Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

20 articles on this Page

FELINHELLI

News
Cite
Share

FELINHELL I Gwaeledd.—Bydd yn ddrwg gan lawer I ddeall am waeledd twin Mr John C. Grif- fith, corn merchant, Fourorosses. Cyå ymdeimla yr ardal gydag ef yn ei "ddydd blin," a ^obeithir yn fawr y bydd yn well yn fuan. Gwella.—Llawenydd gennym ddeall fod Mr John Pritchard, Belmont, cadeirydd y Cyngor Plwyf, yn graddol wella o'i waeledd trwm, ac hyderwn yn fawr y bydd yn fuan yn ein plith, wedi llwyr adennill ei north, Y Clwb Ceidwadol. Mewn cyfarfod arbennig o aelodau y Clwb uchod, a gyn- lialiwjd dJydJ Iau, dewiswyd Mr Robert D. Vaughan, Beach Road, yn ysgrifen- nydd, fel olynydd i Mr Griffith Ellis, Cae Glas, yr hwn sydd wedi ymuno a'r fyddin. Addysg.—Dymunem longyfarch dau o blant yr ardal ar eu gwaith yn llwyddo i ennill ysgoloriaeth er cael mynediad i fewn i'r Ysgol Sirol, sef Elsie Parry, wyres fechan i Mr a Mrs R. W. Rowlands, Paris House (yr oedd yn 3edd ar y rhestr yn Nosbarth Caernarfon), a Robert Arfon Williams, mab ieuengaf Mr a Mrs Ro- bert Williams, Llys Myfyr (8fed ar y rhestr). Pob llwydd iddynt eto yn y dyfodol. Ordeinio.-—Yn Eglwys Gadeiriol Ban- gor dydd Iau ordeiniwyd i urddau eg- lwysig y Parch Robert Owen Williams, o Brifysgol Durham, a mab hynaf Mr W. P. Williams, 23, Bangor Street, a dydd Saboth diweddaf dechreuodd or ei ddy- ledswyddau fel curad yn Eglwys Llan- llyfni. Dymunem bob lhvydd iddo eto yn ei yrfa gweinidogaethol. Priodasau.—Dydd Iau, yn Eglwys Os- terly, Llulldain, cymerodd priodas ddi- ddorol le cydrliwng Mr Robert W. Jones, mab liynaf Mr Edward Jones, Annedd- wen, o'r aidal hon, a, Miss Maggie Ro- bets, merch hynaf Mr Robert R. Ro- berts, Gwydryn, Llanfair P.G., Mon. Yn y Lloyds Bank, Bangor, yr oedd y priodfab ers llawer o flynyddau, end yn ddiweddar ymunodd yn Hounslow, Mid- dlesex, gyda'r Army Service Corps, M. T. Mae yn bier y bydd Ilu o gyfeillion Mr a Mrs Jones yn dymuno pob hapusrwydd iddynt yn eu bywyd priodasol. Bore Llun (ddoe) cymerwyd dilddordeb neill- duol yn y briodas a gymerodd le ynghapel Bethania (M.C.), pryd yr unwyd Nyrs Griffith, Abersoch, merch ieuengaf i'r diweddar Mr Edward Griffith, Corris. gyda Mr Evan Grimth, Post Office, Aber- soch, unig fab i'r diweddar Capten Evan Griffith, "Pevival," Nefyn. Gweinydd- wyd y seremoni gan y Parch Edward Griffith, B.A., Bethania (brawd y briodas-, ferch), yn cael ei gynorthwyo gan Y r Parch 0. Pritchard, Nefyn, ac ym mhre- senoldeb y cofrestrydd, Mr J. R. Jones, j Llanrug. Gwa-sanaetliwyd fel morwyn gan Miss Jane Rowlands, Tanymaes, Nefyn, a'r gwas ydoedd Mr Ellis Ro- berts, Garston; ac yr oedd yn bresennol hefyd Mrs Williams, Caergybi (chwaer y briodasferch); Mrs Griffith, B.A., 11, Terfyn Terrace (chwaer-ynghyfraith); a Mr Wm. Davies, Morfa Nefyn. Gan mai hon oedd y briodas gyntaf yn y capel hewydd, cyflwynwyd Beibl a Llyfr Emyn- au o rwymiad hardd i'r par ieuanc ar yr achlysur. Gwnaed y cyflwyniad ar ran yr eglwys gan Mr Richard Wrilliams, Bod- londeb, un o'r diaconiaid. Yr oedd y capel wedi ei addurno a blodeu prydferth er dathlu yr amgyichiad, ac yr oedd nifer o edrychwyr ac ewyllyswyr da yn bresen- nol. \Vedi'l' seremoni cyfranogodd y cwmni priodasol o'r bore-bryd yn 11, Terfyn Terrace (cartref brawd y briodas- ferch). Chwareuwyd amryw o ddethol- ion chwaethus a phriodol i'r amgylchiad gan Miss rdjth Mary Elias, 1, Port Ter- race. Yr oedd y briodasferch yn dra ad- nabyddus yn y lie hwn, gan y bu am gyf- nod yn cartrefu gyda Mr a Mrs Griffith yn 11, Terfyn Terrace. Wedi hynny bu yn gweithredu fel "District Nurse" yn Tynymaes a Roewen, yna symudoild i AbersocHr< lie y mae yn fawr ei pharch ac yn nodedig o gymeradwy ymhlith y trig- olion. Ein dymuniadau goreu i Mr a Mrs Griffith yn eu bywyd newydd.

-BETHESDA.-____I

DYFFRYN NANTLLE.I

GROESLON. I

iLLANLLECHID. I

-PORTHMADOG.

- -PWLLHELI.

WAENFAWR.:1

Y PRIF WEINIDOG A LLAFUR._II

I MEDDYGINIAETH NATUR. \'1…

Advertising

DYDD LLUN. I

DYDD MAWRTH.

IMERTHYR I GRYD CYMALAU.

-AROLYGWYR MWNFEYDD.-

EDRYCH AR OL PLANT.

YN DDIFRIFOL YMHOBMAN.

ISUDD0 LLONGAU.

[No title]

I __PONTRHYTHALLT.