Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
DAN Y GROES
DAN Y GROES HELYNTION TEULU ADWY'R CLAWDD. PENNOD XXXVI. Cyfarfyddiad y Ddau Filwr. Wei, Cecil, ebai Sadi, rhaid i chi beidio cynhyffu felna, neu d'dowch chi byth i fendio'n iawn. Treiwch ddal yn llonydd nes y byddwch wedi cryfhau tipyn, da chi. Rhowch chwara teg i mi Sadi, ebai Cecil, mi fydda i yn well o 1awar wedi cael gollwng yr hyn sydd ar fy meddwl allan, byddaf wir. Raid i chi ddim ofni dim, yr wvf yn bownd o fendio rwan. Tj-dw i ddim yn erbyn i chi gael chwara teg, ebai Sadi; ond meddwl roeddwn i y buasech yn gwneud cam a chi'ch hunan wrth gynhetlio fel hyn, ac y mae'r nyrs wedi peri i mi fod Y11 fyr fy arhosiad. 0, ydi hi'n wir, ebai Cecil. Wei y mac'n dda iawn gen i gael eicli gweld, ydi vvir. Mi rvdych wedi bod yn ffeind iawn wrtha i, Sadi. Peidiwch a son, ebai Sadi, neis i ddim byd ond fy nyledswydd. 0, do, ebai Cecil, fe euthoch allan o'ch ffordd i arbed eich gelyn. Naddo, naddo, ebai Sadi, arbed cymrawd a wnes; tydi Prydeiniwr yngwisg y Brenin ddim yn cofio y bywyd preifat. Mae'r mil wyr yn gymrodyr i gyd Cecil. Nid i gyd, Sadi, ebai Cecil, nid pawb fasan gneud y peth ddaru chi neud, rwy'n siwr o hynny. Mae'n gwestiwn gen i a faswn i yn i neud o hefo chi radeg hono. Diar mi, Cecil- ebai Sadi wedi ei synnu. Fasa chi ddim yn fy helpu pe mewn perig? Dw i ddim yn meddwl y baswn, a deud' y gwir, ebai Cecil, yr adcg honno; ond mi faswn yn gneud rliw. bath fedrwn i rwan. Wei, wel, chlowis i'r fath syniad o'r blaen, ebai Sadi. Pttm ha ftias- ech yn gallu fy helpu vr adeg honno Cecil ? A deud y gwir wrthych Sadi, ebai Cecil, rown in meddwl nad oedd yna run diafol gwaeth 11a chi yn y byd i gyd, ac yr oeddwn yn meddwl eich bod wedi gneud y tro sala y mcdrai dyn ei neud trwu ddwyn Dorothy oddiarnaf. Rown i wedi tyngu pryd bynnag y deuai'r cyfla y baswn i yn talu'r pwyth yn ol costied a gostiai, ie, pe buasai raid i mi eich Uadd nid oedd o bwys gennyf. Yr ydych yn fy synnu, Cecil, ebai Sadi. Rowii i'n meddwl fod mwy o ddyn ynoch na hynny. Fe ddylech wybod nad oedd Dorothy i fod i chi neu buasai wedi glynu wrthych, ac ni ddylai peth o'r fath greu y drwg- deimlad yna mewn unrhyw ddyn. Be xviiewel-i chi i ddyn oedd yn ei charu a chariad cyflawn ? Fedrwn i yn fy myw, ebai Cecil, a'i ddagrau yn rowlio hyd ei ruddiau- weled dim ond lleidr anrhugiarog ynoch yn ei chymeryd a chithau yn gwybod ein bod yn canlyn ein gilydd, a dyna pam yr oeddwn wedi eich gneud y gelyn pena oedd gennyf ar y ddeuar yma. Wel, wel, ebai Sadi, na feindiweh, Cecil, ni wnaiff meddwl am betha felna unrhyw les yn awr. Yr ydych yn fyw a gobaith cael eich adfer i'ch cyncfin iechyd genvch. Ydwyf siwr, ebai Cecil, ac y mae'r cwbl oherwydd eich gwaith chi yn riscio eich bywyd. Faswn i ddim yma i ddeud y stori hcd1yw onibai am danoch, ac y mae eich gwmth wedi troi popeth? y chi beHpch fydd y ffrind mwyaf gennyf, a byddaf dan rwymall i'ch parchu am byth. Mae'n dda gennyf glywed, ebai Sadi, a bydd yn bleser gennyf gael gwneud unrhyvv betli i'ch helpu'n mlaen. Mi faswn yn caru ciel, deud un peth wrthych, ebai Cecil, os medra i ddeud hynny yn iawn. Os mai (1 wyn Dorothy a wnael4ro?h ar y .cynta, yr ydych wedi ei hennill yn deg rwan. Roedd hi yn eneth rhy deb i'm bath i; ond fe gaiff ddyn gwerth i ymddiried ynddo pan yn eich cael chi. Gobeithio y cewch eich cadw yn fyw i fynd ati hi, ac y V, cewch bob bendith ar cich bywyd. Diolch 3Tn fawr i chi, ebai Sadi. Rwy'n gweled fod y siarad yma'n deud arnoch, ac mai gwell i mi fydd- ai m- nd. Peidiwch mynd am funud Sadi, ebai Cecil. Ydi lihad" yn fyw o hyd djeudwch ? Ydi am a wn i, ebai Sadi. Chlowis i ddim yn amgenach'. Fyddwch chi yn cael gair oddi cartra, weithia? Byddaf yn awr ac yn y man. Fvddwch chi yn anfon yn ol hefyd ? Bvddaf, rwyf vn gneud he no, Cecil. Newch chi holi am fy nhad, a deud fy mod i yma wrthynt?, Gwnaf siwr, 'ebai Sadi. Ga i ddeud eich bod yn cofio ato, Cecil ? Cewch, Sadi, a dcudwch wrtho fod' y rhyfal wedi dwad ai fab drwg i'w senus, ac na fydd; bywyd byth yr un peth idclo eto. Rhoswch, rwan, yda chi ddim yn meddwl, ebai Sadi, y basan well i mi anfon yn syth at eich tad? O'r gora, os byddwch cystal, ebai Cecil, mi gawsai well effaith, -v-y n meddwl. Ilac arna i eisiau cael dod yn ffrindia hefo nhad, ces Y11 wir. Fe wnaf' Cecil, ebai Sadi. Piti garw oedd i fy mam druan farw cyn i mi (Iroi Yii hogun da, 3-lite Sadi ? Waeth heli son am betha felnaj Cecil. N.a waeth, mae'n wir, ebai Cecil; ond y mae'r hen gydwybod yma'n chwara'r andros hefo mi am i mi boeni fy mam druan i'r bedd gyda'm diygioni. 0, bobol anwyl, mi fum yn hogun gwirion. Rwan, rwan, ebai Sadi, rhaid i chi feddvvl am y gora, a byw yn dda rhagllaw, achos bydd hynny yn help i'ch mam fwynhau v nefoedd y mac ynddi yn well. Rwy'n mynd rwan, Cecil, daliwch eich calon i fyny, fe ddeuaf yma eto yforu. Diolch yn fawr i chi, Sadi, byddaf yn disgwyl am danoch. Dydd da i chi. Dydd da, Cecil. Yr oedd y nyrs broil wedi colli ei hamynedd yn disgwyl am Sadi; ond ofnai wneud dim i'w ddigio, gan fod s-i lygaid a'i ymddygiadau wedi cy meiyd meddiant llwyr ohoni. Sut yr oeddych yn ei weled, ebai wrtho. 0, mae'n gwella'n dda, ebai Sadi. Byddwch dyner ohono, a Duw a'ch bendithio. Yr wyf am ddoid i edrych am dano yforv eto. Da iawn, ebai'r nyrs, mae crocso i chi ,alw yma pan y mynoch. Dydd da, ebai Sadi. Dydd da, syr, ebai y nyrs Nid hawdd oecld gwybod pran ai y nyrs vnte Cecil oedd a'u meddwl fwyaf am Sadi. (I'w barhau).
MARW SOSIALYDD HYNOD. I
MARW SOSIALYDD HYNOD. I Mr James Allan y Miliwnydd. I Dydd Mawi-th, yr wythnos ddiweddaf, bu farw Mr James Allan, un o bartnef- iaid y ffyrm enwog y Mri J. and A. Allap, Glasgow, yr hwn a adnabyddid tel., "Miliwiiydd Sosiakidd." Ymgeisiodd yn aflwyddianjius feI YJll- geisydd Sosialaidd dros Glasgow. Meth^i rhai a chvsoni ei ddaliadau gyda'i fyvryd yn byw mewn palas mawr, ac yn mwyn* hau pob moethau; ond ymhyfrrdai So siahvyr Glasgow ynddo. Gofynai'r gwrthsosialwyr iddo a oedd :» foddlon eario allan ei egwyddorion, 9 hoddi ei arian drosadd i'r Wladwriaeth, itebodJ yntau hwynt drwy ddweyd ei fod of yn barod i wneud i ft'widd 4'i gyf- ootb pan fyddai y Wladwriaeth yn b8J'Q(l i'w dderbyn. Yr oedd yn aeiod am flynyddoedd o'r Laftii. Aiinib-niiol, Clarion Scouh., a'r Gymdeithas Fabaidd. a ehredai mtw Sosialaeth oedd unig feddyginiaeth oyin- deithas.
- j MILWR COES BREN. .,1
j MILWR COES BREN. ,1 Wedi Ymuno yn Lerpwl. Preifat J. L. Jones, o'r Army Ordnance Corps, yr hwn sy'n myned drosodd i'r Aifft yn fuaa, yw'r unig nn yn y fyddin Biydeinig gydii cliocs bren. Brodor o Lerpwl ydyw, '23 mlwydd oed. Pan aeth o flaen y moddyg ni ddarfu iddo geisio. cuddio o gwbl mai coes bren oedd gan- ddo. ond dangosodd y fath fedrnBrwydd i gerdded fel y pasiwyd ef. Derbyniodd amryw o longjfa-crliiadau am ttllu yjfttuip a'r fyddin. r
ISAFLE'R GYDWYBOD.
I SAFLE'R GYDWYBOD. I Y PARCH RODDIR IDDI GER- BRON LLYSOEDD APEL. Ma6 darllen hanes a gweithrediadau y Tribunals, a'r modd y deli ant a'r gwrth- wynebwyr cydwybodol, o'r pwys mwyaf i ni eu cadw mewn oof parth y dyfodol. Da, iawn ydyw hanes Llys Apel Gwyrfai a'r modd teilwng y darfu iddo weithredu gyda'r rhai cydwybodol; ond gofid calon ydyw gweled y modd diystyrllyd y gweith. redlai rliai o'r llysoedd hyn trwy y wlad, heb ond ychydig eithriad, tuagat berchen cyd. Wybod. Gwnaeth "Myfyrfab" yn dda with a.tolygu proftes a gweithrediadau llys apel neilltuol Credwn ninnau fel yntau fod yn hen bryd i nifer a,rbennig o'r aelodau sydd yn oyfansoddi y Tribunals i fyned yn fil- wyr, gan eu bod mar awyddus i filwriaeth ac yn credu nad oes dim na/r un swydd yn hanfodol ond honno y dyddia.u hyn. Pa- ham eu swyddi hwy, tybed ? Gwir a ddy- wedodd "Myfyrfab" y gallai merched a dynion hynach eu cyflawni. Ychwanegwn ninnau y gallant, n, hynny yn rhwydd iawn hefyd. O'u safon hwy o famu, y mae'n warth o beth eu gweled yn aros gartref i lenwi swyddi dihanfodol, a hwythau y dynion sydd ar y fyddin eu hangen, ie yn ddynion cymharol ieuanc, o ymddangosiad iach a chryf; a rhai ohonynt wedi arfer yn dda a saethu game, sef lladd y creadur diniwed, er mwyn hwyl a sport. Hawdd iawn fydds- ai i'r rhai hyn gydag yohydig bach iawn o hyfforddiant ddod yn filwyr rliagorol, os ydyw eu hysbryd a'u hasbri yn cyfateb i'w proffes. Fe ddywedodd "Myfyrfab" pe buasai ef o'r un anianawd ac ysbryd a hwy, y buasai wedi gweled ei ffordd i Ffrainc a Salonica cyn hyn. Gwir iawn, dyna beth ydyw bod yn "true to nature." Ond atolwg, ddarllenydd, ymha le heddyw y mae y swyddog ricriwtio hwnnw fu mewn tref yn y sir yma? Ai yn Ffrainc neu Salonica. y mae ef yn cydymladd a'r bach- gyn diniwed y bu ganddo law i'w gyru? Ynte ai gwir ei fod ef yn fwch dihangol yn rhywle arall'' Yr oedd darllen yr holi a'r ateb mewn llys apel neilltuol yn ddiddorol iawn. Fel y gwelwn fe geisia y clerc brofi i'r llys yn gyntaf oil fod yr apelydd cyd- wybodol oedd. yn sefyll o'u blaen yn dorwr cyfraith, a thnvy hynny ceisiai ei ddangos fel un digydwybod iawn. Ffordd anlieil- wng o wael a ystwiwn un fel hon i geisio baglu bachgen ieuanc fu raid iddo dros gyfnod byr fyned oddicartref i weithio i un o drefi Lloegr. Nid oes neb ond yr ar- hosol yn newid ei gyfeiriad ar y Cofrestr Cenedlaethol. Fe wyddom am lawer iawn o ddynion sydd ar wasgar yn gweithio yn awr sydd heb newid eu cyfeii-iad o gwbl; am y rheswm mae eu man aahosol ydyw eu cartreli, ac nad ydynt i ffwrdd ond dros enyd, ac fel "temporary men" felly meth- wn ddeall pa fodd y maent yn dorwyr cyfraith. A methwn ddeall y berthynas sydd rliwng newid eyfeiriad a chydwybod yn achos y dyn ieuanc dan sylw. felly rha.id i ni gredu mai ymgais anheilwng i faglu yr apelydd ydoedd. Yn ateb i gwestiynau materol dywedodd yr apelydd ei fod yn credu mewn gweith. redn egwyddorion y Testament Newydd. Yr oedd wedi ei ddysgu ynddynt er yn blentyn gan Weiniogion, Clerigwyr, a dyn- ion da, y gorffennol. A ydyw yr uchod yn gwynrroi yr egwyddorion heddyw ? Onid hynny a geisia. yr Athro o Fadryn wneud pan y dywedodd "mai nid gelynion i resymu a, hwy oedd y Germans." A ydys i ddeall ei fod ef yn dysgu mai rhai i'w lladd ydynt? Os felly, efe yntau yr Athraw Mawr ydyw yr awdurdod safonol ar y mater P Fe ddywedodd y Parchedig o Aberdaron wrth yr apelydd mai y He priodol i ddynion o'i fath ef, yn ol Mr Lloyd George, ydoedd trwsio y "barbed wires" yn ff rynt y trenches. Ow, ow, wr yr Efengyl, ar ol i ti fod yn pregethu cyd- wybod, ac yn ei phlanu ym mynwesau dyn- ion ieuanc, a phan welaist ffTwyth hynny yn ymdrech yr apelydd cydwybodol fe ddvwedaist mai ei wobr am hynny fyddai ei osod yn y man peryclaf ar faes y frwydr. Anheilwng iawn o Wei ni dog yr Efengyl. Methwn yn Ian a pherswadio ein hunain fed Mr Lloyd George wedi rhoddi y fath fynegiad o beth a, haeddai cydwybod onest ddioddef am iddo fod' yn gywir i'w argy- hoeddiadau. Carem i rliywun gywiro y gosotliad os ydyw yn anghywir, neu os gwirionedd ydyw y mynegiad myner i Gyinru hen baladr ei (J,ywed, a'i gofia.-Yr e.iddoeh, UN AM CHWAREU TEG. I
[No title]
-———— .t. ———— Y mae'r dyn sy'n dadfachu ei hunan yn llwyr oddiwrth ei gyd-ddyn un ai yn angel neu yn ddiafol.-Edraund Burke.
CELL Y LLYTHYRAU.
CELL Y LLYTHYRAU. I TRWBWL Y TRIBUNALS. (At Olygydd y "Dinesydd"). Syr,—Y mae yn debyg nad dymunol i neb dyn, swydd a. gwaith y dynion pwysig hyn. Ond wrth sylwi ar eu gweithrediad- au mae'n anhawdd credu fod ganddynt, o ran hynny un neges na chwrs o weithredu yn ago red iddynt, ond yn unig cyflenwi galwul milwriaeth am feibion i'r cledd. Pa-ham eu sefydlwyd1 nis gwyddom, os nad i'r un amcan ag y gwnaed y "Lord Derby Scheane," sef attest-io1, &c. Amcan honno oedd i-lioi ei-oen gwirfoddolrwydd ar orfod- aeth. Taflwyd, meddir, am yr enw o "Fyddin Wirfoddol Pryda.in" trwy yr in- vention Ddarbiaidd agos i hanner miliwn o bunnau. Gwirfoddolrwydd yn groen, a gorfodaeth yn esgyrn a ohalon! Pris go dda am groen onide? Nis gwyddom pa faint o arian ac aur a, delir i'r gwyr an- ffodu3 a wasanaethant megia gograu i Dd'eddf Gorfod. Sicr yw gennym, yn ol pob tebyg, nad yw y gwyr liyn eto yn "wirfoddolwyr," ond yn hytrach yn gyrl- wybodol weision cyflog. Yn ymddangosiadol y Tribuniaid (neu fel y geilw un hen wlad hwy, "Y Trib- liwns") ydyw gwarcheidwaid buddiannau ein gwlad ymhob ystyr. Ond ymddengys yn ol eu ewr,,zweithi-,ediad eu bod wedi ei gosod arnynt, mai unig fuddiant gwir y wlad yw milwyr. Gan hynny druain o'u ffug swydd. Buddiannau cyffredinol mewn enw, a'u Haw a,'u barn yn rhwym hollol i un agwedd beryglus o fuddiant. Nid anhebyg iawn i Lys yr Archoffeiriaid gynt, llys cynawnder tybiedig. Ond eu barn wedi ei selio cy n gwrando ohonynt achos yr Iesu. Ceisio tystiolaethau rhy wael eu henwi er cyfiawoihau eu dyfarniad rhagfwr. iadol. I bob yraddairghosiad, y gwyr mil- I wraidd, ddau ohonynt—hwynthwy sydd a'u Haw ymlaenaf yn y gwaith barnu. AYrth sylwi ar y faino fel y mae yn cael ei chyfansoddi, gwneiv hi i fyny o wyr haen uchaf y "dosbarth oanol" o wahanol alwed- igaethau, ac eitlirio unrhyw alwedigaeth law-weithfaol masnachwyr, parson, ath- raw, higher class farmers,, twrneiod, un milwraidd ei ddiwyg ac un ei ysbryd, &c., land agent yn swyddog milwrol. Wel cfvna nhw. Dim un i feddwl tros y gweithiwr. Na dim un yn y rhan fwyaf o achosion. Ac eto y mae business y "Tribliwns" yn delio mwy gyda'r gweitliwyr nag ag un dosbarth arall. Paham na buasai rhyw- un yn y potes tribliwn yn ei gynrychioli ef, y gweithiwr, tybed? llliy ba beth yw y I dosbarth anhebgor hwn? Synwn i ddim I nad ydoedd yr aohosion ym Mhwllheli y dydd o'r "blaen yn cynnwys ar gyfartaledd I ddwy ran o dair o weithwyi- cyflog, ac o bosibl mai dyma y ffaitit ymhob llyis o'r fath. Oni ddylai y dosbarth anhebgor hwn gael cynrychiolaeth deg ar y fainc? Os amcan y Ttib's yw cyfiawnder, a ydyw eu cyfansoddiad fel y maent yn awr yn debyg o sicrhau hynny ? Mae yn sicr eu bod fel y maent yn awr yn sicrhau mwy o ddynion i'r fyddin; end nid yw hynny yn gyfystyr a dweyd eu bod yn sicrhau eu gogoneddus amcan honedig, sef cyfiawnder a buddiannau goreu gwlad. G-orfodwyr- "Press gang'*—mewn gwirionedd yw y gwyr, a. defnynau o 4rugaredd yn fwy na dim arall yw eu hexemntions. Mae yn debyg nas gellir cael engraifft well o orfodaeth "Press" na'r hyn a. "rnaed m Mhwllheli gyda'r gwyr a wrtliwynebant ryfel o gyclwybod. Tybiem fod y ddeddf yn darpar ar gvfer" gwyr fel hyn, ac yn parchu eu liargyhoeddiadau. Ond ym Mhwllheli aetli y Trib'e yn gymdeithae ddadleuol ar byncAau diwinyddol. Ac wedi besrwi digon ar ( Botes TribHwtis y Triblwyr, I aed a'r gydwybod gaed yn fer ar wyneb y potes i'w ddodi m mola. y gwr a feddai gyd- wybod amgen na, ben thy g! Gcwfodid iddynt chwdu eu cydwybod eu hun er cael lie gw:1.g yn eu cylla i gynnwys cydwybod | 0X0 y tribliaid. Un o'r pethau lUWyaf grymus mewn rhesymeg ddiwinyddol oedd y Ficer yn ceisio baglu un trwy Jioni ysbryd mil- wraidd i'r geiriau "right," "Uefr," &e. Hapus iawn oedd y blaenor arall yn rhuthro i Hebrcaid xi. am dipyn o Grist- eiddiad i'r argiwment. Helynt- fawr oedd yr adnodau cleddyfaidd a ddifynid. Teg I iawn oed-,i yn?rcfyiiiiad "ybarahaidd," &c. Nis gwyddom a o?s l-yw "secret code" yn bod o Gristionogaeth at wasan- aeth y gwyr hyn. Ond y mae yn amlwg I fod ganddynt "sealed oi-ders" o'r Llywod- raeth sut i wneud gyda. chydwybod y cyd- I wybodolydd. Rhywbeth heblaw cyfiawn- der. Os gwelant fod y dyn o gydwybod yn meddu goleu ar y mater na feddant hwy, pa beth yw eu dyledswydd ? Os gorfodir y dyn i dderbyn eu llewyrch pwdr hwy, y maent trwy hynny yn orfodwyr deublyg. Nid amgen ddim na'r ohwil-lys Pabaidd, o fendigedig gof. Ond os gwein- yddu cyfiawnder, yn at %er%nau arwynebol y ddeddf a weinyddant, YU3 nis gallant orfodi y dyn heb newid y ddeddf. Gwein- yddwyr ydynt. ac nid gwneuthunvyr. Nis gallwn weled y dylai y swyddwyr rhyfelgar feddu un llaw o gwbl yn nhrefniad barn y llysoedd hyn. Buasai y "press gang" hen ffasiwn yn ffitio y rhain yn well. Ond lie y mae dim ond edrych allan yn deg i amgylchiadau gwerin gwlad yn cael ei honi-a. hynny gan lys o wladwyr—'does dim a wnelo milwriaeth a hynny, nag oes wir. Parthed deall cydwybod a Christ, gogoneddusach fuasai oael amgen llys na hwn i famu y ddau hwnc yma yn ddiau. Nid yw "Tywyll leoedd y ddaiar" nepell oddiwrthym.—Yr eiddoch, HEN WEITHIW11. I
IYSGOL FELGIAIDD.I
YSGOL FELGIAIDD. I Mae ysgol Felgiaidd wedi ei hagor yn Letch worth, ac y mae tua 150 o blank Belgiaidd ynddi yn cael dysgu eu hiaith eu hunain.
CYNGOR -PRESTATYN..
CYNGOR PRESTATYN. l Ailethol Cadeirwyr. Ynghyfarfod blynyddol Cyngor Pre- statyn, ail-etholwyd Mr Joseph Benn yn gadeirydd a Mr Clement Hughes yn is. gadeirydd. C'ytunwyd hefyd i adael y pwyllgorau i sefyll fel yr oeddynt.
LLAFURWYR CHINEAIDD,
LLAFURWYR CHINEAIDD, Ffrainc yn delio gyda Phrinder Gweitliwyr. Oherwydd prinder dynion i amaethu a gweithio yng ngwahanol ddiwydiannau y wlad, y mae Llywodraeth Ffrainc wedi pcnderfnu dod a thramorwyyr at y gwaith. Cymerwyd yn barod ddynion o bob lliw allan o drefedigaethau Ffrengig, ac y mae trefniadau yn awr ar gyfer cy- meryd i mewn y Chineaid. Bydd pum mil o Chineaid wedi cyrraedd ymhen ychydig fisoedd dan ardsytiad o dair blynedd, gyda'r addewid y gellir eu cyf, logi yn y trefedtgaethau ar ol y rhyfel. Agorwyd ysgol yn yr lion yr addysgir amryw o Chineaid i weithredu fel cyf- ieithwyr a chyfarwyddwyr i'w cydwlad- wyr pan gyrhaeddant i Ffrainc. v Gobeithio mai nid y chwip fydd yn eu gyrru i'w gwaith, ac cednvii- safon foesol a chymdeithasol yn bur gyda hwynt.
ARGLWYDD ROBERTS A CHYDWYBOD.
ARGLWYDD ROBERTS A CHYDWYBOD. Ysgrifenwyd a ganlyn gan Arglwydd Roberts yn y "Daily Telegraph" ar Gorffe,nnaf 7, 1914:- "Y mae gennyf rliyw wybodaeth am ddisgyblaeth filwrol, a buaswn yn hoffi dwATii adref i chwi beth ydyw ei wir ystyr a'i gyfyngiadau. Os ewch yn ddigon dwfn i mewn i'r natur ddynol, byddwch yn sicr o gyrraedd rhywboth sy'n an- rhaethol fwy na disgyblaetli na dim arall. Geilw dynion hwn yn gydwybod, neu rhywbeth na- -all rheswm na- deddf ddynol effeithio arno. Os ydyw cydwyb- odau y dynion wedi eu cynhyrfu, difudd hollol fuasai bygwth y dynion hynny gyda, phoenau a cliospedigaethau. Os gwneir hyn, bydd y fyddin yn sicr o gad ei dinistrio. Dylai y rhai 8y'n gwawdio y gwir wrth- wynebdd y cydwybodol heddyw irorldi ystyriaeth fanwl i'r sylwadau hyn, yn enwedig pan mai niilwi- mor .enwog ag Arglwydd lloberts sydd wedi eu lief am.
[No title]
Nid yw'r sawl nad yw'n agored i argyhoeddiad yn gymwys i drafod- aeth.