Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
16 articles on this Page
LLANBERIS. I
LLANBERIS. I Rhybudd Pwysig. Mae Mr H. R. PhiHips wedi symud ei fasnach o 27, Bont Bridd, Caernarfon, i No. 5. Stryd y Llyn, Caernarfon. Bydd ei fasnach yn cael ei chario ymlaen fel o'r blaen, sef y invyddau goreu am y prisiau isaf. Ceir dewis helaeth o bob math o ddiUadau parod i ddynion, bechgyn, a phlant; hefyd siwtiau i fesur, gwarentir ffit dda dewis helaeth o ddilladau duon mewn stoc bob amser dilladau isnf, dilladau gwaith. Mae pob dim svdd ar ddyn eisiau meign gwisg i'w gael gan H. R. Phillips, No. 5, Pool Street. Caernarfon. Gynt gyda Bradleys a P. & 0. Clothiers.
WAENFAWR. I
WAENFAWR. I Rhybudd Pwysig. Mae Mr H. R. Phillips wedi symud ei fasnach o 27, Bont Bridd, Caernarfon, i No. 5, Stryd y Llyn, Caernarfon. Bydd ei fasnach yn cael ei chario ymlaen fel o'r blaen, sef y nwyddau goreu am y prisiau isaf. Ceir dewis helaeth o bob math o ddilladau parod i ddynion, bechgyn, a phlant; hefyd siwtiau i fesur, gwarentir ffit dda; dewis helaeth o ddilladau dnon mewn stoc bob amser; dilladau isaf, dilladau gwaith. Mae pob dim sydd ar ddyn eisiau mewn gwisg i'w gae! gan H. R. Phillips, No. 5, Pool Street 1 Caernarfon. Gynt gyda Bradleys a P. & 0. Clothiers. Llwyddiant. Llawenydd digymysg gennym ydyw cofnodi llwyddiant yr ysgolheiges ieuanc Nesta Wynne Jones, Ty'n y Ceunant, ar ei gwaith yn ennill yr ysgoloriaeth i'r Ysgol Sir. Daeth allan yn ddegfed yn yr arholiad. Yr oedd yn agos iawn y llynedd. Hi oedd yr uchaf yn ysgol y Waen y ddwy flynedd yn ol- ynol; ond eleni rhoddodd gam ymlaen, ac yr ydym jn ddiolchgar iddi am ddod a r clod i ni fel ardaL Clywsom mai gcneth fach ddiwyd gyda'i gwersi ydyw; ond pa ryfedd, hwyrach fod swn acenion y ceu- nant a thwrf mawreddog y rhaiadrau py'n rhuthro heibio'i chartref yn g- morth iddi efrydu ei givei-si. Mae "Coleg 'Anian" wedi bod yn At-bi-ofa i lawer o NOW ? Marw.-Gorffennaf 4, bu farw Mr Evan Evans, Mancheste House, yn 87 mlwydd oed. Cafodd gystudd poenus am hit- gyf- nod; ond fel efe ei hun dioddefodd yr oil yn dawel. Yr oedd yn hynod am ei add- fwrynder a'i siiioldeb, ac yn cael ei an- wylo gan ba,wb. Am ddeng mlynedd ar liugain bu yn flaenor ffyddIon ynghapel y Waen, a theimlir colled at- ei ol yno. Cafodd augladd parchus ddydd Sadwrn. Cydymdeimlir a'r teulu yn eu trallod.
RHOSGADFAN. I
RHOSGADFAN. I Pricaas. Dydd Sadwrn, Gorffennaf 9, ynghapel Waterloo, Lerpwl, unwyd trwy briodas gan y Parch Win. Henry, Mr John E. Huberts, Cae'rgors, Rhosgadfan, a Miiss Maggie Owen, 6, Middle Street, Bethesda. Y forwyn ydoedd Miss Mary Owen, chwaer y briodasferch, a gwasan- aethwyd fel g\\lls gan Mr AVm. Owen, 7, Cranworth Street, Seaforth. Hhoddwyd y ferch ymaith gan Mr Win. H. Roberts,
TOWYN. MEIRIONYDD. I
TOWYN. MEIRIONYDD. I Pwysig i drigolion Towyn (Meirionjdd) I a'r Cylch. )Iae Mr D. Jones. Druggist, College Green, Towyn. yn awr yn gwerthu Tango Wine. Bydd dioddefwyr oddiwrth waeledd yn siwr o fod yn falch o glywed hyn.
FELINHELI. I
FELINHELI. I Rhybudd Pwysig. Mae Mr H. R. PhUlips vedi symud ei fasnach ? 27, Bont Bridd, CaprTiarfo?? i No. 5, Stryd y Uyn, Caernarfon. Bydd ei fasnach yn cael ei chario ymlaen fel o'r blaen, r y nwvddau goreu am y prisiau isaf. Ceir dewis helaeth o bob math o ddilladau p.ll.o(i (!, I vnio- parod i ddynion, bechgyn, a phlant; hefyd siwtiau i fesur, gwarentir ffit dda; dewis helaeth o ddilladau duon mewn stoc bob amser; dmadau isaf, dilladau gwaith. Mae pob dim sydd ar ddyn eisiau mewn gwisg i'w gael gan H. R. Phillips, No. 5, Pool Street, Caernarfon. Gynt gyda Bradleys a P. & 0. Clothiers.
BETHESDA. I
BETHESDA. I Am Dde Affrig.—Yr wythnos ddiwedd- af hwyliodd y cyfaill hynaws Mr J. Moses Jones, Coedyparc, am Dde Affrig yr ail dio. Bu yno yn gweithio am flynydd- oetld o' r l-hen; yna bu gartref fel gor- uch wyliwr dj os un o'r cwmniau vswiriol, ond y mae eto wedi cychwyn am yr Affrig bell am rhyw ysbaid. Rhwvdd hynt iddo yn ei aiitisriaeth. Magu rJabanod.-—Yr wythnos ddiwedd- af bu Meddvg y Sir, Dr Parry Edwards, yma yn 'hoi hyfforddiant i famau ar y modd goreu i fagu y rhai bvehain. Yn r sgol y v.'ofnfacs y bu y cyfarfyddiad, a daeth cymilliad lliosog o famau a phlant ynghyd. I eallwn y cynhelir cyfarfod bob yn ail wylhiios. Mae yn sicr y gwna ddirfawr les. Y Gwaith Gwcu.—Da gennym ddeall mai rayned ar gvnydd mac y diwydiant newydd vn ein p]ith. Yn y pwyllgor y ncson o'r blaen penodwyd pedair yn ychwanegol i ddod i'r gwaith, mae hyn yn gwneud i fyny ddeunaw o rif yn gweithio yn wastad. Hysbysir ni gan yr ysgrifennydd, Mr E. R. Jones, fod dros saith ugain punt wedi ei dalu mewn cyf- logau er y dechreu, ac fod rhai miloedd o liosannau a socks wedi eu gwneud. Gof- ynasom iddo a oedd rhai o'r rhain yn cael eu gwerthu yn yr ardal, a deallwn fod yr un sy'n gofalu yn barod iawn i werthu i rhywun a hynny ar delerau rhesymol iawn. (,'redwn y dylid gwneud hyn yn wybyddus, a chredwn hefyd ei bod yn ddy- lledswvdd arnom fel ardalwyr roi ein cefnogaeth ymhob modd i'r mudiad. Cneifio.—"Pryd mae pobl y defaid yma am orffen dwedwch" meddai rhywun y dydd o'r blaen, a hynny, mae'n ddiau, oherwydd y priodolir yr hin wlawog iddyn nhw. Os gwir hynny, goreu po gynta—swn cneifio sydd ymhobman yma y dyddiau hyn. Magu Chwarelwyr. Yn ol a glywn, mae gwell telerau yn cael eu rhoi yn awr i feehgyn sy'n dod i'r chwarel, nag a roed erioed o'r blaen. Cant rhyw gymaint o safcn evflog, a gofelir eu gosod i weithio gyda chwarelwyr profiadol. Mae yn am- Iwg fod • r oruchwyliaeth yn disgwyl dyddiau gwell. Fydd y chwarelwr yn barod i fynu telerau gwell bryd hynny, tybed? Oni ddylai yntau gael ei safon cyflog, bellach? Aelod Newydd.—Mr G. R. Jones, cig- ydd, ddewiswyd yn aelod o'r Cyngor Dinesig, yn lie y diweddar Mr R. B. Evans. Wedi Syrthic.—Gyda gofid yr ym yn gorfod crouiclo hanes diwedd un o'n bech- bechg.vn yn y frwydr fawr yn Ffrainc, sef Mr Richard Price, mab Mr Thomas Price, Tangadlas. Daeth ef drosodd gyda'r Canadians, sydd wedi dangos y fath wroldeb yn y ffosvdd. Cynhelir gwasanaeth c-offadwriaethol ynghapel Trenys yn ystod yr wythnos lion. Mae cydymdeimlad yr holl ardal a'r teulu yn eu trallod
[No title]
Ni all ilnrhyw ddyn fyw ar lefel isel a thr'go mewn meddyliau ucheI. M?e mod??I uchel yn cael ei eni mewn bywjd ucIi?.—Pf Jovet?
[No title]
GWAITH YR U BOAT. GWAITH YR U BOAT.I Cy(i'h aeddodd ^submarine Germanaddd 1 yn Norfolk, Virginia, wedi mordaith 0 4,100 o lilltiroedd, ac yr oedd 1,800 o'r rhai bynny wedi eu gwneud dan y dwfr. Addefir fod hon yn llong i dorri ar y mor- warchaead, ac yn cario 1,000 o dunelli o <Uleunydd lliwiau a meddyginiaeth, a bwr- icdid cad Hwyth o rubber a nickel i fynd j yn ol i Germani Yr oedd ganddynt hefyd genadwri oddiwrth y Kaiser i'r Arlywydd Wilson. Cariai 29 o griw. I CYTUNDEB YR IWERDDON. I Nid oedd dim synfawr yn natganiad y Prif Weinidog ar gytundeb yr Iwerddon yn y Senedd nos I.un. Dywedodd mai setliad amodol ydoedd, ond fod cadw y chwe sir UIsteraidd o'r tuallan yn der- fynol, ac na ell ii* eu dodi i mewn ond trwy eu cydsvniad hwy. Gwneir peii-iai-tivaitli arbennig tuagat eu Uywodraethu hwy. Bydd i Ddeddf Llywodraeth yr Iwerdd- on, gyda chymedroliad, gael ei dwyn i weithrediad dioed. Bydd i'r mesur aros mewn grym yn ystod y i hyfel, ac am ddeuddeng mis wedi ei therfyniad.
CYNGOR SIR ARFON. I
CYNGOR SIR ARFON. I Bu cyfarfod o'r uchod ddydd lau di- weddaf yng Nghaernarfon, Mr Richard Thomas yn llywyddu. Darllenwyd Ilythyr oddiwrth Gyngot Trefol Conwy yn dweyd eu bod wedi pen- odi Mr T. R. Hughes, Bryn Morfa, Con- ivy, fel aelod o'r Cyngor yn olynydd i Mi \Vm. Emyards. Gweith.vyr y Ffyrdd a'r Cynhaeaf. Pasiwyd gan Bwyllgor y Ffyrdd fod ) i'r Arolygydd roddi pob cynorthwy i am- aethwyr y sir gyda'r cynhaeaf, a'i fod i roddi gweithwyr y ffyrdd at eu gwasan- aeth ond iddynt dalu iddynt. Dywedodd Mr Maurice Jones fod dau amaethwr wedi gwneud cais am ddynion, ac iddynt gael dau ddyn, ond yr oeddynt fodd bynnag yn anfoddlon i adael eu gwaith, gan yr ystyrient mai i weithio ar y ffyrdd y cynogwyd hwy. Ar ol cryn bwvso, cytiinodd y ddau ddyn i wneud y fnvaith. Talu Cyflogau y Dynion. I Darllen vyd llvthyr oddiwrth Gyngor Kglwysi Rhyddion Bethesda yn dweyd mai'r ffordd oreu i helpu dynion i gynilo ydoedd talu eu cyflogau yn fwy ami. Gofynir i veithwyr gynilo heddyw ymhob cylch. Hysbyswyd fod hyn yn cael ei wneud gan rai chwareli a Chynghorau. Pan g>7nygiwyd fod y cyflogau i'w talu bob pytheinos o hyn allan, galwodd yr Arolygydd sylw at yr anhawsderau. Ar ol trafodaeth bellach, cyflwvnwyd y mater i'r pwyllgor i geisio gwneud trefniadau. I Milwyr ar y Tir. I Cynygiai Pwyllgor y Man-ddaliadau fod cais yn :ael ei wneud at y Bwrdd Am- aethyddiaetli i sefydlu un o gynlluniau y man-ddaliadau yng Nghymru. Mae yng Nghymru rLifer o fan-ddaliadau yn barod, ac y mae'r Dywysogaeth wedi rhoddi dyn- ion lawer i v/asanaeth eu gwlad. Penodwyd is-bwyligor i barotoi cjmllun ar gyfer v sir hon, a'i fod i'w anfon ar unwaith i Gyngor Amaethyddol Cymru. .—
YSGOL Y SIR, CAERNARFON.
YSGOL Y SIR, CAERNARFON. A ganlyn ydynt restr llawn o enwau ysgolorion, eu hysgolion, a'u cyfeiriadau, 15 mewn nifer, y rhai y rhoddodd Bwrdd y Rheolwyr fynediad rhydd i Ysgol y Sir: —Cecil Roberts, Carnarvon Boys C., Rhosdican, Caernarfon; Edith Ball, Car- narvon Girls c., School House, Caernar- fon; Elsit Parry, Portdinorwic, Paris House, Bangor Street, Portdinorwic; Jennie Owen. Cam ar von Girls C., Bee Hive, Caernarfon; Lizzie Kate Jones, etc, 3, Beulah Square, Caernarfon; Mar- jorie Barnes, eto, 5 Thomas Street, Caer narfon; Annie Griffith, eto, Bronfedw, Rhyd-ddu; Robert Arfon Williams, Car- narvon Central, Llys Myfyr, Bangor Street!, Portdinorwic; Florence Payne, Carnarvon Girls C., Cae Bold, Caernar- fon; Nesta Wynne Jones, Waenfawr C., Tyn Ceunant, Waenfawr; Miriam Carson, Carnarvon Girls C., 1, Castle Street, Caernarfon; George Taylor Jones, Car. narvon Boys C., Peblig Mills; R. Tudor Jones, eto, 22, Thomas Street, Caernar- I fon; Jane Edwards, Carnarvon Girls C., Bodowen, Caernarfon Lizzie Mary Jones, eto, 1, Hill Street, Caernarfon. "♦4^-
TOCYNAU DILLAD. j
TOCYNAU DILLAD. 0 Awst ymlaen, ni fydd yn bosibl prynu dilladau yn Germani ond gyda toc- ynau arbennig. yitlieii vell-vdig amser eto bydd holl "tyres" beisiclau yn c-kiel eu cvmeiyd gan y Llywodraethj
Advertising
y 0 YR AFR AUR, CAERNARFON.   N YDDAU AM HANER EU CWERTH, ] YN Y FFENESTRI AG AR Y BYRDDAU YN UNIG HEFYD GOSTYHGHD SYLWEDDOL ar COSTUMES a RAINCOATS. I PIERCE & WILLIAMS. o = —-—— = =- o
DYDD LLUN.I
DYDD LLUN. I LLWYDDIANT CYNGREI RIOL I NEWYDD. I Mae'r Piydeinwvr a'r Ffrancod yn par- ¡ hau i symud ymlaen ynghymydogaeth y Somme. Darfu iddynt gydwcithredu I dydd Sadwrn., a chawsant Iwyddiant rhag- orol. Ar ol tanbeleniad ffyrnig, darfu iddynt ruthro ar linell o ffosydd y gelyn yn nwyreinbarth Boise-de.Bernafay, a sefydlasant eu hunain yn Bois-des-Trones. Adymosododd y Germaniaid arnynt gyda Ijyddinoedd mawrion, ond ataliwyd hwy, a ffoisant yr anrhefnus. Ddoe gwnaotlx y gelyn ddau adymosodiad pellach, end ataliwyd 1-wy yn lhwydd gan ein mag- nelwyr. C'ymerodd brwydro law-yn-llaw le ymysg adfeilion pentref Ovillers, a gwnaed cynnydd sylweddol gan y Pry- deinwyr cr gwaethaf gwrthsafiad crvf. Mewn. 35 munvid dydd Sadwrn, eymerodd y Ffrancod bentref Hardecourt, 4] miil- dir i ddwyrain Fricourt. Yn vchwan. egol at ddioddef colledion trymion, gad- awodd y gelyn 633 o garcharorion yn ein dwylaw. I MUDIAD NEWYDD. ) Ddoe, declireuodd 'y Ffrancod fudiad newydd pwysig yn nwyreinbarth Flau- court, ar ffrynt o bedwar kilometer. Darfu iddynt gymeryd lleoedd pwysig oddiar y Geimaniaid, yn cynnwys pen- tref Biaches, tri-chwarter milldir i (,I,- Ilewin Peronnc; Dywed Syr Douglas Haig fod y Prydeinwyr wedi cymeryd 20 o ynnau. Felly yn ystcxl yr ymosodiaJ- au diweddar, eymerodd y Prydeinwyr a'r Ffrancod S'f o ynnau, tra mae'r carchar- orion dros 17.G00. CYNNYDD RWSIA. Cynnwvsa yr adroddiadau Rwsiaidd ddaeth i Jaw yn ystod diwedd yr wythncs newyddion da dros ben, a rliwng Ivolki a Pripet cymerodd brwydro caled ie. Y canlyniadau fu i'r Rwsiaid feddiannu Letchnevka a Griva, a gyiTu y gelyn o'u safleoedd yn Nobel, ar y Pripet Ymhell- ach i lawr. ar ffrynt Czartorysg, darfu iddynt gymeryd pentrefydd eraill, a dwy ill o garciarorion. Mae'r gelyn yn ffoi yn anrhefnus. Rhwng Gorffennaf 4-7, yn ystod rhyfeloedd Styr.Stokhod, cy. merwvd 300 o swyddogion a 12,000 o ddynion yn garcharorion. Yn Galieia, cymeiwvd pentref Gregoof dydd Gweuer, a dydd Sadwrn darfu iddynt gymeryd cyffoi-dd hwysig Delatyn, ar reilffordd y Carpathia. Gadawodd y gelyn ysbad irawr ar ol yn y ddau le. lLWYDDIANT ITALA'DD. I Mak,i- vnilaen Italaidd yn ]ii'hau yn fnddugoliaethus ar hyd y Trentino, a gwnaed cynnydd pellach gan- ddynt ar yr Upper Astieo. Cymerwyd rhai ffosydd ganddynt yn y rhanbarth gogleddol, Agnella Pass yn cael ei fedd- iannu gan yr Italiaid, tra yn nyffryn yr Upper Campelle, meddianwyd safle hwysig ganddvnt. COLLEDION GERMANAIDD. I Yn ol y rhestrau colledion Bwyddogol Germanaidd, mae eu colledion erbyn hyn yn 3,012,037, a gwneir hwy i fyny fel y canlyn:— Lladdwyd 710,892 I Bu farw 46,435 I Carcharorion 152,793 Ar goll = 189,880 Clwyfwyd yn ddifrifol 409,215 Clwyfwyd 263,379 Clwvfwvd vn ysgafn .1,240,043 Dylid cofio mai'r ffigyrau Germanaidd ydyw'r rhai hyn. ac nad ydynt yn cyn- rychioli yr amcangyfrifon Prydeinig, YN SALONICA. Dywed adroddiad o Athens fod dwy fataliwn Germanaidd dydd Gwener wedi ymosod ar fataliwn Ffrengig ynghymyd- ogaeth Ghevgeli Doiran, a chymerodd brwydro caled le, yr hwn barhaodd am oriau lawer. Gorfu i'r gelyn isyi-thio yn ol o flaen tan y magnelwyr Ffrengig, ac yr oedd eu colledion yn aruthrol. Yn ystod y brwydro, erlidiwyd awyrlongau Germanaidd gan y rhai Ffrengig, a dych- welasant yn ddiogel. CYFADDEFIAD AWSTRIAIDD. Cyfaddefa'r adroddiad Awstriaidd fod y Rwsiaid yn Kilomea yn symud ymlaen tuagat Mikulic-hin, ond liawliant jddynt atal ymosodiadau Rwsiaidd yn Voihynia ac ar y Stokhod. Dywedant hefyd iddynt dynu awyilong Rwsiaidd i lawr ar Gorff. 7fed yn nwyreinbarth Borovrio.
DYDD MAWRTH.
DYDD MAWRTH. Y RWSIAID YN YSGUBO. Cafodd y gelyn ei ysgubo gerbron Kovel, gan na fuont yn abl i ddefnyddio yr Afon Stochod, 22 milltir i'r dwyrain, i'r pwrpas o atal dyfodiad y Rwsiaid, y rhai groesasant yi' afon mewn llawer man. Oherwydd eu hawydd a'u hym- drech i re dog o'r ffordd, bu i'r gelyn golli i'r Cadfridog Lescha, weithredai ar y rheilffordd yn rhedeg i'r gorllewin, a'r Cadfridog LKaledin, ar y lheilffordd yn rhedeg i'r gogledd-oorllewin, cymerwyd 21,745 o garcharorion heb eu clwyfo a 55 o ynan. Nid oes yn awr un llinell natur- iol o amddiffyniad cydrhwng y Rwsiaid a Kovel, yr hwn ystyria y Cadfridog Bru- siloff ydyw yr agoriad i'r oil o'r ffi-ynt dwyreiniol. Y FFRANCWYR A'R PRYDEINWYR. Cyfaddefa y Germaniaid fod yr hy. n wnaed gan y Prydeinwyr i Combles yn ddifrifol, ac y maent yn gwneud ym- drechion beiddgar i adennill meddiant llwyi- o Trones Wood, dwy filltir i'r gog- dwy filltir i'r gog- ledd o'r dref, y pen deheuol o'r hwn a -gymerwyd y Sadwrn. Gwnaed pum ymosodiad ychwanegol yn ystod y Sul i symud y Prydeinwyr o'u sefyllfaoedd newydd yn y coed, ao er i un ymosodiad gael peth llwyddiant, dal- iodd y Prydeinwyr eu tir. Hona y Ger- maniaid iddynt "storm io ac ennill" y coed. Y mae'r ymdrech yn Coutalmaison yn myned i'n ftafr. Amgylch Ovillers y mae ymladd law-yn-Iliw yn cymeryd lie. Canlynwvd cymeryd Baiches, lie y mae'r Ffrancod yn awi* yn gwynebu Pe- ronne ar yr ochr arall i'r Somme, gyda llinell arall o ffosydd ychydig yn fwy i'r de. Hawlia'r gelyn eu bod wedi ail- gymeryd La Maisonette Farm, yr hwn na adroddwyd gan v Ffranewvr fel wedi ei chymeryd, ac hefyd pentref o'r enw Barleux i'r de o Biaches.
-DIRGELWCH -Y DDYFRDWY.
DIRGELWCH Y DDYFRDWY. iSos Sadwrn, canfyddwyd corft dyn tua 50 mlwydd oed yn nofio yn y Ddyfrdwy ger Caer. Yn ei feddiant cafwyd bocs matsus arian g:vda'r enw F. Cilfton arno, ac hefyd fathodyn arian gyda W.L.D.C. 100 milldir ami. Yr oedd ei oriawr yn myned pan gafwyd y corff, felly ni fu y corff yn hir yn y dwfr. Yr oedd ei draed wedi eu cylymu. Ni wyddis eto pwy ydyw. DYN ANOBEITHIOL. Mae David Davies, yr hwn adnabyddir fel bugail Dartmoor, wedi vmddangos eto yn llys yr heddlu. Anfonwyd ef i gar. char yn vVarrington am flwyddyn am lad- rata ar Fehefin 30ain o eglwys Babyddol Liverpool Road, Warrington. Cafwyd 10s 10c yn ei feddiant. Dywedodd y Prif Gwnstabl na allai beidio dwyn. Sylwodd y Cadeirydd ei fod yn ddyn AnoWthiQl.
DYFFRYN NANTLLE.
y Llyn, Caernarfon. Bydd ei fasnach yn cael ei cbario ymlaen fel o'r blaen, sef y nwyddau goreu am y prisiau isaf. Ceir dewis helaeth o bob math o ddilladau parod i ddynion, bechgyn, a phlant; hefyd siwtiau i fesur, gwarentir flit dda; dewis helaeth o ddilladau duon mewn stoc bob amser; dilladau isaf, dilladau gwaith. Mae pob e-im sydd a 1" ddyn eisiau mewn gwisg i'w gael gan H. R. Phillips, No. S, Pool Strset* Caernarfon. Gvnt gyda Bradleys a P. & 0. Clothiers. Jumble Sale.-Dydd lau, Mehefin 29. yn y Drill Hall, Penygroes, cynhaliwyd "Jumble Sale" lvvyddiannus er budd y gronfa leol sydd yn darparu cysuron i'r milwyr Cymreig gartref ac oddicartref. Gwerthfawrogir yn fawr garedigrwydd a ffyddlondeb y lliaws sy'n cefnogi y mud- iad. Arolygwyr y sale oeddynt: Mrs Dr Owen a Nlis-, Dr Roberts, y te a'r ym. borth gan Ms Price, High Street, ac eraill; y blodau a'r ffnvythau—Adran y plant, Miss Williams. Bryn Mvfyr; Mrs Griffith, a Miss Ivev yr Adran Gyffred- inol, Mrs J. Julias Jones ac eraill. Caf- Wvd elw syiweddol at yr achos da hwn. 0 Ble y Daethi y Biodau?—Cafodd ad- l'an o Gymdeithas y Groes Goch hwyl ar- jfldercliog nr wertliu blodau am geiniog yr tin yn ffait. I lanllyfni ddydd lau diweddaf. Bu eu 11afur yn foddion i gael swm syl- tveddol i gronfa y gymdeithas. "Ymhob Dafur y mae elw." Gwywo'n Gynnar. Gofidus gennym gofnodi marwolaeth y brawd ieuanc ¡ addawol Mr John Thomas Jones, unig fab Mr a Mrs Peter Jones, Glasfryn, Llan- llyfni, yr hyn a gymerodd le nos Fercher, Mehefin 28, tra ond 24 mlwydd oed. Byr iawn fu ei gystudd, ond caled. Er nad wedi cael manteision addysg neilltuol, feto yr oedd wedi manteisio ar ei oriau hamddenol i ddiwyllio ei linn mewn mwy hag un gangen. Enillodd dair tystysgrif gyda'r "St. John's Ambulance" a medal y "British Red Cross Society." Yr oedd hefyd yn gerddor. Bu yn arwain amryw barties fu II llwyddialluus yn ein cyfar. fodydd amrywiaethol yn ystod tymhorau y gaeaf. Yr oedd newydd ei ddewis yn organydd yn eglwys Moriah (A.), o ba un yr oedd yn aelod ffyddlon. Efe oedd ysgrifennydd yr Ysgol Sul. Er ei fod yn gweithio nr y L. N. W. Railway yng Nghaer, tyddai ei ffyddlondeb i'r achos yn ei anfon adref bob Sadwrn. Bydd I colled fawr ar ei ol yn y teulu a'r ego,' lwys, ond credwn fod ei ennill ef yn fwy. "A bod gyda Christ, canys llawer iawn gwell ydyw." Bachgen gonest ac un- plyg ydoedd, un yn dymuno yn dda i bawb, ac ;,n siarad yn barchus am bawb. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Gorffwysfa ddydd Sadwrn, Gorffennaf 1, I ynghanol arwyddion o barch mawr. Gwasanaethwyd wrth y ty ao ar Ian y bedd gan y Parch Thomas Lloyd, Gor- ffwysfa, Rhostryfan. Yr oedd yno am- ryw o flodeudyrch wedi eu hanfon gan yr eglwys a lluaws o gyfeillion. Cydym- deimlir yn fawr a'i rieni yn eu profedig- aeth ehwerw.