Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
43 articles on this Page
I GWRTHOD GWRANDO ACHOS.
I GWRTHOD GWRANDO ACHOS. 0 flaen Tribunal Apel Ty'r Cyff redin, yr wythnos ddiweddaf, apeliodd clerc yn y Swyddfa Rhyfel am ryddhad fel gwrth- wynebydd cydwybodol. Y Cadeiiydd: Dyn yn y Swyddfa Ryfel yn proffesu gwrthwynebiad cydwybodol i wasanaeth milwrol. Nid wyf yn bwriadu myned i mewn i'r achos, a theflir yr apel pllan,
DYFFRYN NANTLLE.
DYFFRYN NANTLLE. Anrhegu.—Dydd Sadwrn, Mai 20 caf- wyd gwledd gan Gymdeithas y Groes Goch er cydnabod gweithgarwch Dr E. S. Roberts a, Nyra Roberts. Ar ol y wledd anrhegwyd Nyrs Roberts gyda Silver Photo Frame, a Dr E. Shelton Roberts gyda Silver Inkstand. Cyflwynwyd yr anrhegion gan Mrs Thomas, Talysarn, a Mrs Williams, Brynaerau. Beirniadu.-Bu MV J. W. Griffith, G. and L. yn beirniadn mewn tail- Cynianfa Ganu eleni, ac y mae eisys wedi derbyn amryw alwadau at y flwyddyn nesaf. Cyfarfod Misol.-Dydd Llun, yn Hyf- rydle, Talysarn, cynhaliwyd Cyfarfod Misol Arfon, dan lywyddiaeth y Parch J. H. Lloyd Williams, B.A., Clynnog. Caf- wyd derbyniad eiriol gan y cyfeillion yn y lie. Gwrandawyd ar hanes yr achos gan y Parch D. Perry Jones, Rhyd-ddu. Der- byniwyd nifer o flaenoriaid yn aelodau o'r Cyfarfod Misol. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan Mr J. B. Davies, Llan- llyfni; Parchn H. Harris Hughes, B.A., R. W. Hughes, Bangor; a W. E. Williams, Penvgroes. Nos Lun pregethwyd gan y Parch W. Griffith, M.A., Disgwylfa; a nos Fawrth gan y Parch R. H. Watkins, Dinorwig. Rehearsals.—Cafwyd rehearsals a chanu arddercliog ynddynt ynglyn a Chymanfa Gann Bethel, nos Sul, un yn Llanllyfni, o dan arweiuiad Mr W. J. Williams, Taly- sarn; yn Saron, Penvgroes, o dan arwein- iad Mr T. H. Hughes, Tanrallt; yn Tal- ysarn, o dan arweiniad Mr W. Parry, prifathro Ysgol y Cyngor, Penygroes. Nos Sadwrn aesaf, yn Bethel, cynhelir rehear- sal gyffredinol, dan arweiniad Mr Parry, a disgwyliwn ernes o ganu da y Gymanfa geir y Sadwrn dilynol. Gresyn fod y rhyfel yn dwyn ein Cymanfaoedd; ond deued "Ysbryd y peth byw" arnom eleni i'n cael i ganu a gweddio mwy nag erioed. Yn rehearsal Talysarn canwyd pedwarawd gan Miss Maggie Powell, Nantlle (soparno) Miss Williams, Cae Mawr (alto) Mr G. Cli. Jones, Talysarn (tenor); Mr 0. W. Francis, Nantlle (bass). Canodd y pedwar yn rhagorol, a chodwyd Asbryd pawb i ganu yr ftthem "Teyrnasoedd y Ddaear" (Ambrose Lloyd). Marw n Awstralia. Daeth newydd trist iawn yma. fore dydd Mawrtb, Mai 30, i Mr a Mrs John Griffith, Llwyndu Bach, sef fod eu mab, Mr Hugh Griffith, wedi marw yn Awstralia ar y 3ydd o Ebrill, a'i gladdu ar y 4ydd o Ebrill. Cafodd ang- ladd parchus iawn. Gwasanaethwyd yn yr angladd gan y Parch J. Price Jones, gweinidog yr Annibynwyr. Nid oedd -Hugh ond 39 mlwydd oed. Mae profedig- -aeth y teulu yn un lem; ond ceir eydym- deimlad llwyr yr ardal gyda hwy. Llwyddiant.—O Gymanfa'r Bedyddwyr gynlialiwyd yng Nghaernarfon ddydd Jau. .daetli plant eglwys Calfai-ia, Penygroes, a tillu mawr o wobrwyon gyda hwynt, a'r -wobr flaenaf dnvy y sir. Yn y dosbarth dros 21 oed daeth Trebor Eifion yn ail; ac o dan 7 oed yr oedd Mary Jones, Chapel Street, yn gyntaf Daeth 22 « dyst- ysgrifau yno hefyd. Ni allwn lai na chan- mol yr eglwys am y gwaith da wnaed ganddi yn ystod y flwyddyn. Ymddis»vyddo.—Deallwn fod y Parch G. Ceidiog Roberts, Llanllyfni, yn rhoddi ei fugeiliaeth i fyny oherwydd gwaeledd iechyd. Bu yn cymeryd rhan bwysig ym I mywyd cyhoeddus y dyff ryn yn ystod. ei arosiad yma.
FELINHELI. I
FELINHELI. I Llwyddo.-Da. gennym ddeall fod plant Ysgolion Sul Moriah a Siloh (A.) wedi dyfod allan yn rhagorol yn arholiadau y Gymanfa Ysgolion Dosbarth Bethel, a gynhaliwyd yng Nghaernarfon dydd Iau, a llwyddodd dau o Ysgol Moriah i ennill y prif wobnvyon, sef Miss Katie Hughes, Bangor Street, yn yr arholiad ysgrifenedig y pumed safon, a Master Eifion Jones, Disgwylfa, yn arholiad 11afar, y drvdedd safon, gyda marciau Ilawn. Dymunem longyfarch y plant yn eu llwyddiant. Marw.—Nos Wener, cymerodd marwol- aeth Mrs Bennett, 30, Bangor Street, le. Priod ydoedd i'r diweddar Capten Ben- nett, yr oedd yn 82 mlwydd oed. Cydym- Zoilutir yn fawr a, Miss Lucy Bennett, oedd gartref gyda'i mam, ynghyda tair eraill o ferched a dau fab sydd oddicartref, yn en profedigeth chwerw.
...I GWRTHWYNEBU YMLADD.I
I GWRTHWYNEBU YMLADD. I Yn Ormskirk, ddydd Sadwrn, cyhudd- Wyd Thomas Baldwin, Burscough, o fod yn absennol o'r fyddin o dan y Mesur Gwas- anaeth Milwrol. Dywedodd ei fod yn gwrthwynebu ymladd, ac yr oedd yn fodd. Ion i wyaebu angau yn hytrach na chy- meryd bywyd dyn arall. Tystiodd yr Uch-Arolyirydd Hogdson fod y carcharor wedi dweyd wrtho fod y Testament New- ydd yn dweyd wrtho na, ddylai ymladd. Y Cadeirydd: Rhaid ei fod wedi ei ddad- llen a'i ben qchaf yn isaf. Pirwywyd ef i 2p.
I TRETH AR DDIAMWND..
I TRETH AR DDIAMWND. I Rhoddodd Senedd De Affrig dreth ar drosgludiad diamwnd.
I -Y TYPHUS YN BELGRADE.I
I Y TYPHUS YN BELGRADE. I Dywedir fod pump o swyddogion Aws- ti-ia wedi marw o'r typhus yn Belgrade.
I AELODAU CANADA.i
I AELODAU CANADA. Mae ;2;) o aelodau Seneddol Canada, a 41 o aelodau y Llysoedd Taleithiol yn gwsanaethll yn y rhyfel.
I POBLOGRWYDD ROOSEVELT. )
POBLOGRWYDD ROOSEVELT. ) Yn oj dull yr lanci o siarad y mae'r betio yn gyfartal mai Roosevelt fycfd dewisedig y werinlywodraeth i'r Ty Gwyn.
I AWYRLONG AWSTRIAIDD I LAWR.…
AWYRLONG AWSTRIAIDD I LAWR. I Yr wythnos ddiweddaf dvgwyd awyr- long Awstriaidd i lawr yn y Lower Adriatic-
TRANC GENETH. I
TRANC GENETH. I Dydd Sadwrn, yngorsaf Freshfield, tar- awyd geneth 15 oed, o'r enw Mary Brad- shaw, i lawr gan gerbvdres, a lladdwyd hi. Mahiriwvd ei chorff yn ddarnau.
I CASGLIAD MAWR 0 WYAU. [
I CASGLIAD MAWR 0 WYAU. [ Er dechreu y rhyfel; hysbysir fod mil- iwn a thri_chwarter o wyau wedi eu casglu yn Sheffield i'r mihvyr a'r morwyr.
GWARCHAE CULFOR. I
GWARCHAE CULFOR. I Hysbysir o Athens fod Llynges y Cyng- reirwyr wedi llwyr warehae, y culfor rhwng Samos a'r glannau Asiataidd, er mwyn atal trafn diaeth nwyddau gwaharddedig.
RHWYSTRO "DA BYW" I GERMANI.…
RHWYSTRO "DA BYW" I GERMANI. 1, Hysbysir yn yr "Handelsblad" fod y Gweinidog Amaethyddol Isellmynaidd yn gwrthod (yhoeddi ychwaneg o drwyddedau at drawsforio "Da Byw" o unrhyw fath.
DIFETHA ZEPPELIN. I
DIFETHA ZEPPELIN. I Yn agos i Kuprulu, ar y Vardar, gog- ledd-orllewin o Salonika, daeth Zeppelin i wrthdarawiad a choedydd pan yn dod i waered, a dinistriwyd hi.
TEILWRIAID CANADA. I
TEILWRIAID CANADA. I Daw y newydd o Montreal fod Undeb y Teilwriaid wedi Ihvyddo i ennill telerau gwell i'r gweithwyr. Mewn rhai achosion cafwyd eynnydd o 30 i 40 y cant yn y cyflogau.
DEDFRYD I'W GROGI. I
DEDFRYD I'W GROGI. I Wedi prawf ar Shams-el-Din a Helbawi I ar y cyhuddiad o gydfradwriaeth i geisio I lladd Swltan yr Aifft, cafwyd y ddau yn I euog, a dedfrydwyd hwy i gael eu crogi.
CARCHAROR I ON MILWROLI GERMANI
CARCHAROR I ON MILWROL I GERMANI Hysbyswyd gan Is-ysgrifennydd Rhyfel fod camrau yn cael eu cymeryd i roddi carcharorion milwrol Germani ar waith yn y wlad hon i dorri coed, mwnydda, a choedwigo.
CYNH ADLEDD GYNGREIRIOL. I
CYNH ADLEDD GYNGREIRIOL. I Adroddir yn swyddogol fod y Llywod- raeth Ffrengig wedi penderfynu'n der- fvnnol ar Mehefin 14eg fel dyddiad i agor y Gynhadledd Ddarbodol Gyngreiriol yn Pa ris. Nid ydys wedi setlo pwy gynier le Mr Runciman yn y gynhadledd. I
EANGU LLINELLAU. I
EANGU LLINELLAU. Edrydd gohebydd o Paris fod y Bwlgar- iaid yn cangau eu llinellau yn-Salonika, a'u bod wedi cymeryd gorsaf Demir Hiser. Cymerodd gweithrediadau bywiog le dydd Sadwrn rhwng Irope a Mayabach.
YN ERBYN TRETHU NWYDDAU BYW…
YN ERBYN TRETHU NWYDDAU BYW I r I JVlewn cytartod yn Kvenigsberg, pasiodd y Sosialiaid benderfyniad yn crbyn y Mesur Trethiannol Newvdil, gan ddatgan y dylai pob trethi ar nwyddau at wasan- aeth bywyd gael eu gwrthod. Dylai treuliau rhyfel, mor belled ag y mae trethi yn y cwestiwn, gael ei dalu gan y dos- barthiadau cyfoethog. Dylai trethi eraill gael eu gwrthod gan y Sosialiaid yn y Reichstag.
DEDFRYD LLYS MILWROL. l,
DEDFRYD LLYS MILWROL. l, Adroddir drwy y brif swyddfa filwrol fod F. W. Mahon, aelod o Goifforaeth Dublin, ac argraffydd newyddiadur wythnosol, wedi ei gael yn euog gan y llys milwrol o gvhoeddi erthyglau niweidiol, a dedfryd- wyd ef i dair mlvnedd o benyd wasanaeth. Tynwyd i ffwrdd ddwy flynedd a hanner, fel na bydd yngharchar ond chwe mis
YMWELED A BERLIN. I
YMWELED A BERLIN. I Hysbysir fod Tywysog Sior, Groeg, wedi I talu ymweliad a Berlin dydd Iau diweddaf, ac mai goresgyniad Groeg gan Bwlgaria barodd iddo dalu' ymweliad. Anfonwyd ef yno- gan y Brenin Constantine i bro- testio yn crbyn y weithred, ac i bwyntio allan i'r Caiser ei fod wedi torri ei add- ewid. Nid dyma'r addewid gyntaf iddo (tori.
Advertising
WYTHNOS ETO! I WY NO E 0 10 Llawenydd gan ganoedd ydyw deall ein bod wedi penderfynu rhoddi y i Discount Sale AM YR WYTHNOS ON ETO I RHODDIR 1c o bob SWLLT o DDISCOUNT, MANTEISIWCH AR Y CYFLEUSTRA. ——————— 0 DALIER SYLW Er mwyn arbed arian Ni byddwn ar y TELEPHONE I ar ol yr wytnnos hon. o YR AFR AUR, Caernarfon. PIERCE & WILLIAMS. () —=— 0
ARWEINYDD GWYDDELIG AMERICA.…
ARWEINYDD GWYDDELIG AMERICA. 1 Teimladau crjfion a. chwerwon sydd ymysg Gwyddelod yr America oherwydd tynged James ConnolJly, Francis Sheehy Skeffington, ac arweinwyr Gwyddelig, eraill, a phesir pendar-fynisdau cryfion gan' yr arweinwyr mewn gwahanol gynhadledd- au yn condemnio vi- hyn wnaed.
GWEiTHWYR NORWY.:I
GWEiTHWYR NORWY. :I Cynhyrfus iawn ydyw ymysg gAwithwyrj Norwy. AJ?e'j gohebiaethau a'r trafod-? aethau wedi troi'n fethiant yn niwidian-j nau mwnfaol^ haiaan, &c. Canlyniad hyn ydyw fod yna sti-6cs cydYØ1deimldol wedi j codi gan amryw weithwyr. Ynglyn a rhai diwydiannau y mae'r meistri wedi cymeryd y dull o gload allan i geisio curo'r gweith- wyr.
ATHRAWON AG AMAETHYDDIAETH…
ATHRAWON AG AMAETHYDDIAETH I Pasiodd Pwyllgor Addysg Sir Ddinbych j' benderbyniad yn gofyn ar i gymaint ag a, all o athrawon yr ysgolion dreulio eu gwyliau haf i helpu amaethwyr gyda'u cynhaeaf. Awgrymwyd hefyd iddynt ym- |i ohebu gyda.'r PwyHg?rau Rhyfel Sirol' ddeliant gydag ama\ethyddiaeth ad? lf rhyfel. 'I. rhyfel.
PRYDERON ARGENTINE. d
PRYDERON ARGENTINE. d Yn ei araith agoriadol i'r Gyngres yrofij Buenos Ayres, gofidiai y Llywydd am eff- jj eithiau y rhyfel, un ohonynt ydoedd llei- h had ymfudiad i Argentine. Yngwynel»» datblygiad diwydiant Argentine, yr oedd y y Llywodraeth yn bryderus oherwydd tuedd Prydain Fawr tuagat ddiffyndoll. aeth ar ddhredd y rhyfel, yr hyn allai eff- eithio ar gynnyrohiant Argentine.
SYNN'VYR -ADEG RHYFEL. I
SYNN'VYR ADEG RHYFEL. I Yn yr, "Avanti, dvwed Treves, un o arweinwyr Sosialaidd Itali, ei fod yn gobeithio y bydd dynion ar ol y rhyfel; yn gallu byw yn ddifrifol a, gonest. HedclWw, cvfrwystra a chelwycidau sy'n llyv/od- 1 l aethu. Mae nerth synnwyi- y medilwl, yn gorwedd yn y galhi sydd ganddynt- i ysgwyd y boes a throi :allan frawddegau « fel ag i gamliwio meddylddrychau, j
RWSIA A GROEG.
RWSIA A GROEG. Yn 0] adroddiad o Petrograd dydd Sad-ft win, y mae cytundeb wedi ei wneud l'hwng Bwlgaria a Groeg, neu ni fuasent byth YD' ¡ caniatau ir Bwlgariaid oresgyn eu tinog-j aethau. Y teimlad yn Rwsia. ydyw mai. j anoeth fyddai rhoddi gormod o ymddiricd-! aeth yn Groeg, ac y bydd efalla? yn angen. rheidiol n.abwysiadu mesurftu cadarn. Mae'r golygiadau hyn yn gyffrodinol yn Rwsia.
YMOSOD AR AERODROM GERMAN-…
YMOSOD AR AERODROM GERMAN- i AIDD. Cyfaddefa adroddiad o Amsterdam fod saith o awyrlongau i'r Cyngreirwyr ar Mai 27 wedi ymosod ar "aerodrome" Stoenys, ger Ghent, ac wedi gollwng amryw o ffrwydbelenau. Dinistriwyd y shediau a'r awyrlongau oedd ynddynt. Lladdwyd hcfyd 18 o filwyr Germanaidd, a ehlwyf-j wyd amryw.
CYNILDEB ADDYSGOL. I
CYNILDEB ADDYSGOL. I Awgrymodd vMaer Pwllheli i'r Cyngor Trefol eu bod yn awgrymu i reolwyr yr Ysgol Ganolraddol beidio llenwi y lie sy'n mund yn wag, ac felly arbed 200p yn y flwyddyn i'r trethdalwyr. Er i'r Cvnghorydd Ellis Jones ddotgan mai ffaki gynildeb ydoedd, awgrymiad y Maer drb)'njwyd.
- LLAFUR CHINEAIDD. I
LLAFUR CHINEAIDD. I Hysbysir fod 20,000 o Chienaid wedi eu cymeryd ^an Rwsia i weithio fel llafui-wyr amaethyddol. Mae cryn anfoddlonrwydd oherwydd eu dTgiad i mewn i'r wlad.
LLADD BRAWD GWEINIDOGI FFRENGIG.
LLADD BRAWD GWEINIDOG I FFRENGIG. Dywed adroddiad o Paris ddydd Sul fod Monsieur Lacaze. brawd Llyngesydd Ffrainc, wedi ei ladd ddydd Sadwrn mewn damwain i awyrlong ger le Bouquet. Aeth yr awyrlong ar dan yn yr awyr, a thaflodd I.acaze a'r pilot eu hunain ohoni. Lladdwyd hwy yn y fan, gan fod y -cwymp tua 600 troedfedd.
CYNNYGIAD GAN Y SWYDDFAI RHYFEL.
CYNNYGIAD GAN Y SWYDDFA I RHYFEL. Oyhoeddodd y Swyddfa Ryfel ddydd Iau diweddaf fod arnynt eisiau mil o wyr priod drjae 35 mlwydd oed i wneud gwaith rhyfel pwysig gartref. Ni chymerir ond dynion sydd wedi ardystio, a'r rhai sy'n perthyn i ddosbarthiadau 42 i 46. Telir iddynt o 8-ie i 9Jc yr awr. Gellir cael yr holl fanylion ond anfon i'r Inquiry Office, Great Scotland Yard j Llundain.
YR ITALIAID A R MERCHED. I
YR ITALIAID A R MERCHED. I Anfonodd Undeb Milan o Ddynion I jRheilffjrrdd yr Heolvdd lythyr i'r iL'Avanti," newyddiadur Italaidd, yn pro- !te>tio yn erbyn cyflogiad merched fel '"grinds" ar reilffyrdd trydanol Ileol yr Jietil^id. Gwadai rheolwyr y cwmni eu bod vr. l^wriadu cyflogi y fath lafur. iHaWli-a -jr dynion ddatganiad pellaeh oddi- larrth y ^<rwmai i'r effaith na fydd iddynt Igyflogi nterehed ond mewn aehosion lie na pilir cael dvwon. Amheuant fod y cwmni Vn awyddus "dldal y cyflogau i lawr.
RE15EWYR DUBLIN. I
RE15EWYR DUBLIN. I Dywed adroddiad o Dublin dydd Sadwrn fod cant o garchaorion dydd Iau wedi eu tsymud o Richmond Bfw racks i Wakefield. Yr un diwrnod, sy mud wyd 49 i Wonds- twortli, a 50 i Knutsford. I
YCHWANEGIAD AT LYNGESI AMERICA.
YCHWANEGIAD AT LYNGES I AMERICA. Dywed adroddiad o Washington ddydd Sadwrn fod y Senedd-dy wedi pasio y Mesur Llyngesol yn darparu am 5 o wib- longau, 50 bad tanforawl, 130 o awyrlong- au, a nifer o longau llai. ———— 004P ————
I f,100,000 AM FEDDYGINIAETH.
I f,100,000 AM FEDDYGINIAETH. Mae Syr William James Thomas, y per- tftienog glofeydd Cymreig, wedi rhoddi I 100,000p tuagat sefydlu ysgol o feddygin- iaeftii Gymreig. ————'
Y FRWYDR FORWROL.I
Y FRWYDR FORWROL. Manion am Dani. ,Mae aAirysv o'r clwyfedigion wedi eu CllO i'r ^yne, tra mae carcharorion Ger- mawaidd vecti eu glanio yn y Firth of Forih. Dywedir fod Zeppelins wedi chwareu Than amlwg i achosi y colledion Prydeinig. Wrth siatrad yn Hull, ddydd Sul, dy- i "Wedodd Mr Tom Wing, A.S., fod tua pum 3 mil o ddynion wedi colli, ao fod yn ddyled- [tawydd ar y wlad ddangos eu gwerthfawr. | ogiad o'u haberth trwy goflo am eu di- \lbynyddion,
GWYR Y RHEILFFYRDD.
GWYR Y RHEILFFYRDD. Eisiau Rhagor o GYflog. Mewn cyfarfod yng Nghaerdydd, ddydd Sul, gofynodd aelodau Undeb Gwyr y Rheilffvrdd i'w Pwyllgor Gweithiol geisio cael codiad o 10s yr wythnos iddynt gan y Llywodraeth, gan fod prisiau byw mor ofnadwy o uchel. Argymhellasant hefyd y dylai y Llywodraeth fabwysiadu rhyw fesurau i ddiogelu buddiannau y bobl.
AI GWIR TYBED? -
AI GWIR TYBED? Cred Aelod Llafur. Mewn cynhadiedd yn Bradford, ddydd Sadwrn, dywedodd Mr -Phylip Snowden, A.S., ei fod yn siarad gyda. rhyw gymaint o wybodaeth ac awdurdod pan ddywedai y byddai Germani yn foddlon yr wythnog nesaf i adael Ffraine a Belgium yn ddi- amodol. Yr oedd ef o'r farn pe y gelwid gwleidyddwyr y gwahanol wledydd ateii gilydd na, fyddai yn waith anhawdd cytuno ar dermau teddweh.
PROTEST CYN-ARLYWYDD. AMERICA.
PROTEST CYN-ARLYWYDD. AMERICA. Gweithredoedd ac nid Geiriau ya Eisiau. Mewn c.Nerohiad yn Detroit, Michigan, yr wythnos ddiweddaf, dywedodd y cyn. Arlywydd Koosevelt fod yr Unol Daleith- iau wedi methu yn ei dyledswydd i war- eiddiad a ilynoliaeth yn ei hagwedd tuagat y rhyfel Iwropeaidd. Dioddefasom, meddai, fel conedl oddi- wrth rhyw dynerweh mewn ysgrifennu Nodau, ac yn ddamweiniol yr ydym wedi canfod nad ydyw hyn yn talu. Yr oedd o'r farn pe buasent wedi dweyd ar y cych- wyn y buasai eu geiriau yn cael eu cyf- ieithu yn weithredoedd y buasai Germani wedi rhoddi i fewn, ac na fuasai y Lusi- tania a llonga-u eraill wedi eu suddo, ac y buasai llawer o'r gwastraff ar fywydau wedi eu hogsoi. Yn hytrach, meddai, gwrthodasom gymeryd y cam lleiaf i wneud ein dyledswydd tuagatom ni ein hunain a thuagat eraill.
IUN YNTE DAU?
UN YNTE DAU? ttM,'r plisinqu yn ymddangos yn. rhy- feddol sicr o fanylion fy achos," ebe'r diffynydd, mewn gwawd; ''ond paham na eilw ei gydjswyddogion i brofi yr hyn a ddywed?" "Nid oes ond un plismon yn y pentref, svr," atebodd yr heddwas. "Ond gwelais ddau neithiwrl" ebe'r diffynydd yn bendant. "Yn hollol felly," ebe'r heddwas, yn gweftu mewn boddhad, "dyna'n gymhwyB y cyhuddiad yn eich herbyn!"