Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
45 articles on this Page
AELOD SENEDDOL MEWN I YSBYTY.
AELOD SENEDDOL MEWN I YSBYTY. Hysbysir fod Capten Craig, A.S. dros South Antrim, mewn ysbyty Germanaidd yn cael ymdriniaeth i'w goes. Nid yw y clwyf yn un difrifol, a dywedir ei fod yn cael triniaeth dda.
ILLADD CENHADWR Ai WRAIG !
LLADD CENHADWR Ai WRAIG Hysbysir ddarfod i leidr ladd cenhadwr C'anadaidd a'i wraig fore Sul yn eu ty yn Karnizawd, Tokio, Japan. Bu i'r llof- rudd wneud yr anfadwaith er mwyn 3p, ac aeth gyda. hwy. ———— -eigo ————
CRYFHAU SAFLEOEDD NEWYDD.…
CRYFHAU SAFLEOEDD NEWYDD. I ION. Mae popeth yn parhau i fyned yinlaen I yn rhagorol ar y ffynt Prydeinig. Dyma'r I adroddiad dderbyniwyd oddiwrth Syr I Douglas ilaig dydd Sadwrn :-Aeth y Pry- J. deiniaid i Inewn i drydedd linell y Ger- maniaid, ac am y tro cyntaf er 1914 bu ein gwyr meirch mewn gweithrediad. Mae'r carcharorion gymerwyd yn awr dros 10,000, a chymervvyd naw o ynau yn ychwanegol. Dydd Sadwrn, mewn un lie I gorfodwyd y gelyn i fyned yn ol i'w try- dedd linell amddiffyniad, mwy na phedair milltir tu ol i'w ffosvdd. Dilynwyd hyn trwy gymeryd meddiant o Delville Wood, yn nwyreinbarth Longueval, ac aeth ein milwyr i tlewn hyd yn oed i drydedd line]] y gelyn kn Bois de Foureaux. Gorch- ymynwyd yr adran hon i encilio i'n prif linell bore ddoe, a chariwyd hyn allan heb aflonyddweh ar ran y gelyn. Ynghym- ydogaeth y lie hwn y bu'r DragoonGuards a'r Deccan Horse yn ymladd, gan ladd 16 o'r gelyn, a chymervd 34 ohonynt yn gareharorion.
YR ADRODDIAD GERMANAIDD. I
YR ADRODDIAD GERMANAIDD. Dywed yr adroddiad Germanaidd fod pump o ymosodiadau Pi-ydeinig ynghy- mydogaeth Ovillers Bazentin-Ie-Petit wedi torri i lawr. oud cyfaddefa ein bod wedi ennill tir rhwng Pozieres a Longue- Poz i ereg a Longue- val. Yn ystod nos Sadwrn, darfu i'r Germaniaid gropian ar hyd Camlas Somme, ac ymosod ar y Ffrancod yn La Maisonette. Llwyddodd yr ymosodiad, ond trwy fpddion adymosodiad adfeddian- nodd y Ffnncod y tir, yn ogystal a choed- 3-n ogystal a e b oe d wig fwy i'r gogledd. Cymerodd brwydro le ynghymydogaeth Verdun, a gwnaed cynnydd gan y Ffrancod yngorllewin a de pentref Fleury, at' ochr dde y Meuse, ac yn nwyreinbarth Hill 304, ar yr ochr chwith. Hysbysir fod patrols Rwsiaidd wedi bod vn fywiog ar ffrynt Champagne, a'u bod wedi ymosod yn llwvddiannus ar linellau v gelyn.
LLWYDDI ANT RWSIAIDO.
LLWYDDI ANT RWSIAIDO. Jtlysbysa Petrograd am eymudiad ymlaen vmellafoedd y gogledd. Ymosod- odd y Germaniaid amryw weithiau ger Baronovitchi, ond ataliwyd yr oil ohon- ynt gyda cholledion trymion. Yn y frwydr hon, hawlia'r Germaniaid iddynt adfeddiannu rhai ffosydd, ynghyda 1,500 o garcharorion. Dywed yr adroddiad Awstriaidd fod y Rwsiaid wedi symud ymlaen ar ganol ffrynt Carpathia, gan eu bod yn crybwyll am Jablonitza a Zabie. Mae'r Rwsiaid ar ol derbyn adgyfnerth- iadau yn y Caucasus wedi gorfodi y Twrc- iaid i ffoi o amryw leoedd, a gadawsant ysbail aruthrol ar ol. Darfu i'r Rwsiaid feddiannu Baibart, ynghyda nifer o safle- eteill.
YMGYRCH YR ITALIAID.
YMGYRCH YR ITALIAID. Parhau i wneud cynnydd rhagorol mae'r ftaliaid. Yn Nyffryn Posina meddianwyd safleoedd cryfion ganddynt, ac ataJiasant adymosodiadau ffyrnig. Yn Nyffrvn Tofana mae'r symudiad ymlaen Italaidd yn parhau, cyflenwad mawr o ddynion ac arfau yn syrthio i'w dwylaw. Suddiwyd torpedo boat Italaidd gan fad tanforawl i'r gelyn yn y Lower Adriatic, ond achubwyd yr oil o'r dwylaw.
YSTRAEON TWRCAIDD.¡
YSTRAEON TWRCAIDD. A ganlyn ydyw'r adroddiad Twrcaidd tid,oe- Ffrynt irak.-Dim cyfnewidiad. Ffrynt Fersiaidd.-Diin i'w hysbysu o ddwyreinbarth Kenlianshah. Pan ddeall- odd y Rwsiaid ein bod yn agoshau atynt, darfu iddynt adael Sineb, ac enciliodd ei prif fyddin i gyfeiriad Hamadan. Gorff. Heg gyrrodd ein milwyr y gelyn ymaith, a symudasant ymlaen heibio i Sineh. Ffrynt Caucasus.—Dim pwysig i'w hys bysu o unman.
RHESTR ANRHYDEDD.I
RHESTR ANRHYDEDD. Ffawd Milwyr Cymreig, Ffawd Milwyr Cymreig, Dengys y rhestrau colledion gyhoedd- wyd yn ystod diwedd yr wythnos enwau 227 o swyddogion wedi eu lladd, a 457 wedi eu ciwyfo, a 598 o ddynion wedi eu Iladd, a 1,832 wedi eu ciwyfo. Ymddeng- vs y milwyr Cymreig c-anlynol yn eu pJith I I-, Lladdwyd. I '4 x oatrawcj (jrymreig. Preifats D. Da vies ac A. R. Lewis. R.VV.F.—Rhingyll W. J. Colclough. Bu Farw. I H ,W.F.-E. G. Owen, 20,738, Towyn. I Clwyfwyd. I South Wales Borderers.—Isgapteniaid J. L. Evans, F. B. Thomas, W. H. Kelly, a W. M. Mason, Major S. C. Morgan. R.W.F.—Isgapteniaid T. Roberts a J. T. Taverner. Ar Goll. I South Wales Borderers.—Capten A. A. Hughes a'r Isgapteniaid H. P. Evans, J. I B. Karran, a G. H. Bowyer.
PENSIWNAU RHYFEL.
PENSIWNAU RHYFEL. Adroddir fod y Canghellor i dderbyn dirprwyaeth o Faerod a Swyddogion eraill yn y Deyrnas Gyfunol, ddydd Iau nesaf, yn Swyddfa.'r Trysorlys, i drafod cwestiwn I y Pensiwnau Rhyfel.
LLAFURWYR A'R GWYLIAU.
LLAFURWYR A'R GWYLIAU. Penderfynodd y mwnwyr yn y Gyn- hadledd yn Buxton yn unfrydol i gymer- adwyo nad oedd gwyliau i'w cymeryd ar Wyl y lane ar wythnos gyntaf Awst eleni. ———— .0i" ————
BODDI YN RHOSNEIGR. I
BODDI YN RHOSNEIGR. Nos Iau, tra yn ymdrochi yn Rhos- neigr, Sir Fon, bu i Laure Rosselet (24) a Margaret Harison (27), dwy foneddiges o Sheffield, foddi. ———— -000-
jSTREIC DOCWYR.
STREIC DOCWYR. Dydd Gwener aeth llafurvvyr y dociau ar Gamlas Manceinion ar streic, yn hawlio codiad o geiniog yn yr awr, yn 110 y ddimai a, gynygiwyd.
MARW'R HENADUR McKILLOP.
MARW'R HENADUR McKILLOP. Fore Gwener bu farw yr Henadur Alex- ander McKillop, Ty Mawr. Llanerchy- medd. Yr oedd yn ynad heddwcb, ac yn Henadur o r Cyngor Sirol.
I POBWYR MANCEINION.
I POBWYR MANCEINION. Mae pobwyr Manceinion a Salford wedi penderfynu cymeryd ddydd Mereher yn ./yl yn lie' Sulgwyn. Ni chrasir ac ni anfonir bara i neb y diwrnod hwnnw. 4'.
I TAN MEWN FFOWNDRI.
I TAN MEWN FFOWNDRI. Gwnaed niwed i'r swm o 20,000p i'r I Union Foundry, Haslingden, trwy dan, I ddydd Gwener. ———    ————
I EI ACHUB GAN RODD.
I EI ACHUB GAN RODD. Dywedir fod y Preifat Griffith Pritclu ard Davies, Beddgelert, aelod gyda'r Lancashire Fusiliers, wedi ei achub gan anrheg roddwyd iddo gan gyfaill o Bedd- anrheg ro d dw, gelert, sef cigarette case. Bn i ddarn o shrapnel daro yn erbyn y case, ond ni wnaed niwed i'r jnilwr. AI"
CROESAU HAEARN GERMANI.
CROESAU HAEARN GERMANI. Yn ystod dau fis ar hugain cyntaf y rhviel, rhoddwyd 9,006 o Groesau Haeat-n o'r Dosbarth Cyntaf allan yn Germani. Ohonynt rhoddwyd 5,904 i swyddogion, 1,228 i is-swyddogion, pryd na. roddwyd ond 255 i filwyr cyffredin.
ILLOYD GEORGE FEL DIFFYNYDD.…
I LLOYD GEORGE FEL DIFFYNYDD. Yn Llys Manddylooion Rhyl, ddydd Sadwrn, Jmddangosodd enw Mr Lloyd George fel diffynydd mewn aclios ddygwyd gan Coy. SergL-Major John Phillips, 20th Welsh Hegiment, Gwersyll Kinmel. Hawliai 5p am niwed wnaed i'w ddeurod- ur gan gerbyd modur y diffynydd ger Rhyl. Gohiriwvd yr achos hyd Medi. ———— ————
I--I YR EISTEDDFOD.
YR EISTEDDFOD. Y Prif Gystadleuon. Mae rhagolygon am gystadleuon da yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth. Dyma y rhai sydd wedi anfon eu henwau ar y prif gystadleuaethau:- Y Brif Gys- tadleuaeth Gorawl: Cymdeithas Gorawl Fforest-fach; Cor Undebol Rheidiol. Corau Merched: Nottingham, Barry, Cor Undebol Rheidiol, Cor Undebol Carn. Corau Plant: Llanelli, Cymmer a'r Porth, Bettws, Amanford, Mountain Ash, Mochno, Pwliheli. Caneuon Gwerin: Llanelli, Dyfi. Unawd soprano: 18; contralto, 17; tenor, 16. Dramas, 8. 3 am y Gadair, a, 60 ar yr englyn. Y mae 6 yn cynyg ar gyfieithu i'r Esperanto. Y mae 7,000 o lyfrau emynau at y Gy- manfa wedi eu gwerthu. ————
CAPLAN I'R MILWYR.j
CAPLAN I'R MILWYR. Mae'r Swyddfa Ryfel wedi penodi y Parch D. C. Herbert, gweinidog yr Anni- bymryr yu Brynsiencyn, yn gaplan i'r Adran Gymreig vng Nghroesoswallt. Mae'n bregethwr hyawdl, a gofyn mawr am dano gan eglwysi Gogledd Cymru. Cytunodd ei eglwys i'w ryddhau am amser anihenodol.
I SYMUD CARCHARORION, I
I SYMUD CARCHARORION, I I Dydd Gwener symudwyd dros 500 o I garcharonou Germanaidd o Wersyll Handforth. Disgwylir y bydd i garchar- I orion gymeiwyd yn ddiweddar ddod yn I eu lie. I 4..
I SYNIAD ARGLWYDD. I
SYNIAD ARGLWYDD. I Dywcd A 1 glwydd Montagu y buasai Brwydr Jutland wedi bod yn llwyddiant lxollol pe buasai gan ein Llynges Zeppelins neu ragor o seaplanes. ———— .of-
MR RUNCIMAN YN GWELLA. 1
MR RUNCIMAN YN GWELLA. 1 Dywedir fod Mr Runciman, Llywydd Bwrdd Masnach, yn gwelia yn foddhaol o'i afiechyd blin, a'i fod yn hyderu y caiff ail afael yn ei ddyledswyddau ymhen tua pum wythnos. ————
) ZEPPELINS NEWYDD.
) ZEPPELINS NEWYDD. Adroddir o Gaereystenyn fod nifer fawr o Zeppelins wedi eu hadeiladu yn Ger- mani yn ystod yr ychydig fisoedd di- weddaf. Maent yn hirach. ac yn gulach na'r lleill. ————
I SUMARINES ETO.
I SUMARINES ETO. Dywedir yn |iewyddiadu^on Germani fod 80 o submarines o'r un ffurf a'r Deutschland i gael eu hadeiladu yn Kiel a Bremen. Disgwylir y bydd 12 ohonynt yn barod n Awst. i .000-
I AREITHIAU HEDDWCH.
I AREITHIAU HEDDWCH. I Mae'r I wyllgor Cenedlaethol German- aidd sy'n ceisio dwyn heddweli anrhydedd. us oddiamgylch, wedi dechreu ar ymgyrch mawr dros yr holl wlad. 0 Awst laf, cynhelir banner cant o gyfarfodydd mawr ym Mhnvxia. Gwneir y pwyllgor i fyny o 40 o aelodau, rhai ohonynt yn dra ad- nabyddus.
1 TRIBUNLYS APEL SIR GAERNARFON.
1 TRIBUNLYS APEL SIR GAERNARFON. Dynia ganlyniadau yr apeliadau o flaen Tribunlvs ikpel Sir Gaernarfon ddydd Iau ¡ diweddaf >ng Nghaernarfon I Mr 11. R. Pritchard, Tai Lon, Llanrug -I)iin rlivd(Uiad. Mr J. H. Roberts, 29, Snowdon Street, Pen.vgi-oes Dim rhyddhad. Mr H. R. Roberts, 3, Church Cottages, Dinas-Dim rhyddhad. Mr W. J. Parry, 1, Rock Terrace, Llan. beris;—Dau fis o ryddhad. Mr W. G. AYilliams, Llys Ifor, Taly- sarn-Dim rhyddhad. Apeliodd y Cynryehiolydd Milwrol yn erbyn rhyidhad Mr R. V. Owen, Erw Terrace, Saron, Bethel; ond gwrthodwyd apel y cynrychiolydd milwrol. Mr R. Griffith, Tieddafydd, Penygroes —Dim rhyddhad. Mr W. Ll. Jones, 8, High Street, Ebeii- ezer—-Rhyddhad hyd Gorff. 31. Mr Hugiiie Hughes, Tanygraig, Cwm- yglo—Rhyddhad hyd Medi 30. Mr William Williams, Liverpool House, Waenfawr—Rhyddhad hyd Awst 31. Mr Richard Owen, Post Office, Upper Llandwrog-Dim rhyddhad. Mr Robert J. Williams, Tan y Garnedd, Moeltryfan—Dim rhyddhad. Mr Hugh Jones, 15, Glangwna Terrace, Caeathraw- -Dim rhyddhad. Mr Henry Ffoulkes, Llys, Brynrefail —Dim rhyddhad. Mr Alun G. Jones, Bronllyfnwy, Pen- gioes^—Dim rhyddhad. Mr G. D. Roberts, Bron Iwich, Groes- lon—llhyddJxad amodol. Mr J. FJias Williams, Gelli Bach, Llanllyfni-Dim rhyddhad. Mr John T. Griffith, Ddol Helvg, Cwm- yglo—Rhyddhad hyd Medi 30. Mr Michael Morris, Mur Mawr, Nant I Peris-Gohirio. Mr R. Roberts, Caledffrwd Terrace, Clwtyljont Rhyddhad hyd Medi 30 (terfynol). Mr 'J. H. Roberts, Tai Pella, Dnvsy- eowl-Dim rhyddhad. Mr Hugh W. Hughes, Ty Mawr Quarry, Talyearn- Dim rhyddhad. Mr Levi IJ. Jones, Penybiyn Bach, Penygroes—Rhyddhad hyd Awst 30. Mr John Evans, Cromlechdy Farm, Nant Peris—Rhyddhad hyd Medi 30. Mr J. R. Griffith,Coedir Isaf, Llanllyfni —Dim rhyddhad. Mr Morris Jones, Coed Bolyn Farm, TIdhcl-Mis o ryddhad1 er mynd dan ar- chwiliad fcxldygol. Ceir canlyniad bechgyn y dref gyda pharagraffau lleol Caernarfon.
Advertising
onpmw Xahc'o popular afe.1 BRIDGE STREET, CARNARVON Y LLE MWYAF CYFLEUS A CHYSURUS AM BRYD 0 FWYD GWIRIONEDDOL DDA. Tyrfa Fawr o Gefnogwyr, a phob un a gair uchel am y lie. Defnyddir y Te Byd.Enwog Gold Medal yn unig. Pob Math o Ddanteithion Uwch- raddol am Brisiau Cymedrol. PERCHENOGION I LAKE & Co., Ltd., Carnarvon. )
I-SAETHU MEDDYG YN FARW. I
I SAETHU MEDDYG YN FARW. I Dydd Sadwrn, saollivvyd Dr Glyn j Jones, Lia.it. fai,w. Yr oedd yn myned i edrych am amaethwr, pryd y cyf- aifydduyd ef gan fab iddo, 34 mlwydd oed. Dywedir iddo danio ergyd ato, yr hon a'i lladdodd. Yr oedd Dr Jones yn 55 mlwydd oed, ac y mae'r llofrudd heb ei ddal cto. ———— 4'.
I RHEILFFYRDD .NEWYDD I I…
I RHEILFFYRDD .NEWYDD I I RWSIA. I Dywedir fod cynllun ar droed i wneud I 1 65 o reilffyrdd newydd yn Rwsia, yn I I cyfrio 20,000 o filltiroedd. I I 4.. I
I ADDYSGU GWYDDONIAETH. I
I ADDYSGU GWYDDONIAETH. I Derbyniodd Hheolwyr Ysgol Treffynnon ddydd LI un rodd o oOp gan un diemv tu- agat sefydlu vsgoloriacth mewn gwydd- oniaeth.
I L300 AM GAMGYMERIAD. I
I L300 AM GAMGYMERIAD. I Ym Mra:vdlys Manceinion, ddydd Llun bu raid i'r Wood Milne Company Ltd., dalu 300p a' costau am droi Mr Percy John Bettg, I.eyIand, o'i le ar gam. I
I FNIG FEIBION.
I FNIG FEIBION. Un dydd yr wythnos ddiweddaf ym- ddangosodd mewn newyddiaduron Llun. deinig a thaleithiol gymaint ag enwau 49 o "unig feibion" wedi eu lladd.
j COFEB KITCHENER. I i
j COFEB KITCHENER. I i Mae di-os 2o,000p eisys wedi eu tanys- gtifio at Gronfa Arglwydd Faer Llun- dain i' Gofeb Genedlaethol i Arglwydd Kitchener.
I CYNILO ADDYSG. I
I CYNILO ADDYSG. I I Wrth odrych dos eu cyllidfa amcan- i gyfrifol bu i Bwyllgor Addysg Lancashire fediu eynilo 19,793p ar addysg uwch- raddol. Pwy gaiff v golled tybed?
I CI YN nWYTA TAIR SOFRAN.I
CI YN nWYTA TAIR SOFRAN. I Dywedai tyst mewn llys sirol yn LIun- dain fod ei gi wedi bwyta bane nodyn 3p; ond taflodd y Barnwr yr achos allan, am y eredai, mac'n debyg, na ddylai cwn gael bwyd mor pnstfawr! I
I GWAITH PRIODOL MERCH. I
I GWAITH PRIODOL MERCH. I "Tieuliais bymtheg mlvnedd," ebai I merch, "i geisio dysgu'r berdoneg, ac I wcllyn ni allwll wneud mwy na chwa-reu I'.uraidl Jerusalem," ond dysgais lanliau y liaothdy mewn douddeng awr." Nid perdoneg i feich, ond ei gwaith ei hunan. —
GWEITHHEDOEDB DA YNI CUDDIO…
GWEITHHEDOEDB DA YN I CUDDIO PECHOD Yti Llundain, ddydd Llun, eyhuddwyd j haeh^en 17 mhvvdd oed gycLi tri arall e I ddwyn illiri oud i hyddhawyd ef i-liag mynd i garchar fel y lleill am ei fod vn I dal medal aur ac arian a thystysgrifau am | achub bywydau.
YMCHWIL DDIWYDIANNOL. I
YMCHWIL DDIWYDIANNOL. Pasiodd Pwyllgor Addysg Manceinion ddydd LInn roddi saith o ysgoloriaethau newyddion mewn diwydwaitb, ac ail-fyw- liau un at-all am flwvddyn eto. Gwnaed hyn er mwyn adweithio yr elfen German- aidd o fywyd diwydiannol ein gwlad. I
GWELLA BACHGEN MEDRUS.
GWELLA BACHGEN MEDRUS. 0 flaen Tribunlys Oatland, dywedai apelvdd ei fod yn grocer, house agent, casglwr rlienti, ffiter, riveter, a gweith- iwr arfau. Wel, ebai y Cadeirydd, rhaid i chwi ychwanegu milwr at eich rhestr.
MILWYR I'R CYNHAEAF.
MILWYR I'R CYNHAEAF. Dywedwyd yng nghyfarfod Cyngor Sir Herts ddydd Llun, fod y awdurdooau milwrol wedi cytuno i ryddhau 500 o fil- wyr er mwyn cynortkwyo yn y cynhaeaf yd drwy y sir.
MARCHNADOEDD. -
MARCHNADOEDD. Caernarfon, Gorff. 15.—Ymenyn, Is 3c y pwys vyau, 8 am Is; pytatws newydd, lie y pwys. Pwllheli,—Gorff. 12.-Yiiienyn, Is Ie y pwys; wyau, 13s yr 120; perchyll, 35s i 43s y pen; moeh tewion, 7 5-8c y pwys; biff, my ton, a pore, 10c i Is 2c y pwys. Llangefni, Gorff. 13.—Ymenyn, Is Ie y pwys; wyau, 8 am Is; perchyll, 388 i 40s; moch tewion, 8c y pwys; cywion, 2s 6c yr lin.
GWENITH.
GWENITH. Lerpwl, Gorff. 11.—Mae y gwenith ar y spot yn gadarn, y prisiau 3c i 4c yn uwch na'r farchnad flaenorol. Am y 100 pwys: — Walla, Manitoba. No 1 N. M., 11e 4!e i lis 5c; cnwd newydd, lis 3ic i lis 4c; Delhi, detholedig gwyn, 108 6c.
Family Notices
GENI. PRIODI. MARW. Priodi. Williams-Pritchard-Gorff. 12, ynghapel Moriah, Caernarfon, gan y Parch John Pritchard, M.A., B.D., Llanberis, Mr Thomas Williams, Coetmor Farm, Beth- esda, a Grace, merch Mr Daniel J. Prit- chard, Tan y Foel Farm, Bethesda. Roberts-) ones-Gorff. 12, Mr Ellis Ro- berts, Ty Capel, a Miss Mary E. Jones, 12, Castle Street,—y ddau o Griccieth. Ell is-Williams--Gorff. 10, ynghapel Pen- mount, Fwllheli, Mr Rowland Jones Ellis, »'lasaewydd, Dolgellau, gyda Miss Maggie A. Williams, Nanney Place, Pwllheli. Marw. Jones Ym mhreswylfod ei ferch, 19, Milman Road, Walton, Lerpwl, yn 77 mlwydd oed, Mr Ellis Jones, teiliwr, gynt o rlorthrradog. Roberts-Gorff. 11, Mrs Roberts, annwyl briod Mr Griffith Robetrs, Bronallt, St. David's Road, Caernarfon. Jones—Gorff. 14, yn Wellington Terrace, Caernarfon, Mrs Jones, annwyl briod Capten Evan Jones. Thomas Gorff. 14, Mrs Catherine Tho- mas, gwoddw Mr D. Thomas, llyfr- werthwr, Station Road, Talysarn, yn 79 mlwydd oed. Davies—Gorff 11, Mrs W. Lloyd Daviee, Tynyffi-wd, Penrhyndeudraeth, yn 23 mlwydd oed. Williams-Gal-ff. 10, Mr Lewis Williams, Rathbone terrace, Groeslon, cyn cyr- raedd oliono ei 23 mlwydd oed.
Advertising
1 J. FLETCHER. LTB.. 8 MEMORIAL WORKS, I CARNARVON a BANGOR. | -w iNrgraflwyd a chyhoeddwyd gan Gvvrnni y Dinesydd Cymreig, Cyf., yn T6, Palace Street, Caernarfon.