Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

LLYTHYRAU EIN BECHGYN.

News
Cite
Share

LLYTHYRAU EIN BECHGYN. PROFIAD RHINGYLL 0 GAER- NARFON YN FFRAINC. Yr ydym yn rhoddi y llythyr isod i'n darllenwyr dderbyniwyd gan "Mrs Jones, Uxbridge Street, Caernarfon, oddiwrth ei gwr, Mr John L. Jones, yr hia-li sydd yn Sergeant Saddler gyda'r B. Batt., 121 Bde., B.E.Force, yn Ffrainc. Cyn ymuno gweithiai fel saddler yn Pencarnisiog, Sir Fon; ond yng Nghaernarfon y trculiodd y rhan fwyaf o'i oes, a bu yn gweithio gyda Mr John Jones, saddler, Stryd y Llyn. Mae yn libnu o linach Owain Williams, Waenfawr:— Dyma fi o'r diin-edd yn gyrru gair atoch, f'annwyl deulu. Anfonais ddau lythyr Cymraeg o'r blaen yn agored. Ni fu yn gyfleus ers tro i anfon lfythyrau, gan ein bod wedi symud dair gwaith. Yn y lie diwedd- af yr oeddym, yr oedd yno bedair crces-ffordd, a phob un ohonynt yn arwain i'r ffosydd. Gwelsom filoedd o filwyr yn myned hcibio, gyda seiir dyrf ar y blaen, ac yn eu mysg y Scots Guards, Grenadier Guards, a'r Gatrawd Gymreig, ac erbyn hyn gallaf ddwcyd eu bod wedi profi eu bod yn y ffrynt. Yr wyf wedi cy- nefino a swn ergydion a gynnau ma\\T, g-, i L eu bod yn myned nos a dydd yma. Maent yn ofnadwy ar adegau, ond erbyn hyn y maent ych- ydig yn ddistawach, gan fod y gelyn- ion wedi eu hymlid. Mae'r "shells" yn gwibio tra yr wyf yn ysgrifennu hwn, ac y mae'r lie yn crynu ar adegau. Rhyw waith 20 munud o gerdded sydd gcnnyf na byddwn tnewn tref fawr, ac y mae pentref mewn dau neu dri tafliad car- reg i'r lie hwn. Yr wyf wedi derbyn pob llrLhyr a'r "Dinesydd," ond nid ydwyf wedi derbyn y baco main. Mae'r lfytlnrau weithiau yn myned ar goll. Mae yma rai llythyrau a phairseli ers tro yn perthyn i rhyw "battery" arall, ac efallai fod y baco yr un fath. Nid oes neb yn gwybod am .faint y byddwn yma. Yr ydym mewn dwy filltir i'r llinell dan, ond yr oedd!ym yn nes na hyn yn y lie di- weddaf oeddym ynddo. Efallai na fyddwn yma yn hir. Caf ddweyd hanes y teithio cto os Duw a'i myn pan ddof adref. Y mae'n ddrwg gen- nyf ddweyd na allaf hawlio "leave" na dim arall yn awr. Y mae rhai uwch na. ni yn cael y cyfle cyntaf. Ychydig sy'n cael "leave" bob wyth- nos, ond efallai y daw fy nghyfle in- nau ynghynt nag y meddyliaf. Go- beithiaf y goreu. Wei, nid ydynt yn talu yn awr mor ami. Ni chawsom ddim dimai ers tair wythnos, a gwaith anhawdd iawn ydyw cael newid y papurau. Yr wyf wedi cael amryw o bethau bach am ddim, am nad oedd ganddynt bres dim ond papurau. Y mae'n dda gennyf ddweyd wrtWych fy mod yn cael bwyd da, cig fires bob dydd, pwdin weitli- lau, digonedd o fara, caws, a jams, a chyfran o bob parsel ddaw i'r "Sen geants' Mess." Caf ddigon o faco hefyd, a dwy owns o de neu goffi gyda'r nos. Rhaid i ni dalu am ein gclchi yn awr, ond y mae pawb yn cael bath dwfr poeth, ac yn cael newid glan os ydyw eu dilladau wedi myned yn sal. Y mae rhai yn dweyd fod rhywbeth aniynt er mwyn cael crys neu drons newydd. Yr ydym yn ddigon o ffleiars yma, ac yn hynod lawen, end dymuniad yr oil ohonom ydyw am i'r rhyfel derfynu yn fuan. Ceir digon o- ganu, chwarcu y bel- droed, a cliyngherddau yma, fel pc byddai dim yn bod. Y mae yr oil ohonom yn hiraethu am gartref, ac yn disgwyl am amser gwell. Wei, dyma lith go lew i wneud i fyliy yr amser gollais. Gallaf ddweyd wrthych fod tai Caernarfon a Chymru yn llawer iawn gwell na'r tai yma. To gwellt neu deils sydd ar y cyfan, ac y mae golwg hen iawn ar y niwyafrif ohonynt. Ceir ffosydd ar ddwv ochr y lonydd yn y lie hwn. a lonydd difrifol ydyw y rhan fwvaf ohonynt. Wel, cofiwch fi at bawb. Gadaf ddwcyd wlrthych fod popeth yn ddrud iawn yma. Rhaid rhoi 3C am \:11 ganwyll. Terfynaf yn awr, gan fawr obcithio y cawn weled ein gdy V! yn fuan.—Ydwyf eich ffyddlon wr. J. L. JO'F.F,.

LLYTHYR CALONNOGOL RACI" GEN…

PROFIAD CYMRO MEWN ESTRON…

.NEUADDAU GWAG.-1

DYBLU TRETHI GERMANI.

DAN Y GROES

GWNEUD ZEPPELINS. I

! YR HEN FETHODISTIAID I CALFINAIDD.

l NID OES DIM SYDD MOR DÐAI…

I CYMRY YN LLOEGR.

GALW BECHGYN 17 OED.

MEDDYGINIAETH NATUR. "I t