Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
FFAWI) NEWYDDIADUR GERMANAIDD.
FFAWI) NEWYDDIADUR GERMANAIDD. Dywed adroddiad o Copenhagen fod yr awdurdodau milwrol yn Germani wedi atal cyhoeddiad y "Berliner Tageblatt."
CYFLWR MONTENEGRO.
CYFLWR MONTENEGRO. Yn ot y "Journal de Geneve" y maent yn marw o newyn wrth y cannoedd yn Montenegro. Dj wedir fod yr Awstriaid wedi cymeryd y da bvw. Fel canlyniad i'r ymfyddino mae y cropiau wedi eu gostwng er dechreu y rhyfel, ac y mae y porthladd wedi ei warchae gan yr Awstriaid. Nid oes yno siwgwr, halen, coffi, rice, petrol- eum, na lledr, ac y mae y siopau i gyd yn/hauad. Mae gwasanaethyddion y Wlad wriaeth heb eu evflogau. Triga'r Aws- triaid yn v tai, ond ni thalent am danynt.
GWEISION Y RHEILFFYRDD. -
GWEISION Y RHEILFFYRDD. Dros 70,000 o Dan y Fan-er. Cawn fod y ewmniau canlynol wedi cyf- lenwi y fyddin gyda'r nifer a ganlyn:— Great Central. 6,577 Great Eastern 6,200 Great Northern 5,554 Great Western 17,558 London and Brighton 3,383 London and North Western 18,858 London and South Western 3,675 South-Eastern and Chatham. 3,187
AWSTRALIA A GORFODAETH.
AWSTRALIA A GORFODAETH. Dywed adroddiad o Melbourne fod Mr Hughes yn analluog ar hyn o bryd i ddweyd a ddygir gorfodaeth ar y wlad ai peidio. Yn bersonol mae yn ffafriol i or- fodaeth. Nos Fercher, lladdwyd gan darw Mr 0. L. Owen, saer coed, Tyddynmaes, Pen- rhoslligwy, Mon, yn Dwyran Fann, ger Llanerchymedd,
tY SEJNEDD.
tY SEJNEDD. DYDD MAWRTH- 1: Cymerodd y Llefarydct y ga,(tair am chwarter i dri. Gofynodd Syr Edwin Cornwall i'r Is- Ysgrifennydd Rhyfel faint o ddeiliaid Pry- deinig sydd yn gareharorion rhyfel mewn gwledydd amhleidiol. Atebodd Arglwydd Robert Cecil mai rhif dynion y Llynges yn gareharorion ydyw :— Yn Norwy, 105; Is-Ellmyn, 1 ,-332; Den- marc, 14; Yswisdir, 4. Rhif y milwyr ydyw :-Is-Ellmyn, 27; Hispaen, 1; a'r Ys- wisdir, 446. GWAHARDDIAD PETROL. Pan gynnygiwd fod i Fesur y Gronfa 'Gydgrynhoawl (Rhif 4) gael ei ddarllen y trydydd tro galwodd Syr F. Banbuury sylw -at y rheolau yn cyfyngu cyllenwad petrol. Dywedodd fod cais am 40 y cant yn fwy o betrol wedi ei wneud nag a ddygir i'r wlad hon. Syr A. Williamson: A ydyw hynyna yn Cynnwys yr hyn mae'r Llywodraeth eisiau? Mr L. Ha; court: Mae digonedd o betrol yn y byd. ond mae'r cyflenwad gaiff y wlad hon yn dibynu ar rif y llongau olew ellir gael. Pan dorodd y rhyfel allan, nid oedd gennym ddiogn o longau i gludo ein cvf- Jen wad. Kr y rhyfel, defnyddiwyd m wy 0 betrol gennym, tra mae rhif y llongau olew wedi Ileiliau. Fy marn i ydyw y dylid at a ii-odiiro ar y Sul. ond mae amryw Jiad ydvnt < un farn a mi. Ar yr un Pryd, yr cedd am rybuddio v Ty v gallai ddod i hynny. Pan ynghanol rhyfel ofn- sidwy, peth trist ydyw gweled rhif y mod- lamn sydd ar y prif-jJyrdd ar y Sul. Ddau Sul yn ol darfu i mi gael cyfrif y m odur- ion oedd ar y brif-ffordd rhwng Brighton a Maidenhead. Yr oedd yn Sul gwlvb, ond er hynny aeth dros 600 o gerbydau *Qodur ar hvd y ffordd. Dengys hyn fod y gwastraff gartref yn ofnadwy fawr. Dylid cofio fod petol mor angenrheidiol i limewnadeg rhyfel a ffrwydbelenau. Pan fydda,i'r aiigenion milwrol a clienedlaethol Wedi eu svlvvcddoli yn llawn, ac wedi eu llwyr foddloni, hyderai ef y buasai achos- ion teilwng yn cael ystyriaetii pellach. "IRPRW/AETH Y DARDANELLES A I MESOPOTAMIA. Ystvriwyd Mesur Dirprwyaeth y Dar- danelles a Mesopotamia ar adroddiad. Ar gynnygiad y Prif Weinidog ychwan- Ogwyd Syr William H. May ac Arglwydd Nicholson at Ddirprwyaeth y Dardanelles. Cynnygiodd Mr Asquith hefvd fod Syr Cyprian Bridge a Syr Neviile Lyttelton feael eu hychwanegu at Ddirprwyaeth Mesopotamia. Credai Syr Hedworth Meux fod Syr Cyprian Bridge yn rhy hen, gan ei fod yn 77 mlwydd oed. Nid yw yn deg gofyn i (Idyn o'i oedran ef ymgymeryd a'r gwaith. I A> ol trafodaeth pellach, pasiwyd cyn- nYgiad y Prif Weinidog.
DYDD MERCHER. I
DYDD MERCHER. I CYTUNDEBAU Y CYNGREIRWYR. I Anorchiad y Prif Weinidog. I Pan gododd Mr Asquith i annerch y Ty Cafodd dderbyniad croesawus. Dywedodd iddo ymgymeryd beth amser yn ol i wneud 4droddiad i'r Ty ynglyn a gweithrediadau Cynhadledd y Cyngreirwyr ym Mharis. bau amcan oedd iddi, sef yn gyntaf argy- ^oeddi y gelyn fod y Cyngreirwyr am gario Y rhyfel ymlaen gyda'r un undeb a phen- derfyniad o safbwynt trefnidiol yn ogystal e.g o safbwynt milwrol, a'r ail ydoedd gwneud darpariadau ar gyfer y tymor ar ol i heddwch gael ei gyheoddi a fuasai yn ^genrheidiol i'r Cyngreirwyr. Mae'r Penderfyniadau basiwyd ynddi wedi eu thannu yn dair rhan, sef (1) Mesurau am gyfnod y rhyfel. (2) Mesurau am v cvfnod adeilaidol ar 0'1 y rhyfel. (3) Afesurau parhaol ar ol hynny i geisio oydwe^thrediad rhwng y Cyngreirwyr. Bywedwyd vrthyf fod yna rai yn y wlad koll yn dw'?yd y byddai y penderfyniadau buiwyd os cerir hwy allan, yn ein gorfodi ymadael ocMiwrth ein polisi o Fasnach ?ydd. Nid wyf yn credu fod yna neb 15dq yn fwy o blaid Masnach Rydd na fy Unan. Ni fuaswn byth yn gofyn i neb ^tun0 a pholisi y Llywodraeth pe byddai rwystr o fath yn y byd ar ein polisi o aûh Hydd, Yr ydym wedi dysgu r8i ma;,vi-ion oddiwrth y rhyfel hon. f WYf am ofyn i'r Ty hwn a'r wlad yn pftredinol i foddloni i delerau newydd, ac Symeryd rhan gyda'r Cyngreirwyr gyda'r ai y buom yn ymladd ochr yn ochr er sichau rhyddid y byd, ni a dybiwn. a'r penderfyniadau basiwyd ynghyn- f^dledd Paris, credwn y galiwn picrhau ?dwph parhaol, ac y bydd yna gydweith- ^diad hollol rhyngom am amser maith yn Nia4 hollol rh yngow a m amser maith ,.v n b dywedodd Syr E. Carson y credai y ^ddai'r wlad yn gyffredinol yn falch nad OWII y Llywodraeth wedi colli golwg ar y estlynau gyfyd ar ol y rhyfel. Yr oedd falch fod y Llywodraeth wedi rhwymo r1 hllutin i'r penderfyniadau. Credai ar ¿,un pryd y dylai' Llywodraeth ddweyd "vf oIFPltt gyda hwy, Dywedodd Syr John Simon ei fod o'r un fam a Syr E. Carson, a gofynodd a oedd y ponderfyniadau wedi eu dwyn allan fel moddion i gosbi Germani, neu a oeddynt wedi eu tynu ailan fel moddion i ddyrchafu diogelwch ein cenedl ni ein hunain, neu a oeddynt yn dal perthynas a dyrchafiad masnachol y wlad. Credai Mr Winston Churchill y dylai'r penderfyniadau gael holl gefnogaeth y Ty yn gyffredinol. Sylwodd Syr L. Chiozza Money mai camgynieriad ydoedd credu y buasai Pry- dain Fawr neu Germani yn cael eu dinis- trio gan y rhyfel. Sylwodd hefyd fod Masnach Rydd gyda'r gelynion ar ol y rhyfel allan o'r cwestiwn. YMOSOD AR Y PRIF WEINIDOG. Gwrthwynebodd Mr Snowden v pender- fyniadau, am y credai y buasai eu mab- wysiadu yn ddrwg i ddyfodol y genedl, ac i ddyfodol x>erth\Tias ymerodrol, yn ogystal ag i ddyfodol heddwch y byd. Yr oedd o'r farn y bv/riedid hwy i sefydlu Diffyndoll aeth yn v wlad. Yr unig beth sydd gan v Prif Weinidog i wneud yn awr ydyw gadael ei Rwydd. ac awgryniaf, er lies iddo ef ei hunan, ei fod yn gwneud hynny mor fuan ag :,Y'ï bogibl. a gadael i egavyddorion Tor'aidd gael eu cario allan gan y rhai sy'n credu ynddynt.  Dy?vedodd Mr Bonar T?nv na chlywodd yr un-gair gan Mr Snowden cr dechreu y rhyfel oedd yn dangos ei fod yn ceisio liclpu y wlad i ennill y rhyfel. Mr Snowden: Yr wyf wedi g-wneud mwy i geisio terfynu v rhyfel nag a wnaeth yr aelod gwir anrhydtddus. Credai Mr Caradog Rees fod yn amhosibl setlo pethau ar hyn o bryd. Ni wyddom beth fydd cyflwr i>etl;au ar ol y rhyfel. Nid oedd yn gwerthfawrogi y drafodaeth am nad oedd yn arwain i unman. Hyderai mai nid Teyrnas Gyfonol fyddwn ar ol y rhyfel. ond Ymerodraeth Gyfunol. Cof- iwn nad ydyw'r Ymerodraeth wedi ei syl- faenli ar lunoedd, arian, a cheiniogau, ond ar gymeriad. cysur, a boddlonrwydd y bobl. 1
DYDD IAU.
DYDD IAU. PENStYNAU I'R MILWYR. EgJurodd Mr Hayes Fisher beth ydyw safle ariannol Pwyllgor Sefydlog Pensiyn- au Rhyfel. Mewn atebiad i Syr W. Bull, dywedodd iddo gael llythyr oddiwrth y Ti-vsorlys yii oytuno t'r rheolau. A gan. lyn ydyw'r safle mewn perthynas a'r Try- sorivs:- 1. Bydd Canghellor y Trysorlys yn gofyn i'r Senedd roddi 6,000,000p at ddef- nydd y pwyllgor er mwyn rhoddi pensiyn- au i ddibynyddion ein milwyr. 2. Sefydbvyd y swm hwn ar gyfanrif y niarwolaeth ymysg swyddogion di-gomi- siwn a dynion, sef 250,000. Os y can- fyddir fod y rhif yn cynyddu, bydd y 6,000,000p yn cael ei godi yn gyfatebol iddo. Amcangyfrifodd Canghellor y Trysorlys y ceir rhwng miliwn a dwy filiwn o bun- noedd allan o'r chwe miliwn, ac awgrym- odd fod i'r pensiynau roddir gael ei her. olygu ar ddiwedd 1918, yngwyneb y freithiau geir yr adeg honno. Mae'r addewidion wnaed gan Ganghellor y Try- sorlys yn awr yn dangos symudiad ymlaen ar ei hysbvsiad blaenorol. Hyderai y byddai'r Pwyllgor Sefydlog yn rhoddi eu rheolau mewn gweithrediad ar unwaith, ac wrth wneud byddant yn sicr o gael cyd- weithrediad y pwyllgorau lleol. Cyrnol Yate: A fydd y rheolau hyn yn effeithio ar swyddogion yn ogystal a Hwyddogion di-gomisiwn a dynion? Mr Hayes Fisher: Bydd amcangyfrifiad arall yn cael ei ddwyn gerbron i gyfarfod ag achosion swyddogion, ac y mae Cang- hellor y Trysorlys yn bwriadu ystyried yr amcangyfrifiad, a chanfod swm pellach o arian. Bydd rheolau arbennig yn cael eu tynnu allan i ddelio gyda swyddogion. RHODD Y BRENIN. I Mewn atebiad i Mr Hogge, dywedodd Mr Asquith fod y Llywodraeth, ar ol ys- tyriaeth aianwl, wedi dod i'r penderfyniad mai'r ffordd oreu i ddefnyddio rhodd Ei Fawrhydi o 100,000p ydoedd at achosion cyffredinol y rhyfel. Yr oedd Ei Fawr- liydi yn ovdweled a hyn. I ————
RHEOLI'R FASNACH.I
RHEOLI'R FASNACH. I Ymyriad yn Carlisle Eto. I Dydd lau cymerodd y Bwrdd Llywod- I raethol drosodd drwyddedau eraill eto, yn cynnwys eiddo y Carlisle Old Brewery Company.
Advertising
J. ELIAS AND SONS, HAIRDRESSERS, HAVANA HOUSE, PWLLHELI 3a« the Largest and Best Selection adies' Real Hair Tails in Stock Inspection Invited. ,\1110 Agest for Metopol Rason
DYDD MERCHER.
DYDD MERCHER. YMOSODIADAU NEWYDD YN VERDUN. Xi chymerodd unrhvw gyfnewidiad le yn y safie ar y ffrynt Prydeinigrhwng yr Ancre a'r Somme ddoe. Y ngogiedd Baz- entin-le-Petit, ataliwvd ymosodiad yn erbyn ein lhnellau. Yn neheubarth y Somme ddoe meddianodd y Ffrancod ffos rhwng Estrees a Belloy-en-Sauterrø, 60 o gareharorion yn syrthio i'w dwylaw. Yn Co" i dilyn t.anbeleniad ffyrnig nos Lun, ymos- ¡ ododd y Germaniaid yn neheubarth a gor- llewinbarth Thiaumont Work, ond atal- iwyd hwy. 1 Gwnaed vohdig gynnydd gan y Ffrancod ymhellaeh yn y dydd fel can- lyniad i ymosodiad gyda "hand grenades." Cymerodd brwydro ffyrnig le hefyd ar y ffrynt Vaux-Chapitre-Le Chenois, y gelyn ) yn caei eu gyrru allan o amrvw o safleoedd- Y SYMUDIAD YMLAEN RWSIAIDD. I Mae'r Rwsiaid yn agoshau at Kovel, er gwaethaf hull wrthsafiad cryf y gelyn. Dywed adroddiad Petrograd neithiwr fod adran Germanaidd wedi ymosod ar y mil- wyr Rwsiaidd sydd ar ochr gorllewinol y Stokhod. ond hyrddiwyd hwy yn ol gyda cholledion trymion. Mae'r frwydr yn parhau. Bu'r Rwsiaid yn hynod lwydd- ianus yn Koropetz, afon feeha-.i yn rhedeg i'r Dneister. Neidiodd y milwyr i'r dwfr at eu gyddfau, gan groesi i'r Ian gorllew- inol. Cadarnhawyd y lie ganddynt, a syrthiodd dros fil o'r gelyn yn gareharorion i'w dwylaw: Dywed yr adroddiad Aws- triaidd fod y Rwsiaid yn parhau i wneud ymosodiadau ffyrnig yngogledd y Lower Turia a'r Stokhod. I YMOSODIAD Y ZEPPELINS. I Rhwng (leg o'r gloch a banner nos, nos i Lun, ynDsododd sait-h o Zeppelins ar y Siroedd Dwyreiniol a De-Ddwyrriniol, gan ollwng 60 o ffrwydbelenau. Ni wnaed colled o nnrh'w fath ganddynt. Taniodd ein gynnau awyrol ?r un ohonynt, a gwel- wyd Iiithattynmynedorgolwg yn y niwl. Y siroedd yr ehedodd y Zepps uwch eu pen ydynt Lincoln, Norfolk, Suffolk, Cam- bridge, Essex, Caint, a Huntingdon. Fel arfer, yn anghywir hollol gyda enwau lle- oedd, dywed yr adroddiad Germanaidd eu bod wedi dychwelyd yn ddiogel. Dy- wodant hefyd fod ein llynges wedi ymosod arnynt tra ar eu taith i Loogr. I GYDA'R ITALIAID. I j Dywed yr adroddiad Italaidd ddoe :-Bu J magnelwyr y ddwy ochr yn hynod fywiog yn Nyffryn Adige. Dyddidun, yn Astico, I ymosododd y gelyn ar ein safleoedd ar Mount Cimone, ond ataliwyd hwy yn rhwydd. Aflwyddianus fu eu holl ymos- odiadau An ne-orllewin Castelletto hefyd. Yn Nyffryn Travignolo, mae pentref Pane- veggio wedi syrthio i'n dwylaw.
I-DYDD --IAU.-I
I DYDD IAU. I I I YN FFRAINC. I Hysbysodd Syr Douglas Haig neithiwr fod y diwrnod wedi pasio yn ddistaw ar y cyfan oddigerth ychydig o fywiogrwydd gau fagnelwyr y gelyn yn erbyn Trones Wood. Yn ystod y 24 awr diweddaf di- nistriodd ein magnelwyr trwy gydweith- rediad gyda'r Royal Flying Corps, chwecn o ystordai arfau y gelyn ger Grandcouut. Nos Fawrth gwnaed cynnydd pellach gennym yngogledd Pozieres. Dywed yr adroddiad Germanaidd fod y Prydeinwyr wedi bod yn hynod fywiog ynghymydog- aeth Armentieres. Hawliant iddynt wneud cynnydd oddiamgvlch Verdun, a'u bod wedi cymeryd yn gareharorion 19 o swyddogion a 923 o ddynion. I FFRYNT Y SOMME. I Ni fu'r gwyr traed yn brwydro o gwbl ar ffrynt y Somme ddoe, ond nos Fawrfch cy- merodd y Ffrancwyr safle gadarn oditar y gelyn rhwng Hem Wood a Monacu Farm. Cymerodd brwydro ffyrnig pellach le ar ochr dde N Meuse ynghymydogaeth Thiau- I mont Work a Fleury, meddianwyd amryw i o ffosydd oddiar y GeTmaniaid, gan gy- j meryd 800 yn garcharorion, ynghyda 10 o ynau peirianol. Ataliwyd aymosodiad i Germanaidd. Nos Fawrth, enillodd y gelyn ychydig o dir yn Vaux Cliapitre a Chenois. Y GWEITHREDIADAU RWSIAIDD. I Dywed adroddiad Petrograd neithiwr nad oes unrhyw gyfnewidiad ar y ffrynt gorllewinal. Mae'r Rwsiaid yn barod wedi symud ymlaen ddeng milldir tuagat Kovel, ac hysbysir fod eu symuudiad ymlaen yn parhau ar y Caucasus. Hawl. ia'r adroddiad Awstriaidd iddynt atal holl I ymosodiadau y Rwsiaid ar y Stokhod. YMOSODIAD AWYROL ITALAIDD. I Mae awyrlongau Italaidd wedi gollwng I pedair tunell o ffrwydbelenau a r waith badau tanforawl y gelyn ger Fiume, a gwnaed difrod aruthrol ar y tan yn torn allan. Yn eu hymosodiad iu aliwydd- ianu8 diweddftr ar y safleoedd Italaidd, I diodefodd yr Awstriaid golledion trymion. Tanbelenodd magnelwyr y gelyn yn ffyrnig ar Forni Aloltri yn Nyffryn Degani, ond atebwyd hwy yn ol gan ein r^agnelwyr. Darlu i ni ddinistrio Mauthen, yn Nyffryn Gail, bron yn llwyr. COLLEDION PRWSIAIDD. I Dywed adroddiad o Amsterdam fod y rhestrau colledioll swyddogol PrWsiaidd di- weddaraf yn cynnwys enwau 42,405 o ladd- edigion, chvyfedigion, a rhai ar goll. Daw hyn a chyfanrif y colledion Prwsiaidd i 2,843,926.
I - DYDD GWENER.
I DYDD GWENER. BUDDUGOLIAETH FFRENGIG. Mae'r Ffrancod yn parhau i wneud cyn- nydd yn Verdun. Ddoe, darfu iddynt ymosod ar Fleury o'r gogledd a de-orllew- in, a, darfu iddynt gymeryd y pentref ar ol hwydro caled. Cymerasant dros 650 o garcharorion, a daw hyn a chyfanrif y c-archarorion gymerwyd ar ochr dde y Meuse er y laf cyfisol yn 1,750. Yn ystod y dydd, cymerodd y Ffrancod yr holl ffos- ydd rhwng Thiaumont a Fleury, ac ad- feddianwyd y tir gollwyd ynghymydogaeth Chenois ddydd Mawrth diweddaf gan- ddynt. Cyfaddefa'r adroddiad German- aidd ddoe i'r Ffrancwyr fod yn llwyddian. í us yn Monacu Farm ac yn Verdun, ond dywed fod ymosodiadau Prydeinig yn erbyn Albert Bapaume a Trones Wood wedi torri i lawr. Y FFRYNT PRYDEINIG. Enillodd y Prydeinwyr ddoe dir yngog- ledd Bazentin-le-Petit, ac yn ystod nos Fercher darfu iddynt atal ymosodiadau y gelyn tuagat Delville Wood. Dioddefas- ant golledion trymion, gan iddynt gael dod at ymyl y coed cyn i ni danio arnynt. Bu magnelwyr y gelyn yn fywiog ar am- ryw leoedd o'n ffrynt. Tanbelenwyd pen- trefydd ger Arras ac Armentieres gan- ddynt. Ynghymydogaeth Givenchy, tan- belenodd y Prydeinwyr lineUau y gelyn ger Hohenzollern, a chymerodd bywiogiwydd anarferol le ynghymydogaeth Loos. GWEITHREDIADAU Y RWSIAID. Dywed adroddiad Petrograd neithiwr fod brwydro caled yn myned ymlaen ynghym. ydogaeth SLokhod. Hysbysa.'r adroddiiad Awstriaidd am ymosodiadau Rwsiaidd rhwng yr Upper Troya a'r rheilffordd o Rovno i Kovel. Dywed adoddiad diwedd- araf Petrograd fod y gelyn ynghymydog- aeth Smorgon wedi ymosod gyda nwy ar ddwy ochr yr afon, ond ataliwyd hwy gan ein magnelwyr, eu colledion yn ddifrifol. Hysbysir yn swyddogol fod Von Hinden- burg wedi ei benodi i lywyddu ar yr holl ffrynt dwyreiniol. GYDA'R ITALIAID. I Dywed >r adroddiad swyddogol Italaidd ddoe:—Yn Nyffryn Adige, mae tanbelen- iadau ffyrnig yn myned ymlaen, a gollyng- odd awyrlong i'r gelyn ffrwydbelenau ar Aia. Ddoe, yn yr Upper Posnia, darfu i ni atal ymosodiad yn erbyn ein safleoedd yn Nyffryn Caldiera. Hysbysir am gyn- nydd pellach yn Nyffryn Travenarzes, er gwaethaf gv.rthsafiad cryf y gelyn. Yr ydym yn parhau i danbelenu Dyffryn Drave. Y ZEPPS ETO. I Cy hoedd wyd a, ganlyn gan Syr John French ddoe:—Darfu i amryw o awyrlong- au ymosod ar y Siroedd Dwyreiniol neith- iwr, sef Norfolk, Suffolk, ac Essex. Par- haodd yr ymosodiad am awr a hanner, tua chwech o'r Zeppelins yn cymeryd rhan. Oddigerth mewn un Ile, nid aeth y Zepps ymhell i'r tir, ond boddlonasant eu hun- ain trwy oiling ffrwydbelenau ar gymyd- ogaethau gwasgaredig ger y mor. Tar- awyd un olionynt gan ei gynau awyrol. Er iddynt ollwng 80 o ffrwydbelenau, nid ydyw'r difrod wnaed ganddynt yn werth son am da-no. Lladdwyd1 naw o geffylau ganddynt, a. chlwyfwyd tri arall.
DYDD SADWRN.I
DYDD SADWRN. I LLWYDDIANT FFRAINC. I Mae brwydro ffyrnig yn cymeryd lie yn 1 Verdun. Nos lau bu i'r Ffrancwyr gy- meryd y Thiaumont Work, ac yna mynd oddiyno, ond ddydd Gwener cymerasant ef drachefn. Cymerodd y Ffrancwyr y safle ddwvwaith mewn deuddeng awr, ac y lllae'n aros yn eu meddiant er gwaethaf yr adymosodiadau. Wedi gwaghau yr oil o'r Fleury bore ddoe, bu i'r milwyr Ffrengig gymeryd y i wynt ar flaen y bidog y rhan fwyaf o'r pentref, lie y mae y Germaniaid yn parhau i'n gwrthwynebu yn chwyrn. i Yn ystod y dydd cymerodd y Ffrancwyr I 400 o garcJiarorion. I YSTORI GERMANI. I Y mae y Germaniaid yn hawlio eu bod I wedi gyrru yn ol ymosodiadau Prydain a' Ffrainc ar y Somme, ao o berthynas i fwydr Verdun, dywedant eu bod wedi ad- ennill y tir gollwyd, ac fod y safle "yn hollol yr un fath ag yr oedd cyn yr ym-I osodiad Ffrengig." ENNILL TIR. I i Mae Prydain wedi ennill peth tir i'r gor- I newyddion y maent mewn eyffyrddiad agos a'r gelyn. Cymerwyd dros 100 o garchar. orion, ac y mae cryn nifer o Germaniaid yn gorwedd yn feirwon vnghvlch y ffosydd hyn. AEROPLANES PRYDEINIG. Bu patrol o bedair o aeroplanes Pry- deinig yn yr afael a saith o beriannau'r gelyn, parhaodd y fi-wydr am 45 munud. Daethpwyd a thair o beiriannau Germani i'r llawr, tra y mae dwy o'n heiddo ui ar goll. RHUTHR AWYROL BRYDEINIG. I Bu i sgwadron awyrol Brydeinig wneud ymosodiad awyrol ar yr aerodrome Ger- manaidd yn St. Dennis Westrem ac ar shediau yn Miei-elbeke, i'r de-orllewin a'r de o Ghent yr olynol. GoUyngwyd tros ddwy dun-dl o bombs, a gwnaed difrod mawr. Mpthodd un o'r peiriannau a dy- chwelyd, a chredir iddi gael ei saethu i lawr. I CYNNYDD RWSIA. Ar y Stokhod y mae y Rwsiaid wedi tneddiannu cyfres o'r bryniau, ac wedi cydgrynhoi eu safleoedd. Mae ymladd chwyrn wedi bod am feddianu pentref Rudka Miniskaia, ar y Stavek, aber ar Ian crllewinol o Stokhod. Datblygodd y fnvydr yn ymladdfa fidogol ar yr heolydd. Fel canlyniad daeth y lie i feddiant ein Cyngreirwyr, gan daflu y gelyn dros y Stavek, a chymerwyd tua 600 o German- iaid vn garcharorion. YN OL GERMANI. Tra yn cydnabod fod Rudka Miniskaia wedi ei gymeryd, dywed y Germaniaid eu bod wedi adgymeryd yn llwyr y tir a goll- wyd, a gyrru yn ol yr ymosodiadau adnew- yddoI. BRWYDR FAWR. Mae brwydr fawr yn mynd ymlaen i'r de o Brody ar linell yr afonydd Groberka a Sereth. Y mae y Rwisaid yn bai-od wedi cymeryd 1,200 o gareharorion yn y Bector yma. ADRODDIAD AWSTRIAIDD. Dywed adroddiad swyddogol o Awstria: —I'r gogledd o Upper Moldrowa, ar y Czamy-Czerenios, ac ar yr adain dde- ffrynt y fyddin ffurfiwyd dan lywvddiaetb yr Archduke Karl Franz Joseph, y mae brwydrau iiewyddion wedi datblygu, y rha' gymerasant gwrs ffafriol i filwyr y Cyng. reii-wyr. Yn v oanol ac ar yr adain chwith o fyddin yr Archdduc ni chaed un- rhyw ddigwyddiad arbennig.
GWEITHWYR YN MYND I'R GORLLEWIN-
GWEITHWYR YN MYND I'R GORLLEWIN- Yn ol adroddiad gyhoeddwyd gan Fwrdd Ymfudiaeth yr Unol Daleithiau, Adran Llafur, dywedir fod 37,925 o ymfudwyr wedi cyrraedd yno yn ystod mis Mai y flwyddyn hon. Daeth y mwyafrif o Groeg, sef 3,930; yna o Itali, 3,811; India'r Gor- llewin, 1.869; Mexico, 1,645; Yspaen, 1,059; Portugal, 1,031; Lloegr, 1,026. Yn y rhestr yr oedd 6,059 o lafurwyr, a 3,113 o lafurwyr amaethyddol. ————