Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

DAN Y GROES

News
Cite
Share

DAN Y GROES HELYNTION TEULU ADWY'R CLAWDD. PENNOD XXXIII. Saili Wedi Mynd yn Sowldiwr. Cafodd Sadi ei ddymuniad o'r di* wedd, oblegid iddo un diwrnod fynd yn syth i'r dref ac ymuno a'r fyddin, a, daeth adref tranoeth yn ei wisg fil- wrol er boddhad mawr i'w dad; ond yr oedd edrych arno yn peri poen dir- fawr i'w fam. Edrychai merched yr ardal arno v? gydag' edmj'gedd anghyffredin, gan fod rhyw swyn anarferol iddynt mewn sowldiwr, a chredent fod cad cerddcd ochr yn ochr a dyn mtwn "khaki" yn anrhydedd arbennig. Ond nid felly y teimlai Dorothy. Yng ngwaelod ei chalon teimlai fod ei hanwylyd wedi colli 11a,wer o'i urddas wrth gymeryd y cam hwn, ac. un o'r pethau mwyaf etgas ganddi oedd gorfod cerdded allan gydag ef. Daeth y dyddi i Sadi symud, gan fod y fataliwn y perthnyai iddi yn gwcrsyllu rvwle yn Lloegr. Yr oedd Sadi yn dan cisiau cael mynd er cael profi ei cklur fcl inilwr. Siaradodd lawer y noson cyn mynd wrth Doro- thy am yr hyn fwriadai wneud dros ei wlad, ac y gobeithiai ddod yn ol ati hi wedi ennill bri ac anrhydedd yr arwr ar faes y gwaed. Ond er ei holl frwdfrydedd a'i sir- loldeb gwrandawi Dorothy amo yn oeraickl a dideimlad, ac eto nid oedd Sadi wedi sylwi fod dim yn wahanol arni. Derbyniai ei gusanau fel o'r blaen; ond nid oedd ei hatebion i'w gwcstiynau yn debyg, a phriodolai ef hynny i'r ffaith ei fod ef yn mynd i'w gndaei. Anwylyd, nieddai, peidiwch a phry- deru yn fy nghylch, beth bynnag ddaw ohonof, prun ai byw ai marw wnaf drwy yr ymdrech, gallwch fod ,yn dawel yn y ffaith i mi wneud fy than dros fy mrenin a'm gwlad. Felly'n wir, ebai Dorothy. Mae'n dda eich bod yn gallu meddwl fel yjia. Ydi, ydi, Dorothy annwyl, ebai Sadi, ni fuaswn yn gallu mynd o gwbl. int-ae bechgyn eraill yn mynd, pam nad af finnau? le, ie, ebai Dorothy, yn hollol sych. Mae'n debyg fod rhyw fath o reswm yn hynyna. Faswn i'n meddwl i fod o, ebai Sadi. Pwy reswm sy yna i fama a thada orfod gadael eu plant fund i golll eu bywydau, ac i mina aros adra ? Tydw i ddim am fynd i ddadla hefo chi rwan, Sadi, ebai Dorothy. Ryda chi wedi gneud yr hyn oeddych yn credu y dyliech ei neud; ond tybad Had oes gennych well rheswm na hyn- yna dros y cwrs? Ond tydi o'n ddigon, anwylyd, fas- wn i'n tybio. Beth arall ddisgwyl- iwch ei gael? Wei, wel, rwy'n synu atoch, ebai Dorothy. Yn ol eich dadl chi mi fuasech yn rhoi eich bysedd yn y tan, neu yn taflu eich hunan i'r mor pe buasai mama a thada a phlant pobol erill yn gneud. Tydi fod rhai eraill yn gneud ddim o angenrheidrwydd vn deud y dylia chi neud. Ond mi rydw i yn leicio gneud fy hunan hefyd, Dorothy. 0, mi wela i, Sadi, ebai Dorothy, mae hwnyna yn newiid petha. Dyna chi yn actio'r dyn rwan, faint bynnag f) synnwvr cyffredin su tu ol iddo. "\r&t web Dorothy, ebai Sadi, mi 'f J .J t'ydw i am roi fy ngore yn y gwaith, ac mi dreiaf ddod adra i roi anrhyd- edd ar fy anwylyd. Beth fydd hynny, Sadi? gofynai Dorothy. Wel, os daw'r cyfle, anwylyd, ebai Sadi, disgwyliaf gael fy ngwisgo gyjda'r V.C. neu ryw fedal arall. Felly'n wir, ebai Dorothy. Y V.C. ac nM gwasanaeth sydd yn eich Uygad-dynu, ai e. Y mae gormod o r el fen yna yn y byd yn siwr i chi. Mae llawer yn gwisgo siwt y milwr, aic yn mynd i'r rhyfel yn y rhagolwg o gael dyfod adref yn swn clychau clod ac anrhydedd yr ardaloedd. Nid milwyr mohonynt, ond doliau. Tyda chi ddim yn deud mai dol ydw i, anwylyd? gofynai Sadi. Amser a ddengys, atebodd hihau yn bur swta, Yr ydych heb eich profi eto. Mae'r tan yn dweyd ei stori ar bawb. Yda chi yn erbyn i mi fynd, Doro- thy. Rhyw swn felly rydw i yn i giywed yn eich siarad heno? Yn erbyn neu beidio, ebai Dorothy, yr ydych chi yn awr yn rhwym o fynd. Dywedaf wrthyeh pan ewch cofi weh fod yn ddyn, ac actiwch felly bob amser. Fe wnaf hynny, anwylyd, ebai Sadi, pe ond er eich mwyn chi. Pcidiwch a sbwylio pob gweithred, da chi, ebai Dorothy. Nid oes eisiau gwneud er mwyn neb na dim and y da ei hunan. Os y gellwch gadw'n ddyn fe ddaw bendithion hy-nnv 1 lifo at bawb yn naturiol, a byddaf finnau felly yn dod i mewn yn y pawb, mac'n debyg1. Dorothy, ebai Sadi, yn llawn cidd- lgedd, nid oes neb ddaw i mewn yn f\\y na chi. Yr ydych yn sefyll yn fy ngolwg am calon y cyntaf a'r itwchaf o bawb yn y hyd. Na, na, anwylyd^ rhaid i. chi gael y lie am- lycaf. Pwy ond y chi ddylai ei gael. Ha, ha, ebai Dorothy, yn sych a chyrhaeddgar, mae hi'n rhy ddiwedd- ar i chi fedru disgwyl i mi allu credu peth felna. Beth, ebai Sadi, a ydych yn ameu fy nghywirdeb, Dorothy? Toes dim eisiau ameu, Sadi, ebai Dorothy. Y fi ynte'r Brenin a'r wlad gafodd y lie blaenaf yn eich calon wrth fynd i'r siwt yna? Fc ddaru mi ofyn i chi be wnawn i vn gynta, ebai Sadi. Dywedais y gwnawn rhywbeth ofynech i mi; ond gwrthodasoch roddi'r gorchymyn, ac fe adawsoch i mi fy rhyddid i ddewis fel y mynwn. Do, do, ebai Dorothy, yr wyf yn deall hynny, ac yn parhau i'w roddi o hvd. Ond gyda'ch rhyddid pwy a ddewisasoch yn flaenaf, y fi ynte'r Brenin dyna'r atebiad garwn ei gael. Yr ydych yn rhy ddiweddar yn gofyn v cwstiwn, ebai Sadi. Pe Ijyddech wedi siarad fel hyn cynt fe wydclwn beth i'w wneud; ond yn awr nid oes dim am dani ond gwneud y goreu o'r siwt. 0, Dorothy, yr dych wedi fy rhoddi mewn cornel anifyr, ydych yn wir. Sut y gallaf \vynebu yr amgylchiadau yn awr ac yn gwybod fod fy anwylyd yn erbyn milwra ? Actiwch y dyn, ebai Dorothy, nid oes gennych ddim arall i'w wneud. Ond beth am danoch chi, anwylyd, gofynai gydag aiddgarwch. Fe fyddaf gyda chi drwy'r cwbl, ebai Dorothy. Gwn yn eithaf mai yn eich anwybodaeth y gwnaethoch yr oil. Mae eich calon yn iawn, ak honno sydd arnaf ei eisiau, a dis- gwyliaf y, daw'r pen i gydweithio ryw bryd. O. Dorothy annwyl, ebai Sadi, yr wyf y n'disgwyl y daw'r dydd yn fuan y cawn fod gi^da'n gilydd yn wr a gwraig dedwydd a chytun. Gobeithio wir, ebai Dorothy, byddai yn ofid calon i mi os na chawn. Prun bynnag am hynny, gadewch i ni fod yn ffyddlon a phur i'n gilydd am byth. Yn swn v geiriau hyfryd distawodd I y siarad, a bu'r ddau yn cofleidio eu gilydd mewn tawelwch, hyd nes y torwyd ar eu hyfrydwch gan lais Elizabeth yn gwaeddi dowch oddiyna v cnafon bach, y mae'r swper yn barod ers mcityn. a nhad yn flin o'i go eisiau i Sadi fod yno er mwyn i'r gwahoddedigion gael golwg arno. (I'w barhau)

BWRDD RHEOLI GWIRODYDD.

CYDWYBOD YNGOLEU Y TRI-I I…

SENEDD »Y< I .PENTREF.

YNADLYSDEUDRAETH.

¡STREIC Y CLYDE. I

GWYL BANC YCHWANEGOL.