Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
18 articles on this Page
DYDO MERCHER.I
DYDO MERCHER. I YMGYRCH Y RWSIAID. .1 Mae r Rwsiaid yn cano allan eu mudiad Armenaidd Persia idd yn ysblenydd. Ar wahan i'r fyddin sydd yn gweithre-du yng ngogledd.ddv.yrain Bagdad, mae'1' fyddin sydd yn symud or gogledd-ddwyrain wedi llwyr SYllnu y Twrciaid. Maent yn anelu am illosil, a-*u hamcan ydyw toni y brif linell Twrcaidd i'w byddinoedd Mesopo- tamaidd. Dywedodd Rwsiad unwaith pe byddai amddiffynfa Kut yn syrthio y gellid ei hadfeddianu oddiar y Twrciaid pan yr anfonid hwy allan o gymydogaeth Mosul gan y Rw&iaid. Mae'n anhawdd credu hyn wrth gwi s, ond mae'n hvsbys fod cyf- lenwadau y Twrciaid yn Mesopotamia yn brin. Y LLYNGES GERMANAI DO. I Mae'r llynges Germanaidd, yn cynnwys y rhyfet-long Hindenberg, meddir, yn y Baltic. Gan fod y rliew wedi t-oddi, mae'r mor wedi ei agor hefyd i'n badau tanforawl. Y FFRYNT PRYDEINIG. Mae r bywiogrwydd yn parhau ar y ffrynt Prydpinig. Nas Lun, ar bont Vimy, ar ol ffrwydro mwnfeydd, darfu i'r Lancashire Fusiliers feddiannu Uinell gyntaf y gelyn ar ffrynt o 250 Hath. Dioddefodd y gelyn golledion trymion. Gyferbyn a Auchy, darfu i ni ymosod ar y ffosydd Germanaidd ar 61 ffrwydro mwnfa. Meddianwyd yr ail linell ohoni. Celsiodd tri parti o'r gelyn fyned i mewn i'n ffos- ydd yn neheubarth Hebuteme. Aflwydd- iannus fu dau ohonynt, ond llwyddodd y trydydd i fynpd i mewn am ychydig amsfr. 0 FFRAINC. A ganlvn ydyw r adroddiad swyddogol Ffrengig ddoe:— < Yn Champagne, darfu i"I\. magnelwyr atal holl ymosodiadau y gelyn. Bywiogrwydd magnelyddol fu y prif beth yn yr Argonne. Ceisiodd y gelyn feddiannu ein eafleoedd yng ngorllewinbarth y Meuse, ar lethrau Hill 304, ond ataliwyd hwy yn rhwydd, a dioddefasant golledion trymion. Nid oes dim o bv/ys i'w hybsysu o unman arall ar y ffrynt Ffi-engig. HAWLIAD GERMANAIDD. Hawlia yr adroddiad Germanaidd en bod wedi atal ymosodiadau y gelyn ar ochr dde y Meuse. Cyfaddefant fod y Ffrancod wedi myned i mewn i'w safle- oedd yng ngogledd Vaux-les-Palamieux, ond hawliant en bod wedi eu gyrrn ohon- ynt yn fuan. Hysbysa Amsterdam fod adgyfnerthiadau cryfion yn myned trwy Liege ar eu ffordd i ffrynt Albert-Armen- Herea. GYDA'R ITALlAI D. Hysbysa. Rhufain fod y gelyn yn Tren- t-ino, ar y 14eg cyfisol, 'wedi ymosod yn ffyrnig ar safleoedd yr Italiaid rhwng Dyffrvn Adigo ac Astieo. Ar 01 gwrth. safiad crvf yn ystod yr hwn y dioddefodd y gelyn golledion trymion, enciliodd yr Italiaid i brif linellau eu hamddiffyniad. Bywiogrwydd magnelyddot fu y prif beth ar y gweddiH o'r ffrynt Italaidd, yr hwn fll"n fanteisiol i'r Italiaid.
I-DYOD IAU.
I DYOD IAU. BRWYDR LYNGESOL. I Hysbysa. yr adroddiad swyddogol Pry- deinig am frwydr lyngesol tuallan i'r glannau Belgiaidd ddoe, rhwng distryw- yddion Prydeinig a distrvwyddion Ger- manaidd. Darfu i'r rhai Germanaidd encilio yn fuan i'w porthladdoedd. Nid oedd unrhyw golledion Prydeinig. LLWYDDIANT AWSTRIAIDD. I Mae'r Awstriaid wedi gwneud ymosod- iad mawr ar yr Italiaid. Hawliant eu bod wedi cymeryd 2,500 o garcharorion, ynghyda saith o ynnau. Mewn adymos- odiad, syrthiodd 250 o garcharorion i I ddwylaw yr Italiaid. Dywed yr Italiaid fod y llwyddiant hwn wedi costio yn ddrud I iddynt. Y FFRYNT PRYDEINIG. Hysbysa'r Cadfridog Haig, ar wahan i gofnodi bjwiogrwydd magnelyddol ar y ffrynt Prydeinig( am" weithred ysblenydd gan y Sea forth Highlanders. Nos Fawrth aeth dau barti ymlaen at ffosydd y Germaniaid yng ngogledd Roclincourt, a thanbelenasant dri "dug-out" yn llawn o Germaniaid. Chwythasant un ohonynt i fyny. Ddoe, cymerodd 27 o frwydrau le yn yr awyr. Tynwyd tail- awyrlong i'r gelyn i lawr, a glaniodd un o'n rhai ni yn nhiriogaeth y gelyn. Mae un arall ar goll. COLLED LYNGESOL. I Hysbysa'r Morlys ddoe fod y monitor feehan M. 20 wedi colli tuaUan i'r glannau Twrcaidd. Tarawyd hi gan ffrwydbelen, a llwyr ddinistriwyd hi. Lladdwyd dau a. ohlwyfwyd dau o'i dwylaw. Hysbys- wyd am suddiad y llestr yn yr adroddiad Twrcaidd dydd Mtvwrth, ond gwadwyd oi wirionedd gan y Morlys y pryd hwnnw. Mae'n vmddangos fod y newydd am yr an- ffawd wedi myned ar goll. IYMOSODIAD AWYROL FFRENGIG. Hysbysir gan Paris ddoe am fywiog- rwydd anarferol gan yr awyrwyr Ffrengig. Yn ystod nos Fawrth, darfu i 13 o'u hawyrlongau ollwng 24 o ffrwydbelenau ar gymydogaeth DanwillmsvilIe, o flaen Chaumont, 11 ar orsaf reiJffordd Brieulles a f'lery^ 14 ar Nantillois a Rompne, a 21 ar orsaf Apremont a Grand Pre. Can. fyddwvd tan yn t-orri allan mewn amryw leoedd. Yng ngogledd Vicsur-Aisne, tyn- wyd awyrlong Germanaidd i lawr gan- ddynt. Yr un noson, darfu i nifer arall o awyrlongau ollwng 40 o ffrwyd- bdenau ar Frieseaty, 20 ar orsaf Metz ac Ars, 40 ar oi-saf Arraville, a 30 ar y rheilffordd rhwng Metz a Thionville. LLWYDDIANT RWSIA. I Dywed yr adroddiad Rwsiaidd neithiwr: Ynghymydogaeth Llyn Sventen, darfu i'r Rwsiaid yrra y gwylwyr Germanaidd yn ol, ac aethant. i fewn i un o'u prif ffos- ydd. Darfu i'r gelyn ffoi o'r lie. Ar yr 16eg, yn neheubarth Krevo, darfu i ni atal ymosodiad Germanaidd, a diodd. efodd y gelyn golledion ti-ymion. I a e'r Rwsiaid yng ngorllewinbarth Olyka yn I symud ymlaen. Parhau i wneud cynnydd mae'r Rws- 1 iaid yn .y Caucasus. COLLEDION TRYMION. I A ganlyn ydyw adroddiad Rhufain ddae Yn Nyffryn Lagarina, darfu i'r Aws- triaid ymosod bum gwaith ar ein safleoedd yng ngogledd Zugna Fort. Ataliwyd hwy bob tro, a dioddefasant golledion trym- ion. Yn Nyffryn Sugana, darfu i'r gelyn ymosod gyda ffyrnigrwydd mawr ar yr Italiaid, ond gorfu iddynt encilio. Yn ystod hyn, syrthiodd 300 o garcharorion i ddwvlaw yr Italiaid.
IDYDO GWENER I
I DYDO GWENER I LLWYR ORCHFYGU'R GERMANIAID. I Mae'r Germaniaid unwaith yn rhagor wedi eu llwyr orchfygu ar ochr chwith y Meuse. Yn Avocourt Wood yn ystod nos Fercher gwnaetli y gelyn amryw ymdrech- ion i feddiannu y redoubt yn y goedwig, ond ataliwyd hwy bob tro, a dioddefasairt golledion trymion. Ar y Haw arall, darfu i'r Ffrancod ar ol brwydr ffyniig feddianu amddiffynfa gadarn i'r gelyn ar lethrau gogleddol Hill 304. Ceisiodd y German- iaid yn ddiweddarach ei hadfeddianu, ond afhvyddiannus fuont. Costiodd yr ym- drech yn ddrud iddynt. Mae'r awyrwyr Ffrengig eto wedi ymosod ar orsafoedd a safleoedd Germanaidd, yn cynnwvs Sedan a Metz. Torodd tan allan yn y He cyntat Y FFRYNT PRYDEINIG. I Dywed yr adroddiad o'r Pencadlys Pry- deinig neithiwr fod y Germaniaid, ar (I tanbeleniad ffyrnig, wcdi meddianu "miu.-) crater" oedd yn ein meddiant ar Vimy Hinge. Nos Fercher rhuthrodd y gelyn ar ein ffosydd yn Wieltje, ond gorfu iddynt syrthio yn ol. Mae bywiognvydd awyrnl yn parhau ar y ffrynt Prydeinig, tair ar ddeg yn rhagor o frwydrau wedi cymerjd lie. Credir fod un awvrlang i r g}.m Wedi ei thynnu i lawr. YN Y BALTIC. I Mae badau tanforawl y Cyngreirwy* wedi rhoddi ymddangosiad dramayddol yn y Baltic. Mae'r rhew yn awr yn diflanu yn y mor hwn. Maent wedi suddo tan llestr Germanaidd tuallan i Lightship Landswort. A wgryma adroodiad o Stock- holm mai bad tanforawl Rwsiaidd c'i suddodd, ond priodola adroddiad o Copen- hagen y weithred i fad tanforav/l Pry deinig. Ychwanega fod amryw o fadau tanforawl Prydeinig yn gweithreJu yu v Baltic. ( CENHADAETH MR ASQUITH. I Talodd Mr Asquith ymweliad a Cork ddoe, a chynhaliodd gynhadleddau preifat gyda'r Arglwydd Faer, yr esgob oynorth- wyol, y cyn-ArgIwydd Faer, yngliyda' .r awdurdodau milwrol a chyhoeddus. Darfu i'r cynhadleddau barhau am ddwy awr. Gadawodd y Prif Weinidog yn ddiweddar- ach am Queenstown, a bydd yn cyrraed, yn Llundain heddyw. AD.RODDIAD ITALAIDD. I Dywed yr adroddiad swyddogol Italaidd, ddoe Yn Nyffryn Ledro, ar ol darpariadau cyflegrol mawrion, darfu i'r gelyn ymosod ar ein safleoedd ar lethrau Montepari, ond ataliwyd hwy gyda cholledion trymion. Bywiogrwydd magnelyddol fu y prif beth ar yr Izonso. Yn Montfalcone bu yr Italiaid yn hynod lwyddiannus. Darfu iddynt feddiannu amryw 0 ffosydd oddiar y gelyn. BRWYDRO YN YR AIFFT. I Cyhoeddwyd a ganlyn gan y Swyddfa Ryfel neithiwr:— Darfu i adran o Awstraliaid a New Zea- landers ar Mai 16cg ymosod yn llwyddian- nus ar y gelyn y Bayoad a Mageiba, yr Aifft. Ni ddarfu iddynt roddi unrhyw wrthsafiad, ond ffoisant o'u safleoedd. Darfu i ni gymeryd 36 0 gamelod ac un milwr Twrcaidd yn Bayoud, a dinistriwyd I DU gwersvlI VIl llwYl".
DYDD SADWRN.
DYDD SADWRN. YN VERDUN. I Tri mis i heddyw y dechreuodd y Ger- maniaid ymosod ar Verdun, a gwnaed yr ymosodiad cyntaf ganddvnt fore Chwefror 21. Mae'r ymosodiadau gymerodd le yn y lie hwn y ihai mwyaf ofnadwy fu hanes am danynt, Ar ol yr aberthau mawrion wiiaed, n i enillodd y Germaniaid ddim tir bron, ond dioddefasant golledion o tua 300,000 o ddynion oddiar .ddwylaw y Ffrancod. Nos Iau, cymerodd brwydr ffyrnig le ar ochr chwith y Meuse, lle'r adnewyddodd y Germaniaid eii byinosod- iadau yn erbyn Hill 304 ac Avocourt Wood. Llwyddodd y Ffrancod i ddal eu tir ymhobman, oddigerth mewn un He yn neheubarth Hill 287. I O'R AIFFT. I zHysbysa y Swyddfa Ryfel fod ein rhvfel- longau, awyrlongau, a seaplanes wedi tan- belenu safle bwysig sr linell y gelyn rhwng Syria a'r Aifft. Dinistriwyd amddiffynfa En Arisli ganddynt, ynghyda diau wersyll. Dychwelodd yr oil o'n llongau yn ddianaf. Hysbysir yn swyddogol mai'r Cadfridog Syr Bryan Mahon sy'n llywyddu ar gyffin. iati gorliewinol yr Aifft, ac fod y Cadfridog Milne wedi cymeryd ei le gyda'r milwyr Prydeinig yn Salonika. I Y CYNGREIRWYR A GROEG. I Mae'r cwestiwn rhwng y Cyngreidwyr a Groeg ynglyn a throsgludiad y milwyr Serbiaidd i Salonika, wedi ei setlo, gan fod y Cyngreirwyr wedi trefnu i'w hanfon i ben eu taith ar y mor. I Y FFRYNT RWSIAIDD. Hysbysir gan Petrograd fod y Rwsiaid wedi meddianu "mined gallery" yng ngog- ledd-orllewin Kremenecz. Darfu i'j- gelyn ffoi o'r lie, gan adael cyflenwad mawr o arfau ar ol. Yn Galicia daliwyd adran Dwrcaidd mewn trap gan y Rwisaid, a medwyd hwy. Dywed Vienna a Berlin nad oes dim o bwys wedi cymeryd Ho ar y ffrynt Rwsiaidd. i BRWYDR TYROL. I Mae ymosodiadau Awstriaidd ffyrnig yn parhau ar y Trentino, a gorfodwyd yr I Italiaid i encilio o'u safle yn Zugna Torta I ar ol hwydro caled am dri diwrnod. Mewn ardal cylchynol, er mwyn osgoi colledion j difudd, darfu iddynt encilio hefyd o'u eafleoedd. I HAWLIAD GERMANAIDD. Dywed yr adroddiad swyddogol Ger manaidd ddoe:— Ar ochr orllewinol y 31eiise, darfu i ni gymeryd ffosydd y Ffrancod, a syrthiodd. 129 o garcharonon, yn cynnwys naw swyddog, i'n dwylaw. Darfu i'r Ffrancod ymosod ar ein sa fle- oedd ar Hill 304, ond ataliwyd hwy, a dioddefasant golledion trymion. Hawl- iant hefyd eu bod wedi tynnu awyrlong i'r gelyn i lawr ger Ripont, ac fod eu hawyr. Wyr wcdi ymosod ar Epinal a'r cvffiniau I ADRODDIAD PRYDEINIG. Cyhoeddwyd a ganlyn gan y Pcncadlys Prydeinig yn Ffrainc ddoe. Cymercdd ychydig fywiogrwydd cyfleg- rolle rhwng y Somme ac AnG3.r. Bu ein magnelwyr yn hynod lwyddiannus ynghy- mydogaeth W ally. Darfu i'r gelyn ffrwydro mwnfa yn ne-ddwyrain Roclin- court, ond mae ymylon y crater yn ein meddiant ni. Darfu i ni ymosod yn llwyddiannus ar safleoedd y gelyn ynghy- mydogaeth Lens. Darfu i'r gelyn dan. belenu Potijze, ond ni wnacd x^nrhyw ddifrod ganddynt.
v. <***■ I. GWRTHWYNEBWYR…
v. <■ I. GWRTHWYNEBWYR Y MESUR I GORFODOL. 1 1 r I Y 35 Safodd yn Erbyn y Trydydd Darlleniad. Ar bleidJais Trydydd Darlleniad y Mesur Gorfodol nos Fawrth diweddaf yn Nhy'r Cyffredin, cafwvd o'i blaid 250, a 35- yn erbyTi; mwyafrif o 215. o'i blaid. Gyda'r ail ddarUeniad. fe gofir mai 328 oedd o'i blaid, a 36 yn erbyn. Enwau y 35 yd- ynt:— RJiyddfrydwyr._Mr F. Arnold, Mr J. A. Baker, Syr John Ba,rlow, Mr John Burns, Syr AV.. Byles, Mr Chancellor, Mr T. E. Harvey, Mr Hogge, Mr Holt, Mr King, Mr Lough, Syr E. Lamb, Mr E. T. John, Mr D. Mason, Mr Molteno, Mr Mor- rell Otit b wiite, *? rell, Mr Outhwaite, Mr Ponsonby, Mr Pringle, Mr Rowntree, Syr W. Runciman, Mr Sherwell, Syr J. Simon, Mr Trevelyan, Mr Llewelyn Williams, a. Mr Whitehouse. Llafurwyr.—Mr W. Abraham (Mabon), Mr W. C. Anderson, Mr Clynes, Mr Jowett, Mr Ramsay MacDonald, Mr Snowden, a Mr J. H. Thomas.. Yr oedd Mr Lees Smith, yr hwn sy'n Ffrainc, wedi cvmharu gyda Mr Jesse Collins yn erbyn y msnr.
[No title]
Mae cynnydd o 105 yn aelodau eglwysig Talaith Gyntaf Gogledd Cymru y Wesle- aid yn ystod y flwyddyn.
--ABERMAW. -- .- . I
ABERMAW. I Mewn Gwely'r Bermo. Mae Preifat Tommy Davies, Penlon, yr hwn glwyfwyd yn Ffrainc, wedi cyrraedd i Ysbyty Net- ley, ac efe ydywlr cyntaf i feddianuu gwely'r lie yn yr ysbyty honno. Priodas.—Dydd Llun, yn South Ken- sington unwyd tnvy briodas Mr Evan Evans, 2, Marine Terrace, a Miss Maggie Evans, 'i'owvn.
CRICCIETH. I
CRICCIETH. I Mcrch yn Swyddog Presenoldeb. Mae J Miss Gertrude Jones, chwaer Mr W alter Jones, Emu, wedi ymgymeryd a dyled. swyddau swyddog presenoldeb yn ardal Pusey, V. iltshire, tra pery y rhyfel. Caplan Adref.—Mae'r Parch R. Cybi Jones, curad, yr hwn sydd wedi bod yn gwasanaethu fel caplan yn Ffraine am chwe mis, wedi dod gartref am ychydig seibiant. .O'r Dardanelles.-Nos Fawrth daeth y Rhingyll John Hughes, R.W.F., mab hynaf Mr a Mrs John Hughes, 2, Chapel Street, adref. Un drwy yr holl ymgyrch yn Gallipoli, ond ar ol gadael y lie symud- wyd cf i'r Aifft. Mae'n edrych yn dda.
I -NODION 0 FFESTINIOG. I
I NODION 0 FFESTINIOG. I Newydd Da. Dywed y "Slate Trade Gazette" fod Chwarelau Oakeley wedi eu galluogi i weithio amser llawn, gan eu bod wedi derbyn amryw o contracts o ffatri- oedd arfau. Caredigrwydd.—Mae Mr John William Jones, dreifer ar reilffordd bwysig yn Ne- heubarth Affrica, mab Mr William Jones, 21, Glanypwll Road, wedi anfon 8p gar- tref i'w rhoddi mewn cronfeydd tuagat ddarparu cysuron i'n milwyr. Gwcbrwyo Gonostrwydd.—Darfu i un o weithwyr Oakeleys yr wythnos ddiweddaf golli 5p ar y ffonld. Darfu i gyd- Weithiwr eu codi, a dychwelodd hwy i'w perchenog. Fel gwerthfawrogiad o'i onestrwydd, darfu iddo drosglwvddo swm sylweddol drosodd iddo. Mynychu'r Ysgol Sul.-Fel mae'n hys- bys, mae Miss Gee, Dinbych, yn rhoddi bathodau bob blwyddvn i hen bobl fynycli- ant yr Ysgol Sul. Eleni mae Mrs Mar- garet Jones, 90- mhvydd oed, 10, Crom- well Street, wedi ennill un. Dechreuodd fynychu yr Ysgol Sul ynghapel Bethesda (M.C.) pan ond tair blwydd oed, ac y mae wedi ei mynychu yn gyson byth er hynny. Pan yn Rniw, mynvchodd hi am 30 mlyn_ edd. Symudodd wedyn i Tanygrisiau, a mynvchodd hi yno am 40 mlvnedd. Trig- odd yn Cromwell Street yn ystod y saitli mlyn-dd ddiweddaf, ac yn awr mynycha ¡ Ysgol Sul Garreg Ddu. t
I -LLANRWST.-I
I LLANRWST. I Dyrchafiad Milwrol. Mae r rhai can- lynol wedi eu dyrohafu yn lance-corporals Preifats William Jones, John Ivor Parry, a W. Jennings. Maent i gyd yn wroniaid Suyla Bay. Maent ar hyn o brvd yn gwasanaethu gyda'r 5fb R.\Y.F. yng Nghroesoswallt. 0 Ffrainc.—Mae Caept Cecil Morgan, y Ficerdy, adref am seibant o Ffi-aine. Hefyd Sergeant-Major Oscar Simms a Preifat Fred Allen. Wedi ei Glwyfo. Mae Mr D. Jones, Bridge Street, wedi cael hysbysiad fod ei fab, Preifat Robert Jones, wedi ei glwyfo yn y ffrynt. Yn Gwella. Deallwn fod- Preifiat Inigo Roberts, Park View, yn gwella yn rhag- orol mewn ysbyty yn Southampton. Hyn hefyd ydyw hanes Corporal W. Owen, mab Mrs Owen, y Bazaajr, Watling Street, a Mr Percy Allsop, Denbigh Street, ar ol bod dan weithred lawf?ddygol yn ysbyty bod. daii weiP, -bred lawfeddvgol vn ysbvtv
r MOELTRYFAN. I
r MOELTRYFAN. I Apwyntiad. —Gvda liawenydd, y cofnod- wn fod y chwaer ieuanc Miss Jane Ann ,1)0ne8 Brvngwynt, Rhosgadfan, wedi cael ei dewiss yn. ysgrifenyddes yr Ysgol Sul yn Harmon (A.), ac hyd, mao yu; gofue gennym qym, y ferch sydd; 3;ni derbyn yr anrlivdeddz o laltiv y swydil. kkpi y,, wflth gyntaf, ac os, nad yn cawd^eall, hi sydd yn rhagflaenu yn hanes yr,. eglwfs, a diau mae y dewisiad, wedi ei rpdjii) ay epeth sydd :yn feddianol ar alluoedd cfyfr adiy- derwn y bydd- iddi, balmantu'r ffiordici i'r t hyw .yn yr ai;dal,- a sicr gmn11 y cyf- .lawna., y gwaith. hwn, fel y caiff- yr eglwys elwa ar ei dewisiad. a gobeithiwn y bydd hyn yn gyft-yw fol ag y bydd iddi ddef- nvddio ei gallu yn gyhoeddus i geisio ennill safle y ferch, fel y gall fwynhau ei safle mewn eymcleithas.
PWLLHELI. I
PWLLHELI. I Treth Newydd.—Darfu i'r Cyngor Trefol yr wythnos ddiweddaf arwvddo treth newydd o 3s 6c yn y bunt. Mae'l' ffigiwr hwn yr un fath a'r iiynedd. Croes Goch Amaethwyr.—Dydd Mercher darfn i Mr Herbert Brown, sefydlwr Cronfa Gdoos Goch Amaethwyr Pi-ydeinig, anneroh cyfarfod ger y Tower Hotel Daeth cynulliad da ynghyd, a siaradwyd gan amryw o wyr urddasol y cylch. Tribunal Lleyn.—Cyfanrif yr apehadau i'r tribunal hwn ydoedd 1,152, o'r rhai y gwrthoclwyd 154. Cyfanrif y dynion oedd wedi ardystio ydoedd 268. Rhoddwyd rhyddhad Ilwyr mewn 95 o achosion, rhyddhad amodol mewn 248, am amser mown 432. Mae 136 o achosion eto yn aros i'w gwrando.
1- - PENRHYNDEUDfcAETH.
1- PENRHYNDEUDfcAETH. Perscnol.Mae Capten David Oliver, Cao Ednyfed, adref am ychydig seibiant o'r Uinell danyn Ffrainc. Ymddiswyddiad.—Mae Mr Wm. Evans, swyddog presenoldeb yr ardal am ddeugain mlvnedd, wedi ymddiswyddo ohenvydd afieohyd. Mae'r Pwyllgor Addysg wedi pasio penderfyniad yn cydymdeimlo ag ef, ac yn datgan eu gwerthfawrogiad o'i was- anaetli. Llwyddiant.—Mae Mr Arthur O. Ro. berts, H) frydle, mab y diweddar Barch R. Roberts, Gorphwysfa, wedi ennill ysgol- oriaeth ym Mhrifysgol Bangor.
I - - -PENMAENMAWR.
I PENMAENMAWR. Ei Ladd yn y Ffrynt.—Hysbysir fod Mr Arthur Roberts, y Kiosks, yr hwn oedd gyda'r R.W.F., wedi ei ladd yn y ffrynt, Gedy briod ac un plentyn i alaru ar ei ol. Diolchgarwch Milwr.-Mae Lance-Corpl. R. Jones, Tancoed Uchaf, yr hwn sydd gyda'r 1-6 R.W.F., wedi anfon at Mrs Warren Roberts i ddiolch iddi am ei lian- rheg o Destament. Dywed ei fod yn falch ohonno, gan ei fod wedi colli y llall yn Gallipoli. Maent ar hyn o bryd ynghanol anialwch, ond eu bod yn ber- ffaitli hapus, ac yn barod am frwydr arall. Gred fod yr lien wlad yn werth ymladd drosti, gan ei fod wedi gweled ei gwertli erbyn hyn.
I IPORTHMADOG.
I PORTHMADOG. Llwyddiant Morwrol.-)Ia(t Mr William Owen, Gwyndy, Morfa Bychan, wedi myned yn llwyddiannus tnvy arholiad sydd yn ei gymwyso i fod yn brif beirianydd. Angladd. Dydd Mercher, eladdwyd gwcddillion Mr John Davies, Bristol House. Y Parch W. J. Nicholson was- anaethai. Yr Ysgol Sirol.-Yn ol yr adroddiad ar, iannol ynglyn a'r ysgol hon, mae'n ym- ddangos fod ei chvflwr ariannol yn bur foddhaol. O'r Ffosydd.-Yr wythnos ddiweddaf, ar, ol treulio naw mis yn y ffrynt, daeth-Sig- nailer W. G. Humphreys, R.W.F., adref, Yr oedd yn y frwydr pryd lladdwyd Major Freeman, Bryn Celyn.
J . I LJ.. RHIWLAS.
J I LJ.. RHIWLAS. I Liwyaaiant.—Da gennym gael Hongyf^ arch yn galonog yr ymgeiswvr Ilwydd-. iannus canlynol o ysgol Rhiwlas yng Nghvmanfa Dosbarth Bethesda, a gynhal- iwyd dydd Sadwrn diwecldaf :-Gradd AN- rhydeddus: Myfi Hughes, Maggie Hughes, Idwal Jones, Katie Williams, Robyn Grif- fiths, Nancy Williams. R. Mon Williamgi Etlwin G. Hughes. Gradd Gyntaf: Itr Owen, 01 wen Owen, Bessie Williams, Mem Price, C'emwen Williams, Trevor Owen. Ail Radd: Nell Tli-omas, Kate Price, Tons Roberts, Gwilym Piitohard, Mabel Oliver J. Ivor Williams, Maggie Roberts, Anne Pritchard, John Williams. Arhofiadau.- Yng nghyfarfod Taleithiot y Wesleaid, a gynhaliwyd yng Nghonwy yr. wythnos ddiweddaf, llwyddodd Mr J- Morgan Williams yn ei arholiad fel ym- geisvdd am y weinidogaeth. Hyde-rwn y bydd yn llwyddiannus eto yn y dyfwlol. Hefyd Misses If Pretoria, Hughes a J. Frances Jones yn ennill saffu mor anrhyd-- eddus yn arholiad y Maes Llafur. Daetfe Y naill allan air ben y rhestr yn Dosbarth4 11. gyda 113 o f-arciau, a'r llall yn bedL- werydd yn Dosbarth III. gyda 108. Ein Milwyr.- Yr wythnos ddiweddaf fiv Preifat David' J. Davies gartref am YChi- ydig ddyddiau Erysc yn Blackdbwn, Farnborough. Dtwg gennym ddcaU am- waeledd Pi-eifat R: J. Roberts. Ymddengys* ei fad yn yr ysbyty yn Bedford., Eiddi- unwn iddo adferiacl buan.
IGWERTH CYDWYBOD,
I GWERTH CYDWYBOD, I BarD; Prcgethwr am Arwyr y Gyciol wybod. t Yng Nghyfarfod Taleithi(A Lknfyllin, dywedodd y Parch T. Jones Humphreys, Coedpoeth, un o weinidogion blaenaf Wea- leaid Cymru, "na ellid dinistrio milwr- iaeth Gmmani gyda milwriaeth mwy nag y gellid eoncro pechocl gyda phecliod. Diolchai i Dduw am fod ganddynt ddynion ieuainc gyda gwrt-hwynebiad cydwybodol i wasanaeth filwrol oeddynt yn feddiannol ar ddigon o ddewrder i wynebu y sefydliad ofnadwy hwnnw—y tribunal lleol. Yr oedd y dynion ieuaine hyn yn ferthvron, ac wedi'r cwbl yr oedd Cymru wedi der- byn mwy o fuddf ac vsbrydoliaeth oddL wrth ei merthyron nac oddiwrth y milwr."
[No title]
Mr Hughes-Roberts ddewiswyd yn glero i Gyngor Gwledig Ogwen, fel olynydd i'r diweddar Mr R. B. Evans.