Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
20 articles on this Page
GYDA'R ITALIAID. I
GYDA'R ITALIAID. I A ganlyn ydyw adroddiad Rhufain nos Sadwrn: Rhwng Adige a Dyffryn Terragnolo atal- iwyd ymosodiadau y gelyn. Mae'r llwyddiant Awstriaidd ar ol pum diwraod o ymosodol wedi ei dynnu i lawr i feddiant o Mount Zugna Torta, yn ne- heubarth Roveretto. Nid ydyw yr Ital- iaid wedi gadael unrhyw dref na phentref. Amcangyfrifir fod colledion yr Awstriaid yn 40,000, a'u bod yn aruthrol fwy na'r rhai Italaidd.
!.DYDD MAWRTH. I
DYDD MAWRTH. I YN Y VERDUN. l I I Dywedir tod yr ymladd ttyrnicar ru ers chwe wythnos yn myned ymlaen ynghy- mydogaeth y Verdun. Dydd Sul ymos- ododd y Germaniaid i'r gorllewin o'r Meuse ar ffiynt o saith milltir, a thaflodd 60,000 o ddynion i'r ymgjTrch. Canol- bwynt yr ymladd ydyw y Dead Man Hill (chwe milltir a banner i'r gogledd-or- llewin a Verdun), yr hwii hyd yn hyn sydd wedi bod yn rhwystro i bob ymgais ¡ o eiddo'r Germaniaid i gael i Verdun y ffordd lionno. Enillodd y gelyn ddydd Sadwrn tua milltir o'r ffosydd gorllewinol; ond gwnaeth y Ffrancod hafoc arnynt drwy eu medi i lawr ac ennill rhanau yn ol. Y mae'r fynedfa yn gadarii yn Haw y Ffrancod. AiLgymerwyd yr Hkudro- mont Quarries i'r gorllewin o Douaumont. Y FFRYNT PRYDEINIG. I Adroddir. yn swyddogol gan y Prydein- wyr ddydd Sul fod cyflegrau Germanaidd yn brysur wrthi,yn erbyn 5% milltir o'n ffi-ynt cydrhwng Loos a Viny, a thanio trwm ar ein ffosydd o flaen Souchcz. ENILLION AWYROL. I Mae awyrwyr Ffrengig wedi llwyddo i gael chwech o awyrenau Germanaidd i lawr amgylch Verdun, a thair o awyr- longau mewn manau eraill. Tanbelenodd dwy awyrlong Ffrengig linellau cyflenwol y gelyn i'r gogledd o Verdun. I SUDDO LLONGAU GERMANAIDD. I Adi-oddir fod submarines Rwsiaidd wedi I suddo tair yn rhagor o agerlongau Ger- I manaidd yn y Baltic. YN Y TIGRIS. I Dywedir fod y Prydeinwyr o fewn pum milltir i Kut. Nid oes newidiad ar y glan gogleddol, a dim rhagor o newydd parth ymuniad y Rwsiaid a'r Prydeinwyr.
---BONTNEWYDD.I -. - - - -…
BONTNEWYDD. I Cerddorol. Canwyd. amryw unawciau mewn cyfarfod gynhaliwyd yn Bramhall, Southport, gan Miss Katie Blodwen Thomas, 4, Llifon Terrace, a gwnaeth ar- graff ragorol. O'r Fyddin. Yr wythnos ddiweddaf daeth Preifat Wm. Jones, 8, Bethsaida Terrace, adref. Mae'n edryoh yn dda.
--FELINHELI.-- - - .. -
FELINHELI. Cymanfa Ysgolion.-Yng nghapel Bryn Menai, prynhawn Sadwrn diweddaf, cyn- haliwyd un cyfarfod o'r Gymanfa flynydd. ol o ran o Ddosbarth Dinorwig Isaf, set ysgolion Sul (M.C.) Cysegr, Bryn Menai, a Bethania. Llywydd y noswaith ydoedd Mr Griffith Price Jones, Ffinfa, a dech- reuwyd y cyfarfod trwy adrodd rhan o'r Ysgry thvr gan nifer o blant Ysgol Bryn lenai. Yna caed adroddiadau gan Mri W. T. Davies, Gwvndre, a Gwilym Jones, Ysgoldy, o safle y plant, &c., yn y gwa- hanol arholiadau—ysgrifenedig a, llafar— yn y maosydd llafur. Hcfyd gwnaed yn hysbys mai y goreu yn yr arholiad ysgrif- enedig i'r dosbarth dros 21 oed, ydoedd aelod o Ysgol Bethania, sef Mr Hugh Owen, 'Raber, ac yr oedd yn drydydd hefyd yn yr arholiad sirol, a llongyfarch- wn ef ar ei lwyddiant. Yr oedd yeann dan arweiniad Mr John Owen, Garreg Lwyd, a chyfeiliwyd gan Miss Edith May Elias, o Ysgol Bethania, a. Mr Edward Williams, A.T.S.C., o Ysgol y Cyngor. Caed cyfarfod da a llwyddiannus. Marw.—Wedi misoedd o gystudd, yn hwyr nos Sadwrn, bu farw Miss Mary Evans, unig ferch i Mr Wm. Evans, 11, Port Terrace, yn 55 mlwydd oed. Yr oedd yn aelod o eglwys Bethania (M.C.), ac yn gymeriad nodedig o grefyddol. Gedy ar ei liol dad oedranus ac un brawd, sef Mr Wm. Evans, Belfast, a chydymdeimlir yn ddwys a hwy yn eu trallod. Marw Sydyn.—Crew yd gryn fraw yn yr ardal pan glybuwyd am fa,i-iv sydyn Mrs Hughes, priod i'r diweddar Capten Owen Hughes, Menai Street. Bu farw pan mewn llewyg yn gynnar bore Saboth di- j weddaf, yn 47 mlwydd oed. Gedy ddwy ferch a dau fab (y rhai sydd yn y Fvdd.in) i alaru ar ei hoi, ac y mae cyd- ymdeimlad yr ardal gyda'r teulu yn eu profedigaeth sydyn a chwerw.
-oi-CYMANFA GANU (A.) Y !…
oi- CYMANFA GANU (A.) Y WYDDGRUG. Er gwaethaf y rhyfel, a'r ffaith fod cy- nifer o'r dynion ieuainc wedi ymadael, caf- wyd Cynwmfa Ganu nad anghofir yn fuan gan Annibynwyr y Wyddgrug a'r cylch. Ynghapel Bethel, New Street, y cynhelid hi ddydd Llun diweddaf, ac am yr ail waith arweinid yn ddeheuig gan Mr Trevor Hughes. L.T.S.C., Caergybi. Y Sadwrn blaenorol cynhaliodd arholiad cerddorol ym Metliel, y Wyddgrug, a'r Sul arweiniodd dair rehearsal ym Mhontybod- cin, Graianrhyd, a'r Wyddgrug. Daeth eynulliadau mawrion ynghyd nawn a nos Lun. Cyfarfod' gyda'r plant gaed y pry- nhawn, a llywyddid gan Mr Henry Jones, Cner. Holwyd yn hanes Elias gan Mr J. Watkins, a chyflwvnwyd dros 60 o dyst- ysgrifau ynglyn a'r meusydd lafur gan Mrs W. G. Richards, Llanavmon. Llyw- ydd yr hwyr ydoedd Mr G. D. Evans, N. P. Bank, y AVyddgrug. Aed trwy amryw donau gyda hwyl ac arddeliad, a bu raid ail-ganu rhai. Teimlai amryw fod yr hen wres ysprydol yn ail-god', ac ambell i lygedyn o'r hen ddiwygiadau crefyddol yn gwneud eu ffordd i'r golwg. Moddion gras ac ysprydiaeth mewn gwirionedd yd- oedd y gymanfa. drwyddi. Llawenychwn yn ddirfawr weled yr. arweinydd diymlion- gar hwn yn gwneud y fath argraff mor dda. Enillodd ymddiriedaeth y waith gyntaf y bu yn y Wyddgrug, ac ni choll. odd ddim yr ail dro, a dymuniad llawer yw, "Dowch yma eto."
———— YN BAROD I HEDDWCH.
———— YN BAROD I HEDDWCH. Ymddengys a ganlyn yn y "Vorwerts," newyddiadur Germanaidd, ynglyn a'r ym- gom fu rhwng Syr Edward Grey a'r go- bebydd Americanaidd. Mae datganiadau Syr Edward Grey yn haeddu svhv manwl. Nid atebiad pen- dant i araith Bethmann-Hollweg yn unig ydynt, ond ymddangosant fel pe yn cyf- eirio at wledydd amhleidiol all geisio ym- yryd i geisio dwyn heddwch oddiamgyclh. Aiff ymlaen i ddweyd fod Syr E. Grey yn dweyd mai unig amcan Prydain yn y rhyfel ydyw ail-sefydlu Belgium a Serbia. A ymhellaoh, ac hawlia iawndal am y niwed wnaed i'r ddwy wlad. Mae'n am- hosibl gwrthod yr hawliad hwn, os na ddigwydd i Germani fod yn fuddugoliaeth- U9. Cred y newyddiadur y dylai termau heddwch gael eu trafod yn ddifrifol, a hynny ar unwaitb.
[No title]
Cafodd Mr Owen Owen ei anrhegu, yn lAamdrmdod, gyda 500p o'r Exchequer Bonds, a nodyn bane am 140p, gydag an- erchiad oreuredig. Arglwydd Sheffield Ijrwyddai,
I DYDD LLUN.
I DYDD LLUN. I LLWYDDIANT PRYDEINIG. Mae'r bi-iv-, dro wedi ei adnewyddu yn Nyffryn Tigris, ynghymydogaeth Kut-el- Amara. Dywed Syr Percy Lake fod y golvn ddydd Gwener wedi gadael iiq o'i safleocdd ar oclir dele y Tigris. Dilymvyd hwy i iyny gan y Cadfridog Goiringe, ac fel canlyniad i ymosodiad moddiannodd y Dujailah Redoubt. Yr oedd hwn yn bwynt rwysig yn llinellau Es-Sinn, yr hon rwystrodd y Cadfridog Aylmer i fyned trwodd i amddiffyn Kut. Mae catrawd o wyr meirch Bwsiaidd wedi eu hycliwancgu at fyddin y Cadfridog Gorringe. Yn ol pub golvvg, maent. wedi teithio i'r de o Kermanshah, ym Mhersia, taith dros gan milltir.
I BRWYDRO TANLLYD.
I BRWYDRO TANLLYD. Hysbysir fod y Prydeiniaid wedi medd- iannu crater y Vimy Ridge. Fe gofir fod y Germaniaid wedi cymeryd y lie hwn ddydd Ian diweddaf. Nos Wener, ar ol tanbeleniad trwm, vmosododd y gelyn ar y llinell Brydeinig yn ne-oi-Ilewin Loos. I Aeth y gelyn i mev. n i'n llinell gyntaf o'r ffosydd, ond gyrrwyd hwy allan yn ddioed. Nos Sadwrn, ataliwyd tri ymosodiad Ger- manaidd yn ne-orllewin Wieltze. Yn ystod diwedd yr wyt-hnos, y mae bywiog- nvydd aw^ rol enbyd wedi cymeryd lie ar y ffrynt gorllewinol. Tynodd y Ffrancod wytli awyrlong i'r gelyn i lawr a'r Pry- deiniaid ehwech, tra'r hawlia y German- iaid cu bod wedi tynnu deg i lawr.
I BRWYDR ARALL YN VERDUN.I
I BRWYDR ARALL YN VERDUN. Gwnaed ymosodiad mawr arall gan y Germaniaid yn Verdun. Prynhawn Sad. wrn, ar ol tanbeleniad ffyrnig, ymosododd y gelyn ar boll gvffiniau y Dead Man, ar oohr chwith y Meuso. Ar ol cyfres o ym- osodiadau meddianodd y gelyn ychydig o ffosydd ar y llethrau gogleddol. Buont yn. parhau i ymladd drwy'r nos, a medd- ianodd y gelyn linen arall o ffosydd ar lethrau gogleddol y Dead Man. Yr oedd 50,000 o Germaniaid, ar ffrynt o ddwy nUtir yn cymeryd rhan yn yr ymosodiadau filltii-I vn eywei-vd kban vn yr .Nmosodiad au
I YMOSODIAD AWYROL. I
I YMOSODIAD AWYROL. I Dau o'r glooh bore Sadwrn, ymosododd taiv seaplane Germanaidd ar lannau dwyr- einiol Caint. Gollyngodd un ohonynt ddeuddeg o ffrwydbelenau uwchben yr Isle of Thanet, ond ni wnaed unrhyw ddifrod ganddynt. GolljrngwjTd 25 gan y ddwy arall ar y rhanbarth de-ddwyreiniol. Lladdwyd un milwr, a chlwyfwyd dyn a dynes. Niweidiwyd amryw o dai. Tyn- wyd un ol onynt i lawr gan "naval patrol" tuallan i'r glannau Belgiaidd yr un di. wi-iiod.
IGROEG A'R CYNGREI RWYR. I
GROEG A'R CYNGREI RWYR. I Gwnaed datganiad pwysig yn Senedd Groeg gan M. Rallis, cyn-Brif Weinidog Groeg. Dywedodd fod Groeg wedi dweyd na fuasai yn caniatau trosgludiad y Serb- iaid ar y tir, y rhai gyrhaeddodd yn Corfu yn erbyn ewyllys y Llywodraeth. Bu- asai ymadael oddiwrth amlileidgarwch yn dwyn tlodi no erchyllderau gwaeth na ddioddefodd yn barod ar Groeg. Wrth derfynu dywedodd mai bwriad y Cyngreir- wyr ydoedd ceisio tynnu Groeg o fod yn amheidiol.
SWYDDOGOL RWSIAIDD. I
SWYDDOGOL RWSIAIDD. I Dywed yr adroddiad swyddogol Rws- iaidd neithiwr:— Ataliwyd ymdrechion y Germaniaid i gymeryd yr ymosodol ynghymydogaeth- au Illuxt a Llyn Ilzon gan ein magnelwyr. Dioddefodd y gelyn golledion ti-ymion. Ar ffrynt y Caucasus, ynghyfeiriad Mosul, mae'r Rwsiaid yn parhau i symud ymlaen.
Advertising
o = ► Wythnos Fawr YR AFR AUR, Caernarfon. DISCOUNT SALE AM Y MIS HWN RHODDIR 1s 8c Y BUNT 0 DDISCOUNT, (Geiniog y Swllt.) YR YDYM WEDI SIGRHAU UN O'R STOGIAU MWYAF YN Y GOGLEDD AM BRISIAU 1915. PIERCE & WILLIAMS. O 0
TAD YN Y DDALFA. - - - - -…
TAD YN Y DDALFA. 6 I Yr wythnos ddiweddar dartu i ni gornodi I fod John Elias (ieu.), amaethwr, Tyddyn- bach, Llanfaethlu, Mon, wedi ei gael wedi ei saethu yn farw. Arweiniodd ymholiadau yr heddlu idd- ynt amheu y tad, yr hwn sydd yn 76 mlwydd oed, a dydd Iau, cymerwyd ef i'r ddalfa. Mae'r newydd hwn wedi creu brawychiad mawr yn Nghaergybi a'r cyff- iniau. Dydd Gwener; dygwyd y tad o flaen yr ynadon yng Nghaergybi, a chyhuddwyd ef o ladd yn wirfoddol ei fab, John Elias, 46 mlwydd oed, ddydd Sadwrn diweddaf, drwy ei saethu gyda gwn. Dywedodd yr Arolygydd Prothero ei fod. wedi cymeryd y carcharor i'r ddalfa pry- nhawn Iau. Wedi ei roddi ar ei ochel- garwch, cvhuddodd ef o ladd ei fab yn wi r- foddol. Atebodd y cyhuddedig ef, "Na ddo'n wir, ni wn fwy am dano mwy na'r cerrig yna," gan bwyntio at dwr o gerrig, "yr oeddwn yn gorwedd ar y 'settle.' Ni wneuthym y niwed lleiaf iddo; na ddo wir. Ar y dystiolaeth hon caniatawyd gohir- iad yr achos hyd ddydd lati nesaf.
CADEIRYDD NEWYDD.I
CADEIRYDD NEWYDD. I Dewiswyd y Parch John Felix, Man- ceinion, yn gadeirydd Talaith Gyntaf Gog- ledd Cymru, fel olynydd i'r Parch R. Lloyd Jones, Prestatyn, yr hwn sydd yn ymneilltuo i restr yr uwchrifiaid. Bro- dor o Machynlleth yw y cadeirydd newydd, ac wedi teithio ar gylchdeithiau pwysicaf yr enwad. Bu yn Olygydd y" Winllan, a gweithiau y diweddar Ehedydd Ial. Dyma engraifft eto o ddyfalbarhad mewn Ilafur, oblegid y mae Parch John Felix wedi codi o fod yn gysodydd mewn argraffdy i gadair uchaf ei Dalaith. Bu yn ysgrifennydd am 13 mlynedd.
[No title]
Darfu i Gyngor Gwledig Amlwch yn eu cyfarfod diweddaf fabwysiadu treth o 2s yn y bunt am y flwyddyn ddyfodol, sef Is 9c yn is na' llynedd. Mae'r overseers, fodd bynnag, wedi codi treth tlodion i 3s 5c Yount, cynnydd o 2s 2c am y flwyddyn.
CYMANFA YSGOLION SUL
CYMANFA YSGOLION SUL ANNIBYNWYR DOSBARTH BAN- GOR A BETHESDA. Cynhaliwyd yr uchod eleni ynghapel Bethesda, a chafwyd Cymanfa ragorol, ac ystyried yr amgylchiadau a chymaint o tenors a basses wedi ymuno a'r Fyddin, ac yr oedd eu habsenoldeb yn anilwg iawn, yn enwedig yng nghyfarfod y prynhawn. Arweinydd y ddau gyfarfod ydoedd Dein- iol Fychan, a'r cyfeilydd ydoedd Mr R. .0. Hughes organydd Bethesda. Llywydd cyfarfod y prynhawn ydoedd Mr Richard Thomas, C'hwarel Goch, a'r Parch John Evans, Beulah, yng nghyfarfod yr hwyr. Er i'r ysgrifennydd; Mr John Parry, B.A., Ysgol y Sir, Bethesda, ymgymeryd a'r swydd ar ganol y flwyddyn, gwnaeth waith rhagorol, a. thrwy ei ddiwydrvrydd cafwyd Cymanfa liynod lwyddiannus. Hefyd y mae y Gymanfa eleni yn ddyled- us i'r arweinydd cerddorol, Mr Griffith Parry, Treflys, a'r arweinydd Deiniol Fychan am y llwyddiant mawr ar ddydd y Gymanfa. 4 Rhoddwn isod enwau y buddugwyr:— Safon I. (dan 6 oed) .-torworth M. Wil- liams, Peniel, Waen Pentir5 98; Meirion Joseph, Treflys, 96; Nesta Jones, Salem, Bethesda, 93; Nora Griffiths, eto, 91; Mair Davies, Carmel, 90; Willie O. Wil- liams, Peniel, Pentir, 90; Hughie Davies, Chwarel Goch, 90; Emrys Davies, Salem, Betliesda, 81; Caradog Roberts, Tref- lys, 81; J. Buckland Williams, Bethlehem, 80; T. Noel Williams, eto, 76; Alwyn Jones, eto, 74; Ellen Hughes, Peniel, Pentir, 73; J. Pritchard, Salem, Bethesda, 72; Idris Williams, eto, 71; Maggie J. Evans, Treflys, 68. Safon II. (dan 8 oed).—Beta Williams, Bethesda, 100; Clenis Jones, Salem, Beth- esda, .94; Elsie Lee, Beulab, 92; Walter Roberts, Treflys, 90; J. Olwen Roberts, Bethmaca, 90; Enid Williams, Salem, 84; Emyr Williams, Bethesda, 84; L. A. Grif- fiths, Carmel, 82; Belina Williams, Salem, 80; Maggie E. Jones, Bethmaca, 80; Eluned Hughes. Salem, 74_JVlaggie V. Charters, Bethmaca, 72; Kate Price, Waen Pentir, 72; Glyn Williams, Eben- ezer, 70; Mary L. Hughes, Waen Pentir, 70; Goronwy Williams, Pendref, 70. Safon III. (dan 10 oed).-Dilys Davies, Carmel, 100; Olwen Evans, Bethania, 96; Evan E. Griffiths, Salem, Bethesda, 91; Annie L. Roberts, eto, 94; Ceridwen Wil- liams, eto, 92; Eluned Thomas, Treflys, 90; Johnny Williams, Peniel, Pentir, 89; Winnie Williams, Ebenezer, 89; Maggie Griffiths, Peniel, Pentir, 88; Lilian WiL liams, Salem, Bangor, 86; Jennie Evans, Pendref, 86; Buddug Williams, Salem, Bangor, 86; Myfanwy Morris, Bethesda, 85; Sarah M. Evans, Treflys, 84; Blodwen Williams, Salem, Bangor, 84. Safon IV. (dan 12 oed).—Ann Lewis, Salem, Bethesda, 98; Emlyn Jones, eto, 95; W. J. Griffith, eto, 90; Gertrude Thomas, eto, 89; Mary G. Griffiths, eto, 88; H. Trefor Hughes, eto, 86; Phillis Jones, Treflys, 84; W. Stanley Tyrer, Ty'nymaes, 82; Nowie Hughes, Salem, Be.thesda, 80. Safon V. (dan 14 oed). 1, Eliz. A. Griffiths, Salem, Bethesda; 2, R. Emrys I Hughes, eto; 3, J. Llewelyn Roberts, Bethlehem; 4, Herbert Evans, Salem, Bethesda; 5, Wm. T. Williams, Peniel, Pentir; 6, Arfon Williams, Bethesda; 7, Annie A. Parry, Treflys; 8, Emyr O. Jones, Pendref; 9, Idwal Davies, Carmel. Dosbarth TrydYdd (dan 16 oed. 11 Jennie Griffith, Salem, Bethesda 2, John Ifor Jones, Pendref; 3, Mary L. Jones, Salem, Bethesda; 4, Maggie Jones, Tref- lys; 5, Jennie Hughes, Nant y Benglog; 6, John Bucklandf Bethlehem; 7, Myfan- wy Hughes, Treflys; 8, Gladys Jones, Bethesda. Dan 21 oed (Efengyl Matthew). 1, James E. Jones, Treflys; 2, Gwyneth Davies, Carmel. Dan 21 oed (Y Proffwydi a Chrefydd yr Iddewon).—1, Jennie Williams, Bethesda,. Pob Oed.-I, M. A. Roberts, Bethesda; 2, Blodwen Thomas, Bethesda. Cyfansoddi Ton.—Mr W. Jones, Eben- ezer. Cyfansoddi 3 Pennill (cyfaddas i blant). Mr H. T. Jones, Salem, Bangor. ARHOLIADAU CERDDOROL. Arholwyr, Gwilym Mawrth a Mr Thomas Thomas. Sot-fa. Tystysgrif leuengaf: Mair Davies Carmel; Maggie Morris, eto; Elsie Williams, eto; Mary Lizzie Davies, eto; Mary Jane Williams, eto; Jennie Jones, eto; Henry Williams, eto; Lilian Roberts, Bethesda; Grace Ellen Roberts, eto; Olwen Williams, Bethania; Ffrancon Wil- liams, Treflys; David Ellis Hughes, eto; Maggie L. Jones, Chwarelgoch; William Rowland Davies, Bethmaca. Elfenol: Nellie Price, Carmel; Mary J. Williams, eto; Eirwen Williams, Bethesda; Gladys Morris, eto; Myfanwy Morris, eto; Gwyn- eth Jones, eto; Annie Morris, eto; Spen- ser Williams, eto; Beta Williams, eto; Lilian Roberts, eto; Grace Ellen Roberts, eto. Hen Nodiant.—Trystysgrif 1: Christobel Roberts, Carmel; Robert Price, eto; R. Hughes Jones, Carmel; Jennie Hughes, Nantybenglog.—Tystysgrif 2il: Myfanwy Roberts, Carmel; Olwen Evans, eto; Jennie Hughes, Nantybenglog; Emily Mary Jones, Bethesda.
=— GWRTHWYNEBWYR CYDWY.BODOL.
=— GWRTHWYNEBWYR CYDWY- BODOL. Dydd Mawrth, cymerwyd nifer o wrth- wynebwyr cydwybodol o Bare Kinmel i garcharau milwrol, wedi eu profi gan Iys- oedd milwrol am wrthod cario gorchymyn- ion allan. Gwrthododd rhai ohonynt fyned ar y "parade," a rhoddi eu gwisg khaki am danynt. Eisteddodd un dyn am amser hir yn ei "pyjamas" ar ol i'w ddillad gael eu cymeryd oddiarno, a chymerwyd ef i'r ddalfa yn y eyflwr hwnnw.
GWARCHEIDWAID CAERNARFON.
GWARCHEIDWAID CAERNARFON. Dydd Sadwrn aethpwyd i mewn i'r mater o gael mangle newydd; ond wedi trafodaeth penderfynwyd i Bwyllgor y Ty ail-ystyried y mater. Pasiwyd ar gynygiad Mr T. J. Lloyd, Llanrug, a chefnogiad Mr H. Parry, Glan'rafon, i anfon ab y Swyddfa Ryfel, yn gofyn iddynt gadw y Cadfridog Owen Thomas yn ei le,