Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

DYDD MAWRTH.

News
Cite
Share

DYDD MAWRTH. Ail agorwyd y Senedd dydd Mawrth, a chymerodd y Llefarydd y gadait- am ehwarter i dri. YR YSWI RIANT GENEDLAETHOL. Aeth y Ty yn bwyllgor i ystyried y bleidlais o 148,709p i gwblhau y ddarpar- iaeth wnaed am dreuliau Pwyllgor Unol yr Yswiriant Cenedlaethol am y flwyddyn. Pwyntiodd Mr Charles Roberts allan fod y rhyfel wedi effeithio mewn aniryw ffyrdd ar Ddirprwyaeth yr Yswiriant. Rhwystrodd hwy i gael rhoddion am was- anaeth newydd wneir ganddynt. Yr oedd hefyd wedi lleihau eu gwasanacth- yddion, ac ar yr un pryd rhoddodd Waith newydd arnynt yn codi oddiwrth y rhyfel. Pan dorodd y rhyfel allan nid oedd ond 19 y cant o'u gwasanaethyddion dros yr oedran milwrol. 0 1,424 o wasanaeth. yddion o dan y Ddirprwyaeth Seisnig, rhyddhawyd 50 y cant am wasanaeth rhy- fel. Credai fod hyn yn uwch yn Ysgot- land a Chymu. Yn y Ddirprwyaeth Seis- nig yn awr y mae 1,331 o fe relied yn gwasanaethu. Cyfanswin y ddarpariaeth at yr Yswiriant Cenedlaethol yn yr am- cangyfrifon presennol ydoedd G,300,000p. O'i gymharu a'r swm bleidleisiwyd ddwy flvnedd yn 01, dengys leihad o 1,380,000p, ac o'i gymharu a'r llynedd dengys leihad o 890,000p. Nid oes unrhyw arwydd fod y Ddeddf yn myned i ddistryw (clywch, elywoli). Mae'r wlad yn llawn o ysbytai, ac y mae rhif yr achosion gaiff driniaeth wedi cynnyddu yn fawr. Milwyr a Sanatcriums. Iae gan y Dnprwywyr drefniaut o dan yr hwn y c-aiff rnilwyr driniaeth mewn sefydliadau trigianol, a deliwyd gyda. 3,250 o achcsion. Mor belled ag y mae budd sanacoriunis yn myned, cyfaddefodd nad ydyw'r cronfeydd mor dda ag y dis- gwyliant iddynt fod, ond er pan ddaeth y Ddeddf i rym gwariwyd 2,800,000p i ymosod ar y darfodedigaeth trwy foddion sanatoriums. Yn ystod 1915 derbyniodd personau yswiriedig 6,300,000p mewn budd iechydol, 1,300,000p mewn budd genedigaeth, a 840,000p mewn budd nn- alluogrwydd. Rhydd hyn rhyw amcan i chwi o'r gwaith wneir gan y Ddeddf. Ar ol trafodaeth beHach, caniatawyd y I bleidlais. -BECHGYN Y GYDWYBOD. I Pan gynygiwyd fod i'r Ty gael ei ohirio ewynodd Mr Whitohouse (It.) fod amryw o wrthwynebwyr cydwybodol gyda'r fyddin yn Ffrainc yn cael eu carcharu. Awgrymodd Mr T. E. Harvey y dylid trosglwyddo y dynion hyn i rhyw ffurf o wasanaeth cenedlaethol heb fod o dan reolaeth filwrol. Dywedodd Mr Tennant fod y Swyddfa Ryfel yn ceisio dadrus cwestiwn y gil, I-tli- wynebwyr cydwvbodol. Mae amryw heb ganfod fod ganddynt gydwybod hyd nes y galwyd arnynt i gyflawni dvledswyddau milwrol. Mae mwyafrif y gwrthwyneb- wyr cydwybodol gwirioneddol wedi cael eu rhvddhau o wasanaeth vniladdol, ac y mae'r rhai sydd yn Ffrainc yn gwneud gwaith rhagorol i'r wlad heb aflonyddu o gwbl ar on cydwybodau. Dywedodd Syr Win. HvJes, Mr SheI"- well, Mr Morrell, Mr Lcif Jones, a Mr Outhwaite nad oeddynt yn foddlon ar atebiad Mr Tennant. YR YSGRIFENNYDD RHYFEL. Gofynodd Mr Joynson Hicks (C.) i'r Prif Weinidog a allai ef ddweyd rhyw- beth am apwyntiad Ysgrifennydd Rhyfel. Mr Asquith: Na allaf, Byr. Gohiriwyd y Ty am ugain munud i Jiaw.

DYDD MERCHER. I

I DYDD IAU. I

ANRHYDEDDU MILWYR CYMREIG.

I -hAID NINEVEH.

MEDDYG DDECHREUODD FEL CIGYDD.…

C0LLE0I0N BRWYDR MOR Y j GOGLEDD.…

MESUR COFRESTRIAD NEWYDD.…

TRAGWYDDOL GOSB.

I SASIWN LLANIDLOES.

GWROLDEB SWYDDOG 0 GRICCIETH.

I DYDD IAU. I