Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

HELYNTION TEULU ADWY'R CLAWDD."

Y MODUR GWYRDD. I

THAL HYNNY DDIM.I

ICROES GOCH AMAETHWYR. I

IEI DDIWEDD.

Y CAISER A SON AM DDUW.I

News
Cite
Share

Y CAISER A SON AM DDUW. (Gan J. T. W., Pistyll). A glywsoch chwi'r Caiser yn baldordd am Dduw ? Mae iddo, feddyliem, yn hynod o fyvv Os dywed am dano un mymryn o wir, Mae rhyngddo, er hynny, a'i garu ffordd hir! Mae ii credu am dano fe dybiwn yn awr Ei fod Ef yn gryfach na Germani fawr; Myn ffalsio i'w enw, rhydd glad am a wnaeth, I'r "Hen Oruchwyliaeth" mae Wilhelm yn gaeth. Mae'n ffalsio i'w enw, gan ddisgwyl trwy hyn Gael secrets o'r Nefoedd i Krupp yn Berlin; Cael maint y "cym liyrddod" a chemis. tri'r gwynt, A chwythwyd yn rheiny yn Jerieo gynt. Cableddus yw meddwl am adyn fel hwn Yn son am Dduw cyfiawn ac yntau dan bwn 0 hagr beehodau—ystrvwiau y fall; Os hoffa Duw'r Kaiser-mae'n. dduw han- ner call. A glywsoch .chwi unwaith i'r Kaiser trwy'i oes Ddweyd gair am yr lesu-Ei bregeth- neu'r Groes? Mi ddwedaf pam peidiodd yn ebrwydd i chwi-- Ni cheir hawl i'r cteddyf gan "Wr Calfari. Mae'n gallach na llawer yn hynny o beth, Tribunals o Gymry, a farnant heb fetli Fod Crist "er mwyn cleddyf" yn "gwerthu Ei bais. Mae'r Kaiser 'n well sponiwr na Chvmro na Sais. Ond waeth i bawb dewi—ddeallir mo Dduw Nes dyfod i'w garu, ac wedyn i'w fyw; Pan ddeall brenhinoedd mai "Crist ydyw byw," Daw heddwch a cliydgord i fyd dyno^ryw.

Advertising

Y MEDELWYR CYMREIG.

ACHOS BAILEY.

SENEDD Y PENTREF.

CELL Y LLYTHYRAU.