygroes: Gwrthodwyd ei apel. R. H. Parry, 13, Coed Madoc Road, Talvsarn: Dim rhyddhad. Wm. Vaughan Williams, Llythyrdy Rhostryfan Dim rhyddhad. W. T. Morris, Fachell, TIanddeiniolen: Rhyddhad hyd Tachwedd 31 (terfynol). W. Humphreys. Blaenynant, Nant Peris: Rhyddhad hyd Medi 30 (terfynol). Henry Jones, 2, Gwyrfai Terrace, Waen- fawr: Rhyddhad hyd Medi 30 (terfynol).
I __- - DYFFRYN -NANTLLE.
bunal Canolog yn ddiamodol oddiwrth waith ymladdol; ac ln-lyd oddiwrth bob gwaith milwrol ar yr amod iddo wneud gwaith o wasanaeth cenedlaethol dan reol- aeth y Pelham Committee. Caiff 21 niwrnod i ddewis ei waith. Yr ydym yn falcli o glywed hyn, oblegid os bu gwrth- wynebydd cydwybodol erioed ein cymrawd D. Thomas yw hwnnw.