Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

YR EISTEDD-I i FOD.

DYDD IAU.

CELL Y LLYTHYRAU, I

News
Cite
Share

CELL Y LLYTHYRAU, I UNDEB Y GWRTH-SOSIALWYR. (At Clygydd y "Dinesydd.") Svr,—Yr wythnosau hyn cynhelir cyf- res o gyfarfodydd dan nawdd yr uchod yngwahanol ranau o'r Deheudir i'r diben, fe ymddengys, o wneud ymosodiad ar y Blaid Lafur Annibynnol yn benaf. Ys- tyriwn hyn yn anheg i'r eithaf, i gychwyn am fod pob plaid wedi ymgymeryd a pheidio trafod pynciau gwleidyddol ar hyn o bryd a chyhoeddi cad-oediad nes i'r gyflafan fawr hon fyned heibio. Yn ych- wanegol at yr uchod ystyriwn eu bod yn cymeryd reantais anheg ar Ddeddf Dio- gelu y Goron, gan fod. y sawl a'u gwrth- wynebo, yn naturiol, yn gosod ei hun yn agored i gael ei gosbi dan y cyfryw ddeddf, ac ystyriwn waith y brodyr hyn yn llechu yn ei chysgod i luchio cerrig at brif blaid Lafurawl y wlad yn anheg ac anheilwng o- wleidyddwyr Prydeinig, tra mae miloedd o aelodau y blaid yn ymladd dros eu gwlad, ac wedi rhoi heibio, am y tro, bob dadl boliticaidd. Swm a sylwedd yr areithiau yw danod yr hyn wnaeth, neu yn hytrach yr hyn na wnaeth, y blaid hon ynglyn a'r rhyfel. Gwyr pob sylwedydd exaff- beth fuasai hanes ein gwlad, ac yn arbennig teuluoedd y milwyr dewr, onibai am ymdrechion Llafurwyr y deyrnas. Onid iddynt hwy bron yn gyfangwbl y mae diolch am y buddiannau hael gaed ar gyfer y cyfryw? A thebyg yw y buasai Deddf Gorfodaeth mewn grym fisoedd ynghynt, heb ddim ar gyfer teuluoedd y sawl elwid i'r fyddin, onibai am lef gyson cynrychiolwyr Llafur yn ein gwlad. Awgrym nodweddiadol iawn o ysbryd y siaradwyr yw ar "nad yw y cyfryw blaid, na wnaeth ddim i hyr- wyddo rhyfel, i gael rhan yn nhrefniad heddweh, aac ychwaith yn elw y rhyfel." 0 barth y cyntaf, mae esgymuno plaid am ci barn yn anghyson a'r Cyfansoddiad Prydednig. 0 barth yr olaf, wel, yn an- ffodus, ofmvn na cheir fawr elw cyffredinoi i neb o'r trychineb ofnadwy hwn. Gwir fod dosbarth sydd yn prysur wneud ei ffortiwn ar y rhyfel; ond gwyr pawb nad oes i'r gwaithiwr druan ond ymlad-d a dioddef. Na, bydd mwy o alw am wasanaeth y blaid dan sylw a'i cliyffelvb nac erioed, wedi yr el y rhyfel heibio; a phan y setlwn ein gelynion allanol. Ceir gweled faint o nerth fydd gan werin gwlad i ymladd ei gelynion mewnol. Ao ni chaniata glowr rois heibio ei "fandrel" i ymladd gelynion ei wlad i'r un crach foneddwr na Thori llawn o ysbryd Prwsiaidd ymyryd a'i hawliau cymdeithasol. Yn gymaint a darfod i bob plaid ym- gynieryd a rhoi heibio eu gwahaniaeth pleidiol, teg yn y cyfeillion hyn f'ai cadw eu cardiau rhag cynneu tan a fo yn an- hawdd ei ddiffodd. Mae y frwydr yr ydym ynddi yn awr mor ddifrifol, a'r can- lyniadan mor bwysig i bob un olionom, o'r Brenin liyd i'r distadlaf yn y tir, fel mai anheg yw anfon dynion o amgylch i ym- osod ar blaid ac y mae y rhelyw o'i haeL odau yn rhy deyrngarol i't- Goron, ar hyn 0 bryd, hyd yn oed i amddiffyn eu plaid. Felly, gyfeillion, hands off, ebe yr eiddoch CRWYDRYN. ■■

Advertising

DYDD MERCHER. I

-DYDD iAU.i

OYDD GWENER. \

DYDD SADWRN.