Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
16 articles on this Page
Advertising
KYDDS JAM, "Mother knows what we, I i Ke JAM As soon zu. » jar of Kydd's James comes home the Children are all smiles, they well know that they are in for a treat. These Jams are so different from others, full of Fragrance and luscious sweetness that there is never chance of any been left in the Jar. Too good to be lostl UK YOUR GROCER FOR KYDD'I JAM. KYDD & KYDD. FRUIT PRESERVERS, F ROUSH AN. CM.IMI "E SWYDDOGOL. CYNGHOR DINESIG BANGOR. Y MAE'R Cynghor uchod yn barod i Fenthyca Arian dan nodded y Trethi, mewn symiau heb fod dan L100, am dymor o dair neu bum mlynedd, neu, ynteu, yn agored i chwe mis o rybudd o'r naill ochr neu'r llall. Ceisiadau i'w han- fon i'r enw a'r cyfeiriad isod, pryd y ceir yr holl fanylion. (ArwytEcIwyd) E. SMITH OWEN, Clty Treasurer. Town Hall, Bangor, May 26th, 1915. AT AELODAU CYMDEITHAS GYF- EILLGAR DYFFRYN NANTLLE. C YNHELIR Cyfarfod Arbennig o'r Gymdeithas uchod yn Assembly Rooms, Talysarn, am 5 o'r gloch Pryd- nawn Sadwrn, y 19eg cyfisol, er ail- vstyried y cwestiwn o'i Dadgorphoriad godwyd yn y Cyfarfod Blynyddol di. weddaf. Dymunir ar gynifer ag a fyddo yn bosibl fod yn bresennol. DAVID W. JONES, Ysg. Mehofin 5ed, 1915. SIOPYDDRAICCOCH EASTGATE STREET. CARNARVON YW'R LLE GOREU AM BOB MATH 0 ESGIDIAU Am brisiau isaf yn bosibl. CYFLAWNDER 0 DDEWIS. ISGAER LF.WIS & Co. GUILD HALL, CAERNARFON. DARLUNUU BYW DAVIES BHAr.T PN RAGOROL YP WYTHNOS HON. DARE DEVIL CIRCUS QUEEN. SURGEON WARREN'S WARD. MJAeriad i Mewn t fie! -it. Established 1885. By Appointment. ) GENERAL ACCIDENT, FIRE AND LIFE Assurance Corporation, Limited. Assets Exeed £2,500,000 Claims Paid Over £ 7,000,000 SPECIAL FEATURES ACCIDENT INSURANCE. Liberal Benefits and Conditions. Low Premiums. FREE FIRE INSURANCE. Every Sixth Year to Private Property Owners and Householders. THREE POPULAR POLICIES. Of Life Assurance, with Various Options. All Classes of Insurance Business Transacted. *— CHIEF OFFICES. General Buildings, Perth, Scotland. General Buildings, AldwycW, London. General Manager F. Norie-Miller, J.P. Note.—L%e Bonds of the Corporation are accepted by all Departments of B.i8 Majesty's Government. I YN EISIEU. m ONUMENTAL MASON yn Eisieu; un profiadol. — Ymofyner a Wm. Hughes, Seiont Monumental Works, Carnarvon. T) EPORTER yn medru Llawfer, ac yn C gallu ysgrifennu Saesneg a Chym- raeg. Cyfle rhagorol i fachgen ieuanc. Ymoheber, yn ddioed, a "G. Swyddfa'r "Dinesydd." pOD' Dosbarth o ORWYNION yn P Eisiau. Lleoedd da yn agored yn awr ar ein llyfrau. Cooks, Cook- Generals, Housemaids Hotel, Preifat a Chvhoeddus, Generals, Waitresses, &c. —Ymofyner a Colwyn Bay X.L. Servants Registry, Carlton Buildinaa. Colwyn Bay. ~T\RESSMAKING.—Wanted an Exper- ienced Hand at once. Also Appren. tices. Mrs Roberts, Maldwyn House, Church Street, Carnarvon. FOR SALE. TWO FREEHOLD DWELLING. HOUSES, situate and known as Glanffrwd Terrace, Saron, Bethel, near Carnarvon. For further particulars apply to EVAN JONES, Solicitor, Car- narvon.
CLIRIO'R AWYR.
CLIRIO'R AWYR. Diddorol anghyffredin ydyw yr ym- drafodaeth sydd yn cymeryd lie cyd- rhwng Cymdeithas Ryddfrydol Arfon a Phwyllgor Gweithiol Undeb Chwar- elwyr Gogledd Cymru. Gwneir gwaith da ar gyfer y dyfodol drwy yr ohebiaeth am eu bod yn clirio'r awyr, ac yn gosod y gwahanol adrannau yn eu cy.lch a'u lliw priodol. Nid oes ddadl nad oedd angen mawr am agor- iad llygad a chael deall clir ymha le yr oeddym yn sefyll. Fel y gwclir oddiwrth y gohebiaethau, yr oedd Undeb y Chwarelwyr, yr hon nad oedd yn gysylltiedig a'r Blaid Lafur, yll teii-illo y dylai y chwarelwyr gaeI llais yn newisiad cynrychiolydd Sen- eddol, am eu bod yn credu fod angen cael dyn yn y Senedd fo'n cydym- deimlo'n llawn a hwy fel dosbarth o weithwyr yn y wlad. Pasiwyd i wneud hyn y cyfle cyntaf gawsid yn eu Cynhadledd flynyddol; ac, er gofid i'r wlad, daeth y cyfle yn anisgwyl- iadwy ym marwolaeth Mr W. Jones. Cymerodd y Pwyllgor Gweithiol fan- tais arno, ac anfonasant at Gym- deithas Ryddfrydol Arfon yn gofyn am gydymgynghoriad a chydweith- rediad ar y mater. Darllenwyd cais i Bwyllgor Gweithiol y Gymdeithas, ond ni ddarllenwyd yr ohebiaeth i gyfarfod y cynrychiolwyr yng Nhon- wy. Yr atebiad terfynol gafwyd yd- oedd mai "Penderfyniad diamwys y Pwyllgor a'r Gymdeithas oedd mai yr unig gwrs diogel a gweddaidd yn enwedig yn yr argyfwng presennol yn hanes y, wlad-ocdd myned ymlaen yn unol a'r rheolau. Yngwyneb hynny nid oedd ddibcn mewn enwi nifer o'r pwyllgor, neu'r Gymdeith- as, i gyfarfod nifer o'ch pwyllgor chwi i drafod dull arall. Ni fuasai ganddynt unrhyw allu. Mae'r aw- durdod gan y Cymdeithasau lleol, ac mae'n rhaid i'r cynrychiolwyr gario allan eu llais hwy." Yng nghais Undeb Chwarelwyr cafodd Cymdeithas Ryddfrydig Arfon ei phrofi, ac y mae'r prawf yn dangos yn eglur i weithwyr Cymru nad yw horiiadau y Cymdeithasau Rhydd- frydig eu bod yn awyddus am ddod i gyd-ddealltwriaeth a'r gweithwyr ond Hug. 0 safbwynt Undeb heb fod yn gysylltiedig a'r Blaid Lafur yr oedd y cais yn un teg a rhesymol, ond y mae'r aetbiad yn un gwan iawn, yn enwedig pan yn gomedd dod i drafod y mater o gwbl. Dywed Mr Pentir Williams fod y chwarelwyr yn bobl sydd yn gweled ymhell. Gobcithio eu bod, ac y gwelant drwy ymddyg- iad y Gymdcithas Ryddfrydig ymha le y gorwedd eu hiachawdwriaeth. Mae'u debyg na cheir fyth gynnygj^d o'r fath eto. Fe wyr y chwarelwyr beth sydd o'u blaenau yn y dyfodol, a bydd ganddynt gwrs clir ] weithio arno. Rhaid talu am ein dysgu, ac y mae'r chwarelwyr wedi talu'n ddrud am y wers hon. Nid oes ddosbarth o weithwyr wedi bod yn ffyddlonach i'r Blaid Ryddfrydol ar hyd y blyn- yddoedd na hwy; ond beth gafwyd ohoni? Bob tro y currir wrth y drws fe'u troir hwy draw. A adewir y mater ar hyn? Chwarelwyr, deff- rowch, a mynwch eich iawnderau. Bvddwch unplyg, byddwch wrol, hyddwch gadarn. Gwnaeth areithiau Mr Lloyd George a Mr Winston Churchill was- anaeth fawr i'r wlad ar adeg pan yr oedd gwir angen am danynt. Ami y clywid ochain a dolef ofnadwyaeth yn disgyn ar ein clustiau, gan rym yr helynt gyfodid gan y rhai sydd dda ganddynt ryfel. Braidd nad oeddym yn clywed swn anobaith a darogan cwymp ymhob cwrr o'r wlad. O'r bron y clywid brawddeg hyderus yn cael ei hyngan. Bu y gwaedgwn wrthi yn ddyfal yn ceisio creu digon o anobaith yn neiliaid Frydain i^awr i werthu ei rhyddid ac i golli ei han- nibyniaeth. Dyna oedd nod y giwaid hyn. Buont wrthi yn ceisio prynu y wlad drwy werthu y gweithwyr, ac arferwyd pob moddion posibl i'w baeddu a'u difetha. Baich eu bwr- iad ydoedd cael y wlad i gefnogi mil- wriaeth orfodol, a gwnaed hynny dan gochl gwladgarwch ymerodrol. Dy- wedent fod yr elfen wirfoddol yn fethiant, ac fod dynion yn brin oher- vydd eu amharodrwydd i ymuno. Cwynid fod gweithwyr y wlad yn rhwystr i gael cyflenwad arfau, am eu bod yn ddiog a meddw. Nid oedd ond dau beth am dani, un ai gadael i'r gelyn gonewerio neu gymeryd mil- wriaeth orfodol. Beth ddywedir yn awr, tybed? Dyma ddau Weinidog pwysig a chyfrifol yn dweyd na raid wrth filwriaeth orfodol. Dywed y Canghellor fod yr ateb i'r alwad ar ran y bobl lawer ar y blaen i'r arfau ar eu cyfer. Nid dynion sydd eisiau fwyaf ar hyn o bryd, ond arfau. Rhydd Winston Churchill fynegiad croew ar y mater pan y dywed:— "Wedi myned mor bell, ac yr yùym. yn awr ar y brif-ffordd i gael tair miliwn o ddynion yng ngwasanaeth y Got-on fel gwirfoddolwyr, ie, wedi mynd jnor bell, a thaflu drosodd y fantais foesol ychwanega at anrhyd- edd ein byddinoedd ac urddas gwlad- wriaeth yn unig i'r pvv^pas o wtLic. i'r linell daniol gyfartalcdd fechan o bersonau, y rhai, hwyrach, heb fod y mwyaf cyfaddas i'r gwaith, ac hyd yn oed pe cymerid hwy iill ellid eu cyflenwi am rai misoedd," bydJai gwneud hyn, wedi'r hyn oil a ddi- gwyddodd, yn e)l v ma:n i. yn an- noeth i'r eithaf." Mae'r ddau cldat- ganiad yn cau safnau'r llewod, ac yn rhoddi lie i garwyr hN-ddid ym- orfoleddu. Un o'r cammu gwaetliaf ellid ei gymeryd fyddai syrlhio;n ol ar filwriaeth orfodol, a dangosai ddi- rywiad cenedlaethol. Ond y mae'n dda gennym ddeall nad oes oiigen am dano, ac y gall y rhai oinus i ellach rodio yn ddibryder. Ceir digon o ddynion heinyf parod yn wirfoddol- wyi mewn gwasanaeth, fel na laid gwthio rhai digalon i'r frwydr, ao y gali dynion sy'n gydwybxlol yn ti- byn rhyfela aros yn eu ffydd a chadw eu dillad yn ddilychwn. Dcngys araith y Canghellor fod gweithwyr y wlad ar eu goreu yn y gwaith, ac y mae datganiad Mr Churchill yn rhoi hyder digiv-isyniol yr sicrwydd y fuddugoli ietji.
r iTRANC Y "DAILY CITIZEN."
TRANC Y "DAILY CITIZEN." Effaith y Rhyfel. Drwg gennym fod gyrfa y "Daily Citizen" wedi dod i ben er dydd Sadwm diweddaf. Yr oedd yn new. yddiadur dyddiol gyflawnai wasan- aeth rhagorol i Undebiaeth Llafurol, a gwnaeth orchestion yn ei ddydd. Er na chafodd ond d-vvt flynedd a hanner o hoedl, credwn y bydd ei ddylanwad yn arhosol. Nid yw ei genadwri wedi darfod, mae'r gwaith i fyned rhagddo. Daeth baich llethol y rhyfel i wasgu arno, a'r arian yn brin fel y bu raid rhoi terfyn arno er ei fod yn cae cylchrediad o yn agos i 200,000 yn ddydcliol. Da gennym fod y Golygydd yn bwriadu cychwyn newyddiadur wythnosol o'r enw "Independent," a bydd yn cadw Undebiacth yn fyw i'w buddianau goreu.
CAERNARFON.I
CAERNARFON. I Y Sedd Wag.—Bwriada Undebwyr Gweithfaol y dref ddod ag ymgeisydd am sedd y diweddar Gyngnorydd Ro- bert Williams ar y Cyngor Trefol. Y Wesleaid Seisnig.—Y Saboth di- weddaf, cynhaliwyd cymanfa bre- gethu tlynyddol y Wesleaid Seisnig yn Castle Street, pryd y pregethwyd gan y Parch H. Lcfroy Yorke, M.A., B.D., Rhyl. Llwyddiant. Da gennym ddeall am lwyddiant Mr W. R. Da vies, mab Mr Morris Davies, yr hwn a basiodd yr arholiad derfynol mewn Dental Surgery dan y Royal College of Sur- geons. Cerddorol. —Yng nghapel Eben- ezer (W.), uos Sul, datganodd y cor (arweinydd, Mr Walter Thomas) y rhangan "0 Dduw, bydd drugarog." Cynorthwywyd y cor gan Miss Blod- wen Williams, yr hon a ddatganodd yr unawd. Ar Ymweliad. Yr wythnos hon dychwelai y Private Robert Thomas, mab Mr a Mrs D. Thomas, Garnons Street, i ymuno a'i gatrawd, y Monmouth Regiment, ac aiff i'r inues yn fuan. Anfonwyd ef ych- ydig yn ol i ysbyty yn dioddef dan grydcymalau, a chafodd ganiatad i dreulio wythnos gartref cyn dych- welyd. Yr oedd ei gatrawd ef ymysg y fyddin Brydeinig ym mrwydr Hill 60. Anrhegiad.—Ar yr achysur o'i ym- adawiad i swydd bwysig yng ngorsaf rheilffordd Caer, cafodd Mr W. S. Owen, yr hwn fu am gyfnod helaeth yn gasglydd tocynau yng ngorsaf y dref, ei anrhegu gan ei gydweithwyr gydag oriawr aur hardd. Ymuno.—Yr wythnos ddiweddaf, gadawodd Mr John Hughes, mab hynaf Mr Henry Hughes, cigydd, Victoria Street, y dref i ymuno a Signallers y Garrison Artillery yn Northampton. Gwasanaethai Mr Hughes ym mhrif swyddfa arolygwyr Teleffon y Llywodraeth dros v Gog- ledd yn y Llythyrdy ym Mangor. Marw Cynghorydd.—Fore Getier bu farvv y Cynghorydd Robert Wil- liams, Dinorwic Street, yn 57 mlwydd oed. Yr oedd yn wr adnabyddus yn y cylch, a bu yn aelod o'r Cyngor Trefol er 1912, ac yn gwasanaethu ar y Gwarcheidwaid cyn hynny. Cladd- wyd ef, angladd preifat, fore Llun, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn David Jones a J. E. Hughes, M.A., B.D. Cydymdeimlir a'i frawd, sef Capten Williams, Llys Elen, Llan- bcblig Road, yn ei brofedigaeth. Cyngerdd.—Nos lau, yn y Guild Hall, cynhaliwyd cyngerdd elusenol, pryd yr oedd Mr Charles A. Jones yn llywyddu. Aed trwy raglen ddi- ddorol fel y canlynDatganiad gan yr Arvonic Glee Party (dan arweiniad Mr R. Roberts, Pool Street), unawd gan Miss Maggie Morton; unawd gan Mr Tom Thomas; deuawd gan Miss Maggie Davies a Mr W. Land; un- awd gan Mr W. Land; deuawd gan y Mri Hopwood a J. Metcalfe; deu- awd gan y Mri Radford Jones a Tom Thomas; unawd gan Mr J. Metcalfe; deuawd gan Miss Maggie Davies a Mr W. Land; unawd gan Miss Mag gie Morton; unawd gan Mr Radford Jones; datganiad gan y Glee Party; a chan ddigrifol gan Mr Owen Edwards. Cyfeiliwyd gan Mr W'i'.l'c Morris, ac yn ystod y rhaglen rhudd- wyd arddanghosiad o ddarluniau sy- mudol. Aethai'r elw i gynorthwyo y Mri William Williams a J. R. j-oi-es, (fu yng ngwasanaeth cwmni'r rheil- itordd), ac a analluogwyd. Ymrestru.—Y mae'r ymrestru i'r adran newydd o'r oed Fataliwn R.W.F., yn myned ymlaen yn fodd- haol. Y mae'r rhai canlynol o'r dref wedi ymrestru yr wythnos ddi- weddaf gyda gwahanol gatrodau :— Wm. R. Parry, 52, Henwalia, a John R. Hughes, 4b, Henwalia, gyda 9fed Fataliwn "Bantams" R.W.F.; a W. E. Peters, 41, North Penrallt, gyda'r Royal Engineers. Hefyd J. Hughes, Victoria Street (a wasanaethai yn Llythyrdy Bangor), gyda'r Royal Garrison Artillery. Ymadawiad Curad.—Ar achlysur ei ymadawiad i ymgymeryd' a chur- adiaeth Sandiways, ger Northwich, derbyniodd y Parch R. Hughes, B.A., nifer fawr o anrhegion. Cyf- lwynodd plant Cymdeithas Genhadol Eglwys Loegr "inkstand" pres hardd iddo; ac yn Ysgol Sul Eglwys Crist anrhegwyd ef gyda "travelling box," "suit case," a dwy ganhwyll- bren arian, fel cydnabyddiaeth am ddeng mlynedd o wasanaeth ynglyn a'r achos. Derbyniodd anrheg o 30P yng nghyfarfod blynyddol Festri yr un eglwys; ac hefyd bar o ddarlun- iau o Gastell Caernarfon a'r Wydd- fa gan enethod yr Ysgol Genedlaeth- ol a phar o "flower vases" gan y bechgyn. Trwydded Ci. Yn yr Ynadlys Sirol, ddydd Sadwrn, o flaen Mr A. W. S. Williams ac ynadon eraill, ymddanghosai Syr John Roberts ar ran Cyngor Sir Arfon i. wysio Wm. Roberts, Ty'nywerglodd, Capel Uchaf, CIN-nnog, am gadw ci heb drwydded. Dywedid i'r Heddwas Owen alw gyda'r cyhuddedig ar Mai 14 a chanfod ci yn y lie, a methodd Roberts ddangos y drwydded, ond dywedai mai eiddo ei fab ydoedd, yr hwn oedd yn Ne Cymru, a rhoddodd ei gyfeiriad i'r heddwas. Pan anfon- wyd at y mab cafwyd nad oedd y cyfeiriad yn briodol, ond pan alwodd yr heddwas drachefn ddydd Gweír cyflwynwyd y drwydded iddo. wed. ei hanfon gan y mab o Dde Cynun ond canfvddwyd fod y drwydded wedi ei chodi ar ol i'r ffaith nafcdd ent dTWyddcd gael, ei ddarganfod fl" ymweliad g-vntaf vr heddwas. ynai yr erlynwyr ani i'r Fainc roddi dirwy yn yr achos. Dadleuai y Fainc na ellid dal y cyhuddedig yn gyfrifol os mai eiddo ei fab ydoedd v ci. Sylwodd yr erlynwyr mai'r sawl fyddai'n gyfrifol am y drwydded yd- oedd yr hwn y caed y ci yn ei fedd- iant, a phe gwysient y mab gallai ddweyd nad oedd a wnelo ef o gwbl a'r ci. Nid ymddanghosodd y di- ffynydd, ac wedi peth ystyriaeth taflwyd yr achos allan. Darluniau. Y mae Mr Davies wedi sicrhau at ddechreu'r w ¡thIll'S hon ddarlun arbennig yn dwyn yr enw "Dare Devil Circas Queen," yr h\vn sy'n gyd-gynllun nodeclig o ddwfn a diddorol. At ddi vcdcl yr AVthnos danghosir "S W«>r- ren* Ward." Milwrol.-Y mae'r ymrestru ar gyfer 3rd Line y 6ed Fataliwn o'r Fyddin Diriogaethol Gymreig yn y dref yn myned ymlaen yn llwyddia i- nus, a deallwn fod dros 80 wedi ym- uno ynddi i fyny i ddechreu'r wylh ■ nos hon. Cymanfa Gerddorol.-Ddydd lau, yr wythnos non, bydd Cm aria Ys- golion Flynyddol M.C. Dosbarth Caer narfon yn cael ei chynnal yng nghapel Moriah, dan arweinad Mr T. O. Hughes, Siloh. Cynhaliwyd cyfarfod canu cyfiredinol ym Moriah nos Sul, pryd yr oedd cynulliad cryf yn bresennol o'r dref a'r cylchoedd. Cynhelir cyfarfod o'r cynrychiolwyr fore lau, a chynhelir y cyrddaii eraill am 1.30 a 5 y prynhawn. Ynadlys Bwrdeisiol. Cynhaliwyd y-r ynadlys bwrdeisiol ddydd Llun, o flaeu y Maer (INlr J. Prichard) ac ynadon eraill. Dirwywyd John R. Jones, 24, Baptist Street, i 10s 6c yn cynnwys y costau am fod yn feddw ac afrcolus. Gwysiwyd Thomas Wil- liams, North Penralllt,j: gvhii,"itli,d o feddwdod mewn ty trwyddedol. Dy- wedai y Rhingyll Thomas iddo gan- fod y cyhuddedig yn Market Vaults ar Mai 31ain yn feddw. Dirwy wyd i ios.-Cyhuddai Elizabeth Hughes, 13, Skinner Street, Hannah Thomas, 17, Mountain Street, o ymosodiad. Rh,ymwvd-y gyhuddedig yn ol swin o 5p i gadw'r heddwch am 6 mis. Ymadael. —Yr wythnos ddiweddaf ymadawodd y Weinyddes Hughes i Fethesda, i ymgymeryd a gwaith y Gymdeithas Gweinyddesau yn y dos- parth hwnnw. Marw.—Gofidiwn gofnodi marwol- aeth Mr Albert Humphreys (cigydd), 18, Pool Side, yr hyn a gymerodd le neithiwr (nos Lun), wedi dioddef ohono rai blynyddau o gystudd. Yr oedd yn 53 mlwydd oed, ac yn aelod ffyddon yn eglwys Salem (A.). Gedy'r ymadawedig mewn galar briod ac un mab, Mr Robert Humphreys, yr hwn sydd wedi myned drwy yrfa addysgawl hynod o lwyddiannus, ac yn awr yn athraw mewn Ffrancacg mewn ysgol uwchelfennol ym Man. ceinion, a bu am flynvddau cyn hyn- ny yn athraw yn un o ysgolion Llan- dudno. Gedy hefyd ddau frawd, sef y Mri David Humphreys, ffrwythydd, North Penrallt, a Mr Wm. Hum- phreys Pool Hill. Bwriedir claddu ddydd lau nesaf, am ddau o'r gloch ym mynwent Llanbeblig. Penodiad.—Y mae y Parch T. A. Morgan Jones, B.A., curad, wedi ei benodi yn vsgrifennydd Deoniaeth Wledig Arfon, fel olynydd i'r Parch R. Hughes, B.A., yr hwn sydd yn ymadael.
I CWMYGLO.
CWMYGLO. Marwolaeth. Nos Fawrth di- weddaf bu farw geneth fechan wyth- nos oed i Mr a Mrs David Williams, Alltgoch. Claddwyd ddydd Sadwrn ym mynwent Llanrug, y Parch T. J. Teynon yn gwasanaethu. Cydyni- deimlwn a'r teulu yn eu colled. Ein Milwyr. Ymwelodd y rhai canlynol a'u cartrefi yn ystod yr wythnos Private Morgan J. Hughes, Tanygraig, o Rushden; Private Tommy Hughes, Tanygraig, o Bet- twsycoed; Private Michael Morris, Penyclogwyn, o Capel Curig; Private WTillie R. Williams o Llandudno, a Private Rowland Thomas. Da gCll- nym eu gwelcd yn edrych mor dda.
I DYFFRYN NANTLLE.
DYFFRYN NANTLLE. Cyfarfod Ysgol.—Cynhaliwyd Cyf- arfod Ysgol Dosbarth Clynnog yn Ebenezer, Clynnog, ddydd Sul, dan lywyddiaeth Mr Hugh Owen, Pen- arth. Drwg gennym na ddaeth yr agorydd yno, er hynny cafwyd cyf- arfod da iawn. Y mater ydoedd hanes cenedl Israel fel esiampl a rhybudd i'n hoes ni. Siaradwyd gan y Parch J. H. Ll. Willioms, B.A., Clynnog; Mri R. J. Hughes, Bwlan; W. Jones, Bryn Aerau. Cafwyd ad- roddiad o'r Cyfarfod Ysgol blaenorol gan yr ysgrifennydd. Holwyd hanes yr ysgol gan Mr D. Hughes, Bryn Aerau, a holwyddorwyd y dosbarth mewn oed gan y Parch J. H. Lloyd Williams. Ymadael. Drwg gennym ddeall fod y cerddor galluog Mr T. T. Powell wedi penderfynu ymadael a'r dyffryn i fyw i Bwllheli. Afraid yw dweyd dim am ein cyfaill, gan ei fod yn un o'r dynion ieuainc mwyaf galluog sydd yn ein dyffryn. Pwy roddodd gymaint bri ac ani hydedd ar ein dyffryn gyda'r cor lewyrchus fu ganddo ers blynyddau yn ol. Chwith iawn fydd gennym ei golli, ond bydd ein colled ni yn ennill i Bwllheli a'r cylch. Mae ei enw yn adnabyddus drwy Gymru bellach. Credwn na ddylem adael i'r eyfle hwn fynd heibio heb i ni gael dangos ein teim- ladau da i'r hen Tom, er fod pethau yn bur wasgedig yn tin mysg fel gweithwyr. Pwy gymer y peth mewn 11aw, tybed? Cymanfa John Thomas. Pry- nhawn a nos Sadwrn diweddaf, cyn- haliwyd v gyman i ucnod yng nghapel Bethel, Penygroes. Nid oedd yr hen arwr yno yn arwain eleni; ond cymerwyd ei le gan Mr mums William Howells, L.T.S.C., Porth, De Cymru. Y llywydd yng nghyfar- lod y prynhawll ydoedd Mr T. H. iiuglies, Tanrallt.L a Mr T. H. Grif- fiths, Arfonydd, yn yr hwyr. Cyf- eiliwyd gan Mr T. T. Powell. Ofnid na chawsid fawr o hwyl eleni, ond cafwyd siomedigaeth o'r ochr oreu. Yr oedd y capel yn orlawn, a mynd anarferol ar y canu. Daliodd y gy- manfa ei hanes da, a chamnolir yr arweinydd yn fawr.
FELINHELI. I
FELINHELI. Priodasau.—Yn Eghvys St. Mair, bore Mercher diweddaf, cymerodd priodas ddiddorol le cydrhwng yr Heddgeidwad Will. Ellis, o Gaernar- fon, a Mrs Maggie Thomas, merch ieuengaf i'r diweddar Mr Charles Roberts, Victoria Hatel, o'r ardal hon. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch J. T. Jones, Ficer y plwyf hwn; a rhoddwyd y briod- ferch ymaith gan ei brawd, Mr Al- fred Roberts, Manchester Anns, Up- per Bangor. Y forwyn ydoedd 'Miss Williams, Bron Menai, a'r gwas Mr Charles Ellis, Caernarfon (bpawd y priodfab). Wedi'r seremoni aeth y parti priodasol i Fangor i gyfranogi o'r borebryd, yr hwn oedd wedi ei barotoi iddynt yn y Station Hotel, yna ymadawodd Mr a Mrs Ellis am Lundain i dreulio eu mis mel, yn cael eu dilyn gyda dymuniadau goreu eu cyfeillion a'u perthynasau.—Bore Gwener, ynghapel Moriah (M.C.), Caernarfon, cymerodd priodas dau tra adnabyddus o'r ardal hon le, sef Mr John Jones, mab Mr Wm. Jones a'r ddiweddar Mrs Jones, Tanygraig, gyda Miss Jane Williams, 7, Terfyn Terrace. Gweinyddwyd y seremoni gan y Parch J. E. Hughes, B.A., B.D., Bryn Menai, a gwasanaethwyd fel morwyn gan Miss Hughes (chwaer i'r Parch J. E. Hughes), a'r gwas ydoedd Mr Pritchard, o Gaer- narfon. Wedi i'r cwmni cyfranogi o'r borebryd priodasol yng Nghaer- narfon, ymadawrodd Mr a Mrs Jones am Gaer ar eu hymdaith briodasol. Ein dymuniadau goreu iddynt yn eu "byd" newydd.
I LLANRWST.
I LLANRWST. Derbyn Galwad.—Deallwn fod y Parch Jenkyn Jones, curad, wedi derbyn galwad i guradiaeth plwyf Gyffynog, ger Rhuthyn. Dyrchafiad Pwysig. Y mae y Lieutenant Norman Rogers Jones, Lieut. N. Rogers Jones, mab y Cyng- horydd T. Rogers Jones, wedi ei benodi yn "transport officer" gyda i7fed Fataliwn y Royal Welsh Fusi- liers yn Llandudno.—Hefyd derbyn- iodd y Corporal Morris Jones, mab Mr Samuel Jones, gomisiwn gyda'r Denbighshire Yeomanry. Marw. Drwg gennym gofnodi marwolaeth yr hen frawd adnabydd- us Mr William Hughes, Plough Street, yr hyn a gymerodd le ddydd Llun, Mai 3iain, yn yr oedran teg o 84 mlwydd. Yr oedd yn aelod ffydd- lon yn cglwys y M.C., yn Scotland Street. Claddwyd ef ym mynwent Llanddoget ddydd lau.
I NODION 0 FFESTINIOG.
NODION 0 FFESTINIOG. I Ennill. Da gennym ddeall am lwyddiant Mr William R. Edwards, 5, Bethania, yn enill y wobr am gyf- ansoddi dernyn i seindorf mewn cys- tadleuaeth yn y Brass Band News, allan o gynifer a 175 o ymgeiswyr. Milwrol.-Y mae y Mri Richard S. Owen, Belle Vue, ac Ellis R. Jones, Tanybryn, Llan, wedi ymuno a'r Medical Corps mewn canlyniad i basio arholiad feddygol yn Croydon. —Daeth y newydd fod dau o'r Llan wedi eu clwyfo yr ail waith ar faes y frwydr, sef y Mri T. Parry a Phil Woodford. Profedigaeth.—Cydymdeimla'r ar- dal a Mrs Isfryn Jones, Tref Dawel, Market Square, yn ei phrofedigaeth o golli ei chwaer drwy farwolaeth, yr hyn gymerodd le yng Ngwrecsam, yn 30 mlwydd oed. Syrthio ar y Maes.—Daeth y new- ydd prudd fod y Private Edward Griffith, mab Mr David J. Griffith, gynt o Taliesyn Terrace (yn awr yn Durham) ymhlith y lladdedigion yn ymgyrch bresennol y Dardanelles. Nid oedd ef ond 19 mlwydd oed, ac ymunodd a'r Royal Marines ar doriad allan y rhyfel. Pasiodd Drwodd.—Nawn Mawrth, cyrhaeddodd cwmni o tua 200 o filwyr i'r dref, ar eu taith i Lanidloes o Lan- dudno. Lletywyd hwy yn ystod y nos waith, ac ymadawsant fore Mercher, a lletyant yn Nolgellau y noswaith honno. Gwelsom amryw o fechgyn yr ardal yn eu mysg. Cymanfa Bregethu.—Nos Sadwrn a dydd Llun, cynhaliodd eglwysi Methodistiaid y Rhiw, Bowydd, a Maenofferen eu cymanfa bregethu flynyddol, a'r traddodwyr oeddynt y Parchn P. Morgan, Blaenanerch; T. Charles Williams, M.A. ,Porthaeth- wy; W. R. Owen, B.A., Abergele; a John Wiliams, Brynsiencyn.
-PENMAENMAWR.--I
PENMAENMAWR. I Yn y Dardanelles.-Ymhlith rhestr swyddogol lladdedigion y Fyddin Brydeinig yn y Dardanelles a gy- hoeddwyd ddydd Mawrth, ymddang- hosodd enw y Sergeant R. D. Jones, perthynol i'r 3ydd Fataliwn Aws- tralaidd. Yr oedd Sergeant Jones yn fab i Mr a Mrs Jones, Brvnafon, ac aeth i New Zealand ychydig flynydd- au yn ol, o'r Ile'r ymfudodd drachefn i Awstralia. Cydymdeimlir yn fawr a i ricni. I Lletya'r Milwyr.-Vng nghyfarfod y Cyngor Dosbarth yr wythnos ddi- weddaf, cyflwynwyd petisiwTi wedi ei harwyddo gan 183 o drigolion rhan- harth weithfaol y dref, yn gofyn i'r Cyngor geisio sicrhau fod milwyr Sal- fod yn cael eu lletva yn y rhan hwn- nw o'r dref, ac felly beidio bod- yn rhwystr gyda thymor arferol yr ym- welwyr.—Dywredodd Mr M'Clement fod dewisiad tai lletya yn gyfangwbl yn nwylaw'r awdurdodau milwrol.- Ar gynnygiad Mr R. D. Owen, pas- iwyd gwneud cais am fataliwn allan o "Bantams" Salford i gael eu lletya yn y dref, ac i ymohebu a Mr Barlow, A.S., ynglyn a'r achos.
Advertising
COUPON INSURANCE TICKET. Applicable only within the United Kingdom. GENERAL ACCIDENT, FIRE AND LIFE Assurance Corporation, Ltd. Chief Offices- GENERAL BUILDINGS. LDWYCH, LONDON, W.C. GENERAL BUILDINGS, ALD. WYCH, LONDON, W.C. F. NORIE.MILLER, J.P., General Manager, To whom Notice of Claims under ttio following conditions must be sent within seven days of accident. £ 100 ONE HUNDRED POUNDS will be paid by the abovo Corporation to the legal personal repre* sentatives of any person who is killed fag an accident causing material damage to the passenger train in which the deceased was travelling as a ticket bearing Off paying passenger, or who shaH have been fatally injured thereby, should death to., suit within one calendar month aftel: such accident. Provided that the persoo so killed or inj ured had upon his or hefl person or had left at home this ooutxm, with his or her usual signature, writteol prior to the accident, in the space prom vided below, which, together with the giving of notice within seven days to the above Corporation is the essence of thia contract. This Insurance only applies to persona over 14 and under 65 years of age, is subject to the conditions. stated above md contained in the General Accident File and Life Assurance Corporation Act, 1907, and holds good for current issuo only, No person can recover under more than one Coupon Ticket in respect of the same risk Signature e, This Coupon must not be cut out, but left intact in the "Dinesydd Cymreig" 81 that, being dated, forms the only evidence
I PENRHYNDEUDRAETH.
PENRHYNDEUDRAETH. Personol.—Deallwn fod Mr Owiè Williams, mab Mr a Mrs Owen Wil- liams, Ty Fry Terrace, wedi pasio arholiad feddygol y R.A.M.C. gydag anrhydedd. Erys yn awr yn L-lan- drindod.—Y mae y Parch Johfl Hughes, B.A., ficer, wedi ei benodi i gynrychioli'r dosbarth yn yr Inns deinig Goliath a suddwyd ychydig yo
PWLLHELI.
PWLLHELI. Colli ei Fywyd. Cyrhaeddodd y newydd trist fod Mr Hughie Roberts, mab Mrs Sparge, North Street"
WYTH ALLAN 0 1,382.I
WYTH ALLAN 0 1,382. I Yn ol adroddiad wythnosol y Mor- lys, cyrhaeddodd ac ymadawodd 1,382 o longau i borthladdoedd y Dcyrnas Gyfunol yn ystod yr wytli- nos yn diweddu Mehefin 2, ac i wyth o longau Prydeinig (23,863 o dunelli yn vr oil) gael eu suddo gan suddlongau y gelyn.
IPONTRHYTHALLT.
I PONTRHYTHALLT. Damwain. Rai dyddiau yn ol cwrddodd Maggie Lizzie Roberts, Llys Meirion, a damwain dost trwyJ syrthio a thorri ei braich ger y penelin. Gyda gofal daw rhagddi Kn dda. Adref.-Am dro bu y cyfaill Mr Evan Deiniol Jones, Bronrhyddallts adref o Lerpwl. Eeto daeth Mr W. T. Wiliams, Tanygaer, adref, o'r un lie yn cwyno; adferiad doed iddo. Etholiadol.-Dyna y berw sydd dyddiau hyn yn rhanbarth Arfon, a'r ymgeis\vyr fel gwenyn yn chwilio am Ic i ddisgyn. Yn Brynrefail, bu Mn R. T. Jones nos Wener. Nos Fawrth1 am 8.30 bydd y brawd Phillips yn traetliu ei genadwri yn ysgol Pen- isa'rw:aen; a nos lau drachefn am 7-30 bydd Mr E. W. Roberts, Felin- hei gynt, yn annerch yn yr un lie. Rhodder iddynt wrandawiad ac am- bell gwestiwn ar bynciau'r dydd, cyn setlo eu tynged. I'r Ysbyty.—Yr wythnos ddiweddoj af aeth Mr H. H. Jones (ieu.), Pen- ygroes Isaf, i aros i ysbyty Bangor., Mae iechyd y cyfaill ieuanc yn wan- aidd ers tro. Hyderwn y caiff ad- feriad buan.
J 'PORTHMADOG.
J PORTHMADOG. Gwarcheidwaid.—Y mae y Parch W. Ross Hughes, a Mr Richard Davies wedi eu dychwelyd yn ddi- withwyneiad i lanw'r ddwy sedd wag ar Fwrdd y Gwnrcheidwaid dros y, dosbarth. Ar y dechreu daeth chwe ymgeisydd ymlaen, ond tynodd ped- war eu hcn wan yn ol. Wedi ei Ladd.—Yr wythnos ddi- weddaf, hysbyswyd Miss Hammond, High Street, fod ei nai, y Sergeant Ernest Peters, wedi ei glwyfo yn un o frwydrau diweddaf gogledd Ffrainc, a daeth pellebr pellach yn hysbysu iddo golli ei fywyd yn y frwydr. Marw Mr Owen Price. Ddydd Sadwrn, Mai 2gain, wedi gwaeledd hir, bu farw Mr Owen Price, beili y Llys Sirol, yn 81 mlwydd oed. Bu yn heddwas am tua 25 mlynedd, ac ymddiswyddodd pan yn gymharol ieuanc. Yr oedd yn adnabyddus iawn fel heliwr llwynogod, a rhodd'ai wasanaeth gwerthfawr i amaethwyr. Caddwyd ef ddydd Mercher, pryd y gwasanaethwyd yng nghapel y Bed- yddwyr ac yn y fynwent gan y Parchn E. M. Rowlands a Stephen Jones.