Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

DYOO SADWRN.

Advertising

I DYDO LLUN.j

DYDD MAWRTH.I

ICAEL CORFF MEWN HEN ---CHWAREL.

News
Cite
Share

CAEL CORFF MEWN HEN CHWAREL. Dydd Iau cynhaliodd Mr O. Robyna Owen gwest yn Llanllyfni ar gorff baban (benyw) anadnabyddusi, corff yr hwn gafwyd mewn "shaft" yn Chwarel Pwll Tynllwyn.—Dywedodd tri bachgen eu bod wedi gweled sach tua dwy lath oddiwrth ochr y lJyn. Gan gredu mai corff ci neu gath oedd ynddo, penderfynasant geisio ei gael i'r lan, a Ilwyddasant i'w gael. Agorwyd y saoh, a thu fewn yr oedd basged, ac ynddi ddarn o saoh arall, ac o hwn syrthiodd corff baban allan. Yna hysbysodd y bechgyn y mater i ddwy ddynes a'r Rhingyll Jones, Penygroes.— Dywedodd Mrs Parry fod y saoh yno era tua tair wythnos neu fis yn ol.-Tystiodd Dr Robert Owen iddo archwilio y oorff, yr hwn oedd wedi pydru yn ddirfawr. Nid oedd yr un o'i esgyrn wedi torri, ac nid oedd unrhyw arwydd ei fod wedi cael camdriniaeth.—Bwriwyd rheithfarn "Fod corff baban wedi ei gael mewn shaft yn Pwll Tynllwyn, ger Llanllyfni, ar EbriII 18fed, ond nad oedd ddigon o dystiolaeth i brofi beth fu achos ei farwolaeth, nag yehwaith i ddangos pa fodd nen gan bwy y rhoddwyd y corff yn y dwfr."

i GWARCHEIDWAID CAERNARFON.

[No title]

Cornel y Ohwarelwyr, I

Advertising

ICYNGOR PLWYF LLANLLYFNII…

Advertising