Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

YR EISTEDD-I i FOD.

News
Cite
Share

YR EISTEDD- I i FOD. I DIDDYMU "A 0ES HEDDWCH?" I I Gweinidog o Fangor yn Ennill y Gadair. I I Dydd Mercher, agorwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth. Cynhal- iwyd yr Orsetld ymysg adfeilion Castell Aberystwyth, y Maen Llog yn y canol. Gwnaed i ffwrdd a'r dull arferol o ofyn, "A oes heddwehr" eleni, olierwydd y rhy- fel. Óffrymwyd Gweddi'r Orsedd gan Iolo Riiy s. Hysbyswyd mai yn Birken- head y cynhelir yr Eisteddfod nesaf, ac mai "Y Gwron" fydd testun awdl y gadair. Daeth cynulliad da i gyfarfod y bore. Arglwydd Rhondda oedd i lyw- yddu, ond ohet-wydd galwadau eraill, methodd a bod yn bresennol, a. chymerwyd ei le gan ei ferch, Lady Mackworth. Llywyddwyfl cyfarfod y prynhawn gan Syr Owen Edwards, Llew Tegid yn arwain, ac fel arfer rhoddodd foddlonrwydd mawr i bawb. Gwobrwywyd a ganlyn yn.ystod y diwr- liod:- Cyllell bapur o goedyn caled: 1, Sidney EHis Roberts; 2, Percy Jenkins, y ddau o Aberystwyth. Bracet pren: 1, Evan Edwards; 2, John I H. Evans, y ddau o Aberystwyth. Boc-s cyllill: David H. Roberts, Ysgol Sirol Aberystwyth. Llyfr darluniau 1, Dorothy Anthony; 2, Fred B. Jones, y ddau o Lanelli. Drawing in pastels: 1 a 2, Kate Jones. Sheet of drawings: 1, Catherine Jones; 2 ,Irene Ellis, y ddwy o Aberystwyth Water colour sketches: 1, Mary Speed, Ambrose Street, Bangor; 2, Mary L. Gordon, Aberystwyth. Sheet of designs: 1, Dorothy M. Hussel. bee: 2, Mary L. Gordon. Adrodd, "Y Torwr Cerrig": 1, Millicent Rees, Ammanford; 2, Ehvyn Rees, Carpel Hendre, De Cymru; 3, Mary Davies, Bryn Eithin, Cyntwrch Isaf. Y wobr gyntaf I ydoedd dau gini, a'r ail a'r trydydd gini yr I un. Canig, "leuan Brydydd Hir": Parch T. Cynfelyn Benjamin, Sir Aberteifi. Gwobr, 2p 2s. Unawd tenor: Lance-Corporal Charles, Llanelli. Canu pennillion, dull y Gogledd Dai Bevan, Glanamman, a Llinos Thomas, Garnant, cyfartal. Corau plant, caneuon gwerin: Cor Plant Dyfi. Gwobr, 7p. Unawd contralto: Miss Lizzie Daviee, Tonypandy. Unawd ar y berdoneg: 1, Miss Black- more, Blaina; 2, Sal Jenkins, Treforris. ¡ Corau plant: 1, Porth a. Cymmer; 2, Mountain Ash. Gwobr, 8p. I Prif gystadleuaeth gorawl: 1, Rheidiol, Aberystwyth; 2, Fforest Bach. Gwobr, 30p. j Unawd soprano i blant: Louisa Davies, Ammanford. Unawd ar y delyn: Beatrice Griffiths, Gloucester. Unawd baritone Gwilym Jones, Ystrad- gynlais. Traethawd, "Dylanwad Dr T. C. Ed- wards ar addysg a meddwl Cymreig": Parch D. D. Williams, Lerpwl. Gwobr, 15p 15s. Traethawd, "AthToniaeth Wm. James": Ystyrid traethawd y Parch William Ben- jamin, Garth, Llangollen, mor ragorol fel y penderfynodd y beirniad ddyblu y wobr. I Gwobr, 5 gini. Traethawd, "Llenorion Sir Aberteifi": Parch J. D. Lewis, Gomerian, Llandyssul. Gwobr 5 gini. Traethawd, "Telerau Diwydianol unrbyw blwyf Cyrmreig": Mr Lewis Davies, ysgol- feistr, Port Talbot, a Mr O. T. Hopkins, Mountain Ash, cyfartal. Gwobr, 10 gini. Cyfieithu o Gymraeg i Esperanto: G. Rees Griffith, Lerpwl. Gwobr, 2 gini.

DYDD IAU.

CELL Y LLYTHYRAU, I

Advertising

DYDD MERCHER. I

-DYDD iAU.i

OYDD GWENER. \

DYDD SADWRN.