Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
28 articles on this Page
YSBEILIO Y GWEDDWON. I
YSBEILIO Y GWEDDWON. I • Flordd Awstriaidd 0 gael Arian. I Dywed adroddiad o Rhufain fod: cynnwrf difrifol wedi cymervd lie yn Trieste ar Mawrth 27am oherwydd y codiad aruth'rol ^m mhrisiau bwyd- ydd. Darfu, i'r heddlu ruthro ar y gwrthiyfelwyr, a chlwyfwyd amryw ohonynt. Mae'r prisiau mor uchel fel ag y mae coffi, er engraifft, yn 3p y kilometre, ae 111 rydd tocynau siwgr ond- hawl i bob person gael 3 lwinp bach ohoniio bob dydd. Er gwaethaf hyn i gyd, mae'r Llywodracth yn parhau i ysbeilio y dciliaid mewn ffyrdd dichellgar. Maent wedi declr reu dcfnyddio at eu gwasanaeth gron- fevdd roddwyd er cynorthwyo gweddwori ac amddifaid milwyr syrthiodd yn y rhyfel. .———
DIWEDDARAF.
DIWEDDARAF. RHUTHR Y ZEPPELINS. Y Manylion Diweddarai. f Datgenir yn swyddogol fod chwech o Zeppeling wrthi gyda'r rhuthr nos Sill, ymwelodd tri ohonynt a'r siroedd de-ddwyreiniol yn YsgotLand. Goll- yngwyd 188 o bombs'(53 yn Scotland) Mor belled ag y gellir casglu ni ni- weidiwyd neb yn Lloegr, ond lladd- wyd saith o ddynion a thri plentyn yn Y sgctland, ac anafwyd pump o ddyn- ion, dwy ferch, a ped'war o blant. A ganlyn ydyw y rhestr o'r galan- astra wnaed nos Wener, nos Sadwrn, a nos Sul:— Nos Wener, lladcfwyd 43, anafwyd 66; nos Sadwrn. lladdwyd 16, anaf- wyd 100; nos SuI, lladdwyd 10, anaf- wyd 11. Cyfan-.yvni y rhai kdlwyd ydoedd 69 > wedi eu clwyfo, 177. Daw hyn a nifer y rhai ddioddef.is- ant oherwydd y Zeppelins a'r Sea- planes yn-y. wlad hon yn 1,096. ——— ————
MWNFEYDD GER CORFU.
MWNFEYDD GER CORFU. Ymgais Germani ac Awstria. Yn ol hysbysrwydd diogel dywedir fod submarine Awstriaidd a German- 'aidd wedi gosod mwnfeydd nofiawl er Corfu, er mwyn rhwystro tros- gludiad milwyr Serbia i Salonika. Y mae llongau rhyfel y Cyngreir- ;wyr wrthi yn ceisio dlinistrio y rhai ibyn. Dywedir fod y rhan fwyaf o filwyr Itali oeddynt yn myned ymlaen yng ngogledd Epirus wedi sefydlu eu liunain mewn safleoedd da ar hyd terfynau Epirus. ——— ——-
.LLOEGR A HOLLAND.I
LLOEGR A HOLLAND. Dim Gwir yn yr Honiad Ger- manaidd. Hysbysir yn awr" elrwy ffynonell ddiogel nad oes yna. ddim byd sydd rhw-ng Prydain Fawr na'r Cyngreir- wyr a Holland. Ni wnaed dim yn groes i Netherland, ac ni thrafodwyd o'r fath yng nghynhadledd Paris. Nid des unrhvw- wir yn yr adrodd- iad fod y Cyngreirwyr wedi nac yn bwTiadu glanio byddin arfog ar dir- iogaeth Ismellynaidd, ac nid yw yr adroddiadau daenir ond dyfeisiadau disail Germani.
ISELLMYNWYR YN BAROD.
ISELLMYNWYR YN BAROD. Datganiad y Swyddog Rhyfel. Mae Swyddog Rhyfel Isellmyn yn datgan y rhaid iddynt fod yn barodf ac yn wyliadwrus rhag torri ar eu amhleidiaeth, ac na ellir fforddio gwncud i ffwrdd a'r un adran o'r fyddin Isellmynig ar hyn o bryd.
HAW£500.I
HAW£500. I Gwobr am ddod a Zeppelin i'r I Llawr. Y mae ArglwycM Faer Llundain yn hysbysu ei fod wedi derbyn hawliad am y wobr o 5oop gynnygiwyd am ddod a'r Zeppelin i'r llawr.
AWYRLONG ARALL I LAWR.I
AWYRLONG ARALL I LAWR. Adroddiad 0 Ffrainc. I Yn ystod nos Sadwrn bu y Ffranc- wyr yn parhau i wasgu'n ol y Ger- maniaid, y rhai, fel canlyifiad i bed- war ymosodiad yn olynol wnaed yn ystod y dydd cydrhwng Douaumont a Yaux, dorasant i mewn i La Caillette Wood. Daethpwyd ag awyrlong German- aidd arall i'r llawr ger Noyon. 16 ———— -000
..DISGRIFIAD GERMANAIDD. I
DISGRIFIAD GERMANAIDD. I Dim Sail iddo. I Dyma fel yr oedd y datganiad swyddogol Germanaidd i'r rhuthr i:\vyrol diweddaf:— "Ymosododd awyrlongau ein byddin a'n llynges yn ystod y nos ar ddociau Llundain a phwyntiau milwr- 01 pwysig eraill ar y glannau dwyrein- iol 0 Loegr, yn ogystal a Dunkirk. Fe welir oddiwrth yr uchod mor i anhebyg i'r gwir y cyhoeddir new- '• vddioti yn Germani. .a.
[No title]
Mae newyn mawr yn Palestina, a r I bobl yn marw wrth y cannoedd.
I ADRODDIAD RWSIA.I 1
I ADRODDIAD RWSIA. Rhwystro Ymosodiad y Gelyn. Yn ol adroddiad swyddogol o Pet- rograd yr oedd ychydig o ysgarmes- oedd ail-raddol wedi cymeryd lie yn nhinogaeth Ikskull. Ond yn nhir- iogaeth Novoselki i'r de o dref Krevo, chwythwyd gan y Rwsiaid ddwy fwn- fa fechan, a dinistriwyd galeri fwnf.aol i'r gelyn. I'r gogldd o orsaf rheilffordd Baronovitchi (cydrhwng Vilna a Pmsk) cymerodd y milwyr German- aidd yr agwedd ymosodol, end taflwyd hwy yn ol i'r ffosydd o'r lie y daeth- ant. Gollyngodd awyrlong y gelyn bombs ar orsaf rheilffordd Zamierie, ar linell y Minsk-Baronsvitehi. I'r de o dref Olyka gwnaeth y gelyn ymosodiad arall ar y bryn ddelir gan y Rwsiaid, ond gyrwyd hwy yn ol gan ein gvnau a'n gynau- pciriannol mewn anhrefn a cholledion trwm. Yn rihiriogaethau Strypa uchaf a chanol chwalwyd amryw adrannau o eiddo'r gelyn a gwnaed amryw o gar- charorion.
-I I AMGYLCH Y MEUSE. I
I AMGYLCH Y MEUSE. I I Bywiogrwydd y Ffrancwyr. I I'r gorllewin o'r Meu&<; y mae'r tan- bclcnnu ar y pentrefi i Haucort ac Esnes yn parhau heb i ddim arall gy- meryd lie. I'r dwyrain o'r Meuse yr oedd yr ymladd gymcrodd le yn ystod nos Sul yng nghymydogaeth y Douau- mont yn ffafriol i'r Ffrancwyr. En- illasant dir yn La Caillette Wood. Y mac eu llinell yn cael ei cWynorthwyo ar y dde gan ffrynt y Vaux, yn myned trwy y La Caillette Wood, o'r hwn y mae y gelyn yn dal y rhan og- lcdddl ac yn ail-ymuno a'u safleoedd i'r de a'r gorllewin i'r pentref Douau- mont. Achosodd cvflegrau y Ffranc- wyr golle:dion trymion ar rengau y gelvii yn ystod eu hymosodiadau y Sul. Yr oedd yn noson dawel yn y Woevre. Yn Lorraine achosodd cyf- legrau Ffrengig i amryw o danau dorri allaii. Yn agos i Noyon syrthiodd aeroplane i linell y Ffrancwyr, a chy- merwyd yr awyrwyr yn garcharorion.
' I CHWYTHU ?N DDARNAU. !
CHWYTHU ?N DDARNAU. Llong Ryfel Prydain a Smyrna. j 1 1 Wrth bellebru 0 Salonika. dywed go- hebydd y "Tirries" ei fod yn cael ar ddeall fod porthladdbedd Saint George, Sandjak, ac amddiffynfeydd glanf aol eraill Smyrna wedi eu chwythu i fyny yn ddarnau ddydd Gwener mewn tair awr o danbelennu gail un o longau rhyfel Prydain. Dywed na ddarfu i'r Tyrciaid roddi unrhyw atebiad i danio y gynau Pry- deinig.
ANDREW CARNEGIE A'l RODDION.
ANDREW CARNEGIE A'l RODDION. Mae Mr Carnegie, yr hwn ddath- lodd ei 80 benblwydd yn ddiweddar, wedi cyfranu 8o,ooo,ooop at achosion teilwng, neu mewn geiriau eraill, fil- iWll o bunnau bob blwyddyn o'i oes. .H_-
Y BRENIN A'l RESTR. I
Y BRENIN A'l RESTR. I Mae'r Brenin Sior, yr hwn sy'n gallu siarad yn barod saith o ieithoedd yn rhwydd, yn ychwanegu yr iaith Rwsiaidd at ei retr.
COFGOLOFN I'R LUSITANIA. I…
COFGOLOFN I'R LUSITANIA. Mae mudiad ar droed yn Philadel- I phia i adeiladu .cofgolofn i'r 141 o Americaniaid lofruddiwyd gan Ger mani pan suddwyd y Lusitania. Mae i gostio io,ooop.
[No title]
Dychwelodd. 1,500 o ddocwyr Bir-  kenhead at eji gwaith ddydd Linn. II }
COLLI £ 10,000 MEWNI CYFLOGAU.
COLLI £ 10,000 MEWN CYFLOGAU. Cost Streic Pedwar Diwrnod y Docwyr I Mae„ streic docwyr y Fyrswy wedi terfynu. Dydd Llun yr oedd gweith- io yn myned ymlaen ar ddwy ochr yr afon fel arfer, y dynion wedi dod i'r penderfyniad y bydd yn well iddynt aros yn amyneddgar am gytundeb ar eu gofyniad am godiad o ic yr awr am weithio yn y nos. Parhaodd y streic am bedwar diwrnod, ac amcangyfrifir fod y dynion wedi colli tua io,ooop mewn cyflogau. Yr oedd tua 10,000 o ddynion allan yn nociau Lerpwl, a 1,200 am un diwrnod yn Birkenhead.
LLWYDDIANT YN IZONZO. I
LLWYDDIANT YN IZONZO. Yr Italiaid yn Eangu eu Safleoedd. I A ganlyn ydyw'r adroddiad swydd- ogol o Rhufain ddoe :—Y11 ystod Mawrth 31aiii cymerodd amryw o vveithrediadau cyflcgrol le yn Nyffryn Giudicaria, ac yn yr Upper Astico. Yng nghymydogaeth Cristallo. ar y cviitaf cyfisol, cymerodd yr Italiaid rai o ffosydd yr Awstriaid ynghyda'u safleoedd ger Bauchkofi. Yn ystod yr ymgyrch hwn syrthiodd amryw o'r gelyn yn garcharorion i'n dwy law. Ataliwyd holl ymosodiadau y gelyn yn erbyn eu safleoedd ar y Carso yn 'rhwydd ganddynt. Ger Aquileja tynodd yr awyrwyr Italaidd awyrlong i'r gelyn i lawr, a gwnaed y dwylaw yn garcharorion. ——— ———
EI GAEL YN YR AFON.
EI GAEL YN YR AFON. Brawychwyd holl Sir Drefaldwyn dclydd Llun pan hysbyswyd am farw- olaeth Mr Pryse Jones, 40 oed, am- aethwr adnabyddus o Meifod. Coll- wyd ef tua 6 o'r gloch, a chan fod ei oriawr a'i arian wedi eu gadael yn ei ystafell wely, aetlip (d, i chwilio am dano, a chafwyd ei^orff yn yr afon tua 200 llath o'i gartref. Nid oedd wedi ardystio, ac yr oedd wedi ei alw i fyny alii wasanaeth mil- wrol.
YN FARW ERS WYTHNOS. I
YN FARW ERS WYTHNOS. I Tua pythefnos yn 01 gvvelwyd Har- riet Pedder, 67 oed, 39, Gildart's Gardens, Lerpwl, yn myned i'w thy gan gymydog. Ni welwyd hi ar ol hynny. Bore Sadwrn aeth y cymyd- ogion yn amheus, a thorwyd i mewn i'r tv, a chanfyddwyd hi yn gorwedd yn farw yn ei gwely. Yn ol tystiol- aeth y meddyg, bu farw tua wythnos yn ol, "double pneumonia" yn achosi hynny.
ESGUSAWD DA.I
ESGUSAWD DA. I Dywedodd modurwr ddirwywyd ym 1Ihorthaethwy ddydd Llun am ddang- os gormod o oleuni ar.ei fodur fod yn amhosibl g-weled mÜwyr ar y ffordldi yn v nos, gan fod eu gwisgoedd1 yr un lliw a'r ffordd.
Advertising
Edmondson's Ideal Toffee. Its not sticky, but you can't get away from it. Get the bit between your teeth Don't waver—show your grit Keep—on or off your native heath) Between your teeth the bit. ,{ course. Refuse substitutes. Bit of Edmondson's Ideal Toffee To stop smoking eat Edmondson's Ideal Toffee. To stop "Ideal" DIE! IILahe"s popular CDafe. BRIDGE STREET, CARNARVON Y LLE MWYAF CYFLEUS A CHYSURUS AM BRYD 0 FWYD GWIRIONEDDOL DDA. Tyrfa Fawr 0 Gefnogwyr, a phob .all Á we léH.f:)n J!e6 e un Defnyddir y Te Byd.Enwog Gold Medal yn unig. Pob Math 0 Ddanteithion Uwch. radtiol am Brisiau Cymedrol. PERCHENOGION j LAKE & Co., Ltd, Carnarvon. I
CANFYDDIAD rA WYCHUS. I
CANFYDDIAD rA WYCHUS. Cael Corff Baban ar Ben y Gogarth. Dydd Llun, canfyddwyd corff baban (gwryw) ncwydd ei cui yn Llandud- no. Cacd ef mewn hen fwnfa gopr ar ben y Gogarth, a dim dillad am dano.
IY "LABOUR LEADER." I
Y "LABOUR LEADER." I Yr Heddlu yn Cymeryd Meddiant I o Bamphledau. Prynhawn dydd Llun, aeth yr hedd- lu i mewn i swyddfeydd y "Labour Leader," yn Blackfriars Street, Sal- ford, a chvineryyd tua saith mil o gopiau a pamphledau ganddynt. Dy- wedodd y golygydd neithiwr fod y pamphledau gymeruyd yn cj'nnwys 1,600 copi o "Belgium and a Scrap of Paper," 1,100 o "Pa fodd y daeth y Rhyfeb" 3,0000 "Persia, Finland, a'r Cyngrair Rwsiaidd," goo o "Prydain a'r Rhyfel," goo o "Paham y dvlai Prydain ddi-arfogi," a 50 o "Trin- iaeth Carcharorion Gwleidycldol yn Rwsia." Yn ycliwanegol at hyn, cy- merasant feddiant o un o boh pamffled I werthir ganddynt.
Family Notices
6ENI. PRIODI. MARW. W illiams- Et rill 2, 1 Mr a Mrs Wil- liams, Llainfadyn. Rhostryfal1- mab. Priodi. Moore—Jones—Mawrth 29, yn Eg- lwys Llanheblig, Preifat George Moore, 3-6 R.W.F., Croesoswallt, a Miss Lizzie Jones, 17, Market Street, Caernarfoll.. Marw. Griffith Ebrill iaf, yn 36 mlwydd occli Lizzie, annwyl briod Mr David Griffith, 14, Terfyn Terrace, Felin- heli. WiIliams-Ebrl11 2, yn dra sydyn, Mr G. Williams^ Arfryn, Segoutium Terrace, Cacrnarfon, yn 62 mlwydd oed. Jones—Mawrth 25, Mrs Ellen Jones, Fron Goediog, Waenfawr, yn 70 mlwydd oed. WiIliams-Ehri11 2, 1fr Robert J. Williams, Bryndafarn, Rhostryfan- yn 22 mlwydd' oed. Jones—Mawrth 26, Mrs Jones, iS, Constantine Terrace, Caernarfon, yn 81 mlwvdd oed.
Advertising
J. FLETCHER. LTB., MEMORIAL WORKS, CARNARVON a BANGOR. Mae gweithwyr Clyde ar ochr or- llewinol Glasgow wedi penderfynu dychwelyd at eu gwaith ar unwaith, a disgwylir i'r rhanau eraill wneud yr un modd. Mae v Metropolitan Asylums Board wedi ymwneud a 128,000 o ffoadurion, ac mae tros 2,000 yn awr yn eu sefydl- iadau. j
AMSER Y TRENS.
AMSER Y TRENS. (IONAWR laf hyd Rybudd pellach.) Caernarion i Fangor.—7 0 a.m. (dydd Llun yn unig) 7 20 a.m.; 8 5 a.m.; 8 45 a.m.; 10 45 a.m.; 11 50 a.m.; 12 40 p.m.; 2 10 p.m.; 2 58 P.m. 3 55 p.m.; 5 28 p.m.; b 23 p.m.; 8 32 p.m.; 9 35 p.m. (nos Sadwrn yn unig i Felinheli). Dydd Sul: 6 5 a.m.; 8 20 p.m. Bangor i Gaernarfon.—4 53 a.m.; 8 55 a.m.; 10 45 a.m.; 12 12 p.m.; I 21 p.m.; 2 40 p.m.; 4 20 p.m.; 4 53 p.m.; 6 30 p.m.; 7 41 p.m.; 9 10 p.m.; 11 15 p.m. (dyddiau Iau a Sadwrn yn unig). Dydd Sul: 4 53 a.m.; 9 5 p.m. Caernarfon i Afonwen.—5 16 a.m.; 8 18 a.m.; 9 22 a.m.; 12 39 p.m.; 3 8 p.m.; 5 23 p.m.; 7 2 p.m. (dyddf Sadwrn yn unig) 8 7 p.U1. Dydd Sul: 7 50 a.m. Atonwen i Gaernarfon.—7 42 a m 9.40 a.m.; 11 35 a.m. 1 55 p.m.; 4 25 p.m.; 7 25 p.m.; 9 25 p.m. Dydd Sul: 7 o p.m. Caernarfon i Lanberis.g 30 a.m.; II 18 a.m.; 1246 p.m.; 310 p.m. 5 18 p.m.; 657 p.m.; 8 30 p.m.; 10 10 p.m. (dydd Sadwrn yn unig) Llanberis i Gaernarfon.-8 10 a.m. 10 10 a.m. 12 o noon; 2 20 p.m.; 4 35 p.m.; 5 53 P-m.; 7 35 P-m-» 9 5 p.m. (dydd Sadwrn yn unig). Penygroes i Gaernarfon. 8 20 a.m.; 10 19 a.m.; 12 13 p.m.; 2 33 p.m.; 5 3 p.m.; 8 3 p.m.; 10 2 p.m. Dydd Sul: 7 34 p.m. Penygroes i Nantile.-c) 55 a.m.; 12 20 p.m.; 1 10 p.m. 3 40 p.m. \5 55 p.m.; 7 35 P.m. (dydd Sadwrn yn unig) 8 10 p.m.; 8 40 p.m. Nantlle i Penygroes.-9 40 a.m.; 12 o noon; 12 50 p.m.; 2 20 p.mi.; 4 50 p.m.; 7 15 (dydd Sadwrn yn unig) 7 50 p.m.; 8 20 p.m. Bangor i Bethesda.-7 50 a.m.; o 12 a.m.; 10 50 a..m:; 12 20 p.m.; 1 37 p.m.; 2 40 p.m.; 3 37 p.m.; 4 50 p.m.; 6 o p.m.; 7 40 p.m. 9 15 p.m.; 11 o p.m. (dydd Sadwrn yn unig) Bethesda i Fangor.-8 15 a.m.; 950 a.m.; II 30 a.m.; 12 45 p.m.; r 58 p.m. 3 3 P-1" 4 o p.m.; 5 13 p.m.; 6. 30 p.m.; 8 5 p.m; 9 40 p.m.
MORTHWYL RHYFEDDOL.
MORTHWYL RHYFEDDOL. Mewn ffatri yn Woolwich Arsneal mae'r morthwyl mwyaf yn y bvd. Gall daraw bron fil o dunelli, ond er hynny i gyd gellir ei wneud i don plisgyn cneuen heb gyffwrdd o gwbl a'r cnewvllyn. rgratfwyd a chyhoeddwyd C'.1f Gwmni y Dinesydd Cymreig, Cyf.. yn 16, Palace Street, Caernarfon.