Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
18 articles on this Page
FELINHELI.I
FELINHELI. Marw.—Yn hwyr no-? Sadwrn bu ranv Mr James Hughes, Augusta Place, yn yr oedran teg o 92 mlwydd. Gedy un feroh i alai-u ar ei ol, sef Miss Hughes, yr hon oedd ga-i-tref gyda'i thad, ac yn gofalu yn dyner am dano hyd y diwedd, a c'hydym. deimlir yn ddwys a hi yn ei phrofedigaeth lem. Cymer ei angladd (cyhoeddus) le prynhawn Iau nesaf. Cyflwyno Gwobrwyon. — Yn Ysgol Saboth')! Bethania, (M.C.), y Sui diwedd- af, cyiiwynwyd gwobrwyon mewn arian i'r plant fu yn Hwyddiannus yn y Safon- au yn ystod y flwyddyn. Yr oedd yr ad- roddiad wedi ei barotoi mewn modd! man- wl a gofalus gan Raddolwr presennol yr ysgol, sef Mr David Griffith, 14, Terfyn Terrace; ac yn darngos ol ymdrech a llafur mawr ymysg y plant. Gwnaed y cyf. Iwyniad ar ran yr ysgol gan Miss L. Davies, 10, Terfyn Terrace. Hefydr, yn ol arfer Ysgol Bethania, rhoddwyd y waith hon eto Feibl o rwymiad hardd i bob plentyn, 15 mewn nifer, oedd yn cael eu svmud o ddosbarthiadau y Safonau i'w Beiblau. Diolchodd Mr John Pritchard, Belmont, arolygwr yr ysgol, i Miss Davies a Mr Griffith am eu gwasanaeth, ynghyd ac i'r safonwyr lleol am eu Ilaf-tir "da'r plant.
PENRHYNDEUDRAETH. I
PENRHYNDEUDRAETH. I Yn Rhingyll,Ma,e Mr Hugh Da¡r, mab Mrs Janet Davies, School Street, wedi cael ei godi yn rhingyll. Gyda'r Smith Wales Borderers y mae.
-PORTHMADOG.__ I
PORTHMADOG. I Wedi ei Glwyfo.-Dywedir fod y Preifat Ellis Williams, 5, East Avenue, wedi ei glwyfo. Ym Mesopotamia gyda'v cwmni l rhvddhaol y mae. Ein Beirdd.-Cfiii Eifion Wyn yw un o'r pethau goreu sydd yng "Ngheninen" Ebrill. Yn yr un rhifyn ymddengys cdlau swynol gan loan Madog a J. R. Tryfanwy. Marw. Yn Tregar, Morfa Nefyn, bu' farw Mrs Ellen Hughes, priod y diweddar Mr Richard Hughes, Porthmadog. Cladd- wyd hi tldydd Iau ym Mhorthmadog.—NOB Perch or, wedi hir waeledd, bu farw Mr Wm. Timothy, sailmaker, yn 83 mlwvdd oed. Yr oedd yn ddiaoon yn Salem (A. ac yn fawr ei barch gan bawb. 0 Mesopotamia.—Hysbvsir fod y Preitafc Wm. Roberts, mab Mr a Mrs W. Roberts. Glangors, Prenteg, wedi. cael ei lgdd ym Mesopotamia. Warcleniaid.—Mr John Evans, drapei, apwyntiwyd yn warden i'r ficer, a. Mr A. tok. Tv Nanney, yn warden y bobl.
WAENFAWR.I
WAENFAWR. Y Inae c n y prif-fardd Berw yng "N gheninen" Ebrill ^n un o'r darnau barddonol goreu sydd yn y rhifvn cyf- > oethog yma. 40
RHYDDHAD-I BRIODI. I
RHYDDHAD-I BRIODI. I t Dydd Sadwrn, ym Mangor, bu eistedd- iad olt- Llys Apel Sirol. Apeliodd gweinidog Y mneilltuol am ryddhad i R. Llew. Williams, chwarelwr o Lanllechid, er mwyn ei alluogi i bnodi. Dywroodd y cynrychiolydd milwrol ei fod yn credu fod ei ddarpar-wraig wedi gadael ei lie yn harod, ac fod y gostegion wedi eu cyhoeddi, a'r unig beth oedd ar yr apelydd eisiau ydoedd amser i wneud y gwaith hwn (chwerthin). Er budd y genedl ni allaf wrthwynebu y briocla-s (chwerthin). Gwrthodwyd yr apel, ond nid ydyw yr apelydd i'w alw i fyny hyd Mai 31ain. Yn yr un tribunal, cafwyd protest wedi ei arwvddo gan 280 o drigolion Tregarth I o blaid rhvddhau o'r fyddin William Ro- bert,s, Craigypandy Bakery, Tregarth. Gwrthodwyd ei apel gan Dribunal Ogwen. Yr oedd trustees Capel Shiloh (W.) wedi anfon hefyd yn gofyn iddynt ei ryddhau, gan mai efe ydoedd organydd yr eglwys. Ni allai neb arall o'r aelodau ohwreu y "pipe-organ. Gofynood Dr Wynne Griffth i dad y bachgen beth fuasai'n digwydd pe y cauid v becws i fyny. Y Tad: Mae'r Llywodraeth wedi cy- meryd amryw o ddynion ieuaino o'r ardaJ acw, a chymeryd y becwa yma.ith fuasai y ffurf waethaf o ormes Germanaidd (chwerthin mawr). Gwrthodwyd yr apel, ond ni elwir yr apelydd i fyny hyd Mai 31 ain. Rhoddwyd gwrandawiad preifat -i apel- jadau pedwar gwrthwynebydd cydwybodol, ac esgusodwyd dau o wasanaeth ymladdol. Gwrthodwyd y ddau arall. Iddew o JTangor oedd un ohonynt.
TRIBUNAL GWYRF AI.
TRIBUNAL GWYRF AI. Bu eisteddiad o'r uchod dydd Llun, Mai 8, Mr T. W. Williams, Penygroes, yn y gadair. Apeliodd y cynrychiolydd milwrol yn erbyn dyfarniad y Tribunal yr w-ytb-nos ddiweddaf yn achos Mr J. E. Thomas, 31 oed, Glanllyfnwy, Penygroes, athraw cy_ north wyol yn Ysgol y Cyngor, Penygroes. Dywedai y cynrychiolydd milwrol ar ffurf- len ei apel fod poh rheswm dros grediu nad oedd ei apel wedi ei sylfaenu ar gydwybod lawer iawn o amser yn ol. Mr Issard Davies: Yr ydych wedi bod yn wirfoddolwr.—Ydwyf am bedair blyn- edd, a bum yn bresennol mewn tri camp allan o bedwar. Mr Davies: A oeddyoh yn "good shot" ?-Tybiaf fy mod. Mr Davies: Ymhle 'roedd eich cydwy- bod y pryd hwnnw?—Nid oeddwn ond 16 mlwydd oed y pryd hwnnw. Y r oeddwn wedi gorffen gyda hwy yn 1904, pryd nad oeddwn ond 20 oed. Yr wyf yn 32 oed yn awr ac yn ystod y deuddeng mlynedd hyn yr wyf wedi myned tnvy gyfnod pWTsig; yn hanes fy mywyd. Bum yn y coleg, a chyfarfyddais a phethau hollol walianol. Mae'r Ceidwadwr mwyaf selog yn Nliy'r Cyffredin heddyw am gydnabod cydwybod. Gwna hyn gydag un wedi bod yn Grynwr am ddau neu dri mis, ac os nad ydyw 12 mlynedd yn ddigon i sylfaenu cydwybod ddylai gael ei ehydnabod, faint sydd ? Mr Davies: Ond yr oeddych yn "extra- shot. "—Ond dywedais fy mod wedi bod yn y coleg. Gwyddoch y gall baohgen 16 oed gael ei gario ymaith gan eraill, a hyn fu yr achos gyda mi. Mr Davies: A oeddych yn wirfoddolwr yn y coleg?—Nao oeddwn. Gan fy mod wedi bod yn wirfoddolwr, gwn am swydd- og gymerodd ran yn rhyfel De Affrica sy'n dal yr un golygiadau a minnau, ac yn perthyn i'r un gymdeithas ag yr wyf (i yn aelod olioni. Mewn ate,biad i'r Parch J. Richards, Bethel, dywedodd mai astudio hanes Count Tolstoy oedd wedi dylanwadu ar ei fywyd. Wedi darllen un llyfr o'i eiddo, yr oedd wedi ei wneud yn bwynt darllen pob llyfr o'i eiddo allai gael. Mr Issard Davies: Pe baech yn darllen araith Mr Lloyd George ddydd Sadwm, efallai y buaseoh yn newid eich meddwl eto.Na wnaf. Cofiwch nad wyf yn ceisio argyhoeddi neb ar y Tribunal mai fi sydd yn fy lie. Mr J. W. Thomas, Waenfawr: Credaf ei fod yn ddigon mawr i newid ei fa-rn. Mae amgjlchiadau wedi gwneud iddo newid ei feddwl, a, chredaf fod yr am- gylchiadau piesennol yn ddigon i wneud unrhyw ddyn newid ei feddwl. Dywedodd yr apelydd ei fod yn credu mai cydwybod ydoedd y petli pwysicaf, ond yr oedd ganddo ddyledswydd pwysig arall i'w wneud, sef gofalu am ei fam weddv a dau blentyn. Gwrthodwyd apel y cynrychiolydd mil- wrol. DYFARNIADAU ERAILL. I J. Angel Roberts, Llanddwyn View, Felinheli, rhyddhad amodol. Owen Owens, Glan Gwyrfai, Llanfaglan, rhydd- had hyd Tachwedd 13eg. Thomafe ElliB, Tyddyn Seipar, Llanwnda, rhyddhad hyd Taclnvedd 13eg. John Morris Williams, Tandderwen, LlanberLs, rhyddliad hyd Tachwedd 13eg. Wm. R. Williams; Rhyd- ygerlan, Bethel, rhyddliad amodol. Gwrthodwyd apeliadau Robert Jones, Ty Newydd, Bontnewydd^ a G. Owen, Post dd, x G. Owen, Port Office, Llanwnda. ————
-\ TEITHIO 6,000 MILLTIR I…
TEITHIO 6,000 MILLTIR I I YMUNO. Mae Mr W. S. Kettle, Old Wokin, Surrey, yr hyn sydd newydd ymuno a'r fyddin, wedi teithio 6,000 milltir o Texas i wneud hyn.
CAEL CORFF CYN-FAER. I
CAEL CORFF CYN-FAER. Mae corff un o'r dynion mwyaf adnab- byddus yn Morpeth, sef yr Heaudnr R. J. CalT, wedi ei gael yn yr afon Wansbeck. Bu yn faer y dref ddwy waith. ————
DIGWYDDIAD ALAETHUS. |
DIGWYDDIAD ALAETHUS. Mae Belgiad o'r enw Camille Verijok wedi crogi ei hun mewn cell yng nghar- char yr Amwythig. Yr oedd yn aros ei brawf am achosi niweidiau corfforol yn Broxton.
I CAMGYMERIAD DYBRYD.
CAMGYMERIAD DYBRYD. Y r wythnos ddiwcddaf, cafwyd ystorm fawr o daranau, yn cael ei dilyn gan lif- ogydd, yn Newcastle. Mor drwm ydoedd y tavanau, fel y meddyliodd, y trigolion aT I y cyntaf fod y gelyn yn tanbelenu y glan- j naUr
Advertising
PENTYMOR. DIGWYDDIAD PWYSIG I DISCOUNT SALE II. YN II YR AFR AUR, Caernarfon. TRWY Y MIS HWN Rhoddir is 8c J Bunt neu Geiniog J Swllt o Ddiscount. Y STOCK FWYAF, YR OREU a'r RHATAF YN NGOGLEDD GYMRU PIERCE & WILLIAMS. O — = —— °
I DYDO LLUN.:I
I DYDO LLUN. I ( SAETHU REBELWYR. I Mae rhagor o rebelwyr yr Iwerddon wedi eu condemnio i faTW, ond oddigerth un achos newidiwyd1 y ddedfi-vd. Mae John Bride, yr hwn gymerodd ran yn l'hyfel De Affrica, wedíei saethu, Dyma'r wythfed rebel i gael ei saethu. Newid- iwyd dedfryd Countess Markiewicz i benyd-wasanaeth am ei hoes. Dedfrydwyd Count Plunkett a'i fab John i farwolaeth, ond newidiwyd hyn hefyd i 10 mlynedd o benyd-wasanaeth. Mae Count Plunkett yn dad i Joseph Plunkett saethwyd dydd Iau. Yn ystod y gwrthryfel lladdwyd 160 o ddinasyddion Dulyn. BRWYDR VERDUN. I Nid ydyw y Germaniaid wedi rhoddi i fyny y gobaitli o gymeryd' Verdun. Yn dilyn tanbeleniad ffyrnig, yr hwn barha- odd am ddau ddiwrnod, gwnaeth y gelyn ddoe, ar ochr chwith y Meuse, ymosodiad cryf ar y ffrynt Ffrengig rhwng Hill 304 a'r Dead Man. Llwyddodd y gelyn i fyned i fewn i warchffos yn nwyi-einba.rth Hill 304, ond ataliwyd ef ymliob man 3irall gyda, colledion difrifol. Ar ochr dde y Meuse gwnaed amryw o ymoso-diadau dilynol gan y Germaniaid rhwng Haudro- mont Wood a Douaumont. GORCHESTION RWSIAIDD. Hysbysa. adroddiadi Petrograd ddoe am symudiad ymla-en yn Galicia. ac am atal- "iad ymosodiad Tvrcaidd. Yng nghyfeiriad Bagdad enciliodd y Tyrciaid ar ol dioddef colledion trymion, gan adael icyflenwad mawr o Arfau ar ol. Bu y magnelwyr Rwsiaidd yn hynod effeithiol ar fIrynt Dvina, a meddianwyd rhai o ffosydd y Germaniaid ganddynt ger Llyn Med. Gorchfygasant y gelyn hefyd ger Kro- chine; nifer fawr ohonynt yn cael eu lladd a'u clwyfo. Mewn lleoedd eraill Tiefyd bu y Rwsiaid yn llwyddiannus. Nid oes gan TWlin a. Vienna ddim i'w ddweyd. LLWYDDIANT PRYDEINIG. I Derbyniwyd yr adroddiad canlynol o'r Pencadlys Prydeinig ar Mai 6;- Neithiwr darfu i ni ymosod yn lwydd- iannus ar ffosydd y gelyn ger Authville. Nid oedd ein colledion ond bychan. Dyg- wyd pump carcharor yn ol, ao yr ydym yn sicr fod deg o Germaniaid wedi eu lladd, ac amryw wedi eu clwyfo. Ceisiodd y gelyn fyned i mewn i'n ffosydd yn ne- ddwyrain Armenteres, ond ataliwyd ef. Ddoo darfu i ni gario gwaith awyrol mawr allan yn llwyddiannus. I YR YMGYRCH ITALAIDD. I A ganlyn ydyw adroddiad Rhufain ddoe:— Cymerodd bywiogrwyddi magnelyddol mawr le yn Plava, a thaniodd y gelyn ar un o'n hysbytai. Yn Plezzo darfu i'r gelyn ymosod yn ffyrnig ar ein safleoedd yn Cukla, ond ataliwyd hwy yn rhwydd. Darfu i ni gymeryd 43 o garcharorion. Yng nghymydogaeth Gorizia tynodd yr Tfn.liiiid Lwvrlonv- i'r gelyn i lawr. I YR ADRODDIAD A-WSTRIAIDD. I Dywed yr adroddiad Awatriaidd. fod brwydro cyffredinol wedi cymeryd lie ar y ffrynt Italaidd, ac hawliant eu bod wedi atal ymosodiad o eiddo yr Italiaid ger Romlon. Hawliant hefyd eu bod wedi gyrru yr Italiaid allan o'u safleoedd yn Lafraum a Luserne, ond ni wneir unrhyw gyfeiriad at hyn yn yr adroddiad Italaidd. ———— ————
DYDO MAWRTH. I
DYDO MAWRTH. I YN Y VERDUN. I Hawlia'r Germaniaid eu bod wedi cy- meryd yr holl gyfundrefn Ffrengig yn y tu gogleddol i Hill 304 (milltir a hanner i'r de-orllewin o'r Dead Man Hill, ych- ydig yn uwoh), ac hyd yn oed wedi gwthio eu hunain i'w frig, gan aohosi colledion trymion i'r Ffrancwyr a chymeryd 1,320 o garcharorion heb eu clwyfo. ADRODDIAD FFRAINC. I Dywed yr adroddiad Ffrengig fod am- ryw o ymosodiadau Germanaidd "yn nhir- iogaeth Hill 304" wedi eu chwalu, ac fod adymosodiad y Ffrancwyr wedi galluogi y Cyngreirwyr i adenill gwarchffos drafod- aethol i'r dwyrain o'r bryn. Gall fod yr adroddiad Ffrengig yn un cynarach na'r un Germanaidd, gan na ellir eu cysoni ond felly. Yn ddiweddar y mae adroddiadau Germanaidd yn neilltuol o ddisail; gan y buont yn hawlio meddiant o Dead Man Hill yr hwn sy'n parhau yn eiddo i'r Ffrancwyr. ATEBIAD YR AMERICA. > Dywedir y bydd i'r Arlywydd Wilson anfon atebiad i'r Germaniaid yn fuan yn datgan mor belled ag y bydd i'r cyfar- wyddiadau newydd gyhoeddwyd gan Ger- mani ynglyn a'r submarines yn cael eu cario allan bydd cydberthynas a Germani yn parhau, ond ni chaniateir i unrhyw ymyriad Germanaidd cydrhwng yr Unol Daleithiau a Phrydain Fawr. 0 SALONICA. I Y Zeppelin gafwyd i lawr ddydd Gwener debyg ydoedd LZ55, ac y mae'n awr yn wybyddus feI T awyrlong fu yn ffrwyd- belenu Salonica aT Chwe-fror yr 20fed, yr hon orsafai yn Sofia. Y mae un o'r "propellers" wedi ei gymeryd yn "trophy" gan v long ryfel Brydeinig Agamennon. 1 YR ANZACS YN FFRAINC. I Hysbysir nos Lun fod milwyr AwstraJia I a New Zealand wedi glanio yn Ffra-inc a'u bod! wedi cymeryd adran o'r ffrynt. Y "CYMRIC" YN SUDDO. Daw hysbysrwydd oddiwrth Lloyd's nos Lun yn adrodd fod y "Cymric," o Linell y Seren Wen, yn suddo. Nid l deithwyr ar y bwrdd, yr oedd yn dod o'r America gyda. llwyth amrywiol. Dyma y drydedd o longau Llinell y Seren Wen i'w cholli yn ystod y rhyfel. Y ddwy arall oeddynt yr Arabic- n'r Oceanic. TORPEDIO LLONG MEWN STORM. I Oeir y newydd o Copenhagen fod yr I agerIong Norwegaidd Rondane ddydd Llun wedi glanio cnw o wyth o ddynion per. thynol i'r sgwner Harald, o Gothenburg, yr hon dorpediwyd nos Wener gan sub- marine Germanaidd. Pymtheng munud roddwyd i'r criw i fynd i'r cyohod, ond gan fod ystorm fawr ar y pryd hawliwyd ganddynt gael mynd a.r y submarine. Gwnaed hynny, ond rhoddwyd hwy i'r long Norwegaidd a, nodwyd. CYFARWYDDWR YMRESTROL. I Datgana y Swyddfa Ryfel fod y Brigad- ier-General A. C. Geddes wedi cael ei apwyntio yn gyfarwyddwr ymrestrol yn I lie v Cadfridog Syr W. H. Mackinnon, Ile y Cadiriaog STr W. H. -Atackinnon, TYNGED Y REBELWYR. Ceisiodd Mr John Redmond yn Nhy'r Cyffredin ddoe gael rhoi terfyn ar saethu y rebelwyr, ond gwrthododd Mr Asquith roi unrliyw ymnvymiad iddo, gan y byddai i'r Llywodraeth ymddwyn yn ol cyfar- wyddiadau y rhai ymddiriedant ynddynt.
RHAGOR 0 OLEU DYDD.
RHAGOR 0 OLEU DYDD. Cynllun Newydd. Mae Germani ac Holland wedi mabwys- iadu cynllun o gynilo goleu dydd, ac efallai y mab.vysiedir hyn yn y wlad hon yn ystod misoedd yr haf. Rhoddwyd y cwestiwn ar brawf yn Nhy'r Cyffredin ddydd Llun gan Syr Henry Norman drwy y cynnygiad canlynol:— "Y buasai y Ty hwn yn croesawu mesur yn symud y olociau awr ymlaen yn ystod misoedd yr haf y flwyddyn hon." Byddai y cynllun yI1 foddion i ychwan- egu 150, o oriau o oleu dydd i'n dyddiau o Mai i Hydref, a gellir dwyn hyn oddi- amgylch gy-clag ychydig o anhwylusdod. Yr unig beth fuasai'n angenrheidiol fyddai troi y clociau aivr ymlaen dydd Sadwrn nesaf. Buasai hanner nos wedyn yn dod yn un o'r gloch y bore, ac o ganlyniad byddai pobl arferai godi saith o'r gloch yn codi awr yn gynnarach. Byddai trwy hyn awr o oleu dydd yn cael ei ychwanegu i'i- cliwrnod gweithio. Yn naturiol, bu- asai awr yn cael ei cholli nos Sadwrn, ond gellid dwyn yr amser i'r hen drefn trwy droi y clociau awr yn ol rhyw ddyddiad ym mis Hydref, pan fydd y dyddiau yn byr- hau. Y ddau brif anhawster ydyw y rheilffyrdd a'r llytliyrdy, ond nid ydyw yr awdurdodau hyn yn ystyried y mater yn amhosibl. Ni theimlwyd unrhyw anhaws- ter i wneud hyn yn Germani na Holland'. Ar bleidlais ar y cynnygiad yn Nhy'r Cyffredin ddydd Llun, cafwyd 170 o blaid a 2 yn erhyn. Derbyniwyd y ffigyrau gyda chymeradwyaeth. Yn can fod wedi'r drafodaeth fod y Ty yn ffafriol i gynllun Ennill Goleuni Dydd, cyhoeddwyd nos Lun y byddai iddynt gyf- lwyno mesur byr i'r perwyl hwnnw ddydd Mawrth. Dvwedai Mr Herbert Samuel yr hyderai y pesid y mesur yr wythnos hon. Byddai y cyfncwidiad felly yn cymedyd effaith nos Sadwrn a'r Sul Mai 20-21, pryd y rhoddir y clociau awr yn mlaen. Ar hyn o bryd y mae'n amhosibl deall beth yw barn yr Iwerddon arno, ac felly nid yd-nt o dan y cynllun hwn.
GVVAELEDD A.S. LLAFUR.
GVVAELEDD A.S. LLAFUR. Mae Mr G. H. Robetsi, A.S., Whip Llafur y Llywodraeth, wedi ei darro yk ddifrifol wael. Dydd Sadwrn, symudwyd ef i "nursing home."
TYWYSOG CYMRU.
TYWYSOG CYMRU. Hysbysir fod Tywysog Cymru yn talu ymweliadau ag amryw barthau o'r ffrynt Italaidd1 gyda Bremin Itali.
jAR GOLL ERS MIS.
AR GOLL ERS MIS. Mae Elizabeth Kay, Blechynden Street, I Notting Dale, 16 mlwydd oed, ar goll chartref ers mis.
PONTRHYTHALLT.
Rees Thomas, Penygaer; J. O. Jones, Coed y Pare. Clwyfo.—Deallwn i'r cymrawd G. O. Jones) Coed y Pare, gael ei glwyfo yn Ffrainc; da. nad yw y clwyf yn drwiii. Adref.—Da oedd gennym weled Mr H. Foulk Thomas, Penisa'rwaen; Mrs Mair Williams a'r mab, priod Mr Ebenezer N*- i! liams, Craigvdon gynt; Parch a Mrs Conway Pritchard, Dolgellau, a'r fcrci, yn ein plith, a'r oil yn edrydh yn dda.