Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

HELYNTION TEULU ADWY'R CLAWDD."

News
Cite
Share

HELYNTION TEULU ADWY'R CLAWDD. PENNOD XLV. Y Croeso Gartref. Cyfarfyddiad hapus gafwyd yng nghar- tref Sadi pan gyrhaeddwyd yno. Yr oedd trefniant rhwng y ddau eu bod yn cyduno yn y croeso, ao mai yno y croe- sawid hwy. Tua. saith o'r gloch yr hwyr ydoedd hynny, a mawr oedd y miri o gwmpas y lie, canys yr oedd pawb yn awyddus am gael gweled yr Isgapten Sadi yr ysgrifen- wyd cymaint am ei wrhydri ar faes y gwaed. Yr unig un na chymerai arno fod y peth yn dweyd dim wrtho ydoedd Gilbert, brawd Dorothy. Braidd yn guchiog yr edrychai, a galL esid tybio oddiwrth ei olwg ei fod yn erbyn y stwr; ond yn cydym'farfio er mwyn boddloni y teulu, a rhag creu gwaith siarad i'r bobl. Modd bynnag, cafcdd y ddau dderbyn- iad calonnog, a'r bob! yn llefain ar uchaf eu Ilais "Hwre i'r Isgapten Sadi." Yr oedd ei dad a'i fam yn mwynllau yr olygfa., ac yn tybio na fu diwrnod hapus- < ach ar eu Lywyd. Ond nid oedd Sadi 11a Dorothy, n foddlon arno o gwbl, yn liyt- rach toimlant ei fod yn hollol amhriodol, a bron nad oedd Sadi yn barod i brotcstio yn ei erbyn. Y peth Lyfrytaf i Sadi oedd ysgydwad Haw ambell i hen ffrind, a, gwen siriol y cymeriadau fu gynt yn ymwneud a hwy; oblegid yr oodd iddo gyfeillion mynwesol yn y cylch. Wedi mynd trwy y rhan yma o'r croeso aethpwyd i'r ty, a da oedd gan y ddau fynd o swn y crochlefan anaearol; ond pe gwyddent fceth oedd yn eu disgwyl ni fuasent baroted i golli'r dorf. Tu mewn yn y ty yr oedd gwahoddedigion o urdd- asolion yr ardal, yn ficer, offeiriaid, pre- gethwyr, cynghorwyr, a boneddigesau a boneddigion. Fuaned ag y cyrhaeddodd yr ystafell, dyma'r berdoneg yn dechreu swnio, a ohawb ar eu traed yn canu "For h'- a jolly good fellow." Wedi gorffen ■canu, dyma'r Ficer ar uchaf ei lais yn "gwaeddi am "three cheeis" i'r Isgapten Gravel a Nyrs Dorothy Dafis, a chafwyd hwy yn wreisog a brwdfrydig. Ar ol ysgwyd Haw a chyfarch gwell, eisteddasant oil i gyfranogi o wledd a,r- hen nig ddarparwyd gan Dr Gravel ar eu cyfer. Ar derfyn y wledd eafwyd cyfar- fod arbennig o dan lywyddiaeth y Ficer. Gyda Haw, dyna arfer y lleoedd gwledig hyd yn oed yng Nghymni Ymneilltuol, fhoddir y flaenoriaeth i'r Ficer ymhob arweiniad. Cynnygiodd y Ficer Iwncdestun y cwrdd, sef "Yr Isgapten Gravel a Nyrs !■ Dorothy. Yr oedd gwydr pawb wedi ei lenwi ar gyfer y gwaith, a phawb oddi- gerth Gilbert, Dorothy, Sadi, Mr a Mrs Jabez Dafis yn gafael ynddynt yn barod i'w hyfed, pryd y torodd Gilbert allan gan ofyn am ganiatad y Ficer i ddweyd gair cyn i neb y fed y llwncdestun. Caf- odd hynny yn ddiseremoni, gan na wydd- ♦ ai y Ficer beth oedd ganddo i'w ddweyd', a chan y ciedai na ddywedai ddim allan o'i Ie pan yr oedd' ei chwaer a'i chariad yn Y cwestiwn. Wei, ebai Gilbert, yr wyf yn teimlo na fedraf ganjatau i amgvlchiad fei hyn fyid leibio heb gael dangos fy ngwrthdystiad 1 Iwncdestun fy chwaer gael ei yfed gyd.a'r peth fu agos a'm difetha, i. Yr 'yf yn dweyd yn enw Duw na bydd i mi ros yn y lie yma. os na wneir hebddo. Na, fiiii chwaith, ebai Sadi. Y mae'n ftnfri aina i a Nyrs Dorothy eich bod yn beiddio ei wneud. Tydw i ddim yn gwelad llawer o harm fo am y tro, ebai y Ficer, ond mi 11n, i beidio fy hunan mewn munud. Rhiw dipin o cliwilan sy'n peri hyn, bai Dr Gravel, rwy'n synnu at Sadi yn "Odi twrw fel hyn mewn lie mor bwusig lddo fo. Twt lol, ebai yr Yswain, tydw i ddim ?? meddwl v dylem wrando arnynt o ?wl. }; yda chi yn i dded,  ^bwl. '?,e vda chi yn i ddeud, Mr &ydw i o'r un farn a'r hogia, yn union. 11 tn i liopd yn cadw y fath geriach yn hhy. f chi ddim yn erbyn gneud am dro hyn, ebai yr Yswain. dw, yn bendant, ebai Mr Dafis. I 'elli ° bawb, ebai Sadi, gan bwyntio Y)' Yswain, ddylai gadw rhag rhoi cyfla ei qyffwrdd. v am fi, gofvnai yr Yswain, yn lied ^ornlh-d. fawr nad oeddwn i a Nyrs Dorothy y' yn vyneb a'ch mab Cecil yn yr yty, a'r neges olaf a gawsom ganddo d cofio dweyd wrthych chi a'm tad ina mai y eelerydd yn ei tai hwy oedd wedi ei ddifetha. ef. Peidiwch gwrando ar y lolyn, ebai'r Yswain. Nid lolyn irohono, syr, ebai Sadi. Y mae Cecil lveddyw y dyn gora fedd byddin Prydain, ac yn siwr o fod wedi cael ei droi yn Eant. t Ydi wir, os oes rywun, ebai Dorothy, I Wel, wel, be nawn i, ebai y Ficer, thai I hi ddim i siarad fel hyn, gadewch i ni neud rhyvvbeth. Mi rown ni gora, i'r gwydiau, ac fe nawn heb yfed dim. I Dyna fyddai oreu, ebai Sadi, a dyna roddai y croeso gora i Nyrs Dorothy a tnina. Mi nawn felly, rnta, ebai y Fioer. A dyna fu orfod iddynt. Yr oedd y pedwar gweinidog c-isteddant yn fud yn teimlo eu hunain yn fychain a diddylanwad ang- hyffredin; ond cawsai'r bechgyn hyfryd- wch mawr yn eu goruchafiaeth a'u gwrth- eafiad. Ychydig o hwyl fu ar siarad wedyn gan tieb o'r gwahoddedigion, a. phawb yn wfftio y ldau lane am eu diffyg chwaeth yn torri ar fwynhad y wledd'. Cyflwynwyd walking stick black ebony silver mounted, i'r Isgapten Gravel, a braichled an r i Nyrs Dorothy, mewn geir. iau gwlad^arol gan Gadeirydd y C'yngor Dosbarth. I Atebodd yr Isgapten hwn yn foesgar, gyda dioieh drosto ef a'r Nvrs, a, rhodd- odd ychydig o hanes y digwyddiadau yr aeth efe drwyddynt, a dibennodd drwy son am ei cyfarfyddiad a Cecil. Wrth ddisgrifio yr hanes hwn gwelai ei fod yn cael dylan'vad ar bawb. ac yn enwedig yr Yswain, fel y daliodd ati i guiTo yr hoelen gartj-ef. Erbyn iddo orffen yr oedd tad Cecil wedi ei orchfygu'n llwyr, a thorodd allan i wvio'n hidl. Wrth glvwed Yswain y Fedol yn wylo— dyn oedd fel tain o ia bob amser-aeth yn wylo oyffredinol yn y lie, yr hyn drodd gyweirnod v cyfarfod yn gyfangwbl. Terfynodd Sadi ei araith mewn hwvl odiaeth, a, phawb yn synu ac yn rhyfeddu ato. Yna galwodd ar Dorothy i roddi can. Dewisoddhithau y geiriau hynny, "Does unman yn debyg i gartref, "'a chanodd fe] y medlrai hi, nes oedd y He wedi ei dry- daneiddio a'i llais melo,claidd. Wedi araith fer gan Dr Gravel, diwedd. wyd y cwrdd drwy ganu "Duw Gadwo'r Brenin." Pan yn gwahanu fu erioed y fath siarad. Clywid un yma yn dechreu cer- yddn Gilbert am ddifetha y ewrdd, a'r llall yn dod i'r adwy 30 yn dweyd mai efe oedd yn iawn. Ond yr oedd pawb yn un- fryd unfarn na, chlywsid dim byd erioed mor effeithiol ag araith Sadi a cbanu Dorothy. Y cwestiwn gan bawb yn y diwedd ydoedd, "Ai tybed mai dod adref i briodi y mae'r ddau?" (I'w barhau).

Y MODUR GWYRDD. I

THAL HYNNY DDIM.I

ICROES GOCH AMAETHWYR. I

IEI DDIWEDD.

Y CAISER A SON AM DDUW.I

Advertising

Y MEDELWYR CYMREIG.

ACHOS BAILEY.

SENEDD Y PENTREF.

CELL Y LLYTHYRAU.