Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
42 articles on this Page
PENRHYNDEUDRAETH. I
PENRHYNDEUDRAETH. I Arwein-Lyfr .-Deallwn fod yr arwein- lyfr cyntaf o'r ardal wedi ei gyhoeddi, yr I hwn a gynnwys lawer o gyfarwyddiadau i wahanol fannau yn y gymydogaeth. Para- towyd ef gan bwyllgor y gwelliannau, i ba rai y mae Mr Llewelyn Williams yn ys- grifennydd. Hyderir y bydd i Iwyddiant ddilyn gwaith y pwyllgor.
PONTRHYTHALLT. I
PONTRHYTHALLT. Am Dro.-Da oedd gennym gwrdd a Mr W. E. Whiteside, yr hwn oedd wedi dod o Manceinion am dro i'n hardal. Y mae efe yn edryoh yn dda. Angladdau.-Bore lau (angladd angby- hoedd), o Rhyddallt Terrace, hebryngwyd gweddillion Mr Owen Jones, I'enllel, i fyn- went Llanrug, ac efe wedi cyrraedd dros ei 70 mlwydd oed.-Eto y prvnhawn, yn 73 mlwydd oed, hebryngwyd gweddillion y diweddar Owen Williams (Cae Bach gynt), Min y Pare, Llanrug, i dy ei hir gartref ym mynwent Llanddeiniolen. Ein cydym- deimlad llwyraf a'r teuluocdd yn eu trallod. Llwyddiant.—Llongyfarcliwn yn galon- nog ein band ar yr orucliafiaeth gawsant yn Llangefni aT dri o fandiau da dydd Llun diweddaf; deallwn ei bod vn fuddng- oliaeth ddiameuol, ac nad oedd petrusder pwy oedd yn haoddiannol o'r ddwy wobr. Yn sicr dyleiii fcl ardal fod yn falcii ohon- ynt, a dylai y ddwy fuddugoliaeth yma eu symbylu hwytbau i fv.y o ffyrldlonrleb ac ymroddiad, a tlialu sylv,- dyladwy i'w bar. weinydd a'r pwyllgor. Hyderwn yn fawr y cadwant y gwpan hon yn eiddo iddynt mwy; tuagat hynny rhaid wrth Hyddlon- deb trwylwyr i'r ymarferiadau.
TYDWEILIOG A'R CYLCH. I
TYDWEILIOG A'R CYLCH. I G.F .S. Dydd lau, rhoddodd Mrs Wynne Finch wledd yng Nghefnamwlch i aelodau y Girls' Friendly Society yn y rhanbarth hwn. Cafwyd gair ganddi hi a chan amryw glerigwyr o'r cyffiniau. Cyf- lwynwyd amryw dvstvsgrifau ac anrheg- ion. Marw.—Bore Mercher, bu farw Mr Wil- liam Jones, Tynrhos, wedi gwaeledd pur faith. Yr oedd dros bedwar ugain mlwydd oed. Claddwyd ym mynwent Tydweiliog dydd Sadwrn. Gwasanaethwyd wrth y ty gan y Parch J. W. Jones, B.A., ac wrth y bedd gan y rheithor (y Parch O. Tho- mas) a Mr Jones. Mac ein cydymdeimlad llwyraf a'r teulu galarus. Priodas.-Dydd Llun diweddaf, yn Eg- lwya Bhvyfol LlangAvnadl, priodwyd Mr Thomas Jones, Rhos, Penllech, a. Miss Ka-t-o Williams, Llangwnadl, gynt o Cefn Amwlch Arms, Tydweiliog. Rhoddwyd y briodasferch ymaith gan Mr J. Parry Jones, Cefn Amlwch Arms. Gwasanaeth- wyd ar y priodfab gan gefnder y briodas- | ferch, ac ar y briodasferch gan Miss Janet Jones, chwaer y priodfab. Dymunwn idd- ynt bob Ilwyddiant yn eu byd newydd.
UNDEB GWEITHWYR LLYTHYR |DAIARBLAIDLAFUR.
UNDEB GWEITHWYR LLYTHYR DAIARBLAIDLAFUR. Mewn cynhadledd o Undeb Gweithwyr Llythyrdai, a gynhaliwyd ym Melfast, ddi- wedd yr wythnos, caed dadl fi-wd ar gyn- hygiad o eiddo aelod i'r Undeb dorri ei gysylltiad' a'r Blaid Lafur, oherwydd, meddai'r cynliygydd, i'r blaid fethu cyf- lawni ei hawliad i fod yn blaid annibynol, as na chynrychiolai mewn unrhyw fodd 1 fuddion y dosbartli gweithiol. Ni allent yrnddiried ynddynt, ac ni allai Mr Phillip Snowden, fel y danghosodd yn ei araith ddydd Mawrtli y Pasg. Yr oedd y Blaid Lafur yn erbyn ei hunan er mwyn pleidio ISIesurau Ymreolaeth a Datgysylltiad. Mewn anghydfodau llafurawl anaml y cawsent gefnogaeth y Blaid Laufr (lleis- iau o "Ynfydrwydd!"). Sylwodd aelixl arall v dylent ystyried ¡ anhavrsderau'r blaid yn y Senedd. Onid y gweithwyr en lumain oeddynt i'w beio? Pa fodd y disgwylient i blaid o 38 o aelod- au allan o dros 600 i ddefnvddio eu han- iiibvniaetli mewn lie yr oedd y pleidiau cyfalafol yn eu herbvn ? Gorchfvgwyd y evnbygiad gvda mwyaf. j ,<:> nf mawr.
MYNED I HELPU CARSON. I
MYNED I HELPU CARSON. I Ddydd Sadwrn, plediai dyn o'r enw J Sydney Femall, euogrwydd i gyhuddiad o feddwdod, yn Abergele. Dywedodd iddo fyned drwy ymgyrch amddiffyniad Lady- smith. Ni chafodd ond pedwar gwydriad o gwrw, ac yr oedd yn awr wedi pender- fynu myned i'r Iwerddon i hclpu Carson (chwerthin). Dinvwyd ef i 2s 6c a'r costau.
MYND I BALAS Y BRENIN. i -i
MYND I BALAS Y BRENIN. i Ddydd Llun ymddangosodd gweithiwt mewn gwaith modur, o'r enw George H. Pike, o Haen-Ynad Bow Street, ar gyhudd- iad o fyned i mewn i Balas Buckingham gyda'r bwriad o ladrata, ,tua 1.30 fore Sul. Ymddengys i Pike neidio dros "railings" y Palas, a thros amryw glodd- iau uchel, a ohyrdded i mewn i'r Palas yn hollol ddigyffro, gan ymweled ag amryw o ystafelloedd, ac yn y diwedd daliwyd ef gan rai o'r gweision. Mewn un ystafeU cymeodd siwt o ddillad o'r "wardrobe," a rhoes hi am dano, gan adael ei siwt ef ei hun yn yr ystafell. Dywedid fod y car- charor yn arfer diota, ac mai dyna'r unig fai ynddo. Gohiriwyd yr achos am wyth- nos.
BRAWDLYS DINBYCH. I
BRAWDLYS DINBYCH. Yn Rhuthyn, ddydd Llun, gerbron y Barnwr Lawrence, anfonwyd Thomas Ro- bert Jones (38), taniwr, i benyd-wasan- aeth am dair Uynedd am dori i mewn i swyddfa a dwyn llyfrau bancnodau.—Am ddwyn anfonwyd George Alfred Robertson (19) i garchar gyda lafur caled am 18 mis.—Am ddwyn ffrwyn ceffyl yn Rhiw- abon, anfonwyd John Jones (43) i gar- char am dri niwrnod.—Am geisio lladd ei hun, rhoed Thomas Davies (72), gof, yng ngharchar an^i fis.—Rhwymwyd William Griffith (25) i'r swm 4D, 20p am -fsynaoryd J cyflog dyn arall drwy dwyll.
 YR "EMPRESS OF IRELAND."…
 YR "EMPRESS OF IRELAND." I COPI CYRFF. I Y mae cwmni perchenogjon yr "Empress of Ireland" wedi sicrhau gwasanaeth peir- ianydd o'r enw Mr George Weatherspoon, i godi'r cyrff sydd yn yr agerlong. Fore Llun aeth deifar i lawr i weled y Ilong, a dywedodd ei bod yn gorwedd ar ei hochr mewn 18 givrhyd o ddyfnder. Fore hedd- yw, cyrraeddodd yr agerlong "Corsican" i Glasgow gyda nifer o'r wlad hon a ach- ubwyd yn y trychineb, a chludir hwy i Loegr mewn trens arbennig.
—————ttf———— BENTHYCWYR TREFOL.
—————  t t f———— BENTHYCWYR TREFOL. Oherwydd llwyddiant cynllun o fen- thycio arian gychwynwyd gan Gyngor II- ford, mae 500 o bersonau wedi gallu yn barod brynu eu tai eu hunain, ac yn awr mae y Cyngor yn benthyca 20,000p yn ych- wanegol er galluogi trethdalwyr i bwrcasu eu taf. Dyma gynllun gwerth ei efelychu gan holl gynghorau cyhoeddus y deyrnas.
.TRAMS DIMAI., >
TRAMS DIMAI. > Mae yr arbrawf roddodd Cyngor Tref Glasgow y llynedd o ddwbl y pellter y gellid trafaelu ar y trams am ddimai wedi profi yn llwyddiant perffaith, ac elw mawr ychwanegol wedi ei wneud.
MARW CYN-ORSAF-FEISTR.
MARW CYN-ORSAF-FEISTR. Ddydd Lhtn, yng Nghyffordd yr Aber- maw, bu farw Mr T. Read, yr hwn fu'n ngwasana-eth Cwmni'r Cambrian am dros 50 mlynedd. Bu yn orsaf-feistr Cyffordd yr Abermaw am dros 30 mlynedd, ac ym-1 neilltuodd ychydig flynyddau yn ol. Yr oedd yn 74 mlwydd oed.
CYHUDDO CYN.SWYDDOG.
CYHUDDO CYN.SWYDDOG. Dydd Llun, yn Aberystwyth, eyhud wyd Charles Massey, yr hwn fu'n gyfrif- ydd i'r Cyngor am saith mlynedd, o gy- meryd: arian trwy dwyll. Gohiriwyd yr achos am saith niwrnod. a chaniatawyd meichniaeth. meichniaeth. I
—————————— YSTORM AR LANNAU…
————— ————— YSTORM AR LANNAU NEWFOUND- LAND. COLLI 40 0 LONGAU PYSGOTA. Ddiwedd yr wythnos, collwyd 40 o long-1 Ddiwedd yr wythnos collwyd 40 0. long- au pysgota. ar Jannau New Brunswick mewn ystorm ffyrnig, ac adroddir fod 20 o forwyr wedi boddi. Golchwyd wyth o'r cyrff i'r lan. -0 i op
ARIAN MEWN HUDDUGL.
ARIAN MEWN HUDDUGL. Gadawodd glanhawr simddeiau yn Llun- dain o'r enw Ralleen eiddo gwerth 3.652p.
-- COOl CYFLOGAU. ..II
COOl CYFLOGAU. I I Dydd Llun, oododd Cyngor Rhyl gyflog- au gweithwyr y ffyrdd o 21s yr wythnos i 23s.
IY LLYFRGELL GENEDLAETHOL.…
Y LLYFRGELL GENEDLAETHOL. I Mewn cyfarfod o Gyngor Dinas Caer- I dydd, ddydd Llun, penderfynwyd drwy fwyafrif, i gyfranu swm o 500p tuagat gronfa adeiladu y LIyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.
————... I DAMWAIN I GERBYD…
———— I DAMWAIN I GERBYD MODUR. I ANAFU 15 0 DEITHWYR. I Cymerodd damwain frawychus le nawn Llun ger Abertawe. Daethai cerbyd modur yn cynnwys 15 o deithwyr i lawr Gallt Penmaen, pryd y tarawodd un o'r olwynion yn erbyn carreg fawr ar y ffordd, a thaflwyd y cerbyd ar ei ocTir. Hyrdd- iwyd y teithwyr i ochr y ffordd, ac anaf- I wyd yr nlJ o'r +<>ithwvr fwv neu lai-rhai II ohonynt yn ddifrifol.
SETLO STREIC GLOWYR BARGOED.…
SETLO STREIC GLOWYR BARGOED. I I Credir y bydd i'r streic gymerodd le I yng Nglofeydd Bargoed, De Cymru, am lampau newyddion i'r glowyr, gael ei setlo yr wythnos hon, drwy yr hon y sicr- har gweitliwyr fuddugoliaeth bwysig. Cychwynodd y streic tua pythefnos yn ol am lampau newydd, gan y credai'r gweith- wyr fod y lampau presennol yn beryglus. Gwrthododd y ewmni ar y deehreu, ond dydd Sadwrn cytunasant i gyflenwi'r lofa gyda 1,250 o lampau trydan, a nifer digonol o lampau olew i gyfarfod anghen. ion y gweithwyr. Cynhaliwyd oyfarfod o'r glowyr nos Lun, a derbyniwyd telerau'r eyflogwyr yn unfrydol. ————
HANES HYNOD BACHGEN.
HANES HYNOD BACHGEN. Ymddangosai bachgen 13 oed o flaen yn- t adon Skipton, ddydd Llun, ar gyhuddiad o ladrata modrwy aur o dy. Dywedid iddo fod o flaen yr ynadon bedair blynedd yn ol ar gyhuddiad cyffelyb. Ddwy flyn- edd wedyn aeth gyda'i dad i Canada. Tra yno ymddengys iddo gael ei ffordd ei hun. Bu yngharehar am 15 niwrnod am saethu gwn ar yr heol, saith niwrnod am gysgu allan, a saith niwnod arall am lad- rata modrwy aur. Yn y diwedd anfonwyd ef o'r wlad honno i Loegr. Cyrraeddodd Lerpwl y Sadwrn diweddaf, ac anfonwyd ef at ei fam, ac yn ystod y ddau ddiwr- nod y bu adref cyflawnodd y trosedd uchod. Gohiriwyd ei achos am wythnos.
I YMDDYGIAD CYNHYRFUS EFRYD-…
YMDDYGIAD CYNHYRFUS EFRYD- WYR. I YMOSOD AR SYFFRAGETS. I Cymerodd golygfeydd cyffrous le ddydd Llun yn NuIyn, gan ymddygiad oddeutu 300 o efrydwyr, y rhai ddathlent Llun y Drindod. Arferant yn flynyddol gael chwareuon diniwed ar yr wyl, ond eleni aethant y tuhwnt i'w terfynau cydna- byddedig. I ddechreu rhuthrasant am dy yr Arglwydd Faer, gan falurio llawer o'i gynnwys; aeth rhai ohonynt i ben y twr, gan ddarnio y faner wladol, a chwifio baner y Syffragets yn ei lie. Yna cawsant afael mewn gwas arwerth- wr, a chariwyd ef ar eu hysgwyddau a chanwyd ei gloch ar hyd yr heolydd; ac yn y diwedd rhoddasant ef i eistedd ar "pillar box." Taflasant bupur i gerbydau modur aethant heibio, ac yna penderfyn- asant wneud rhuthr ar swyddfeydd Merch- ed y Bleidlais, a chafodd y meTched drin- iaeth bur chwerw. Yn ddilynol cymeras- ant feddiant o orsaf y rheilffordd, gan daflu'r "luggage" i bob cyfeiriad. Cvmerwyd yr arweinwyr i'r ddalfa.
[No title]
I Anfoner am ein telerau ynglyn a phob i math o argraffu. Gwneir pob peth yn ddqstlus.
- DYN YN BWYTA HOELION. I
DYN YN BWYTA HOELION. I Mewn cwest ar Is-Ellmynwr ddiwedd yr wythnos, a fu farw o "bronchial pneu- monia," dywedai'r meddyg iddo gael y nwyddau canlynol yn ei ystumog, a bwys- ent 26 owns: nifer o hoelion, 7 o fachau heyrn, "hinges" drws, darnau o gadwen, darnau o glo ac allweddau, cyllell boced fechan, dau "corkscrew," modrwyau, "cuff links," bwled, a nifer o bethau eraill. —
RHYFEL LAFUR ITALI. I -I
RHYFEL LAFUR ITALI. I I STREIC GYFFREDINOL. I Dydd Llun cyhoeddwyd streic gyffredin- ol gan yr Undebau Llafur yn Itali. Nid oedd trams, cerbydau, na newyddiaduron i'w cael yn Rhufain. Protest yn erbyn y saethu yn Anoona y Sul ydyw.
ARGLWYDD HALDANE A THRETH…
ARGLWYDD HALDANE A THRETH YR INCWM. Cyfeiriodd Arglwydd Haldane, yn ni- 'I wedd ei araith yn Rhydychen, ddydd Sad- wrn, at wir ystyr y Gyllideb bi-esennol. Ni chredai fod y cyhoedd wedi sylweddoli I ei gwir ystyr a'i phwysigrwydd, ediychent arni fel treth bersonol. Ond nid oedd yr un cwestiwn mor bwysig iddynt a'r oes ddyfodol. Sylwodd ar y lleihad yn nifer y genedigaethau; yr hyn a'i gwnai yn ddifrifol ydoedd na chymerai y lleihad le ymysg y dosbarth isaf, ond ymvsg y e-yf- oethogion. Gwelent ymysg y dosbarth isaf nifer aruthrol o blant ddaethent i'r byd dan amgylchiadau a seliai eu bywyd- au i drueni parhaol. Yr oedd yn werth iddynt daJu'l' trethi a'r uwch-drethi er I ceisio cael gwell trefn ar bethau.
CAIS GWEITHWYR CHWARELI CALCHFAEN.
CAIS GWEITHWYR CHWARELI CALCHFAEN. Gwrthododd Cwmni Chwareli Llan- ddulas gais gweithwyr tair o'r ohwareli calchfaen am godiad o 10 y cant yn eu cyflogau. Perthyna'r gweithwyr, tua 500 mewn nifer, i Undeb Genedlaethol Gweith- wyr Nwy a Labrwyr. Tua thri mis yn ol gwnaeth ant gais am godiad, a derbyn. iasant 5 y cant.
obi-I Y SENEDD.
obi- I Y SENEDD. I Ddydd Mawrth (lieddyw) cyfaifyddodd y Ty ar ol gwyliau'r Sulgwyn, pryd y cy- merir ail-ddarlleniad Mesur Yswiriant Diffyg Gwaith. Anfonodd Chwip y Wein- yddiaeth gais arbennig i'r aelodau fod yn bresennol. a gwnaeth Chwip y Cenedl- aetholwyr yr un modd.
MARCHNADOEDD CYMREIG.-1
MARCHNADOEDD CYMREIG. 1 Caernarfon, Mehefin 6.—Wyau, 12 am Is; ymenyn ffres, lIe y pwys: biff, 7c i lie; myton, 6c i 9c; pore, 6c i 9c; cig oen, Is'i Is 2c y pwys ;cywion, 4s i 5s y cwpl; hwyaid, 2s Ge i 5s yr un; pytatws, 7s i 86 y sach moch tewion. 4Hc y pwys. Pwllheli, Mehefin 4.—Wyau, 6s i 7s yr 120; myton, pore, a veal, 7c i lle; moch tewion. 4 £ c y pwys: perchyll, 20s i 25s yr un.
C'VMNI MODUR DEINIOLEN A'R…
C'VMNI MODUR DEINIOLEN A'R AMGYLCHOEDD. (At Olygydd y "Dinesydd.") Syr,-Ddiwedd yr wythnos ddiweddai dosbarth wyd yn Ebenezer a'r pentrefi o amgylch gylchlythyr gyda'r amcan o geisio ffurfio cwmni modur perthynol i'r ardal- oedd hyn. Gresyn fod y cyfeillion sydd is 11a w yn y mudiad wedi aros cyhyd cyn symud yn y cyfeiriad yma. Ond gwell hwyr na hwyrach. Ein bai ni o hyd yw aros yn rby hir gyda phopeth. Nid doeth- ineb yw arafwch bob amser. Bydd y mud- iad, os cerir ef allan yn ol y cynllun yn y cylchlythyr, yn fantais deublyg yn sicr. Ac am Iwyddiant y cwmni nid oes yr am- heuaeth leiaf, os bydd y cyfranddalwyr yn lied gyffredinol. Un fantais ddaw cwmni. Ileol fel hyn yw y troir yn ol i'r ardal- oedd gyfran dda o'r arian delir ar hyn a bryd i bocedau rhai nad oes gysylltiad a gwbl rhyngddynt a'r ardaloedd. Yn ol y cynllun presennol aiff ein harian agoe i gyd i gylchrodeg i leoedd eraill. Yn awr, os gallwn gynllunio i sicrhau mwy o gylcliif diad i'n harian yn ein mysg em hunain, ein lies ni fydd hynny. Ie, ond hunanoJdeb sydd wrth wraidcl cynllun c'r fath, medd rhywun. Dim a gwbl. Efallai lies personnel, ond nid hunanoldeb. Os gallwn gyrraedd daioaxi uwen wrvii aoaui neiDiu uuajuiii is illitC yu. ddyledswydd ar bob dyn i wneud hyun-T4 Mor bell ag y deallwn dyma amcan ffurfio y cwmni. Ond credwn fod yna fantais arall, sef estyn i'r gwahanol ardaloedd gyfleusterau nad ydynt yn bresennol yn eu mwynhau. A chryfaf cyfalaf y cwmDi rhagor y cyfleusterau. Bydd llywodraethiad y cwmni yn hollol yn Haw ac er lIes" cyfranddalwyr a'r ar- daloedd. Sylwn fod y pwyllgor wedi no4 deg swllt yn bris un gyfran, ac er am- ddiffvn rhag gormes cyfalafwyr, wedi nodi ugain cyfran fel y nifer uchaf i un person. Felly po fwyaf y cyfranddalwyr bychaia goreu yn y byd i'r cwmni, bydd hynny yni sicrhau teithwyr gyda'r moduron. Dyma lief yd rym yn deall gynllun Cwmni Cljik- nog. a'r c-asgliad naturiol yw, os 0e8 nddiant arno yno paham na fydd yr na llwyddiant iddo yn ein dosbarth pobfog ninnau.—Yr eiddoch. DEINIOLEN.
E--NAID CARCHAROR.
E NAID CARCHAROR. Ddvdd Sadwrn. fel y symudid ear- charor o Uxbridge i Garchax Brixton, neidiodd allan o'r tren pan oedd y trea newydd gycbwyn o'r orsaf. Gafaelodd heddwas ynddo, ond llusgodd y carcbaror ef allan, a tharodd yr heddwas ei ben yn v llwyfan. ac aeth yn anymwybodol. Llwyddodd y carcbaror i ddianc, AC ni ddaliwyd ef. now-
GWARIO FFORTIWN AM DDIOD.
GWARIO FFORTIWN AM DDIOD. Yn Northwich, ddydd Sadwrn. cy- huddid dyn 69 oed o'r enw John Marsh a gardota. Dywedodd iddo gael 50.000p ar ol pf*rthynasau, y rhai a wariodd i gyd m ddiod a hap-chwareu, a chynorthwyo eraill. Ddiwedd yr wythnos begiai am grystyj). Gobeithiai allu cadw ei hun am fiwyddyn er cael pensiwn yr hen, gan y meddai wrthwynebiad cryf i dd^bynu ar j y plwyf. Rhoddodd yr ynadon arian idda i'w -ryna; thwyo ar y ffordd. r
Advertising
6) Gapel Bwlan (M.C.), Llandwrog. ■ CHWAREUIR Y DDRAMA BEDDAU'R I B PROFFWYDI )r r ar vv M GAN GWMNI R DORAID GOCH, CABNABVON mewn WatieU 16ang gyfteud yn y Vae sffgodaf i'r VapeiMehod. i NOS IAU, y 18fed o FEHEFIN, 1914. CADEIRYDD j D. T. EDWARDS, Ysw., Maer Caernarfon QUI U/CD Dyma'r Cwmni ddyfarnwyd yn oreu gyda Chwmni SYLWER, Caerdydd, allan o 19 o Gwmniau Enwocaf Cymru i ymddangos ar lwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol ym Hangor Mynediad i mewn trwy docynau 3S, 2s, a is. Sicrheir Seddau 3s. 3fr CfuJ at Ili,-io y Od-viect dydd ar y *€ape{, tfgorir y Orydau am 6.80. Obeefireuir am 7 o'r giocfi Bydd y Motors yn rhedeg o Gaernarfon, Talysarn, Penygroes a Trevor. Gellir cael tocynau gan Mr T. Elias Jones, Draper, Carmel; Mr R. Jones Hughes, Post Office, Rhostryfan Mr Humphrey Williams, Grocer, Penygroes Mr Richard Jones, J.P., Coal Merchant, Talysarn Mr Owen Thomas, Drofa," Trevor; Mr Rowland Thomas, Post Office, Groeslon Mr Davies, Schoolmaster, Llanllyfni. !L I @ — -— ?
BETHEL. J
BETHEL. J Marwolaeth.—Wedi hir gystudd bu farw Mrs Catherine Griffith, priod Mr Rowland Griffith, Tanyffynnon, y Sul diweddaf, Me- hefin 7fed. Cymer yr angladd le am 2.30 dydd Iau nesaf, Mai lleg. Gedy briod, un mab, a dwy o ferched i alaru ar ei hoi. Yr oedd yn 75 mlwydd oed. Cydymdeim- Iwn a hwynt yn eu galar a'u profedig- aeth.
-I TRAWSFYNYDD. I
I TRAWSFYNYDD. I Llwyddiant Eisteddfodol.-Yr wythnos I o'r blaen, ennillodd y bardd-bregethwr y I Parch J. D. Richards, gadair hardd yn I Eisteddfod Saron, Llanybyther, De Cymru I
CYSTADLEUAETH MABANOD .RHOSTRYFAN.
CYSTADLEUAETH MABANOD RHOSTRYFAN. LLWYDDIANT MAWR. I Dydd Sadwrn, dan nawdd Cymdeithas Famaethol Llanwnda, eynhaliwyd cystad- leuaeth inabanod yn Rhostryfan. Daeth nifer liosog o famau a'u babanod i'r ar- ddangosfa. Llywydd yr arddangosfa oedd Syr T. E. Roberts, Pasybryn, ond anfon- odd i hysbysu ei ofid oherwydd ei anallu i fod yn bresennol. Beirniadwyd y babanod gan Dr Parry Edwards. Agorwyd y gweithrediadau gan Mrs Lloyd George, yr hon a sylwodd mai dyma ei plirofiad cyntaf o arddangosfa babanod. Hoffai bob amser weled y fam yn magu ei baban, yr hyn oedd yn fwyaf naturiol. Ni chashai ddim yn fwy na'r hyn a elwid yn "dummy." Pe cawsai hi ei ffordd fe rwystrai bob un ohonynt, gan eu bod yn afiach. Dylai mamau wybod nad oedd yn iawn iddynt roddi "gin" a mathau eraill o alcohol i'w plant. Cyfeiriodd at ddi- gwyddiad yn ei theulu ei hunan. Pan fagai ei phlentyn cyntaf cynnygiodd hen famaeth fara a chwrw iddi, ond gwrthod- odd ef. SiomAvyd y famaeth, a dywedodd wedai ua fywiai i fagu'r plentyn.. Ond, pa fodd bynnag, bywiodd i fagu'r plentyn hwnw a. phedwar arall (clywch, clywch). Yn N-e. Cymru gwelodd ddosbarthiadau nyrsio i enethod ysgolion, a hyderai weled sefydlu dosbarthiadau cyffelyb yng Ngogledd Cymru. Cafwyd cyfarfod amrywiaethol, o dan arweiniad Mr J. J. Williams, Bontnewydd. Dosbarth 1.—Mabanod dan fagwraeth naturiol, dan chwe mis oed: 1, Evan Ro- bert Jones, Fair View, Groeslon; 2, J. David Roberts, Magdalen Terrace, Llan. faglan; 3, plentyn Mrs Jones, Newton Street, Llanberis. Eto, rhai rhwng chwe mis a 12 mis: 1, Nellie Roberts, Nelson Square, Caernarfon; 2, plentyn Mrs W. Roberts, 6, Carmel Terrace, Carmel; 3, D. Bryn Roberts, Digbeth Place, Bontnewydd Dsbarth 2. Mabanod dan fagwraeth gelfyddydol, dan chwe mis oed: 1, Sallie Jones, Blaenyddol, Dolydd, Groeslon; 2, James Lamrick, Bethesda Terrace, Bont- newydd. Eto, rhwng chwech a, 12 mis oed: 1, Gwilym Caradog Owen, Efail Rlios, Llanfaglan; 2, Nancy Jones, Tany- dderwen, Talysarn. Am y maban goreu yn y gystadleuaeth, ennillwvd y gwpan (rhoddedig gan Mri Griffith Jones a'i Gwmni, Caernarfon) gan Evan R. Jones, Fair View, Groeslon. Mrs Gwyneddon Davies, Graianfryn, Llanwnd^, oedd ysgrifennydd yr arddang- osfa, a gwnaeth ei gwaith i foddlonrwydd cyffredinol.
[No title]
Anfoner am ein telerau ynglyn a phob math o argraffu. Gwneir pob peth yn ddestlus.
DIWEDDARAF I
DIWEDDARAF MASNACH MIS MAI. Dydd Llun, cyhoeddodd Bwrdd Masnach y ffigyrau swyddogol am fasnach y wlad yma am fis Mai. Dangcsent leihad ar y llynedd mewn allforion a mewnforion, ond cynnydd ar y fiwyddyn 1912. Swm y mewnforion am y mis ydoedd 59,103,349p, lleihad o 2,176,429p ar fis Mai y llynedd, ond cynnydd o 4,036,875p ar Mai, 1912. Swm yr allforion am y mis ydoedd 42,051,000p, lleibad o l,807,073p ar y llyn- edd, ond cynnydd o 2,218,70op ar Mai, 1912. Am y pum mis cyntaf o'r flwyddyn hon mae swm y mewnforion yn dangos lleihad o 2,813,823p ar y cyfnod cyferbyniol y llynedd, ond cynnydd o 14,388p,797p ar y pum mis cyntaf o 1912. Dengys y cyfan- swm yr allforion am y pum mis gynnydd O 1,36.5,395P ar y cyfnod cyferbyniol yn 1913, a chynnydd o 25,242;û21p ar yr un cyfnod yn 1912. —— 8.8 .=-=-
GWELY YN WELL NA CHAPEL.
GWELY YN WELL NA CHAPEL. Mewn cyfarfod yn yr awyr agored yng Nghaergybi, nos Sadwrn, caed sylwadau llym mewn areithiau gan weinidogion. Dywedodd y Parch W. Lloyd Davies (W.) fod yn well gan lawer iawn o aelodau aros yn eu gwelyau na myned i oedfa'r bore. Allan o tua 12,000 o bobl yng Nhgaer- gybi, nid oedd ond 3,000 yn myned i le- oedd addbliad. Condemniai yn llym y dyfyrion a'r gwleddoedd geid ar y Suliau. Croesawent- ymwelwyr o wledydd eraill, ond dylai'r ymwelwyr ddysgu traddodiad- au goreu'r hen wlad, a pheidio halogi'r awyrgylch foesol drwy dorri'r Saboth.
Advertising
ffl COFIWCH AM Y GYMANFA GANU FAWR YN Y PAVILION, DYDD LLUN, MEHEFIN 15fed. Er hwylusdod i'r Miloedd, os y prynwch werth 2s 6c ac uchod, ni raid i chwi dra- I fferthu cario eich parcel, fe dalwn y cludiad gyda'r post neu'r tren i unrhyw gyfeiriad. I[ GWARANTWN y dychwelir eich arian yn ol os byddwch yn teimlo nad ydyw y pethau a brynir yn well ac yn rhatach na dim a ellwch eu prynu am y pris yn un- man arall. PIERCE & WILLIAMS, yr AFR JlUR. Caernarfon St ill
jY DADLEUYDD CYFFREDINOL.I
Y DADLEUYDD CYFFREDINOL. I Hysbysir y bydd Syr John Simon, y Dadleuydd Cyffredinol, yn gwrthwynebu Syr E. Carson yn yr etholiad am fod yn Arglwydd Reithor Prifysgol Edinburgh. ————
I 12 AWR Y DYDD AM 15s YR…
I 12 AWR Y DYDD AM 15s YR j WYTHNOS. I Ymddangosai gwr priod o flaen Ynad Croydon, ddydd Llun, ar gyhuddiad o dwyllo ei gyflogwyr o'r swm o lp 6s 4c. Cyfaddefodd y trosedd, a dywedodd un o'r goruchwyl wyr fod y troseddwr yn wr priod, ac yn casglu arian i'r ffyrm. Caffai gyflog o 15s yr wythnos, a gweit-hiai o 7 y bore hyd 7 yr hwyr. Dywedodd y carcha,ror y gweithiai o 7 hyd 9.30 yr hwyr, a delid swllt pr wythnos o'i gyflog, fel na chai ond 14s, ac yr oedd yr arian a gasglai yn demtasiwn gref iddo. Rhwymwyd ef drosodd yn y swm o 5p. i
Y LLYWODRAETH AG ULSTER.
Y LLYWODRAETH AG ULSTER. Mewn araith yn Rhydychen, ddydd Sadwrn, dywedodd Arglwydd Haldane ns chyhoeddaai y Llywodraeth fanylion y Mesur Gwelliannol ynglyn ag Ymreolaeth, ond byddai i'r Llywodraeth gyflwyno cyn- hygion a ystyrient yn rhesymol ac a gyf- arfyddeait yr anhawster, nid fodd bynnag W y ffafrient y cynllun o adael allan 7 stiroedd yn yr Iwerddon; ac ni cheisieafc i-wystro unrhyw argymhellion gwirion- eddol a diragrith a gyflwynid gan yr Wrthblaid er ceisio setliad-nid o angen- rheidi-wydd setliad tei-fynol, ond setliad ar ba un v gallent geisio gweithredu Ym- reolaeth arno. Yr oedd y Llywodraeth wedi gwneud ei meddwl i fyny, a bwr- iadai gvflawni ei dyledswydd. Yr oedd yn adeg beryglus, a byddai i'r hwn geisiai roddi olew ar y fflamau yn wasanaetbwr gwael i'w wlad.
NODION 0 FFESTINIOG.II-I
gethu flynyddol eglwysi M.C. y Rhiw, Bo- wydd, a Maenofferen. Pregethid gan yr enwogion a ganlyn: Y Parclin S. T. Jones, Oolwyn Bay; J. Knowles Jones, Abergele; Puleston Jones, M.A., Pwllheli John Hughes, M.A., Lerpwl; G. H. Havard, M.A., B.D., Rhyl. Y REBEL. Bydd Stori Newydd gy- ffrous, yn dwyn y penawd "Y REBEL," sef hanes Meurig, bachgen o Gymro hynododd ei hun fel gwrthryfelwr beidd- gar, yn dechreu yr wythnos nesaf. Cofied ein darllenwyr am sicrhau y. pen- odau cyntaf, oherwydd y mae y stori hon yn sicr o fod yn un o'r rhai mwyaf cynhyrfus a rhamantus a ymddangosodd yn yr iaith erioed. I Cyfarfod Llafurawl. Nos Wener di- weddaf, yn y Neuadd Gyhoeddus, cynhal- iwyd cyfarfod cyhoeddus i'r gweithwyr. icaed. a-reithiau campus gan Mr Moffat, vs- grifennydd cyffredinol gweision y rheil- ffyrdd; Mr Rally W illiams, Bala; a Mr Williams, gvnrychiolai Gyngor Llafur Gwrecsam, yr hwn a, annerchai yn yr Wyl Lafur ddiweddaf. Testun yr ymdrafod- aeth ydoedd, "Paham y dylai gweithwyr ymuno a'u gilydd." Yr oedd cynnulliad mawr, a chyfarfod brwdfrydig. Marw.-Ddydd Mawrth diweddaf, ym mynwent Bethesda, claddwyd gweddillion Mr William Lloyd, 129, High Street, yr hwn fu farw wedi hir waeledd, yn yr oed- ran eymharol gynnar o 52 mlwydd oed. Yr oedd yn eithriadol o ddarllengar a gwyb- I edus, ac yn hynod selog clros egwyddorion Llafuriaeth. Drwg gennym gofnodi marwolaeth sydyn Mr Thomas Roberts, Dorfil Street (mab i'r diweddar Mr R. Roberts, goruchwyliwr Chwarel Wrys- gan). Bu farw nos lau, Mai 28, ac yr oedd gyda'i oruchwylion arferol yn ystod y dydd. Yr oedd yn 61 mlwydd oed, ac yn weithiwr caled o blaid dirwest. Cladd- wyd ef ddydd Llun, ym mynwent Bethes- da.