Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

DIWEOD GWR 0 GWMYGLO. I I

WARW GWR 0 ARFON.--I

"DWYN ODDIAR DDUW."I

._-_ - - -SENEDD Y PENTREF.

BWRDD Y LLENOR.I

THE WELSH OUTLOOK.

DROS Y -DWR.I

MARW GWR 0 RHOSGADFAN.I

News
Cite
Share

MARW GWR 0 RHOSGADFAN. I Mai 6ed, yn Lime Springs, la., bu farw y diacon fiyddlon William J. Williams, o glefyd y galon. Ganvryd ef Gorffennaf 27ain, 1829, yn Rhosgadfan, ger Caer. narfon. Pan yn dair ar hugain oed daeth i'r v. lad hon, a sefydlodd yn ardal Blue Mounts, Wis. Medi 16eg, 1856, ymunodd irewn priodas a Miss Ann Wil- liams, merch Mr a Mrs William Williams (Pantcoch), Blue Mounts, Wis. Gan- wyd un ar ddeg o blant iddynt, o ba rai y bu farw chwech yn eu plentvndod. Yn 1868 aeth ef a'i briod i fyw i ardal Bristol Grove, Minn., lie y treuliodd ein gwrth- rych y rhan fwyaf o'i oes. Yn y flwydd- yn 1895, thoddodd amaethyddiaeth heibio, a svmudodd i dreulio gweddill ei oes yn nhref Lime Springs. Yr oedd Mr Williams yn wr a, hoffid yn fawr gan bawb a'i hadwaenai. Yn dy- wvsog ymvsg saint yr eglwys. Llywod- raethid ei fywyd ag egwyddorion rrvfaf crefvdd. Yr oedd wedi ei ddonio yn helaeth a chymwysderau fel arweiniwr crefyddol. Dewiswyd ef yn ddiiacon gan eglwys Barnmille, yn y flwyddyn 1867, a ehyflawnodd hi yn anrhydeddus, gyda eel a brwdfrydedd hyd ddydd ei farwolaeth. Yr oedd pfideb ei amcanion, a duwiol- frydedd ei ysbryd yn peri fod gan bawb y meddwl nwchaf ohono a'r parch dyfnaf iddo. Yr oedd yn un ffyddlon iawn ymhob Cylell crefyddol. Yr oedd ei sel yn angerddol dros gyscgrecligrwydd pethau Duw. Yr oedd yn hynod felly gyda gol. wg ar bob peth oedd yn dwvn perthynas a chrefydd. Ni allasai oddef ysgafnder gyda phethau evsegredig. Colled i'r eglwys hon oedd colli colofn mor gadarn, canwyll mor oIeu. Bydd yr eglwys yn cofio yn hir am ei lafur, ei ofal, ei ath- rawiaeth, a'i ymarweddiad da. Cynhaliwvd gwa-sanaeth ddydd ei ang- ladd yn add oldy y M.C. yn Lime Springs, ac yn ycnwanegol at weinidog y lie a'r cylch, cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y Parch William Jones, Crawford- ville .,a'r larch J. Parry Jones, Salem, Long Creek, la. Gedy yr ymadawedig briod hawridgar, dau o feibion, a thair o ferched i alaru ar ei ol.

CROP GWAIR A GWELLT 1916.…

Y DRYSORFA.

TRYSORFA'R PLANT.

FFRAINC A'U CLWYFEDIGION.

0 BWYS I FERCHED.