Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
HELYNTION TEULU ADWY'R CLAWDD."
HELYNTION TEULU ADWY'R CLAWDD. PENNOD XLV. Y Croeso Gartref. Cyfarfyddiad hapus gafwyd yng nghar- tref Sadi pan gyrhaeddwyd yno. Yr oedd trefniant rhwng y ddau eu bod yn cyduno yn y croeso, ao mai yno y croe- sawid hwy. Tua. saith o'r gloch yr hwyr ydoedd hynny, a mawr oedd y miri o gwmpas y lie, canys yr oedd pawb yn awyddus am gael gweled yr Isgapten Sadi yr ysgrifen- wyd cymaint am ei wrhydri ar faes y gwaed. Yr unig un na chymerai arno fod y peth yn dweyd dim wrtho ydoedd Gilbert, brawd Dorothy. Braidd yn guchiog yr edrychai, a galL esid tybio oddiwrth ei olwg ei fod yn erbyn y stwr; ond yn cydym'farfio er mwyn boddloni y teulu, a rhag creu gwaith siarad i'r bobl. Modd bynnag, cafcdd y ddau dderbyn- iad calonnog, a'r bob! yn llefain ar uchaf eu Ilais "Hwre i'r Isgapten Sadi." Yr oedd ei dad a'i fam yn mwynllau yr olygfa., ac yn tybio na fu diwrnod hapus- < ach ar eu Lywyd. Ond nid oedd Sadi 11a Dorothy, n foddlon arno o gwbl, yn liyt- rach toimlant ei fod yn hollol amhriodol, a bron nad oedd Sadi yn barod i brotcstio yn ei erbyn. Y peth Lyfrytaf i Sadi oedd ysgydwad Haw ambell i hen ffrind, a, gwen siriol y cymeriadau fu gynt yn ymwneud a hwy; oblegid yr oodd iddo gyfeillion mynwesol yn y cylch. Wedi mynd trwy y rhan yma o'r croeso aethpwyd i'r ty, a da oedd gan y ddau fynd o swn y crochlefan anaearol; ond pe gwyddent fceth oedd yn eu disgwyl ni fuasent baroted i golli'r dorf. Tu mewn yn y ty yr oedd gwahoddedigion o urdd- asolion yr ardal, yn ficer, offeiriaid, pre- gethwyr, cynghorwyr, a boneddigesau a boneddigion. Fuaned ag y cyrhaeddodd yr ystafell, dyma'r berdoneg yn dechreu swnio, a ohawb ar eu traed yn canu "For h'- a jolly good fellow." Wedi gorffen ■canu, dyma'r Ficer ar uchaf ei lais yn "gwaeddi am "three cheeis" i'r Isgapten Gravel a Nyrs Dorothy Dafis, a chafwyd hwy yn wreisog a brwdfrydig. Ar ol ysgwyd Haw a chyfarch gwell, eisteddasant oil i gyfranogi o wledd a,r- hen nig ddarparwyd gan Dr Gravel ar eu cyfer. Ar derfyn y wledd eafwyd cyfar- fod arbennig o dan lywyddiaeth y Ficer. Gyda Haw, dyna arfer y lleoedd gwledig hyd yn oed yng Nghymni Ymneilltuol, fhoddir y flaenoriaeth i'r Ficer ymhob arweiniad. Cynnygiodd y Ficer Iwncdestun y cwrdd, sef "Yr Isgapten Gravel a Nyrs !■ Dorothy. Yr oedd gwydr pawb wedi ei lenwi ar gyfer y gwaith, a phawb oddi- gerth Gilbert, Dorothy, Sadi, Mr a Mrs Jabez Dafis yn gafael ynddynt yn barod i'w hyfed, pryd y torodd Gilbert allan gan ofyn am ganiatad y Ficer i ddweyd gair cyn i neb y fed y llwncdestun. Caf- odd hynny yn ddiseremoni, gan na wydd- ♦ ai y Ficer beth oedd ganddo i'w ddweyd', a chan y ciedai na ddywedai ddim allan o'i Ie pan yr oedd' ei chwaer a'i chariad yn Y cwestiwn. Wei, ebai Gilbert, yr wyf yn teimlo na fedraf ganjatau i amgvlchiad fei hyn fyid leibio heb gael dangos fy ngwrthdystiad 1 Iwncdestun fy chwaer gael ei yfed gyd.a'r peth fu agos a'm difetha, i. Yr 'yf yn dweyd yn enw Duw na bydd i mi ros yn y lie yma. os na wneir hebddo. Na, fiiii chwaith, ebai Sadi. Y mae'n ftnfri aina i a Nyrs Dorothy eich bod yn beiddio ei wneud. Tydw i ddim yn gwelad llawer o harm fo am y tro, ebai y Ficer, ond mi 11n, i beidio fy hunan mewn munud. Rhiw dipin o cliwilan sy'n peri hyn, bai Dr Gravel, rwy'n synnu at Sadi yn "Odi twrw fel hyn mewn lie mor bwusig lddo fo. Twt lol, ebai yr Yswain, tydw i ddim ?? meddwl v dylem wrando arnynt o ?wl. }; yda chi yn i dded,  ^bwl. '?,e vda chi yn i ddeud, Mr &ydw i o'r un farn a'r hogia, yn union. 11 tn i liopd yn cadw y fath geriach yn hhy. f chi ddim yn erbyn gneud am dro hyn, ebai yr Yswain. dw, yn bendant, ebai Mr Dafis. I 'elli ° bawb, ebai Sadi, gan bwyntio Y)' Yswain, ddylai gadw rhag rhoi cyfla ei qyffwrdd. v am fi, gofvnai yr Yswain, yn lied ^ornlh-d. fawr nad oeddwn i a Nyrs Dorothy y' yn vyneb a'ch mab Cecil yn yr yty, a'r neges olaf a gawsom ganddo d cofio dweyd wrthych chi a'm tad ina mai y eelerydd yn ei tai hwy oedd wedi ei ddifetha. ef. Peidiwch gwrando ar y lolyn, ebai'r Yswain. Nid lolyn irohono, syr, ebai Sadi. Y mae Cecil lveddyw y dyn gora fedd byddin Prydain, ac yn siwr o fod wedi cael ei droi yn Eant. t Ydi wir, os oes rywun, ebai Dorothy, I Wel, wel, be nawn i, ebai y Ficer, thai I hi ddim i siarad fel hyn, gadewch i ni neud rhyvvbeth. Mi rown ni gora, i'r gwydiau, ac fe nawn heb yfed dim. I Dyna fyddai oreu, ebai Sadi, a dyna roddai y croeso gora i Nyrs Dorothy a tnina. Mi nawn felly, rnta, ebai y Fioer. A dyna fu orfod iddynt. Yr oedd y pedwar gweinidog c-isteddant yn fud yn teimlo eu hunain yn fychain a diddylanwad ang- hyffredin; ond cawsai'r bechgyn hyfryd- wch mawr yn eu goruchafiaeth a'u gwrth- eafiad. Ychydig o hwyl fu ar siarad wedyn gan tieb o'r gwahoddedigion, a. phawb yn wfftio y ldau lane am eu diffyg chwaeth yn torri ar fwynhad y wledd'. Cyflwynwyd walking stick black ebony silver mounted, i'r Isgapten Gravel, a braichled an r i Nyrs Dorothy, mewn geir. iau gwlad^arol gan Gadeirydd y C'yngor Dosbarth. I Atebodd yr Isgapten hwn yn foesgar, gyda dioieh drosto ef a'r Nvrs, a, rhodd- odd ychydig o hanes y digwyddiadau yr aeth efe drwyddynt, a dibennodd drwy son am ei cyfarfyddiad a Cecil. Wrth ddisgrifio yr hanes hwn gwelai ei fod yn cael dylan'vad ar bawb. ac yn enwedig yr Yswain, fel y daliodd ati i guiTo yr hoelen gartj-ef. Erbyn iddo orffen yr oedd tad Cecil wedi ei orchfygu'n llwyr, a thorodd allan i wvio'n hidl. Wrth glvwed Yswain y Fedol yn wylo— dyn oedd fel tain o ia bob amser-aeth yn wylo oyffredinol yn y lie, yr hyn drodd gyweirnod v cyfarfod yn gyfangwbl. Terfynodd Sadi ei araith mewn hwvl odiaeth, a, phawb yn synu ac yn rhyfeddu ato. Yna galwodd ar Dorothy i roddi can. Dewisoddhithau y geiriau hynny, "Does unman yn debyg i gartref, "'a chanodd fe] y medlrai hi, nes oedd y He wedi ei dry- daneiddio a'i llais melo,claidd. Wedi araith fer gan Dr Gravel, diwedd. wyd y cwrdd drwy ganu "Duw Gadwo'r Brenin." Pan yn gwahanu fu erioed y fath siarad. Clywid un yma yn dechreu cer- yddn Gilbert am ddifetha y ewrdd, a'r llall yn dod i'r adwy 30 yn dweyd mai efe oedd yn iawn. Ond yr oedd pawb yn un- fryd unfarn na, chlywsid dim byd erioed mor effeithiol ag araith Sadi a cbanu Dorothy. Y cwestiwn gan bawb yn y diwedd ydoedd, "Ai tybed mai dod adref i briodi y mae'r ddau?" (I'w barhau).
Y MODUR GWYRDD. I
Y MODUR GWYRDD. I 0 Bwys i Deithwyr. I Llanaelhaiarn. I Ar Gorlfennaf lOfed bydd y Modur Gwyrdd yn gadael LlaiiaelhaiAi-n ar ddyddiau LIun a, Mawrth am 8.30 y bore a 3.30 y prynhawn, ac o Gaernairfon am 1.0 a, 6.0 o'r gloch. Dydd Gwener yn gadael Caernarfon am 5 o'r gloch. Beddgelert. j Ar Gorffennaf 10fed bydd y Modm Gwyrdd yn gadael Beddgelert am Gaex- narfon ar y dyddiau Liun a Mercher am 9.0 a.m. a 4.30 p.m., ac o Gaernarf on am 12.30 a 6.30. Dyddiau Mawi-th a Gwener yn gadael Caernarfon am 5.30. Dydd lau bydd modur yn gadael Caernarfon am 2 o'r gloch, ac yn dychwelyd o Bedd- gelert dm 6. Bydd Dinorwic a Llanberis yn rhedeg fel yn bresennol.
THAL HYNNY DDIM.I
THAL HYNNY DDIM. I Meivn llvs yn ddiweddar gofynwyd i ¡ dyst a oedd wedi gweled yr ergyd yn I myned allan, pryd yr atebodd yntau na ddarfu iddo ond ei chlywed. Sylwodd yr ynad na wnaethai hynny y tro, aw arch- odd ef i adael y llvs, yr hyn a wnaeth gan chwerthin. Galwyd ef yn ol gan yr ynad, a dywedodd eiriau Ilym wrtlio am ddirmygu'r Ilys yn y fath fodd. Gofy ti odd y tyst iddo a wel odd ef yn chwei-ttill), pryd yr atebodd yr ynad y clywodd ef. Thai hynny ddim," ebai'r tyst.
ICROES GOCH AMAETHWYR. I
CROES GOCH AMAETHWYR. Yr wythnos ddiweddaf, anfonodd Cronfa Croes Goch amaethwyr Prydeinig 25,(X)0p i Gymdeithas y Groes Goch Bry- deinig. I fyny i'r adeg presennol, maenti wedi anfon 75,000p. Addawsant 100,000p. I I Beth yw gwreiddyn y dnvg Bydd yn y byd ? Mae'r Beibl yn ei ateb ar ei ben: "Gwreiddyn pob drw,g yw ariangarwch," nid un drwg, ond pob drwg. Beth ddy- i wed cyfalaf a llafur wrth hyn, tybed P
IEI DDIWEDD.
EI DDIWEDD. I Dediryd i'w Grogi. Dydd Tau dibenwyd prawf Syr Roger Casement yn Llundain, pryd y bu i'r rheithwyr, ar ol hanner awr a phum munud o ymgynghoriad cyfrinachol ddy- chwelyd1 i-heithfan o "euog" yn ei erbyn. Yna, mewn ton ddifrifddwys cyhoedd- odd yr Arglwydd Bi-if Farnwr y ddedfryd yn y geiriau canlynol:- "Roger David Casement, yr ydych wedi eich cael yn euog a deyrnfradwriaeth, y trosedd clifrifolaf sjy 'n hysbysi i'r gyfrafth, ac ar dystialaeth sydd yn ein barn ni yn derfynol ar eich eiuogrwydd. Eich tros- edd ydoedd cynorthwya gelynion y Brenin, hyny yw, Ymerodraeth Germani, yn ystod y rhyfel ofnadwy yr ydym ynddi. Mae'n dod yn ddyledswydd arnaf fi yn awr i gyhoeddi dedfryd amoch chwi. Honno ydyw eich bod i'ch cymeryd i gar- char, ac yna i le y dienyddiad. Eich bod i gael eich crogi gerfydd each gwddf nes y byddoch farw. ac fod! Siryddion siroedd Llundain a Middlesex, y ddau, yn gofaJu fod y ddedfryd hon yn cael ei chario allan. A boed i'r Arglwydd gymeryd trngareddl ar eich enaid." Trodd Casement yn ddistaw, a gadaw- odd y doe yn ddioed. Gofynodd ZMr Artemus Jones ar ran dwy foneddiges am liawl i siarad gydag ef. Dywedodd yr Arglwydd Brif Farnwr nad oedd yna ddarpariaeth ar gyfer hynny yma, ac fod yn rhaid i'r cais gael ei wneud yn y man priodol. ■.
Y CAISER A SON AM DDUW.I
Y CAISER A SON AM DDUW. (Gan J. T. W., Pistyll). A glywsoch chwi'r Caiser yn baldordd am Dduw ? Mae iddo, feddyliem, yn hynod o fyvv Os dywed am dano un mymryn o wir, Mae rhyngddo, er hynny, a'i garu ffordd hir! Mae ii credu am dano fe dybiwn yn awr Ei fod Ef yn gryfach na Germani fawr; Myn ffalsio i'w enw, rhydd glad am a wnaeth, I'r "Hen Oruchwyliaeth" mae Wilhelm yn gaeth. Mae'n ffalsio i'w enw, gan ddisgwyl trwy hyn Gael secrets o'r Nefoedd i Krupp yn Berlin; Cael maint y "cym liyrddod" a chemis. tri'r gwynt, A chwythwyd yn rheiny yn Jerieo gynt. Cableddus yw meddwl am adyn fel hwn Yn son am Dduw cyfiawn ac yntau dan bwn 0 hagr beehodau—ystrvwiau y fall; Os hoffa Duw'r Kaiser-mae'n. dduw han- ner call. A glywsoch .chwi unwaith i'r Kaiser trwy'i oes Ddweyd gair am yr lesu-Ei bregeth- neu'r Groes? Mi ddwedaf pam peidiodd yn ebrwydd i chwi-- Ni cheir hawl i'r cteddyf gan "Wr Calfari. Mae'n gallach na llawer yn hynny o beth, Tribunals o Gymry, a farnant heb fetli Fod Crist "er mwyn cleddyf" yn "gwerthu Ei bais. Mae'r Kaiser 'n well sponiwr na Chvmro na Sais. Ond waeth i bawb dewi—ddeallir mo Dduw Nes dyfod i'w garu, ac wedyn i'w fyw; Pan ddeall brenhinoedd mai "Crist ydyw byw," Daw heddwch a cliydgord i fyd dyno^ryw.
Advertising
SUDD IACHUSOL DAIL CARN YR EBOL gan Griffith Owen, Caernarfon, ydyw ei fod yn rbyddhau y phlegm, ac yn eilio poen y frest. l'w gad mewn poteli Is 2c yn y Siopau Druggist; gyda'r post, Is 6c.
Y MEDELWYR CYMREIG.
Y MEDELWYR CYMREIG. Ffair Criccieth. Yn ffair flynyddol Criccieth, gynhal- iwyd ddydd Iau, yr oedd yno lawer o ffermwyr, ond yohydig o fedelwyr oedd i'w cael, ac hawlid 30s a 32& yr wythnos o gyflog, gyda. bwyd a, llety, yr hyn oedd yn fwy na. dwbl yr hyn gawsid flynyddau yn ol, ac yn bum swllt mwy na'r llynedd. Y game fwyaf niweidaol i'r wlad- ydyw politics: ychydig yw y rhai sydd yn enni'l wrth ei chwareu hi, ond y mae miliu yn colli drwy fod yr ychydig yn cadw at V.
ACHOS BAILEY.
ACHOS BAILEY. Yn achos y milwr oedd gyda Casement, sef Daniel Julian Bailey, dywedodd y Dadleuydd Cyffredinol nad oedd y Goron yn bwriadu ymladd yr amddiftyniad, a gofynai am i'r rheithwyr ei ryddhau ef. Dychwelodd y rheithwyr reithfarn o "Ddieuog, a gollyngwyd Bailey yn rhydd. Y maeln qgored i Casement gael apelio ,yn erbyn y dyfarniad, a chredir y bydd iddo gymeryd mantais ar hynny.
SENEDD Y PENTREF.
SENEDD Y PENTREF. NEU, GWEITHDY WMFFRA TOMOS, Y CRYDD. I UNO YR ENWADA. Dafydd: Be ham r tacla gwinon yma y dyddia hyn, deudweh? Mae nhw yn ponsio hefo riw uno enwada fel petase hyny yn golygu rhoi byd ac eglwys yn eu lie. Wmffra: Mae'r peth mae nhw yn son am dano yn iawn; ond i gael o ydi'r gamp. Mae hi'n too late ar y dydd i weiddi yn erbun enwadath; mae'r clefud wedi mund i'r gwaed, a toes yna ddim bud fedar i dynu oddiyno chwaith. Dafydd: Howld on rwan, toes yna ddim sens mewn deud peth felna; achos tydi enwadath ddim yn beth su'n mund i'r gwaed. Sian Ifans: Dyn a dy helpio, ydi mae o. Be wut ti'n boddro, dwadP Dyma fi wedi priodi hefo Edward ers dros igian mlynadd, ac wedi troi oddiwrth yr Fg- lwus hefog o, ac yn dwad i'r capal Methodus yma yn regiwlar bob Sul, a tydw i ddim wedi peidio bod yn GIwus- wraig etc. Mae'n well gen i yr Eglwus a'i gwasanaeth y funud yma na dim su'n y capal. Turn i rioed yn hapus yma, vr v dydd y priodis i. Wmffra: Dyna be ydw i yn i ddeud, toes yna yr un dewin fedar dynu y Meth- odus ohona i, mae o wedi glynu yn fy cnaid i. Drvchwch chi ar Wil Ffowc yma, yn tydi ol i dad a'i fam arao fo heiddiw er i fod o'n eulod gida ni, Ani- bynwr ydi o drwy'r cwbwl. A sbiwch chi ar betha'r Sgwl, yn tydi'r Wesia'n l'hedag trwy bob dim o'i siarad o; a be oedd i fam o ond merch i gethwr W êsla, ac mae hi wedi stwffio lot i mewn i'lv ben o. Peth ofnadwu ydi enwadath, cteud- vvch'chi a fynocli, mae o'n glynu fel gelain yn glial on dyn. Sian I fans: Toes yna neb fedar uno'r enwada, mae hi yn ol ofar am y busnas hwnw yn reit siwr i chi. Dafydd: Ond y gethwrs i hunan, debig o'i chwmpas hi, a dyna ydi'r siarad a'r sgwenu ymhob man. Sian ifans: Pwu su wrthi hi, tybad? Dafydd: Ond y gethwr i hunan, debig iawn. Wil Ffowc: la siwr, y nhw sydd wrthi hi, ac mae o wedi fy mhricio i yn arw iawn hefud, yn enwedig pan yn gwelad pwy sydd wrthi hi yn chwara'r game. Ddaru chi sylwi mai gethwrs maivr-y big guns—sydd yn gneud y twrw i gid? Wmffra: Wel ia wir, nhw sydd wrthi hi, erbun edrach; ond be ydi'r ods pwu sy'n gneud dwad, os oes angan am dano? Wil Ffowc: Twn i ddim, weldi; ond mae y peth wedi fy nharo i yn chwithig riwsut. Pam fod yr hoelion wyth yn bytheirio cymaint yn erbun enwadath ac isio uno'r cwbwl yn un? Mae'r gethwrs cyffredin yn dawel a bodlon ar betha. fel y maent, ond yn cwyno fod ein lleiad o gyflog i w gaeL Afae'ji fbaid fod rhyw reswm drosto. Y Sgwl: Yr un peth yn hollol a'm tar- j odd inau, yn enwedig ar ol darllen erthygl Nicholas y Glais gynt yn y "Geninen" am Orffennaf. Tybed, mewn difrif, nad all y gri am uniad yr enwadau darddu oddiar hunanoldeb ac yspryd afiach? Mae casgliad Nidfiolas yn eithaf teg pan yn dweyd fod gofyn am undeb yn tybio cydnabod fod enwadaeth yn fethiant. Ond y nvestiwn mawr, wedi'r cwbl, ydyw a -ellir cael undeb fo'n cadw'r yspryd drwg a'i difetluxld allan ohono. Wil Ffowc: Fedmch chi ddim yn siwr. Y ffaith am dani ydi fod y boys yma sy'n gweiddi am undeb yn gwelad eiawns gwell iddunt hwy gael gwell cyfla i gael mwu o gynulleidfaoedd a mwy o arian, heb feddwl i bod nhw wrtà neud hyny yn gwneud eu brodyr llai dawnus heb dorth o gwbwl. Mae hi yn alright son a deud nad oes dim haws na chael y ddau enwad Methodistaidd yn un, a'r Sen tars hwur- ach gida hwy, a gneud i un capal neud yn lie tri newn pentrefi a threfi by chain, 1 a hyny i ddim byd ond i'r gethwrs sy'n leicio poblogrwydd gael digon o bobol a llawar o alwada., ar draul llwgu rhi eraill. Y Sgwl: Nid y ffordd yna yr edryclnvn i arno, chwaith. Ni allaf weled niwed mewn enwadaeth o gwbl ond iddo gael ei weithio'n iawn. Mae amrywiaeth yn naturiol, oblegid eeir ef drwy'r cread ymhob dim, ac eto mewn undeb perffaith. Tydi'r gerddoriaeth geiniaf ym myd y gânyn cael ei wneud mewn anghydgord- iau—harmony in discords—a pham na lellir cael hyn hyd yn oed mewn enwad- au? Rhaid fod rhywbeth o'i le yn rhyw- le. Wil Ffowc: Y cwestiwn fydda i yn i ofyn ydi a yw y gethwrs yma sn'n gweiddi am undab er mwyn cadw crefudd yn fyw a'r capeli yn llawnion wedi gneud i gora yn i cylch i hunain fel y mae hi rwan. Prun ai tramps pregethwrol o'r naill ben i'r wlad i'r llall ynta gweithiwrs egniol gartra yn bugeilio ac yn gwylio eu praidd yn ofalus ydun nhw. Hyny ydi, a ydun nhw yn gneud rhwbath heblaw" gethu a siarad a sgwenu Oes yna ym- drach deil-vng yn i hanas nhw i gael yr eglwusi a'r cylch su tan i gofal nhw yn fyw i'r ysprydol a hawlia Duw ar ddyn P Os nad oes, i be andros y ceisir undab, oblegid i'r un fan y deuem wedyn ymhen amsar. Y peth su eisia ydi prvgethwrs yn byw i siarad ac nid yn siarad i fyw. Wmffra: Dyna ti wedi rhoi cnoc go dda rwan Wil Ffowc. Mae'r gethwrs yma yn gwelad yr achos yn mynd i lawr, ac ofn garw i betha fynd yn rhy isal i'w lie nhw fod yn ddiogel, ac yn lie rhoddi y bai ar i liesgeulustra a'u diofalwch hwy a diffygion yr euloda, y maent yn treio d'wad ag enwadath fel penog coch yn esgus drosi y drwg. Toes dim isio gneud i ffwrdd ag enwadath i gael llwuddiant, y peth &u isio ydi prygethwrs yn gneud eu gwaith a'u dyledswudd yn onest ac o ddifri. Y Sgwl: Coll amser ydyw malu ynghyloh Undeb fo'n difodi enwadaeth; ond fe ellir cael undeb mewn gweithgar- weh brawdgarol. Y cwestiwn mawr ydyw cael y gweinidogion yn ffyddlon i'w cenhadaeth ac yn byw yn ymarferol yr hyn a bregethant. Nid eisiau newid y peiriannau 65 dd, ond cael y peirianwyr yn weithwyr medrus, cyson, a didwyll, ac fe geir Jlwyddiant ar eu gwaith wedyn. Wil Ffowc: Dyna fo'r petli. Hawdd iawn fydda i claddu enwadaeth mewn gwaith gonast yn ein cylch ein hunain. Ond y mae son am i Fatist beidio bod yn Fatist, Wesla yn Wesla, Methodist yn Fethodist, Anibynwr yn Sentar, Glwuswr yn Glwuswr, a Phabvdd yn Babydd, yr un peth a disgwyl i Gymro beidio bod yn Gymro. Tydi o'n ddim ond ehwara plant bach. Gadawer i bawb weithio ei ffarm i hunan, a dwad a'r crop i'r frrph- nad' fawr. Wmffra: Wel ia wir dyna fo ora, Wil Ffowc, a d} na ddylid neud. Mi setlwn i hi felna rwan. Rhaid rhoi'r mwdwl ar hynyna, mae hi'n amsar cau, a boed pawb yn eicr yn ei feddwl ei hun. Nos dawoh.
CELL Y LLYTHYRAU.
CELL Y LLYTHYRAU. A OES PROFFWYD YN EIN MYSG? (At Olygydd y "Dinesydd"). Yn atebiad i'r uchod yr wyf yn ateb yn y cadarnhaol-Dim un o gwbl. Dim ond "proffwydi Baal' bob un, fel y mae y byd drwyddlo yn tystio. Fy mhwt ysgrif i'r "Dinesydd" yr wytlinos o'r blaen a gcrodd ar y cwestiwn. Rhy dila oedd honno i gael ymddangos yn ddiau. Crist- ion wyf :6, a bvddaf yn amcanu yn fy mywyd ddangos mai llythyr Crist ydwyf. Bum yn meddwl unwaith fy mod yu "broffwyd" idclo--o uneuthuriad Pa-,xl- neu ei olynwyr; ond gwelais fod yn rhaid i mi fyned heibio i'r doctoriaid gwych j ymofyn fy nghymeriad at "Air" yr hwu a voddodd fod i bopeth ddydd y cread, ac ni at "Gorff Moses," yr hwn a gladdwyd mewn glyn ac nis gwyr neb am ei fedJ hyd heddyw, ar ol cynifor o flynyddau c chwilio, am dano, a disgyn iddo. "Yr Arglwydd eich Duw a gyfyd i chwi bro- ffwyd megis myfi, arao ef y gwrandewcti," ac nid ar "broffwydi BaaJ." Mae'r hwn sy'n meddu ar wir ffydd yn llythyr Duw at ddynion, a'i fywyd yn y byd yn ddych- ryn i'w elynion. Ni faidd y diafol nesu ato, fel y dengys hanes Job, ac fel yr oeddych chwithau, Mr Go! yn dweyd yr wythnos o'r blaen. Pe buasai y bregeth ar y mynydd yn cael ei byw ni buasai y diafol Yl1 beiddio ymosod ar neb byth. Teulu Nicodomus sydd yng nghadair Moses, heddyw ymhob cylch. A pha ryfedd ein bod ynghanol rhy fel Armaged- don. Mae y Beibl yn dyfod acojri fel writ o law y twrnai, yn bersonol heb ym- yriad neb ond Crist yr Arglwydd.Yr eiddoch, ALLTUD ARFON. O.N.—Dodaf y llythyr hwn o eiddo "Alltud Arfon" er mwyn i'r darllenwyr gael barnu ei deilyngdod, a gallant Invy weled drwyddo y rheswm pam nad yri- ddangosodd yr hyn grybwyllir ynddo. Boed yr "Alltud" dawel ei feddwl, nid oedd a wnelo ei bwt llythyr ddim o gwbl ag awgrymiad y cwestiwn.—-GOL. ——————————————