Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

19 articles on this Page

SENEDD Y PENTREF.

News
Cite
Share

SENEDD Y PENTREF. NEU, GWEITHDY WMFFRA TOMOS, Y CRYDD. I GWRES. Sian Ifans :W"st ti be, Wmffra, fedra i yn fy muw weithio efo'r towudd pouth ma, mae o'n fy ngwneud i'n un llwtrach. Wmffra: Dw i'n teimlo run fath a ti yn union, fedra i yn fy muw einios gael hwul ar ddim bud, ac y mae'r cwur crudd ma yn rhedag fel menun. Edward Ifans: Mae'n dda iawn i gael o, welwch chi. Dw i ddim yn meddwl y cawso ni v/ell towudd i'r cynhaua, a gwell crop o wair erioed am wn i. Twn i ddim i be ryda chi yn tuchan am y tipin gwres yma, na wn wi r, achos y mae'n rhaid i gael o. Wmffra: Wel mae o'n difetha fy mus- nas i, ac yn fy rhoi allan o bob hwyl i weithio, dyna i ti'r pam, Edward. Edward: Sut mae o'n difetha'ch busnas, deudwch ? Wmffra: W el tdi'r towudd braf yma ddim yn uifetha sgidia gimint a'r towudd gwlub, a tydw ina ddim yn cael cimin o waith gwadnu. Sian Ifans: Ond mae pobol yn trampio mwu o gwmpas pan bydd hi'n braf debig cen i? Wmffra: Paid a son am drampio mcchan i, toes yna neb yn meddwl am gerddad rwan. Tyli hogia a genod yn cael eu cario mewn motors neu ar gefna bersiey 1? i'r ysgol rwan. Tydi hegla pawb yn mund i frifo heddiw os cerdda nhw ryw chwartar milltir. Sian Ifans: Mae nhw yn gall iawn, ac mi gant ou parchu yn fwy o lawar. Wil Ffowc: Wel tydi cerddad ddim yn job braf iawn pan y mae'r haul mor boeth ag y mae o rwal], chwara teg i bawb. Sian Ifans: Beithio nad wut ti ddim yn mund i luchio dy weips rwan at neb, 4achos mae hi yn rhy boeth i ffraeo llawnr. Wil Ffowc: Na, Sian, mi rydw i am roi y regiwletor ar waith, a. beithio y gneith pawb run fath. Wmffra: Beit dda, Wil. Go on, mach- gian i. Wil Ffowe: Rydw i'n gredwr mawr mewn gwres fy hunan, 00 yn i leicio fo bob amsar. Fedra i ddim diodda oerni, a tydi rhiw 1;ar o glaiarinab ddim yn fy siwtio i chwaith. Dyna chi'r prygethwrs a'r areithiwrs yma, er engraifft, fedra i ddim dygymod a hwy os na fydd ynu nhw ddigon o wres. Fydda i'n meddwl nad oes yna ddim byd mor sobor a gethwr sych oer, a difvwyd. Maeg wres yn hanar y peth mewn gneud gethwr da. Y Gwnidog Eitha gwir, Wil Ffowc; ond y mae'n fwy na hanner y gamp i gael pregethwr gwresog, mewn cael gwran- dawyr mewn. gwres a limryl i wrando. Wil Ffowc: Sut yr ydych yn disgwyl i wrandawvr gael gwres i wrando pan nad oes haul yn twynu arnynt. Y Gwnidog: Ie, ie, ond sut yr ydych yn disgwyl i'r tan gyuneu ynghaJon y pre- gethwr heb gael cynulleidfa i'w brocio a'i gadw'n fyw? Edward: Ryda chi o'ch dau yn iawn, y mae eisia gwres yn y ddau i wneud chware teg a'r gwirionadd. Wil Ffowc: Tydw i ddim yn ama hyny; ond y gethwr ddylai fod yn dan ac yn I brociwr liefyd, ac fe ddeuai y gynulleidfa I ato i dwymo yn bur fuan. Y Gwnidog: Peth peryglus ydyw gwres mewn pregethwr, yn wir vmhawb. Dafydd Mae o'n Hawn mor beryglus bod hebddo. Y Gwnidog: Nid wyf yn eich ameu. Ond y mae gwres yn dueddol i godi i'r pen, ac i wneud dyn yn fwy o beiriant nac o ddyn. Nid fo ei hunan yw y dyn pan wedi mynd i hwvl gwres, a'r perygl ydyw dweyd pethau nad ydvnt yn gweddu vi adeg honno. Wil Ffowc: Nid gwres yr yda chi yn pan am dano, mi welaf. Son am stem wedi codi drosodd, neu byrstio allan ryda chi. Toes dim isio hwnnw; ond mae'n rhaid cael gwres. Dyna sy'n cadw bywvd fynd ymhob CYfdriad. Fedrwch chi ddim cael bvwvd heb wres. a sut yr ydveh r. disgwyl cael bywyd mewn Ylfa os na fydd yna wres vn y prygethwr. W:nffra: Ond rhaid i ti gofio, WiI, fod i wres fwy nag un effaith. Mae o'n rhci gormnd o fywvd i rai ac yn gwneui yn ll«na. J-'elna mae o'n gweithio ym natur, ac felna yn union mae o'n gweithio ym myd dynion hefyd. Mae amball i ddyn a dynas na fedra nhw ddim diodda clwad dyn yn cael lnvyl a gwres, a'r lleill na fedra nhw ddim byw heb gaeJ dvn gwresog. Sian Ifans: Mae rhiwbath ar ol y rhai ii erbun gethwr gwresog, yn reit siwr i chi. Be mae oariad yn dda heb ddim gwres, a be mae siarad yn dda hebddo. We], dim. Out of orde mae y dynion a'r merched su ddim yn leicio gwres. Wil Ffowc: Mi ddeuda i fy mhrofiad yn ddigon gonast wrtho chi. Rwy'n siwr fod y Cymro yn ffond o wasanaeth wresog, ac fod isio mwy o wres yn y pwlpud heiddiw. Mae yna oimod o draethoda sychion, a, thraddodi d'fvwud yn mund ymlaen, ac os na newidir y dull mi aiff pobol o'r capeli i ehwilio am fwy o life. Wmffra: Wel, mi gaiff y bobol gollad, ac arnun Tilrw y bydd y bai. Wil Ffowc: Dw i ddim yn siwr pwy gaiff y gollad fwua. Wmffra: Rwan, rwan, paid a cholli stem, mae hi yn dechra mund yn boeth, rhaid i mi roi y regiwletor ar waith, a'ch gyrru chi allan i oeri. Mae isio gwres, ond rhaid cael y rhew a'r eira with law rhag byrstio. Nos dawch. -♦♦♦■

I BWRDD Y LLENOR. I

LLAIS RHYDDID.I

THE WELSH OUTLOOK. I

Y DRYSORFA. .f

TRYSORFA'R PLANT. 'I I"....…

MARW rFPDnOR | ley 'r -. rtv.…

CYDYMDEIMLAD Y BRENIN. 11

VNADON MON. i n. -' 1. !

RHODDOFLAWD. | I

- - - - - -_- _- - - -TRAGWYDDOL…

DIENYDDIAD CASEMENT.

TROI PLAS YN YSBYTY.I

-AI K I) D YGINIA ET H NATtYR.

IDADFYDDINO.I

IPRIODAS MRS CHAMBERLAIN.

CYFRAN GYFARTAL Y I I GWEITHWYR.…

Advertising

Y FORD RYDD.