Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

SENEDD M PENTREF. -

News
Cite
Share

SENEDD M PENTREF. NEU, GWEITHDY WMFFRA TOMOS, Y CRYDD. Y FELLDITH FAWR. I Wil Ffowc: Rwy'n credu fod cnul y fell- dith fawr wedi ei dcjhre, a dw 'n gobeithio y bydd i hangladd hi yn fuan iawn bellach. Wmffra: Be su'n peru i ti fcddwl hynny Wil ? Mi fasan dda iawn gen i allu meddwl dy fod di yn reit am dro. Wil Ffowc: Wel, meddwl rydw i tud yna sein go dda yn y ffaith fod pobol Lerpwl yna. yn dechra mwstro i gael rhoi cortyn am i gwddw hi. Os yd: Lerpwl Doriaidd lie sv'n enwog am noddi'r fasnach, yn mynd i anvain y gad i'w chladdu hi fvdd- wn ni fawr o dro a chael cynhebrwng mawr iddi hi. Wmffra: Wei ydu nhw yn mynd i neud rhwbath. Wil? hefog hi ? Wi.  Ydun vn cno'r tad' mae Wil Ffowc: Ydun yn eno'r tad; mae nhw wedi cynnal cwarfod mawr yn barod, ac wedi pemderfynu gwasgu ar y Llywod- raeth i gymryd y Fasnach drosodd yn eiddo iddynt hwy. Wmffra: Pa fantais i'r wlad fyddai hyny dwad? Waeth i'r darllawyr a'r tafarn- wyr, a'r eyfranddahvyr gel yr arian mwy na'r Lljpvodraeth. Gwerthu y ddiod fydd yna o hyd. Sian Ifans: Mi fydd yna fwy o'i werthu wedyn mi dyffeia i nhw, achos mi falith yr aeloda fod yna ddigon o fusnas yn mynd ymlaen i hel i cyfloga nhw. Wit Ffowc: Taw cyboli, Sian bach. Sian Ifans: Nid cyboli mohono, mach- gian i. Mi gei di welad y bydd y tacla yna sydd yn y Senadd yn gofalu fod y- Felldith Fawr yn dod yn Fendith Fawr iddynt hwy, ac mi falant fod yna godiad i'w cyfloga. yn cymeryd lie yn ddioed. Fydd y pedwar cant fawr o dro a dod yn bump, machgian i. Wil Ffowc: Tydw i ddim yn ineddwl run fath a ti, Sian. Nid dyna amcan eymer- yd y fasnach drosodd, weldi. Isio i gweithio hi er lies moesol a diwydiannol yr Ymerodrath y maent, ac y maent wedi dwad i sylweddoli rwan mae gneud drwg y mae'r fasnach i foesa a diwydianna. Lleia yn y byd o yfad, lleia yn y byd o bechu; lleia yn y byd o bechu, mwya yn y byd o waith, a gora yn y byd fo'r gwaith hwnw. Mwya yn y byd o waith da a gon- est wneir, cyfoethooa yn y byd yr aiff yr Ymerodrath. Wut ti'n gwelad rwan, Sian ? Sian Ifans: Toes yna ddim bai ar y deud. un amsar, y gneud su ar i hot i, weldi. Rhaid i ti gofio fod! yna bobol sy'n ofnad- wy am y ddiod yn y wlad yma, ac mi wnan bopeth er mwvn i chadw hi'n fas- nach fyw a hwylus, ac mi ofalan fod yna ddigon o bobol o'u plaid yn eael eu hanfon i'r Semadd. Wmffra: Ond toes yna ddigon o gapel- wrs a glwvswrs, a dirwestwrs o'r ochor arall fasan gorbwyso y rhai hynny. Dafydd: Lie mae nhw, deudweh ? Wuddoeli chi beth, Wmffra, mae'n gwes- tiwn gen i a fasa'r fasnach yn gallu byw oniblaw am gapelwrs. Mae, selerydd a llymeitian euloda eglwysig, yn fwy na hanar cadw y Felldith Fawr ar ei thraed, a tasa chi yn troi pob un o'r rhai hyn o'r capal, ac yn peidio cymryd yr un ddima o'u hariati, mae'n gwestiwn gen i a fasa'r achos yn gallu sefyll ar i draed. Y Sgwl: Braidd yn eithafol ydyw dweyd fel yna, Dafydd. Nid yw'r eglwys wedi mynd mor lygredig eto. Mae'n wir fod gormod o le yn cael ei roddi i'r Fasnach Feddwol gan yr eglwys, pryd na ddylai gyfaddawdu a hi o gwbl; ond credaf fod yr eglwys yn ddigon cryf pe rhoddid prawf ami i'w grrru o'r tir yn llwyr. Wil Ffowc: Piti na fasa hi'n gneud ynta; mae ai-na i ofn mai y Senadd ddeng. ys y ffordd' gyntaf. Y peth mwyaf wela i sy'n gneud cymeryd y Fasnach i fyny gan y Llywodraeth yn un iach ydyw v bydd iddo gau allan y buddiannau per- sonol oedd ynddi yn cancvo popeth. Yn I awr, os ydyw y Llywodraeth wedi canfod I' mai niwed geir allan o'r ddiod, gorchwvl Iiawdd fyddai iddi gyda'i meddiant ei bun ei daflu o'r neilltu yn llwyr. Mae ganddi bopeth ol phlaid at wneud hynny. a Rwsia yn esiampl odidog hefyd. Mae Rwsia wedi ennill miloedd ar filoedd o bnnnau wrth wneud hebddi yn barod, heb son am ei bod wedi rhoddi enaid newydd i'r wlad. Y Sgwl: Mae calon y cnvii- gennycli, I Wil Ffowc. Nid melldith yn unig yw'r Fasnach Feddwol i'r wlad, ond gelyn; ac fcl y dywedodd Mr Lloyd George, yn TioTlol gywir, dyma brif elyn Prvdain heddyw. Yr ydym yn methu deall Llyw- odraeth mor oleuedig, mewn gwlad Grist- ionogol, yn medru gwario pum miliwn yn y dydd, ac abertliu miliwnau o'n bechgyn goreu, ac amddifadu teuluoedd wrth .y miloedd o'u cysuron penaf, er mwyn difodi gelynion llai, yn 01 cydnabyddiaeth ar- weinwyr y Llywodraeth, na fedrant roddi atalfa uniongyrchol ar y gelyn pennaf, yr hyn nad yw ond golygu ei brynu drosodd a'i ladd, mewn undydd unos. Fe wneid hynny heb ddifetha yr un bywyd, ond achubid cenedl a chyfoethogid yr Ymer- odraeth drwyddi draw. Wil Ffowc: Collasant gylle i neud stroc anfarwol ar ddechi-eu y rhyfel; ond nid yw yn rhy ddiwcddar eto i gael gwaredigaeth oddiwTth grafanc y bwystfil ofnadwy hwn. Sian Ifans: Chei di mo dy ffordd ar chwara bach, Wil. Uhaid i ti gofio fod yna filoedd yn gneud arian fel slecs allan o'r Felldith Fawr, rhai ohonynt yn Nhy'r Cvffredin, mwy o kuvar yn yr House of Lords. Mae nhw yn deud fod yna beth wmbrath o esgobion a chleaigwyr, a rhai prygethwyr, a pheth eynddcihog o fleun- oriaid, a cliannoedd o euloda glwysig yn shavog yn y consyrn a sut rwyt ti yn disgwul i rhieni adal y busnas o'u dwylo. Na nhw ddim ar chwara bach, weldi. Wmffra: Tybad, Sian. Faswn i byth yn meddwl fod a wnelo sgobion a gethwrs a'r Fasnach. Gwarchod ni, choclia i ddim chwaith. Wil Ffowc: Mae o'n citha gwir, a dyna ydi'r cebyst, neu mi fasa ni wedi setlo'r matar ers talwm. Ond mae hi yn dwad yn boethach amun nhw bob dvdd. gloch wedi canu, ac mae'r cynhebrwng yn dechreu cael ei gyhoeddi. Mi gewch chi welad y bydd yna orymdaith i'w gladdu yn bur fuan rwan, ac er mod yn gynddeiriog yn erbun seuthu, mi joiniwn ni i roi shot uwchben i fedd, gnawn wir. Y Sgwl: Bydd claddu'r Felldith Fawr y Fendith fwyaf in gwlad goelia i. Harri: Beth pe tasa rhywun yn mynd yn sal ac isio brandi neu chwisci. Mi fydda raid marw felly liebddo? Y Sgwl: Tydi'r Llywodraeth ddim yn bwriadu gwrteud i ffwrdd ag ef fel gwen- wyn meddyginiaethol. Ond pe tasai yn golygu hynnv, mae'n hawdd gwneud heb- ddo. a chael peth i gymeryd ei le. Wil Ffowc: Mae'r Llywodraeth wedi gwneud i ffwrdd ag ef i'r gweithiwr tlawd rwan. Chewch chi ddim brandi na chwisci heb gymyd potal fawr, ac y mae hono yn costio tua saith a chwech. Pwy fedar brynu a chadw hono ? Sian Ifans; Dyna hi eto. Mae pob deddf yn taro y dyn tlawd. Tydi deddfa yn respectable. Wmffra: Rwan gadewch 1 ni gael ter- fynu, mae hi yn amsar swpar. Cofiwch chi yr wsnos nesa rwan fod yr amsar yn newid, mi fydda i yn cau am naw er mwyn ych troi chi allan am ddeg. NOB dawch, hogia.

SYR ROGER CASEMENT.

Advertising

WESLEAID GOGLEDD CYMRU. I

IEIN BEIRDD.

PENSIWN GERMANWR. - I -I

DROS Y DWR.

Y GYFUNDREFN ADRANNOL.

APEL CYNGHORYDD.-I

CLWY'R GYDWYBOD.

ETHOLIAD TEWKESBURY.