Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Advertising

TROI R BYRDDAU.

News
Cite
Share

TROI R BYRDDAU. Ers pan dorodd y rhyfel allan rhyw wrando a gwneud ydyw gwaith y llafur- wyr. Y maent wedi eu gosod yn beir- ianiiau at wasanaeth y Llywodraeth i fynd beunydd beunos heb na thafod na hawl i ddweyd dim. Gorfodir hwy gan y Wladwr- iaeth a chyfalafwyr i ymostwng yn weis- ion ufudd i wneud pob dim yn ol eu gor- chymyn heb hawl i ofyn pam na dim, ond gwneud. Mae llafurwyr er mwyn y wlad wedi bod vn ymostwng i'r drefn hon yn oddefgar, er nad yn ddigwyn nac yn hollol ewyllysgar. Daeth y Llywodraeth yn amddiffyniad iddynt er cadw safon cyflog a rlieoli oriau; ond nid oedd amod- au gwaith yn gwbl foddhaol. Ni all na gwlad 118 Llywodraeth ddweyd fod llafur trefnedig v edi bod y rhwystr lleiaf i'r wlad gario allan ei chynlluniau na'i bwr- iadau gyda'r rhyfel. Yn hytrach rhaid cydnabod fod egnion yr Undebau, a'u hebyrth, ymhell uwchlaw unrhyw ddos- bart-h arall yn y deyrnas. Ond beth maent am ei gael oherwydd hyn? Dyma ni wedi dod i ewn y terfyn, a dweyd y lleiaf. Yr ydym wedi mynd drwy gors anobaith, ac yn sangu ar dir y mae'r wy- bren uwchben yn arwyddo buddugoliaeth. Darllener ynganiadau'r arweinwyr hedd- yw, ac fe welir fod eu broddegau oil yn pefiio o ragglygon cfisglair a buddugol- iaeth lwyr a sior. Pwy sydd wedi bod yn asgwrn cefn i'n gwlad i sicrhau y safle ? Onid gweithwyr y deyrnas? Pwy fu'n foddiun i gadw unoliaetli a chydweithred- iad y fvddin lafmcol ? Onid yr Undebau LlafuroI Beth pe buasai yr Undebau wedi cadw. at eu polisi a'u harferion llywodraethol ? Buasai y wlad mewn pen- bleth oi'nadwy, n'r gelynion yn cael man- tais dda. i'n trechu. Ond, wele, fe rodd- odd yr Undebau Llafur eu pethau anwylaf a gwerthfawrocaf ganddynt o'r neilltu er i'r wlad gael cario allan ei cliynlluniau. A adferir yn ol iddynt eu hen safleoedd? Dyna, sy'n peri ofnadwyaeth ym mynwes- au llawer heddyw. Nid oes fodd peidio ofni, oblegid gwyddom am hanes du cyf- alaf a llywodraethwyr. Mae'n liawdd eu cael ar eu gliniau o flaen y gweithwyr pan y byddont mewn cyfYllgder, ac nad oes ond meib llafur i'w cael i'w gwaredu. Ond beth fydd pan ddelo'r waredigaeth, ac y gellir gwneud yn rhwydd hebddynt? Yr hanes yn yr amser a fu ydyw eu troi o'r neilltu a'u gadael at di-ugai-edd ffawd greu- lon, a'u sainu a'u baeddu hyd at ddifrio. Nid yw llafurwyr yn ddim ond erfyn i greu cyfalaf pan na bo ei angen fel milwr i am- ddiffyn eiddo a gwlad. Ai dyna fydd eto, tybed P Onid yw y rhyfel hon wedi dysgu gwers i feibion llafuur a'u gosod ar safle uwch. Oni chafodd y gweithiwr ddigon o oleuni ar ei Igyflwr drwyddi i ddeall mai efe mewn gwirionedd ydyw "Capten pen domen" y wlad? Os nad yw, mae'r ebyrth wnaed yn gwbl ofer. Mae'n hen bryd troi y byrddau, a rhoi gwedd newydd ar lywodraethiad y wlad. Gan mai y gweithwyr sy'n gwneud y wlad, hwy ddylai gael bod yn dafod i'r wlad hefyd. Gan eu bod wedi eu gorfodi i weithio a rhyfela drosti, dylent gael hawl i ddweyd with y Wladwriaeth a chyfalaf be ddylent ei gael am ryfela i'w chadw. Os na chant, dylent droi byrddau gorfodaeth, a chreu deddf or. fodol yn "11 mysg a'u gorfodi i wrando I arnynt. Nid gormod ydyw dweyd fod gweithwyr y wlad wedi ennill iddynt eu hunain drwy y rhyfel hon hawl i fedd- iannu y wlad a'i thrysorau i gyd yn gyf- artal, os nad lllWY, na'r rhai honant fod yn berehenogion iddi. Ffyliaid fydd y gweithwyr os na fydd iddynt drwy y rhy- fel hon ddod yn feistri ar y safle, a chisel iddynt eu hunain bob rhagorfraint, an- rhydedd, parch, a bri. Os capir i'r meistr, os plvgir i gyfalaf ar ol hyn, nid yw'r gweithwyr yn deilwng feibion i'w tadau.

BETHESDA,

FELINHELI.-

[No title]

I I -CAERNARFON, ]

I BONTNEWYDD.

RHIWLAS.