Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

DAN Y GROES

MARW SOSIALYDD HYNOD. I

- j MILWR COES BREN. .,1

ISAFLE'R GYDWYBOD.

[No title]

CELL Y LLYTHYRAU.

News
Cite
Share

CELL Y LLYTHYRAU. I TRWBWL Y TRIBUNALS. (At Olygydd y "Dinesydd"). Syr,—Y mae yn debyg nad dymunol i neb dyn, swydd a. gwaith y dynion pwysig hyn. Ond wrth sylwi ar eu gweithrediad- au mae'n anhawdd credu fod ganddynt, o ran hynny un neges na chwrs o weithredu yn ago red iddynt, ond yn unig cyflenwi galwul milwriaeth am feibion i'r cledd. Pa-ham eu sefydlwyd1 nis gwyddom, os nad i'r un amcan ag y gwnaed y "Lord Derby Scheane," sef attest-io1, &c. Amcan honno oedd i-lioi ei-oen gwirfoddolrwydd ar orfod- aeth. Taflwyd, meddir, am yr enw o "Fyddin Wirfoddol Pryda.in" trwy yr in- vention Ddarbiaidd agos i hanner miliwn o bunnau. Gwirfoddolrwydd yn groen, a gorfodaeth yn esgyrn a ohalon! Pris go dda am groen onide? Nis gwyddom pa faint o arian ac aur a, delir i'r gwyr an- ffodu3 a wasanaethant megia gograu i Dd'eddf Gorfod. Sicr yw gennym, yn ol pob tebyg, nad yw y gwyr liyn eto yn "wirfoddolwyr," ond yn hytrach yn gyrl- wybodol weision cyflog. Yn ymddangosiadol y Tribuniaid (neu fel y geilw un hen wlad hwy, "Y Trib- liwns") ydyw gwarcheidwaid buddiannau ein gwlad ymhob ystyr. Ond ymddengys yn ol eu ewr,,zweithi-,ediad eu bod wedi ei gosod arnynt, mai unig fuddiant gwir y wlad yw milwyr. Gan hynny druain o'u ffug swydd. Buddiannau cyffredinol mewn enw, a'u Haw a,'u barn yn rhwym hollol i un agwedd beryglus o fuddiant. Nid anhebyg iawn i Lys yr Archoffeiriaid gynt, llys cynawnder tybiedig. Ond eu barn wedi ei selio cy n gwrando ohonynt achos yr Iesu. Ceisio tystiolaethau rhy wael eu henwi er cyfiawoihau eu dyfarniad rhagfwr. iadol. I bob yraddairghosiad, y gwyr mil- I wraidd, ddau ohonynt—hwynthwy sydd a'u Haw ymlaenaf yn y gwaith barnu. AYrth sylwi ar y faino fel y mae yn cael ei chyfansoddi, gwneiv hi i fyny o wyr haen uchaf y "dosbarth oanol" o wahanol alwed- igaethau, ac eitlirio unrhyw alwedigaeth law-weithfaol masnachwyr, parson, ath- raw, higher class farmers,, twrneiod, un milwraidd ei ddiwyg ac un ei ysbryd, &c., land agent yn swyddog milwrol. Wel cfvna nhw. Dim un i feddwl tros y gweithiwr. Na dim un yn y rhan fwyaf o achosion. Ac eto y mae business y "Tribliwns" yn delio mwy gyda'r gweitliwyr nag ag un dosbarth arall. Paham na buasai rhyw- un yn y potes tribliwn yn ei gynrychioli ef, y gweithiwr, tybed? llliy ba beth yw y I dosbarth anhebgor hwn? Synwn i ddim I nad ydoedd yr aohosion ym Mhwllheli y dydd o'r "blaen yn cynnwys ar gyfartaledd I ddwy ran o dair o weithwyi- cyflog, ac o bosibl mai dyma y ffaitit ymhob llyis o'r fath. Oni ddylai y dosbarth anhebgor hwn gael cynrychiolaeth deg ar y fainc? Os amcan y Ttib's yw cyfiawnder, a ydyw eu cyfansoddiad fel y maent yn awr yn debyg o sicrhau hynny ? Mae yn sicr eu bod fel y maent yn awr yn sicrhau mwy o ddynion i'r fyddin; end nid yw hynny yn gyfystyr a dweyd eu bod yn sicrhau eu gogoneddus amcan honedig, sef cyfiawnder a buddiannau goreu gwlad. G-orfodwyr- "Press gang'*—mewn gwirionedd yw y gwyr, a. defnynau o 4rugaredd yn fwy na dim arall yw eu hexemntions. Mae yn debyg nas gellir cael engraifft well o orfodaeth "Press" na'r hyn a. "rnaed m Mhwllheli gyda'r gwyr a wrtliwynebant ryfel o gyclwybod. Tybiem fod y ddeddf yn darpar ar gvfer" gwyr fel hyn, ac yn parchu eu liargyhoeddiadau. Ond ym Mhwllheli aetli y Trib'e yn gymdeithae ddadleuol ar byncAau diwinyddol. Ac wedi besrwi digon ar ( Botes TribHwtis y Triblwyr, I aed a'r gydwybod gaed yn fer ar wyneb y potes i'w ddodi m mola. y gwr a feddai gyd- wybod amgen na, ben thy g! Gcwfodid iddynt chwdu eu cydwybod eu hun er cael lie gw:1.g yn eu cylla i gynnwys cydwybod | 0X0 y tribliaid. Un o'r pethau lUWyaf grymus mewn rhesymeg ddiwinyddol oedd y Ficer yn ceisio baglu un trwy Jioni ysbryd mil- wraidd i'r geiriau "right," "Uefr," &e. Hapus iawn oedd y blaenor arall yn rhuthro i Hebrcaid xi. am dipyn o Grist- eiddiad i'r argiwment. Helynt- fawr oedd yr adnodau cleddyfaidd a ddifynid. Teg I iawn oed-,i yn?rcfyiiiiad "ybarahaidd," &c. Nis gwyddom a o?s l-yw "secret code" yn bod o Gristionogaeth at wasan- aeth y gwyr hyn. Ond y mae yn amlwg I fod ganddynt "sealed oi-ders" o'r Llywod- raeth sut i wneud gyda. chydwybod y cyd- I wybodolydd. Rhywbeth heblaw cyfiawn- der. Os gwelant fod y dyn o gydwybod yn meddu goleu ar y mater na feddant hwy, pa beth yw eu dyledswydd ? Os gorfodir y dyn i dderbyn eu llewyrch pwdr hwy, y maent trwy hynny yn orfodwyr deublyg. Nid amgen ddim na'r ohwil-lys Pabaidd, o fendigedig gof. Ond os gwein- yddu cyfiawnder, yn at %er%nau arwynebol y ddeddf a weinyddant, YU3 nis gallant orfodi y dyn heb newid y ddeddf. Gwein- yddwyr ydynt. ac nid gwneuthunvyr. Nis gallwn weled y dylai y swyddwyr rhyfelgar feddu un llaw o gwbl yn nhrefniad barn y llysoedd hyn. Buasai y "press gang" hen ffasiwn yn ffitio y rhain yn well. Ond lie y mae dim ond edrych allan yn deg i amgylchiadau gwerin gwlad yn cael ei honi-a. hynny gan lys o wladwyr—'does dim a wnelo milwriaeth a hynny, nag oes wir. Parthed deall cydwybod a Christ, gogoneddusach fuasai oael amgen llys na hwn i famu y ddau hwnc yma yn ddiau. Nid yw "Tywyll leoedd y ddaiar" nepell oddiwrthym.—Yr eiddoch, HEN WEITHIW11. I

IYSGOL FELGIAIDD.I

CYNGOR -PRESTATYN..

LLAFURWYR CHINEAIDD,

ARGLWYDD ROBERTS A CHYDWYBOD.

[No title]