Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
34 articles on this Page
Y DI-WAITH YN MAI.I
Y DI-WAITH YN MAI. I Darfu i Undebau Llafur gydlag aelod- aeth o 930,919, hysbysu fod 4,648, neu 0.5 y cant o'u haelodau, allan o waith ar ddiwedd mis Mai, o'u cymharu a 0.5 di- wedd1 Ebrill, a 1.2 ar ddiwedd Mai, 1915. Oyfedd gweithwyr yswiriedig allan o waith ar ddiwedd Mai ydoedd 0.7, o'u oymbaru a C.6 diwedd Ebrill, a 0.9 diwedd Mai, 1915. Yr oedd y mwyafrif ohonynt yn y fasnach adeiladu.
ANGHYDWELEDIADAUI LLAFUR.
ANGHYDWELEDIADAU I LLAFUR. Cyfanrif yr angbydwelediadau llafur ar ddechreu Mai ydoedd 41, ac effeithiai y rhai hyn ar 30,439 o weithwyr, o'u cym- haru a 54,056 y mis blaenorol, a. 51,575 flwyddyn yn ol. Amcangvfrifir iddynt harhau am 307,400 o ddyddiau gweithio, o'u cymharu a 654,600 yn Ebrill 1916, a 246,700 yn Mai 1915.
CODIAD MEWN CYFLOGAU.
CODIAD MEWN CYFLOGAU. Dywed y "Labour Gazettte" fod 370,000 j o weithwyr wedi cael codiad yn eu cyflog- I au yn ystod mis Mai, cyfanswm yr hyn ydoedd 31,000p yn wythnosol. Effeith- iodd hyn yn fwyaf arbennig ar 130,000 o lowyr, a 46,000 o beirianwyr Yorkshire a Lancashire. •
I GWASANAETH MILWROL.
GWASANAETH MILWROL. l Codwyd cwestiwn gwasanaeth milwrol i fyny yn y prynhawn. Dywedodd Mr i fyny yn y pr, W. Moses fod y Mesur Gwasanaeth Mil- wrol yn rhoddi cyfle ysblenydd i'r meistr- iaid i gael ymwared o swyddogion Undeb- au Llafllr a'u rhoddi drosodd i'r rhingyll ymrestru. Rhaid amddiffyn y dynion hyn. Cynygiodd eu bod yn gofyn i'r Llywodraeth i sefydlu llys apel, ar yr hwn y dylai Llafur gael ei gynrychioli, i ystyried apeliadau gan Undebau Llafur ar ran eu swyddogion a'u haelodau. Eiliwyd ef gan Mr J. Cotter, a dywed- odd ei fod yn disgvvyl am benderfyniad yn gofyn am i'r Mesur Goi-fodol gael ei dynu yn ol yn gyfangwbl. Dywedodd Mr J. Henson nad oedd eu haelodau yn cael trugaredd gan y Tri- bunals o gwbi. Cariwyd y penderfvniad.
I-Y -DYSENTRY A'R GERMANIAID.j
Y DYSENTRY A'R GERMANIAID. j Dywed niilwyr clwyfedig Germanaidd sy'n dod o Verdun fod miloedd o'u cyd- filwyr yn dioddef oddiwrth y dysentry, a'i fod yn lledu yn y lie.
IDIWEDD SOSIALYDD.I
I DIWEDD SOSIALYDD. I I Dydd Iau lladdwyd Mr Leonard Hall, I y Sosialydd enwog, gan motor-bus ym Mirmingham. Yn 1908 ymgeisiodd am sedd dros Edgbaston Ward, ond bu'n aflwyddiannus. Yr oedd yn SosiaJydd a Llafurwr pybyr.
ILLAFJRWYR -AWSTRALIA. _-(
I LLAFJRWYR AWSTRALIA. ( Mewn Cynhadledd Lafur yn Mel- bourne, pasiwyd penderfyniad gan rai yn cynrychioli 100,000 o weithwyr, yn erfyn ar i weithwyr y gwledydd ddatgan yn agorcd a dioedi o blaid cael lieddwch di- ymdroi.
I AI GWIR HYN? I
I AI GWIR HYN? I Dywedodd Ben Tillett ynghyfarfod ffarwel Undeb y Docwyr i Brif Weinidog Awstralia fTFod yr Esgob cyfFredin yn gwario mwy ar ddiod mewn wythnos nag yr oedd y gweithiwr yn abl i'w wario mewn chwe mis." Tybed, Ben! Os ydynt, faint waria Ben arnop
IGWAITH -MERCH MWNWR.I
I GWAITH MERCH MWNWR. I I Casglodd merch fechan i Mr a Mrs I Jackson, Burnley, y swm o l,100p oddiar I weithwyr y dref ar yr heolydd a'r ffatri- oedd at gael Motor Ambulance', a chyf- Iwynwyd yr ambulance i Gymdeithas y Groes Goch er cof am ei brawd a, laddwyd ym mrwydr Loos.
J S SUT __I _ODOLl -AR -BUM…
J S SUT I ODOLl AR BUM SWLLT? I I Dyma drefn un o wragedd pensiwn yr I hen :-Rh!nt, 2s 3c; 2oz. o de, 3c; Jib. ( o siwgwr, 2ic; darnau o gig, 2c; bras- I der, Ic; ?4!?. o coke, 3?c, '?eint o oil ¡ lamp, l?c; bara, Is 7e. Cyfanswm, 4s! Hie. Gofynodd rhywun ,iddi sut y I. gwnai gyda'r prisiau yn codi o 'hyd. 0, meddai, byddaf yn gorfodi gwneud ar lai o'r peth yma a'r peth aew, dyna'r oil. Stori ofnadwv, onide?
Advertising
i 11aRes popular (Cafe. I BUM BRIDGE STREET, CARNARVON Y LLE MWYAF CYFLEUS A CHYSURUS AM BRYD 0 FWYD GWI RIONEDDOL DDA. Tyrfa Fawr o Gefnogwyr, a phob I un a gair uchel am y lie. Defnyddir y Te Byd.Enwog Gold Medal yn unig. I Pob Math o Ddanteithion Uwch- raddol am Brisiau Cymedrol. PERCHENOGION I LE & Co., Ltd., Carnarvon, I j
.CYLLID CENEOLAETHOL. I
CYLLID CENEOLAETHOL. I DERBYIWA: AT; A THREULION I Y CHWARTER. Cyfanswjn cyllid y Deyrnas Gyfunol am y chwarter yn diweddu y 30ain o Fehefin ydoedd 72,G82,998p, o'i gymharu a 51,297,136p yr un chwarter y llynedd, cynnydd o 21,385,862p. Yr oedd cyfanswm y treulion yn cyr- raedd 444,559,574p, o'i gymharu a 223,472,992p am yr un chwarter y llynedd. Gwnaed y prif gynnydd yn y cyllid o dan y pennawd "Eiddo a Threth yr In- cwm," yn cynnwys yr Uchdreth, yr hyn roddodd 20.203,000p, cynnydd o 9,384,000p; yr oedd y Customs i fyny o 6,366,000p i 16,162,000p, a chynyddodd gwasanaeth y Llythyrdy o l,310,000p. Y cynnydd eraill ydoedd: Stamps, 303,000p; treth tir, 20,000p; treth gwerth tir, 30,000p; gwasanaeth pellebr- 01, 20,000p; gArasanaeth y teliffon, 70,000p; cyfraniadau Camlas Suez a ben- thyciadau, 6,917p; amrywion, 969,945p. Y lleihadExcise, 1,803,000p; trethi ystadiau, A-c., l,471,000p; trethi tai, 30,000p. Cafwyd- allan o broffidiau ychwanegol, 6,291,000p. i
Y CYNGOR MILWROL YN I GAFAEL…
Y CYNGOR MILWROL YN I GAFAEL YNDDO. Mae y Cyngor Milwrol o dan Ddeddf Amddiffymad y Wlad yn cyhoeddi fod pob gwair, neu geirch, neu wellt gwenith o grop 1916 yn Lloegr, Cymru, ac Iwerdd- on yn awr yn sefyll yn ei grynswth, neu fel y bo wedi ei gynhaeafu, yn cael cy- meryd meddiant ohonynt gan y Cyngor Milwrol, fie yn cael ei ddal at wasanaeth y swyddogion awdurdodedig gan Adran Rhyfel. Ni chaniateir i wair neu wenith neu wellt cairch gael ei werthu i ddefnyddwyr preifat neu ddelwyr, ond o bert,hynas i .ddeunydd neu swm o wair neu wellt wedi aichwiliad swyddog Adran Bwydydd neu aelod awdurdodedig o bwyllgor sirol neu ganolog a fyddont wedi canfod na fyddis ei angen at wasanaeth y Fyddin. Awduixlodir ffermwyr a bridwyr stoc i arfer y swm irPei-ol o wair neu geirch neu wellt gwenith yn eu meddiant at gadw y stoc fo yanddynt neu dan eu gofal. Rhaid i geisiadau am werthu o dan or- chymyn gael ei wneud mewn ysgrifen i swyddog pvvrcasol y dosbarth neu sirol yn v fan y i aivair neu'r gwellt yn sefyll. Hvdd i geisiadau am bwrcasiad at wasanaeth lleol gan y ceiswyr o'i stoc eu hunain neu stoc yn eu meddiant neu dan eu gofal gael eu gwneud i swyddog pwrcasol v dosbarth neu sirol yn y fan lie sif y bwyd. Bydd i geisiadau i bwrcasu i bwrpas .) aiLwerthll, neu geisiadau yn uniongyrcfiol oddiwrtli y cynrychiolydd gan gwmniau i-heilffyrdd, perchenogion mwnfeydd, corfforaethau, cwmniau, neu nvdmxlodau eraill gaol cu gwneud yn Lioegr a Chymru i'r Administrative Mem- bf" Forage Committee, 64, Whitechaperj Court, London, S.W., neu yn yr Iwerdd- on j'r Area Administrative Officer, Royal HœmitaI, r-ubiin. sivyddfeydd yn y dosbarthiadau yd- ynt:—Cheshire, 14, Old Bank Buildings, Chester; Lancashire and Westmoreland, I Drill Hall, Manchester Road, Southport; Shropshire, 20, Talbot Chambers, Market Street, Shrewsbury; Staffordshire, 43, Greeugate Street, Stafford; N.E. Wales, 13, Regent Street, Wrexham; N.W. Wales, 33, Bangor Street, Carnarvon.;
APEL CASEMENT. I
APEL CASEMENT. I Derbyniwyd apel Casement yn erbyn c. i ddedfryd ddd Sadwrn yn prydd- fcydd Llys Apel. Bydd iddi gael ystyr- iaetli ddiocd. Gall apelio eto os methir y tro hwn ar bwynt o gvfraith at Dy'r Ar- glwyddi, ond rhaid cael tystysgrif gan y Dadleuydd Cyffredinol at wneud hynny. Dywedir fod teimlad cryf yn yr America dros apelio drosto.
Family Notices
GENI. PRIGOI. MARW. 1) GENI. I Griffith-Møhe-fin 29, i Mr a Mrs John 1 Griffith, Pent air-roL-sion,-mab-. I PRIODI. I Williams-Owen-Mehefin 30, ynghapel a Bethel, Mr Owen Williams, Bronwylfa. North Road, Caernarfon, a. Miss J. M- Owen, Aden, Bethel. Roberts-Roberts-Mehefin 30, ynghapeJ" M.C., llanrug, y Parch Thomas Ro' berts, Ammanford, De Cymu, a Mise Mary Howells Roberts, Gweledf^- Llanrug. Lewis—Parry—Mehefin 30, yn Gwalch- mai, Mon, Mr Thomas Jervis Lewis- Pendinasfawr, » Miss Parry, Arthur Terrace, Penisa'rwaen. MARW. Owen—Mehefin 24, Mr Jeffrey Owen- Tyddvn Fieri, Llanrug, yn 46 oed. a -9
Y CYFNEWIDFEYDD LLAFUR.
Y CYFNEWIDFEYDD LLAFUR. Cyfanrif y gweithwyr ocdd yn aros ar restrau y fnewidfeydd Llafur (386 mewn rhif) ar Mai 12fed, ydoedd 135,603, o'u cymharu a 132,853 ar Ebrill 13eg, a 84,774 ar Mai 14eg, 1915. Cyfanrif y safleoedd lanwyd ydoedd 105,090, cyfar- taledd dyddiol o 4.777, o'u cymharu a 4,918 y pum wythnos blaenorol, a 4,169 r pedair wythnos yn diweddu Mai 14eg, 1915.
CYNGOR GWYRFAI.I
CYNGOR GWYRFAI. Bu eyfai-fod o'r uchod dydd Sadwrn yng Nghaemarfon, Mr O. T. Hughes yn y gadair. Adroddiad y Meddyg. Yn ei adroddiad, dywedodd Dr Lloyd Owen mai cyfanrif y genedigaethau am fis Mai ydoedd 36. sef yn ol 15.7 y fil o'r boblogaeth; cyfartaledd isel; a'r marwol-j aethau yn 30, sef yn ol 13.1 o'r boblog- aeth, cyfartaledd cymedrol. Ni fu farw yr un baban o dan flwydd oed, er fod 36 wedi eu geni. Mae hyn yn tynu y treng- radd mebinol i lawr i ddim, ac y mae yn hynod foddhaol. Yr oed wvth o'r marwolaethau i'w priodoli i giefydau heintus, sef 1 i dwym- yn y gwddf, a 7 i'r darfodedigaeth. Der byniwyd deuddeg hysbysiad am giefydau heintus, sef 3 o'r twymyn ysgarlad, 3 o dwymyn y gwddf, a 6 o'r darfodedigaeth. Yn ei adroddiad blynyddol, dywedai mai cyfanrif y genedigaethau cofrestredig yd- oedd 471, sef yn ol 16.9 y fil o'r boblog- aeth, a'r marwolaethau yn 456, sef yn ol 18.4 o'r boblogaeth, cyfartaledd uchel braidd. Yn ystod y flwyddyn bu farw 39 baban o dan flwydd oed, sef yn ol 82.8 y fil o'r boblogaeth, cyfartaledd cymed- rol. Yr oedd ugain o'r marwoIaethau i'w priodoli i glefydau heintus, a bu farw 69 o bersonau o dan y darfodedigaeth. Derbyniwyd 168 o hysbysiadau am glef- ydau heintus. Ni chofrestrwyd wyth o farwolaethau, ond hysbyswyd y crwner am danynt yn unol a'r gorchymyn di- weddar. Yn ystod y flwyddyn anfonwyd 43 o bersonau yn dioddef oddiwrth y dar- fodooiga,eth i sanatoriums, neu sefydliad- au cyffelyb. Amcangyfrifir mai cyfanrif y tai yn y dosbarth ar ddiwedd 1915 yd- oedd 7,688. Ystyrid nad oedd deuddeg ohonynt yn gymwys i neb fyw ynddynt. Cyfanrif y lladd-dai ydoedd 49; pob tai, 23; ffatriaedd a gweithdai, 88. Ccstau y Ffyrdd, &c. I Costau y fiyrdd am y pythefnos yn di- weddu Mehefin 3ydd ydoedd lOlp 2s 8c, a' pythefnos yn diweddu Mehefin 17eg, 95p 2s 9c. Gweddill yn ffafr y Cyngor ar y cyfrif cyffredinol ydoedd 908p 2s 7c; a'r gweddill vu eu ffafr ar gyfrif y benthye-I iad ydoedd 12p 128 6e.
MARW CRANOGWEN.
MARW CRANOGWEN. Bore Mawrth, yn ei phreswylfod yng Nghilfynydd, Pontypridd, bu farw Misa Sarah Jane Rees, yr hon oedd yn adna- byddiis trwy Gymru wrth yr enw Cran- ogwen. Bu am gyfnod majth yn llanw lie mawr ym mywyd cyhoeddus Cymru. Pregethai a, darUthiai am fiynyddau lawer., Ar un cyfnod bu yn cadw ysgol i forwyr. Enillodd lawer o wobrwyon Eis- teddfodol. Bu yn golygu y "Frythones" o 1879 i 1899. Yr oedd yn 81 mlwydd, oed. 14 I
PROBLEMAU RHYFEL.I
PROBLEMAU RHYFEL. Dydd Gwener, yn Llundain, agorwyd Cyngres lafur arbennig, o dan lywydd- iaeth Mr H. Gosling, i ystyried y mater- ion canlynol yn codi allan o'r rhyfel:— Rheoleiddiad prisiau bwyd a thanwydd; codi blwyJd-dal yr hen yn ystod cyfnod y prisiau r-ebel; gweinyddiad Undebau Llafur; gorfodaeth diwydianol; gorfodi cyfoeth; saile bechgyn deunaw oed o dan y Mesur Gwasanaeth Milwrol. Yn y Gyngres yr oedd cynrychiolwyr yn cynrychioli yn agos i dair miliwn o Un- debwyr, ac amryw o Aelodau Seneddol. Wrth gynnyg eu bod yn erfyn ar y Llywodraeth i reoleiddio prisiau bwyd a thanwydd, dywedodd Mr F. Bramley nad oedd y Llywodraeth wedi gwneud yr oil oedd yn bosibl i amddiffyn y bobl. Eiliwyd ef gan Mr J. Cross, Y.H., a dywedodd mor hir ag y byddai'r dosbarth gweithiol yn anfoddlawn i symud nad oedd berygl i'r Llywodraeth wneud. Cariwyd y penderfyniad gyda 1,516,000 o bleidleisiau yn erbyn 1,269,000.
I GORFODAETH DIWYDIANOL.
GORFODAETH DIWYDIANOL. Cynygiodd Mr John Hill benderfyniad yn cofrestru protest yn erbyn defnyddio y Mesur Gwasanaeth Milwrol am orfod- aeth diwydianol. Eiliwyd ef gan Mr J. H. Thomas. Fel gwdliant cynygiodd Mr Fred Smith ".I,fewn ymarferiad mae'r Mesur Gwasanaeth Milwrol a mesurau eraill y Llywodraeth yn caeleu defnyddio am or- fodaeth ddiwydianol, ac fod y Gyngres yn gwysio ei hi;nan i wneud popeth all i symud gwir berygl llafur diwydianoL" Eiliwyd ef gan Mr A. Dawson, a dy- wedodd: "Nid wyf yn bwriadu bod yn filwr ("Oh, Oh," ac ychydig gymeradwy- aeth). Nid wyf yn hidio mewn gwawd hen ddynion-pobl syddi yn rhy hen am wasanaeth milwrol eu hunain. Gwell fuasai gennyf fyned i gaethiwed y gwn am dano, na myned i waeth ffurf o gaethiwed (cym.). Pasiwvd y cynygiad gwreiddiol.
I Y DEUNAW OED.
Y DEUNAW OED. Cynygiodd Mr R. Smillie benderfyniad yn datgan anfoddlonrwydd gyda safle bechgyn dounaw oed, 00 yn gofyn ar i'r Llywodraeth orchymyn yr awdurdodau milwrol i beidio anfon yr un dyn allan o'r wlad hyd nes bydd yn ugain oed. Pasiwyd y penderfyniad. ————. .t. .—
CRONFA GROES GOCH Y FFERMWYR.,
CRONFA GROES GOCH Y FFERMWYR. JUMBLE SALE YNG NGHAER, NARFON. Dydd Sadwrn diweddaf, ym JMhafiliwn Caranarfon, cvnhaliwyd jumble sale a Carnival n budd Cronfa Croes Goch Am- aethwyr Piydeinig. Y llywydd ydoedd Syr T. E. Roberts, Plasybryn, a,'r swydd- ogion eraill o-eddynt:lLlr J. J. WmiamR, Bontnewydd, cadeirydd; Mr Robert Wil- liams, Caernarfon, trysorydd!; Mr Bob Parry, Glanrafon, ysgrifennydd. Rhodd- odd y Mri H. Parry a'i Fab, Glanrafon, eu gwasanaeth yn rhad fel arwerthwyr. Anfonwyd casgliad mawr ac amrywiol o bethau i'r anverthiant, yn WIMWs mer- lyn yn codi yn dair oed gan Syw T. E. Roberts, Plasybryn, yr hwn a wertbwyd i Mr Ethall, cigydd, Caernarfon, am 20p. Anfonwyd dau o genawon llwvnotrod gan Mr William Williams, Quellyn, ac un gan Mr R. Hughes, Cwmbychan. Yn ych. wanegol at hyn nid oedd ond "stall" yn un rhan o'r Pafiliwn, gyda boneddigesaa adnabyddus y cvlchoedd yn gofalu am danynt. Wy ffres sylweddoiodd y pns uchaf yn sale, sef y swm anfeith o 2p 10s. Ail-werthwyd ef tua dwsin o veith. iau. Rhwng yr arian sylwtyldolwvd yn yr arwerthiant ar taysgr;fi$\dall dder- byniwyd yn flaenorol, sef 84p 9s 3c, yr oedd y mudiad yn llwyddiant mawr. Byw i l'anmi ei hun y mae Duw, a dyna I ddylai bywyd pob dyn fod.
IGWEITHWYR ITALAIDD AR STREIC.
GWEITHWYR ITALAIDD AR STREIC. Mae'r "weithwyr sy'n dadlwytho glo yn Leghorn wedi mynd allan ar streic. Hawliant ychwanegiad o tua Is 8c yn y dydd.
I I I PRISIAU A PHWYSAU. I
I I I PRISIAU A PHWYSAU. I Cwynir yn newyddiaduron Pas-de- Calais yn erbyn proffidiau y gwerthwyr. Y mae'r siopwyr nid yn unig yn codi prisiau uchel, ond yn rhoddi pwysau prin. Ai peth newydd yw, tybed P
GWAELEDD MR HERBERT LEWIS.…
GWAELEDD MR HERBERT LEWIS. I Gorchymynodd ei feddyg i Mr Herbert I Lewis, A.S., gymeryd gorffwys llwyr I oddiwrth waith, gan ei fod yn dioddef I oddiwrth yniosodiadau o'r neuralgia, a chredir y bydd i orffwys ei lwyr adfer.
fTAFARNAU CARLISLE.I
f TAFARNAU CARLISLE. I I Deallir oddiwrth y cynllun newydd o I bwrcasiad Gwladwriaethol yn Carlisle y bydd 45 allan o'r 109 o'r tai trwyddedol yn cael eu cau. Bydd iddynt gael eu cau yn ol y raddfa o chwecli bob tro. I
-DIM _ARIAN, EISIAU CYNIL0.I
DIM ARIAN, EISIAU CYNIL0. I Dywedir fod gwddf-dorch yn cynnwys tri rhes o 193 o berlau dwyreiniol wedi sylweddoli 24,000p yn arwerthiant Christie y dydd o'r blaen. Cychwynodd gyda 7,000p, ond ymhen pum munud caf wyd 24,000p. Cafwyd 4,800p am un rlies I o berlau yn yr un arwerthiant. Beth am Gronfa Rhyfel? Dyma d'eyrngarwch a chynildeb!
! CYD-DDIGWYDDfAD HYNOD.I
CYD-DDIGWYDDfAD HYNOD. I i mae gan y Merched bleidlais yn New Zealand eis ugain mlynedd, a hi yw'r wlad lie y mae cyfartaledd Ileiaf yn y byd o fabanod yn marw. Y gwledydd sy'n dod agosaf iddi ydynt Noi-wy, Awstralia, Sweden, Oenmarc, a Finnland, gwledydd ac y mae'r merched yn cael arfer y bleid- lais. Tybed a oes a, fyno'r bleidlais a hyn ?
! GOFYN AM LONGAU. 'i
GOFYN AM LONGAU. 'i Beth delir am longau ail-law? Mis Tachwedd diweddaf gwerthwyd yr ager. i long Fandango, 2,290 tunell, am 40,000p, yr wythnos ddiweddaf ailwerthwyd hi am 88,750p. Yn 1913, gwerthwyd yr ager- long Tosan Maru ml 24,000p, ac yn awr cafwyd 160,000p am dani. Yn 1905 prynwyd y llong haiarn Haakon, 1,614 tunell, adeiladwyd 30 mlynedd yn ol, am 3,650p, ac ail-werthwyd hi yr wythnos ddiweddaf am 30,000p. Un arall, Fred- en, adeiladwyd 30 mlynedd yn ol, ac a werthwyd yn 1908 am 4,750p, cafwyd 38,750p am dani. Llongau ai pia os mai aur Bydd eiaiau.
COLLEDION PRWSIAIDD, I
COLLEDION PRWSIAIDD, I Dywed adroddiad o Amsterdam fod rhestra-u y colledion Pwsiaidd gyhoedwyd rhwng Mehefin 18fed a Mehefin 20fed yn cynnwys enwau 40,437 o laddedigion, s clwyfedigion, a rhai ar goll. Gwna. hyn gyfanrif y colledion Prwsiaidicb i fyny i'r adeg presennol yn 2,740,196.
BARN YR ARlYWYDD WILSON. I
BARN YR ARlYWYDD WILSON. I Mentraf ddweyd, ebai Wilson, fod < parch teilwng i opiniynau dynoliaeth yn ■ hawlio fod i'r rhai gychwynasant y rliyfel I Iwropeaidd hon ddatgan eu rheswm pam 9 na thalasant sylw i opiniynau dynoliaeth a ac o'r cyfrifoldeb oedd i ddod pan ddeuai I dydd y cyfrif. ■ ———— ———— t
MARCHNADOEDD. j
MARCHNADOEDD. j Caernarfon, Gorff. 1.—Ymenyn, Is 3c y ] pwys; wyau, 7 i 8 am Is; pytatws, 2!c i 1 3c y pwys. I Pwllheli, Mehefin 28.—Wyau, 13s yr M 120; ymenyn, Is; my ton, Is i Is 2c; lamb, fl Is 4c; biff, Is i Is 4c; pore, Is 2c; moch I tewion, 8c y pwys; perchyll, o 36s i 40a I yr un; tatws newydd, Ip yr 120 pwys. I Llangefni, Mehefin 29.—Wyau, 8 am m Is; ymenyn, Is 2c y pwys; cywion, 2s 60 jfl yr un; dofednod, 2s 3c; perchyll, 38s i 9 408 yr un; moch tewion, 7|c y pwys. i
GWENITH. m
GWENITH. m Lerpwl, Mehefin 30.—Yr oedd gwenith fl ar y spot yn gadarn, gyda galwad, Byl- 9 weddol, y prisiau tua. 2e yn ddrutach- ■ Am y 100 pwys gwenith: Awstralaidd, jl lis 2c i 11s 2!c; No. 2 Red Wtn W., M 9s He i 10s Ie; Choice Hard1 Winter, 10s 2 i 10s 2Jc; No. 2 Hard, 9s 9c i 9s lie I 'fl No. 1 N. Manitoba, 10s 3c i 10s 4c; Ro- fl safe, 10s 8c; Baril, 10s 8c i 10s 9c. H
Advertising
I J. FLETCHER, LTD. I MEMORIAL WORKS. F CARNARVON a BANGOR. NUHTHI IHWHUI I HI ntnuiii Arg raff wyd a chyhoeddwyd 0al1 Gwmni y Dinesydd Cymreig, Cyf., yn 16, Palace Street, Caernarfon* J»