Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
MEDDYGINIAETH NATUR.
MEDDYGINIAETH NATUR. Y mae yna feddyginiaeth ar gyfer bob math o afieehyd yn y deyrnas lysieuol, ao n:d ocs un amheuaeth nad dail earn yr, cbol yw y llvsieuyn ar gyfer peswch ao anhwylderau y frest. Mae Sudd DaiJ. Cam yr Ebol mewn poteli Is 3c,
- - - -SENEDD Y PENTREF.
SENEDD Y PENTREF. NEU, GWEITHDY WMFFRA TOMOS, Y CRYDI). HOLI 11 DES. Y SULGWYN. I Sian Ifans: We! myn dialan i mae uhw wedi mund i siarad am bob dim yn y Sen. add yna, rwan: Welis i rotshi wn beth, naddo mi gymra i fy llw, dyma nhw wedi mynd i neud holiddl yn destun siarad ac i dreulio amsar gwerthfawr y ty befog o. Dafydd: Mae'n destun reit dda faswn i'n tybiad, os medra nhw neud pregath dda allan ohono fo. Wil Ffowe: Tydi gneud pregath dda ddim yn rhyw lawar, o gamp, y job eleta o lawar ydi i buw hi. Tasa hanar y geth- wrs yma cyslad a'u pregetha mi fasa gol- wg gwell ar y byd yma. Sian Ifans: I ble gebust ryda chi yn mund rwan, deudwch ? Son am bobol y Senadd yna yn moudro hefo liolides wnes i, a sonis i yr un gair am na phregath na phrygethwr. Dafydd: Naddo siwr, ond mi ddoist a'r testun i mewn, a fi ddoth a'r bregath, ac mi ddaru Wil Ffowc i phrygethu hi ar i union. Prygethwr ddylia Wil fod yn Biwv i chi. Wmffra: Mae'n well iddo fo yn lie mae o mi geiff fwy o barch a llai o'i gicio. Chymswn i mo'r byd yma a newid dwy safla hefo'r prygethwr gora. Sian Ifans: Dowch at y pwnc, a pheid- iwch a chablatshio hefo petha gwirion felna. I be andros y mae isio gyboli hefo holides ? Wil Ffowc: Tasa ti yn arfar cael rhyw- batli gan Edward bob blwvddyn fasa ti yn leicio i rywun i gymrud o oddiarna ti? Sian ifans: Na faswn siwr iawn. Wil Ffowe: Fasa ti ddim yn oodi row petasa rhywun yn treio gneud? Sian Ifans: Wel baswn. debig iawn Wil Ffowc Wel dyna'r cwbwl sydd wedi cael ei wneud hefo'r holides. Mi roedd y gweithivvrs yn arfar cael holides y SuL gwyn, ond fe dreiwyd eu stopio am eleni oherwydd fod isio gneud bwlats i ladd y Germans. Edward Ifans: Dwn i ar y ddeuar fawr yma i be ma,e holides yn dda o gwbl. Taswn i'n glem, mae yr oes yma wedi mund, mi fasa dynion a merehed yn leicio cael holides rownd y flwyddyn, pe tasa nhw yn cael. Toes arnu nhw ddim isio gweithio, dim ond bwyta ac yfed, rhod- iana a chysgu. Dyna leicia nhw gael yn siwr i chi. Wmffra: Rwut ti'n deud y gwir, Ed- ward. Welis i ddim holides o gwbwl yn fy amsar i. Dim ond gweithio o'r naill ben wythnos i'r llall. Wil Howe = A chaniatau fod Edward Ifans yn deud y gwir, or nad ydi o gwm- pas lot, ond fe ddwedwn i fod y gweith- iwrs isio pob peth ond gwaith; tyda chi ddim mewn difri yn gwelad fod meistriaid isio pob dim ond talu cylloga. Mi gaw. sai'r gweithiwr weithio Sul, gwyl, a gwaith, heb yr un stop, heb na chyflog, bwyd, na, chysgu, pe buasant ddigon gwir- ion i neud. Mae y rhan fwua o'n meis- triaid ni mor filain fod y wlad yma yn cadw'r Sul fel y basant yn gneud rhwbath i flotio y Gorchymyn o'r BeibI a rhoi un yn ei le. Sian Ifans: Rasmws fawr, paid a siarad mor benffol, Wil bach. Tyda ni gin falchad o'r Sul fel y basa ni yn leicio gwelad pob dydd yn ddydd Sul. Wmffra: Toes dim isio'r gwylia ma yn eno'r grym. Tydu dyn wedi ei neud i weithio, a laddith neb mohono'ei hun wrth weithio. Rhiw hen lol wirion ydi mynd i newid yr aer ac i rodiana. Mi roedd pobol yn byw yn hwy o'r hanar pan nad oedd gwylia na rhodiana yn y byd yma. Wil Ffowe: Ryda chi yn camgymeryd yn gynddeiriog, Wiliff I-a. Mae dyn, 'run fath a phob peth arall isio cael gorffwys. Ddeil dyn ddim i'w falu o hyd mwy na rhyw felin arall. Meddvliwch chi am ryw erfvn neu beiriant a gadewch iddynt fynd yn ddistop o hyd fe welwch mai rhedeg hwy i fullstop wnewch chi felly; ond rhowc-h chi dipyn o sbel iddynt rwan ao yn y man fe gewch wasanaeth well a hoedl hwy iddynt o lawer. A tydi dyn ddim ond yr un fath a rhyw beiriant arall, mae o isio epel i orffwys weithia. Edward Ifans: Mae spel i orffwyso wedi gweithio yn wahanol i gymryd holides i fynd i jolihowtio. Tydi pob gweithiwr yn cael gorfFwyso yn ei wely, ac y mae hyny yn llawn ddigon, faswn i'n tybio. Dafydd: Ond mae isio i'r gweithiwr gael newid can a newid byd hefyd yn lie sefyll yn yr unman o hyd. Sian Ifans: Debig iawn, mi rydw i o'r un farn a Dafydd ar y pwnc yna. Wmffra: Wei tydw i ddim, achos tydi o'n ddim ond gwario pres yn ofar yn ol fy marn i. Wil Ffowc: Nid gwario arian yn ofar ydi edrach ar 01 ein hiechyd yn siwr gen i. Edward Ifans: Dyna lie ryda chi yn i cliolli hi. Cymerwch yr hogia yraa oedd yn y ffatrioedd gwneud arfa, mae nhw yn dcud eu bod yn gweithio oria meithion, a galad iawn. Nhw sy'n deud; ond tydw i ddim yn meddwl i bod nhw yn c'ir.vvsa rhyw lawar o dan y Llywodrath. Ond dciidv. cli i bud nhw, a'u bod nhw yn gneud arian fel slecs. "Tel rwan, mae nhw yn gofyn am wylia i orffwyso., a dendweh i bod nhw yn i cael nhw, be wna nhw hefo'r pres a'r gwylia? Mi a'n i ryw in i'w gwario nhw i gyd, ac mi fyddan •redi I In dd i hunan bron yn envvdro ac yn main, ncs y byddant yn dod adra yn dlawd ac wedi rhcdag en peiriaiit i'r pen. Nid gwylia i orffwys gymerant, ond gwylia i fliiio en hunain yn fwy. Twt lol, toes yna ddim sens mewn peth felna. Harri: Dyna wirionadd plaen iawn, ac nid oes neb fedar i wadu fo chwaith. Wil Ffowe: Fealla eioh bod yn deud y gwir am lawar o'r gweithiwrs; ond tydi hyny ddim yn rheswm dros beidio rhoi gwylia i'r bobol fedar i hiwsio nhw yn iawn. Mwy nag y buasa fo yn iawn i chi ddetid fod can y tafama aT y Sul yn beth ffol am fod rhai yn mynd i chwilio am gwrw lie mae o i'w gael. Sian Ifans: Wei done Wil, dyna daw ar eu clap. Wil Ffowc: Mae'r gweithiwrs yn haeddu eu holides, ac fe ddvlant i gael o ar bob cyfrif. x Edward Ifans: Nid isio gwylia mae nhw ond cael arian. Welsoch chi mor smart y buo nhw yn cael amsar a hanar yn lie gwylia, ac fe fasant yn gweithio ddydd a nos pe rhoddid mwy o dal am dano. Mae'r gweith i ,m v Mae'r gweithiwrs yn goblynod am arian. Wil Ffowe: Dim ffiars, Edward, nid dyna ydi'r syniad dros osod mwy o bris am ofartime, ond gwneud ei bris mor fawr f el na b- fawr fel na bydd gofyn am ei weithio. Mae wythnos lawn yn ddigon i bob dyn os caiff dal teilwng a chyflog byw am dano. Wmffra: Dyn byw, peidiwch a ChYll- peidiweli a clivn- hyrfu, waeth i chi heb na phonsio mae y matar wedi ei setlo, fe gaiff pawb sydd heb fod yn gwneud arfau eu holides fel arfar, ac fe gant hwythau eu gwyliau pan daw vr amsar i gniatau hyny. Rwan gadewch i nina gael mynd er mwyn cael tipyn o orffwys, mae hi yn amsar swper, a rhaid tre.io sbario'r gola. Nos dawch.  1
DROS Y DWR. J
DROS Y DWR. J (O'r "Drych.") í PRIDDO MUN 0 FETHESDA. Dydd Mereher, Ebrill 13eg, yn 3o7, W. 15th Street, Efrog Newvdd, bu farw Airs Laura Ann Jones, priod Mr Robert R. Jones. Merch ydoedd i'r diweddar David a Jane Thomas, Bryn Llys, Bethesda, ac nid oedd ond 51 mhvydd oed. Ymfudodd i'r America gyda'i phriod yn 1902. Cladd- wyd ei gweddillion Ebrill 20, ym mynwent Rensioo, y Parch Joesph Evans yn gwas- anaethu. MARW GWR 0 FFESTINIOG. I Mawith 31, yn 73 mlwydd oed, bu farw I Mr Evan W. Roberts, Bangor, Va. Gan- w vd ef yn Glanypwll, BI. Ffestiniog, ac yn 1868 ymfudodd i'r America. Claddwyd ei bi-iod dair blynedd yn ol. Bydd ei fanv- olaeth i'r eglwys yn Bangor yn golled fawr, gan ci fod yn hynod wasanaethgar yng ngwinllan Duw. ANGLADD GWRAIG 0 FON. I Cofnodir a ganlyn yn Nodion Carroll, Neb. Nos Sul, Ebrill 9, bu farw infris Eliza- beth Jane Roberts, priod Mr R. H. Ro- berts yn ei chartref tua 1 milldir o Shols. Nid oedd ond 32 mlwydd oed, a bu farw yn sydyn o waed fwenwyniad. Un o blant plwyf Llanddeusajnt, Sir Fon, yd- oedd, a daeth drosodd i'r America mor ddiweildar a 1912. Gedy briod a dau o b!ant i alaru ar ei hoi. Claddwyd hi y I dydd Mawrth dilynol, y Parchn D. Penry Davics a D. T. Davies vn swasanaetlm MARW BACHGEN 0 DRAWSFYNYDD. Mai 3ydd, ac efe on 30 mlwydd oed, bu farw Mr John Parry, Deerfield, Efrog Newydd. I n o blant Trawsfynydd yd- oedd, ac yr oedd yn gyimeriad tawel a di- ymhongar. Gedy briod ac un plentyn bach i alaru ar ei ol. Cafodd angladd parchus Mai 6, y Parch I) M. Richards, I gweinidog ei eglwys:, yn gwasanaethu. DIWEDD GYRFA GWR 0 FETHEL. I Yn Nodion Wardnrr, Idaho, ymddeng- ys a ganlyn:- Dydd Mercher" Mawrth 21, bu farw Mr Robert Williamsi, yr hwn ddaeth i'r wlad hon o Fethel, Arfon, yn Ionawr, 1886. Nid oedd ond 54 oed. Gedy weddw i alaru ar ei ol. Cafodd angladd tywysogaidd, y Parch D. K. Roberts, Spokane, yn gwas- anaethu. MARW MUN 0 EBENEZER. I Nos Sadwrn, Ehrill 29, bu farw Mrs Catherine Edwards, priod Mr Robert Edwards, Church Street, Slatington, Pa., a, hi yn 63 mlwydd oed. Ganwyd hi yn Ebenezer, Sir Gaemarfon: a gadawa- i alaru ar ei hoi briod, dwy ferch, a mab. Claddwyd hi ddydd Mereher ym mynwent Fairview, y Parch John Williams, ei gweinidog, yn gwasanaethu. • • ]
A TEBION I GWESTIYNAU 1
A TEBION I GWESTIYNAU 1 LLEF ODDIAR Y LLIF." I (At OIyg\dd y "Dinesydd.") Syr,—Yn y "Dincsydd" yr wythnos o'r blaen yr oedd "LIef oddiar y Liif On gofyn am atebiad i un.ar-ddeg o gwostiyn- au a theimlaf awydd wneud cais at eu hateb fel un o weithwyr coleg anian. Cymeiaf hwynt yn eu tro with y rhifau itKldodd efe iddynt: Pan yuuina dyn a'r fyddin. yn ot "Apostol Heddweh," y mae y funud honno yn peidio a bod yn Grist- ion oblegid y mae hawl y swyddog mil- wrol wedi myned yn hawl gyntaf arno, a hawl Duw yn ail. Y gyfraith filwrol ydyw, mai unig ddyledswydd milwr ydyw ufuddhau i'w swyddogion," gan fod ei gydwybod a'i gyfrifoldeb i Dduw a'i gyd-ddyn yn gwbl yn eu llaw hwy. 2.—Nac ydynt, maent wedi eu colli yn y lie amhriodol, gyda'r gwaith amhriodol, a chydag amcan amhriodol. Oblegid llid, nwyd, gelyniaeth, a chynddraedd sydd yn symbylu pawb ar faes y gwaed. Gorch- fygu y teimladau crefyddol 'dyw'r ffordd yn gyffredin i wneud milwr da. Dioddef, heb geisio amddiffvn gydag arfau cnawd- ol, ydyw llwybr hunan-aberth. "Arfau ein milwriaeth ni nid ydynt gnawdol," &c. 3.—Wedi dinistrio (yn llwyr) fywyd tymhorol unrhyw genedl, nid oes cyfle mwyach wedi ei adael i neb i fod o fantais i'w bywyd ysbrydol. 4.—Mae'r gwahaniaeth yn fawr iawn, oblegid gyda'r effeithiau y delia y Llyw- odraeth; tra mai a'r achosion y delia Cristionogaeth. Ebai Gwladwriaeth, "Na ladd." Ond, meddai Crist, "Paid a digio wrth dy frawd, a'i alw yn Raca ac ynfyd," obleigid dyna achoson llofruddiaethau yn eu gwreiddiau. Ebai Gwladwriaeth, "Llygad am lygad." Ond, ebai Crist. "Tro dy rudd aswv i'r neb a'th darawo ar dy rudd ddehau," &c. "Car dy gymydog a chasa dy elyn," ebai'r byd; ond, ebai Crist, "Cerweh eich gelynion," &c. 5.—(a) Ni ellir yngwvneb deddf Duw, y mae hi yn gorchymyn "Na ladd." (b) Fe ellir bod, am fod deddf gwlad yn cyf- reithloni lladd y gelyn ar faes y gwaed. (c) Ni ellir lladd ar faes y gwaed heb droseddu yn erbyn cydwybod oleuedig gaii Dduw. Rhaid cofio fod rhyw fath o gyd- wybod v/ladwriaethol yn bod, yr hon a blenii- vililob milwr ynghwrs ei ymarfer. jadau, yr hon a'i cyfreit-hlona i ladd y gelyn. Ond coher mai cydwybod gwlad- wriaethol a'i bod hi yn ddifudd iawn i'n evfiawnhau gerbron y Tad am i ni ladd ein brawd. Fe ysgrifenai un o'r enw Mr Maurice nad oes a wnelo'r milwr ddim a'r cwestiwn o gyfiawnder unrhyw Tyfel, oblegid ni all dim a wna efe newid barn y Llywodraeth: ei waith ef ydyw ymladd, ac nid arno ef y mac y cyfrifol- deb. Ond gwell gennym ni gredu gyd a Henry Richard "fod pob un drosto ei hun i roddi cyfrif i Dduw," a hyn sydd Ysgry- thvrol hefvd. —Nid cymydog mo'r Almaen heddyw, obleigid y mae ei haddysg, a'i meddwl, a'i hysbryd ar lawn gwaith yn ceisio ein liarcholli a'n lladd. Ac felly ninnau, tnvy cin haddysg, a'n meddwl, a'n hys- bi-yd, yr ydym yn ceisio talu'r pwyth yn ol. Ychydig bach iawn mae yr Ahnaen a ninnau yn gredu heddyw yn "Nameg y Samaritan Trugarog." Yr ydym ar ein goreu yn ceisio cael goruchafiaeth ar ein gilydd gyda'n galluoedd matero!. Rhai'n sydd yn eu "date" gan fyd ac egiwys y dyddiau hyn, y rhai sydd yn chwalu, lladd, a thlodi ar bob llaw; tra y mae'r offeiriaid a'r Lefiaid yn parhau i fyned o'r tu arall heibio; ae, ysywaeth, y Samaritan wedi myned aHan o'r byd. ■ Mae rhai pobl ddysgedig am j ni gredu fod hynnv yn bosibl, a bod y rhyfel hon yn myned i ddiweddu rhyfela. Ond nid ydys yn gallu eu credu, oblegid ni all taro, newynu, a Hadd byth ladd yr elyn. iaeth; ond yn hytrncli i'r gwrthwyneb meithrinant hi: "Pwy bynnag a godo gleddyf, a ddifethir a chleddyf." Ac os mai milwriaeth, magnel, a chledd a bar- hawn i lau, dyna bethau hefyd a fedwn maes o law. "Canys pa beth bynnag a hauo dyn, hvnny hefvd a fed efe." Gof- ynai Jago yr Apostol: "0 ba le y mae rhyfeloedd ac ymladdau yn ein plitli? Onid oddiwrth ein melus chwantau." Ac onid yw yn nodi y rhai canlyno 1 fel gwi-e,iddiaii i-livfel-C-liweiivcliii, cenfigenu, ciddigedd, &c? Beth yw dysgeidiaeth yr lesu i ladd y gwreiddiau hyn. Onid cai-ti y gelyn, a'i borthi, a gwneud yn dda iddo, &c.? Ond rhyfedd ar ol I ni gredu a phregethu dysgeidiaeth yr lesu am gy- maint o amser, ei fod Ef a'i ddysgeidiaeth yn "out.of-date" heddyw, a'u bod hwy wedi cael eu troi o'r neilldu dros y cyfwng tma, hyd rhywamser cyfaddas eto. 8.—Nid yw yn anghyfreithlon wladwr- iaethol, pe cfelychai y werirv weithrediad- au y llys milwrol, trwy fyncd yn llysoedd barn eu hunain a phenu hynny yn gosb a:' bob gormeswr mewnol, fel y gwna y llys milwrol hvnrty a'r gormeswr tramor. Ond cofier y by dda i gweithred felly yn drosedd moesoi. "Arfau ein. rnilwriaeth ni nid ydynt gnawdol," ebai'r Cristion. 9.—Esboniad gore ar y presennol a'r dyfodol ydyw y gorffennol. Pa fodd yr ymddygwyd atom yn yr amser a aeth I heibio? Felly yn union yr wyf yn ofni yr ymdilvgir atom eto yn y dyfodol. 100. Credaf fod pob un fiydd yn galw arnom i ladd y gclyn yn llofrudd dwbl, neu driphlyg, neu ragor na hynny oblegid y mae y sawl sydd a llaw ganddo i yrrii eraill i ladd ac i gael en lladd, yn llofrudd gwirioneddol yngolwg Duw, ac yn llofrudd mawr iawn hefyd, o bosibl, am y gofynir gwaed gwiriou llawer oddiar ei law. Meddylier faint o'r gelyn all v rhai anion, edig ladd cyn cyfarfod a'r un dynged eu hunain; a faint o famau a gwragedd a phlant bach all fod wedi eu chwalu, ac yn eu beddau o dor calon a chyni ar ol eu hanwyliaid yma ac yn Germani; a gofynir gwaed yr oil oddiar y dwylaw a nodwyd. Y mae un o'r gorchymynion yn gwahardd fel hyn: "Pwy bynnag a chwenycho Wi-aig ei gymyùog, y mae eisioes wedi gwneuthur godineb a hi." Priodol y gcllid cymwyso yr ymadrodd fel hyn, i ddangos pa mor lan ydyw y rhai sydd yn galw arnom: "Pwy bynnag a chwenycho i'w gymydog i fyned yn filwr i ladd y gelyn, v mae eisoes wedi gwneuthur ei hUll yn llofrudJ." II.-Dywedir am wraig un o ymherawd- wyr y gwledydd sydd yn rhyfela iddi ddweyd ychydig cyn i'r rhyfel yma dorri allan mai eisiau rhyfel oedd yn Iwrop or mwyn dal y werin i lawr. Gres.vn hynny hefyd pan oedd y wet-in yn dod i fyny am ei hawliau.- Yr eiddoch, UN 0 YSGOL ANIAN. I
:Y DIWEDDAR GEORGE THOMAS.…
Y DIWEDDAR GEORGE THOMAS. BRAICH TALOG, TREGARTH. DAMWAIN ANGEUOL YN Y DE. I Bore dydd Mawrth, illai 23, cyfavfu George Thomas, Braich Talog, Tregarth, ger Bethesda, a damwain angeuol yng xVglofa Bedwas, ger Caerffili. Yn y He hwn y cartrefai yr ymadawedig ers rhai blvnyddau. G¡nwyd ef yn Braich Talog •>J mlynedd yn ol, ac nid oedd neb yn yr ardal yn fwy adnabyddus na "George Braich, fel yr arfcrid ei alw. 0 ochr ei dad perthynai i un o'r hen deuluoedd mwyaf parchus yn yr ardal, oeddynt yn enwog mewn mwy nac un ystyr. Enw tad George ydoedd Robert Thomas, a bu ef am llynyddoedd yn per- thvn i'r hen wirfoddolwyr oedd yn per- tlivn i Chwarel y Penrhyn ac yn aelod o 1 hen Seindorf Frenhyiol y Penrhyn. Bu Robert Thomas hefyd yn arwain y canu yn Shiloh (W.), Tregarth, am flynydd- oedd gyda medr neillduol. Yr oedd i Robert Thomas dri o frodyr j a chwaer, sef Owen, Richard a William f Thomas, a Mary, gwraig y diweddar Hugh O. Roberts, Penybryn, -Bethesda. Yr oeddynt i gyd fel bechgyn yn ogystal a'u chwaer Mari fel y bwldai y brodvr yn ei gali- Nn galiu norio fel pvsgod, a threul- iasant lawer i awr, eu chwaer gyda hwy, yn ymbleseru yn nyfroedd yr Og\ven yng Nghoed y Dinas. Enwogodd Richard Thomas ei hun fel pysgotwr, ac ami i cog ddenwvd ganddo i lyncu ei "blu," ac wrth wneud hynnv a ddaliwyd gan y pys- gotwr. Enwogodd Owen mewn cyfeiriad hollol wahanol duwinydd ydoedd ef, ac yr oedd y gallu ymresymiadol yn grvf neillduol ynddo. a gwelir ci ol ar rai o fecligyn aradaloedd. Ffestiniog, He y bu yn trigianu am rai blynyddoedd, yn ogystal a bechgyn Tregarth. Y mae y brawd arall drachefn, sef Wm. Thomas, a'r unig un o'r plant erbyn hyn sydd yn fyw ac wedi evrraedd oedran teg, yn flaenor vn Shiloh, Tregarth. Mae yntau yn gyfar. iN,I ae -,7iitaii 'vn ?-,v f a ll wydd iawn yn ei Feiul, a gwyr yn eithaf da pa,harn y mae yn Wesload. Mae ein hen gyfaill yn hoff neillduol o ganu. Bass yw ei lais, ae os na fydd yn gallti canu ei lais allan ar ambell i don, y mae yn ddigon galluog i wneud bass o eiddo ei hun ar y don. Dvmunwn iddo noswyl bywyd dedwvdd a thawel. O ochr ei fam drachefn, yr oedd George Thomas yn hanu o hen deulu parchus iawn. Tad ei fam ydoedd George Moses, brawd i'r diweddar Luke Moses, Bryn- eglwys, y rhai oeddynt yn bregetliwyr cy- northwyol cymeradwy jou-n. 0 ochr ei mham yr oedd yn fereh i Ann Owen, un o hen deulu Cororion. Adnabvddir mam George wrth yr enw Catsan Braich, ac v mae hithau wedi bod yn enwog fel can- tores ac yn hoff iawn o ganu. Nid oes dim yn fwy wrth ei bodd na dysgu tonau ac anthemau newyddion ar gyfer y Gv- anfa Ganu. Y mae i George dri o frodyr, ac un chwaer, sef Thomas a Robert, y rhai sydd yn gweithio yn Nhredegar Newydd, ac Owen R. Thomas, Tyddyn Tegai. Tre- garth; a Jane, priod Mr Richard Griffith" organydd presennol Jerusalem, Bethesda. Y mac y plant hwythau i gyd, fel y tad a'r fam, yn gantorion gwycli, a llawer i awr dreuliasom ni gyda hwy i ddysgu canu, obleigid yn nhy Catsan yr oedd ysgol ganu bechgvn yr ardal. 0 hen amser annwvI a dedwvdd. Y mae meddwl am dano yn cyffroi ein teimladau, ac yn peri i ddagrau wlychu ein gruddiau vn ami. Gwyr pawb drwy y wlad am allu cerdd- Ollol ein cyfaill anuwyI Owen R. Thomas, arweinydd canu presennol Shiloh, Tre- garth. Y mae yn alluog iawn fel arwein- ydd cerddorol, ac y mae ei enaid yn y gwaith da. Y mae Owen yn briod gydag Ann. ail ferch y cerddor gwyeh, y diwedd- ar Wm. Tegai Hughes. Yr oedd George hefvd yn enwog iawn fel datganwr, ac er nad vdoedd wedi cyr- raedd safle ei frawd Owen fel cerddor, yr oeddyn adnabod bron bob ton* ac yn e-oflo cy weir nod pob un, a byddai wrth ei fodd os cawsai ganu, ond erbyn hyn y mae yntau wedi tewi yn y tywod. Cymerodd ei angladd le prynha-wn Sad- wrn, y ïain o Fai. Gwasanaethwyd yn ei angladd gan y Parchn D. H. Rees, Tre- degar Newydd a Liwchwr. a Jones, Bed- was. Daeth nifer fawr iawn o fecligyn Tregarth a ileoedd eraill o'r Gogledd i'r angladd. W rth y ty cyn eychwyn am y gladdia canwyd yr hen emyn "Yn y dyfr- ocdd," yna awd a'i gorff i Gapel Pisgah (B.)). Canodd y cor a'r gyntilleidf.-t un o hoff emynau George, "Mae nghyfeillion adre'n myned," a "Deffroir fy nghysglyd lwch." Darllenodd Mr Rees, Tredegar Newydd, rannau o'r Ysgrvthvr a siarad- odd Mv Jones, gweinidog yr eglwys ymha un yr ydoedd George yn aelod. Rhodd. odd dystiolaeth o gynieriad uchel iawn iddo. yn enwedig yn ystod y misoedd di- weddaf part hed ei sel a'i ffyddlondeb gyda phethau crefyddol. Yr oedd, meddai, yn ymliyfrydu yn y ceiat a'r cwrdd gweddi, a mynegai ei brofiad crefyddol gyda liwyl trwy gyfrwng rhyw hen emyn. Yr oedtll yn hynod o vmroddgar yn yr Ysgol Sul, ao yr oedd pawb yn lioff iawn ohono. Wedi hynny siaradodd y Parch D. H. Rees, a dywedodd eiriau caredig iawn am George fel cyfaill a chymwynaswr dihafal, am ei hoffder neilltuol o ganu a phethau cysegredig. Chwareuodd yr organydd y "Dead March" ar yr organ, ac yna awd a'r eorff i'w gladdu i'r gladdfa perthynol i'r capel. Wedi myned trwy y gwasanaeth terfynol wrth y bedd, carnvyd yr hen emyn annwyl sydd wedi bod yn gysur i lawer o alarwyr glan beddau gartref ae oddicartref, "Bydd invrdd o ryfeddodau," ac yna bn raid gadael George Braich i huno ei hun olaf yn Bedwas, yn Sir Fynwy. Dyna aeth drwy ein meddwl wrth ffarwelio a George Thomas,— Yn Bedwas ym Mynwy gadawn di i huno, 0 Bedwas ym Mvnwy disgwTliwn- di'n effro, Bootl melus dy gwsg, heb ddadwrdd na dwndwr, Hyd nes y cei godi i foli'r Gwaredwr. Boed y nef yn dyner iawn o'i weddw a'i ddwy ferch, a'i fab, yr hwn oedd wedi dod1 o Ffrainc i gladdu ei dad; bydd yn rhaid iddo ddyehwelvd yn ol heb yr un tad daearol, ond hyderwn y bydd i Dad yr arnddifaid fyned gydag ef yn of, ac y bydd Robert Arthur yn ymddiried ei gwbl iddo cf. Y mae ein cydymdeimlad yn fawr iawn gyda'i tarn oedrauus. sydd erbyn hyn wedi ei gad^ ael wrthi ei hun yn y gongl. Chwith iawn ydyw gweled Ty Catsan, ers blynyddau yn awr, mor wag. Bydded i Farrarr y gweddwon ofalu am dani hi yn ei blynyddoedd olaf. Y mae yr ergyd yn drom iawn, ac yn anhawdd i'w dal. Gwyr yn barod am brofedigaethau bywyd, ond y mae hon yn dod yn agos iawn ati hi, a hyderwn y bydd i'r eniynau annwyl, ugein- iau olionynt, sydd ar ei chof fod yn gysur iddi ac yn help iddi hi i weled drwv a thu draw i'r cwmwl hwn. V. el, bollach, rhaid svehu ein hvsgrifbin a ffarwelio a George Thomas hyd y bore pan y byddo "Dorau beddau bvd, ar un gan- yn agoryd." Heddweh i'w lweh.
Y PUM "GROUP" OLAF.
Y PUM "GROUP" OLAF. Y Proclamasiwn. Mae'r proclamasiwn wedi ei gyhoeddl yn galw ar bob dyn o Ddosbarthiadau 24 i 46 o'r Army Reserve i gyflwyno eu hunain ar ddyddiadau i'w nodi neu erbyn Gorff- ennaf 14. oddigerth lie bo apel esgusodol yn aros. Y safle, felly, heddyw vdyw:— Groups 23 i 41 (cynwysedig) yn awr yn cael delio a hwy. Groups 42 i 46 eu galw am Fehefin 13. Eisiau mil o wyr priod cymwys o ran cyrff ac :echyd dros 35 mlwydd oed at waitli rhyfel pwysig gartref. Cyfundrofn y "Groups" yn can yn der. fynol Mehefin 7. 11,000 i 12,000 o rybuddion yn tynnu'n ol y "badge certificates" gjdioeddwyd yn ystod y ddau fis diweddaf. Bydd pob dyn fo heb "attestio" yn dechreu cyflwyno ei hun ar Mehefin 24. Golyga hyn y bydd pob dyn cymwys i'r fyddin ar ddiwedd y mis hwn wedi cael ei gymeryd i fewn i gvlch y Ddeddf.
Y GYNHADLEDD LAFUR.
Y GYNHADLEDD LAFUR. Y PenderfYniad Terfynol. Penderfynwyd yn derfynol fod y Gyn. hadledd Jafllr am y flwvddyn nesaf i'w; ehynal ym Manceinion. Disgwylir y bydd y Gynliadl"dd hon v fwyaf gynhaliwydt erioed gan y Blaid. Bydd y cvnrychioK wyr yn cyfarfod ddydd Mereher' dydd Iaai a dydd Gwener, Ionawr 24, 25, a 26, yn Albeit tlaJl, Peter Street. Os bydd y rhyfel ar l-en bydd nifer y cynrychiolwyp lawer yn fwy. Ymdrinir a phynciau pwysig a llosgol.
. PRIS WYAU YN BERLIN.
PRIS WYAU YN BERLIN. Yn ol newyddiaduron Germanaidd, mae Berlin yn dioddef yn ddirfawr oddiwrth brinder wyau. Mae wyau ar hyn o bryd yn 7c yr un yno. —   ?——————????