Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Advertising
YR HYN DDYWED PAWB YW MAI Y Dinesydd Cymreig. YW'R NEWYDDIADUR WYTHNOSOL GOREU FEDD CYMRU. LLAWN AMRYWIAETH A NEWYDD-DEB Colofnau Arbenig Y Newyddion Diweddaraf. < 6, ST. DAVID'S R O A DY CARNARVON. D. DAVIES, Eadits* aid Getits >«TAILOK.?> SIWTIAU I DDYNION YN YR ARDDULL A'R FFIT OREU. Y LLE GOREU AM I TAILOR-MADE I COSTUMES GWAITH ARGRAFFU 0 BOB MATH. AM Argraffwaith Glan ANFONER I S YDDFA'R'DINESYDD.) CAERNARFON, Telir Sylw Prydlon i Bob Archeb. miiiff liWlii ii mtmummmmm i" i j T' i' Fi i ■.i——mm TELERAU RHESYMOL, A GWAITH DA. t Rhodder Prawf Arnom. GWAITH ARGRAFFU 0 BOB MATH.
SENEDD Y PENTREF,
SENEDD Y PENTREF, NEU, GWEITHDY WMFFRA TOMOS, Y CRYDD. POBOL BERIG. Harri: Wuddoch chi be, hogia, tydi hi ddim yn rhiw saff iawn i siarad hefo neb- rwan; wuddoch chi ddim prun ai German ynta Cymro fyddwch chi yn siarad hefog o. Sian lians: Fuo hi yn saff siarad hefo dyn rywdro, dwad; petha perig iawn ydi dynion a merchaid wedi bod. Mae nhw fel submarines yn gweithio yn sbredio bombs i bob man. Harri: Dwut ti ddim wedi fy nuall i Sian. Deud rown i fod y Germans yma yn bob twll a chomal yn gwisgo eu hunain yn bob lliw a llun, ac yn gneud pawb dan i trwuna. Sian Ifans: Dw i yn dy ddallt ti yn iawn Harri. Deud rydw ina fod y peth vn'bod cin rwan, ac fod dyn- ion a merchaid bob amsar yn berig i siarad hefo nhw. Wmffra Paid a bod mor galad hefo ni, Sian. Tydi pawb ohono ni ddim yn berig. Siawns gen i na fedri dd drystio dy wr. Sian Hans: Tydi huiiw ddim ond dyn run fath a rhywun aralll, ac yn agored i'r un gwendida. Dafydd Mi fydda in meddwl fod dynion yn well at i giidd na merch- aid am gadw secrats. Mi fedrweh drystio mwy ar ddynion at i gilidd. Mari: Faswn i'n meddwl fod pobol wedi mynd i gredu nad yda ni fel merchaid yn ddim byd blaw gograu, ac na fedrwn ni ddim dal ein tafoda am funud. Wil Ffowc Glowis di be ddeudodd Arsrlwydd Kitchener ar v peth? Sian Hans. Be oedd i fam o, Wil? Wil Ffowc. Raid i chi gofio mai hen Jane cvsetlyd ydi o, wuddoch. Harri: Hitia befo, tydi pob hen lane ddim yn ffwl. Sian Ifans: Mae nhw yn gallach at i gilidd, run fath a hen ferchaid. Wil Ffowc: Wel, deud roedd Ar- glwydd Kitchener na ddylia yr un sowldiwr briodi. Hyny ydi, nad oes ganddo fo ddim busnas i neud. Mari: Dim digon o bres i gadw gwraig, debig cin i. Wit Ffowc Nac i, hac i, Mari. Credu mae Kitchener nad oes gan sowldiwr ddim lie i ddau yn i galon, ac na fedar o ddim priodi'r wlad a gwraig. Sian Ifans: Dvna siarad gwirion, pam na fedar sowldiwr briodoi'r ddau mwy na phob gweithiwr, mae'r gweithiwr yn medru priodi gwraig a'i waith, a pham na fedar sowldiwr neud ? Wil FfoWc Wei deud mai Kit- chener fod gwaith sowldiwr yn gyf- ryw nad oes lie i gariad yn i galon o. Weli di, Sian, mae caru gwraig yn iawn yn golygu i bod hi yn cael gwybod pob dim. Mae gwr a gwraig i gael clwad a gwelad pob dim sy'n mynd ymlaen. Wel, mae yna betha ynglyn a sowldiwr y rhaid i cadw nhw hyd yn oed oddiwrth y wraig, neu oscd y wlad mewn perig. Mari: Fedra y wraig ddim > cadw secrats. Vda chi ddim vn meddwl r dylia pob gwraig fod yn ddigon gon- ast i fod yn bur i'w gwr. Wil Ffowc: Debig iawn, y dylia nhw, ond mae yna berig, achos tydi'r gora ohona ni ddim ond gwan, ac er mwyn bed yn saff mae Argwydd Kit- chener yn credu mai y plan gora ydi cadw'ii glir odcliwrth ferchaid. Edward Ifans: CYlllud pawb fel tasa nhw yn berig, ynte. Dyna'r ffordd ora o lawar. Wmffra: Tydw i ddim yn leicio peth felna o gwbwl, achos fydd geno ni ddim tryst yn neb felly. Sian Ifa ns: Toes gen i ddim yn barod, Wmffra. Wmffra: Mae'n ddrwg iawn gen i drosta ti ynta, achos mae'n rhaid nad wyt ti ddim yn dryst dy hunan, neu mi fasat yn gallu trvstio rhywun arall. Sian Ifans: Wei, dClldv gwir i ti, tydw i ddim yn trystio fy hunan, nag ydw wir. Wil Ffowc. Tydi pobol berig ddim yn ddrwg bob amsar, welwch chi. Y Sgwl. Sut mac esbonio hwnyna, Wil Ffowc? Wil Ffowc Wel twn i ddim, wel- wch chi; ond dw i'n meddwl mod i'n deud y gwir hefud. Y Sgwl: Gadewch i ni gael clywed yr esboniad, obiegid mae dweyd nad ydi pobl beryglus ddim yn ddrwg yn swnio'n chwithig iawn i mi. Wil Ffowc Ydi, mae'n debig, ond waeth i chi prun, dyna'r gwir. Tydi pob dyn elwir yn ddyn perig ddim yn berig mown gwirionadd. Fel rheol mi gewch welad hogia ifanc gora'r ardaloedd yn cael eu galw'n hogia peryglus, yn enwedig os bydd tipin yn i pena nhw. Y Sgwl: Tybad. Wil Ffowc: Toes dim tybad am dani, felna mae hi. 0 ran hyny mi ellwch ddeud fod pob dyn mawr yn ddyn perig vn i oes a chan i oes. Tydi dynion sy heb gael eu galw yn ddyn- ion perig yn da i fawr ddim. Sein dda iawn gen i am fachgian ifanc fydd clwad y bleunoriaid a'r swydd- ogion yn dcchra pledu arno, ac yn deud i fod o'n un perig a gwirion. Dyn sy'n rnund i neud rhwbath ydi hwnw fel rheol. Harri: Dyna siarad gwirion mewn gwirionadd rwan. Chlowis i rotsiwn faldordd yn fy nydd erioe<l. Y Sgwl: Rhowch chwareu teg iddo or lien, daiff Wil Ffowc ddim oddiar y rheillau ar chwara bach. Sian lians Jreidivvcn a'i ddifetha lieio sebon meddal da chi, neu iydd dim dal arno fo. Wnrnra: Dos yn dy fiaen Wil, na ieindia am yr interypsion. Wii Ffowc: Deud rown i nad ydi dyn ddim yn ddyn nes y daw o yn un perig. Felna mae hi wedi bod erioed mewn byd ac eglwys, mae pob dyn su wedi gneud i ol ar y byd yma wedi byw yn ddyn perig, a daeth i berig o ddim i ffwrdd nes y buo fo farw, a chysgu yn hir iawn mewn bedd hefyd. Dyn perig oedd Luther, a Wesla, a Chalfin; rhai perig oedd Cromwell, Glyndwr, Bunyan, a Penri; rhai perig oedd Howel Harris, Rowlands, Robert Owen y Drefnew- ydd, a Henry Richards. Felna roedda nhw yn cael i nabod, ac roedd v bobol fawr yn deud i bod nhw yn wenwyn i gymdeithas. Drychwch chi i mewn i betha, ac mi gewch chi welad fod y bobol ora bob amsar yn cael i lablio fel pobol berig am i bod nhw yn deyd petha nad ydi'r bobol ddim yn leicio nac yn i duall. Dafydd: Mae hw nyna yn wir am heiddiw run fath. Tyda ni ddim wedi newid dim ar v drefn. Wil Ffowc: Run fath yn union, Dafydd. Mi ellwch fentro deud mai y bobol yda ni yrt- i nabod heiddiw fel dynion perig fydd y bobol ora ymhen can mlynedd, ac y bydd y byd yma yn byw y petha yr yda ni yn i ddeud sy'n anymarferol ac amhosibl heidd- iw. Beth oedd y Bychan ychydig dros flwyddyn yn ol? Toedd y bobol fawr yma,—pobol y Stock Exchange a'r bancwyr yn meddwl mai dyn perig oedd o. Ond be ydi o heiddiw ganddun nhw? Mi geiff i drystio i neud pob dim drostyn nhw; ac os oes yna swydd bwysicach a chletach na' i gilidd y fo gaiff hono. Bae'r Bych- an i hunan yn brawf i chi a mina mai y dynion perig ydi'r dynion gora yn y diwadd. Y Sgwl: -ivac'ch esboniad yn eithaf cywir, ac y mae hanes vn profi tu- hwnt i amheuaetli mai fel yna y mae. iliac gwaredwyr y byd bob amser yn cael eu geni i amhoblogrwydd, ac yn gorfod mynd trwy eu bywyd heb eu hadnabod. Fe gostia sefyll dros ar- gyhoeddiad a cht-rdded yn union ar hyd llwybr cynnydd yn ddrud i'r sawl a'i cerddo; ond fel y dywedwch dyna'r dynion sy'n cario pob oes i fywyd gwell. Mae gennym ddynion heddyw ydynt oherwydd eu hargy- hoeddiadau a'u hymddygiadau yn cael eu cyfrif yn beryglus, a thrwy hynny yn esgymun, a'r byd yn troi cefn arnynt; ond mor wired a hynny daw eu dydd hwythau pryd y byddo ffrwyth eu hau mewn gofidiau yn addfed a Itawn ar feusydd ein gwlad. Wmffra: Diar mi, tybad ein bod ni mor greulon a hyny wrth ein cym- wynas\vyr. Mae'n rhyfadd gen i os yda ni mor ddall. Y Sgwl. Raid i chi ddim rhyfeddu, dyna'r drefn, fel mae gwaetha'r modd, er ein collod a'n gwarth. Pe bawn yn enwi'r dynion ystyriaf yn ddynion mawr hanes y dyfodol wrth- ych, fe wn y cawsant eu hwtio a'u cicio gennych; ond y mae gennyf or- mod o barch iddynt i'w henwi wrth- ych ar hyn o brvd. Sian Ifans. Gadwch llonydd iddynt, da chi, a dewch adra, mac hi'n mynd yn berig yma, ydi wir. Wmffra: Wei ia, dyna fyddai ora, Sian, mae hi'n chwartar wedi deg, a mina wedi addo bod yn fy ngwely erbyn deg er mwyn codi'n fore foru i whitewashio ycowt i Mari. Miell- wch fynd rwan, a gwynt teg ar eich hola chi. Nos dawch.
I IAWN I DANIWIt
I IAWN I DANIWIt l Achos Gwr o Gaernarfon. Yn y Llys Sirol, Caernafron, gweithredai Mr M. E. Nee (Mri Nee a Gordon Roberts) dros Henry Jones, Mountain Street, yr hwn hawliai iawndal yn erbyn y Mri Seddon and Sons, Ltd., Middlewich, perchenog- ion yr agerlong Lanehurst. Dywedid iddo Tachwedd diweddaf tra'n gweithredu fel taniwr ar y Danehurst, mewn tywydd mawr ger Fleetwood, gael ei alw i gau "sky- light," ac wrth wneud hynny syrth- iodd y "skylight" ar ei ben, gan achosi clwyf difrifol i'w benglog. Wedi bod yn yr ysbyty, ac wedi hyn- ny gartref, ar gais y capten, a chyda caniatad ei feddyg, ymunodd a'r agerlong fel peirianydd, ond ymhen deng niwrnod yr oedd yn rliaid icldo i adael y long yn Lerpwl, gan fod y clwyf wedi ail-agor. Nid oedd wedi gallu dilyn unrhyw orchwyl er hyn- ny, ac yn ol y dystiolaeth fedoygol, yr oedd yn hollol analluog. Dywedai Mr Davis, Llundain, yr hwn ymddangosai dros y diffynwyr, na allai wedi y dystiolaeth wadu an- alluogrwydd, ond yr oedd y diffynwyr wedi eu camarwain parth cyflwr y dyn. Dywedid wrtho y buasai gweithred awfeddygol yn ei roi yn iawn ymhen ychydig wythnosau. Dywedodd ei Anrhydedd fod an- alluogrwydd wedi ei brofi, a gwnaeth archiad i dalu 2op 2S 6c o iawn i'r dyddiad, gyda 175 6c yn wythnosol tra yn analluog, gyda chostau y gweithrediadau.
I DARGANFOD GLO.
I DARGANFOD GLO. Wedi tyllu am bymtheng mis i ddyfnder o 230 Hath canfyddwyd glo ar ystad Capten Vaughan Jenkins, perchenog Priston, ger Bath. Mae yr haen hwn yn rhan o'r un mwyaf gwerthfawr ym maes glo So- merset. Derbyniwyd y clarganfydd- iad gyda llawenydd, a sicrheir y bydd yna symudiadau gwerthfawr yn fuan.
Y FORD RYDD.1
Y FORD RYDD. 1 IGan WENFFRWD.) I Edrych Ymlaen. Priodol iawn ydyw edrych ymlacn, ac nid anfuddioi i ni heddyw yw dar- par ar gyier yioru. Mae y rhyfel yr ydym ynddi yn rhwym o ddod a chyf- riloldeb newydd arnom a'n gesyd dan feichiau trymion, ac os na iyddwn wedi gwneud trefniadau priodol ar gyfer hynny byddwn yn rhwym draed a dwylo. Un o ganlyniadau naturiol y rhyfel fydd gorfod meddwl am gadwraeth dynion fo wedi eu clwyfo nes eu hanaddasu i gymeryd i fyny eu gwaith arferol, a bydd rhai mil- oedd o'r bechgyn oherwydd eu hir arfer yn yr awyr agored tra yn y rhyfel yn gomedd cael eu cloi mcwn ffatrioedd a gweithfeydd afiach. Rhaid wynebu'r broblem hon, nid oes fodd ei hosgoi; ac yr ydym fel gwlad fel mater o anrhydedd a dyledswydd yn rhwym o ofalu na chaiff yr un o'r bechgyn gam nac anfantais. Ni a'u galwodd i ymladd drosom, a ni ddylai dalu am yr amddiffyniad. x — Beth ellir ei wneud? Hawddach ydyw awgrymu dyled- swydd na'i chyflawni; ond y mae y Cynghorydd James Alston, ymgeis- ydd dewisedig Llafur am Adran Cam- lachie, Glasgow, wedi meddwl am gynllun, ac yn bwriadu ei gyflwyno i Gyngor Tref Glasgow y cyfleustra cyntaf a gaiff. Yr hyn awgrymir ganddo ydyw fod y Cyngor Trefol yn gwneud cais at y Llywodraeth yn iaf i wneud deddfwriaeth i gael tir yng nghymydogaeth canolfanau di- wydiannol ac er sefydlu arnynt dref- edigaethau o fan ddaliadau i gael eu cymeryd i fny yn. benaf gan y dyn- ion fo wedi eu hanaddasu drwy y rhyfel; ac yn 2il i roddi treth ar werth cyfalafol tir i'r pwrpas o gyf- arfod treulion o gyflenwi y man ddaliadau hyn a chlirio treulion ,eraill ynglyn a'u sefydliad. Mae y cynnygiad yn cynnwys hefyd fod copiau o'r penderfyniad, os. pesir ef, i gael ei anfon i Aelodau Seneddol yr Ysgotland, yn gofyn iddynt ei gefnogi yn y Senedd, ac i Gorffor- aethau o dros 2,000 o boblogaeth yn gofyn iddynt basio yr un penderfyn- iad a gweithredu yr un modd a hwy. —: x — Rhesymoldeb y Cais. Nid oes gwestiwn i fod ar y mater hwn, oherwydd bydd gennym filoedd o ddynion y rhaid wrth ein gofal am danynt, ac os na ofalwn ni fyddwn yn eu colli o'r wlad. Ecin dyled- swydd ni ydyw gofalu am y rhai sydd wedi eu hanafu a'u hanaddasu, a rhoi gwaith yn ol eu gallu iddynt. Ond y mac yna gannoedd o fechgyn ddaw allan o'r rhyfel hon nad ant fyth eto i lafurio yn y man y buont, ac os na chant gyfle i wneud gwaith yn yr awyr agored gennym ni fe ant i wledydd eraill i chwilio am dano. Y canlyniad yw y byddwn ni fel gwlad yn dirywio ar draul cynnyddu gwledydd eraill. Byddai yn gyfle rhagorol i Brydain dynu y goreu allan o'i daiar. Y mae yng Nghymru filoedd o aceri na chawsant erioed fantais i ddwcyd eu gwerth am nad oes yr un llaw na phen wedi meddwl am danynt erioed i'w trin. Yr ydym yn croesawii syniad y Cyng- horydd Alston, ac yn liyderu'n fawr y caiff rwydd hynt i ddod yn ffaith ym arferol. — X — Y Rhyfel yn Lefelu. I Dywed un o ohebwyr y Wasg ei fod wedi sylwi ar y gwahaniaeth mawr I sy'n ymddygiadau y gwahanol ddos- barthiadau yn awr chwalthach yr hyn ydoedd cyn y rhyfel. Ni raid ond trafaelio gyda'r tren yn Llun- dain na welir fod pob gwahaniaeth wedi mynd a'r dosbarthiadau yn ym- ddangos fel pe'n un. Gal y cwmni- au rheilffyrdd wneud i ffwrdd a cherbydau y dosbarth cyntaf oher- wydd nad oes neb yn eu harfer. Gwelir boneddigion a boneddigesau ucheldras, cadfridogion a chyrnol- iaid yn cyniysgu gyda'u gilydd, yn trafaelio yn yr un cerbyd, ac yn cy- meryd yn ganiataol fod y rhyfel wedi yn y wlad. Mae'r gohebydd yn cy- mcryd yn ganiataol fod y rhyfe wedi lefelu y dosbarthiadau, a'i fod yn arwvdd er daioni. Ofn sydd amom fod gormod yn cael ei gymeryd yn ganiataol. Peth dros dro ydyw y rhyfel a'r ymostyngiac1 gyda hi. Pan aiff yr helynt heibio bydd y dos- barthiadau yn cymeryd eu lie eto, fel mae'n ofid meddwl. Tywysog Sosialaidd. Dywedir fod y Tywysog di Taeano wedi ymUllO a'r Sosialiaid Chwildro- adol yn Itali. Mae'r Tywysog yn fab i Due di Sermoneta, senator, ac yn wr i lady-in-waiting y Frenhines Elena. Derbyniwyd ef gyda breich- iau agored gan y Sosialwyr. Nid bob dydd y ceir Tywysog, yr hwn all gyfrif ar Bab fel un oi livnafiaicl, yn rhengoedd y Sosiahvyr.
GWEI SirON Y LLYTHYRDY.I
GWEI SirON Y LLYTHYRDY. I Dywcd yr Is-bostfeistr fod dros 35,000 o wasanaethyddion y Llythyr- dy wedi ymuno a'r fyddin, ac hyd ny hyn mac 800 wedi colli eu bywydau.
AMSER GOLEU LAMPAU.I I
AMSER GOLEU LAMPAU. I (MEHEFIN 9 hyd 15). p.m. ¡ Dydd Merclier, Mehefiii 9 9.11 Dydd Iau, Mehefin 10 9.12 Dydd Gwener, Mehefin 11 9.13 Dydd Sadwrn, Mehefin 12 9.14 Dydd Sul, Mehefin 13 9.14 Dydd Llun, Mehefin 14 9.15 Dydd Mawrth, Mehefin 15 9.16
AMSER Y TRENS.
AMSER Y TRENS. (HYDREF 1 HYD RYBUDD PELLACH). Caernarfon i Fangor. 7.0 a.m. (dyddiau Llun ac Iau yn unig) 7.20 a.m.; 8.10 a.m.j 8.45 a.m.; 10.45 a.m; 11.50 a.m; 12.40 p.m.; 2.10 p.m.; 2.55 p.m.; 4.0 p.m.; 5.18 p.m.; 5.55 p.m. 6.23 p.m.; 8.28 p.m.. Dydd Sul: 6.5 a.m. 8:20 p.m. Bangor i Gaernarfon. 4.53 a.m.; 8.55 a.m., 10.50 a.m.; 12.10 p.m.; 1.16 p.m.; 2.30 p.m.; 4.15 p.m.; 4.41 p.m.; 5.27 p.m.; 6.30 p.m.; 7.36 p.m.; 9.5 p.m.; 11.5 p.m. (dydd Iau a dydd Sadwrn yn unig). Dydd Sul: 4.53 a.m.; 9.5 p.m. Caernarfon i Afonwen.-5.13 a.m.; 8.18 a.m.; 9.22 a.m.; 12.37 p.m.; 2.57 p.m.; 5.14 p.m.; 7.2 p.m.; 8.3 p.m. Dydd Sul: 7.50 a.m. Afonwen i Gaernarfon.-7-42 a.m.; 9.40 a.m.; 11.35 a.m.; 1.52 p.m.; 4.15 p.m.; 7.25 p.m.; 9.20 p.m. Dydd Sul: 7.0 p.m. Caernarfon i Lanberis.-9.30 a.m.; 11.18 a.m.; 12.42 p.m.; 3.0 p.m.; 5.15 p.m.; 6.57 p.m.; 8.30 p.m.; 10.10 p.m. (dydd Sadwrn yn unig) LIanberis i Gaernarfon.-8.10 a.m.; 10.10'a.m.; 11.55 a.m.; 2.15 p.m.; 4.35 p.m.; 5.53 p.m.; 7.50 p.m.; 9.15 p.m. (dydd Sadwrn yn unig) Penygroes i uaernarfon. 8.20 a.m.; 10.19 a.m.; 12.13 p.m.; 1.55 p.m. (dydd Sadwrn yn unig) 2.30 p.m.; 4.53 p.m.; 8.3 p.m.; 9.56 p..m. Dydd Sul: 7.34 p.m. Penygroes i Nantlle.-g.55 a.m.; 12.20 p.m.; 1.10 p.m.; 3.30 p.m.; 5.45 p.m.; 7.35 p.m. (dydd Sadwrn yn unig) 8.5 p.m.; 8.35 p.m. Nantlle i Benygroes.—10.8 a.m.; 12.0 noon; 12.50 p.m.; 1.45 pm. (dydd Sadwrn yn ,unig) 2.15 p.m.; 4.40 p.m.; 7.15 p.m. (dydd Sadwrn yn unig) 7.50 p.m. 8.20 p.m. Bangor i Bethesda.-7.55 a.m.; 8.50 a.m.; 9.42 a.m.; n.20 a.m.; 1.35 p.m.; 2.38 p.m.; 3.35 p.m.; 4.50 p.m.; 6.15 p.m.; 7.35 p.m.; 9.15 p.m.; 11.0 p.m. (dydd Sadwrn yn unig) Bethesda i Fangor.—8.15 a.m.; 9.20 a.m.; 10.7 a.m.; 11.50 a.m.; 1.58 p.m.; 3.0 p.m.; 4.0 p.m.; 5.13 p.m.; 6.40 p.m.; 8,0 p.m.; 9.40 p.m.
Y CEIR MODUR.
Y CEIR MODUR. I CAERNARFON A LLANAEL. I HAIARN. I Yn Gadael Caernarfon. Dydd Llun 5.30 p.m. Dydd Mawrth 5.30 p.m. Dydd Mercher: 9.0 a.m.; 7.0 p.m. Dydd Gwener: 5.30 p.m. Dydd Sadwrn: 12.0 noon; 3.30 p.m.; 8.30 p.m. Yn Gadael Llanaelhaiarn. I Dydd Llun 8.30 a.m. Dydd Mawrth 8.30 a.m. Dydd Mercher: 7.30 a.m.; 5.0 p.m. Dydd Gwener: 8.30 a.m. Dydd Sadwrn: 8.30 a.m. 1.15 P. M. 5.5 P. M. I I CAERNARFON A PHWLLHELI. 1 Yn Gadael Caernarfon. I Dydd Mercher: 9.0 a.m. I Yn Gadael Pwllheli. I Dydd Mercher: 4.30 p.m. I CAERNARFON A BEDDGELERT. I Yn Gadael Caernarfon. I Dyddiau Llun, Mercher a Gwener: 5.30 p.m. Dydd Sadwm 12.30 p.m.; 8.0 p.m. Yn Gadael Beddgelert. Dydd Llun: 8.30 a.m. Dydd Mercher: 1.0 p.m. Dydd Gwener: 9.0 a.m. Dydd Sadwm: 8.30 a.m.; 2.30 p.m. CAERNARFON A WAENFAWR. s Yn Gadael Caernarfon. I Dyddiau Llun, Mercher, a Gwener: 5.30 p.m.. Dydd Sadwrn: 12.30 P.ln. 6.0 1 p.m.; 8.0 p.m. Yn Gadael Waenfawr. Dydd Llun: 9.20 a.m. Dydd Mercher: 1.50 p.m. Dydd Gwener 9.50 a.m. Dydd Sachvrn: 0,20 L.IU.tl 5.2d O.M. 6.140 BANGOR A BETHESDA. Yn Gadael Bethesda.-io.o a.m. 11.45 a.m.; 1.45 p.m.; 4.15 p.m; 6.45 p.m. Dydd Mercher a dydd Sadwrn: 8.15 p.m.; 9.50 p.m. Yn Gadael Bangor. 10.45 a.m.; 12.30 p.m.; 2.30 p.m.; 5.0 p.rn; 7.30 p.m. Dydd Mercher a dydd Sadwrn: 9.5 p.m.; 10.45 p.m. CAERNARFON A WAENFAWR. (Motor Liverpool House.) Yn Gadael Caernarfon. Dyddiau Llun, Mawrth, Mercher, a Gwener: 1.0 p.m.; 5.0 p.m. Dydd Iau 1.0 p.m. Dydd Sadwrn 1.0 p.m.; 4.0 p.m.3 6.0 p.m.; 8.0 p.m.; 10.0 p.m. Yn Gadael Waenfawr. Dyddiau Liun, Mawrth, Mercher, a Gwener:: 11.0 a.m.; 2.30 p.m. Dydd Iau 11.0 a.m. Dydd Sadwrn: 11.0 a.m; fc.30 p.m.; 5.0 p.m.; 6.30 p.m.; 8.3a p.m. CAERNARFON A LLANBERIf. (Motors Gwyrdd). Y n Gadael Caernarfon. Dydd Llun: 8.30 a.m.; 12 noong 5.30 P.m. Dyddiau Mawrth a Mercher: ia noon; 5.30 p.m. Dydd Iau: 1.15 p.m. Dydd Gwener: 5.0 p.m. Dydd Sadwrn 8.30 a.m.; 12 noonj 5.30 p.m.; 9.0 p.m. Yn Gadael Llanberis. Dydd Llun: 9.15 a.m.; 1.30 p.m.. 6.30 p.m. Dyddiau Mawrth, Mercher < Gwener: 1.30 p.m.; 6.30 p.m. Dydd Iau: 3.0 p.m. Dydd Sadwrn: 9.15 a.m:r.:¡o. p.m.; 6.30 p.m. 9.40 p.m. CAERNARFON AC EBENEZBM* I Yn Gadael Caernarfon. Dyddiau Llun a Mercher: Qtf J noon; 5.30 p.m. I Dyddiau Mawrth a Gwener: 5.15 p.m. Dydd Sadwrn 12.0 noon; 4.0 p.nl»j| 6.30 p.m.; 9.0 p.m. I Yn Gadael Ebenezer. Dyddiau Llun a Mercher: 9.0 t." 1.30 p.m. Dyddiau Mawrth a Gwener: i..Vo p.m. Dydd Sadwrn g.o a.m.; 1.30 P-tu-I 5.0 p.m.; 7.30 p.m. Ar ddyddiau ffair yng NghaernarftJH bydd y Motor yn gadael Ebenezer utf 8.0 a.m.; ac yn dychwelyd o Gaernar., fon 3.0 p.m., a 5.30 p.m. Bydd Motors ychwanegol yn rhedlfl ar Sadyrnau TM. I CAERNARFON A NANTLLE. Yn Gadael Caernarfon. —Q.O a.m.g 1.0 p.m.; 5.0 p.m. Dydd Sadwrn yn unig, 8.0 p.m. Yn Gadael Nantlle.-io-o a.m.; 2.CI p.m.; 6.15 p.m.. Dydd Sadwrn an unig, 9.0 p.m. I ERYRI MOTOR COMPANY. I Yn Gadael Caernarfon. Dyddiau Llun, Mawrth, Mercher, a Gwener: 12.30 p.m.; 3.0 p.m.; 4.30 p.m. Dydd Sadwrn: 1.0 p.m. 3.0 p.m. j I 5.0 p.m.; 7.0 p.m.; 9.30 p.m. Sadyrnau Tal: 10.45 a.m. yn yeti- wanegol at yr uchod. Yn Gadael Clwtybont. Dyddiau Llun, Mawrth, Mercher, a Gwener: 9.25 a.m.; 1.25 p.m. Dydd Sadwrn 9.25 a.m.; Sadyrn- au Tâl, 11.30 a.m.; 2.0 p.m.; 4.CI p.m.; 6.0 p.m.; 7.45 p.m. Yn Gadael Bryn'refail. Dyddiau Llun, Mawrth, Mercher, a Gwener: 9.33 a.m.; 1.33 p.m..J. 3-33 P-m. Dydd Sadwrn: 9.33 a.m.; Sadyrn- au Tal, 11.38 a.m.; 2.8 p.m.; 4.8 p.m. 6.8 p.m.; 7.53 p.m.
AGERLONGAU MON AC ARFON.
AGERLONGAU MON AC ARFON. Mehefin. Yn Gadael Caernarfon.-7 45 915 a.m.; no a.m.; 10 p.m.; 30 p.m.; 50 p.m.; 70 p.m.; 80 p.m. Yn Gadael Sir Fon. 830 a.m.; 10 o a.m.; 120 noon; 2 o p.m.; 4 o p.m. 60 p.m.; 7 30 p.m.; 8 15 p.m..