Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
20 articles on this Page
PROBLEM BWYD.I
PROBLEM BWYD. I SYNIADAU UNDEBWYR LLAFUR. I Prynhawn Sul, yn y Liverpool Stadium, eafwyd cyfarfod brwdfrydig o Undebwyr Llafur, o clan lywyddiaeth Mr J. Clarke. Cynnygiodd Mr Bamber, yr hwn gyn- rychiolai y Warehouse Workers' Union, y penderfyniad canlynol :Eu bod yn pro. testio yn orbyn diffyg yrngais y Llywod- aeth yn gomedd cymeryd rheolaeth y rhai fanteisiai ar yr amgylehiadau i godi hwydydd ac angenrheidiau teuluol y bobl." Dywedodd Mr Robert Williams, vsgrif- ennydd Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Trosgludol, wrth eilio'r penderfyniad, mai cost cludiad gwenith o Argentine eyn y rhyfel ydoedd 10s 6c y dunell, ond ei fod yn awr yn 80s, neu wyth gwaith gymaint a chyn y rbyfel. Byddai i brisiau fynd i fyny bob mis tra parha y rhyfel, a mentrai ddweyd os y parhai hyd y Nadolig y byddai y dorth pedwar pwys yn costio swllt, Yr oedd pob Hong suddid gan submarine Ger- manaidd vn mynd i ychwanegu yn fawr at bris yr ymenyn a'r bara. Daliai ef ei bod yn ddvledswydd arnom i ddadleu dros godi yn y swm ganiateid i'r milwyr a'r morwvr Prydeinig. Derbyniwyd Mr Tom Mann gyda chy- meradwyaeth 1whe1. Gwnaeth gyfeiriad at Awst 13eg bum mlvnedd yn ol, adeg y streic rJilffyrdd, fel un ag y bu i'r Llyw- odraeth a'r awdurdodau uno yn rheng- oedd cvfaiafwyr y wlad, a'r pryd y gwnaed gweithredoedd creulon ecfyrydus yn Ler- pwl. Ac yn awr or adeg y rhyfel y mae pum Gwyl y Bane wedi cael eu rhoddi i alluogi y Llywodraeth i drin busnes dros y Bank of England, a daeth y Llywod. raeth hefyd i gynorthwyo amryw fasnach- wyr a chwmniau rheilffyrdd; ond pan ddeuai y gweithwyr i ofyn am unrhyw help dywedid wrthynt—"Bydd i ni ap- wyntio pwyllgor." Wrth sylwi ar y ffaith fod cyfalafwyr yn y wlad hon ac America vn ceisio cael gafaet ar yr I n- debau, dywedodd mai yr unig ffordd yn y dyfodol i'r gweithwyr gael eu hachub yd- oedd drwy drefniadau diwydiannol a gweithrediad unfcngyrchol. Pam, medd ai, fod y bobl yn Lerpwl yn fcrin o fwyel ydd yn eu cartrefi, pan yr oedd yn y "coll stores" yn Lerpwl fwy o facwn nag a fu erioed yn y ddinas honno? Yr oedd wedi darllen rhestr y rhai hyn, a dywedai eu bod yn analluog i ddal yr ygtociau o facwn, ac y bu raid cymeryd ystordai cotwm, gyda'r canlyniad fod y bacwn yn difetha, gyda'r canlyniad y gyrwyd nifer fawr ohono i Glasgow, ond anfonwyd ef yn ol, a thaflwyd ef i'r domen fel peth anaddas i ddynion ¡'w fwyta. Yr oedd yna filiwn- au o focsus o "condensed milk" yn cael ei ystorio i mewn. Wedi i Mr Mann roddi y penderfyniad i'r eyfarfod, ac iddo. gael ei basio yn un- frydol, cynnygiodd benderfyniad ychwan- egol yn gofyn am gefnogaeth yr holl Un- debau UaFur drwy y deyrnas i gefnogi gweithwyr y rheilffyrdd yn eu cais am ddeg swllt o godiad yn eu cyflogau. Pas- iwyd hwn gyda'r un unfrydedd a'r Hall. Terfynwyd y eyfarfod gyda "three cheers" calonnog am unoliaeth diwydian- nol a therfyniad y rhyfel. ———— -0*0--
BARN MR HAVELOCK WILSON.
BARN MR HAVELOCK WILSON. Bai y Llywodraeth ac nid Perchen- ogion Llongau. Nid oedd Mr Wilson yn gweled bai ar berchenogion llongau am fod pris cludiad nwyddau -nor uehel; ond beiai y Llywodr- aeth am na fuasent yn rhedeg ein llongau fel y maent yn gwneud gyda'r rheil- ffy-rdd. Byddai hyn, wrth gwrs, yn gadael y -westiwn o longau tramorol; ond yr oedd ;;ennym allu mawr yn ein llaw. Fe allem orfodi perchenogion tramorol i roddi bargen resymol, neu ynte wrthod t'oddi glo iddynt yma nac mewn unrhyw orsaf lofaol drwy yr holl fyd.
EDAFEDD CYMREIG I'RI FYDDIN.
EDAFEDD CYMREIG I'R FYDDIN. Ymwelwyd a'r workrooms osodwyd i fyny gan Ewyllgor Cronfa Americanaidd Lloyd George ym Mhenygroes, Bethesda, a Blaenau Ffestiniog ddydd Gwener gan Mrs Lloyd George, Mr a Mrs Joseph t Davies, Caerdydd, a Mr J. Owain Evans, ysgrifennydd. Y mae 15,000 o barau o socks wedi cael eu harchebu i'r ffrynt. Gwnfeir hwynt o edafedd Gymreig, a dylid ceisio cadw y ddiwydiant i fyny.
MR LLOYD GEORGE YMI MHARIS.
MR LLOYD GEORGE YM I MHARIS. Cyhoedda. Gweinidog Tramorol Ffrainc, fel canlyniad i gyfnewidiad meddyliau cydrhwng M. Briand a Mr Lloyd George, y ceir fod cyd-ddealltwriaeth hollol yn bodoli ymhob dim cydrhwng y ddwy Lyw- odraeth ar gwestiynau yn dal perthynas ag ymddygiad unol y gweithrediadan mil- Vrrol.
DYNION GWASANAETH GAR= TREFOL.
DYNION GWASANAETH GAR= TREFOL. Datgani id Arglwydd Derby ar eu Gwaith- Dywedodd Arglwydd Derby ynglyn a dynion at wasanaeth cartrefol fod y ffaith Had vdynt ond o ychydig wasanaeth filwr- ol yn cael ei ystyried yn llawn, ond os na ddefnyddir Invy yn y cyfeiriad hwn yr oedd yn golygu eymeryd dynion oeddynt yn fwy cymwys i ymladd. Yr oedd y Swydd- fa Ryfel, fodd bynnag, yn gwerthfawrogi yn llawn y ffaith y gellid arfer dynion o fedrusrwydd arbennig yn well gyda'u gwaith eu hunain nac yn y fyddin, ac yr oedd cyfarwyddiadau llawn yn cael eu cyhoeddi i gynrychiolwyr milwrol i beidio gwasgu am y dynion hyn. 0 dan y rhestr o ovuchwylion tiwyddedig, y mae dynion heb fod yn gymwys ond i C2 a C3 mewn amryw oruchwylion i'w rhydd- hau yn llwyr o wasanaeth milwrol, ac tnewn amryw oruchwylion cenedlaethol ni chymerir hwy i'r fyddin. Yn y ffordd yma dywed Arglwydd Derby fod pob ymdrech yn cael ei wneud i arfer mewn diwydiant yn hytrach nag rn y fyddin wasanaeth dynion profiadol anghvfaddas i wasanaeth cyffredinol.
MR LLOYD GEORGE A KINMEL.
MR LLOYD GEORGE A KINMEL. I Agor Neuadd Ymneilltuol. Mae yr I sgrifennydd Rhyfel wedi addo, yn ddarostyngedig i alwadau na wyr am danynt ar hyn o bryd, ymweled a Gwer- evll Kinmel y Sul nesaf, ar yr achlysur o agor Neuadd Ymneilltuol llewydd, yr hon sydd wedi cael ei hagor drwy ym- drechion inol y Bedyddwyr, Methodist- iaid Calfinaidd, a'r Annibynwyr Cymreig. Mae Mr Lloyd George, yr hwn wedi ei ymweliad a chyfarfodydd yr Eisteddfod Genedlaethol fydd yn dibenu yr wythnos yn Cricc-ieth, wedi addo bod yn bresenno] yn y wasanaeth foreol yn Kinmel, a rhoddi tinerchiad fer, pryd y pregethir gan y Parch John Williaii-is, Brynsiencyn. Ceir cyfarfodydd eraill yn ystod y dydd, a chyfarfod cyhoeddus nos Lun o dan lyw- yddiaeth Syr J. Herbert Roberts, A.S., a disgwylir Aelodau Seneddol eraill yno i iararl.
GWARCHEIDWAID CAERNARFON.…
GWARCHEIDWAID CAERNARFON. I Bu eyfarfod o'r uchod dydd Sadwrn di_ weddaf, Mr J. C. Lloyd Williams, Llan- beris, yn y gadair. Apwyntiadau. I Mr David Parry, Ty Capel, Bethel, apwyntiwyd fel porthor i'r tloty, a Miss Gertrude .1. Taylor, 81, Davenport Street, Bolton, yn hrif nyrs i'r hen ysbytv tra pery y rhyfel. Cymorth i Blint. I Gofynodd Mr T. J. Lloyd, Llanrug, beth I ydoedd y i-lieswin am y gwahaniaeth mewn cymorth i ltlant ynghwahanol ddosbarthiad au yr Undeb. Credai ef nad oedd tri uwllt dros bob plentyn yn ormod yr adeg presennol. Yr oedd plwyf Llandwrog yn arfer rhoddi tri swllt yr wythnos dros bob plentyn, ond pur anaml y byddai plant Llanrug yn cael y swm hwn. Parch Ishmael Evans: Cynnygiaf ein bod yn pen-odi pwyllgor i edrych i mewn i'r mater. Eiliwyd ef gan Mr R. G. Roberts, Pen- ygroes. Wrth ategu dywedodd Mr G. W. Prit- chard, Penygroes, fod plwyf Llandwrog wedi penderfynu rhoddi tri swllt i bob plentyn, a chredai y dylai'r holl Undeb wneud yr vn peth. Cynnygiodd Mr W. Abel Davies fod i bob achos gael ei ystyried ar ei dir ei hun. Pasiwyd y cynnygiad gwreiddiol. 4'.
! BUDDUGOLIAETH YN SICR.
BUDDUGOLIAETH YN SICR. Proclamasiwii Brenin Itali. Dywed adroddiad o Rhufain fod y Brenin wedi cyhoeddi proc]amasiwn i'r fyddin, yn yr hwn y dywed:— Mae'r ffaith fod Goriza wedi ei gymeryd yn gam jnyvs-ig ar y ffordd sy'n arwain tu- agat gwblhau yr amcanion Italaidd. Mae buddugoliaeth yn awr yn sieT. Cofiwch am eich brodvr syrthiodd, a'u rhagflaeniaid y rhaj fu fanv wrth ymladd yn erhyn yr un gelyn, a dros yr un achos.
ARLYWYDD FFRAINC YN Y I FFRYNT.
ARLYWYDD FFRAINC YN Y FFRYNT. Dywed adroddiad o Paris fod yr Ar- lywydd Poincare wedi talu ymweliad a'r Pencadlys Prydeinig dydd Sadwrn. Treul- iodd y diwrnod ynghanol milwyr Prydeinig, ac edrychodd ar y tir feddianwyd gan- ddynt yn nwyreinbarth Albert ac o flaen Fricourt. Yna aeth at y milwyr Ffrengig ar y Somme, lie cyfarfyddodd a'r Cad- fridog Joffre. Dychwelodd i Paris yn ystod y nos. I
BODDIAD CYFREITHIWR.I
BODDIAD CYFREITHIWR. I Dydd Gwener, bu foddi Mr Ellis Richard Cross, cyfreithiwr adnabyddus yn Efrog, a chyn-glerc i ustusiaid Scarboro, yn Llyn Butter mere. Nid oedd ond 51 mlwydd oed. Yn y cwest dydd Sadwrn, dywed- wyd iddo fyned i'r dwfr wedi cliwysu, ac efallai fod y dwfr oer wedi acliosi meth- iant y galon. Bwriwyd rheithfarn o "Farwolaeth ddtamweiiiiol."
CYNNVVRF YNG NGHAERDYDD. I
CYNNVVRF YNG NGHAERDYDD. I Prynhawn Sul tliorodd cynnwrf allan ymysg Negroaid yn Bute Road, Caei-dydd. Defnyddiwyd cyllill, ffyn, a "rollers" gan y gwrtliryfelwyr, a thaniwyd ergydion ganddynt. Gorfu i'r heddlu ruthro arnynt gyda'u batons cyn y llwyddwyd i'w diar- fogi. Aed ag wyth i'r ysbyty wedi eu clwyfo yn ddifrifol.
Ii GWAELEDD CLERC TY'RI CYFFREDIN.
GWAELEDD CLERC TY'R I CYFFREDIN. Hysbysir fod Syr Courtenay Ilbert, Clero Ty'r Cyffredin, wedi cael ei daro gan "heat stroke" dydd Gwener. Aeth i lawr o Llundain j'w dy yn Beaconsfield, ac ym- ddengys iddo gael ei gymeryd yn wael yn ystod y daith. Canfyddwyd ef ar y ffordd gcr Beacnsneld wedi colli ei gof, ac heb wybod i ble'r oedd yn mynoo. -sio-
I TRYCHINEBAU TRWY FODDII
TRYCHINEBAU TRWY FODDI I Diwedd Mam wrth Geisio Achub I Merch. Cymerodd amryw o di-yehinebau trwy ioddi le yn ystod diwedd yr wythnos. Yn Trent Vale, Stoke-on-Trent, collodd Lucy Sherwin, 38 oed, a'i geneth 12 oed, Caro- line, eu b/wydau mewn hen bwll dwfr. Syrthiodd jr eneth i mewn iddo wrth geisio rhwystro ei phel fyne(I iddo, ac aeth ei mham i fewn ar ei hoi. Ceisiodd dyn eu hachub, a bu bron iddo yntau a boddi liefyd. Cafwyd dau gorff ar y traeth yn Saun- (lersfoot, ger Dinbych y Pysgod, ddydd Sadwrn. Bu foddi bachgen a geneth o Ormskirk mewn camlas. Nid oedd yr eneth ond pedair mlwydd oed, a, bu foddi yngolwg ei brawd hynaf.
CYNNYGIAD CADEIRYDD.I
CYNNYGIAD CADEIRYDD. Mewn ilythyr at aelodau Tribunal North Derby, yn ymddiheuro absenoldeb, dywed- ai y Cadeirydd y buasai'n rhoddi pwys o de i j-hywun ohonynt allai ddweyd beth ydoedd enw y dref He'r oedd ar ei wyliau. Y dref ydomd Cerrig- Y dref ydoÐdd Cerrigydruidion, gev Cefn- hiry evnydd acha f.
I BETHESDA.j
I BETHESDA. Newyddion Trist.-Yn ystod yr wythnos daeth y newydd trist i'n plith fod dau eto o'n bechgyn glew wedi colli eu bywydau ar faes y frwydr, sef John Parry Owen a Griffith Hughes, y ddau o Lanllechid. Y cwestiwn ofynir yn ami yn y dyddiau hyn rw, Pa bryd y bydd terfyn ar y gyflafan arswydus lioii,-ond nid oes llef na neb yn ateb. Onid yw yn bryd i'r eglwys bellach godi ei chri yn erbyn y gwallgofrwydd hwn sydd _n difa'r genedl? Ymweliad, Mrs Lloyd George.—Yn sydyn ddydd Gwoner daeth gaii^ fod Mrs Lloyd George yn dod i dalu ymweliad a'r diwyd- iant newydd sydd wedi cychwyn yn y gy- mydogaeth dan ei nawdd hi, sef y gwaith gweu i ferciied. Er byrred yr amser, llwyddwyd i gael amryw o aelodau'r pwyll- gor lleol i fod yn bresennol. Y r oedd gyda Mrs George Mr W. Lewis, ysgrifen- nydd y gronfa sydd yn gofalu am gysuron i'r milwyr Cymreig, a Mr a Mrs Joseph Davies, sydd yn rhoddi arian i bwyllgor y sir at roddi gwersi mewn magwraeth bab. anod, a hefyd un o ysgrifenyddion yr Insurance Commissioners, Mr Owain Evans. Canodd rai o'r genethod un neu ddwy o alawon swvnol i'r cwmni, ac yna caed gair o ddiolch i Mrs Lloyd George am yr hyn mae wedi ei wneud i'r ardal trwy i^ychwyn y symudiad hwn. Talwyd y (liolchiadau hyn gan Mr J. Jones, U.H., Mr D. G. Davies, clerc y Cyngor Dinesig, a Mr E. R. Jones, ysgrifennydd y mudiad. Yna caed gair gan bob un o'r dieithriaid. Cioboithiai Mrs Lloyd George y gwelai pobj Bethesda eu ffordd yn glir i afael yn y mudiad hwn, a'i gadw ar ei draed. Syl- tvodd mai eu prif waitli yn Bethesda hyd vii hyn oedd gofalu am do uwchben pobJ, nc os byddai iddynt eto ofalu am bosonau am eu traed, byddent yn gwneud y peth goreu posibl i gadw trigolion y wlad mewn iechyd da. Yna eiaradwyd gan Mr William Lewis, yn addaw rhoi pob cefnogaeth, a Mr Joseph Davies a Mr Evans. Wedi hyn ymadawodd v crrani mewn modur i ymweled a gwaitn Ffes tiniog. Cyn ymadael dywedodd Air Joseph Davies fod y genet!i;>d i gael to parti ar ei gost ef, yr hyn dderbyniodd I gymeradwyaeth mawr wrth gwrs.
Advertising
Great SurrilTlerSale AT I 19, POOL STREET, CARNARVON. Commencing Friday, August 18th., for 14 Days only. yr BARGEINION GWIRiONEDDOL. wiy? ? ww i! r?? B!??L???M!r?!?!E?.!HL?J?8!LrJ????LJ\?)!! L. ?S?
ER COF
ER COF Am Thomas Norman Williams, 40, Pool Street, Caernarfon. Thomas Norman a ailanwyd Pan yn blentyn ar.yr aelwyd: Ar ffordd gul y nefol anian < Cafodd dad a mam yn darian. Thomas Norman sydd yn hoew Yn y j-(--f yn gwisgo'r ddehv j Ac yn chwareu mewn gogoniant Ar y nefol-organt-beiriant. 0! mor brudd i'w gweld gelynion Yn cael iiiatlii-ii ar ein Dev/rion! Ond, mae iiefol wlad i'w haros, Nad oes gelyn ddaw yn agos. I Caernarfon. BEDWENOG.
tO-HEB WEITHIO AM CHWE MLYNEDD-
tO- HEB WEITHIO AM CHWE MLYNEDD- Dirwywyd dyn o Surrey, yr hwn fu'n trigo ain rai blvnyddoedd mewn ogof ar Oxshott Common, i lp am beidio 11 enw i ffurflen cofrestru i fyny. Mae'n 44 mlwydd oed, a dywedwyd na ddarfu iddo weithio (TS chwe mlynedd. "Gwna rhai pobl 'fuw. mawr gydag ef, ac mewn un I ty yn Esher caiff frecwast bob dydd," meddai heddwas oedd yn prefi yr achos.
Family Notices
GENt. PRIODI. MARW. PRIODI. Jones-Davies-Jwst 4, ynghapel Deu- wHIt, Preifat W. R. Jones, Mur Melyn, it Miss Ann Davies, Tir Bonog. Hwghes-Jones-Awst 7, ynghapel Pen- Ian, Mr m. litiglico, Sheppard Street, Pontypridd, a Miss Kate Jones, PenY4 gongl, Bryncroes, Pwllheli. Evans, -J()-iies-,twst 9, yngliapel Grov0 Street (A.), Lerpwl, Mr E. Evans, L. C. & M. Bank. JBI. Ffestiniog, a. Miss Laura Jones, Garth Cottage, Porth- madog. MARW. Humphreys—Awst 8, Mrs Ann Hum- phreys, F.fail Wen, Penrhyndendraeth,. yn 63 mlwydd oed. Griffith—Awst 8, Mr Evan Griffith, Brott. madog, Penrhyndendraeth, yn 73 mhvydd oed.
Advertising
|*R"-IJ 'TTTWI inim in in i i mi m ?. FLEKHER. LIB.. | MEMORIAL WORKS, ? CARNARVONaBANGON i\ rgraffwyd a chyhocddwyd gan Ouiuni y Dinesydd Cymreig, CTf.s. yn 16, Palace Street, Caernarfou.