Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

tY. SENEDD.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

tY. SENEDD. DYDD rtlAWRTH. MESUR GWASANAETH MILWROL. Pasio'r Trydydd Darlleniad. Aeth y Ty ymlaen i ystyried y Mesur Gwasanaeth Milwrol. Cynnygiodd Mr Whitehouse (R.) welliant, sef fod yr oed i w godi o 18 i 19. Yr oedd ef yn pro- testio yn erbyn gorfodi bechgyn ysgol, a darllenodd lytbyr oddiwrth fam oedd yn Pl'y. Uerit rhag oin colli ei mab. Gofynodd & oedd gan aelodau oedd yn cefnogi y Mesur feibion en hunain. Mr Will Thorne: Mae gennyf fachgen fydd yn ddeunaw yn fuan, ac fe aiff ef. Mae arno eisiau mynd yn awr (cym.). Eiliwyd y gwelliant gan Mr Hogge (It.). Dywedodd Mr Long fod yn ddrwg gan- ddo gymwyd bechgyn deunaw oed, ond yr oedd yn angenrhaid, eenedlaethol. frylid cofio fod y bechgyn hyn yn ntan- teisio yn aruthrol oddiwrth yr hyffordd- iant dderbyniant. Yr oedd un fam wedi dweyd wrtho fod ei bachgen wedi gwella yn fawr ar ol tri mis o hyfforddiant mil- wrol. Yr oedd yn well iddynt eu hunain gael eu cymeryd yn ddeunaw oed. Trwy hyn byddant yn cael blwyddyn o hyffordd- iant cyn eu hanfon i'r ffrynt, oherwydd yn y rhyfel hon mae hyfforddiant a dis- gyblaeth yn fwy pwysig na dim aral]. Yr oedd wedi ei awdurdodi i ddweyd na an- fonid yr un bach gen i'r ffrynt hyd nes y bydd yn 19 owl, os na fyddai gwir angen am hynny. Argymhellai Mr Barnes (LI.) y dylid ta-lu "separation allowances" mewn achos- ion prentisiaid elwir i fyny. Dywedodd Mr S. Walsh (LI.) fod Un- deb Mwnwyr Prydain Fawr yn unfrydol o'r farn mai camgymeriad eenedlaethol ydoedd cymeryd bechgyn deunaw oed i'r fyddin. Nid oedd ef vti credn fod angen yn galw a in danynt mor fuan. Dywedodd Cyrnol Yate ei fod ef wedi tnyned allan i India pan ond deunaw a banner oed. Llongvfarchodd Mr Philip Snowden aet odau y Blaid Lafur am yr cdifeirwch gwely angeu. Ar ol trafodaeth bellach, collwyd y gwelliant trwy 207 o bleidleisiau yn erbyn 82. Dynion Anghymwys. I Ar Adran 3, yr hon sydd yn delio gyda rhyddhad o wasanaeth, cynnygiodd Capten Amery welliant, amcan yr hwn ydoedd rhwystro dyn i apelio am ryddhad o was- anaeth os oedd wedi bod rhyw dro yn y fyddin. Dywedodd fod Mr Long wedi addaw ystyried y gwelliant hwn. Ar ol trafodaeth bellach, dywedodd Mr I •Ltfjig nad oedd angen am dano, a thaflwyd I .A .allan. jfiynian Wrthodwyd gan y Meddyg. I 'Cyw^iodd Mr Pnngle (R.) fod i Is- £ dran. J ael ei gadael allan. Mae lion • jiti ymwu^t- a'r dynion wrthodwyd gan ryg ar gt Awst 14, 1915. yr lioxi sydd yn eu goyfodii:.tyned o dan ail-archwiliad tneddygol. Eiliwyd ef gan Mr Holt (n.). -on (LI.) na ddylai y r 1 oedd yn dal tystysgrifau ineddygol parhaol gael eu ga-lw i fvny i gael eu haiI- archwilio. Gvrthodwyd y gwelliant, ar ol trafod- aeth fywiog, gydag 140 o bleidleisiau yn < erbyn, 48, Ar ol ystyried y gwahanol adranau, apeliodd Mr Long at y Ty i roddi trydydd ddarlleniad i'r Mesur. Pieidleisiwyd arno, gyda'r canlyniad esralynol:— H Biaid 250 Yn Erbyn 35 I Derbyniwyd y ffigyrau gyda cliymerad. ivyaeth ucliel. Gohiriwvd y Tv am 11.21p.m. DYDD MERCHER. CYMORTH ARIANOL I FILWYR. I Gofynodd Mr Montague Barlow beth ydyw'r trefniadau wnaed gan y Llywodr- aeth er mwyn galluogi y rhai sydd neu gaiff eu galw i fyny am wasanaeth milwrol i gyfarfod a'u hamgylchiadau. Dywedodd Mr Hayes Fisher fod manyl- ion y cynllun wedi eu gweithio allan. Bydd yn effeithio ar ddynion, ar wahan ] ewyddogion, pa, im ai priod ai dibriod, Bydd wedi ymuno a'r fyddin ar neu ar ol Awst 4ydd, 1914. Rhoddir cymorth ariannol i'r dynion hyn os y gallant brofi y bydd caledi difrifol yn sicr o gymeryd lie os y gelwir hwy i fyny am wasanaeth milwrol. Rhoddir cymorth iddynt gyùa. rhenti, rfrethi, yswiriant &c. Ni roddir ystyr- Jaeth i geisiadau am gynorthwy i dalu ,dyledion cyffredin, ac ni roddir mwy na 104p y flwyddyn o gymorth i neb. Gellir cael y ffurfleni i wneud oeisiadau am gy- in"th yn y llythyrdy, a rhaid i'r dyn ei hunan wneud y C9, os na fydd yn gwas- anaethu mewn gwlad dramor, pryd y gellir gwneud y cais gan berson awdurdodwyd ganddo ef. Bydd yr achosion yn cael eu Uiarchwilio gan y Dirpi-wywyr, a gwran- dcwir hwy yn brcilafc. ISi all y Liiprwy- wyr bllderiynu ar yr acliosion, oiiu byuu yn ddylcdswydd arnynt i loddloni eu hun- ain tod y datgaiiiadau yn rhai cywir, a'u cymeradwyo i r i'wyllgor Canolog, gan yr liwil y iiicidit- y cymortii. Mae'r wlad wedi ti liiaimu yn ivji-annaii, fel ag a wnaed gyda'r tribunals. Gwneir trein- iadau gwahanol ynglyn a'r Iwerddon, am nad oes tribunals yno. Apwyntiwyd 52 o Ddirprwywyr dies joegf a Ciiynuu, ac 20 Ysgotland. Bydd y tturfleni a pel w cac-1 yn v llytliyrdy tua diwedd yr wytiinos lK.sai. 'Jelir y cyniorch fel theol bob clnvarter. Bydd gan y pwyllgor liawl i adolygu y cymorth) a'u cynnyddu, neu eu lleihau os byddai amgylchiadau yr apelydd yn digwydd newid. Gofynodd Mr Barlow a oedd yr 104p i'w talu ar wahan i'w tal a "separation allow- ances. Mr Hayes Fislier: Ydynt. Mr G. D. Faber: A gaiff y Dirprwywyr dal? Mr Fisher: Cant. DOSBARTHIADAU DERBY. Hysbysodd Mr Tennant Mr Percy A. Harris fod dyddiad cau dosbaithiadau Derby yn cael ystyriaeth. Gohiiiwyd y Ty am wvth munud wedi wyth. DYDD IAU. Y MESUR ARIANNOL. Ar y cynnygiad am ail-ddarlieniad y Mesur Ariannol, dywedodd Mr Hewins (T.) ei fod yn credu ein bod wedi cyrraedd pwynt pen-glus yn y rhyfel. Mae Ger. mani wedi gwneud cynnydd mawr yn ystod y rhyfel, ac wedi agor amryw o ddiwyd- ianau newydd, a, chredai ef fod yn amser j ni sylwetldoli fod gennym allu cryf i ddelio ag ef. Siomwyd ef gyda'r Mesur Arian- nol mor belled ag yr oedd yn myned i gyn- orthwyo i gario v rhyfel ymlaen, gan ei fod yn yir.ddangos fel pe yn anwybyddu yr Ymerodraeth a'r Cjngreirwyr. Mae'r I! trethi ucliel yn rhoddi pwys mawr ar ddi- wydianiiau, a tlieimlir oddiivrthynt ar ol y rhyfel os na chymerir camrau i ddiogelu diwydiannau Prydeinig. Gwrthododd y Llywodraeth fabwysiadu cyfundrefn Ddi- ffynaollawl, a phenderfynasanfc wahardd mewnforion. Torodd y cynllun hwn i lawr gan fod mewnforion yn parhau i ddod i mewn. Credai ef y buasai trefniant Diffyndollawl yn llawer mwy effeithiol na gwahardd mewnforion. Dywedodd Mr Austen Chamberlain ein bod yn cyfarfod treuliau rhyfel fel yr vdym yn myned ymlaen. Nid oes yr un wlad arall yn ceisio gwneud hyn, am na all yr un wlad wneud gorchwyl mor fawr I (cym.). Er dechreu y rhyfel, mae'r cyllid wedi eangu yr amcangyfrifon, a'r flwyddyn ddiweddaf yr oedd yn U2,000,000p yn fwy. Credai ef y dylid mabwysiadn cynllun oddiar safbwynt polisi eenedlaethol. Penderfynwyd gwahardd mewnforion er ceisio atal defnyddio pethau nad oedd angcn am danynt, ac er mwyn cael tunelliad i gludo nwyddau angen- rhcidioi. Credai Mr Lough fod Canghellor y Try sarlys yn cael gormod o arian gyda'i Gyll. ideb, a chyhuddodd ef o is-amcangyfrif y eyllid, a goramcangyfrif y treuliau. Dylai fod ganddo adroddiad clir o beth fu y tretiliau ar y rhyfel, ar wahan i'r benthyc- iadau roddwyd i'r Cyngreirwyr. Credai hefyd y dylai Canghellor y Trysorlys yn yr argyfwng presennol dalu mwy o Bylw i gj'nildeb. Ar ol trafodaeth pellach, caniatawyd i'r nil-ddarlleniad. ¡ Y CORFFLU GWRTH.YMLADDOL. Crofynodd Mr Morrell (R.) a oes rhagor o'r gwrthwynebwyr cydWvbodol wedi eu hanfon i'r ffrynt. Dywedodd Mr Tennant na allai ddwevd, I ond y byddai y Ty yn falcli o glywed ei fod wedi clvwed oddiwrth yr Adjutant-General y diwrnod blaenorol, yr hwn ddywedai fod I popeth yn myned ymlaen yn rhagorol, ac I nad oedd yn cael trwbwl o gwbl gyda'r corfflu gwrth-ymladdol (cym.). Gohiriwvd y Ty am chwarter wedi un ) ,i,-

GWNEUD Y GWRANDO. I

I MEDDYulNIAETH NATUR.

I WESUL IIPYN.

IBYR-NEWYDDION.

YR AMSER NEWYDD.

TRIBUNAL GWYRFAI.

■#<—— PROFFIDIAU MORWROL.