Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
Advertising
BRITISH FARMERS RED CROSS FUND. (Carnarvon and District Branch). President: Sir T. E. Roberts, Plasybryn. AN AGRICULTURAL JUMBLE SALE, on behalf of the above Fund, will be held at THE PAVILION, CARNARVON (kindly lent for the occasion by the Military Authorities), on SATURDAY NEXT, JULY 1st, 1916, at 2.30 p.m. prompt. The Live Stock comprise— 1 well-bred Cob, 14 h.h., rising 3 year old; 1 purebred Jersey Heifer Calf; 1 purebred Welsh Calf; 2 Store Pigs; 40 Head of Store and Fat Sheep and Lambs; .70 Head of Poultry; 20 Head of Goose and Ducks; 3 Fox Cubs; 6 Sporting Dogs zand Persian Cats; Scores of Eggs; Scores -of Pounds of Butter; Furniture; Sun- odries, &c., &c., all given for the benefit of the good cause, which wiH be sold by Messrs Henry Parry and Sons FREE OF CHARGE. The Ladies of the Town and Country will have a Refreshment Stall, Provision Stall, Fruit and Flower Stall, Sweet Stall Tobacco and Cigarette Stall, &c., &c., inside the Pavilion. Detailed Catalogues in preparation. ALL HEARTILY INVITED. J. J. WILLIAMS, The Malsters (Chairman) BOB I- KR'R.Y Glan'rafon, Carnarvon (Hon. Secretary).
BETHESDA.
BETHESDA. Y mae gan y Parch James Jones, gweinidog Salem, ysgrif goffhaol bur ddiddorol am y diweddar fardd Heilyn yng "Ngheninen" Orffennaf. Priodas.-Nilehefin 22ain, ynghapel Her- mon (I.C.), trwy weinvddiad v Parch R. M. Jones, Glasgoed, a'r ProfFeswr Ifor Williams, M.A., Porthaethwy, unwyd jpre-ifat R. J. Owen, R.W.F., Kinmel Park, a Miss M. Oliver, Llwybrmain, Douglas Hill. Y gwas ydoedd brawd y -priodf&b, Mr W. Owen, Clegir, Llan- beris. Y forwyn .^ydoedd cyfnither y bri- odasferch" Miss White, Llandudno. Gweinyddwyd y seremoni ymhresenoldeb y cofrestrydd, Mr D. Griffith Davies, Dvmunwn hapusrwydd i'r ddau.
NODON 0 FFESTINIOG._
NODON 0 FFESTINIOG. ,Darnwain.- Drwg gennym ddeall fod ;cyfarfod a damwain tra'n dilyn ei alwed- cigaeth yn chwarel Llechwodd. FoJd byn- mag, nid oedd y niweidiau yn ddimo!. Personol.-Yr wythnos ddiweddaf, yr oedd yr Lsgapten Evan Jones, o'r Royal Engineers, adref am seibiant. Dyrchafiad.—Mae Mr Ivor Wyn Jones, mab Mr R. 0. Jones, Crwner y sir, yr hwn sydd gyda'r R.W.F., wedi ei ddyr- chafu yn isgapten.
PONTRHYTHALLT.I
PONTRHYTHALLT. Priodas. Yn Eglwys Llanddeiniolan rhoddwyd Miss Sarah Rowlands, King Arthur, ac athrawes yn un o ysgolion Bethesda, Arfon, mewn rhwymyn priodas a Mr O. P. Rowlands, o Ebenezer. Gwas- anaethwyd ar y par ieuanc gan y Mai Evan Pritchard ae Evan Thomas, dau gefnder: a Misses Blodwen a Myfanwy Rowlands, chwiorydd. Rhoed y cwlwm euraidd gan Mr Roberts, curad Cwmyglo. Damweiniau.—Prynhawn Sadwrn cyn y diweddaf, tra yn moduro, cwrddodd y Parch Henry Owen, Rhuallt (Talybont, Llanrug, gynt), a damwain dost ar Bont Crawia trwy fyned yn erbyn wal genig a chael ei daflu. Deallwn ei fod raddau yn well. Ofnid am ei adferiad, ond da, yw deall fod y gwaethaf drosodd. Eto, tra. yn casglu tanwydd mewn anaes ger gorsaf Pontrhythallt, ymosodwyd ar Mrs Mary Roberts, Llys Meirion, Greuor Terrace, gan fuwch un o'r dyddiau diweddaf. Deallwn iddi gael archoll ddifrifol i'w braich, fel y bu yn angenrheidiol rhoddi cynifer a 25 o bwythau ynddi. Deallwn mai dal yn bur anhwylus y mae o hyd. Uyderwn na phery ddim yn hir. LJwyddo.—Llwyddodd Miss M. C. Ro- berts, Crlasgoed, i ennill ei thrydedd dyst- ysgrif mewn llawfer, y ddiweddaf ar Me- hefin 7fed, sef y Second Class o'r Theory Certificate, mewn arholiad neillduol. Ei hathraw ydyw Mr Wm. Griffith, Tanhen- ffordd, Clwtybont. Rhwydd hynt iddi ymhellach.
RUNCORN.--,I
RUNCORN. Dyad ^lun diweddiaf,. Mehefan lfed, ynghapel Bethesda (yr Annibynwyr Seis- nig) yngwydd tyrfa, o ewyllyswyr da., un- wyd mewn glan briodas Mr Morris Wm. Jones (gynt o Penrallt, Llanrug, Arfon) & Miss Sarah Evans (Sallie), merch hynaf Mr a Mrs John R. Evans, 26, Trentham Street, o'r dref hon. Gwasanaethwyd ar y briodferoh gan y Misses Martha a Lizzie Jones, Birkenhead (chwiorydd y priod- f a b), ynghyda Miss Gaynor Williams, Ler. pwl (gynt o Arthur Terrace Penisa'r- waen, Arfon), tra y cynorthwyid y priod- fab gan Preifat O. E. Evans, o Bark Kinmel (brawd y briodferch) a Mr John Pritchard, Brackley Street, y dref hon. Rhoddwyd y briodferch ymaith gan ei thad. Gwasanaethwyd y seremoni ddi- ddorol hon gan y Parch J. E. Evans (gweinidog Bethesda) a diddorol yw sylwi mai dyma v briodas drwyadl Gymreig gyntaf i gvmeryd lie yn y dref. Dangos- al i- dorf ddaeth vngbyd, a'r Uu o anrheg- ion dderbyniodd y par ieuanc eu bod wedi ennill iddynt eu hunain edmygedd a pharch lluaws mawr o'u cydgenedl yn y dref. Ac fel y sylwodd cyfaill ar ol borebryd yrghartref y wraig ieuanc fod y dref yn uno yn eu dymuniadau goreu i'r par ieuanc liawddgar hwn. Dyna hefyd dd^muniad,—Edmygydd.
I PENMAENMAWR. I
I PENMAENMAWR. I Mae y Parch D. R. Griffith, o'r lIe hwn, I yn itraethu gwirioncddau heilltion iawn I yn ei ysgrif ar "Uwchfeirniadaeth yng I Nghymru" yn y "Geninen" am Orffennaf.
I _PORTHMADOG.- I
I PORTHMADOG. I Adref am Seibiant.—Mae r ls_gapten u., D. Griffith, Garth, yr hwn fu'n gwasan- aethu gy.]a'r South Lancashire R.F.A., yn Gallipoli, adref am vchydig eeibia-it. Damwain Ddifrifol.—Yr wythnos ddi- weddaf cyfarfyddodd mab naw mlwydd oed i Mr Wm. Williams, Talyllyn, Cwm- stradlllyn, a damwain ddirifol i'w law trwy syrthio ar beiriant lladd gwair. Dyrchafiad.—Llongyfarchwn Mr D. C. Pritchard, Ariandy y Metropolitan, yr hwn sydd gvda'r 22nd R.W.F., ar ei ddyrchafiad yn lance-corporal. Y Porthladd.-Ni fu erioed olwg mor ddigalon ar y porthladd ag sydd y dydd- iau liyn. Rai dyddiau yr wythnos ddi- weddaf nid oedd yr un Hong ynddo.
I PENRHYNDEUDRAETH. I
I PENRHYNDEUDRAETH. I I Diddorol odiaeth yw "Hungofiant ac I I Adgofioll y Parch J. Gwyndud Jones," I o'r lie hwn, yn y "Geninell" am Orffen- naf.
I PWLLHELI.- - - I
I PWLLHELI. I Marw'n Gynnar. Dydd Sadwrn, bu farw Mr Robert Francis Williams, Ross- lyn, Efailuewydd, ac efe ond 38 mlwydd oed. Claddwyd ef dydd Mawrth ym Mhenrhos. Ncwydd Prudd.—Yr wythnos ddiweddaf daoth y newydd prudd i law fod y Rhing- yll James Morley Griffiths, mab Mr a Mrs James Griffith, Fatri, wedi ei glwyfo yn ddifrifol yn Ffrainc. Aelod o'r Man- chester Regiment ydyw, a bu adref am seibiant bythefnos yn ol. Mae ganddo frawd yn gwasanaethu yn yr un gatrawd. Wyau i'r Clwyfedigion.-Mae Lleyn ao Eifionydd wedi anfon 900 o wyau i'r mil- wyr clwyfedig er y Pasg. Presenoideb.—Yn ardal Lleyn mae rhif y plant ar h frau yr ysgolion wedi syrthio mewn pum mlynedd o 1,173 i 1,034. Priodolir l'yn i'r lleiliad yn y genedig- aethau ac i'r ffaith fod amryw o deulu. oedd wedi symud o'r cylch. Yn ardal Pwllheli rhif y plant ydyw 1,746, neu saith yn llai na phum mlynedd yn ol.
RHOSTRYFAN. I
RHOSTRYFAN. I Yn Wael.-Drwg gennym glywed fod y Rhingyll Willie Oiven mab Mr a Mrs William Owen, Llys Menai, yn wael yn yr ysbyty yng Nghroesoswallt. Y mae Willie wedi dringo i fyny yn dda, a go- beitliiwn y caiff lwydd i fynd yn uwch eto. —
DYDD LLUN.- I DYDDlLUN.I
DYDD LLUN. I DYDD lLUN. I BUKOWINA YN NWYLO'R RWSIAID. I Dywed retrograd fod y Rwsiaid wedi ineddiannu Kuty a Kimpolung, ac fod holl dalaith Bukowina yn awr yn eu diwy- law hwy. Yn ystod y rhuthriad ar Kim- polung, cymerodd brwydr ffyrnig le, a chymeodd s Rwsiaid yn garcharorion 60 o swyddogion a 2,000 o ddynion. Gadaw- odd yr Awstriaid gyflenwad aruthrol o ysbail ar ol. Dywed adroddiadau diwedd yr wythnos eu bod wedi atal ymosodiad Germanaidd ar yr afon Beresina. Yn yr ardal rhwng Luck a Vladimir Volynsk, dywed y Rwsiaid a'r Germaniaid fod brwydo ffyrnig yn myned ymlaen. Ar gyffiniau Galicia, ger Radzi-wilow, mae'r bnvvdro :>n galed iawn. FFRAINC A FFLANDERS. I Amrywiol fu canlyniadau y brwydro yn Verdun yn ystod diwedd yr wythnos. Gwnaed yniosodiadau ffyrnig pellach gan y Germaniaid yn nwyreinbarth y Meuse. Ynghyniydogaeth T'hiaumont a ger pen- tref Fleury, bu'r y ml add yn boeth ofn- adwy, no hawlia'r gelyn iddynt gymeryd y ddau le I wn, ynghyda 2,673 o garchar- orion. Dywed yr adroddiad Ffrengig na ddarfu iddynt ond cymeryd ychydig o dai ynghwr y pentref Ar ol hynny gwnaed cynnydd gan y Ffrancod gyda "hand grenades. Galluogodd adymosodiadau lhvyddiannus y Ffranood i adfeddiannu y rhan fwyaf o'r tir golhvyd ganddynt rhwng Hills 320 a 321, ac ynghymydogaeth Thiaumont. AM BARHAU YR ABERTH. Dywed aiboddiad o Paris fod Germani wedi dangos y bydd iddi barhau i aberthu tra pery ei dynion i'w taflu i'r ffwrnas. Ar y ffi-ynt Prydeinig mae'r bywiogrwydd magnelyddol wedi eynnyddu yn aruthrol. Cyfaddefir hyn gan y G-ermaniaid, a dy- vvodant fod ein magnelwvr wedi tanbelenu yn drwm ar Lens a'r cyffiniau. Dywed- ant hefvd ein bod yn defnyddio nwy gwen- frynig. YMGYRCH YR ITALIAID. I A ganlyn ydyw adroddiad Rhufain ddoe:—Ddoe, rhwng yr Adige a Brenta, cynyddodd bywiogrwydd magnelyddol y gelyn. Ar y Haw arall, bu ein magnel- wyr yn hynod lwyddiannus yn y Vallarso ac yn Posina. Yngorllewin Asiago, darfu i ni ddinistrio rhai o safleoedd y gelyn. Yn yr Upper Cordevole, tanbelenwyd gor- saf oedd rheilffodd Innichen a Sillian gan ein magnelwvr, a rhoddasant Leopold- skirchen ar dan. Ar yr Isonzo, mewn canlyniad i ymosodiadau, syrthiodd amryw o garcharoion i'n dwylaw. Ymosododd awyrwyr Italaidd ar wersylloedd y gelyn I ar yr Asiago Plateu, a dychwelasant yn ddiogel. GROEG A'R CYNGREIRWYR. Mae gwyliadwriaeth y Cyngreirwyr ar bothladdoedd Groeg yn awr wedi terfynu. Hysbysir fod M. Zaimis, y Prif Weinidog newydd, wedi bod yn trafod gyda.'r Cyng- reirwyr y moddion i osgoi y perygl o ores- gyniad y oyffiniau Groegaidd gan y Bwl- gariaid. TANBELENU PORTHlADDOEDD. Dywed adroddiad o Salonika fod llynges y Cyngreirwyr ddydd Gwener wedi ym- osod yn 11 wyddi annus ar borthladdoedd Dedeatgatch Porto Lagos, ac eraill, ar y glannau Bwlgaraidd, ond ni wyddis faint o ddifrod -,irta-ed. Dywedir fod y Bwlgar- iaid yn sefydlu rhagor o filwyr ynghymyd. ogaeth Florina. Cynghora y Wasg Fwl- garaidd y Llywodraeth i dynnu y milwyr o Macedonia, er mwyn amddiffyn y wlad yn llwyr. Maent yn ofni i Rumania ddod allan yn eu herbyn.
DYDD MAWRTH.
DYDD MAWRTH. MUDIAD RWSIAIDD NEWYDD. Dywed adroddiad o Petrograd ddoe fod adran Rwsiaidd yn ymosod ar filwyr Aws- triaidd sydd yn amddiffyn Kolomea. Dy- wedir fod y He yn sicir o gwympo gan fod y Rwsiaid wedi meddiannu amryw o safle- ocdd y gelyn 16 milldir o'r dref. Hyn ydyw unig amcan y lnudiad newydd Rws- iaidd. Cyfanrif y caroharorion syrtlixodd i ddwylaw y Rwsiaid erbyn hyn ydyw 184,000. DIM NEWYDDION PELLACH. Ni ddaeth unrhyw newydd ion pellach i law ynglyn a'r bywiogrwydd air y ffrynt Prydeinig, yr hwn, yn ol yr adi'O loindau Germanaidd, sydd wedi eangu i ddi!hoa- barth Camlas La Basse tudraw i'r Somme, ffrynt o tna lianner can mill lir. i)ywe>t Berlin fod eu llinellau yngogledd Albert yn llawn o nwy ddefnyddiwyd gan ein mil- wyr. YN VERDUN. Mae'r ymdrech fawr ynghym/dogaeth Verdun vn parhau gyda ffyrnigrwydd. Cariodd ymdrech y gelyn hwy i'r tai gog- leddol ym mhentref Fleury, man pwysig yn y rhyfel. Nid ydyw ond tair milldir a 180 Hath o Verdun, y ffrynt agosaf i'r gelyn gyrraedd eto. Cyn cyrraedd eu hamcan rhaid iddynt glirio y bryniau o'r amddiffynfeydd Ffrengig. Pe y buasent yn llwyddo i wneud hyn, mae'n amheus a fuasent yn ddigon cryf i ymosod ar y prif safleoedd Ffrengig ar Souville Ridge. Mae'r gelyn wedi dechreu ymosod ar leth- rau gogledd-ddwyreiniol Froide Terra, ond mae'r Ffrancod ar y Haw arall yn parhau i roddi gwrthsafiad cryf iddynt. ADFEDDIANU SAFLEOEDD. A ganlyn ydyw adroddiad Rhufain ddoe:O dan bwysau gan ein magnelwyr mae'r gelyn wedi dechreu encilio o ogledd ffyrdd Mondviello, ac y mae safleoedd gollwyd gennym yn y gymydogaeth hon wedi eu hadfeddiannu. Mae'r symudiad ymla,en yn parhau yn fuddugoliaethus, ne yr ydym yn dilyn ar sodlau y gelyn. Bu y magnelwyr Italaidd yn hynod fywiog ac effeithiol n But a'r Upper Fella. Hyn hefyd fu cu hanes ar yr Isonzo. CYFADDEFIAD AWSTRIAIDD. Cyfaddefa'r adroddiad Awstriaidd fod yr Italiaid wedi tanbelenu yn drwm ar eu safleoedd rhwng Monte Sabatina, ac fod brwydro gyda "grenades" wedi cymeryd lie rhwng yr Upper Palazzo a PirAno. Hawliant iddynt atal ymosodiadu It-alaidd ar y Cointhau ao yn Ruffredo.
Advertising
o — 0 I YR AF AUR, CAERNARFON, LLANfl V BABGEINION!! I Bydd genym Gannoedd o Fargeinion ar Y BYRDDAU DYDDIAU CWENER A SADWRN. Cyfle da am Fargeinion. PIERCE & WILLIAMS. o 0
[No title]
YR HAMPSHIRE. I Dywedodd Dr Macnamara yn y Senedd ddoe mai barn Llywydd y Llynges ydoedd fod yr Hampshire wedi suddo yn ddam- weiniol trwy darro vn erbyn mwnfa. MR JOHN BURNS. I Hysbysir fod Mr John Burns wedi newid ei olygiadau ar y rhyfel > a'i fod yn foddlon cymeryd swydd o dan y Llywodr- aeth eto. Fe gofir iddo ymddiswyddo pan dorodd y rhyfel allan, ac er hynny ni yngodd air y naill ffordd na'r llall. I PAPURAU Y DARDANELLES. I Hysbysodd Mr Asquith yn y Senedd ddydd Llnn y cymer cryn amser cyn y gellir cael v papurau ynglyn a gweithred- iadau y Dardanelles. Hyderai, fodd byn- nag, y gellid eu cael cyn diwedd y tymor lrwn.. BUNO AR BREGETHU. I Mae Ficer Coalville wedi penderfynu ateb cwestiynau yn lie pregethu ar nos Sul o hyn allan. "Os ydych wedi blino gymaint wrth wrando pregethau ag yr wyf fi, cytunwch a'r awgrymiad," meddai, a, I gwnaethant hynny. CHWARELWYR A'R FYDDIN. I 1\100 cynhadledd wedi ei chynnal rliwng llywodaetlxwyr ohwarelau Sir Feirionydd a ohynrychiolwyr Swyddfa Ryfel ynglyn ag ymuniad chwarelwyr. Penderfynwyd fod chwarelau a chant o ddynion yn gweithio ynddynt i ryddhau 30 y cant, a chwarelau a dros gant yn gweitbio ynddynt i rydd- hau 40 y cant. HEDDWEISION MEWN HELBUL. I Yn Carlisle ddydd Hun, cyhuddwyd I dau heddwas o'r enwau James Sherwin, I Mary Street, a Patrick McSweeney, Den- ton Street, o ysbeilio hen wr o'r enw Thomas Smith ar y brif-ffordd. Llafurwr o Gretna ydoedd, a lladratasant oddiarno bwrs a lip 10s ynddo. Gohiriwyd yr achos am wythnos. YN FARW MEWN CERBYDRES. I Galwodd bachgen dydd Sadwrn sylw gyriedydd "(Yie-rhead train" yn Lerpwl at ddyn oedd yn marw yn un o'r cerbydau. Symudwyd ef i'r Southern Hospital, ond bu farw tra ar ei daith yno. Cafwyd 3p Os Sle yn ei logellau, ynghyda pethau man eraill. Credir ei fod ar ei daith i wersyll y milwyr yn Formby, lie yr oedd ganddo fab neu rhyw berthynas arall. i SYR ROGER CASEMENT. I Agorwyd prawf Syr Roger Casement a'r milwr Gwyddelig o'r enw Daniel Julian Bailey, gyhuddir o deyrnfradwriaeth, yn Llys yr Arglwydd Brif Famwr ddoe (dydd Llun). Arglwydd Reading lyw- yddai, a chydag ef yr oedd y Barnwyr Avory a Horrige. Credir y bydd i'r I prawf barhau am ran helaeth o'r wyth- nos. Y dadleuwyr yn yr achos ydynt:— Dros y Goron, Svr F. E. Smith, K.C., Syr G. Cave, K.C., Mr A. H Bodkin, a Mr Travers Humphreys. Dros Syr R. Case- ment Mr A. M. Sullivan, K.C., Mr Ar- temus Jones, a Proff. J. H. Morgan., Dros Bailey, Mr Holman Gregory, K.C., a Mr W. T. Snell. Plediodd Casement yn "Ddi-euog" o'r cyhuddiadau yn ei erbyn. Yna anerchodd Syr F. E. Smith y rheithwyr gan egluro iddynt ddifrifoldeb y cyhuddiadau yn ei erbyn. Gohiriwyd yr aches Lyd heddyw. BYDDIN BWLGARIA. Dywedir na all Bwlgaria, godi byddin o s fwy na 350,000 o ddynion ar hyn o bryd. RHODD Y SWLTAN. Mae Swltan Johore wedi rhoddi nifer o awyrlongau, gwerth 31,500p i'r Llywodr- aeth Ymhsrodrol. CYFLE I AWSTRALIAID. Mae Llywodraeth Awstralia yn ystyried y cwestiwn o ganiatau i'r Awstraliaid sydd yn Lloegr ymuno a'r Anzacs heb ddychwelyd i Awstralia. DINISTRIO DWY FIL 0 GYWION IEIR Torodd tan allan yn adeiladu Mr George Mathews, poultry breeder, Thorn- ton Heath, ddydd Llun a dinistriwyd tua dwy fil o gywion ieir jpewn "incubators." DYFAIS NEWYDD MARCONI. Bydd Mr Marconi yn fuan yn cyflwyno dyfais newydd syml o'i eiddo i sylw y wlad, sef math o offeryn i roddi ar bont agerlong, yr hwn a rydd derfyn ar yr holl berygl o wrthdarawiad yn y tywyllwoh neu mewn niwl. Bydd y peiriant yn sier o gael ei daefnvddio gan bob cwmni mor- wrol i'w roddi a bob llestr o'u heiddo. ———— ————
YSGOLORIAETH Y SIR. ARFON.
YSGOLORIAETH Y SIR. ARFON. YR YMGEISYDD CYNTAF YMHOS I DOSBARTH. Daeth canlyniad ysgoloriaeth y sir i law, a clieir lii yn llawn yr wythnos nesaf; ond dodwn enwau a marciau yr ymgeisydd cyntaf ymhob dosbarth. Y bachgen cyn- taf yn y sir ydyw Arthur Glyn Thomas, Ysgol Cyngor Garth, Bangor; a'r eneth ucliaf ydyw Connie Her see, Lloyd Street, Llandudno. Bechgyn. Dosbarth Bangor Friars: Arthur Glynn Thomas, Ysgol Cyngor Garth, -068. Dosbarth Porthmadog: Teddy Rees, Ysgol Ganol Porthmadog, 266. Dosbarth Caernarfon: Cecil Ro- berts, Ysgol y Cyngor, 260. Dosbarth Llandudno, Harry Davies, Ysgol Ganol Llandudno, 252. Dosbarth Pwllheli: Dewi R. Davies, Ysgol Troedyrallt, 251. Dosba.rth Pcnygroes: Griffith Henry Wil- liams Ysgol Nebo, 246. Dosbarth Llan- beris: John Moxen, Ysgol Dolbadam, 238. Dosbarth Llanrwst: Owen G. Williams, Ysgol y Cyngor, Penmachno, 218. Dos- barth Bethesda: Albert E. Griffith, Ysgol Llandegai, 207. Dosbarth JBottwnog: Charles Parry, Ysgol Edeyrn ( 143. Genethod. Dosbarth Llandudno: Connie Hersee, Ysgol Lloyd Street, 258. Dosbarth Fwllheli: Myfanwy Roberts, Ysgol Troedyrallt, 252. Dosbarth Caer- narfon, 250. Dosbarth Bangor: Cerid- narofn, 250. &)osbarth Bangor: Cerid- wen Jones Ysgol Upper Bangor, 247. Dosbarth Porthmadog: Dilys Watkin Wil- liams, Ysgol Ganol Porthmadog, 241. Dosbarth Llanberis: Bessie Roberts, Ysgol Dolbadarn, 217. Dosbarth Penygroes: Lizzie Thomas, Ysgol Penfforddelen, 211. Dosbarth Llanrwst: Mabel Parry.Jones, Ysgol Trefriw, 201. Dosbarth Bottwnog: Eiddwen G. Evans Ysgol Deunant, 186. Dosbarth Bethesda: Dilys JoneS) Yegol Rhiwlas, 182.